2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Rhagfyr 2016.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd UKIP, Michelle Brown.
Diolch i chi, Lywydd. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i deuluoedd perchen-feddianwyr sydd mewn perygl o gael eu troi allan o’u cartref gan eu cwmni morgais oherwydd ôl-ddyledion morgais?
Mae gennym lwybrau drwy awdurdodau lleol lle y mae cyfleoedd i siarad â swyddogion atal digartrefedd mewn awdurdodau ledled Cymru. Mae gennym gydnabyddiaeth dda iawn ar ostyngiad o 63 y cant mewn ffigurau digartrefedd yng Nghymru.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fis Tachwedd diwethaf, amcangyfrifodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan fod 240 o bobl ledled Cymru yn cysgu allan yn ystod un wythnos ym mis Tachwedd 2015. Er mai amcangyfrif ydyw, bydd llawer o bobl yn cysgu ar y stryd y Nadolig hwn, a hynny’n aml heb fod unrhyw fai arnynt hwy. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem hon a helpu pobl sy’n cysgu allan i ddianc rhag eu sefyllfa erchyll?
Rwy’n cytuno â’r Aelod yn yr ystyr na ddylai neb fod yn ddigartref ar unrhyw adeg, yn enwedig adeg y Nadolig. Mae’n sefyllfa ofnadwy i’w hystyried. Ond rydym yn buddsoddi mewn darpariaeth ar gyfer y digartref drwy sefydliadau megis Llamau. Rydym yn buddsoddi yn ein cymunedau—mewn awdurdodau lleol—ond mae yna bobl sy’n ddigartref o hyd ac rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau darpariaeth i gefnogi’r bobl sydd yn y sefyllfa hon.
Diolch. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yr un mor bryderus â minnau ynghylch lles cyn-filwyr ein lluoedd arfog. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i roi blaenoriaeth i sicrhau tai i gyn-filwyr digartref? Os nad yw, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwneud hynny?
Yr wythnos diwethaf, cyflwynasom lwybr tai newydd ar gyfer cyn-filwyr wedi’i greu a’i gynllunio gyda chyn-filwyr yn rhan o’r broses. Lansiais y llwybr hwnnw yn etholaeth Lesley Griffiths yn Wrecsam, ac mae’n un poblogaidd iawn. Roeddwn yng nghwmni aelodau’r lluoedd arfog yr wythnos diwethaf, gyda’r cadfridog yng Nghymru, ac roedd yn ganmoliaethus iawn am yr ymdrechion rydym yn eu gwneud yma i gefnogi’r lluoedd arfog, gan gynnwys grŵp cynghori’r lluoedd arfog a’r grŵp trawsbleidiol a gadeirir gan Darren Millar yn y Siambr.
Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Jenkins.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai y byddwch yn gwybod fy mod wedi cyfarfod â chryn dipyn o deuluoedd sy’n ceisio lloches yn ddiweddar yn Abertawe mewn perthynas â’r amodau erchyll y mae llawer ohonynt yn eu hwynebu o ran darpariaeth y Swyddfa Gartref drwy gwmni Clearsprings Ready Homes. Roeddwn yn meddwl tybed a fuasech yn gallu hwyluso sgwrs gyda’r Swyddfa Gartref ynglŷn â’r amodau ofnadwy hyn, er gwaethaf y ffaith fod llawer o landlordiaid preifat yng Nghymru wedi cysylltu â mi yn dweud eu bod yn prydlesu eu cartrefi i’r Swyddfa Gartref i Clearsprings eu defnyddio fel tai ar gyfer ceiswyr lloches. Felly, er nad yw’n benderfyniad uniongyrchol i chi ei wneud fel Gweinidog tai yma, o bosibl, y canlyniad anochel yw bod gennym gyfrifoldebau yn y maes hwn, a hoffwn i chi gyflwyno sylwadau i ddangos difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru erbyn hyn.
Rwy’n gefnogol i gwestiwn yr Aelod. Rwy’n credu y dylai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion ynglŷn â hynny. Er bod hon yn swyddogaeth heb ei datganoli, rwy’n credu ei bod yn iawn i grybwyll ein bod yn wynebu canlyniadau pobl sy’n agored i niwed. Rwy’n credu bod hwnnw’n fater rwy’n awyddus iawn i geisio’i ddatrys gyda’r Aelod.
Yn dilyn hynny, tybed a fuasech yn fodlon, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfarfod â rhai o’r ceiswyr lloches a’r ffoaduriaid yn yr ardal fel y gallant ddweud wrthych yn uniongyrchol beth yw’r pryderon hynny, oherwydd mae llawer ohonynt yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Mae yna fythau, wrth gwrs, am y ffaith eu bod yn cymryd cartrefi oddi wrth bobl Cymru. Nid yw hynny’n hollol wir—nid ydynt ar unrhyw restr y buasai unrhyw berson arall yma yng Nghymru arni o ran tai cymdeithasol. Maent yn ei chael yn anodd iawn gwneud cwynion, ac maent wedi dweud wrthyf eu bod wedi dioddef hiliaeth gan staff Clearsprings wrth iddynt ailwampio eu cartrefi. Felly, a fuasech yn barod i wneud hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gallwch glywed am y problemau hynny drosoch eich hunain?
Yn sicr, os byddaf yn gallu eu cyfarfod, fe wnaf hynny. Os na fyddaf yn gallu, byddaf yn sicr yn anfon aelod o staff i gefnogi eich cymorth yn eu cyfarfod.
Diolch yn fawr iawn. Ar fater hollol wahanol, rwy’n gwybod y byddwch yn ymwybodol ein bod wedi cael tywydd oer iawn yn ddiweddar, ond wrth gwrs, mae wedi bod ychydig yn fwynach—nid fy mod yn ddynes y tywydd yn sydyn iawn. Roedd yna—[Torri ar draws.] O, mae’n ddiwrnod olaf y tymor.
Ar lefel ddifrifol, cafwyd adroddiadau newyddion yn ddiweddar am ddyn yn rhewi i farwolaeth yn Birmingham, ac yn awr mae fy swyddfa wedi cael gwybod nad yw un awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru wedi darparu unrhyw lety brys ar gyfer pobl sy’n cysgu allan yn ei ardal uniongyrchol. Er nad yw’r protocol argyfwng tywydd garw yn orfodol i awdurdodau lleol yma, mae cod ymarfer eich Llywodraeth yn datgan y dylai pob cyngor fod â chynllun tywydd oer ysgrifenedig sy’n cynnwys eu trefniadau i helpu’r rhai sy’n cysgu allan yn ystod cyfnodau o dywydd oer a garw.
Rydym wedi edrych, fel swyddfa, ar fwy o’r cynlluniau ledled Cymru. Mae gan rai awdurdodau lleol gynlluniau da, ond dywedodd rhai eraill wrthym fod trafodaethau’n parhau ynglŷn â’r hyn y dylai’r cynlluniau hynny fod. A ydych yn credu ei bod yn dderbyniol nad yw rhai awdurdodau lleol wedi cael y trafodaethau hynny gyda phartneriaid eto? Beth fyddwch chi’n ei wneud i wneud yn siŵr fod gan yr holl awdurdodau lleol hynny gynlluniau ar waith fel nad ydym yn wynebu sefyllfaoedd lle y mae pobl yn marw ar ein strydoedd y gaeaf hwn?
Fe edrychaf ar hynny’n fanylach—fe siaradaf â’m cyd-Aelodau yn y Cabinet yn ogystal. Rwy’n credu bod hwn yn fater moesol—gan roi gwleidyddiaeth unrhyw awdurdod lleol o’r neilltu, rydym yn sôn am fodau dynol yma mewn gwirionedd. Dylai unrhyw un sy’n mynd yn ddigartref—buasai’n ddychrynllyd, ac weithiau rwy’n meddwl y gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Y ffaith yw y dylem sicrhau ein bod yn gofalu am bobl yn drugarog. Byddaf yn edrych ar y manylion y mae’r Aelod yn eu cyflwyno, a byddaf yn gofyn i fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet edrych ar hynny yn eu portffolios eu hunain hefyd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Roedd brîff cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Sefydliad Bevan ym mis Gorffennaf 2016 ar dlodi yn dweud bod ffigurau diweddaraf arolwg yr Adran Gwaith a Phensiynau o aelwydydd o dan yr incwm cyfartalog yn dangos bod aelwydydd incwm isel yn parhau i fod yn broblem sylweddol yng Nghymru, gyda mwy nag un o bob pump o bobl yn byw ar incwm aelwydydd sy’n is na 60 y cant o’r canolrif, a’r plant hynny sy’n wynebu’r perygl mwyaf o dlodi, er bod y grŵp mwyaf o bobl ar incwm isel yn oedolion o oedran gweithio. Ac roeddent yn ychwanegu nad yw’r tueddiadau tymor hwy a’r tueddiadau mwy diweddar o ran tlodi wedi cael llawer o effaith ar sefyllfa Cymru o’i chymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU, gyda Chymru’n parhau i fod ag un o’r cyfraddau uchaf o dlodi yn y DU ar gyfer pob grŵp oedran. Pam hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
Dyna pam ein bod yn cyflwyno 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran. Dyna pam ein bod yn parhau gyda rhaglen Cymunedau am Waith. Dyna pam ein bod yn parhau â’r rhaglen Esgyn. Dyna pam ein bod yn awyddus i ymgysylltu â’n cymunedau i adeiladu cymunedau gwell a chryfach. Roeddwn yn glir iawn ynglŷn â fy ymdeimlad o gyfeiriad ddoe. Buaswn yn croesawu sylwadau’r Aelod o ran gwneud yn fawr o’r cyfleoedd sydd gennym yma yng Nghymru, gydag effaith ystyfnig iawn tlodi. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd. Ni all Llywodraethau ddatrys tlodi. Mae’n rhaid i ni gydweithredu ar hyn, ynglŷn â sut rydym yn gwneud hyn, a dyna pam fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn un bwysig, lle y mae gan ein holl bartneriaid yn y sector cyhoeddus ran i’w chwarae yn hyn.
Felly, nid ydych yn mynd i ddweud wrthym pam. A gaf fi awgrymu eich bod chi a’ch cyd-Aelodau wedi bod yn cyflwyno rhaglenni cyflogadwyedd a datblygiad economaidd yng Nghymru ers 1999, a dyna yw’r sefyllfa erbyn hyn? Eich adran chi, rwy’n credu, sy’n gyfrifol am raglen Esgyn, fel rhan o’ch cynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi, gan ddarparu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ar aelwydydd lle nad oes neb yn gweithio. Ac rwy’n credu eich bod hefyd yn gyfrifol am raglen Cymunedau am Waith, gan ganolbwyntio ar y cymunedau mwyaf difreintiedig, sy’n amlwg yn rhan o’ch portffolio. Ac rydych hefyd yn ymestyn y ddwy raglen o 2018 i 2020. Pa gamau diwydrwydd dyladwy a wnaethoch? Rwy’n deall bod Llywodraeth Cymru wedi methu neu wedi bod yn amharod i ryddhau data’r canlyniadau o’r rhaglenni hynny, a deellir, mewn cyferbyniad i hynny, fod darparwyr Rhaglen Waith Llywodraeth y DU yng Nghymru, wedi gallu cyflawni pump i 10 gwaith y gwerth am arian, gan ddarparu swydd ar gost gyfartalog o £3,000, ond deellir bod y swyddi o dan eich cynlluniau chi’n costio degau o filoedd o bunnoedd o bosibl.
Dau bwynt. Yn gyntaf oll, rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am awgrymu ymateb i fy nghwestiwn yn gynharach. Ond a gaf fi ei atgoffa mai ei Lywodraeth ef, a oedd mewn grym yn yr wythdegau, a chwalodd Gymru’n llwyr, gyda’r gyfradd uchaf o ddiweithdra erioed yn y DU? Ac roedd ei ffrind ar y fainc flaen yn y fan acw, yn UKIP, yn rhan o’r Llywodraeth ar y pryd hefyd, felly ni all ef ysgwyd ei ben chwaith. Mae’r ail bwynt sy’n ymwneud â Cymunedau am Waith a rhaglen Esgyn yn un pwysig. Nid wyf wedi osgoi’r ffaith na fyddwn yn rhyddhau ffigurau; rwy’n fwy na pharod i edrych arnynt yn y flwyddyn newydd a rhoi’r manylion hynny i’r Cynulliad. Mae hyn yn ymwneud â chael pobl sydd ar y pen caletaf yn ôl i’r gweithle—nid yw’n garfan hawdd o bobl i ymdrin â hwy, ond rydym yn llwyddo a dylem ddathlu llwyddiant. Rhowch y gorau i ddifrïo Cymru.
Rwyf wedi cael gwybod o ffynhonnell ddibynadwy nad yw pobl wedi gallu cael gafael ar y data priodol er eu bod wedi gofyn amdano, felly byddai’n dda pe baech yn gallu darparu’r data hwnnw. A pheidiwch â sôn wrthyf fi am yr 1980au. Rwy’n gwybod sut beth yw cael eich tad yn dod adref a dweud wrthych fod y cwmni gweithgynhyrchu y mae’n gweithio iddo wedi cau a’i fod yn ddi-waith. Digwyddodd hynny ym 1978 oherwydd y chwalfa economaidd a grëwyd gan y Blaid Lafur. [Torri ar draws.] Do, fe wnaeth, ac rwyf wedi byw’r bywyd hwnnw, felly peidiwch â rhoi darlith i mi.
Yn olaf, y sefyllfa yng Nghymru yn ôl y ffigurau diweddaraf yw bod gennym gyfraddau anweithgarwch economaidd uwch na’r lefelau yn Lloegr, yr Alban a’r DU. Mae gennym y ganran uchaf ond un o bobl mewn gwaith sy’n byw o dan y cyflog byw. Mae gennym y lefelau uchaf o dangyflogaeth yn y DU, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan Ymddiriedolaeth Carnegie UK. Mae gennym y ganran uchaf o weithwyr nad ydynt ar gontractau parhaol, a’r gyfran uchaf ond un o gyflogeion ar gontractau dim oriau, eto ar ôl 17 a hanner mlynedd o Lywodraeth Lafur yng Nghymru. Pam hynny, Ysgrifennydd y Cabinet?
Rwy’n ddiolchgar iawn am y dôn hynod o ymosodol yng nghwestiynau’r Aelod. Rwyf hefyd yn cofio yr adegau drwy’r 1980au pan oedd yr Aelod yn gweithio yn y gymdeithas adeiladu leol, yn cymryd y sieciau diswyddo gan y gweithwyr dur a gafodd eu gwneud yn ddi-waith gan Lywodraeth y DU ar y pryd—cyfnod anodd iawn, a chymuned a oedd wedi torri ar y pryd. Felly, unwaith eto, wrth ddarlithio am yr hyn a ddigwyddodd yn ein cymunedau, gallwch ofyn i lawer o’r Aelodau ar y meinciau hyn beth ddigwyddodd i’w cymunedau o dan y weinyddiaeth Geidwadol.
A gaf fi ddweud na ellir ailadeiladu cymunedau, fel y dywedais yn gynharach, drwy wasgu botwm? Mae’n rhaid i chi weithio ar hyn, ac rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn. Ac mae llefydd fel Sir y Fflint, a gafodd ei dinistrio â’r rhybudd diswyddo uchaf a roddwyd erioed yn Ewrop mewn un diwrnod gan Lywodraeth y DU, bellach wedi cael ei thrawsnewid i fod ag un o’r lefelau diweithdra isaf. Ac nid yw hynny wedi digwydd drwy hap a damwain—gwaith awdurdod Llafur ydyw, gyda gweinyddiaeth Lafur yma. Felly, nid wyf am wrando ar unrhyw ddarlithoedd gan yr Aelod gyferbyn; mae angen iddo edrych ar realiti’r sefyllfa.