1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2017.
2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella mynediad i Faes Awyr Caerdydd? OAQ(5)0494(FM)
Rydym ni’n parhau gyda'r gwaith o ddatblygu cynigion i wella mynediad at y maes awyr trwy gludiant cyhoeddus ac mewn car, gan gefnogi, ymhlith pethau eraill, wrth gwrs, y trefniadau bws a rheilffordd presennol.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n credu bod pawb yn y Siambr yn croesawu'r gwelliant enfawr ym mherfformiad y maes awyr ers ymyrraeth y Llywodraeth. Ond onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd cyswllt rheilffordd yn cynyddu ei apêl yn fawr i'r teithiwr rhyngwladol ac yn rhoi mantais gystadleuol iddo dros feysydd awyr lleol eraill? Felly, a all ef ddweud wrthym ni pam nad yw hyn wedi ei gynnwys yn y prosiect metro?
A gaf i groesawu'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y maes awyr, a’i sylwadau am y cynnydd y mae’r maes awyr wedi ei wneud ers i Lywodraeth Cymru ei gymryd drosodd? Nid ydynt yn sylwadau sy'n cael eu hadleisio ar yr ochr yna i'r Siambr, a fyddai wedi bod yn hapus gweld llystyfiant yn ei orchuddio erbyn hyn pe byddai wedi cael ei adael yn eu dwylo nhw. Fodd bynnag, mae'n gofyn cwestiwn pwysig. Gallaf ddweud wrtho fod y pwyslais ar hyn o bryd ar y gwasanaeth bws, ar geisio gwella amlder ar y rheilffordd bresennol, ac yna, y tu hwnt i hynny, ceisio gweld a ddylem ni ystyried sbardun rheilffordd—ceir problemau gyda hynny; bydd gwrthwynebiad, mae hynny'n wir—neu a fyddai’r derfynfa ei hun, mewn gwirionedd, ar ryw adeg yn y dyfodol, yn symud yn nes at y rheilffordd bresennol? Felly, ar hyn o bryd, mae'n fater o wella’r hyn sydd yno'n barod, ac edrych, yn y dyfodol, i weld a oes ffordd o leoli'r derfynfa yn nes at y cyswllt rheilffordd.
Croesewir y cytundeb a gyhoeddwyd ddoe rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Heathrow. Ond, mewn gwrthgyferbyniad llwyr i'r hyn a gyhoeddwyd o ran yr Alban, nid oes unrhyw dargedau pendant yn y cytundeb, dim byd am swm y gwariant sy'n gysylltiedig ag adeiladu, dim am y targed swyddi cyffredinol, dim am daliadau glanio neu gronfa ddatblygu ar gyfer teithiau awyr. A yw hynny oherwydd bod y Prif Weinidog, yn y bôn, wedi colli unrhyw fantais oedd ganddo mewn trafodaethau trwy ddatgan ei gefnogaeth i Heathrow, heb gael y consesiynau hyn mewn gwirionedd, yn wahanol i'r hyn a wnaeth Llywodraeth yr Alban?
Wel, mae'r cwestiwn yn ymwneud â mynediad at Faes Awyr Caerdydd, ond rwy'n fwy na pharod i ateb y cwestiwn am Heathrow. Rwy'n synnu nad yw'n croesawu'r cyhoeddiad ddoe—y ffaith y bydd 8,000 o swyddi yn cael eu sicrhau, yr holl fuddsoddiad hwnnw, y ffaith einh bod wedi gweithio gyda Heathrow i—[Torri ar draws.] Ni wnaiff sgrechian main ei helpu. Y ffaith ein bod ni wedi sicrhau ymrwymiad i ganolfannau gweithgynhyrchu y tu allan i Gymru. Mae gennym ni ddigwyddiad ar 5 Gorffennaf i sicrhau bod busnesau Cymru—[Torri ar draws.] Wel, mae'n dal i sgrechian yn fain. Bydd busnesau Cymru yn gallu manteisio’n llawn—[Torri ar draws.] Nid yw wedi dysgu ei wers o hyd. Bydd busnesau Cymru yn gallu—
Rwy'n credu efallai fod yr Aelod yn sgrechian gan fod yr Aelod wedi croesawu'r datganiad ddoe. Parhewch.
Wel, rwy'n siŵr y gall yr Aelod siarad drosto'i hun, Lywydd, a dweud y gwir, ar y sail honno.
Dyma’r pwynt: byddwn yn creu miloedd o swyddi. Byddwn yn sicrhau y bydd canolfannau ar gyfer gweithgynhyrchu y tu allan i Gymru. Byddwn yn sicrhau y bydd llwybrau sy'n cael eu hystyried i feysydd awyr Cymru, nid dim ond Caerdydd—nid dim ond Caerdydd. Ac mae’r hyn a gyhoeddwyd ddoe yn llawer mwy sylweddol na'r hyn y mae'r Alban wedi'i gyflawni.
Wel, rwy’n mynd i roi croeso arall y prynhawn yma. Rwy’n mynd i groesawu’r twf i nifer y teithwyr ar wasanaeth bws T9. Credaf fod hynny’n newyddion gwych i’w groesawu. Nawr, o ystyried y ffaith bod y gwasanaeth hwn yn gymaint o lwyddiant a’i fod yn profi bellach ei fod yn gynaliadwy yn y tymor hir, a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y cymhorthdal o £0.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth hwn ac yn hytrach cynnig cymorthdaliadau i wasanaethau bws eraill y rhoddwyd terfyn arnynt gan doriadau i'r grant gweithredwyr bysiau?
Yr hyn y mae'n ymddangos ei fod yn ei awgrymu yw na ddylem ni gael gwasanaeth bws i'r maes awyr. Ni allaf gytuno â'r safbwynt hwnnw. Mae'n dod yn ôl at y safbwynt a gymerwyd gan ei blaid—nid oedden nhw eisiau i’r maes awyr lwyddo. Yn y pen draw, nid oedd y Ceidwadwyr Cymreig eisiau i’r maes awyr dyfu, roedden nhw’n hapus i weld y maes awyr yn dirywio, byddent wedi eistedd ar eu penolau a gweld y maes awyr yn cau. [Torri ar draws.] |Maen nhw’n dal i fod yn anhapus am y ffaith fod y maes awyr yn gwneud yn dda mewn gwirionedd. Nid ydyn nhw eisiau gweld gwasanaeth bws i'r maes awyr, ac rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod cysylltiadau cludiant cyhoeddus i’n maes awyr yng Nghaerdydd, a byddant yn parhau. Mae cael cysylltiadau cludiant cyhoeddus, yn sicr, i unrhyw faes awyr, pa un a ydynt yn fws neu’n rheilffordd, yn hynod bwysig i ddatblygiad unrhyw faes awyr ar gyfer y dyfodol.
Wel, rwy’n croesawu'r cytundeb partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Heathrow o ran cwmnïau hedfan sydd eisiau hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd Cymru i Heathrow, a'r potensial o filoedd o swyddi medrus newydd y gallai eu creu, ochr yn ochr â rhoi hwb i economi Cymru. Fodd bynnag, i’m hetholwyr i a phobl a busnesau ar draws y gogledd-ddwyrain, cysylltiadau cynyddol a gwell gyda meysydd awyr fel Lerpwl a Manceinion sy’n gwneud gwahaniaeth uniongyrchol iddyn nhw. Felly, Brif Weinidog, a gaf i annog bod gwell cysylltedd a mwy o effeithlonrwydd o ran cysylltiadau trên i feysydd awyr cyfagos gogledd-orllewin Lloegr yn rhan allweddol o gynlluniau metro gogledd-ddwyrain Cymru ac yn cael eu hystyried yn rhan o fasnachfraint Cymru a'r gororau?
Ie. Gallaf ddweud, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, bod Trenau Arriva Cymru wedi sicrhau llwybrau ychwanegol o ogledd Cymru i Faes Awyr Manceinion gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dechreuodd y gwasanaethau ychwanegol hynny weithredu ym mis Mai y llynedd, ac rydym ni’n gweithio, wrth gwrs, gyda Merseytravel i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd i Lerpwl ac i faes awyr John Lennon yn y fasnachfraint nesaf, ar droad Halton sydd wedi ailagor.
Brif Weinidog, cyflwynais gais rhyddid gwybodaeth i Faes Awyr Caerdydd, sy'n eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru. Roeddwn i eisiau gwybod faint o arian a wariwyd ar gwmnïau lobïo, pa gwmnïau a gyflogwyd, a pha un a fu’r cwmnïau lobïo hyn trwy broses dendro ai peidio. Nawr, mae hwn yn eiddo i'r cyhoedd yng Nghymru, felly mae gan y cyhoedd hawl i wybod y pethau hyn. Mae'r maes awyr wedi gwrthod ateb. Beth yw eich barn ar hyn?
Wel, hynny yw, mae ffyrdd o apelio, os yw’n teimlo nad yw ei gais wedi cael sylw.