– Senedd Cymru am 2:19 pm ar 16 Mai 2017.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy’n galw ar arweinydd y tŷ, Jane Hutt.
Diolch, Llywydd. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog yn syth ar ôl y datganiad busnes er mwyn caniatáu cynnal dadl fer yfory ar ôl pleidleisio heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi’i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Ysgrifennydd y Cabinet, es i weld fy meddyg teulu’n ddiweddar. Roedd yn rhaid i mi fynd yn fore iawn—apwyntiad am 08:00—ac roedd yr hyn a welais y tu hwnt i bob rheswm. Roedd yn rhaid i mi basio trwy un neu ddwy o feddygfeydd, ac roedd rhai yn aros y tu allan o 7.30 a.m. tan 8 o'r gloch yn y fath dywydd, ddiwrnod neu ddau yn ôl, gyda’u plant—pobl abl, pobl fethedig a’r henoed i gyd, wrth gwrs, yn sâl. Mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad i weld y meddyg cyn 08:00, ac nid yw drws y feddygfa byth yn agored. Mae hynny'n syndod yn yr unfed ganrif ar hugain—pobl yn sefyll y tu allan, heb gael mynd i mewn yn y fath dywydd yn gynnar yn y bore tra bod staff y feddygfa yn yr adeilad eisoes.
Felly, a fyddech mor garedig â gwneud datganiad am apwyntiadau meddygon teulu yng Nghymru? Bydd yn siŵr o helpu llawer o feddygfeydd yn y wlad hon a phawb sy’n sefyll y tu allan heb le i gysgodi rhag tywydd fel hwn. Does bosibl nad oes modd dyfeisio rhyw ffordd o ganiatáu i’r cleifion hyn gael aros y tu mewn i'r meddygfeydd, drwy ddefnyddio tocyn neu rif o ryw fath efallai, fel eu bod yn derbyn rhifau ar gyfer gweld y nyrsys, neu fod y rhai sydd tu mewn yn gallu trefnu apwyntiadau i’r meddygon? Rwy'n credu y byddai o help mawr i’r bobl sâl, yn hen ac ifanc, wneud yn siŵr bod datganiad yn cael ei wneud am apwyntiadau meddyg ym meddygfeydd Cymru. Diolch.
Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig. Mae'n rhoi’r cyfle i mi ddweud bod ein meddygon teulu yng Nghymru yn darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf i bobl Cymru. Yn wir, mae'r arolwg cenedlaethol yn parhau i ddangos lefelau uchel iawn o foddhad—dros 90 y cant o gleifion yn fodlon gyda gwasanaethau meddygon teulu. I helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel, rydym yn parhau i fuddsoddi arian newydd mewn gofal sylfaenol—£42.6 y flwyddyn ariannol hon yn unig. Hefyd, yn bwysig iawn, o ran practisau meddygon teulu yn gweithio gyda'i gilydd ar y cyd, rydym yn buddsoddi mewn 64 o glystyrau gofal sylfaenol ledled Cymru. Wrth gwrs, mae hyn i gyd yn golygu, o ran mynediad at wasanaethau meddygon teulu, nid yn unig bod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn buddsoddi a chefnogi ond bod y cleifion hefyd yn fwy bodlon ar y gwasanaethau hynny.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar bwysigrwydd prifysgolion yn sbarduno’r economi, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector prifysgolion a chynhyrchu parciau gwyddoniaeth tebyg i Gaergrawnt ac Aarhus yn Nenmarc, sydd wedi bod yn bwysig iawn yn llwyddiant economaidd y ddwy ardal hynny?
Mike Hedges, fel y dywedwch chi, mae pwysigrwydd y prifysgolion yn sbarduno’r economi yn gwbl amlwg. Mae'r sector addysg uwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru. Mae’r prifysgolion yng Nghymru yn cyfrannu mwy na £3 biliwn y flwyddyn mewn gwariant gros at economi Cymru, yn cyflogi dros 20,000 o bobl, yn cael trosiant blynyddol o fwy na £1.5 biliwn ac, wrth gwrs, yn cyfrannu at dwf economaidd cynaliadwy mewn sawl ffordd—wrth i gread gwybodaeth ddatblygu gweithlu hynod fedrus a thrwy ymgysylltu â chymunedau lleol. Mae’n amlwg fod enghreifftiau pwysig i’w cael dros y byd y gall y sector prifysgolion ddysgu ohonyn nhw. Ond credaf fod gennym gyfleoedd gwirioneddol, fel y mae adolygiad Diamond yn ei gydnabod, fod buddsoddi mewn addysg uwch yn dod â’r manteision hynny i’r economi.
A gaf i ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Mae’r un cyntaf yn ddigon syml—rŷm ni newydd gyhoeddi, wrth gwrs, erbyn hyn fod pob un plaid yng Nghymru o blaid diddymu tollau pont Hafren. Rwy’n croesawu hynny—rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato fe—ond mae’n gadael un bont ac un bont yn unig yng Nghymru gyda thollau arni hi, a phont Cleddau yw honno. Mae pont Cleddau yn llwyr yn nwylo Llywodraeth Cymru: hynny yw mae sir Benfro yn berchen arni ar hyn o bryd, ond mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i ‘trunk-o’ y ffordd dros bont Cleddau—mae hynny wedi’i ddatgan gan y cyn-Weinidog, Edwina Hart, ac wedi’i ailddatgan mewn egwyddor gan Ken Skates, hefyd. Felly, beth yw’r bwriad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pont Hafren—i ddiddymu’r tollau oddi ar y bont honno, yr un bont lle mae tollau yn mynd o un rhan o barth menter i ran arall? A gawn ni wneud yn siŵr bod Cymru yn wlad sy’n rhydd o dollau a bod breuddwyd Merched Beca yn dod yn fyw o’r diwedd?
Yr ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano gan y Llywodraeth—bach yn fwy cymhleth—mae’n ymwneud â chais cynllunio ar gyfer maes gwyliau cabanau ym Meddgelert. Nid wyf yn disgwyl i’r Llywodraeth wneud datganiad ynglŷn â’r cais cynllunio o gwbl ond mae’r maes pebyll ym Meddgelert yn cael ei chwalu ac mae cais cynllunio ar gyfer maes cabanau gwyliau yn ei le, sy’n cynnwys ‘hot tubs’ a phob math o bethau felly, gan gynnwys siop a chanolfan a phethau felly.
Mae’r cynllun y tu ôl i hwn yn rhan o rywbeth sy’n deillio o’r hen Gomisiwn Coedwigaeth. Hoffwn i, felly, ddatganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cais yma. Yn ôl beth rwy’n ei ddeall, mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru, fel etifedd i’r hen Gomisiwn Coedwigaeth, gyfranddaliad o 20 y cant yn y cynllun yma, ac os bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen, ac yn llwyddiannus o ran cael caniatâd cynllunio, fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael £48,000 y flwyddyn mewn rhent ar gyfer 16 o gabanau gwyliau, sef £3,000 fesul caban. Wrth gwrs, y broblem fan hyn yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rheoleiddiwr ar gyfer y safle, ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru fel rheoleiddiwr y safle wedi codi’r un gwrthwynebiad ynglŷn â’r datblygiad. Mae gennych, felly, gorff llywodraethol sy’n rheoleiddio ac yn gyfrifol hefyd fel buddsoddwr. Byddwn i’n licio clywed gan Lywodraeth Cymru sut yn union maen nhw’n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru unioni’r sefyllfa yma a chadw’r fantolen yn syth fel bod y bobl leol yn gallu bod yn gallu bod yn saff eu bod nhw’n gwneud eu priod waith yn diogelu’r amgylchfyd lleol.
Diolch, Simon Thomas. Yn wir, mae’n garreg filltir fod Llywodraeth Lafur Cymru ac, yn wir, chi eich hunain wedi galw am ddiddymu’r tollau i groesi pont Hafren, ac mae’r Torïaid bellach yn ymateb i'n galwadau yma gan Lywodraeth Cymru a chan bleidiau yn y Siambr hon. Mae'n bwysig iawn, felly, ein bod yn edrych ar sut y gellir symud hyn ymlaen, ond mae eich pwynt ynglŷn â phont Cleddau wedi ei fynegi’n dda ac rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hynny.
Rwy'n credu bod eich ail gwestiwn yn tynnu sylw at ystod eang o faterion, sy'n cyffwrdd â swyddogaeth, pwerau a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru. Ond rwy’n credu eich bod wedi ei roi ar gofnod yn awr o ran y cais hwn, sy’n drawsdoriad o faterion sy’n ymwneud â thwristiaeth, coedwigaeth a chynllunio, y mae’n rhaid, wrth gwrs, i Weinidogion Cymru atal eu sylwadau arnynt. Ond rydych wedi ei roi ar gofnod.
A gaf i alw am ddau ddatganiad: yn gyntaf, am fater y codais i ac eraill gyda chi gyntaf 14 mlynedd yn ôl, ac o bosib yn gynharach yn y Cynulliad Cyntaf pan nad oeddwn i yma, sef mater disgyblion ysgolion byddar yng Nghymru? Yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Fyddardod y DU 2017, mae'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru wedi dangos bod disgyblion ysgolion byddar yng Nghymru yn tangyflawni ym mhob cyfnod allweddol, gyda Chymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar Cymru yn dweud bod y disgyblion hyn yn wynebu cael eu gadael ar ôl, heb weithredu ar fyrder. Mae'r ffigurau sy'n awgrymu bod y bwlch cyrhaeddiad wedi lleihau dros dro unwaith eto wedi ehangu ar lefel TGAU.
Ar ôl lansio’r ddeiseb 'Cau'r Bwlch' o ganlyniad i gyfres wael o ganlyniadau bedair blynedd yn ôl, dywedodd y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar fod y ffigurau diweddaraf yn annerbyniol. Wel, nid yw byddardod yn anabledd dysgu nac yn anhawster dysgu, ac nid oes rheswm pam y dylai’r disgyblion hyn fod yn tangyflawni oni bai i’r gefnogaeth briodol beidio â bod ar gael iddyn nhw. Fel y galwyd amdano 14 mlynedd yn ôl, mae hynny'n golygu codi ymwybyddiaeth o fyddardod, gwella acwsteg yn yr ystafelloedd dosbarth a sicrhau bod plant byddar a'u teuluoedd yn cael eu cefnogi o'r dechrau. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb gyda datganiad am y mater difrifol iawn hwn, ar ôl rhoi ystyriaeth ddofn a difrifol iddo, ac yn ystyried sut y gallem symud ymlaen nawr.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad gan yr ysgrifennydd iechyd ar gyflyrau prin yng Nghymru, ar ôl iddo ddarllen rhifyn gwanwyn 2017 o gylchgrawn Fasgwlitis y DU, a’r erthygl ynddo o'r enw, What’s up with Wales? Mae'r erthygl hon, What’s up with Wales? yn dweud:
Mae gennym ni, yn Fasgwlitis y DU, berthynas dda iawn gyda holl weithwyr meddygol proffesiynol fasgwlitis blaenllaw yn Lloegr.... Fodd bynnag, yng Nghymru, mae’n sefyllfa wahanol.
Wedi derbyn diagnosis a chynllun triniaeth gan arbenigwr blaenllaw ar draws y byd yn Lloegr ymddengys bod cyngor yr arbenigwyr "dros y ffin" yn destun dicter ac yn cael ei anwybyddu pan ddown yn ôl i Gymru.
Mae amryw o broblemau naturiol yng Nghymru gan bobl sydd â chlefydau prin .... Ymddengys bod yr agwedd yng Nghymru yn perthyn i’r ganrif ddiwethaf ac
Ymddengys hefyd fod diwylliant cyffredinol o hierarchaeth a rhengoedd wedi eu cau.
Nawr, hyd yn oed os nad yw hynny 100 y cant yn gywir, mae'r ffaith fod y bobl hyn o’r farn honno, ar sail eu profiad nhw o driniaeth yng Nghymru, ac wedi rhoi hynny mewn cylchgrawn yn y DU, yn siŵr o fod yn haeddu sylw, ac rwy’n gobeithio y bydd yn cyfiawnhau datganiad yn unol â hynny.
Rwy'n ddiolchgar bod Mark Isherwood wedi cadw’r ffydd fel y mae, gyda'r materion pwysig iawn hyn, a gododd ef gyda mi, rwy'n siŵr, nid 14 mlynedd yn ôl yn unig. Mae'n fater nid yn unig i Weinidogion iechyd a'u cyfrifoldebau, ond hefyd yn fater i Weinidogion addysg a'u cyfrifoldebau hefyd. Ein cenhadaeth yn genedlaethol yw codi safonau a pharhau i wella cyrhaeddiad pob dysgwr, ac wrth gwrs mae lefelau cyrhaeddiad plant byddar yn hanfodol. Rydym yn anelu at gyflawni hyn trwy ystod o ddiwygiadau addysgol sydd ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd ein Bil anghenion dysgu ychwanegol uchelgeisiol, os caiff ei basio, yn gweddnewid yn llwyr y system ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys dysgwyr sydd â nam ar eu clyw. A bydd pecyn gwerth £20 miliwn o gyllid yn cefnogi’r Bil a'n cynlluniau ehangach, gan gynnwys datblygu'r gweithlu. Ond mae gen i gof eto—ac rwy'n siŵr y gall Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hyn—am y ffyrdd yr oeddem yn sicrhau, yn ein rhaglen buddsoddi cyfalaf, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ac roeddem yn edrych ar y materion hyn pan oeddem yn datblygu'r rhaglen uchelgeisiol honno, i sicrhau y gallem ystyried hyn o ran sut y gallai’r adeiladau hynny fod o gymorth. Ac mae hynny’n rhan fawr o godi ymwybyddiaeth o fyddardod ymhlith gwneuthurwyr polisi, yn ogystal ag ymhlith y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau.
Ar eich ail bwynt o ran cyflyrau prin, wel, yn sicr, rwyf wedi cyfarfod, dros y blynyddoedd, â grwpiau, fel y byddwch wedi ei wneud yma, ac yn wir â gweithwyr proffesiynol sy'n cyflawni gwaith i fynd i'r afael ag anghenion pobl â chyflyrau prin. Nid wyf yn cydnabod y datganiad hwnnw a wnaed, ond gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i sut y byddwn yn symud ymlaen i ddiwallu’r anghenion hynny.
Tua chwe wythnos yn ôl, ysgrifennodd Julie Morgan a minnau at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a chynllunio am y bygythiad i'r lleoliad cerddoriaeth fyw mwyaf bywiog yng Nghaerdydd, yn Stryd Womanby, oherwydd y bygythiad o geisiadau cynllunio ar gyfer gwesty a rhai unedau preswyl hefyd. Rwyf wrth fy modd o weld bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd a chynllunio yn ôl gyda ni nawr ar ôl anaf difrifol, a allai fod wedi newid cwrs ei bywyd, a ddioddefodd o ganlyniad i ddamwain. Ond, nawr ei bod hi yn ei hôl, rwy’n gofyn tybed a allai'r Llywodraeth wneud datganiad ynglŷn â’i gallu i gyflwyno canllawiau cynllunio newydd er mwyn sicrhau ei bod yn gwbl glir i unrhyw ddatblygwyr bod yn rhaid i asiant y newid mewn unrhyw ddatblygiad gyfarfod â’r sawl sydd wedi gwneud y cais. Oherwydd o dan y deddfau cynllunio presennol, gallai busnesau Stryd Womanby fynd i’r wal yn gyfan gwbl os yw'r ymgeiswyr hyn yn llwyddiannus, a gallen nhw wedyn fynnu bod y lleoliad cerddoriaeth fyw yn gorfod talu am fesurau seinglosio ac ati, sy’n annhebygol o fod yn effeithiol beth bynnag gan fod pobl ar y stryd yn gwneud sŵn os ydyn nhw y tu mewn neu’r tu allan i'r lleoliad. Mae bron 1,000 o swyddi mewn perygl yma, yn ogystal â miliynau o bunnoedd yn sgil twristiaeth cerddoriaeth. Felly, rwy’n holi tybed a fyddai modd inni ragweld datganiad cynnar ar sut y gallwn newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod unrhyw ddatblygiad newydd yn ei gwneud yn glir y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu am gostau unrhyw liniaru sy'n deillio o ddatblygiad newydd.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r mater pwysig iawn hwn eto—yr ymgyrch bwysig hon a gododd Julie Morgan hefyd gyda chi. Mae Lesley Griffiths yn ôl wrth ei gwaith, ac mae hi’n dymuno cwrdd â chi i drafod y mater hwn yn sicr. Mae hi'n awyddus iawn wrth gwrs i sicrhau bod yr egwyddor o wneud asiant y newid yn gyfrifol am reoli effeithiau datblygiadau newydd yn cael ei gwneud yn eglur iawn mewn unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol i 'Bolisi Cynllunio Cymru'. Mae yno’n barod, mae wedi ei gynnwys ym 'Mholisi Cynllunio Cymru' yn barod, ond mae’n amlwg bod angen iddo fod yn gliriach. Ac rwy’n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn barod i gwrdd â chi i drafod sut y gellir datblygu hynny.
Roeddwn i’n falch iawn, rai dyddiau nôl, o weld Llywodraeth Cymru yn nodi gorsaf Llangefni fel un a allai gael ei hailagor yn y dyfodol. Mae hyn yn deillio, wrth gwrs, yn uniongyrchol o’r gwaith a wnaeth fy rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, fel Gweinidog trafnidiaeth, yn comisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar y potensial o ailagor y lein o Gaerwen, drwy Langefni, i Amlwch—rhywbeth rwy’n gwybod a fyddai’n dod â budd economaidd mawr iawn i Ynys Môn. Rwy’n gwybod y byddwn i a Ieuan yn hapus iawn i drafod ymhellach y mater yma efo’r Llywodraeth. Ond a fyddai’n bosib cael datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros drafnidiaeth ynglŷn â’r gwaith ychwanegol sydd angen cael ei wneud rŵan er mwyn gallu troi y syniad cyffrous yma yn realiti?
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet, fel yr ydych wedi ei gydnabod, wedi cyhoeddi yn ddiweddar y flaenoriaeth fydd i 12 o orsafoedd rheilffordd newydd ledled Cymru. Gwnaed y penderfyniad hwnnw, gan asesu nifer o gynigion yn gyfochrog ag amcanion lles, fel yr eglurir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ac yn amlwg nawr, mae'n ymwneud â gweithio gydag awdurdodau lleol, partneriaid, a phawb a all symud ymlaen y cynigion ar gyfer y gorsafoedd hynny, gan gynnwys yr orsaf yn eich etholaeth chi, gyda golwg ar ystyriaeth i’r dyfodol. Felly, rwy’n gwybod y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater hwn.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un yn gysylltiedig â rheoleiddio dronau ac awyrennau ysgafn? Rwyf wedi cael nifer o gwynion yn ddiweddar gan drigolion yn fy etholaeth i am ddefnydd dronau mewn ardaloedd preswyl, sy’n hofran dros erddi cefn pobl, yn ffilmio trigolion lleol, ac yn amharu ar eu preifatrwydd. Ac, yn wir, ar ben hynny, bu rhai cwynion am y defnydd o awyrennau ysgafn ar draethau sydd reit wrth ymyl y seilwaith rheilffyrdd, ac yn wir y rhwydwaith cefnffyrdd. Ac, wrth gwrs, pe byddai unrhyw un o’r awyrennau ysgafn iawn hynny yn cael damwain, yna gallai achosi problem ddifrifol ar y darnau penodol hynny o seilwaith. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi datganiad gan Ysgrifennydd priodol y Cabinet am y ffordd y gallwn reoleiddio’r rhain orau, gan barhau i ganiatáu pobl i’w defnyddio at ddibenion hamdden.
A gaf i hefyd alw am ddatganiad am yr hawl i weld meddygon teulu? Gwn fod fy nghydaelod Mohammad Asghar hefyd wedi codi’r mater hwn, ond cyhoeddodd Cynhadledd Genedlaethol Pensiynwyr Cymru adroddiad yn ddiweddar ar yr hawl i dderbyn gwasanaethau meddygon teulu yng Nghymru, a chanfuwyd bod problemau sylweddol o ran gallu cael apwyntiad mewn rhai meddygfeydd. Roedd hyn yn bennaf oherwydd anghysondeb yn y trefniadau gwneud apwyntiad. Yn ôl yr adroddiad, er bod rhai meddygfeydd yn cynnig apwyntiadau ar y diwrnod yn unig, roedd eraill yn caniatáu i bobl wneud apwyntiadau ymlaen llaw, ac yn cynnig dull mwy hyblyg, a oedd yn ymddangos yn llawer mwy hwylus i gleifion, o ran eu profiadau yn gleifion. Felly, rwy’n credu ei bod yn hen bryd inni gael datganiad am hawl i weld meddygon teulu, a sut mae gwella hynny ar y cyfan, a byddwn yn gwerthfawrogi pe byddai un yn cael ei drefnu.
O ran pwysigrwydd yr hawl i gael apwyntiad â meddyg teulu, rwy’n credu fy mod eisoes wedi sôn am hynny wrth ymateb i gwestiwn cynharach. Ond rwy'n credu bod y newidiadau i gontract y meddygon teulu am 2017-18 yn bwysig, o ran y ffyrdd y gallen nhw ddarparu ar gyfer gwasanaethau newydd, gwell, a hefyd i ddatblygu'r fframwaith ansawdd a chanlyniadau, sef lle y mae angen gweld cysondeb o ran darpariaeth. Mae hynny, wyddoch chi, yn mynd i ryddhau amser i weld meddygon teulu, a hefyd yn rhoi mwy o gyfle i weld nyrsys practis, sydd, mae'n rhaid i ni gofio, yr un mor bwysig o ran y tîm gofal sylfaenol a'r gwasanaethau a ddarperir. Hefyd, mae'n golygu y gall cleifion gael eu trin gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol i’w hanghenion. Felly, mae'r rhain yn faterion yr ydym yn mynd i’r afael â nhw o ran gwasanaethau meddygon teulu, wrth gwrs.
O ran eich cwestiwn cyntaf, byddaf yn amlwg yn mynd ag ef yn ei ôl ac yn nodi pa Ysgrifennydd Cabinet sydd yn briodol i ateb eich cwestiwn pwysig—yn wir, a oes gennym bwerau o gwbl o ran defnydd dronau a'r effaith o ran yr ymosodiad, os hoffech chi, ar leoedd preifat, a'r defnydd a wneir ohonyn nhw hefyd.
A allem ddod o hyd i amser i gael datganiad ar effaith niweidiol y toriadau sy’n cael eu gwneud i bolisïau lles a hyrwyddo ffyniant Llywodraeth Cymru—toriadau sy’n bodoli eisoes a thoriadau sy’n bosibl yn y dyfodol— i daliadau anabledd yng nghymoedd y de a ledled Cymru? Daeth gostyngiad o £30 yr wythnos i’r rheini sy’n hawlio’r lwfans cyflogaeth a’r lwfans cymorth o’r newydd i rym fis diwethaf. Felly bydd pobl anabl sy’n cael eu rhoi mewn grŵp gweithgareddau cysylltiedig â gwaith nawr yn cael £73 yr wythnos. Os caf ailadrodd hynny: £73 yr wythnos. Fyddwn i ddim yn gallu byw ar hynny, a hefyd ymdopi â'r heriau a'r costau ychwanegol sydd gan bobl anabl. Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, yn dweud y bydd y gyfradd is hon o gymorth, yn ei geiriau hi, i annog pobl anabl i ddod o hyd i waith.
Eto i gyd, mae dros 30 o elusennau anabledd awdurdodol wedi dweud nad oedd y toriadau yn gymhelliad i weithio o gwbl, ond eu bod yn gwneud bywyd yn fwy anodd i bobl anabl sy'n wynebu costau byw ychwanegol, a’u bod yn golygu na fydd rhai pobl yn gallu fforddio pethau angenrheidiol sylfaenol. Yr wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Prif Weinidog ddiystyru toriadau pellach i lwfansau pobl anabl. Felly os yw pethau'n ddrwg ar hyn o bryd, allwn ni ond dychmygu sut y gallai pethau fod pe bai Llywodraeth Geidwadol yn cael ei hethol am y pum mlynedd nesaf. Felly, a gawn ni ddatganiad i roi goleuni ar effeithiau’r cosbau hyn ar bobl anabl, a'r canlyniadau i’r bobl yr ydym yn eu cynrychioli a'r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw?
Rwy'n ddiolchgar iawn bod Huw Irranca-Davies wedi tynnu ein sylw ni at hyn yn y Siambr heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn sicr yn rhinwedd fy swydd etholaethol, fod pobl yn dod ataf bellach sy’n dioddef o ganlyniad uniongyrchol i’r toriadau pellach i fudd-daliadau lles, sy’n effeithio’n arbennig ar bobl anabl o 1 Ebrill—pobl sy'n cael ei chael hi’n anodd ac sy'n colli eu hawl i Motability, er enghraifft, ac yna mae disgwyliadau anghyson arnynt, na ellir eu cyflawni, a’r cyfan yn lleihau lefelau eu hincwm. Rydym yn dal i fod yn bryderus iawn am newidiadau Llywodraeth y DU i hawlwyr lwfans cyflogaeth a chymorth sydd wedi’i neilltuo i’r grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith, a ddechreuodd ym mis Ebrill eleni. Bydd hyn yn gweld hawlwyr newydd yn cael tua £29 yr wythnos yn llai na hawlwyr presennol, ac mae'n rhaid cofio mai sut fydd toriadau ar hawlwyr newydd—. Ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn amcangyfrif yr effeithir ar 500,000 o deuluoedd ym Mhrydain Fawr yn y tymor hwy. Rydym yn amcangyfrif y bydd tua 35,000 o’r hawlwyr yr effeithir arnyn nhw yn byw yng Nghymru, yn enwedig yn yr ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymoedd y de, yn enwedig y rhai yr effeithir arnyn nhw gan gyfraddau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth uwch nag yng Nghymru benbaladr. Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn cymryd camau i helpu pobl i reoli effeithiau newidiadau budd-daliadau lles gan Lywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i ddadansoddi effeithiau toriadau o'r fath a monitro'r effeithiau hynny. Mae’n hanfodol rhoi rhagor o arian yn ein gwasanaethau cynghori, undebau credyd a'r gwasanaethau cefnogi, ond rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn i ni ddwyn hyn i'r datganiad trafodaeth ehangach gan Ysgrifennydd y Cabinet; byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Siambr hon ac i'r Cynulliad.
Tri maes yn gryno, os caf i, arweinydd y tŷ. Yn gyntaf, a gaf i gefnogi galwad Mark Isherwood yn gynharach am ddatganiad ar gefnogaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i glefydau prin yng Nghymru? Rwy'n credu i chi grybwyll fasgwlitis, maes pryder sy’n agos at fy nghalon i. Mae llawer o’r rhai sy’n dioddef o afiechydon prin yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl. Mae'n naturiol i glefydau mawr—canser, clefyd y galon—gael y gyfran fwyaf o’r cyllid, ond dros gyfnod o amser rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn anfon neges glir at ddioddefwyr clefydau prin bod rhywun yn meddwl amdanyn nhw a bod polisi yn cael ei ffurfio o’u hamgylch nhw hefyd. Felly, os caf i ofyn am hynny.
Yn ail, rwy’n credu bod chwe mis nawr ers i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd wneud datganiad—roedd naill ai yn ysgrifenedig neu ar lafar—i'r Siambr hon ar roi sêl bendith ar y ganolfan arbenigol a gofal critigol yn Ysbyty Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Rwy'n credu mai 2022 oedd y dyddiad a roddwyd ar gyfer cwblhau’r prosiect hwnnw. A gawn ni’r wybodaeth ddiweddaraf a yw hynny’n mynd yn ei flaen yn iawn ai peidio a beth yw'r diweddaraf am hynny, oherwydd mae pryderon gan swyddogion iechyd mewn sefydliadau iechyd? Byddwn yn ddiolchgar am hynny.
Yn olaf, roeddwn yn gyrru ar hyd ffordd Blaenau'r Cymoedd ger Gilwern ar y penwythnos, ac mae'n dda gweld bod honno’n dod yn ei blaen. Dyna ddarn gwych o ffordd, ac mae llawer o fanteision economaidd yn bosibl o gwmpas y fan honno. Gallaf weld bod yr Aelod dros Flaenau Gwent yn nodio’n frwdfrydig wrth iddo glywed hynny. Fodd bynnag, dim ond i lawr y ffordd o'r A465, Blaenau'r Cymoedd, mae’r A40 sy'n cysylltu’r Fenni â Rhaglan ac â Threfynwy yn fy etholaeth i. Mae hon yn hen ffordd â wyneb concrid ac yn achosi llawer o drafferth i gymudwyr a hefyd lawer o drafferth i’r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd cyfagos. Felly, os ydym am gael darn gwych o ffordd lan ar Flaenau'r Cymoedd, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr cael darn o seilwaith ffordd gwael yn bwydo i mewn iddo. Felly, tybed a fyddai modd inni gael datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar drafnidiaeth a sut y mae'n bwriadu adeiladu ar ddatblygiad Blaenau'r Cymoedd a gwneud yn siŵr bod safon y rhwydwaith ffyrdd cyfagos hefyd yr un mor dda.
Wel, Nick Ramsay, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon yn eistedd yma yn gwrando ar eich dau gwestiwn cyntaf. Ymatebais i’r cwestiwn ar glefydau prin a’r flaenoriaeth a rown i hynny, ond hefyd sut mae pethau’n datblygu o ran y ganolfan gofal critigol. Ydy, mae'n wych gweld y darn o ffordd ym Mlaenau'r Cymoedd a bod mwy o arian i ddod trwy gyllid arloesol i’w gwblhau, fel y dywedodd Vikki Howells yn gynharach heddiw, Ond hefyd, wrth weld yr arwydd, y byddwch chi wedi ei weld, yn dweud 'Wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd', mae’n amlwg i mi na fyddai'r ffordd honno’n cael ei hadeiladu heb i ni fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, a chyda cyllid gan Lywodraeth Cymru hefyd. Felly, mae hynny wedi cael effaith enfawr o ran yr economi yng Nghymru a mynediad i’ch etholaeth chi. Ac yna, wrth gwrs, Nick Ramsay, fe wnaethoch chi sôn am y ffyrdd sy’n dod oddi ar yr A465. Mae hynny'n fater o waith a phartneriaeth gyda'ch awdurdod lleol.