– Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl Plaid Cymru ac rwy’n galw ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6240 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pa mor bwysig i unigolion a busnesau pob cymuned yng Nghymru yw cyngor ariannol a gwasanaethau bancio sy’n hawdd cael gafael arnynt.
2. Yn gresynu bod canghennau banciau a chymdeithasau adeiladu yn cau mewn cymunedau ledled Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
i) archwilio pob opsiwn ar frys er mwyn diwallu anghenion ariannol unigolion a busnesau yng Nghymru; a
ii) archwilio’r camau deddfwriaethol a rheoleiddiol angenrheidiol i sefydlu modelau amgen o ddarparu gwasanaethau bancio, gan gynnwys Banc Pobl Cymru tebyg i’r banciau cynilo lleol.
Diolch, Lywydd. Mae bancio yng Nghymru ers i ni golli’r olaf o’r banciau a oedd mewn perchnogaeth leol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif wedi bod yr hyn sy’n cyfateb yn ariannol i economi ffatrïoedd cangen, a nodweddir gan ganghennau lleol o gwmnïau mawr sy’n eiddo i gyfranddalwyr gyda phencadlys yn Ninas Llundain. Mae Cymru wedi dioddef, yn hynny o beth, yn sgil y system fancio fwyaf canolog a dwys yn unman yn y byd diwydiannol yn ôl pob tebyg, gyda chyfran o’r farchnad y pump mawr dros 85 y cant, rwy’n credu.
Rydym yn awr yn cychwyn ar gyfnod newydd sy’n peri pryder yn yr hanes hwnnw o oruchafiaeth, lle y mae hyd yn oed canghennau o’r economi ffatrïoedd cangen honno’n cael eu cau, a rhannau helaeth o’n gwlad—cymunedau gwledig, cymunedau tlawd, heb fod yn ddigon proffidiol i gyflawni’r math o enillion y mae banciau modern yn eu ceisio—mewn perygl o droi’n anialwch ariannol, heb unrhyw fath o wasanaeth bancio cynhwysfawr. Mewn gwirionedd mae Cymru yn cael ei tharo’n waeth na’r rhan fwyaf o’r DU, ac yn ôl UBS, mwy na thebyg ein bod yn wynebu colli 50 y cant arall o’n rhwydwaith o ganghennau sy’n weddill dros y degawd nesaf. Mae’r banciau wedi cyflwyno hyn fel rhan o symudiad naturiol tuag at fancio ar-lein yn unig—yr hyn sy’n cyfateb yn ariannol i brosesau sydd ar waith mewn rhannau eraill o’r economi. Ac mae elfen o wirionedd yn hyn, ond mae hefyd wedi’i orliwio gan fanciau sy’n ceisio cynyddu elw drwy dorri costau sy’n gysylltiedig â darparu bancio perthynas, sy’n galw am ddarpariaeth gyffredinol a gwasanaethau wyneb yn wyneb. A’r prawf o hynny yw bod canghennau’n cau yn llawer cyflymach na’r dirywiad yng ngweithgarwch canghennau.
Ac wrth gwrs, mae’n mynd yn groes i’r hyn y mae pobl yn ei ddweud. Canfu ymchwil ar ran yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn 2015 fod 63 y cant o gwsmeriaid cyfrifon cyfredol yn teimlo bod cael cangen leol gyfleus naill ai’n hanfodol neu’n bwysig iawn, a’i fod yn codi i 76 y cant ymhlith rhai sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Ymhell o fod yn ddim ond ymateb i newidiadau yn y farchnad, mae banciau mewn gwirionedd yn dewis cau banciau mewn ardaloedd tlotach gan eu cadw—mewn gwirionedd maent hyd yn oed yn agor canghennau newydd—mewn ardaloedd mwy cefnog, yn enwedig yn Llundain. Maent yn gwneud hyn waeth beth fydd effaith cau cangen ar bobl heb fanc, pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, yr henoed, yr anabl, pobl ar incwm isel a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig. Ac mae’r effaith ar fusnes mewn cymunedau heb fanc yn arbennig o ddifrifol. Mae ymchwil gan Move Your Money, y grŵp ymgyrchu, gan ddefnyddio data benthyca Cymdeithas Bancwyr Prydain, yn dangos bod cau canghennau banc yn lleihau twf benthyca i fusnesau bach a chanolig o 63 y cant, ar gyfartaledd, mewn ardaloedd cod post sy’n colli cangen o fanc. Mae’r ffigur hwnnw’n codi i 104 y cant mewn ardaloedd cod post sy’n colli eu banc olaf yn y dref. Ar gyfartaledd, mae ardaloedd cod post sy’n colli eu banc olaf yn y dref yn cael £1.6 miliwn y flwyddyn yn llai mewn benthyciadau dros gyfnod o flwyddyn.
Yn anffodus, nid yw banciau’n ystyried lles y cyhoedd na’r effaith y bydd cau yn ei chael wrth wneud y penderfyniadau hyn. Mae’r rhain yn gyhoeddiadau cau a bennwyd ymlaen llaw, nid oes unrhyw ymgynghori, a dyna pam yr ystyriwn fod y protocol mynediad at fancio y cyfeirir ato yn un o welliannau’r Ceidwadwyr yn gwbl annigonol. Rydym yn dadlau bod y model bancio presennol yn y wlad hon, sy’n seiliedig ar gystadleuaeth dybiedig rhwng y pum banc mwyaf, wedi torri. Mae’r hyn a elwir yn fanciau heriol yn targedu ardaloedd sydd eisoes yn gefnog, neu yn achos banciau digidol yn unig, cwsmeriaid iau, nid yr ardaloedd lle na cheir gwasanaeth digonol. Y bobl dlotaf sy’n fwyaf tebygol o fod heb fynediad at wasanaethau banc, mae busnesau bach yn cael eu hesgeuluso, ac mae benthyg, fel y gwyddom, yn canolbwyntio’n anghymesur ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr.
Mae sefydliadau eraill yn bodoli—mae rhai’n rhan o’r rhwydwaith cyllid cyfrifol y cyfeirir ato yng ngwelliant y Ceidwadwyr—ond maent yn ei chael hi’n anodd cystadlu mewn system a sefydlwyd er budd y banciau mawr. Yr hyn sydd ei angen arnom yn ein barn ni yw system fancio sy’n fwy amrywiol. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd eraill economi gymysg mewn bancio, sy’n darparu mwy o sefydlogrwydd ac atebolrwydd cyhoeddus. Mae arnom angen i fynediad at gyllid ar gyfer grwpiau nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol gael ei gydnabod fel mater lles y cyhoedd, a dyna pam ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd rhan fwy gweithredol yn darparu’r gwasanaeth sylfaenol a hanfodol hwn.
Mae’r Llywodraeth eisoes yn derbyn yr egwyddor o ymyrraeth uniongyrchol o ganlyniad i fethiant y farchnad mewn gwasanaethau ariannol. Dyna wedi’r cyfan oedd y rhesymeg wrth wraidd creu Cyllid Cymru yn ôl yn 2002, a dyna yw’r rhesymeg o hyd dros greu’r banc datblygu newydd. Wrth gwrs, bydd y banc datblygu yn dwyn yr enw ‘banc’, ond ni fwriedir iddo fod ar hyn o bryd yn sefydliad sy’n cymryd adneuon. Mae’n defnyddio cronfeydd cylchol neu fythwyrdd i ddarparu cyfalaf dyled neu ecwiti hirdymor, gan drosoli drwy bartneru gyda chyllidwyr eraill yn hytrach na defnyddio offeryn bancio wrth gefn ffracsiynol i greu credyd yn y ffordd y mae banciau’n ei wneud yn draddodiadol. Dyna pam y credaf fod angen i ni greu banc cyhoeddus i Gymru, fel y gallwn ddefnyddio’r offeryn trosoledd hwnnw a darparu’r cyfalaf ar lefel uwch yn fwy cyfartal ar draws ein cymunedau.
Mae tri model posibl y gellid eu dilyn: byddai un yn golygu bod y banc datblygu’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ariannol presennol i ddarparu mynediad at wasanaethau, o bosibl drwy rwydwaith o gyfleusterau ‘banc olaf yn y dref’ a rennir. Dyna’r math o drefniant neu bartneriaeth sydd gan y Bank of North Dakota, y sonnir amdano’n aml, banc sy’n eiddo cyhoeddus, gyda banciau yn y sector preifat yn ei dalaith. Wedi dweud hynny, mae llawer o’r sefydliadau y mae’r Bank of North Dakota yn cydweithio â hwy’n fanciau cymunedol eu hunain, sy’n rhan bwysig iawn o’r hyn sy’n cyfateb yn yr Unol Daleithiau i’r economi gymysg mewn bancio, a hyd yn hyn ychydig iawn o frwdfrydedd y mae banciau yn y DU wedi’i ddangos tuag at y model hwn o ganghennau niwtral a rennir a gafodd ei hyrwyddo ers amser maith gan yr Ymgyrch dros Wasanaethau Bancio Cymunedol.
Ail opsiwn fuasai i’r banc datblygu helpu i ddarparu cyfalaf ar gyfer rhwydwaith o fanciau cynilo lleol ar y cyd ag awdurdodau lleol, yn debyg i fodel sparkassen yn yr Almaen, er enghraifft, neu’r banciau cantonol yn y Swistir. Gallai’r banc datblygu cenedlaethol ddarparu gwasanaethau a rennir o ran y swyddfa gefn i’r rhwydwaith hwn o fanciau cynilo lleol. Dyma’r model a hyrwyddir gan y Community Savings Bank Association, sydd eisoes yn cael ei dreialu yn Hampshire gyda chymorth y sefydliad sparkassen rhyngwladol.
Trydydd opsiwn yw partneru gydag un o’r ychydig sefydliadau ariannol llwyddiannus sydd gennym yng Nghymru sy’n dal mewn perchnogaeth leol, y Principality. Roedd yn dda iawn eu gweld yn cyhoeddi canlyniadau ariannol ardderchog heddiw. Yr opsiwn yno yw eu helpu i ddatblygu hyd yn oed ymhellach i fod yn fanc clirio dan berchnogaeth gydfuddiannol.
Rydym yn gwbl agored ynglŷn â’r modd, ond mae’r nod o sicrhau banc i bobl Cymru yn un a ddylai ein huno i gyd yn y Siambr hon. Nawr fod mwy a mwy o’r banciau presennol yn troi eu cefnau ar ein pobl, mae’n bryd creu banc ar gyfer y bobl yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Fe ildiaf.
Clywais yr hyn a ddywedoch, ond a allwch gadarnhau eich bod yn dymuno i’r Principality, beth bynnag sy’n digwydd, aros dan berchnogaeth gydfuddiannol, nid troi’n debyg i’r math o fanc a ddigwyddodd o’r blaen, gyda’r rhan fwyaf ohonynt—pob un ohonynt, yn wir—wedi mynd i drafferthion ariannol?
O, yn hollol, ac mae Mike Hedges yn nodi pwynt pwysig iawn, wrth gwrs. Cawsom agweddau, oni chawsom, ar economi gymysg mewn bancio yn y degawdau a fu? Cyn y polisi trychinebus ar ddatgydfuddiannu, a gafodd wared ar ein cymdeithasau adeiladu llwyddiannus i raddau helaeth—mae rhai o’r rheini ar ôl, wrth gwrs, ac maent yn llwyddiannus iawn yn wir, ac mae rhai ohonynt hefyd yn agor canghennau, ac nid o reidrwydd ar lonydd deiliog Llundain yn unig, o bosibl—cawsom hefyd y banciau cynilo, oni chawsom? Roeddent yn rhwydwaith ac yn unedig o dan faner y Trustee Savings Bank, ac eto cafodd hwnnw ei breifateiddio’n drychinebus ac yn anffodus mae’r olaf bellach wedi cau.
Gallai Cymru, fel Catalonia, adeiladu sefydliad ariannol pwerus at ddibenion y cyhoedd fel La Caixa, sydd wedi tyfu o’i wreiddiau fel banc cynilo a anelwyd at y dosbarth gweithiol yn Barcelona i’r hyn ydyw heddiw, un o’r banciau mwyaf llwyddiannus yng Nghatalonia, sy’n darparu €500 miliwn y flwyddyn i’w elusen gysylltiedig, gan ei gwneud yn drydedd elusen fwyaf y byd i gyd. Dyna beth y gallai rhoi arian y bobl ym manc y bobl ei gyflawni dros Gymru pe bai gennym ddewrder a dychymyg o’r fath.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Rwy’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt.
Gwelliant 1—Jane Hutt
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo cynhwysiant ariannol, gan gynnwys cymorth ar gyfer gwasanaethau cynghori ac undebau credyd, a’r uchelgeisiau a ddisgrifir yn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol 2016 ar gyfer system ariannol yng Nghymru sy’n gynhwysfawr ac yn gweithio’n dda.
Yn cydnabod yr angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio â phartneriaid er mwyn gwella mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy a gwybodaeth ar gyfer unigolion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion.
Yn cydnabod yr angen i wella gallu ariannol yng Nghymru ac yn nodi’r gwaith sy’n mynd rhagddo er mwyn sefydlu Banc Datblygu Cymru a’i uned wybodaeth a fydd yn targedu’n well wasanaethau a chyngor ariannol ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Cynigiwyd yn ffurfiol.
Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies—Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Mae cael cangen leol hygyrch yn bwysig i bobl hŷn, pobl heb drafnidiaeth neu fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr, busnesau bach ac eraill. Yn wahanol i’r ffyliaid a gafodd eu caniatáu i ddryllio ein system fancio, rwy’n fanciwr cymwysedig, a arferai weithio yn y sector cymdeithasau adeiladu, cydfuddiannol, ac sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cau canghennau yn y ddau sector.
Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2013 ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau canghennau yn Llangollen, Conwy a Biwmares, tynnais sylw at bryderon a fynegwyd gan etholwyr ynglŷn â’r effaith y byddai hyn yn ei chael arnynt, ar fusnesau yn eu trefi, ar eu cymunedau, ac ar y miloedd o dwristiaid sy’n ymweld â’u hardal.
Mae’r gangen a serennai mewn hysbyseb deledu NatWest yn addo cadw pob cangen ar agor os mai honno oedd yr olaf yn y gymuned bellach wedi cau. Flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd Barclays gynlluniau i gau eu cangen ym Mwcle, Sir y Fflint, gan symud cyfrifon i’r Wyddgrug, taith gron o chwe milltir. Hwn oedd y trydydd banc mewn chwe mis i gyhoeddi ei fod yn cau yn y dref. Yn dilyn cyhoeddiad HSBC eu bod yn cau cangen yn y Waun a Rhiwabon, nododd cwsmeriaid fod yna giwiau’n aml yn y ddwy gangen a gofyn, ‘Onid yw HSBC yn ystyried effaith ganlyniadol cau ar yr ardaloedd a’r busnesau cyfagos yn ogystal â’r ddwy dref eu hunain?’
Ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau eu canghennau yn Ewloe a Chaergwrle y llynedd, ysgrifennais atynt a chyfarfod â hwy eto, ac er bod HSBC unwaith eto’n beio cynnydd mewn bancio dros y ffôn a bancio ar y we, pwysleisiais fod pryderon wedi’u lleisio unwaith eto gan etholwyr ynghylch yr effaith y byddai hyn yn ei chael arnynt hwy a’u cymunedau.
Pwysleisiais hefyd, do, y protocol mynediad at fancio a ddaeth i rym ym mis Mai 2015 i helpu i leihau effaith cau canghennau banc ar gwsmeriaid a chymunedau lleol, yn galw am asesiad cyn cau o effaith unrhyw fwriadau i gau ar y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, amlinelliad o ymgynghoriad a gofynion ymgysylltu â’r gymuned, a sicrhau darpariaeth barhaus o ffyrdd eraill o fancio.
Yn eu hymateb, roeddent yn dweud eu bod wedi glynu at y protocol, yn trafod atebion eraill gyda chwsmeriaid, a bod penderfyniadau i gau wedi dilyn astudiaeth lawn o weithgarwch cwsmeriaid ym mhob cangen, defnydd cynyddol cwsmeriaid o fancio digidol, ac agosrwydd y swyddfa bost agosaf lle y gall eu cwsmeriaid gael mynediad at eu gwasanaethau.
Cefais ymateb tebyg gan NatWest ar ôl iddynt gyhoeddi eu bod yn cau cangen Treffynnon, ymateb a oedd hefyd yn nodi y byddent yn cyflwyno cangen symudol bob dydd Mercher. Yn gynharach y mis hwn, soniais wrth y Prif Weinidog yma am gynlluniau pellach HSBC i gau canghennau yn Nhreffynnon, Caergybi a Llanrwst, a bwriadau Cymdeithas Adeiladu Yorkshire i gau canghennau yn Abergele, Prestatyn a Llangefni. Mae’r ffaith fod hyn hefyd yn effeithio ar gymdeithasau adeiladu cydfuddiannol, fodd bynnag, yn pwysleisio bod hyn yn ymwneud ag ystyriaethau ehangach nag elw preifat.
Mae ein gwelliant 2 yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y model bancio cymunedol dielw a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance, gan weithio gydag undebau credyd lle na all undebau credyd wneud hynny, gan godi cyfalaf o fentrau cymdeithasol eraill, busnesau, awdurdodau lleol a chynghorau tref, a darparu cyllid a chymorth i bobl, busnesau, a mentrau cymdeithasol nad ydynt yn gallu cael cyllid gan fanciau’r stryd fawr.
Maent yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, i ddatblygu model banc cyhoeddus, ond ar hyn o bryd nid ydynt yn derbyn unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Maent yn pryderu y gallai banc datblygu Llywodraeth Cymru gystadlu â hwy yn y pen draw ar gost uwch pan fo achos busnes cryf dros weld Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo gyda chronfeydd cyfyngedig iawn. Maent yn nodi y byddai £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn galluogi gwerth £3 miliwn o fenthyciadau, ac y gallent ddarparu swyddi am £4,000 a fyddai’n costio £35,000 yr un i fodel Llywodraeth Cymru. Felly, gadewch i ni beidio ag ailddyfeisio’r olwyn: gadewch i ni ddewis y model sydd eisoes yn datblygu yn y trydydd sector yng Nghymru.
Mae ein gwelliant 3 yn croesawu’r ‘Access to Banking Protocol—One Year on Review’ annibynnol gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016. Mae ei argymhellion yn cynnwys gwneud asesiadau o effaith cau cangen yn fwy penodol a phersonol i’r ardal ac ymgysylltiad cynnar y banc â chwsmeriaid.
Mae ein gwelliant 4 yn croesawu cytundeb partneriaeth newydd Swyddfa’r Post gyda banciau’r DU sy’n dod â threfniadau presennol Swyddfa’r Post gyda banciau unigol at ei gilydd ar ffurf un set o wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid bron bob banc yn y DU. Bydd y gwasanaeth hwn sydd wedi’i symleiddio yn caniatáu i gwsmeriaid personol a busnes dynnu arian allan, adneuo arian parod a sieciau, a gwneud ymholiadau balans mewn canghennau o Swyddfa’r Post, ond yn allweddol hefyd bydd yn helpu presenoldeb swyddfeydd post ar y stryd fawr—neu helpu i ddiogelu presenoldeb swyddfeydd post ar y stryd fawr, rhywbeth y mae pobl yma wedi galw amdano’n fynych. Felly, rwy’n eich annog i gefnogi ein gwelliannau, er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi unrhyw gynnig terfynol y penderfynwn arno er mwyn cyfleu neges gref a chyson.
Mi ddechreuaf i drwy gyfeirio at yr hyn yr oedd Adam yn sôn amdano fe yn ei araith agoriadol, ynglŷn â’r ffaith fod y banciau mwyaf yn dueddol o gau banciau mewn niferoedd anghymesur yn yr ardaloedd tlotaf sydd gennym ni—yr ardaloedd â’r incwm isaf—tra, wrth gwrs, yn agor canghennau yn rhai o’r ardaloedd cyfoethocaf. Mae ymchwil gan Reuters yn dangos bod mwy na 90 y cant o’r banciau a wnaeth gau rhwng Ebrill 2015 ac Ebrill 2016 wedi cau mewn ardaloedd oedd â’r incwm aelwyd ‘median’ o dan gyfartaledd y Deyrnas Unedig, tra, ar yr un pryd, yn yr un cyfnod, roedd pump o’r wyth cangen a agorodd wedi agor yn Llundain, wrth gwrs, yn Chelsea, Canary Wharf, St Paul’s, ac yn y blaen, yn yr ardaloedd cyfoethocaf. Yn wir, mae’r banciau mawr deirgwaith yn fwy tebygol o gau banciau yng Nghymru nag yn ne-ddwyrain Lloegr, os ŷch chi’n edrych ar faint y boblogaeth. Felly, mae’n hwyr bryd inni fod yn edrych ar drefniadau amgen a dulliau i ymateb yn bositif i’r sefyllfa yma. Mae rhywun yn cael yr argraff fod yna rhyw fath o ‘stampede’ ar hyn o bryd ymhlith y banciau i beidio â bod y banc olaf i gau mewn tref yn rhywle, oherwydd eu bod yn gwybod gymaint anoddach fydd hi i wneud hynny yn y pen draw.
Rŷm ni i gyd, wrth gwrs, wedi clywed y banciau yn dweud—mi glywais i am sefyllfa yng Nghorwen gwpwl o flynyddoedd yn ôl—’O, peidiwch â phoeni, fe gewch chi fynd â’ch gwasanaethau i Langollen, ychydig filltiroedd i lawr yr heol.’ Y flwyddyn wedyn, roedd Llangollen wedi’i gau—wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy nag ymwybodol; mae yn ei etholaeth e. Mae Llangollen yn cau, mae sôn am Riwabon a’r Waun, wrth gwrs—erbyn hyn, Wrecsam. Mae’r un peth wedi digwydd ym Metws-y-Coed: cau Betws-y-Coed—’Ewch i Lanrwst’. Mae Llanrwst nawr yn cau, felly mae’n rhaid ichi fynd i Landudno. Mae’r gwasanaethau yn mynd yn bellach ac yn bellach i ffwrdd, ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn dderbyniol. Mae’n debyg, ar ôl i HSBC Llanrwst gau—ac nid ydym ni wedi rhoi lan eto, ond pan fydd e’n cau, os yw’r banc yn cael ei ffordd—bydd yna dros 2,000 o filltiroedd sgwâr o fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru heb gangen neu fanc. Y diffeithwch yma roedd Adam Price yn sôn amdano fe o safbwynt gwasanaethau bancio: taith o 50 milltir, yn ei chyfanrwydd, i gael mynediad at wasanaethau banc.
Ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, mai pobl hŷn sydd fwyaf dibynnol, yn aml iawn, ar ganghennau. A’r rheini yw’r rhai sydd hefyd yn fwyaf dibynnol, yn amlach na pheidio, ar drafnidiaeth gyhoeddus, sydd yn ei hunan yn creu pob math o drafferthion, a’r rhai, wrth gwrs, sydd lleiaf tebygol o fod yn defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn. Ac rŷm ni’n gwybod am ansawdd y gwasanaethau hynny mewn rhai ardaloedd yng Nghymru—ymhlith y gwaethaf ym Mhrydain. Ac rydw i yn teimlo y dylai fod ein bod ni’n gofyn i rai o’r banciau yma, ‘Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â mynnu bod pobl nawr yn cael mynediad i’ch gwasanaethau chi ar-lein neu ar ffonau symudol, oni ddylech chi fod yn creu cronfa a chyfrannu i sicrhau bod yr isadeiledd yna yn ei le er mwyn i’ch cwsmeriaid gael mynediad i’ch gwasanaethau chi?’ Mae Cyngor Tref Llanrwst, er enghraifft, wedi galw ar HSBC i ohirio cau’r gangen tan fod pob un o’u cwsmeriaid yn yr ardal honno yn gallu cael mynediad o’u cartrefi i’r we ac i signal ffôn symudol.
Nawr, wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed hefyd am yr effaith ar fusnesau bach, ac mae’n effaith sylweddol. Mi gaewyd cangen HSBC yng Ngherrigydrudion—dim banc ar ôl. Rydw i’n gwybod nawr am o leiaf un busnes sy’n gorfod cau am hanner diwrnod er mwyn mynd i’r banc, i fancio’r pres a dod yn ôl, ac yn y blaen, ac mae hynny yn ofid. Nid yw gwasanaethau i fusnesau, wrth gwrs, yn aml ar gael nawr mewn nifer o’r canghennau yma. Os ŷch chi eisiau siarad ag ymgynghorwr busnes yn y gogledd, mae’n rhaid ichi fynd i Landudno neu i Fangor, ac mae’r banciau’n cwyno bod y ‘footfall’ yn disgyn yn y canghennau—wel nid oes rhyfedd pan fydden nhw eu hunain yn canoli rhai o’r gwasanaethau yma.
Ac mae’r canghennau yma, mae’n rhaid inni beidio ag anghofio, yn dal i greu elw. Nid ydyn nhw’n rhedeg ar golled—jest, mae’n amlwg, nad ydyn nhw’n creu digon o elw i nifer o’r banciau yma. Mi glywom ni, wrth gwrs, am effaith cau canghennau ar fenthyg i fanciau hefyd. Ac mae banciau yn fwy na sefydliadau ariannol hefyd, wrth gwrs. Maen nhw’n rhan o isadeiledd cymuned, maen nhw’n gonglfeini ar ein stryd fawr ac maen nhw’n adeiladau eiconig ar y stryd fawr yn aml iawn: adeiladau hanesyddol, hynafol, a phan fo’r rheini’n cael eu gadael yn wag, wel, mae’r stryd fawr yn edrych yn fwy di-raen, ac yn aml iawn maen nhw yn fwy amlwg hefyd fel adeiladau pan fydden nhw’n mynd a’u pen iddyn nhw. Yn rhywle fel Rhuthun, lle mae NatWest wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau, mae NatWest, wrth gwrs, yn adeilad yr hen lys ar sgwâr y dref, yr adeilad mwyaf eiconig yn y dref—adeilad a godwyd yn y bymthegfed ganrif yn y blynyddoedd ar ôl i Owain Glyndŵr losgi’r dref i lawr. Rŷch chi’n dal i weld olion y grocbren a ddefnyddiwyd ddiwethaf yn 1679 yno. Ac felly pa fath o staen fydd hynny ar y stryd fawr yn rhywle fel Rhuthun os ydy’r adeilad yna yn mynd i gyflwr efallai lle mae’n wag ac nad yw’n cael ei ddefnyddio?
Mae yna alwadau wedi bod, wrth gwrs, i greu dyletswydd i drosglwyddo rhai o’r adeiladau pwysig yma i ddefnydd cyhoeddus, efallai am rent isel ac yn y blaen. Mae yna lawer iawn mwy rydw i’n teimlo y gallwn ni fod yn ei wneud. Yr hyn sy’n bwysig yw ei bod i fyny i ni i greu dyfodol amgen pan fo’n dod i fancio. Mi fyddai banc cyhoeddus i Gymru yn sicr yn rhan o’r ateb ond rydw i’n meddwl bod yna lawer mwy y gallwn ni ei wneud i roi pwysau ar y banciau hefyd i fod yn cyfrannu mewn ffyrdd eraill i sicrhau nad yw’r ffaith eu bod nhw’n gadael rhai o’r cymunedau yma yn gadael problemau ar eu hôl.
Yn fras, mae UKIP yn cefnogi’r cynnig ac yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Er ein bod yn cydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan yr undebau credyd a dymuniad Plaid Cymru i weld y cylch gwaith yn ehangu, nid ydym yn rhy siŵr ynglŷn â’r dyhead i gael banc pobl Cymru, sy’n swnio’n llawer rhy debyg i sefydliad yng Ngogledd Korea. Ond rydym yn cydnabod y byddai’n ddymunol cael dewis yn lle monopoli’r banciau masnachol, yn enwedig, fel y dywedwyd o’r blaen, gan eu bod yn diflannu ar raddfa frawychus o’r stryd fawr. Y gobaith yw y bydd undebau credyd yn chwarae rôl gynyddol yn llenwi’r bwlch mewn benthyciadau i’r cyhoedd yn gyffredinol ac yn cymryd lle benthyciadau diwrnod cyflog, sy’n ysbeilio’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Rydym hefyd yn cydnabod y bwlch ariannol sy’n bodoli rhwng y cyfleusterau credyd a gynigir gan fanciau masnachol a’r rhai y mae busnesau eu hangen, yn enwedig yn sector risg uwch busnesau sy’n cychwyn, microfusnesau, a busnesau bach a chanolig. Rydym yn cydnabod ymdrechion Llywodraeth Cymru yn sefydlu sefydliadau megis Cyllid Cymru er mwyn ceisio pontio’r bwlch hwn, ond yn teimlo bod yn rhaid i Gymru symud ymlaen bellach at fodel bancio sy’n haws i’w adnabod. Mae’n wir fod banc datblygu Cymru yn gam i’r cyfeiriad hwn, ond mae ei enw’n awgrymu sefydliad sy’n ymwneud â phrosiectau economaidd ar raddfa fawr yn hytrach nag un sy’n bodoli er mwyn rhoi benthyg i unigolion a’r sector busnes fel y nodwyd yn gynharach. Mewn geiriau eraill, dylai cylch gwaith y banc fod yn eglur yn ei enw ac felly, efallai nad oedd banc pobl Cymru yn awgrym mor ddrwg wedi’r cyfan. [Chwerthin.] Mae hefyd yn hanfodol nad yw’r gwasanaethau—[Torri ar draws.] Mae hefyd yn hanfodol nad yw’r gwasanaethau y mae’r banc yn eu cynnig yn dameidiog. Mae angen iddo fod yn siop un stop a fydd yn darparu ar gyfer pob rhan o’r sector busnes, er ar wahanol lefelau o ymgysylltu. Mae cadw holl weithrediadau a bandiau benthyca o dan yr un to yn osgoi dryswch ynglŷn â’r benthyciwr perthnasol i’r rhai sy’n chwilio am gyllid. Rhaid i’r cais am gyllid fod mor syml a didrafferth â phosibl. Mae’r model presennol o asiantaethau lluosog yn ddryslyd i ddarpar ymgeiswyr ac mae hyn yn aml yn eu hatal rhag ymgysylltu.
Mae’n wir fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o fentrau nad oedd yn perfformio fel y rhagwelwyd. Ond fel rhywun a dreuliodd 40 mlynedd yn y sector busnes preifat, gwn fod risg ym mhob menter fusnes. Buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i beidio â chael ei digalonni gan yr anawsterau anochel hyn, yn enwedig gan eu bod yn aml yn benthyca i’r sector risg uchel. Cyllid parod yw’r cynhwysyn mwyaf hanfodol yn ein hymdrechion i ehangu economi Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru fod ar flaen y gad gyda’r ddarpariaeth hon. Byddwn yn cefnogi’r cynnig. Diolch.
Mae wedi dod yn amlwg bod yna batrwm yn datblygu, ac mae sawl Aelod wedi cyfeirio ato yn barod—y patrwm yma o ganoli mewn nifer o ‘hubs’ ardal, ac mae beth sy’n digwydd ar Ynys Môn yn esiampl wych o hyn. Ar Ynys Môn, ac eithrio Ynys Gybi am eiliad, yn dilyn cyhoeddiadau diweddar, dim ond yn Llangefni fydd yna unrhyw fanc llawn-amser ar agor o gwbl. Mae Barclays rhan-amser yn Amlwch, ond mae Caergybi, fel prif ardal boblog Ynys Môn, hefyd wedi clywed yn ddiweddar ei bod hi’n colli ei HSBC. Felly, mae yna batrwm yn datblygu yma. Y cyhoeddiadau rydym ni wedi eu cael yn ddiweddar ydy: cau NatWest yn Amlwch, yng Nghaergybi, ym Miwmares ac ym Mhorthaethwy; a HSBC yn mynd yng Nghaergybi, yn Amlwch, ym Mhorthaethwy a Biwmares yn ddiweddar. Nid dim ond y banciau chwaith, ond sefydliadau ariannol yn ehangach—Yorkshire Building Society yn Llangefni i gau hefyd.
Ac os gwnaf roi sylw i Fiwmares am eiliad, yn yr un ffordd ag y clywsom ni hanes gan Llyr Gruffydd am wasanaethau yn cael eu sugno i ffwrdd, pan gafwyd y cyhoeddiadau gan NatWest a HSBC am gau Biwmares: ‘Peidiwch â phoeni—dim ond 4 milltir i ffwrdd ydy Porthaethwy.’ Wrth gwrs, mae Porthaethwy hefyd wedi clywed bod y banciau hynny yn cau erbyn hyn.
Y rheswm rydym yn ei glywed yw bod mwy o fancio yn digwydd ar-lein; wrth gwrs, mae hynny yn ffeithiol gywir. Mae yna lawer o wasanaethau ar gael yn y post, rydym yn ei glywed; wrth gwrs bod hynny yn wir hefyd. Ond gyda phob parch i swyddfeydd post, sydd yn cynnig mwy a mwy o wasanaethau o ran gallu talu arian i mewn a thynnu arian allan, nid yw’r cyngor, y gwasanaethau ychwanegol a’r gefnogaeth y gellid ei chael drwy ganghennau ddim ar gael. Dyna’r math o gefnogaeth mae’r pobl mwyaf bregus ei hangen. Nid wyf yn disgwyl gweld dychwelyd i’r dyddiau lle mae gan bob tref fach gangen o bob banc, ond rhywsut mae angen sicrhau bod gwasanaeth ariannol sylfaenol ar gael i bawb o fewn pellter synhwyrol a chymedrol.
O ran yr ymgynghori sy’n digwydd, mae gen i lythyr gan NatWest yn fan hyn ynglŷn â chau cangen Porthaethwy yn dweud bod yna bump ATM—peiriant twll yn y wal—ar gael o fewn milltir i’r gangen, felly beth ydy’r ots am golli y peiriant ATM hwnnw? Wel, beth wnes i bwyntio allan i NatWest oedd bod pedwar o’r rheini ar y tir mawr—un ohonyn nhw yn Ysbyty Gwynedd ac un ohonyn nhw yng Ngholeg Menai; hynny ydy, camarwain pobl drwy roi yr argraff bod yna wasanaethau amgen ar gael. Nid oes yna ddim; un sydd yna ar gael ym Mhorthaethwy, fel mae’n digwydd, ac nid yw hwnnw, chwaith, yng nghanol y dref.
There are, I think, a number of solutions or perhaps responses that we can look at. I believe that we should be seeking to put the onus on the banking and finance sector to provide a minimum level of access. As I said, that’s not a matter of saying, ‘Let’s have every branch open in every town’ as was the case years ago, but making it a duty for the sector to ensure that there is at least a suitable level of access. Plaid Cymru in the UK Parliament have requested that Government introduces a ‘last bank in town’ status as part of the British Bankers’ Association legislation. [Interruption.] I’ll come to you in a second. And here, of course, I sound that warning that we can’t have a race by the banks to make sure that they’re not the last bank in town.
Diolch am ildio. Gallwch ddweud nad wyf wedi cael fy enw i lawr ar gyfer y ddadl hon, felly mae’n rhaid i mi ei wneud yn y ffordd hon. Cytunaf yn llwyr â’ch pwynt olaf nad yw hyn yn golygu dychwelyd at yr hen fodel o gael cangen leol ym mhob man, ond a ydych yn cytuno—rwy’n tybio eich bod yn cytuno—fod angen i’r banc newydd, ar ba ffurf bynnag y bydd, fod â phresenoldeb lleol cryf, boed hynny ar ffurf rithwir, y rhyngrwyd neu ba ffurf bynnag? Mae’n bwysig fod pobl yn gwybod ble y mae, ac nad yw’n mewn rhyw goridor—roeddwn yn mynd i ddweud ‘myglyd’, ond dyna’r ymadrodd anghywir bellach, onid e—rhyw goridor tywyll yn rhywle.
Mae’r mynediad hwnnw’n hollbwysig, ac rydym eisoes wedi clywed awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid rhannu cyfleusterau, efallai gan gynnwys y sector ariannol sefydledig cyfredol, yn ogystal â’r posibilrwydd cyffrous o fanc pobl Cymru a allai gynnig ffordd gyffrous ymlaen i ni, gan ymateb i sefyllfa angenrheidiol. Mae argyfwng yn ein hwynebu yn sgil gwaedlif ein sefydliadau ariannol. Nid breuddwyd gwrach mohoni. Pan edrychwn ar y Bank of North Dakota a gweld ei fod yn fanc hynod broffidiol, sy’n gallu pwmpio arian yn ôl i mewn i brosiectau seilwaith yng Ngogledd Dakota, lle y mae’r Llywodraeth yn adneuo ei gyllid yn y banc hwnnw er mwyn sicrhau bod llif parhaus o arian, mae’r rhain yn rhagolygon cyffrous y credaf na allwn fforddio eu hanwybyddu. Angen yw mam pob dyfais, yn ôl y sôn. Rydym yn gwybod beth sy’n angenrheidiol; mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn atal gwaedlif y sefydliadau ariannol. Ni allwn barhau i beidio â herio’r gwaedlif hwn.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon. Hoffwn wneud cyfraniad byr yn unig, gan fod llawer o bwyntiau eisoes wedi cael eu gwneud am y sector bancio a’r angen i wasanaethu ei gwsmeriaid yn well. Mae tri banc sydd dan fygythiad o gau ar hyn o bryd yn fy etholaeth, dau ohonynt mewn un dref yn Abergele, sydd hefyd wedi gweld banc NatWest yn cau flwyddyn neu ddwy yn ôl. Yn awr mae HSBC wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cau cangen, a Chymdeithas Adeiladu’r Yorkshire. Felly, mae’n amlwg nad ag elw’n unig y mae’n ymwneud os yw cymdeithas adeiladu’n bwriadu cau. Ond ar ran fy etholwyr, yn amlwg, rwyf wedi cyfarfod â’r sefydliadau dan sylw ac wedi mynegi fy ngwrthwynebiad cryf iawn i’w cynlluniau.
Yr hyn sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw nad oedd yn ymddangos bod y sefydliadau bancio penodol hyn wedi gadael i’w staff wybod cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud ar y cyfryngau ac yn y parth cyhoeddus, a chredaf fod honno’n anghymwynas fawr â’r aelodau gweithgar o staff yn y canghennau hyn. O ran HSBC, maent yn mynd i adael adeilad gwag enfawr ar y stryd fawr mewn man amlwg iawn, hen adeilad Cyngor Dosbarth Trefol Abergele mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnynt i sicrhau eu bod yn edrych ar ddefnydd amgen posibl i’r adeilad hwnnw ac yn gweithio gyda’r gymuned, os ydynt yn mynd i gau’r gangen, er mwyn sicrhau bod defnydd da yn cael ei wneud o’r adeilad a defnydd cymunedol mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn parhau’n ased dinesig, fel petai.
Yn ogystal, mae Cymdeithas Adeiladu Yorkshire wedi dweud wrthyf fod nifer y rhai sy’n dod i’w cangen wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Tri morgais yn unig a wnaethant dros y 12 mis diwethaf, felly rwy’n meddwl hefyd fod dyletswydd ar gwsmeriaid y banciau i wneud defnydd o’r adnoddau hyn pan fyddant ar gael ar y stryd fawr, oherwydd, a dweud y gwir, gallaf ddeall pwynt y gangen honno pan fo’n dweud nad yw’n ymarferol iddi allu cael presenoldeb yn y dref yn y modd a gafwyd yn draddodiadol. Nawr, er tegwch i Gymdeithas Adeiladu Yorkshire, maent yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu math o wasanaeth cownter drwy asiantaeth gyda chyfreithwyr lleol neu mewn man priodol arall yn y dref, ac rwy’n meddwl bod hynny’n rhywbeth y dylem annog mwy ohono, hyd yn oed mewn mannau lle nad oes cangen ar hyn o bryd, gan fanc a allai ddatblygu presenoldeb mewn tref neu leoliad.
Soniodd Llyr Huws Gruffydd am y banc NatWest yn Rhuthun, sydd mewn adeilad amlwg iawn a hanesyddol iawn yn y dref—un o’r adeiladau ffrâm bren gorau yn y wlad, ddywedwn i. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu ato yn gofyn a fyddai Cadw, neu rywun arall efallai, yn gallu camu i mewn er mwyn diogelu dyfodol yr adeilad hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig fod—. Mae ganddo hanes hir o wasanaeth cyhoeddus fel adeilad, boed fel banc, fel llys gyda’r grocbren y tu allan, neu mewn ffyrdd eraill, a chredaf fod gadael rhai o’r lleoedd hyn heb roi llawer o rybudd yn anghyfrifol iawn ar ran y banciau sy’n gwneud hynny. Nawr, er tegwch i NatWest, maent yn ceisio, eto, cynnal rhyw fath o bresenoldeb yn y gymuned drwy gynnig gwasanaethau symudol eraill, ond a dweud y gwir, nid yw’r un fath, ac maent yn sicr yn gwneud cam â’u cwsmeriaid.
Felly, rwy’n meddwl, Ysgrifennydd y Cabinet, nad cydymdeimlad yw’r hyn rwy’n edrych amdano mewn gwirionedd pan fyddwch yn ymateb i’r ddadl hon. Nid dweud yn unig ychwaith eich bod wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, ond gweld beth y gallwn ei wneud yn greadigol yng Nghymru i ehangu presenoldeb gwasanaethau bancio ar draws y wlad er mwyn i bobl eu cael mewn modd hygyrch. Rydym wedi clywed llawer am y ffordd y mae swyddfeydd post yn clirio llawer o’r llanast, os hoffwch chi, sy’n cael ei adael ar ôl gan y banciau pan fyddant yn gadael rhai o’n cymunedau, ac mae hynny’n wych—mae’n fusnes da, yn ddiau, o ran busnes trafodiadol i’r swyddfeydd post hynny. Ond maent yn greaduriaid gwahanol, y swyddfeydd post. Mae rhai pobl yn awyddus i rannu pethau’n breifat mewn banc mewn ffordd na allant ei wneud o reidrwydd ar safle Swyddfa’r Post wrth gownter sy’n llawn o bobl yn aros i gasglu eu pensiynau neu beth bynnag arall y gallent fod yn ei wneud yn Swyddfa’r Post.
Felly, rwy’n meddwl bod rhyw agwedd yma lle y gallai banc cenedlaethol y bobl fod yn ffordd dda ymlaen. Os gall hwnnw ddarparu peth elw yn ôl i’r trethdalwr yma yng Nghymru, yna rwy’n credu bod hynny’n fantais enfawr arall a allai ddeillio ohono o bosibl. Pan fyddwn yn sôn am y math o fuddsoddiad a allai fod ar y ffordd o ran prosiectau buddsoddi cyfalaf o ganlyniad i beth o’r difidend o ddatganiad yr hydref diwethaf, yna rwy’n credu bod slab o arian yno a allai fod yn ddefnyddiol i weithredu fel cyfalaf i fanc roi benthyg er mwyn gwneud elw i’r trethdalwr. Tybed a allech roi ychydig o sylwadau ynglŷn â sut y gallai hynny ddatblygu, a allai fod yn bartneriaeth gyda banciau eraill neu a allai fod yn rhywbeth ar ei ben ei hun i’r Llywodraeth ei hun ei ddatblygu. Diolch.
Rwy’n meddwl, o ystyried y sefyllfa rydym ni ynddi, bod hon yn ddadl gymedrol iawn, a dweud y gwir. Mae’r banciau, ar hyn o bryd, yn amddifadu nifer o gymunedau a nifer o unigolion o wasanaethau tra phwysig. Erbyn hyn, nid yw e’n bosib bod yn ddinesydd llawn oni fod gennych chi fynediad llawn at wasanaethau bancio. Dyna yw’r byd modern, ac rydych chi bron yn gwybod os nad oes gennych chi fynediad at system fancio eich bod chi’n mynd i fod ar eich colled yn ddirfawr yn yr economi bresennol.
O gofio’r biliynau a’r biliynau—rhywbeth fel mil o biliynau—o bunnoedd sydd wedi cael eu buddsoddi yn y banciau ers y ddegawd ddiwethaf er mwyn eu hachub nhw o sefyllfa yr oedden nhw eu hunain wedi rhoi eu hunain ynddi, mae gweld nawr eu bod nhw’n troi eu cefn ar y cymunedau a wnaeth dalu i gynnal a chadw’r banciau yna’n hyfyw yn siomedig iawn a dweud y lleiaf. Felly, rydw i’n cefnogi, yn sicr, unrhyw ymgais statudol drwy system o wneud yn siŵr bod y gangen olaf yn cael ei chadw, neu unrhyw ymgais hefyd, fel yr ydym ni wedi ei weld gyda chwmnïau ffôn symudol, lle’r ydych chi’n gorfodi pobl i ddefnyddio cyfarpar pobl eraill—achos oni bai eich bod chi’n gwneud hynny, rydych chi’n gweld pawb yn eu tro yn tynnu allan o’r cymunedau gwledig yn benodol ac yn gadael diffeithwch ac anialwch ar eu hôl. Felly mae angen ochr statudol.
Ond mae yna rywbeth mwy positif yn y ddadl yma hefyd, pan rydym ni’n trafod y cysyniad o fanc pobl Cymru sydd wedi cael ei wyntyllu. Rwy’n meddwl, pan rydych chi’n ystyried yr arian sydd yn llifo drwy’r banciau yng Nghymru drwy awdurdodau lleol, drwy’r gwasanaeth iechyd a drwy Lywodraeth Cymru—arian sydd nawr yn cael ei gadw yn y prif fanciau—nid oes unrhyw beth yn stopio’r arian yna rhag cael ei gadw mewn banc ar wahân, banc pobl Cymru, er mwyn creu’r refeniw a chreu’r cyfalaf a fydd ar gael wedyn ar gyfer buddsoddi a chynnal y math yna o rwydwaith.
Nawr, mae’n hynod siomedig, yn yr ardaloedd gwledig, nad oes, yn fy marn i, ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r ffaith nad oes band eang ar gael i bawb ac nad yw pawb, wrth gwrs, yn medru defnyddio mynediad digidol. Ond, yn fwy pwysig, ni ddylai fod yn bosib, yn sicr, i dynnu allan gwasanaethau corfforol—
Mewn eiliad, yn wir.
[Yn parhau.]—megis canghennau, heb fod sicrwydd bod band eang ar gael i bawb yn yr ardal sy’n cael ei gwasanaethu gan y gangen. Fe wna i ildio i Mike Hedges.
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A fuasech hefyd yn cytuno bod yna lawer o bobl, yn enwedig ymysg yr henoed, nad ydynt am wneud eu bancio ar-lein, pobl nad ydynt eisiau defnyddio cyfrifiadur ar gyfer gwneud eu bancio ac sy’n awyddus i ymweld â’u banc lleol?
Ydw, yn sicr. Prynais iPad i fy mam yn anrheg Nadolig. Nid wyf yn gwybod sut y mae’n dod yn ei blaen ag ef. Rwy’n credu mai etholwr Julie James yw hi, nid eich un chi, nawr, Mike, ond mae hi yn Abertawe yn ceisio gwneud defnydd o’r iPad. Fodd bynnag, roedd yn ddibynnol iawn ar y banc i’w helpu i fwrw ymlaen â rhai o’r pethau y gallwch eu gwneud yn ddigidol yn awr. Felly, mae yna ymrwymiad gwirioneddol yno, ymrwymiad cymunedol, ac mae angen iddo ddigwydd.
I agree entirely with that point. To highlight that point, it is true to say that people are using branches less and less, and the greatest growth isn’t online; it’s on mobile phones and the banking apps available, and that’s where the greatest growth is. There is a little bit of risk entailed here, because it does mean that easy credit is available without people, necessarily, discussing whether they have particular credit needs and can they really afford to take these loans. When you go into a bank—. I remember getting my first mortgage, and it was like going through some court of law, standing in front of the bank manager. Now, you can do it online and there are people offering you a mortgage decision in half an hour or an hour. I’m not quite sure that this is the kind of fiscal culture and the information about financial needs we want to see developing here in Wales.
There are some specific issues too. The closure of a main branch in a town, particularly a market town—and there’s a recent example in my region, in Porthmadog—has a psychological impact on the town. We’ve already heard about the buildings and how important buildings can be, but people feel that they are losing something that was an important part of their community. There may be an echo here of the time when banks were truly local banks. It was your Lloyds, TSB or Bank of the Black Sheep. People are now feeling that they are losing something, which is important to them. Small businesses particularly feel that impact. The chair of the Federation of Small Businesses, Janet Jones, said that small businesses want a relationship not with the branch but with the people in that branch and the people managing their accounts.
I orffen, Lywydd, mae’r banciau ychydig yn ddyledus i ni. Fe wnaethom eu hachub 10 mlynedd yn ôl. Fe wnaethom ganiatáu iddynt barhau—fe wnaethom ganiatáu iddynt barhau â’u ffordd braidd yn rheibus o fancio manwerthu a chyfanwerthu yn ogystal. Erbyn hyn rhaid iddynt dalu rhywfaint o sylw i anghenion democrataidd go iawn ein dinasyddion. Mae mynediad at wasanaethau bancio yn hawl sylfaenol absoliwt. Nid yw bellach yn fraint; mae’n hawl. Ni allwch fod yn ddinesydd llawn oni bai bod gennych fynediad at wasanaethau bancio. Mae’n rhaid i ni weithio gyda banciau, gweithio gyda swyddfeydd post a gweithio gyda modelau amgen, ond mae’n rhaid iddynt weithio gyda ni yn ogystal i sicrhau nad ydym yn amddifadu ein cymunedau.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates.
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw ac am y nifer o gyfraniadau gan Aelodau ar draws y Siambr. Rwy’n ymwybodol iawn o nifer o’r banciau sydd wedi cael eu crybwyll heddiw. Nododd Darren Millar a Llyr Huws Gruffydd ill dau y banc yn Rhuthun—banc y NatWest. Rwy’n cofio cael gwybod, heb fod yn rhy bell yn ôl, pan oedd banc NatWest yn fy etholaeth, ym Mrymbo, yn cau, y gallwn fod yn dawel fy meddwl fod yr Wyddgrug a Rhuthun yn ddiogel. Nawr, rydym yn gweld bygythiad i Ruthun. Byddaf yn rhybuddio fy nghyd-Aelod, yr Aelod dros Delyn, y dylai gyflwyno sylwadau yn uniongyrchol i NatWest i gael sicrwydd fod y gangen honno’n ddiogel.
Fel Llywodraeth Cymru, rydym hefyd yn bryderus iawn am yr effaith negyddol y gall cau banc ei chael ar fusnesau a dinasyddion lleol. Mewn llawer o gymunedau, banciau, ynghyd â siopau trin gwallt, swyddfeydd post, siopau cyfleus a thafarndai yn wir, yw’r glud yn ein cymunedau, ac mae’n arbennig o wir mewn ardaloedd difreintiedig a gwledig. Nododd Llyr Huws Gruffydd, drwy’r data, y ffaith mai’r cymunedau hynny sy’n cael eu niweidio waethaf gan benderfyniad banciau’r stryd fawr i gau canghennau. Gall cau gwasanaethau lleol effeithio’n sylweddol ac yn andwyol ar unigolion, ar fusnesau ac yn wir, ar gymunedau cyfan. Er bod rheoleiddio’r diwydiant bancio yn faes sydd heb ei ddatganoli, a bod penderfyniadau ar gau canghennau yn faterion cwbl fasnachol i’r banciau, rydym yn awyddus i ddefnyddio’r holl ddulliau sydd ar gael inni i sicrhau bod busnesau ac unigolion ledled Cymru yn cael mynediad at gyfleusterau bancio o ansawdd uchel, gan gynnwys cyfleusterau adneuo a chasglu arian parod. Rydym yn awyddus i helpu i liniaru effaith colli unrhyw gyfleuster cangen a thwll yn y wal yng Nghymru lle y bo’n bosibl. Efallai fod fy etholaeth i yn enghraifft wych o ardal sydd wedi colli nifer fawr o ganghennau. Er fy mod yn cynrychioli’r fwyaf o’r holl etholaethau Llafur, un gangen yn unig sydd gennyf ar ôl yn etholaeth De Clwyd.
Ie, iawn.
Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. A fuasech yn cytuno mai’r hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd yw rhyw fath o rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol lle nad oes neb yn byw ymhellach na rhyw bellter penodol o’u cangen leol? Mae gennym ryw fath o drefniant tebyg gyda swyddfeydd post. Wyddoch chi, mae yna rwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol ar gyfer rhai cwmnïau cyfleustodau. Onid yw hwn yn un o’r gwasanaethau hanfodol hynny y dylai pawb allu cael mynediad ato?
Buaswn yn cytuno â’r Aelod y dylai pawb allu cael mynediad at fanc o fewn pellter penodol. Mae hyn yn rhywbeth y galwasom ar Lywodraeth y DU i edrych yn ofalus iawn arno. Dof at adolygiad Griggs yn fuan, ond rwy’n meddwl bod yr hyn y mae’r Aelod yn ei ddweud yn gywir. Mae arloesedd a thueddiadau ariannol yn y gymdeithas wedi arwain yn amlwg at gau llawer o ganghennau. Mae llawer o’r Aelodau heddiw wedi siarad am y camau enfawr sydd wedi digwydd o ran y dechnoleg ddigidol sy’n datblygu. Wrth gwrs, arweiniodd yr argyfwng ariannol yn ôl yn 2008 at nifer o ganghennau’n cau wrth i fanciau gyfuno ac uno.
Mae Cymdeithas Bancwyr Prydain yn amcangyfrif bod nifer y bobl sy’n mynd i ganghennau wedi gostwng oddeutu 30 y cant rhwng 2012 a 2015 o ganlyniad i newidiadau i dechnoleg ddigidol a chymwysiadau newydd, ac uno banciau—gostyngiad rhyfeddol mewn cyfnod mor fyr o amser. O ran talu arian i mewn a thynnu arian allan dros y cownter, rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio y gall 95 y cant o’r holl gwsmeriaid bancio gael mynediad at eu cyfrifon banc drwy Swyddfa’r Post. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd lle y mae banciau wedi cau. Er bod materion Swyddfa’r Post, wrth gwrs, heb eu datganoli, rydym yn awyddus i gefnogi swyddfeydd post ledled Cymru. Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd bod Swyddfa’r Post wedi llofnodi cytundeb i ddarparu gwasanaethau wyneb yn wyneb, megis adneuo arian parod a sieciau ac adolygu balansau banc, i bron bob un o gwsmeriaid personol y banciau mawr a 75 y cant o’u cleientiaid busnes bach. Nawr, cyn y cyhoeddiad hwnnw, roedd amryw o fanciau yn cynnig mynediad mwy cyfyngedig drwy Swyddfa’r Post, gan gwmpasu 40 y cant yn unig o gwsmeriaid busnes. Mae’r cytundeb newydd yn cynnwys y banciau stryd fawr sefydledig a rhai o’r banciau heriol, megis TSB a Virgin Money. Er fy mod yn sylweddoli na all swyddfeydd post gymryd lle canghennau banc, mae croeso i’r datblygiad hwn, a byddaf yn parhau i annog banciau a Swyddfa’r Post i wneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod ein cymunedau a busnesau yn elwa o’r fenter hon.
Gan droi at adolygiad Griggs, mae’n gwneud nifer o argymhellion i wella’r ffordd y mae banciau’n ymgysylltu â’r cymunedau sy’n mynd i weld canghennau’n cau. Mae’n cynnwys gweithio gyda chwsmeriaid busnes bach i weld sut y gallant liniaru ymhellach yr her o adneuo a chasglu arian parod i rai ohonynt yn sgil cau. Mae’r argymhellion hefyd yn cynnwys yr angen am ymgysylltu a chyfathrebu gwell rhwng y banciau a’u cwsmeriaid, a’r angen i gynnal ymgynghoriad ystyrlon a dilys os yw cangen yn wynebu bygythiad o gau. Mae hyn yn rhywbeth a drafodais gyda Barclays a HSBC dros yr ychydig fisoedd diwethaf, gan eu hannog i weithredu argymhellion yr Athro Griggs ac i weithio’n agos gyda Swyddfa’r Post i sicrhau bod ein cymunedau a busnesau’n elwa o’r mentrau hyn. Gwn fod y Prif Weinidog wedi trafod y materion hyn gyda phrif swyddog gweithredol RBS yn ddiweddar hefyd.
Mae hyrwyddo cynhwysiant ariannol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru yn ystod y pumed Cynulliad. Mae strategaeth cynhwysiant ariannol 2016 yn nodi sut rydym yn anelu i weithio gyda sefydliadau partner yng Nghymru ac ar lefel y DU i wella mynediad at gredyd fforddiadwy a gwasanaethau ariannol. Cyhoeddwyd y cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol ym mis Rhagfyr, ac mae’n nodi’r camau gweithredu a’r mesurau sydd eu hangen i gynyddu cynhwysiant ariannol ar draws y wlad. Nid ar gyfer Llywodraeth Cymru yn unig y mae camau gweithredu a goblygiadau ariannol y cynllun. Mae’n cyd-fynd â’r camau gweithredu a geir mewn strategaethau cysylltiedig, gan gynnwys strategaeth genedlaethol Cymru ar gyfer gallu ariannol, strategaeth undebau credyd Cymru, a’r cynllun gweithredu gwybodaeth a chyngor, i adlewyrchu’r dull strategol sydd ar waith.
Felly, rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon heddiw. Mae’r Aelodau wedi siarad am bwysigrwydd undebau credyd, ac nid oes amheuaeth y gallant ac y dylent dyfu’n gryfach, drwy uno strategol o bosibl. O ran yr awgrym gan Blaid Cymru—banc y bobl—mae trafodaethau eisoes wedi digwydd gyda’r PPIW i asesu cysyniad o’r fath. Dylid gwneud y gwaith hwnnw gan roi sylw dyledus i sefydlu banc datblygu Cymru fel y soniodd yr Aelodau, yn ogystal â thechnolegau digidol newydd a rhai sy’n datblygu, potensial undebau credyd, a sefydliadau ariannol newydd, megis Chetwode, y cefais y pleser o gyhoeddi yr wythnos diwethaf ei fod yn symud i ogledd Cymru o Lundain. Fel y dywedais, rwy’n falch o allu ymateb i’r ddadl hon heddiw ac i sicrhau’r Aelodau—
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Roeddwn yn falch iawn o glywed y cyhoeddiad am adroddiad y PPIW. Pryd y mae disgwyl i’r adroddiad gael ei gwblhau, ac a fydd yn cael ei gyhoeddi, ac a allwn gael datganiad i’r Cynulliad?
Rwy’n credu bod adroddiadau’r PPIW fel arfer yn cael eu cyhoeddi ac ar gael i’w gweld gan Aelodau’r Cynulliad, ac yn sicr gan Weinidogion y Llywodraeth, a bydd y gwaith yn cael ei wneud, rwy’n credu, yn ystod yr hydref, wedi i wersi cynnar o weithrediad y banc datblygu allu cael eu hasesu. Rwy’n meddwl y bydd yn waith pwysig ac amserol, ond fel y dywedais, bydd angen iddo ystyried potensial undebau credyd, yn wir, y gwasanaethau ychwanegol sy’n cael eu cyflwyno gan Swyddfa’r Post, a sefydliadau ariannol newydd yn ogystal â banc datblygu Cymru. Ac rwy’n meddwl bod yr ymrwymiad hwnnw yn dangos hefyd ein bod yn archwilio ystod o opsiynau ac ymyriadau. Efallai fod y canghennau banc traddodiadol yn lleihau o ran eu nifer, ond yn sicr, nid yw’r angen am wasanaethau bancio hygyrch yn lleihau, a dyna pam rydym wedi ymrwymo i gefnogi swyddfeydd post, undebau credyd, sefydliadau ariannol newydd, banc datblygu Cymru, ac unrhyw ymyrraeth newydd arall sydd ar gael i ni.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i’r ddadl.
Wel, roeddwn i’n dechrau galaru bod cynigion yn y lle yma yn cael unrhyw effaith o gwbl, ond rwy’n falch o glywed o leiaf ein bod ni yn mynd i gael ymchwiliad i mewn i’r cwestiwn yma o fodelau amgen a chreu sefydliadau newydd, gan gynnwys y posibilrwydd o ffurf ar fanc cyhoeddus, neu banc y bobl—beth bynnag rŷm ni’n ei alw fe, yr un yw’r egwyddor. Ac mae’n siŵr gen i y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn edrych ymlaen yn arw at weld canlyniad yr ymchwiliad hynny.
Rwy’n croesawu yn fawr beth oedd yr Ysgrifennydd Cabinet wedi’i ddweud, er gwaethaf y ffaith nad yw rheoleiddio banciau wedi’i ddatganoli. Felly, mae yna gyfyngiadau ar yr hyn rŷm ni’n gallu ei wneud yn y lle yma, ond nid yw hynny’n golygu na ddylem ni drial defnyddio pob lifer sydd yn ein dwylo ni, achos dyna yw ein priod waith ni, wrth gwrs. Fel yr oedd Darren Millar yn dweud, dylem ni feddwl yn greadigol. Mae’r dadansoddiad o’r broblem yn yr achos yma wedi’i rannu yn helaeth, rwy’n credu, o gwmpas y Siambr, ar sail y cyfraniadau rydym ni wedi eu clywed, ac ar sail, wrth gwrs, y profiadau rŷm ni i gyd wedi eu hwynebu fel Aelodau etholaethol. Ac felly, yr ymateb, wrth gwrs, ydy meddwl yn arloesol ac yn greadigol ac yn uchelgeisiol. Felly, rwy’n croesawu yn fawr ‘commitment’ yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud beth oedd y cynnig yn ceisio gan Lywodraeth Cymru, sef ein bod ni’n gofyn cwestiwn: a allem ni saernïo model bancio i Gymru sy’n well na’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd?
Roedd Mark Isherwood, wrth gwrs—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Mae’n ddrwg gennyf, efallai eich bod ar fin ateb fy nghwestiwn, ond a ydych yn croesawu’r ffaith fod y pedwar banc cymunedol dielw yn Responsible Finance eisoes yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru ac eraill i ddatblygu’r union fath o fodel yr ydych yn ei gynnig?
Yn bendant, ac mae nifer o’r sefydliadau hynny yn rhan o’r grŵp newydd sydd yn edrych ar y banc cyhoeddus i Gymru. Rwy’n ymwybodol hefyd o waith Robert Owen Community Banking ac yn y blaen. Felly, ie, beth rŷm ni’n moyn, wrth gwrs, yw mwy o amrywiaeth yn y sector ariannol, ac adeiladu ar yr hyn sydd yno yn barod, gan gynnwys undebau credyd, lle mae ganddyn nhw rôl bwysig ac mae eisiau gweld sut yr ŷm ni’n gallu cryfhau hynny hefyd.
Roeddwn i’n croesawu sylwadau David Rowlands. Roedd e wedi newid ei farn ynglŷn â’r enw, ond fe wnawn ni roi o’r neilltu yr enw; nid dyna, wrth gwrs, fyrdwn y ddadl, ond y pwrpas. Ac mae e’n iawn, wrth gwrs—hynny yw, wrth feddwl am broblemau busnesau bychain, cyfalaf gweithio yn aml iawn ydy rhan o’r broblem, a beth sydd ei angen felly ydy banc, yntefe, sydd yn gallu cymryd blaendaliadau, sydd yn gallu symud yn gyflym, ac yn y blaen. Felly, dyna, rwy’n credu, y mae’r rhan fwyaf o fusnesau bychain yn gobeithio amdano gyda’r banc datblygu. Felly, mae yna gyfle nawr, gyda’r astudiaeth sydd wedi cael ei chyhoeddi, i edrych ar y cwestiwn ehangach yma.
Mae nifer o’m cyd-Aelodau fan hyn wedi sôn am wahanol ddimensiynau o’r creisis yr ŷm ni’n ei wynebu. Ac mae e yn greisis. Mae’r creisis yn mynd i waethygu, felly beth am inni fynd cam ar y blaen i’r creisis yma, a dechrau rhag-gynllunio y math o fodel amgen sydd yn amlwg, ar sail beth rŷm ni wedi clywed, gyda chefnogaeth eang ar draws y pleidiau—y syniad yma o nid ond banc datblygu mewn ystyr efallai mwy cyfyng, ond banc cyhoeddus i Gymru sydd yn gallu diwallu anghenion Cymru benbaladr, busnesau ac unigolion, sydd, fel mae pethau yn datblygu ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn cael eu hesgeuluso gan fanciau prif ffrwd y sector breifat?
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.