1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2016.
3. Sut y bydd y polisïau yn rhaglen Llywodraeth Cymru, 'Symud Cymru Ymlaen', yn gwella gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? OAQ(5)0077(EI)
Byddwn yn cyflwyno metro de Cymru ar y cyd â datblygiad masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau, a fydd yn darparu gwelliannau sylweddol i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru. Gall teithwyr ddisgwyl gweld newid sylweddol o ran ansawdd y gwasanaethau rheilffyrdd a ddarperir.
Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae data a ddarparwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn dangos bod teithwyr rheilffyrdd yn Nwyrain De Cymru a de Cymru yn wynebu peth o’r gorlenwi gwaethaf yng Nghymru a Lloegr. Bu’n rhaid i deithwyr ar bron i 40 y cant o’r gwasanaethau trên a gyrhaeddodd Caerdydd yn ystod awr frys y bore yn 2015 sefyll yn ystod y daith. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â gorlenwi ar wasanaethau trên i gymudwyr, ac a wnaiff roi sylwadau ar adroddiadau y gellid trosglwyddo cerbydau dros ben o reilffordd Gatwick i Drenau Arriva Cymru y flwyddyn nesaf?
Gobeithiaf y byddai’r Aelod yn cydnabod nad yw tanariannu hanesyddol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel yr amlinellais i Adam Price, wedi bod o gymorth, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn wir, nid yw’n rhywbeth newydd; yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn waeth yn ystod misoedd y gaeaf gan na wnaed y buddsoddiad lle y dylid ei wneud. O ran yr hyn y gallwn ni fel Llywodraeth—nid ydym yn rheoli’r fasnachfraint eto; daw hynny gyda’r fasnachfraint newydd—ei wneud ar hyn o bryd, nifer cyfyngedig iawn o gerbydau diesel a geir. Mae arnaf ofn na chlywais y manylion ynglŷn â ble y cred yr Aelod y gall fod cerbydau diesel sy’n bodoli eisoes y gellid eu defnyddio, ond yn sicr, os gall roi’r wybodaeth i mi, byddaf yn ystyried hynny. Ychydig iawn o gerbydau diesel sydd ar gael ar hyn o bryd, ond fel y soniais yn gynharach, rydym yn trafod gyda’r diwydiant rheilffyrdd i geisio dod o hyd i atebion a allai ddarparu’r capasiti ychwanegol yn y tymor byr wrth i ni agosáu at y fasnachfraint newydd. Fel rwyf wedi’i ddweud, nid oes amheuaeth fod dail yn disgyn yn yr wythnosau diwethaf wedi effeithio’n andwyol ar gapasiti rhai o reilffyrdd y Cymoedd, gan gynnwys rheilffordd Glyn Ebwy, ac mae hynny’n annerbyniol.
Mae rhaglen Symud Cymru Ymlaen Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir y bydd £50 miliwn yn ychwanegol ar gael i hybu datblygiad system metro gogledd Cymru. Dylid croesawu hyn, ond cyn cyflwyno system metro yng ngogledd-ddwyrain Cymru, credaf fod angen rhoi camau ar waith i sicrhau bod y system bresennol sydd gennym yno yn barod am system metro, fel petai. Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon ac yn y gymuned ynglŷn â’r angen am well cysylltedd yn yr ardal—gwell cysylltedd o ran y gwasanaethau trên ar lwybrau allweddol, nid traffig o’r gogledd i’r de yn unig, ond yn bwysicach, o’r dwyrain i’r gorllewin, gan mai hwnnw yw’r llwybr hollbwysig ar gyfer ein heconomi ranbarthol. Credaf fod angen i ni sicrhau hefyd fod trenau’n cysylltu â’r gwasanaethau bws, fod y bysiau’n stopio mewn gorsafoedd trenau a bod amserlenni bysiau a threnau yn cael eu cydamseru i sicrhau bod pob taith mor effeithlon â phosibl. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch ddweud wrthyf pa gamau sy’n cael eu cymryd yn y tymor byr i allu cyflawni’r uchelgais hirdymor ar gyfer metro gogledd Cymru?
Mae’r Aelod yn hollol iawn fod angen i ni sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn gwbl integredig. Ddoe, amlinellais i Llyr Huws Gruffydd sut rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau gogledd-ddwyrain Cymru yn yr ardal lle y bydd y metro’n dechrau o ran yr ymagwedd sydd angen ei mabwysiadu ers i GHA Coaches fynd i’r wal. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sefydlogi’r rhwydwaith bysiau yn y tymor byr wrth i ni gynllunio’r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Mae £50 miliwn o bunnoedd wedi ei sicrhau ar gyfer datblygu’r metro, ac mae’r gwaith cwmpasu cychwynnol ar gyfer y gwaith wedi canolbwyntio ar gysyniad o ganolfan integredig yn ardal Glannau Dyfrdwy a fyddai’n cwmpasu gwelliannau, fel yr amlinellwyd gan yr Aelod, i reilffyrdd, bysiau, teithio llesol a ffyrdd. Yn ogystal â’r gwaith o ddatblygu metro gogledd Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn croesi’r ffin, rydym wedi ymrwymo i ymgynghori â’r cyhoedd yn y flwyddyn newydd ynglŷn â gwaith uwchraddio sylweddol ar yr A494/A55 i liniaru tagfeydd ar y llwybr hwnnw.
Rydym yn cyfarfod eto, Weinidog y Cabinet. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys cynlluniau ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru, a’r metro yw’r prosiect mwyaf cynhwysfawr ac uchelgeisiol a gynigiwyd erioed gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n sicr y byddai’r Siambr gyfan yn eich canmol am eich gweledigaeth yn hyn o beth, ond a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym pa bryd y bydd y gwaith sylweddol sydd ynghlwm wrth y prosiect hwn—[Torri ar draws.] Mae’n ddrwg gennyf. Rwy’n ymddiheuro; nid ydych yno eto, ond efallai yn y dyfodol, syr. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa bryd y bydd y gwaith sylweddol sydd ynghlwm wrth y prosiect yn dechrau mewn gwirionedd?
Iawn, gwnaf, yn sicr. Mae’n brosiect hynod uchelgeisiol a hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn caredig iawn i mi. Amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd metro de Cymru yn costio dros £700 miliwn ac mae’r amserlenni fel a ganlyn—fe af drwy bob un o’r pwyntiau allweddol. Byddwn yn dyfarnu pwy fydd y gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint a’r metro erbyn diwedd 2017. Byddwn yn dyfarnu’r contractau seilwaith erbyn gwanwyn 2018. Erbyn mis Hydref 2018, bydd y fasnachfraint newydd yn dechrau. Bydd y metro’n cael ei gynllunio yn 2018-19. Bydd y seilwaith yn cael ei gyflawni ar y safle o 2019 a bydd y gwasanaethau’n weithredol o 2023. Fel yr amlinellodd yr Aelod, mae hwn yn brosiect hynod o uchelgeisiol, un y dylem edrych ymlaen ato a bod yn falch ohono a gobeithiaf y gallwn gyflawni’r gwaith o fewn yr holl derfynau amser a’r marcwyr allweddol hynny. Hyd yn hyn, nid ydym wedi methu unrhyw un o derfynau amser allweddol y prosiect hwn.