1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Ionawr 2017.
7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â Llywodraeth y DU i wella gwasanaethau rheilffordd presennol de-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0397(FM)
Rydym ni mewn trafodaethau rheolaidd â Llywodraeth y DU ar y materion hyn oherwydd y trefniadau presennol ar gyfer rheoli masnachfraint Cymru a'r gororau, ac, wrth gwrs, rydym ni’n arwain y broses o gaffael y fasnachfraint nesaf, a fydd yn gwella gwasanaethau.
Diolch. Heno ar raglen 'Week In Week Out' BBC Wales, mae Nick Servini yn mynd y tu ôl i’r llenni yn Nhrenau Arriva Cymru wrth iddo ymchwilio i'r gorlenwi gwaethaf ar drenau cymudwyr ers blynyddoedd. Mae fy etholwyr yn Islwyn yn codi mater gorlenwi ar Drenau Arriva Cymru gyda mi yn barhaus, ond mae pwyslais Trenau Arriva Cymru wedi gwneud elw o £133.88 miliwn mewn difidendau i’w riant gwmni ers cymryd drosodd masnachfraint y DU i redeg gwasanaethau trenau Cymru a'r gororau. Roedd ganddo hefyd £70 miliwn yn y banc ar yr adeg y ffeiliodd ei gyfrifon diwethaf ac, fel y dywedwyd wrth arweinydd Plaid Cymru, mae’r fasnachfraint bresennol yn dod i ben ym mis Hydref 2018, sy’n 20 mis poenus i ffwrdd. Mae fy etholwyr yn ofni y byddant yn cael eu dal eto mewn gorsafoedd rheilffordd yn Nhrecelyn, Crosskeys, Rhisga a Phontymister yn ystod pencampwriaeth y chwe gwlad, gan fod y gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chaerdydd eisoes dan ei sang. A, gan fod cymaint o oedi o ran trydaneiddio gan Lywodraeth y DU, a gaf i ofyn bod y Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud ei gwaith a gweithredu, ac i Lywodraeth y DU alw ar Drenau Arriva Cymru i ddod o hyd i ateb dros dro cyn i’r fasnachfraint newydd gael ei dyfarnu? Ac a wnaiff ef amlinellu pa ymchwiliadau sydd wedi eu cynnal i allu Arriva i logi cerbydau rheilffordd cyfoes a allai gael eu tynnu gan injians diesel hŷn?
Yr anhawster sydd gennym ni yw ein bod ni’n gweithio gydag Arriva, mae hynny'n wir, ond, o ran bod gennym ysgogwyr—wel, na, ni fyddant yn cyrraedd tan y flwyddyn nesaf. Mae pam na ddatganolwyd hyn o'r blaen yn gwestiwn da, ond o leiaf bydd y cyfle hwn gennym ni o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Gwn yn y gorffennol bod Arriva wedi cael gafael ar locomotifau i dynnu trenau sy’n cael eu tynnu gan locomotif. Gwnaethant hynny yng nghwm Rhymni am nifer o flynyddoedd ac roedd y trenau hynny’n boblogaidd, a dweud y gwir, gyda chymudwyr. Nid oes unrhyw reswm yn fy marn i pam na allent geisio gwneud hynny eto. Ond yr hyn y mae fy nghydweithiwr yr Aelod dros Islwyn wedi ei amlinellu’n daclus yw'r sefyllfa gwbl hurt lle’r ydym ni’n talu cymhorthdal i weithredwyr rheilffyrdd i ddarparu gwasanaeth israddol tra eu bod nhw’n gwneud elw enfawr. Dyma, mae'n debyg, oedd rhyfeddod preifateiddio yn ôl ar ddechrau’r 1990au. Fy marn i yw y dylem ni fod yn yr un sefyllfa â’r Albanwyr, lle gallwn edrych ar gael asiantaeth sector cyhoeddus, dielw yn rhedeg y llinellau rheilffordd er budd pobl Cymru, ac nid trwy dalu cymhorthdal er mwyn talu cyfranddalwyr.
Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wedi dweud yn ddiweddar bod angen brys am drenau newydd ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod teithwyr wedi hen flino ar drenau hen a chyfyng, gyda rhai cerbydau a ddefnyddir dros 40 mlwydd oed. Mae rhai locomotifau yn dal i redeg ar ôl eu dyddiadau terfyn. Gan fod masnachfraint Cymru a'r gororau ar fin cael ei hadnewyddu, Brif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael o ran darparu trenau modern i wella gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn y de-ddwyrain, a addawyd ers amser maith iawn erbyn hyn?
Mae'r rhain i gyd yn rhan o drafodaethau’r fasnachfraint. Rydym ni eisoes, wrth gwrs, wedi cyflwyno yn gyhoeddus iawn ein cynllun ar gyfer metro, a fydd yn arwain at welliant i amseroedd teithio ac, yn wir, i gyfleusterau a cherbydau, cyn belled ag y mae teithwyr yn y cwestiwn. Am y tro cyntaf, pobl Cymru fydd yn gallu penderfynu sut mae eu gwasanaethau trenau nhw—nid InterCity, ond sut mae eu gwasanaethau trenau nhw yn edrych mewn gwirionedd. Roedd gennym ni’r sefyllfa ryfedd ar un adeg pan ddywedwyd y byddai masnachfraint Cymru a'r gororau yn cynnwys trenau a fyddai’n dechrau a gorffen eu teithiau yng Nghymru yn unig, a fyddai'n golygu, i bob pwrpas, rheilffordd Dyffryn Conwy a dim byd arall i'r gogledd o Ferthyr. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos bod y sefyllfa braidd yn rhyfedd honno wedi cael ei dileu gan Lywodraeth y DU, ond rydym ni’n benderfynol o ddarparu lefel lawer gwell o wasanaeth, nid yn unig i’n pobl ein hunain, ond i'r bobl hynny sy'n byw ar yr ochr arall i'r ffin, ond sy'n defnyddio trenau o fasnachfraint Cymru a'r gororau.
Datganaf fuddiant gan fod fy chwaer yn gweithio i Network Rail. Brif Weinidog, rwyf wedi cael gohebiaeth gan bobl sy’n teimlo'n rhwystredig am gysylltiadau cludiant cyhoeddus annigonol ym Mlaenau Gwent yn ystod y nos. Ar hyn o bryd, mae trên olaf Caerdydd yn stopio yn Llanhiledd, heb unrhyw gysylltiadau cludiant cyhoeddus i fynd ymhellach i fyny'r cwm, gan adael tacsis fel yr unig ddewis, os oes un o'r rheini ar gael. Felly, a all ef roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynlluniau i agor gorsaf newydd yn Abertyleri? Ond yn bwysig, pa gamau a pha ymyraethau y ydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, a gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu cysylltiadau bws priodol cyn cyflwyno metro newydd?
Rwy’n teimlo bod yr Aelod wedi gwneud ei hun yn ffynhonnell, neu’n dderbynnydd, yn hytrach, yr holl gwynion sy'n gysylltiedig â’r rheilffyrdd yn y Cynulliad o ganlyniad i’w ddatganiad, ond mae'n gwneud pwynt pwysig. Mae Abertyleri, wrth gwrs, wedi ei gynnwys yn y cynlluniau metro fel ardal ehangu. Defnyddiwyd y cledrau rheilffordd ddiwethaf pan oedd pwll glo Rose Heyworth yn dal ar agor tua 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn, bron. Ond mae'n gymuned y mae angen ei chysylltu. Lle nad oes unrhyw reilffyrdd trwm presennol, yna ffefrir rheilffyrdd ysgafn yn amlwg; mae'n haws eu hymestyn ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cymunedau a gollodd eu cysylltiadau rheilffordd rai blynyddoedd yn ôl yn eu hadennill yn rhan o'r cynlluniau metro.