– Senedd Cymru am 3:42 pm ar 7 Mawrth 2017.
Eitem 4 ar yr agenda heddiw yw trafodaeth ar yr ail gyllideb atodol, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae’r ail gyllideb atodol hon yn rhan safonol o’r broses reolaeth ariannol flynyddol. Mae’n rhoi cyfle olaf inni addasu’r cynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad hwn yn y gyllideb atodol gyntaf fis Gorffennaf diwethaf. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r Pwyllgor Cyllid am ei waith craffu ar yr ail gyllideb atodol hon. Byddaf yn ymateb i’r Cadeirydd maes o law ynglŷn â’r argymhellion penodol yn yr adroddiad.
Yn bennaf, mae’r gyllideb hon yn gyfle i roi trefn ar y newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i reolaeth ariannol ganol blwyddyn. Mae’n alinio’r adnoddau sydd ar gael gyda blaenoriaethau’r Llywodraeth, ac mae mwyafrif y newidiadau i gynlluniau yn rhai gweinyddol. Eleni, mae’r ail gyllideb atodol hefyd yn cynnwys nifer o ddyraniadau allweddol o gronfeydd wrth gefn. Mae darparu sefydlogrwydd ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon. Felly, mae’r gyllideb hon yn cynnwys gwerth £168.9 miliwn o ddyraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau iechyd gwladol Cymru.
This sum includes the £50 million announced by the Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport in November to address winter pressures and to sustain and improve performance during the winter period. In addition, it includes an additional funding package of £102.9 million to support the NHS in Wales. This will help address the forecast deficits in two local health boards and the estimated shortfall of income from the pharmaceutical price regulation scheme.
Llywydd, this supplementary budget also reflects allocations made to pursue early progress against our programme ‘Taking Wales Forward’. In November 2016, additional capital funding of £30 million was announced by the Cabinet Secretary for Communities and Children in support of our commitment to provide 20,000 affordable new homes across Wales. This will include continued support for construction via schemes such as the social housing grant and Help to Buy. In January of this year, funding of £16 million was announced by the Welsh Government to support the launch of the new treatment fund to give people in Wales fast access to new and innovative treatments. An additional £20 million in revenue funding goes to the Higher Education Funding Council for Wales and is formalised in this budget to respond to current and future financial pressures, including the implementation of the Diamond report recommendations.
This second supplementary budget increases funding to develop the Welsh economy and our transport infrastructure: £47 million in capital has been allocated to support construction and maintenance of the trunk road network in Wales, with a further £8.5 million in revenue funding to establish Transport for Wales in preparation for franchise responsibilities. This supplementary budget also aligns additional investment of £33.4 million in capital grants and loans to deliver economic development priorities, supporting sustainable jobs and growth across the length and breadth of the country.
Llywydd, as supplementary budgets are mainly administrative in nature, this budget details the various other adjustments to be made to our budgets in this financial year, including any changes to the Welsh block arising from the UK Government decisions, revisions to forecasts of annually managed expenditure, and other transfers both between and within ministerial portfolios.
I’d like to thank the Finance Committee once again for the scrutiny of this supplementary budget and I ask Members to support it this afternoon.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydw i’n siarad, wrth gwrs, ar ran y Pwyllgor Cyllid, sydd wedi adrodd ar y gyllideb atodol, ac mae’r adroddiad llawn a’r argymhellion ar gael, wrth gwrs, i Aelodau. Rydw i ond yn ffocysu ar bedwar maes yn fan hyn lle'r oedd y Pwyllgor Cyllid yn chwilio am fwy o wybodaeth neu fwy o waith gan y Llywodraeth.
Yn gyntaf oll, byddech chi’n cofio, gobeithio, fy mod i wedi siarad o’r blaen ar y gyllideb ddrafft ynglŷn â’r angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddangos sut mae dyraniadau cyllidebol yn cael eu dylanwadu gan Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Er ein bod ni, wrth gwrs, yn sylweddoli ac yn derbyn mai cyllideb atodol yw hon, roeddem wedi gobeithio, serch hynny, gweld mwy am sut y mae’r Ddeddf honno wedi dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â dyraniadau mewnol yn sgil y gyllideb ddiwethaf. Mewn cyfarfod pwyllgor, rhestrodd Ysgrifennydd y Cabinet nifer o ddyraniadau fel tystiolaeth o’r modd y mae gwariant yn cyd-fynd â’r nodau lles. Roeddem ni’n ddiolchgar ei fod ef wedi dod yn barod ac wedi paratoi i wneud hynny. Serch hynny, roedd y pwyllgor yn teimlo bod y rhestr hon braidd yn artiffisial mewn ffordd, a rhestr o ddyraniadau a oedd yn digwydd bodloni gofynion y Ddeddf yn hytrach na thystiolaeth bod gan y Ddeddf rôl flaenllaw yn y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Fel y gwnaethom ni adrodd ar y gyllideb ddrafft ddiwethaf, roeddem ni’n teimlo bod angen gwella ar y mater yma o sut y mae’r Ddeddf yn dylanwadu ar ddyraniadau. Mae hynny yn amlwg yn waith y byddem ni i gyd yn dychweled ato faes o law.
Yn ail, ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a phwysau’r gaeaf, fel yr ŷm ni’n ei nodi yn ein hadroddiad, mae dros 70 y cant o’r dyraniadau refeniw cyllidol ychwanegol a wnaed yn y gyllideb atodol hon yn mynd i'r portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon—yn bennaf, rhyw £75 miliwn i helpu i liniaru’r gorwariant a ragwelir gan fyrddau iechyd, a £50 miliwn i liniaru pwysau’r gaeaf.
Er bod y cyllid ychwanegol sy’n cael ei ddyrannu er mwyn lliniaru pwysau’r gaeaf i’w groesawu, rydym yn pryderu nad yw’r amrywiadau tymhorol hyn yn cael eu hystyried yn y broses gynllunio tair blynedd. Felly, mae’n siom i’r pwyllgor bod Llywodraeth Cymru heb fanteisio ar y cyfle sy’n cael ei roi yn Neddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 i sicrhau bod y byrddau iechyd yn cynllunio yn well dros gyfnod o dair blynedd.
Rydym, serch hynny, yn croesawu ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i archwilio’r posibilrwydd bod materion strwythurol ynghlwm wrth y gorwariant a welir gan rai byrddau iechyd. Fodd bynnag, rydym yn parhau i bryderu, os bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i achub croen byrddau iechyd sy’n gorwario, er mewn ffordd o dalu drwy’r adran yn hytrach nag i’r byrddau iechyd yn uniongyrchol, na fydd gan y byrddau iechyd unrhyw gymhelliant i weithredu polisïau gwariant llym er mwyn sicrhau eu bod yn cadw at eu cyllidebau.
Y trydydd maes yr oeddem ni’n adrodd yn ei gylch oedd y dyraniad yn y gyllideb atodol o £20 miliwn ychwanegol i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Pwrpas y dyraniad hwn yw at ddibenion lliniaru’r pwysau sy’n gysylltiedig â gweithredu’r argymhellion a gafwyd yn adroddiad Diamond. Credwn fod angen rhagor o waith craffu ar y drefn o gyllido addysg uwch, gan gynnwys monitro sut mae argymhellion adolygiad Diamond yn cael eu gweithredu. Byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i sicrhau bod y mater hwn yn cael ei ystyried. Os nad yw’n briodol i’r pwyllgor hwnnw ei ystyried, mae’n debygol y bydd y Pwyllgor Cyllid am wneud gwaith dilynol ar yr hyn yr edrychodd y Pwyllgor Cyllid blaenorol arno yn y Cynulliad diwethaf.
Y maes olaf sydd yn destun argymhellion gan y Pwyllgor Cyllid yw’r economi a’r seilwaith. Gwnaethom ni nodi bod dyraniadau refeniw i’r portffolio hwn, ac eithrio newidiadau nad ydynt yn newidiadau arian parod, wedi cynyddu bron £40 miliwn, a bod dyraniadau cyfalaf wedi cynyddu dros £45 miliwn. Daethom i’r casgliad y gallai’r dogfennau sy’n cyd-fynd â’r gyllideb atodol fod wedi darparu mwy o dryloywder ynghylch rhai o’r dyraniadau hyn, yn enwedig y cynnydd o dros £30 miliwn a welwyd yn y cam gweithredu sectorau mewn perthynas â blaenoriaethau datblygu economaidd a’r cyllid cyfalaf o £22 miliwn a ddarperir ar gyfer datblygu llwybr yr M4.
Cawsom ein synnu gan y dyraniad ar gyfer datblygu llwybr yr M4, yn enwedig o gofio fod y cyllid hwn yn bennaf ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus. Felly, rydym yn argymell bod y ddogfennaeth sydd ynghlwm â chyllidebau’r dyfodol yn darparu llawer mwy o fanylder a llawer mwy o dryloywder ynglŷn â phwrpas y dyraniadau. Gwnaethom nodi hefyd y benthyciad cyfalaf ychwanegol ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu proffil manwl o’r cyllid a ddarparwyd i Faes Awyr Caerdydd, a manylion ynghylch pryd y bydd symiau sy’n ddyledus yn cael eu had-dalu. Diolch yn fawr.
Cyn i fi alw ar y siaradwr nesaf, fe fydd Aelodau’n ymwybodol bod yna sain uchel iawn yn y Siambr ar hyn o bryd. Rŷm ni’n edrych i mewn i’r mater ac, os bydd angen, fe fyddaf yn gohirio’r sesiwn ar ddiwedd y ddadl yma. Ond, fe wnawn ni gario ymlaen am gyfnod. Adam Price.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch, fel arfer, i’r Ysgrifennydd cyllid am ei ddatganiad ac i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am rannu sylwadau ei bwyllgor ef ar yr ail gyllideb atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
Yn gyffredinol, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod i’n ategu’n fawr unwaith eto fyrdwn argymhellion y pwyllgor, a amlinellwyd gan fy nghyfaill Simon Thomas, ac yn benodol yn pwysleisio’r angen i fynd i’r afael â diffyg gwybodaeth a thryloywder unwaith eto, sydd yn mynd yn thema gyson gyda ni yn y dadleuon hyn.
Rŷm ni’n ddiolchgar, wrth gwrs, i’r Ysgrifennydd Cabinet am y nodiadau esboniadol a gawsom ni gyda’r gyllideb atodol—rhyw 50 o dudalennau. Ond nid da lle gellir gwell. Mae’r diffyg tryloywder, fel clywsom ni, yn amlwg iawn, er enghraifft, yn y materion sy’n ymwneud â’r gyllideb iechyd. Mae’r pwyllgor wedi tynnu sylw at hyn o’r blaen, ac yn benodol at sut mae’r gyllideb yn cael ei gwario rhwng gofal sylfaenol, eilaidd, gofal cymdeithasol, ac yn y blaen. Mae yna drosglwyddiad, er enghraifft, yn y gyllideb atodol o dros £15 miliwn o’r cam gweithredu polisïau cefnogaeth iechyd meddwl a deddfwriaeth i’r anghenfil o gam yna, y cam gweithredu cyllid craidd y gwasanaeth iechyd cenedlaethol, sef swm o dros £6.2 biliwn. Y pryder yn gyffredinol, wrth gwrs, yw y bydd yr arian yna yn cael ei lyncu gan y cam craidd ac yn anodd iawn i’w fonitro yn y dyfodol. Felly, fe fyddwn i’n ymbil ar yr Ysgrifennydd Cabinet unwaith eto i gynnig mwy o dryloywder yn y dyfodol ynghylch y dyraniadau yma yn gyffredinol ac yn sicr o fewn y gyllideb iechyd.
Mae yna sôn yn y gyllideb atodol am ddyraniadau ychwanegol o’r gronfa buddsoddi-i-arbed—£3.4 miliwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, £0.5 miliwn ar gyfer rhifedd a llythrennedd, er enghraifft, yn ogystal ag ad-daliadau i’r gronfa—hynny yw, y gronfa buddsoddi-i-arbed, ‘invest-to-save’, rydym ni’n sôn amdano fe fan hyn. Unwaith eto, nid oes llawer o fanylion pellach ar gael am y symiau a fenthycwyd ac a ad-dalwyd, na chwaith am amserlennu’r ad-dalu o dan y rhaglen yma.
Os ydym ni’n mynd i wneud ein priod waith yn y lle yma i graffu’n iawn ar effeithlonrwydd y gronfa, mae angen yr wybodaeth yma yn glir. Mi fyddai adroddiad blynyddol, fel yr argymhellwyd gan y pwyllgor, yn syniad da, felly. Yn gyffredinol, felly, y pryder sydd gyda ni—ac mae’n cael ei grisialu yn y cynnig yma ar gyfer y gyllideb atodol hefyd—yw bod yna ddiffyg tryloywder unwaith eto. Nid yw hynny yn caniatáu i ni, felly, ddal y Llywodraeth i gyfrif.
I have to say, in reference to the economy and infrastructure main expenditure group—and that has one of the largest capital transfers, about £80.6 million, for example—the problem there, and it’s a theme that was right at the heart of my friend the leader of Plaid Cymru’s recent speech in Plaid Cymru’s conference, is: how can we actually see that there is an equitable distribution of investment across Wales, you know, a Wales-wide approach to Government investment, on the face of this supplementary budget? It’s impossible to draw that conclusion based on the information that we’re given, other than to say that, actually, of the geographically identified projects, over 95 per cent of them are in Cardiff and south-east Wales. We’ve had reference already to the rather curious additional preparatory funding for the M4 project in south-east Wales, reference to Cardiff Wales Airport. There’s a reference in the supplementary information to reserves being held back for the Cardiff city deal. There’s the eastern bay link road, there’s the international conventions centre in Newport, and there’s the Heads of the Valleys work up in Brynmawr. So, the only exception outside of south-east Wales and Cardiff actually is £0.5 million to ActionAid in Swansea, and £4 million spread across Tata’s sites throughout Wales. I have to say to the Cabinet Secretary that it’s simply not acceptable. It may well be that, in the opacity of the supplementary budget, there are projects in north Wales and mid and west Wales and in the Valleys of Glamorgan that we don’t know about, but that’s the point: we don’t know about them, we can’t know about them, based on the information that we have, and, for those two reasons—the lack of transparency and the lack of evidenced equity of Government investment across Wales—we will be voting against this supplementary budget.
A gaf i groesawu trafodaeth heddiw ar y gyllideb atodol? Yn ôl pob tebyg nid y gyllideb sy'n cael y sylw mwyaf yn y byd gan y wasg—o leiaf yn y DU —yr wythnos hon. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod bod y gyllideb hon yn cynnwys proses reoli yn ystod y flwyddyn gyda’r nod o gyfochri adnoddau â blaenoriaethau—y broses braidd yn anodd honno, fel y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ati yn ei sesiynau gyda'r Pwyllgor Cyllid. Rydym hefyd yn cydnabod y cynnydd sy'n deillio o wariant uwch y Llywodraeth a throsglwyddiadau eraill a gafodd eu hystyried. A gaf i hefyd gytuno â sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Cawsom nifer o sesiynau defnyddiol yn y pwyllgor yn edrych ar hyn ac yn nodi llawer o'r meysydd y cyfeiriodd y Cadeirydd atynt, yn enwedig yr hyn y cyfeiriwyd ato gan argymhelliad 1, sy'n cwestiynu effeithiolrwydd gweithredu Bil cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n credu bod cwestiwn ehangach yn y fan yma am y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad yn ei phasio, a pha un a yw mewn gwirionedd yn cyflawni'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud ar lawr gwlad. Mae llawer o'r lleisiau dan sylw—. Mae llawer o'r pryderon a leisiwyd, ddylwn i ddweud, ar adeg pasio’r Bil fel petaent yn dwyn ffrwyth. Rydym angen i Lywodraeth Cymru ail-ymroi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei hymgorffori'n briodol o fewn diwylliant gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Ni ddylai fod yn ychwanegyn yn unig; dylai fod yno ar bob lefel, a dylai gael ei hystyried felly.
Rwyf am adael argymhelliad 2 ar y gronfa buddsoddi i arbed i’m cydweithiwr Mike Hedges—nid wyf yn gwybod hyn fel ffaith, ond rwyf yn siŵr ei fod am ddweud rhywbeth amdano; ydi, gallaf ddweud wrth ei wên ei fod —heblaw i ddweud fy mod yn credu bod buddsoddi i arbed wedi bod yn gynllun da yn y gorffennol ac yn cyflawni canlyniadau.
Yr hyn sy’n peri mwy o bryder, yn fy marn i, ac mae hyn yn dilyn ymlaen o rai o'r sylwadau a wnaed gan Adam Price, yw mater tryloywder. Rydym yn dychwelyd at hyn dro ar ôl tro, ym maes trafodaethau ar y gyllideb ond hefyd mewn meysydd eraill yr ydym yn eu trafod yma. Cyfeirir ato yn argymhelliad 3, yn benodol yn yr achos hwn diffyg tryloywder ynghylch y cyllid a ddyrannwyd yn y portffolio iechyd, llesiant a chwaraeon, a'r rhesymau dros y penderfyniadau ariannu sy’n aml fel petaent yn fwy adweithiol ac yn gysylltiedig ag ymdrin â phroblemau wrth iddynt ymddangos yn hytrach na mynd at wraidd y problemau hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn gallu, ac mae'n debygol y bydd, yn dadlau mai cyllideb atodol yw hon—ail gyllideb atodol—felly efallai na ddylem fod yn disgwyl gormod o hyn heddiw. Ond, mae'n gyllideb serch hynny ac mae'n gwneud rhai newidiadau allweddol i'r sefyllfa a oedd gennym o'r blaen. Felly, rydym yn edrych i weld bod newidiadau yn cael eu cefnogi’n dda gyda thystiolaeth dda, ac rydym yn sicr yn edrych, fel y dywedodd y Pwyllgor Cyllid, i’r newidiadau hyn gael eu holrhain ac i fod yn amlwg mewn prosesau pennu cyllidebau yn y dyfodol. Rydym wedi bod yn galw am hyn ers peth amser, ac yr ydym wir am weld tystiolaeth bendant a chadarn ar gyfer hyn wrth i ni symud ymlaen.
Gan droi at y rhan sy’n ymdrin â ffyrdd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, unwaith eto crybwyllodd Adam Price y £15 miliwn ar gyfer ffordd gyswllt dwyrain y bae. Fel yr wyf wedi ei ddweud yn y cyllidebau blaenorol, nid yw hyn wrth gwrs ar gyfer ffordd gyswllt dwyrain y bae i gyd—mae ar gyfer un rhan o un adran o'r ffordd gyswllt a fydd yn dod i ben ar y cylchfan i unman, fel y’i gelwir, ar Rover Way. Rwyf wedi cael problemau gyda hyn yn y gorffennol—ac rwyf yn dal i gael. Rwy’n cefnogi’r ffordd yn ei chyfanrwydd, ond rwyf yn cwestiynu a fydd gwerth am arian wrth gyflwyno un rhan o'r ffordd honno yn y tymor byr. Mae potensial i rai problemau tagfeydd mawr gael eu symud i rywle arall yng Nghaerdydd heb unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol i barhau i adeiladu gweddill y ffordd honno.
O ran y £22 miliwn ar gyfer datblygu llwybr yr M4, mae’r saga yn parhau yn y fan honno, onid yw hi? Roedd y pwyllgor yn pryderu nad oedd digon o wybodaeth yn y gyllideb am y £22 miliwn hwn. I fod yn deg, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, yn y sesiwn dystiolaeth, roi rhagor o fanylion, ond nid oeddent yno ar y dechrau. Rwy’n deall bod yr arian hwn ar gael i ddarparu cefnogaeth ar gyfer mwy o waith ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus ac i ymdrin â nifer uwch na'r disgwyl o wrthwynebiadau. Nid wyf yn hollol siŵr pam y disgwylid y byddai nifer is o wrthwynebiadau, oherwydd nid yw'r cynllun y lleiaf dadleuol yn y byd. Credaf y gellid bod wedi cynnwys hynny ar y dechrau.
Fel yr wyf yn dweud, i gloi, Lywydd, rwyf yn gobeithio y gall cyllidebau yn y dyfodol weld gwell tryloywder—y greal sanctaidd i'r Pwyllgor Cyllid. Fel y dywedais ar y dechrau, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cydnabod y rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau a wnaed yn yr ail gyllideb atodol hon a’r trosglwyddiadau cyllid dan sylw. Fodd bynnag, gan fod gennym broblemau â thryloywder a bod gennym broblemau â'r gyllideb wreiddiol y mae'r ddwy gyllideb atodol wedi eu seilio arni, ni allwn gefnogi'r gyllideb atodol hon.
Diolchaf i Nick Ramsay am ei gyfraniad. Roeddwn yn teimlo bod y casgliad 'ni allwn gefnogi' braidd yn Ddelffig, am ei fod yn gadael dau ddehongliad posibl.
Y sefyllfa a ganfyddwn ar y gyllideb hon yw nad oedd UKIP yn rhan o'r Cynulliad ar adeg pasio’r gyllideb gychwynnol ar gyfer eleni. Mae nifer o'r newidiadau o ben i ben neu’r prif grwpiau gwariant, rwy’n credu, yn anodd eu gwrthwynebu. Rwy'n credu bod gennym ychydig o faterion penodol. Cytunaf â'r hyn a ddywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid am Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n rhaid i mi ganmol Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod o leiaf wedi paratoi’n dda, yn fy marn i, ar gyfer ein cwestiynau ar y maes hwnnw o ran sut yr oedd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi dylanwadu ar ffurfiant y gyllideb atodol. Dywedodd wrthym am y £10 miliwn ar gyfer ffordd Blaenau'r Cymoedd—a oedd yn ymwneud â Chymru fwy ffyniannus—ac yna £16 miliwn ar gyfer y gronfa triniaethau newydd—a oedd yn ymwneud â Chymru iachach. Felly, llongyfarchiadau ar hynny, ond rwyf yn teimlo ein bod yn dal i fod heb ein hargyhoeddi ynghylch y graddau y mae’r Ddeddf hon yn mynd i graidd y mater ac yn penderfynu ar gamau gweithredu’r Llywodraeth i'r graddau y byddai’r rhai sy’n ei chanmol yn ei honni.
Cawsom drafodaeth ddiddorol iawn, yn fy marn i, yn y pwyllgor gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gorwariant o fewn y MEG iechyd, ac rwy'n credu ei fod wedi gwneud achos cryf ynghylch pam yr oedd yn briodol cyllido’r gor-ariannu hwnnw ar lefel gyffredinol y MEG iechyd. Ond, nid oedd eisiau cynyddu'r gyllideb i gydnabod y gorwariant hwnnw oherwydd byddai hynny'n lleihau'r cymhelliant i reoli gwariant yn briodol yn y dyfodol, ond hefyd oherwydd bod y gorwario hwnnw, yn fy marn i, yn anad dim mewn meysydd yr oedd yn credu ar sail angen eu bod yn cael dyraniad uwch. Yn sicr, pe byddem yn edrych ar ganlyniadau incwm ac iechyd ar fformiwla, roedd gan fy ardal i yn y de-ddwyrain o bosibl ddyraniad cymharol lai o'r blaen, a byddai cydnabod y gorwariant hwn mewn mannau eraill yn golygu y byddai’n cael ei wneud yn bendant, a chytunasom na fyddai honno yn ffordd briodol ymlaen.
Mae'r gwaith ar yr ochr seilwaith—y £15 miliwn ar gyfer ffordd liniaru dwyrain y bae—o leiaf yr wyf yn credu ei fod yn welliant y gallwn wedyn ddefnyddio Rover Way i gyrraedd y gylchfan, ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud unrhyw beth ynglŷn â phryd y mae’n bwriadu ymgymryd â’r gwaith deuoli, i gwblhau beth fyddai i bob pwrpas yn ffordd gylchol ar gyfer Caerdydd, ac yn gwneud y £15 miliwn hwnnw ei hun yn llawer mwy cynhyrchiol o ran ei wariant?
Mae fy mhrif bryderon—a bydd gennyf ddiddordeb mawr clywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i’w ddweud mewn ymateb—unwaith eto yn ymwneud â'r setliad cyllido addysg uwch. Yng ngoleuni'r dystiolaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd y Pwyllgor Cyllid:
Ni weithredwyd ar y pryd y trosglwyddiad technegol o £21.1 miliwn o gyllideb CCAUC i'r llinell gyllideb y telir y grant ffioedd dysgu ohoni.
Gan hynny roeddem yn golygu yn y gyllideb derfynol. Yna, dywedasom:
Mae'r Gyllideb Atodol hon yn adfer y cam o drosglwyddo’r £21.1 miliwn hwn'.
A yw'n gywir mai trosglwyddiad technegol yw hwn, neu a yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn gywir â’r hyn a ddywedodd wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg? Dywedodd hi:
Cyhoeddais lythyr cylch gwaith diwygiedig i CCAUC ar 17 Hydref, a oedd yn nodi’n glir bod y wybodaeth ddiweddaraf gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn awgrymu y bydd gwariant ar y TFG yn fwy na’r amcangyfrifon gwreiddiol o £257.6m ar gyfer 2016-17. Felly, byddwn yn mynd ati i drosglwyddo £21.1m o CCAUC i Lywodraeth Cymru yn yr ail gyllideb atodol yn rhannol i dalu am y gwariant ychwanegol.
Felly, a yw’r trosglwyddiad hwnnw’n fater technegol, neu a yw'n cael ei ysgogi gan yr angen i gyllido’r costau uwch? A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn egluro'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel cael ei ffurfioli yn y gyllideb hon, yr oeddem wedi cyfeirio ato yn y pwyllgor fel dyraniad ychwanegol o £20 miliwn i CCAUC ar gyfer cyfres o fesurau i ymdrin â phwysau ariannol nawr ac yn y dyfodol yn ymwneud â gweithredu argymhelliad adroddiad Diamond? Hynny yw, onid yw adolygiad Diamond oherwydd ein bod yn cydnabod bod cynnal y grant ffioedd dysgu fel yr oedd yn anghynaladwy, ac roedd costau hynny yn cynyddu’n gyflym, ac roedd am gymryd arian o fannau eraill yng nghyllideb Cymru? Pam, er gwaethaf adolygiad Diamond, yr ydym yn dal i fod â’r pwysau, ac mae gweithrediad adolygiad Diamond yn rheswm arall i ddod o hyd i hyd yn oed fwy o arian i’w roi yn y gyllideb hon? Ai blaenoriaeth ei Lywodraeth mewn gwirionedd yw rhoi cymaint o arian â phosibl i mewn i ddosbarthu grantiau i fyfyrwyr, yn hytrach na’i roi mewn meysydd o'r economi a’r seilwaith, ac yn hytrach na’i roi i mewn i'r gwasanaeth iechyd? Croesewir y ffaith nad yw bellach yn mynd ar sail prawf modd i deuluoedd sy'n ennill £81,000, ond eto, a oes ganddo’r arian mewn gwirionedd, ac ai ei flaenoriaeth ef mewn gwirionedd yw amddifadu meysydd gwariant eraill er mwyn canolbwyntio gwariant ar y maes hwn, i raddau mor helaeth?
Rwy’n siarad o blaid yr ail gyllideb atodol, ond mae tri phwynt yr hoffwn eu codi. Yn gyntaf, ar y gyllideb iechyd, yn ôl y dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cyllid—ac rwyf am ddyfynnu o'r adroddiad—
Mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys £180 miliwn o refeniw cyllidol, neu refeniw arian parod, £4 miliwn o refeniw nad yw'n arian parod a £3 miliwn o gyfalaf i'r portffolio Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. O'r dyraniadau refeniw cyllidol ychwanegol a wnaed i adrannau, mae 71.5% yn mynd i'r portffolio hwn.'
Mae'n 71.5 y cant pan fo’r gyllideb yn nes at 50 y cant, felly petai wedi ei gael ar sail pro rata yn unig byddai wedi bod yn rhedeg ar tua 50 y cant, yn hytrach na 71.5 y cant.
'Mae hyn yn cynnwys £75.9m i helpu i fynd i’r afael â gorwariant o’i gymharu â’r rhagolygon gan fyrddau iechyd (cyhoeddwyd £68.4m ym mis Tachwedd a dyrannwyd £7.5m arall ym mis Ionawr).'
Roedd hynny’n syndod. Fy mhrofiad i o fyrddau iechyd a'r hen fyrddau ysbyty oedd eu bod yn gorwario yn y chwarter cyntaf —yn aruthrol—yn gorwario ychydig yn yr ail chwarter, ac yna’n dechrau dod â phethau yn ôl yn y trydydd a'r pedwerydd chwarter. Yr hyn yr ydym wedi ei weld yma mewn gwirionedd yw parhau i orwario yn y trydydd chwarter, sydd i mi yn syndod, yn siomedig ac yn creu problemau.
£50m i liniaru pwysau’r gaeaf ac i gynnal a gwella perfformiad yn ystod cyfnod y gaeaf; £27m i fynd i'r afael â'r diffyg incwm amcanol yn sgil y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol; £16m i gefnogi lansiad y Gronfa Triniaethau newydd; £1m ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans awyr.'
Mae cyllid ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi ei gynnwys mewn ail gyllidebau atodol yn y blynyddoedd diweddar; £50 miliwn yn 2016-17; £45 miliwn yn 2015-16 a £40 miliwn yn 2014-15.'
Rwy'n fodlon cael fy nghywiro gan eraill, ond nid yw wedi bod yn aeaf arbennig o oer, ac nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth o achos mawr o ffliw, felly nid wyf yn deall pam mae angen i arian ychwanegol ar gyfer pwysau’r gaeaf fod yn y gyllideb atodol. Naill ai mae ei angen bob blwyddyn, ac fe ddylai fod yn y gyllideb sylfaenol, neu nid oes ei angen.
A gaf i droi at argymhelliad 1 y pwyllgor, sef y dylai Llywodraeth Cymru adolygu a oes unrhyw ffactorau strwythurol, nad ydynt yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn nyraniadau’r byrddau iechyd, sy'n effeithio ar allu’r byrddau iechyd i ddarparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau a ddyrannwyd iddynt. Llywodraeth Cymru ddylai roi unrhyw newidiadau i'r dyraniadau cyllid ar waith?
Os oes dau fwrdd iechyd angen arian ychwanegol bob blwyddyn, yna naill ai mae’r fformiwla sy’n dyrannu'r cyllid yn anghywir ac yn golygu nad ydynt yn cael digon o arian—sy'n golygu eu bod yn gorfod gofyn am arian ychwanegol bob blwyddyn—neu nid ydynt yn rheoli eu hadnoddau’n effeithiol, neu gyfuniad o'r ddau. Rwy’n falch dros ben bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi dweud yn y Pwyllgor Cyllid ei fod yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon er mwyn canfod a oedd materion yn sail i'r gorwariant a oedd y tu hwnt i reolaeth y byrddau iechyd dan sylw.
Ond ni allwn barhau i gynyddu canran yr arian yr ydym yn ei wario ar iechyd—nes i ni gyrraedd 100 y cant; bryd hynny, mae'n rhaid i ni stopio. Ond mae llawer iawn o wasanaethau eraill hefyd. Rwy’n mynd i fod yn ddiflas nawr, oherwydd fy mod yn dweud hyn drwy'r amser: dylem fod yn gwario mwy o arian ar geisio atal pobl rhag bod yn sâl yn y lle cyntaf, gwella iechyd pobl, ceisio gostwng diabetes math 2 drwy wneud i bobl golli pwysau a pheidio â chyrraedd y sefyllfa honno, ceisio cael pobl i symud mwy fel nad ydynt yn tueddu i gael y problemau sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch. Ac yn bwysicaf oll—yr oeddwn am ddyfynnu David Melding am rywbeth a ddywedodd rai blynyddoedd yn ôl, cyn i mi ddod yn Aelod yma—y peth pwysicaf y gellir ei wneud yw atal pobl rhag ysmygu. Ac os gallwn wneud mwy i atal pobl rhag ysmygu, yna gallwn ymdrin â rhai o'r problemau iechyd. Y peth arall yw—ac rwyf wedi dweud hyn lawer gwaith o'r blaen, ond rwy'n mynd i’w ddweud eto—a allwn ni sicrhau nad yw meddygon yn ymgymryd ag ymyraethau sydd naill ai’n gwneud drwg neu'n gwneud dim lles?
Yn fyr, ar ddau bwynt arall: mae fy nghefnogaeth i fuddsoddi i arbed yn gwbl hysbys, ac rwyf yn diolch i Nick Ramsay am fy arwain i ar hyn, ond byddai dalen incwm a gwariant yn ddefnyddiol iawn. Rwy’n deall y bydd rhai cynlluniau buddsoddi i arbed yn cymryd mwy o amser i’w talu yn ôl nag yr ydym yn ei ddisgwyl. Mae hynny'n anochel, ac os na fyddent, ni fyddem yn defnyddio'r cynllun yn effeithiol oherwydd na fyddem ond yn chwarae’n saff. Mae gennym grŵp o bobl resymol ar y Pwyllgor Cyllid, ac rwyf yn credu os byddwn yn gweld bod rhai ohonynt yn cymryd pum mlynedd yn hytrach na thair blynedd, ond bod y bwriad yno, yna nid ydym yn mynd i feirniadu ac ymosod ar y Llywodraeth am wneud rhywbeth os yw'n gwneud lles. Mae hefyd yn golygu y gall pobl adnabod y rhai nad ydynt yn werth eu hefelychu mewn meysydd eraill. Nawr, rwyf yn credu mai’r perygl yw, os nad ydym yn nodi’r rhai sy'n cymryd ychydig mwy o amser i dalu yn ôl, gallai pobl benderfynu efelychu’r rheiny pan nad yw'n fanteisiol.
Yn olaf, mae nifer o newidiadau yn y gyllideb atodol yn gysylltiedig ag ariannu benthyciadau i fyfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio system fodelu gymhleth i amcangyfrif y gost o ddarparu benthyciadau i fyfyrwyr a gwerth presennol y llyfr benthyciadau presennol. Fy mhryder i yw—ac nid yw ar gyfer y gyllideb atodol hon, ond mae'n cael ei grybwyll mewn ffordd ar gyfer y Llywodraeth—30 mlynedd ar ôl dechrau’r system benthyciadau, bydd benthyciadau’n dechrau cael eu dileu. A oes unrhyw risg yn wynebu Llywodraeth Cymru pan fyddwn yn dod at ddileu’r benthyciadau i fyfyrwyr cyntaf? Pwy fydd yn talu’r gost? Pan fyddwn yn cyrraedd yr adeg o 30 mlynedd wedi iddynt fynd i fyny i £9,000, mae'n mynd i fod yn waeth byth. Felly, dim ond cwestiwn ydyw mewn gwirionedd—nid ar gyfer nawr, ond efallai ar gyfer y dyfodol. Beth fydd yn digwydd â'r benthyciadau i fyfyrwyr wrth iddynt beidio â chael eu talu?
Cytunaf yn llwyr â Mike Hedges am wario mwy o arian ar atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf. Hoffwn godi rhai pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch ffordd liniaru dwyrain y bae, oherwydd nid oes pwynt adeiladu ffordd ac yna dim ond cwblhau tri chwarter ohoni. Ar ôl gwneud y ffordd gyswllt, yr unig beth sy’n rhaid i ni ei wneud yw ei chwblhau, a bydd y swm bach o arian hwn, yn gymharol, i’r gost gyffredinol, mewn gwirionedd yn—. Rydych chi’n dweud nad oes unrhyw beth yn digwydd yn Rover Way; mewn gwirionedd mae yn ei chysylltu, wedyn, â’r A48, ac rwy'n gobeithio y bydd wedyn yn mynd â llawer o draffig oddi wrth Heol Casnewydd brysur iawn—yn enwedig y pen preswyl ohoni.
Diolch am ildio. Rwy'n credu mai’r gair allweddol a ddefnyddiwyd gennych yn y fan yna, Jenny, oedd 'gobeithio', ac ie, yn y pen draw, byddem yn gobeithio y byddai llawer o draffig yn cael ei symud o'r canol, ond fy mhwynt i yw: tan y bydd cynlluniau i adeiladu’r ail ran o ffordd gyswllt dwyrain y bae, mae rhan gyntaf ffordd gyswllt dwyrain y bae yn bygwth gwneud pethau'n llawer gwaeth i Rover Way.
Ar ôl gwneud y cyswllt hwn, rwyf yn credu y bydd hynny, wedyn, yn ei chwblhau, ond nid wyf wedi edrych ar y manylion yn ddiweddar. A dweud y gwir, os nad yw'n gwyro’r ffordd, bydd yn rhaid i ni gymryd camau eraill i sicrhau ei fod yn gwneud hynny. Roeddwn eisiau defnyddio'r cyfle hwn i siarad am y cynnig gofal plant yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac edrych ar faint o arian sydd wedi ei ddyrannu hyd yma i gyflawni'r adduned honno. Mae £10 miliwn eleni yn y gyllideb cymunedau a phlant i dreialu'r adduned gofal plant am 30 awr yr wythnos am 48 wythnos y flwyddyn, sy’n adduned uchelgeisiol iawn, ac rwy’n ei chroesawu’n fawr. Mae £20 miliwn arall wedi ei ddyrannu yn y gyllideb addysg ar gyfer y flwyddyn ganlynol i fuddsoddi mewn lleoliadau gofal plant ochr yn ochr â rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif. Nodaf fod Carl Sargeant wedi dweud wrth y pwyllgor plant a phobl ifanc, yn ôl ym mis Tachwedd, mai'r amcangyfrif gorau ar hyn o bryd o’r gost flynyddol o gyflawni'r adduned gofal plant yn gyffredinol yw £100 miliwn. Felly, 30 awr o addysg a gofal plant y blynyddoedd cynnar yn rhad ac am ddim i rieni sy'n gweithio, gyda phlant sy’n dair a phedair oed—yn amlwg, mae gan yr holl blant hynny hawl i 10 awr o addysg feithrin o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed. Felly, yr her yw darparu'r 20 awr arall o ofal plant, ynghyd â 30 awr yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae darpariaeth y blynyddoedd cynnar yng Nghymru wedi canolbwyntio ar anghenion datblygiadol plant ifanc hyd yma. Mae'r cyfnod sylfaen a Dechrau'n Deg wedi eu seilio ar dystiolaeth o'r hyn sy'n cael yr effaith fwyaf ar gyfleoedd bywyd plant, ond maen nhw’n strategaethau costus. Mae lle gofal plant Dechrau'n Deg yng Nghymru yn costio £11.32 o'i gymharu â’r £5.62 yr awr y mae darparwr gofal plant yn Lloegr yn ei gael am le gofal plant difreintiedig. Yng Nghaerdydd, mae heriau penodol i ddiwallu’r adduned gyffrous iawn hon. Mae gennym 26 o ysgolion cynradd gyda darpariaeth feithrin ar hyn o bryd, ond nid yw dim ond ymestyn oriau plant o fod yn yr ysgol i 30 yn bosibl am fod 3,300 o leoedd yn cael eu darparu ar y cyfan mewn dwy garfan. Felly, mae gennych feithrinfa’r bore a meithrinfa’r prynhawn, i gyd yn yr un ystafell. Felly, bydd yn rhaid dod o hyd i atebion eraill a, beth bynnag, nid oes gan ysgolion canol dinas fawr o gapasiti sbâr i ehangu oherwydd eu bod wedi eu hamgáu gan adeiladau eraill.
Mae rhai enghreifftiau da o ofal cofleidiol yn fy etholaeth i yn Ysgol y Berllan Deg, sydd â meithrinfa ddwyieithog breifat yng ngwaelod yr ardd, ac yn Ysgol Gynradd Parc y Rhath, sydd â meithrinfa breifat rownd y gornel. Yn y ddau achos, maent yn ddigon agos at yr ysgol i blant tair oed i allu cerdded yno ar gyfer eu hawl meithrin. Mae'r rhain yn enghreifftiau da o gydweithio cyhoeddus-preifat, ond mae rhannau eraill o’m hetholaeth yn annhebygol o weld atebion marchnad i ddarparu’r adduned hon. Un ardal o'r fath yw ward Pentwyn, sef y stad dai fwyaf yng Nghymru. Yr unig gynnig gofal plant ar hyn o bryd yw gwarchodwyr plant. Yn ddiweddar, ymwelais â’r ganolfan wych i blant yn Nhrelái, yn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet, sy'n darparu addysg meithrin a gofal plant rhagorol yn ogystal ag arweinyddiaeth broffesiynol ar gyfer darparwyr blynyddoedd cynnar eraill. Ond dyma’r unig ganolfan i blant yng Nghaerdydd gyfan: y ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn y DU a'r fwyaf yng Nghymru. Yn fy marn i bydd angen llawer mwy o ganolfannau plant fel Trelái os yw'r adduned 30 awr am gael ei darparu i bob rhiant sy'n gweithio, nid yn unig y rhai yn yr ardaloedd mwy cefnog lle bydd y farchnad yn darparu. Mae rhywfaint o dystiolaeth o hynny o'r profiad yn Lloegr. Felly, rwyf yn credu bod hwn yn fater y bydd angen i ni ei ystyried ymhellach pan fyddwn yn trafod y gyllideb yn y dyfodol.
Rydw i’n galw nawr ar yr Ysgrifennydd Cabinet i ymateb i’r ddadl.
Wel, diolch yn fawr, Lywydd.
Can I begin by thanking Simon Thomas for what he said on behalf of the Finance Committee? I look forward to replying to the recommendations that the Finance Committee has made in detail. I’ll do my best to be as constructive as possible and as informative as possible in doing so. I could, though, associate myself for a moment with the point made by the Delphic Nick Ramsay, when he said that drawing general conclusions from a supplementary budget may not be the most sensible course of action. And in the speeches we’ve heard this afternoon there are some valiant attempts to create very large super structures on the narrow foundations of what is, after all, a technical standard part of the financial management process. I’ve agreed previously with the Finance Committee about the fact that more has to be done to draw on the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 in the way that we shape these things. I came to the Finance Committee with what I thought was a very genuine attempt to try and illustrate some of the ways in which the decisions made in the supplementary budget reflect the advice of that Act. But a supplementary budget is never going to be the complete answer to an Act of that sort, and I look forward to doing more on it in the future.
As far as invest-to-save is concerned, the invest-to-save scheme already publishes every year an annual report into its work, and my predecessor, Jane Hutt, provided the last Finance Committee with exactly what Mike Hedges asked for in terms of an income and expenditure layout, and if it’s helpful, I’m happy to update that for the current Finance Committee.
Can I just attempt to answer some of the points raised by Mark Reckless, particularly in relation to the education MEG? As far as revenue is concerned, this supplementary budget contains three main additions to the education resources: £3.5 million to contribute towards student finance pressures, and that is because we have cohort protection for students in the current system as we move to Diamond; £4.47 million as a down payment on this Government’s commitment to £100 million to raise school standards over this Assembly term; and then £20 million for the Higher Education Funding Council for Wales for the four purposes that I set out in front of the Finance Committee when I was before it.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Wrth gwrs.
Felly, a yw'r £21.1 yn ailddosbarthiad technegol, neu a yw er mwyn talu am fynd y tu hwnt i’r gyllideb?
Clywais yr Aelod yn gwneud y pwynt hwnnw yn ei gyfraniad, Lywydd. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn rhoi'r ateb mwyaf cywir i'w gwestiwn, felly byddaf yn ymateb iddo ar wahân i drafodaeth heddiw i wneud yn siŵr ei fod yn cael yr adroddiad mwyaf cywir mewn ymateb i'w ymholiad.
A gaf i ddweud yn gyffredinol mewn perthynas ag iechyd nad yw’r Llywodraeth hon yn ymddiheuro o gwbl am ddefnyddio cyfleoedd sy'n dod i’r amlwg i fuddsoddi ymhellach yn y gwasanaeth iechyd? Dyna fu ein blaenoriaeth erioed; bydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Wrth gwrs rwy’n cytuno â phwynt Mike Hedges mai gwell rhwystro’r clwy na’i wella, ond mae’r Aelodau yma wedi clywed datganiad y prynhawn yma ar wasanaethau strôc. Ni fydd unrhyw Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am iechyd byth mewn sefyllfa i ddweud wrth rywun sydd eisoes wedi cael strôc ac sydd angen triniaeth, 'Mae'n ddrwg gen i, nid ydych am gael y driniaeth honno am fy mod wedi dargyfeirio arian i atal rhywun arall rhag dioddef yn y ffordd hon yn y dyfodol.' Nid yw'n bosibl gweithredu yn y modd hwnnw. Mae'n rhaid i chi rywsut ymdrin ag anghenion gwirioneddol heddiw ac ar yr un pryd gwneud ein gorau glas i ddod o hyd i ffyrdd o fuddsoddi fel y gallwn atal pwysau yn y dyfodol.
Lywydd, a gaf i orffen trwy droi at yr hyn yr oeddwn yn credu oedd yn gyfraniad hynod o annoeth gan Adam Price? Bydd yn falch o wybod bod neges Plaid Cymru i bobl Caerdydd fod Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud gormod iddynt, a bod gormod o arian yn cael ei wario yng Nghaerdydd eisoes yn dra adnabyddus i—. [Ymyriad.] Na, wna i ddim. Na, na. Mi gaiff ef wrando arna i am unwaith. Nid wyf yn ildio, Lywydd.
Nid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn ildio.
Nid wyf yn ildio. Caiff ef wrando am eiliad. Bydd yn falch o wybod bod fy etholwyr i eisoes wedi clywed y neges honno yn gwbl glir gan ei blaid. Cyn belled ag y maen nhw yn y cwestiwn, mae’r Llywodraeth Cymru hon yn gwario gormod arnynt, a dylid cymryd arian oddi wrthynt i'w wario yn rhywle arall. Ond yn fwy rhyfedd fyth, Lywydd—yn llawer mwy rhyfedd—fydd y ffaith ei fod yn bwriadu bwrw ei bleidlais y prynhawn yma i amddifadu’r cyhoedd sy'n byw yn ei etholaeth—ac, yn wir, etholaethau bron pob Aelod arall o Blaid Cymru y gallaf eu gweld—o’r cymorth y byddai’r gyllideb atodol hon yn ei roi iddynt: yr arian y mae’r gyllideb hon yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda; yr arian y bydd y gyllideb hon yn ei darparu i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr; yr arian sy'n ei gwneud yn bosibl i wasanaethau barhau i gael eu darparu— [Ymyriad.] Rwyf eisoes wedi dweud wrtho nad wyf am ildio. Felly, yr arian y bydd y gyllideb atodol hon yn ei ddarparu i bobl sy'n byw yn ei etholaeth—[Ymyriad.]—a bydd yn pleidleisio heddiw i wrthod y cymorth hwnnw iddynt. Roedd yn gyfraniad hynod o annoeth. [Ymyriad.] Rwyf yn gobeithio na fydd Aelodau eraill yn teimlo rheidrwydd i’w ddilyn yn y ffordd honno. Bu’n bosibl i ni glustnodi cronfeydd wrth gefn drwy ein rheolaeth ariannol ofalus. Byddwn yn parhau â’r rheiny lle y gallwn i'r flwyddyn ariannol sydd i ddod. Rydym wedi eu defnyddio yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus—byddant yn cefnogi blaenoriaethau allweddol, byddant yn darparu arian wrth gefn ychwanegol. Mae pasio’r gyllideb atodol hon yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn siŵr bod y pethau y mae pobl ledled Cymru yn dibynnu arnynt bob dydd yn parhau i gael—
Pwynt o drefn, Lywydd—
Nid oes unrhyw bwynt o drefn. Ysgrifennydd y Cabinet, parhewch. Ysgrifennydd y Cabinet sydd â’r llawr.
Am y rheswm hwnnw, rwyf yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n fodlon ei gefnogi y prynhawn yma. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.