1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd presennol cytundeb Prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ(5)0060(FLG)
Mae cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dangos manteision posibl gweithio ar y cyd ar draws 10 awdurdod lleol. Mae cynnydd yn parhau i fod yn unol â’r amserlenni a brofwyd gan ddinas-ranbarthau mawr eraill tebyg ledled y Deyrnas Unedig. Disgwylir y bydd y trefniadau llywodraethu a sicrwydd angenrheidiol wedi’u cadarnhau erbyn mis Chwefror 2017.
Ar gyfer pobl Islwyn, mae cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd sy’n cynnwys 10 awdurdod lleol, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn newid pethau go iawn. Prif flaenoriaeth y cytundeb yw’r metro de Cymru arfaethedig. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o rwystredigaethau dyddiol fy etholwyr wrth iddynt geisio cymudo i ddinasoedd mawr Caerdydd a Chasnewydd. Ar reilffordd hynod boblogaidd Glynebwy i Gaerdydd, mae cymudwyr wedi gorfod wynebu Trenau Arriva Cymru yn defnyddio trenau 40 mlwydd oed. Mae’r cerbydau’n orlawn, ac nid oes fawr o bosibilrwydd y bydd trenau diesel ychwanegol yn cael eu caffael gan nad oes fawr o drenau diesel anacronistig ar y farchnad. Mae’r problemau diweddar wedi cael eu gwaethygu gan drenau’n cael eu tynnu oddi ar y traciau i wneud gwaith atgyweirio angenrheidiol am fod dail ar lawr wedi niweidio olwynion y trenau. A wnaiff y Gweinidog amlinellu amserlen ar gyfer yr adeg pan fydd cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd, sy’n werth mwy na £1 biliwn dros 20 mlynedd, yn dechrau gweddnewid seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus de Cymru, gan gynnwys gwasanaeth trên uniongyrchol i Gasnewydd ar gyfer fy etholwyr?
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, fod metro de-ddwyrain Cymru yn nodwedd allweddol o’r cytundeb dinas, ac mae’r nod o greu system drafnidiaeth gyhoeddus o’r radd flaenaf ar draws y rhanbarth cyfan yn ganolog iddo, er mwyn sicrhau ein bod yn symud ymlaen am genedlaethau i ddod. Mae’r broses o gaffael gweithredwr a phartner datblygu ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a’r metro eisoes yn mynd rhagddi’n dda. Mae pedwar cynigydd ar y rhestr fer a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Rydym yn disgwyl gallu dyfarnu contract yn 2017, ac yn gweld y gwasanaethau metro yn weithredol o 2023 ymlaen.
Weinidog, yn amlwg, rydym wedi cael datganiad yr hydref heddiw. Rydym yn gwybod bod y cytundeb dinas ar waith. Yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall o ddatganiad yr hydref heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cael £400 miliwn ychwanegol, a bydd yn allweddol, wrth gyfuno’r cytundeb dinas a’r adnoddau ychwanegol a ryddhawyd heddiw, fod cynhyrchiant ardal cytundeb dinas Caerdydd yn cael ei gynyddu, fel ein bod yn cynyddu ffyniant cyffredinol yr ardal honno. A wnewch chi ymrwymo i ddefnyddio’r arian ychwanegol gyda Chaerdydd mewn golwg er mwyn chwyddo cynhyrchiant economi Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos, er mwyn sicrhau cyfleoedd gwaith gwell, ond yn bennaf oll, er mwyn cynyddu cyfoeth yr ardal?
Rwy’n cydnabod y pwyntiau y mae arweinydd y Blaid Geidwadol yn eu gwneud. Roedd y Canghellor yn dal i fod ar ei draed pan ddeuthum i lawr i ateb cwestiynau y prynhawn yma, felly byddaf yn aros i weld manylion terfynol datganiad yr hydref cyn ymrwymo i unrhyw gynlluniau gwariant penodol. Ond mae’r pwynt y mae’n ei wneud ynglŷn â buddsoddi er mwyn symud ein heconomi ymlaen yn un y mae’r Llywodraeth hon, yn sicr ddigon, yn ei rannu.
Mae gwrth-ddweud enfawr rhwng yr hyn a ddywedwch am y dull rhanbarthol a’r realiti, gan fod awdurdodau lleol yn bwrw iddi i gynllunio datblygiadau ymlaen llaw fel pe na bai’r prosiect dinas-ranbarth yn digwydd. Felly, pam rydych yn caniatáu i Gyngor Dinas Caerdydd, sy’n cael ei arwain gan y Blaid Lafur, ddinistrio’r safleoedd maes glas yn eich etholaeth, yn hytrach na’u dosbarthu o amgylch y rhanbarth fel y buasent yn ei wneud gyda’r dull rhanbarthol?
Wel, Ddirprwy Lywydd, mae cyfraniad yr Aelod yn gymysgedd o falais a ffantasi fel arfer. Mae wedi cael ei ateb i’r cwestiwn hwn sawl gwaith ac nid oes gennyf ddim i’w ychwanegu at yr hyn y mae eisoes yn ei wybod.