11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 28 Mawrth 2017.
Felly, rydym yn symud ymlaen at grŵp 3 ac mae grŵp 3 yn ymwneud â sylwadau gan awdurdodau lleol ar gyfraddau treth a bandiau treth. Gwelliant 30 yw’r prif welliant a’r unig welliant yn y grŵp yma. Galwaf ar Steffan Lewis i gynnig ei welliant ac i siarad am y gwelliant.
Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 24 sy’n ymwneud â bandiau a chyfraddau treth. Effaith y gwelliant fyddai galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno sylwadau a chynigion arloesol ynghylch bandiau a chyfraddau treth trafodiadau tir i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn cyflwyno cyfle euraidd i deilwra gweithredu’r dreth yn unol ag amcanion polisi amrywiol y Llywodraeth ond hefyd yn ôl anghenion penodol gwahanol gymunedau Cymru.
Mae hwn yn gyfle mawr y bydd y Llywodraeth ac awdurdodau lleol yn gallu manteisio arno. Bwriad ein gwelliant, felly, yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn medru archwilio posibiliadau’r Bil hwn ac i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru yn y gobaith o weithredu ar y fath bosibiliadau. Er enghraifft, mae’n ddigon posib y gall awdurdod lleol weld yr angen dros amrywio cyfradd uchaf y dreth ar eiddo preswyl ychwanegol o fewn ardal benodedig sydd o dan ei reolaeth. Mae’n ddigon rhesymol, felly, bod awdurdod lleol yn medru gwneud sylw i Lywodraeth Cymru ynghylch y fath amrywiad i’r dreth ac mae’r gwelliant yma yn diogelu bod modd iddynt wneud hyn yn y dyfodol ac yn ffurfiol. Ond, wrth gwrs, rwyf yn gobeithio y bydd yna werthfawrogiad ar draws y Siambr mai’r bwriad yma yw i fod yn greadigol ac i weld a oes yna ffyrdd o ddefnyddio ein pwerau ‘fiscal’—newydd, bychain ar hyn o bryd—er mwyn gweithredu ar amcanion polisïau mwy eang. Bydd diddordeb mawr gennym ar y meinciau yma i wrando ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwyf o blaid creadigrwydd, ond mae gwahaniaeth rhwng creadigrwydd ac ansefydlogi. Rwy’n meddwl, er bod datganoli trethi yn caniatáu i'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wneud pethau'n wahanol yma, a thros amser, byddem yn disgwyl i hynny ddigwydd, os ydych yn dilyn y wireb yn y lle cyntaf y dylai’r system a'r drefn yma fod yn ddrych mor agos ag sy'n bosibl o’r un ar draws y ffin er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a phontio llyfn, yna rwy'n credu y byddai'n annoeth i wneud y math hwn o newid ar hyn o bryd. Steffan Lewis, rydych yn dymuno rhoi gallu i wneud sylwadau i awdurdodau lleol. Wrth gwrs, gall awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu eu bod yn ôl pob tebyg yn gwneud llawer o sylwadau i Lywodraeth Cymru nad yw yn aml yn awyddus i’w clywed. Felly, mae’r gallu hwnnw ganddynt ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hollol glir beth yw'r rheswm llawn tu ôl i hyn. Rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn anesmwyth pan fyddwch yn dweud y gall fod amodau lleol mewn unrhyw ardal awdurdod lleol a fyddai'n gweld yr angen i amrywio yn benodol cyfraddau uchaf y tâl hwn. Nid oeddech yn hollol glir ynghylch hynny yn eich cyfraniad. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn anffodus nid ydym yn gallu cefnogi hyn, ond edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud mewn ymateb.
Rwy’n derbyn amheuon a fynegodd Nick Ramsay. Fodd bynnag, mae UKIP yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru sy’n caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru ynghylch bandiau treth a chyfraddau treth. Rydym yn credu, yn gyffredinol, y dylid datganoli pwerau i'r lefel isaf posibl o Lywodraeth. Mae hyn yn cefnogi'r egwyddor o leoliaeth, a gwnaethom ddatgan y polisi hwn yn fras yn ein maniffesto Cynulliad Cymru y llynedd. Felly, rydym yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yng Ngham 2 o flaen y Pwyllgor Cyllid, cafwyd trafodaeth o welliant a gyflwynwyd gan Steffan Lewis a fyddai wedi galluogi awdurdodau lleol i wneud sylwadau am y gyfradd dreth uwch. Rwy'n ddiolchgar am gyfleoedd dilynol i drafod y mater gyda'r Aelod, oherwydd nid oes gennyf unrhyw anhawster gyda'r egwyddor gyffredinol bod angen i ni ymgysylltu ag awdurdodau lleol ar effaith cyfraddau uwch ar gymunedau, ac y gallai’r effaith honno gynnwys trafodaeth am gyfraddau a bandiau. Ond fel y mae Nick Ramsay wedi dweud eisoes, mae awdurdodau lleol yn gallu mynegi eu barn ar unrhyw agwedd ar y Bil hwn ar unrhyw adeg o dan y ddeddfwriaeth llywodraeth leol bresennol. Nid oes angen i awdurdod lleol gael y pŵer yn y Bil hwn i wneud sylwadau; mae’r pŵer hwnnw ganddynt yn awr.
Mae nifer o anawsterau ymarferol gyda'r gwelliant yn ogystal, fel y’i cyflwynir y prynhawn yma, sy'n golygu na allaf ofyn i gefnogwyr y Llywodraeth bleidleisio drosto. Yn gyntaf, rwy'n cael fy nghynghori y gallai gwelliant sy'n datgan y caiff yr awdurdod lleol wneud sylwadau am gyfraddau a bandiau mewn gwirionedd fwrw amheuaeth ar p'un a all eraill wneud sylwadau o'r fath, neu a all awdurdod lleol wneud sylwadau am faterion eraill, megis gweithrediad y dreth yn fwy cyffredinol.
Yn ail, mae pryderon y byddai’r gwelliant hwn, i bob pwrpas, yn cyflwyno proses statudol y mae'n rhaid ei dilyn cyn bod y cyfraddau a bandiau yn cael eu hamrywio. Byddai hyn yn ddigynsail o ran treth y DU, ac yn tanseilio'r egwyddor y dylai penderfyniadau am gyfraddau a bandiau orwedd gyda'r Llywodraeth a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Llywydd, wedi dweud hynny i gyd, gadewch i mi danlinellu fy nghefnogaeth i'r bwriad sylfaenol y tu ôl i welliant 30. Er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymwybodol o'r cyfle sydd ganddynt eisoes i fynegi barn ar weithrediad y cyfraddau uwch yn eu hardal, gan gynnwys trafodaeth ar gyfraddau a bandiau, ysgrifennaf at awdurdodau lleol yn dilyn etholiadau mis Mai eleni i dynnu eu sylw at yr ymrwymiad yr wyf wedi’i wneud heddiw i ymgysylltu â hwy ar weithrediad y cyfraddau uwch yn eu cymunedau. Mae’n rhaid i’r ymgysylltu hwnnw gael ei lywio’n briodol gan dystiolaeth. Pan fydd y dreth yn mynd yn fyw, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn casglu ac yn cadw’r data perthnasol. Gallaf gadarnhau'r prynhawn yma y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn dadansoddi data treth trafodiadau tir o ran y gyfradd uwch ar sail awdurdod lleol. Bydd y dadansoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio trafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith y cyfraddau uwch yn eu hardaloedd. Yn fwy eang, bydd y dystiolaeth hefyd yn cefnogi edrych yn ehangach ar effaith y cyfraddau uwch ar gymunedau, unwaith y bydd y dreth trafodiadau tir yn weithredol. Rwy'n bwriadu cyhoeddi fy nghynllun gwaith treth ar gyfer y 12 mis nesaf yn hwyr yn y gwanwyn, ochr yn ochr ag ysgrifennu at awdurdodau lleol, fel y gall y camau hyn ategu ei gilydd.
Llywydd, er nad wyf yn gallu cefnogi gwelliant 30, rwy’n gobeithio fy mod i wedi dweud digon ar y cofnod y prynhawn yma i ddangos bod hwn yn fater y gall awdurdodau lleol wneud sylwadau arno, y byddwn yn sicrhau bod eu gallu i wneud hynny yn cael ei dynnu yn weithredol i’w sylw, a bydd y gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod unrhyw sylwadau o'r fath yn derbyn ymateb cytbwys gan y Llywodraeth.
Galwaf ar Steffan Lewis i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rwy’n gwerthfawrogi’r ffaith bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn derbyn yr ysbryd y tu ôl i’r gwelliant yma. Rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn ein bod ni’n bwriadu gwneud cymaint ag y gallwn ni yn nhermau amcanion polisi a’n pwerau ‘fiscal’ newydd. Ymddiheuriadau i’r Aelod dros Fynwy nad oeddwn i’n ddigon eglur yn fy sylwadau agoriadol. Wrth gwrs, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n eithaf amlwg ynglŷn â’r bwriadau y tu ôl i’r gwelliant. Rydym yn ymwybodol iawn o’r amrywiadau a’r amgylchiadau gwahanol ar draws siroedd Cymru ac o fewn siroedd Cymru ynglŷn â thai band uwch a thai preswyl.
Gyda’r hyn y mae’r Ysgrifennydd wedi’i ddweud, yn gyntaf, rwy’n croesawu’n fawr iawn y ffaith y bydd e yn hysbysu yn ‘proactive’ awdurdodau lleol Cymru o’r ffaith bod y Llywodraeth yn agored i drafodaethau penodol ar y mater pwysig yma, sy’n bwysig iawn i Blaid Cymru. Yn ail, rwy’n meddwl bod yr addewid i sicrhau bod y cynllun gwaith ar drethiant gan Lywodraeth Cymru yn mynd i ystyried hyn o safbwynt polisi ac o fewn y cyd-destun ‘fiscal’ yn addewid pwysig iawn ac yn un rwy’n ei groesawu yn fawr iaw—a hefyd, wrth gwrs, y ffaith y bydd gyda ni ddata go iawn yng Nghymru am y tro cyntaf erioed ar effaith y dreth yma.
Felly, gyda chaniatâd y Cynulliad a’ch chaniatâd chi, Llywydd, hoffwn i dynnu yn ôl fy ngwelliant.
Mae’r Aelod wedi dweud ei fod e’n awyddus i dynnu yn ôl gwelliant 30. Os nad oes yna unrhyw wrthwynebiad i hynny, mae’r gwelliant wedi’i dynnu yn ôl.