– Senedd Cymru am 2:17 pm ar 24 Ionawr 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rwy’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, mae gennyf nifer o newidiadau i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwneud datganiad am ddyfarniad y Goruchaf Lys y bore yma ar erthygl 50, ac ar ôl hynny bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad am ‘Sicrhau Dyfodol Cymru' a'r newid o’r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd gydag Ewrop. Er mwyn darparu ar gyfer hyn, rwyf wedi gohirio'r ddadl ar yr adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb tan yr wythnos nesaf, a’r datganiad llafar ar gymunedau mwy diogel tan 7 Chwefror. Dangosir y busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y cyhoeddiad datganiad busnes, sydd i’w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i alw am ddau ddatganiad os gwelwch yn dda? Mae’r cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol mewn cysylltiad â’r defnydd o ymgynghorwyr gan y gwasanaeth iechyd gwladol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol, dros y penwythnos, bod pryderon wedi’u mynegi yn y cyfryngau ynglŷn â gwariant o dros £1.5 miliwn gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y tair blynedd diwethaf. Wrth gwrs, mae cyfnod mawr o'r amser hwnnw wedi cael ei dreulio mewn mesurau arbennig ac o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Mewn gwirionedd, roedd hwn yn fater y codwyd pryderon yn ei gylch gan yr archwilydd cyffredinol yn ystod asesiad strwythurol yn 2015, lle cafwyd argymhelliad i leihau ei orddibyniaeth ar ymgynghorwyr allanol, na chyflawnwyd arno, mae’n ymddangos. Rwy'n credu bod trethdalwyr yn y gogledd, ac yn wir mewn mannau eraill ar draws y wlad lle mae ymgynghorwyr allanol yn cael eu defnyddio, eisiau gwybod pa werth y mae hynny yn ei ychwanegu at y gwasanaeth iechyd gwladol.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cabinet priodol ynglŷn â gamblo sy’n achosi problem? Byddwch yn gwybod fy mod i wedi bod yn pryderu, ynghyd ag Aelodau eraill o'r Siambr hon, am broblem gamblo a chyffredinrwydd gamblo yng Nghymru. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Beat the Odds, a drefnwyd gan Stafell Fyw Caerdydd, sy'n annog pobl i gael mis Chwefror heb fetio er mwyn ymdrin â phryderon am broblemau gamblo , ac atal y llanw? A gaf i gofnodi cymaint yr wyf yn cytuno â Jo Stevens, am newid, yn y cyfraniadau y mae hi wedi bod yn eu gwneud yn y Senedd yr wythnos hon am yr angen i ddatganoli pwerau pellach dros gamblo i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn fel y gallwn ymdrin â'r mater hwn yn y dyfodol?
Wel, Darren Millar, wrth gwrs, er mwyn cyflawni yn erbyn y pwysau, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn ein gwasanaethau iechyd, yna, ar adegau, mae’n rhaid i fyrddau iechyd wneud defnydd o ymgynghorwyr i sicrhau ein bod yn ymateb ac yn darparu'r gwasanaeth gorau i'n cleifion.
O ran eich ail bwynt, ydym, rydym i gyd yn croesawu mentrau fel yr un y tynnodd Jo Stevens ein sylw ati yn ei hetholaeth yng Nghanol Caerdydd. Ond, wrth gwrs, mae gamblo sy’n achosi problem yn fater cymdeithasol difrifol y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb amdano, o fewn y pwerau a’r cylch gwaith sydd gennym, yn enwedig o ran cefnogi’r mentrau hynny sy'n gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sy’n mynd i'r afael â'r angen hwnnw.
Mae dau fater yr hoffwn eu codi gydag arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ymyrryd pan fydd asedau a thirnodau cymunedol lleol mewn perygl? Yn fy rhanbarth i, mae'r sinema eiconig Neuadd y Farchnad ym Mrynmawr wedi bod ar gau ers mis Tachwedd oherwydd problemau asbestos, ac mae pryder cynyddol yn y gymuned nad cau dros dro fydd hyn. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i weld pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymyrryd i ddiogelu ac amddiffyn asedau cymunedol.
A gawn ni hefyd ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ar yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â phrisiau tocynnau bws annheg? Mae llawer o bryder am bris tocynnau trên a chwyddiant pris tocynnau trên, ond tynnwyd fy sylw bod tocyn bws wythnosol ym Merthyr yn costio £10 ac mae'r tocyn cyfatebol a gyhoeddwyd gan yr un cwmni yng Nglyn Ebwy yn £25. Ymddengys hyn i fod yn anghysondeb anghyfiawn, ac rwy'n credu ei fod yn haeddu datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi y Cynulliad hwn.
Rwy’n meddwl, Steffan Lewis, bod eich pwynt am y bygythiad i—wel, yn wir, fe gafodd ei gau, yn anffodus—yr ased cymunedol, y sinema yn eich rhanbarth chi, yn bwysig iawn. O ran perchnogaeth y sinema, dydw i ddim yn ymwybodol—rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, bydd yr awdurdod lleol, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o hyn. Mae hwn yn rhywbeth sy’n fwy anodd, os yw yn y sector preifat, ond mae'n amlwg ei fod yn ased cymunedol sy'n bwysig iawn i'ch etholwyr chi.
O ran eich ail bwynt, rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith wedi cynnal yr uwchgynhadledd bysiau cyntaf erioed ddoe. Rwy'n siŵr y cyflwynwyd llawer o'r materion hyn o ran tocynnau, yn enwedig y gwahaniaethau a’r cyferbyniadau yr ydych yn eu nodi o ran lefelau prisiau. Wrth gwrs, bydd lle mae gennym, a lle y bydd gennym, fwy o bŵer mewn cysylltiad â hyn a rheoliad yn bwysig iawn.
Rydym yn cael dadleuon yn y Siambr hon ar iechyd yn rheolaidd. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth gynnal dadl neu ddatganiad am yr effaith y caiff ffordd o fyw ar iechyd a sut i wella canlyniadau iechyd drwy ddewisiadau ffordd o fyw, hyrwyddo pethau fel bwyta'n iach, rhoi'r gorau i ysmygu ac ymarfer corff, yn enwedig yn rhai o'n cymunedau tlotaf.
Rwy'n credu ein bod wedi cael llawer o ddadleuon defnyddiol yn ddiweddar, Mike Hedges, yn arbennig yn edrych ar, fel y dywedwch—. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn edrych arno ar draws iechyd meddwl, gordewdra, a gweithgaredd corfforol. Rwy'n credu bod adroddiad y prif swyddog meddygol yn bwysig iawn. Mae’n rhaid i fyw yn iach fod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru. Rydych chi bob amser wedi tynnu ein sylw at hyn yn nhermau bod eisiau gwasanaeth iechyd, nid gwasanaeth salwch, o ran diffyg cyfle i atal afiechyd. Ond rydym yn gweithio fwyfwy mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws y Llywodraeth ar y materion hyn, ac mae'n ymwneud â newid canlyniadau iechyd.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer Casnewydd, os gwelwch yn dda? Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyllideb Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn cynnydd tila o 0.1 y cant mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben yn ddiweddar. Mynegwyd pryderon wrthyf am effaith y toriadau arfaethedig mewn gwariant, yn enwedig ar addysg a gwasanaethau plant. Mae'r cynigion yn cynnwys tynnu cyllid yn ôl oddi wrth ganolfannau cymorth yn wyth ysgol uwchradd Casnewydd, torri swyddi yn nhîm y cyngor sy’n cefnogi plant a theuluoedd sy'n agored i niwed a thoriadau i gyllid disgyblion a bwysolwyd ar sail oedran. A gaf i ofyn am ddatganiad ynghylch pam mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cael bargen mor wael gan Lywodraeth Cymru, os gwelwch yn dda? Diolch.
Wel, wrth gwrs, dwi'n siŵr y byddech yn ymuno â mi, Mohammad Asghar, wrth ddilorni polisïau gwrth gyni parhaus Llywodraeth y DU, sy’n arwain at benderfyniadau cyllidebol anodd, anodd y mae'n rhaid inni eu gwneud. Wrth gwrs, mae hynny'n cael effaith ar ein hawdurdodau lleol hefyd. Rydych yn tynnu sylw at rai o effeithiau hynny a'r anawsterau o ran blaenoriaethau. Gwn y byddwch hefyd yn cydnabod, o ran ein dyraniad i awdurdodau lleol eleni, y gefnogaeth yr ydym yn ei rhoi, a hefyd bwysigrwydd, er enghraifft, yr arian yr ydym yn ei ddarparu i dreialu clybiau cinio a hwyl, sydd, wrth gwrs, yn mynd i fod yn bwysig iawn o ran cyfoethogi gwyliau ysgol ein plant a phobl ifanc.
Rwy’n gwybod bod arweinydd y tŷ a'r holl Aelodau yn ymwybodol mai dydd Gwener yw Diwrnod Cofio'r Holocost, pan fyddwn yn cydnabod pawb a gafodd eu lladd neu a ddioddefodd yng ngwersyll garcharau’r Natsïaidd. Sipsiwn Romani oedd yr ail grŵp mwyaf o bobl a laddwyd ar sail hil yn yr Holocost, ac fe gafodd eu marwolaethau eu hanwybyddu i raddau helaeth tan yr 1980au. Felly, ddydd Iau—diwrnod pan mae’r Aelodau yma yn y Cynulliad—mae’r grŵp trawsbleidiol Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn trefnu gwylnos ar risiau'r Senedd i gofio pawb a ddioddefodd yn yr Holocost. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn annog yr Aelodau i fynychu'r wylnos hon ac annog Ysgrifenyddion Cabinet y Llywodraeth a Gweinidogion i ddod draw hefyd? Yn y dyfodol, efallai y byddai'n bosibl cael datganiad o gwmpas amser Diwrnod Cofio'r Holocost?
Diolch i Julie Morgan am dynnu ein sylw at hyn y prynhawn yma ar draws y Siambr gyfan. Rwy'n siŵr y bydd cefnogaeth, fel yr oedd y llynedd, pan wnaethoch drefnu'r digwyddiad hwn—gwylnos gofio deimladwy a phwysig iawn—ar risiau'r Senedd, a'r ffaith ei fod yn talu teyrnged arbennig i ddioddefwyr Sipsiwn a Roma yr Holocost. Rwy'n credu bod y grŵp penodol hwnnw yn cael ei anghofio yn aml pan fydd y digwyddiadau tywyll hyn yn cael eu cofio. Yn yr wylnos Holocost benodol hon, byddwn yn eu cofio nhw. Rwy'n credu hefyd—cwrddais â llawer yn llofnodi llyfr coffa’r Holocost y daeth Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost ag ef i'r Senedd. Rwy'n credu y bydd ar gael yno eto yfory. Yn sicr mae wedi bod ar gael i ni i gyd ei lofnodi heddiw. Mae delweddau pwerus iawn, unwaith eto—a’r gwaith y mae pobl ifanc wedi ei wneud yn y maes hwn. Rwy'n gwybod y bydd pobl ifanc hefyd yn ymuno â ni yn y wylnos ddydd Iau. Byddwn hefyd yn gobeithio wedyn y gallem gyflwyno datganiad neu ddadl y flwyddyn nesaf i wneud yn siŵr ein bod yn cofio hyn gyda'n gilydd. Rydyn ni i gyd yn awyddus i sefyll gyda'n gilydd i gofio'r rhai a wynebodd yr erledigaeth fwyaf erchyll hon. Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn rhoi’r cyfle hwnnw inni.
Rwy’n sylweddoli ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig ar NSA Afan yn fy rhanbarth i. Ond hoffwn ofyn am ddatganiad llafar ar sut yn union y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ei hymchwiliad i honiadau o anghysonderau ariannol yn NSA Afan. Ni roddwyd yr un honiad sylweddol iddynt, yn ôl NSA Afan a'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthyf. Gadewch i mi ei gwneud yn gwbl glir nad ydw i'n dymuno trafod manylion yr ymchwiliad hwn, ond yn hytrach y ffordd y cafodd ei gynnal. Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru archwilio’r cyrff hynny sy'n derbyn Cymunedau yn Gyntaf, ac fe wnaeth hyn gyda NSA Afan yn ystod blynyddoedd yr achosion o ddwyn a honnir bellach yn erbyn y cyn swyddog ariannol. Bob tro, rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth i NSA Afan. Felly, os yw’r broses archwilio honno wedi’i chynnal, ac os na chafodd materion llywodraethu eu hamlinellu mor ddifrifol ag y gwneir yn awr, rwy’n ceisio deall sut y gall Llywodraeth Cymru gynnal ymchwiliad i’w hun yn effeithiol pan mae llawer o bobl a allai fod yn adran y Gweinidog yn cynnal yr ymchwiliadau hynny—a byddent wedi bod yn rhan o’r trefniadau ariannol gyda NSA Afan. Rwyf hefyd yn bryderus o glywed bod sicrwydd ysgrifenedig o gyllid ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn ystod mis Rhagfyr wedi ei wneud gan y cyfarwyddwr cymunedau a threchu tlodi, a ysgrifennodd, ac rwy’n dyfynnu:
Rydym yn awyddus i nodi nad yw’n effeithio ar y berthynas gytundebol rhyngom ni.
Diwedd y dyfyniad. Fodd bynnag, pan gyfarfu NSA Afan gyda'ch swyddogion ddoe, dywedwyd wrthynt na fyddai hyn yn cael ei anrhydeddu ac mae hyn yn gadael y sefydliad nawr mewn sefyllfa lle na all dalu cyflogau, meddan nhw wrthyf.
Hoffwn i gael datganiad llafar yma yn y Siambr gan fy mod yn credu bod hyn yn cyfiawnhau datganiad llafar o ystyried y problemau a gafodd rhai cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol. Dydyn ni ddim eisiau cael problem bosibl arall yn y maes hwn pan fydd y Gweinidog yn gogwyddo tuag at roi'r gorau i Cymunedau yn Gyntaf, ac rwy’n credu y byddai'n synhwyrol i'r Llywodraeth gael y sgwrs honno yn agored.
Wel, rwy’n meddwl y byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fel y dywedoch, o’r datganiad ysgrifenedig y cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant y prynhawn yma o ran terfynu cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan, a hefyd y datganiad ysgrifenedig ar y camau a gymerwyd i ddiogelu darpariaeth gwasanaethau, yr ydych yn ei godi. Wrth gwrs, Bethan Jenkins, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ateb eich cwestiwn brys yr wythnos diwethaf.
Rwy'n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i ddod yn ôl ac egluro canlyniad hyn. Ond, fel yr ydych yn ymwybodol, mae trafodaethau parhaus, nid yn unig gyda'r awdurdod lleol ar ddiogelu gwasanaethau ond hefyd drafodaethau gyda'r heddlu. Felly, ar hyn o bryd, ni ellir dweud mwy na’r hyn sydd yn y datganiad ysgrifenedig a mwy na’r ateb i'ch cwestiwn yr wythnos diwethaf. Ond bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bendant yn sicrhau y gellir rhannu canlyniad hwn yn llawn pan fo'n briodol.
A gaf i ofyn a ellir dod o hyd i amser ar gyfer ddatganiad am unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU ar nifer yr eiddo sy'n cael eu heithrio o yswiriant rhag llifogydd yng Nghymru, ar ôl symud i'r cytundeb Flood Re gydag yswirwyr? Rwy’n gofyn hyn oherwydd yn dilyn y gorlif sydyn yn ddiweddar yn Ogwr, dechreuais sylweddoli bod eiddo o fewn 200m i afon yn aml yn cael eu heithrio o yswiriant rhag llifogydd. Gallwch gael yswiriant tŷ, yswiriant cynnwys ond dim yswiriant sy’n ymwneud â llifogydd, hyd yn oed os yw’r afon yn bell i ffwrdd oddi wrthych—200m—. Os yw’n 199m, neu os yw'n 50m oddi tanoch a heb achosi llifogydd erioed, gallwch ddal i gael eich eithrio.
Y rheswm yr wyf yn gofyn hyn oedd bod ein huned ymchwil ragorol yma yn y Cynulliad—comisiynais nhw i gael gwybod faint o eiddo yn fy etholaeth i oedd o fewn 200m—wedi triongli hwn o dair ffynhonnell oedd ar gael i'r cyhoedd. Allan o gyfanswm o 33,880 o gartrefi yn fy etholaeth i, mae’r nifer anhygoel o 21,158 o fewn 200m i afon. Mae hyn yn swnio fel esgus rhyfeddol ar gyfer dyfodol y diwydiant yswiriant, sy'n hysbysebu ar y safle Flood Re fel, a dyfynnaf, ‘premiymau a thaliadau dros ben fforddiadwy’ i bawb. Wel, yn sicr, yn ogystal â datganiad dylem o bosibl fod yn gofyn i Paul Lewis o 'Money Box' y BBC neu Martin Lewis o MoneySavingExpert.com i ymchwilio i weld a yw’r diwydiant yswiriant yn rhoi gwerth am arian i'n hetholwyr.
Diolch i'r Aelod am dynnu hynny i'n sylw'r prynhawn yma yn y datganiad busnes. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ffwrdd. Rydych chi, wrth gwrs, wedi codi hyn gyda hi ac mae hi'n ymwybodol o'r achos a hefyd wedi ysgrifennu at Gymdeithas Yswirwyr Prydain a Chymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain. Mae'n anghydfod preifat, yn amlwg, ar y cam hwn rhwng perchennog y tŷ ac yswiriwr perchennog y tŷ, ond rwy’n meddwl bod yr ombwdsmon, yn ôl a ddeallaf, wedi cael ei hysbysu.
Rydych yn tynnu sylw at hyn ac rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn glir iawn o ran yswiriant rhag llifogydd. Dylai fod ar gael i'r holl berchnogion tai, ni waeth pa mor agos y maent yn byw at afon, ac mae’r system cymhorthdal Flood Re yn galluogi cartrefi risg uchel—ac mae llawer ohonom yn cynrychioli etholwyr a chymunedau yn y categori hwnnw—i gael yswiriant ar bremiymau fforddiadwy mewn achosion o'r fath, ac mewn gwirionedd mae'n gweithredu gyda dros 90 y cant o'r farchnad gan ei gynnig ar gyfer cartrefi sydd mewn perygl uchel o lifogydd. Ond mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cael y neges drosodd i'r diwydiant yswiriant ac i'r rhai sy'n cael eu heffeithio na ddylai byw o fewn 200m i afon eich atal rhag sicrhau yswiriant rhag llifogydd. Mae angen i ni gymryd sylw o'r digwyddiad a'r achos yr ydych wedi ei godi heddiw.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n falch o fod yn aelod o blaid a sefydliad sydd wedi arwain y ffordd ar bwysigrwydd cynrychiolaeth menywod mewn bywyd gwleidyddol. Ond fel ym mhob achos, gallwn bob amser wneud mwy, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i wneud felly, i sicrhau bod lleisiau dros hanner y boblogaeth nid yn unig yn cael eu clywed, ond yn cael eu cynrychioli yn weithredol ac yn llawn yn ein democratiaeth. Felly, a gaf i ofyn a ellir rhoi amser ar gyfer dadl i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ei hun, ar ddydd Mercher, 8 Mawrth?
Hannah Blythyn, diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Mae'r ffaith ein bod—. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rwy’n credu, o ran diwrnod y Llywodraeth—. Wel, dydd Mercher yw'r wythfed, ynte, ac mae diwrnod y Llywodraeth ar y seithfed? Yn sicr, byddai’r Llywodraeth Cymru hon yn awyddus i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac rwy’n diolch i Hannah Blythyn am godi hynny heddiw, fel Cadeirydd ein grŵp Llafur yn y Cynulliad.
Diolch i’r Gweinidog.