– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 13 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar ‘Ddyfodol Llwyddiannus: Y Diweddaraf ynglŷn â Materion Digidol’. Rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei datganiad—Kirsty Williams.
Diolch, Llywydd. Fel yr wyf wedi ei ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, diwygio addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol, ac rwy’n benderfynol o sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial llawn.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd adroddiad ar ein diwygiadau, gan gydnabod yr ymrwymiad eang i wella addysgu a dysgu yn ysgolion Cymru. Mae un o'r meysydd allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad o fod wedi gwneud 'cynnydd da' yn un sydd wedi bod yn flaenllaw yn ein diwygiadau—datblygu sgiliau digidol ein dysgwyr. O'r cychwyn, rydym wedi bod yn glir bod cymhwysedd digidol yn un o bileri sylfaenol addysg fodern. Dyna pam y nodwyd cymhwysedd digidol fel y trydydd cyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, a pham yr ydym wedi sicrhau ein bod yn cyflwyno’r fframwaith cefnogol yn gynharach, ac a roddwyd ar gael ym mis Medi 2016. Mae'r fframwaith cymhwysedd digidol— DCF—a ddatblygwyd gan ysgolion blaengar sy’n arloesi yn ddigidol, consortia rhanbarthol ac Estyn, yn ymgorffori sgiliau digidol a gwybodaeth ar draws profiadau dysgu disgyblion wrth iddyn nhw symud ymlaen drwy'r ysgol, a bydd yn gweld athrawon yn gweithredu sgiliau digidol perthnasol yn gynyddol yn eu gwersi .
Ers i hwn gael ei lansio, bu nifer o ddatblygiadau i gynorthwyo athrawon i ymgorffori sgiliau digidol ym mhob rhan o’u gwaith addysgu. Cyhoeddwyd offeryn mapio cwricwlwm y tymor diwethaf i helpu ysgolion i gynllunio eu taith drwy'r DCF, ac mae offeryn anghenion dysgu proffesiynol wedi’i ddiweddaru ar Hwb yn helpu i nodi anghenion sgiliau athrawon a'r cyfleoedd datblygu mwyaf priodol ar gyfer y gweithlu.
Mae ein harloeswyr digidol bellach yn creu tasgau ystafell ddosbarth ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys syniadau arloesol ac ymarferol ar sut i ddefnyddio'r DCF yn rhan o'u harferion bob dydd, a bydd dull dysgu proffesiynol newydd ar gael o dymor yr hydref ymlaen—unwaith eto, a ddatblygwyd gan athrawon, ar gyfer athrawon .
Ond, wrth gwrs, ni ddechreuodd cefnogaeth i bethau digidol gyda'r DCF yn unig. Trwy'r rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn nifer o feysydd allweddol. Er enghraifft, ers lansio Hwb, mae tua thri chwarter yr ysgolion yn cael eu cyfrif fel bod wedi ymgysylltu yn weithredol mewn defnyddio'r platfform hwnnw, ac rwy'n falch o adrodd bod y defnydd yn cynyddu. Ym mis Mawrth, cafodd Hwb dros 3.2 miliwn o ymweliadau â’i dudalennau a dros 28,000 ar gyfartaledd o achosion o fewngofnodi bob dydd, sydd wedi rhagori'n sylweddol ar y disgwyliadau gwreiddiol ar gyfer y prosiect. Mae'r ffigurau hyn yn cadarnhau bod Hwb bellach yn brif adnodd mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn ceisio arloesi a gwella'r platfform drwy’r amser. Felly, rwy'n falch o gyhoeddi cyfres o ddiweddariadau a datblygiadau newydd cyffrous i sicrhau bod Hwb yn parhau i ddiwallu anghenion rhanddeiliaid ac yn cadw’n gyfredol o ran y datblygiadau digidol perthnasol.
Bydd rhyngwyneb defnyddiwr newydd yn gwella profiad athrawon a dysgwyr o Hwb ymhellach, a bydd yn rhoi mynediad cyflymach at offer a’r swyddogaethau sy'n cael eu defnyddio amlaf, pob un ohonynt wedi eu datblygu yn dilyn sylwadau gan athrawon a'r consortia addysg rhanbarthol. Gan edrych ymlaen, a chan ystyried gofynion y dyfodol, rydym ni’n gwybod y bydd y galw am fand eang cyflym mewn ysgolion yn parhau i gynyddu. Mae'n gwbl annerbyniol i ysgol fod dan anfantais sylweddol oherwydd cyflymder rhyngrwyd gwael. Mae sicrhau bod gan bob ysgol, ble bynnag y mae hi wedi’i lleoli, fynediad at fand eang cyflym iawn, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi, a dyna pam, fis Medi diwethaf, y cyhoeddais ragor o fuddsoddiad gwerth £5 miliwn i fynd i'r afael â'r mater hwn. Mae cwmpasu terfynol wedi ei gwblhau ar gyfer y gwaith hwn, a bydd 341 o ysgolion ledled Cymru yn gymwys i elwa ar y buddsoddiad hwn, sy'n cynnwys darparu 100 Mbps i bob ysgol arbennig yng Nghymru. Mae archebion wedi dechrau cael eu cyflwyno ar gyfer y gwasanaethau newydd, a disgwylir darpariaeth gyntaf y cylchedau newydd yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2017—18. Yn ogystal â hyn, bydd fy swyddogion yn parhau i nodi lle y gellir gwneud gwelliannau ychwanegol i gydnerthedd rhwydweithiau a gwasanaethau wedi’u canoli, fel hidlo'r we, er mwyn sicrhau bod ysgolion yng Nghymru yn cael y mynediad gorau posibl at wasanaethau TGCh
Ond nid yw fy uchelgais ar gyfer dysgwyr yn dod i ben yn y fan yna. Rwyf eisiau i'n dysgwyr fynd ymhellach na dim ond defnyddio'r offer a’r seilwaith yr ydym wedi'i roi ar gael. Rwyf eisiau iddyn nhw symud o fod yn ddefnyddwyr technoleg i fod yn awduron creadigol. Mae gallu dysgwyr i ysgrifennu cod yn agwedd allweddol ar yr uchelgais honno ac yn llawer ehangach na dim ond y gallu i ddefnyddio technoleg. Mae'n ymwneud â datrys problemau, bod yn greadigol, a gwneud pethau mewn ffordd wahanol a difyr. Mae’r gallu i greu cod yn ymwneud â chymaint o feysydd pwnc a gyrfaoedd cyffrous, ac mae ganddo'r gallu i greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc ac athrawon. Yr wythnos nesaf, Dirprwy Lywydd, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer sut yr ydym yn mynd i gefnogi ein dysgwyr ymhellach i ddatblygu sgiliau codio yn yr ystafell ddosbarth ac o’i chwmpas. Byddaf yn nodi yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gan weithio gyda'r consortia addysg rhanbarthol, prifysgolion, busnesau, a'r trydydd sector i ehangu'r rhwydwaith o glybiau codio ym mhob rhan o Gymru. Bydd y dull gweithredu yn canolbwyntio ar gymorth ar gyfer athrawon, ymgysylltu agosach rhwng ysgolion a phartneriaid creadigol, a swyddogaeth gryfach o ran ymgysylltu â rhieni.
Hoffwn i orffen y diweddariad hwn drwy gyflawni un o argymhellion eraill Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer addysg yng Nghymru, a hynny yw bod yn well am ddathlu ein llwyddiannau. Disgrifiwyd ein dull yn ddiweddar gan Microsoft fel bod o ‘safon fyd-eang’, a dywedwyd ein bod ‘ar flaen y gad’ o ran ymgorffori cymhwysedd digidol ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Yr wythnos nesaf, byddaf yn siarad â 350 o athrawon yn y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol pryd y rhoddir gwobrau i barhau i ddathlu arferion gorau presennol yn ein hysgolion. Mae hon yn agenda uchelgeisiol, gyffrous, ac arloesol, sy’n golygu y gallwn fod yn falch bod Cymru yn arwain y ffordd ar gyfer ein hathrawon ac ar gyfer ein dysgwyr.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac am gopi ymlaen llaw o'r datganiad, a ddosbarthwyd yn gynharach heddiw? Rwyf eisiau croesawu'r cyhoeddiad o’r £5 miliwn ychwanegol heddiw er mwyn gwella cyflymder band eang yn ein hysgolion. Rydym ni’n gwybod mai dim ond eleni—yn gynharach eleni—y mae rhai ysgolion wedi cael cysylltiad band eang o gwbl, mewn gwirionedd, ac rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod hyn yn gwbl annerbyniol. Mae’n amlwg bod angen i ni bellach wneud yn sicr ein bod ni’n gyfan gwbl ar flaen y gad o ran manteisio ar y cyfleoedd y mae mynediad at fand eang a band eang cyflym iawn yn ei ddarparu mewn gwirionedd. Yn sicr, mae fy mhlaid i yn cydnabod y pwysigrwydd o sicrhau bod ein plant a’n pobl ifanc yn cael eu paratoi yn ddigidol ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a dyma un o'r rhesymau pam y gwnaethom gyflwyno dadl dim ond ychydig wythnosau yn ôl ar bethau fel diogelwch ar y rhyngrwyd—ac, wrth gwrs, mae pwysigrwydd codio yn rhywbeth yr ydym wedi ei godi yn y gorffennol, hefyd. Felly, rwy'n falch iawn bod peth cynnydd pwysig yn cael ei wneud ar y materion hynny, ac roeddwn yn arbennig o falch o’ch clywed chi’n cyfeirio at gael hidlyddion gwe priodol ar waith yn ein hysgolion hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir i ddathlu llwyddiant, ac rwyf innau hefyd eisiau llongyfarch Llywodraeth Cymru ar sefydlu Hwb, ac mae'n braf gweld bod hyn yn cael rhywfaint o sylw yn rhyngwladol. Yn anffodus, fel y gŵyr pob un ohonom, rydym wedi cael gormod o sylw rhyngwladol ar gyfer ein perfformiad difflach yn y blynyddoedd diweddar, felly mae'n wir yn braf bod yn arwain ar rywbeth, ac rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni wir barhau i sôn amdano yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod yn achos pryder nad yw chwarter ein hysgolion—un o bob pedair—yn defnyddio Hwb yn rheolaidd. Fe wnaethoch gyfeirio at y ffaith bod 75 y cant o'n hysgolion yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mae hynny'n golygu bod gennym chwarter o hyd nad ydyn nhw’n gwneud defnydd o'r adnodd gwych sydd yno, ar gael iddyn nhw. Tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith yr ydych yn mynd i fod yn ei wneud i'w hannog i fanteisio ar hyn, oherwydd gwyddom fod llawer o ysgolion yn canfod eu bod yn cael profiad llawer cyfoethocach o ran y gallu i ddefnyddio'r adnoddau ar-lein hynny a dod â nhw a’u cyflwyno i'r ystafell ddosbarth.
A gaf i hefyd ofyn i chi—? O ran cyflymder uwch y band eang, wrth gwrs ei fod yn bwysig, ond hefyd mae’n bwysig bod gennym seilwaith TG sy’n gallu manteisio ar hynny. Rwyf wedi bod mewn cymaint o ysgolion sydd weithiau yn defnyddio offer eithaf hen a allai fod angen eu huwchraddio, ac roeddwn i’n meddwl tybed pa waith yr ydych chi’n bwriadu ei wneud gydag awdurdodau lleol i sicrhau y ceir buddsoddiad priodol mewn seilwaith TG yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau ei fod yn safonol a bod y gwasanaethau band eang cyflymder uwch yn mynd i fod yn werth chweil, mewn gwirionedd, wrth gael eu defnyddio ar rai o'r offer hŷn hynny. A wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud i sicrhau nad yw’r disgyblion hynny, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais yn ddigidol drwy beidio â chael cysylltiad band eang yn eu cartrefi eu hunain, yn colli’r ras yn y chwyldro digidol hwn sy’n digwydd yn ein hysgolion? Oherwydd, yn amlwg, os yw plentyn, os yw dysgwr, yn mynd adref ac nad yw’n gallu gwneud ei waith cartref ar-lein yn yr un modd â phlant eraill, neu i barhau i ddatblygu’r sgiliau hynny y maen nhw wedi bod yn eu dysgu yn yr ystafell ddosbarth, yna rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni geisio cael strategaeth i oresgyn hynny, ac roeddwn i’n meddwl tybed beth yw barn Ysgrifennydd y Cabinet ar sut y gallwn ni wneud hynny mewn ffordd lwyddiannus a pha drafodaethau y gallai hi fod wedi'u cael gyda'r Gweinidog gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyflwyno Cyflymu Cymru? Nodaf fod yna ddatganiad ar gyflwyno Cyflymu Cymru y prynhawn yma.
Hefyd, a wnewch chi ddweud wrthym ni pryd yr ydych chi’n mynd i gyhoeddi cynllun gweithredu o ran y cynllun gweithredu diogelwch rhyngrwyd a gyfeiriwyd ato rai wythnosau yn ôl yn y Siambr, pryd y gwnaethoch chi gyhoeddiad pwysig eich bod yn mynd i ddatblygu hynny? Oherwydd, mae’n amlwg bod y pethau hyn yn mynd law yn llaw. Os ydym ni’n mynd i gael gwell mynediad at y rhyngrwyd, yna mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod hynny’n gwbl ddiogel a bod unrhyw ganllawiau ar gyfer ei ddefnyddio yn cael eu datblygu ochr yn ochr â'r sefyllfa hon sy'n datblygu'n gyflym iawn, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc a allai fod yn agored i niwed wrth ddefnyddio systemau TG.
Ac, yn olaf, a allwch chi ein sicrhau y byddwch yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y datblygiadau hyn? Fel y dywedais, rwy’n credu ei fod yn gyffrous. Mae'n braf gwybod ein bod ni ar flaen y gad o ran y mater hwn, ac ein bod ni’n cael rhywfaint o glod rhyngwladol, ond mae angen i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n cael gwybodaeth ar gynnydd yn gyson ac yn rheolaidd, er mwyn i ni allu sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn y sefyllfa arweiniol honno, nid yn unig o fewn y DU, ond o gwmpas y byd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Darren, am eich sylwadau a'ch cwestiynau. Fel y dywedais yn fy natganiad, mae’n bwysig iawn i mi bod pawb yn cael yr un cyfle i gael gafael ar y cyfleusterau hyn, ac rydych chi’n iawn wrth ddweud bod rhai ysgolion nad oeddent, tan yn ddiweddar, mewn sefyllfa i allu defnyddio'r DCF a gwneud y math o waith y maen nhw’n awyddus i’w wneud yn ddigidol oherwydd diffyg seilwaith. Roedd y Llywodraeth flaenorol wedi gwneud ymrwymiad i sicrhau cyflymderau gofynnol ar gyfer ysgolion ac, yn anffodus, pan ddeuthum i’r swydd, canfûm fod nifer o ysgolion nad oeddent yn cyrraedd y targed hwnnw. Rwy'n falch iawn i ddweud bod pob ysgol yn cyrraedd y targed gofynnol erbyn hyn. Mae’r problemau hynny wedi eu datrys, ac mae pob ysgol ar y cyflymderau gofynnol erbyn hyn.
Mae'r £5 miliwn—a dylwn i fod yn glir; nid cyhoeddiad heddiw yw hwnnw, arian yr wyf i wedi’i gyhoeddi yn flaenorol ydyw, ac rwy'n adrodd yn ôl i'r Cynulliad heddiw ar y defnydd o’r £5 miliwn hwnnw, er eglurder. Bydd y buddsoddiad o £5 miliwn yn gallu gwella cyfleusterau ymhellach ar gyfer 341 o ysgolion. Mae’r penderfyniadau hynny wedi eu gwneud ar y cyd ag awdurdodau lleol ac yn ymwneud â chapasiti y maen nhw’n gwybod sy’n broblemus, cynnydd yn y galw a ble maen nhw’n teimlo y ceir problemau penodol, ac, yn bwysig i mi, gwella capasiti yn ein hysgolion arbennig. O dan y targed blaenorol, roedd ysgolion arbennig yn cael yr un cyflymder gofynnol ag ysgolion cynradd. Gwnaethpwyd hynny fel arfer ar sail bod eu cofrestrau yn llai nag ysgol uwchradd, ond wrth gwrs mae disgyblion oedran uwchradd yn ein hysgolion arbennig yn aml, ac mae'n ymddangos i mi yn deg eu bod yn gallu cael gafael ar yr hyn y byddent yn ei gael pe byddent yn yr ysgol uwchradd prif ffrwd, a hefyd oherwydd y ffordd arloesol iawn y mae llawer o'n hysgolion arbennig yn defnyddio technoleg ddigidol i gael gafael ar gyfleoedd dysgu ar gyfer cymaint o'u dysgwyr. Felly, rwy'n arbennig o falch ein bod wedi gallu mynd i'r afael â hynny yn y buddsoddiad.
Darren, rydych chi hefyd yn gywir bod yr offer y tu allan i'r ysgol yn un peth, ond os nad oes gennym seilwaith priodol o fewn yr ysgol, yna ni fydd y buddsoddiad hwn yn cyrraedd ei botensial llawn. Weithiau, pan fyddaf yn ymweld ag ysgolion, mae pobl yn cwyno wrthyf am ddiffyg band eang, ond mewn gwirionedd problemau cysylltedd o fewn adeilad yr ysgol ei hun sydd yn achosi’r broblem. Felly, byddwn ni’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar rwydweithiau lleol, capasiti Wi—Fi mewn adeilad ysgol unigol, a hefyd, yn hollbwysig, cymorth o’r canol—ein cynghorau—i ysgolion yn y defnydd o'u TGCh. Byddwn angen iddyn nhw barhau i wneud hynny.
Mae angen i ni hefyd herio rhai ymddygiadau. Soniasoch am hidlyddion y we a diogelu plant, ond weithiau gall hidlyddion y we gael eu defnyddio mewn ffordd sydd yn cyfyngu ar yr hyn y gallwn ei wneud â TGCh, mewn gwirionedd. Rwy'n ymwybodol o un awdurdod lleol penodol yng Nghymru lle nad yw hidlydd y we yn caniatáu defnyddio Skype. Felly, mewn un sir gallwn gael plant ysgol yn siarad ag arloeswr yn yr Antarctig drwy Skype, a hynny yn llythrennol i lawr ym Mhegwn y De, a gallant gael y sgwrs honno â’r arloeswr hwnnw, ond mewn awdurdod arall, oherwydd materion sy’n ymwneud â hidlyddion y we, ni allant ddefnyddio Skype. Felly, mae angen i ni fynd i'r afael â’r mathau hynny o broblemau sy'n cyfyngu ar ein gallu i ddefnyddio’r dechnoleg hon.
Soniasoch am anfantais llythrennedd. Rwy’n ymwybodol bod rhai ysgolion yn defnyddio eu grant amddifadedd disgyblion i ymdrin â materion fel hyn. Yn wir, yn Bryn Elian, lle'r aethom ni’n dau ar ymweliad, byddwch yn ymwybodol bod yr ysgol honno yn anfon cyfrifiaduron Raspberry Pi adref gyda’r plant fel eu bod mewn gwirionedd yn gallu gwneud eu gwaith yn amgylchedd y cartref. Felly, ar gyfer y plant hynny nad oes gan eu rhieni efallai yr adnoddau hynny, mae'r ysgol yn gwneud ymdrech i sicrhau bod y broblem yn cael ei goresgyn. Dyna enghraifft dda iawn o arfer da yn eich etholaeth chi y byddwn yn ei chanmol. Fel y gwyddoch, ac fel y gwnaethoch gyfeirio ato, bydd fy nghyd- Aelod yn gwneud datganiad yn ddiweddarach ar gyflwyno band eang cyflym iawn, ac rwy'n awyddus iawn na fydd neb dan anfantais. Mae’n rhaid i lawer o'r plant hyn fynd adref ar ddiwedd y diwrnod ysgol oherwydd problemau cludiant ysgol, ac os ydyn nhw mewn cymuned lle nad oes mynediad at y dechnoleg hon, maen nhw wir dan anfantais. Nid oes yr un diwrnod yn mynd heibio pan nad yw fy merched yn dod o'r ysgol â gwaith cartref sy’n gofyn am iddynt wneud rhywfaint o ymchwil ar y rhyngrwyd.
O ran diogelwch, mae gan Hwb lawer o adnoddau sy’n ymwneud â diogelwch ar y rhyngrwyd, ac rydym yn parhau i weithio'n agos iawn i sicrhau bod gan ein plant y sgiliau, yr wybodaeth a'r modd i gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein. Byddaf yn cyhoeddi’r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bo modd. Rwy'n awyddus i wneud hynny yn brydlon.
A gaf i hefyd groesawu’ch datganiad chi y prynhawn yma, a chroesawu unwaith eto’r ffaith bod cymhwysedd digidol yn agwedd trawsgwricwlaidd ac yn rhan ganolog o gynlluniau addysg y Llywodraeth yma? Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi galw yn y gorffennol i lythrennedd digidol gael ei ystyried yn gyfartal â llythrennedd a rhifedd. Yn amlwg, felly, rŷm ni’n croesawu pob symudiad pellach i’r cyfeiriad yna.
A gaf innau hefyd dystio fel rhiant i lwyddiant Hwb? Yn sicr, yn ein tŷ ni, mae’r plant llawer mwy parod i fynd i wneud eu gwaith ar Hwb yn hytrach na mynd i dwrio mewn llyfrau. Mae rhywun yn cydnabod bod angen y ddau, wrth gwrs, ond yn sicr mae ei gyfraniad e yn fawr iawn ac un i’w groesawu ac i’w adeiladau arno ymhellach, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ei awgrymu.
Fel rŷm ni wedi ei glywed, mae cael band llydan i fwy o ysgolion yn un peth, wrth gwrs. Mae sicrhau bod yr isadeiledd yn ei le yn beth arall. Ond wrth gwrs, yr hyn hefyd sydd ei angen yw sicrhau bod y caledwedd ar gael, oherwydd rwy’n gwybod am un ysgol, er enghraifft, lle os oes mwy na dau ddisgybl yn defnyddio iPad ar yr un pryd, mae’r holl system yn ‘crash-o’. Wel, o gael y band llydan yn ei le, yna mae angen bod 20 o ddisgyblion yn defnyddio iPads, ond nid oes gan yr ysgol 20 o iPads. Felly, mae angen buddsoddiad cyfalaf mewn prynu offer i gymryd mantais lawn o’r isadeiledd newydd a fydd yn cael ei roi yn ei le.
Yn yr hinsawdd lle mae cyllidebau ysgolion, wrth gwrs, yn lleihau, rwy’n gwybod, er enghraifft, am ysgol arall lle mae angen gwario £5,000 i £7,000 ar brynu cyfarpar os ydyn nhw’n mynd i gytundeb gyda darparwyr eraill am wasanaethau IT. Mae hynny’n anodd. Felly, nid wyf yn gwybod pa ystyriaeth mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei rhoi i, o bosibl, greu rhyw fath o gronfa neu ryw fath o gymorth ymarferol i ysgolion sydd angen nawr, neu a fydd angen am y tro cyntaf, manteisio’n llawn ar y capasiti band eang a fydd gyda nhw er mwyn sicrhau bod eu disgyblion nhw yn cael y budd gorau o’r buddsoddiad hwnnw.
Rwyf hefyd yn clywed y pwynt ynglŷn â’r ffaith bod yna rai pobl heb fynediad i’r we. Wel, mae yna bobl eraill, wrth gwrs, adref â mynediad i’r we ond nid yw’n ddigon da. Rwyf i’n un ohonyn nhw. Mae fy mhlant i’n aml wedi cychwyn ar eu gwaith ar Hwb ond wedi methu cwblhau’r gwaith oherwydd bod y capasiti band eang ddim yn ddigonol i gynnal y sesiwn yna. Felly, mae yna gwestiwn yn aros. Rydych yn cyfeirio yn eich datganiad at ‘parental engagement’. Wel, yr ‘engagement’ rydw i’n ei gael gyda Hwb yw un o rwystredigaeth lwyr pan nad yw’r system yn gweithio oherwydd y problemau hynny. Efallai y cawn glywed mwy mewn datganiad sydd i ddilyn.
Nid oes angen i mi eich atgoffa chi, ond mi wnaeth arolwg o’r gweithlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn ddiweddar ddangos fod technoleg gwybodaeth a sgiliau digidol yn un o’r meysydd lle mae’r gweithlu’n dweud eu bod nhw’n teimlo eu bod nhw angen llawer mwy o hyfforddiant ynddo. Mae 46 y cant, rwy’n credu, wedi dweud eu bod yn teimlo eu bod nhw angen mwy o hyfforddiant yn y maes yma.
Nawr, mi gyfeirioch chi at gyfleoedd sydd yn mynd i gael eu cyhoeddi yr wythnos nesaf, efallai, ond fe liciwn i wybod pa drefniadau sydd yn eu lle i sicrhau bod y potensial llawn yma yn cael ei wireddu, oherwydd amser i hyfforddi yw’r ‘issue’ rwyf wedi ei godi gyda chi yn y gorffennol. Mae’n anodd gweld—os ydym ni am wneud defnydd llawn o’r cyfle sydd o’n blaenau ni, yna mae’n rhaid sicrhau bod y gweithlu â’r sgiliau angenrheidiol, yn enwedig, wrth gwrs, pan rydym yn sôn am ddatblygu codio a mwy o weithgarwch o gwmpas hynny, sydd yn gofyn am lefel uwch o sgiliau yn y maes yma.
Diolch i chi, Llyr, am eich cefnogaeth ar gyfer pwysigrwydd cymhwysedd digidol ac am gydnabod ei bod yn gwbl hanfodol i’n plant fod yn gymwys yn ddigidol os ydym ni’n bwriadu rhoi'r cyfleoedd gorau iddyn nhw gystadlu yn y farchnad fyd-eang. O ran Hwb—ac ymddiheuriadau am beidio ag ateb cwestiwn Darren Millar yn y sesiwn gyntaf—mae'n galonogol iawn gweld y defnydd cynyddol o Hwb, a chydnabyddiaeth o’r gwerth y gall yr adnoddau sydd ar gael ar Hwb ei gynnig.
Rwyf hefyd yn falch iawn o gael ymgysylltu â nifer eang o randdeiliaid sydd hefyd yn gweld y gwerth mewn gweithio ar adnoddau addysgol sydd, ar yr amod eu bod yn ddwyieithog a’n bod wedi eu gwirio, rydym ni’n hapus i roi lle iddynt. Felly, er enghraifft, cymerais ran yn ddiweddar mewn digwyddiad gyda gwasanaethau tân Cymru—maen nhw’n rhannu eu hadnoddau ar Hwb. Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru wedi rhannu eu hadnoddau ar Hwb, a gwn, er enghraifft, yn ystod yr haf, yn Sioe Frenhinol Cymru, y bydd Hybu Cig Cymru yn lansio rhai adnoddau addysgol yr ydym yn gobeithio gallu rhoi lle iddynt ar Hwb. Felly, mae'n wych gweld nad ysgolion yn unig sy’n cymryd rhan, ond hefyd amrywiaeth eang o sefydliadau ledled Cymru sy'n gweld hyn fel ffordd werthfawr o gyfathrebu â phlant ysgol.
Ond, rydych chi'n iawn; mae angen i ni nodi pa ysgolion nad ydynt yn ymgysylltu â Hwb a deall y rhesymau dros hynny a beth yr ydym ni’n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny. A oes rhwystrau o ran seilwaith? Gobeithio y bydd y buddsoddiad yr ydym ni’n ei wneud yn golygu na fydd hynny yn broblem bellach o ran band eang cyflym iawn a chyflymder band eang digonol i'r ysgolion eu hunain.
Nid oes neb wedi dweud wrthyf bod caledwedd yn broblem benodol, ond heb os, rwy’n ymwybodol bod rhieni a Chymdeithasau Rhieni ac Athrawon a ffrindiau ysgolion yn aml yn gweithio’n galed iawn yn y maes hwn, mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod yr adnoddau hynny ar gael i’n pobl ifanc, a byddaf yn parhau i adolygu pa un a yw hyn yn rhwystr i ysgolion sy’n defnyddio ein platfformau penodol. Gall seilwaith yn yr ysgol fod yn broblem ac, fel y dywedais wrth Darren Millar, rydym ni’n gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio mynd i'r afael â hynny. Nid yw cysylltiadau band eang yn y cartref yn rhan o fy swyddogaeth. Fy ngwaith i yw sicrhau’r cysylltiadau band eang i'r ysgol. Rydym ni wedi dod â phawb i fyny at y cyflymder gofynnol. Rydym yn gwella hynny gyda 341 o ysgolion. Ond rwy'n siŵr y bydd Julie James yn esbonio'n glir iawn yn nes ymlaen sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu sicrhau y bydd cysylltiadau band eang ar gyfer defnydd cartref yr hyn y byddem ni i gyd yn dymuno iddyn nhw fod.
Mae dysgu proffesiynol yn gwbl allweddol ac mae angen i ni weithio ar hyn ar sawl lefel. Byddwch yn ymwybodol, fel y soniais yn fy natganiad, mai'r peth cyntaf y mae angen i ni ei wneud yw gallu asesu beth yw'r anghenion dysgu proffesiynol. Dyna pam mae’r offeryn hunanasesu Hwb, sydd bellach wedi ei ailenwi yn offeryn anghenion dysgu proffesiynol DCF, yn cael ei ddatblygu gan ein hysgolion arloesol. Mae’r fersiwn wedi’i diweddaru ar gael nawr. Mae ganddi nodwedd newydd, sy’n cynorthwyo athrawon i asesu eu sgiliau a'u hyder. Mae'n cynorthwyo cydgysylltwyr DCF mewn ysgolion i nodi anghenion dysgu proffesiynol o fewn eu hysgol eu hunain a’i diben yw cynorthwyo a datblygu cymorth proffesiynol i staff. Mae hefyd yn caniatáu i awdurdodau addysg lleol a chonsortia nodi beth yw’r anghenion dysgu yn eu hardal benodol fel y gallant addasu eu rhaglenni dysgu proffesiynol a’r hyn sydd ar gael i ddiwallu'r anghenion hynny.
Felly, mae nodi'r angen yn un peth ac yna mae’n rhaid i ni edrych ar beth yw’r cynigion hynny. Ac mae’r cynigion hynny yn niferus ac yn amrywiol. Felly, er enghraifft, lansiais adnoddau Barefoot ar Hwb yn ddiweddar yn Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri. Mae gan adnoddau Barefoot ddeunydd dysgu eich hunan yn benodol ar gyfer staff. Ddoe, roeddwn i mewn ysgol yn Llandochau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a dywedodd yr athrawon yno eu bod nhw wedi mwynhau dysgu ochr yn ochr â'u disgyblion yn fawr iawn, ac mewn gwirionedd, bod cael disgyblion i esbonio iddynt wedi gwella eu sgiliau a hefyd, bod hynny'n ffordd wych o brofi’r broses o ddysgu. Os gall disgybl egluro i chi beth sy'n digwydd, mae hynny'n ffordd wych o wybod bod dysgu yn cael ei ymwreiddio yn ogystal â datblygu sgiliau eraill. Ond mae angen dull cenedlaethol ac mae hwnnw’n cael ei ddatblygu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu nifer o swyddi o’r blaen i hyfforddi athrawon i ddefnyddio Hwb. Ac, fel y dywedais, bydd anghenion dysgu proffesiynol parhaus ein staff yn gwbl hanfodol wrth gyflawni'r agenda hon.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn sicr, rwy’n croesawu eich datganiad am y buddsoddiad mewn codio yn y dyfodol. Rwy'n credu bod hynny'n galonogol iawn ac rwy'n gobeithio, o ystyried y cyfleoedd sydd ar gael oherwydd codio, bod y cyhoeddiad yn ddigon mawr i allu manteisio ar y cyfleoedd hynny. Rwyf hefyd yn cydnabod eich sylwadau bod y DCF a Hwb yn cael eu canmol ar draws y byd a dylem longyfarch bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r prosiectau hynny am inni gael cydnabyddiaeth o’r fath. Ond, wrth gwrs, dylem ni fod yn ofalus. Nid ydym yn brin o gael ein strategaethau wedi eu cydnabod ledled y byd fel rhai arloesol, ond gwyddom mai eu rhoi ar waith yw'r rhan anodd. A dylem fod yn bryderus am sylwadau Estyn yn adroddiad blynyddol diwethaf y prif arolygydd am lefelau rhagoriaeth digidol mewn ysgolion ledled Cymru. Er, wrth gwrs, mae hyn yn codi'r cwestiwn a yw Estyn yn y sefyllfa orau i wneud y sylwadau hynny. A fyddai Estyn yn cydnabod ymarfer da mewn dysgu digidol ac a oes ganddynt y sgiliau a'r gallu i fod mewn sefyllfa i asesu hynny? Rwy’n gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddweud rhywbeth am hynny.
Mae fy mhrif gwestiwn, fodd bynnag, Ysgrifennydd y Cabinet, yn ymwneud â’r angen am arweiniad yn y maes hwn a'r angen i benaethiaid a thimau arwain ysgolion weld dysgu digidol fel bod yr un mor bwysig â rhifedd a llythrennedd a beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod yr academi genedlaethol newydd ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn gosod arweinyddiaeth ddigidol ymhlith penaethiaid y dyfodol ar sail gyfartal.
Diolch yn fawr iawn, Lee, am hynna. Fel y dywedasoch, gweithredu yw popeth ac ni fydd y ddogfen ynddi ei hun yn golygu llwyddiant. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n hollol amlwg yw, wrth sicrhau gweithredu llwyddiannus, bod angen nifer o ffactorau arnom ni. Mae angen athrawon unigol arnom ni sy'n teimlo'n hyderus a medrus wrth ddefnyddio'r DCF, ac amlinellais i Llyr rai o'r ffyrdd rhagweithiol yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau bod cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gael i athrawon presennol. Mae angen i ni sicrhau y bydd hyn, yn ein haddysg athrawon cychwynnol, wrth hyfforddi ein cenhedlaeth newydd o athrawon, pan fyddant yn ystyried materion addysgeg yn ymwneud â llythrennedd a rhifedd, yn rhan o’n cynnig Addysg Gychwynnol i Athrawon newydd fel bod gan athrawon sy’n dod allan o'n sefydliadau addysg uwch y sgiliau hyn eisoes a’u bod yn teimlo'n hyderus ac yn wybodus am sut y gall llythrennedd digidol weithio yn eu holl wersi.
Mae arweinyddiaeth, fel bob amser, ym mhob agwedd ar wella ysgolion a chodi safonau yn ein hysgolion, yn gwbl glir. Mae rhaglenni a fydd yn cael eu darparu gan yr academi arweinyddiaeth yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ond o ystyried mai pwysigrwydd cymhwysedd digidol ochr yn ochr â rhifedd a llythrennedd, yw’r tair thema sy’n darparu’r seiliau ar gyfer ein taith diwygio addysgol, byddai rhywun yn disgwyl ac, yn wir, yn mynnu i arweinwyr ysgolion allu dangos eu hymrwymiad a'u cymhwysedd yn y maes penodol hwn.
O ran asesu a phwy sydd orau i farnu beth sy'n digwydd yn ein hysgolion, rwy’n credu, fel unrhyw sefydliad wrth i dechnoleg newydd ddatblygu, bod yn rhaid i sefydliad brofi ei hun o ran pa un a oes ganddo'r agweddau iawn at farnu eraill. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae Estyn eisoes yn adolygu ac wedi gwneud addasiadau i'w fframwaith presennol o arolygu ysgolion. Ar hyn o bryd, maen nhw’n datblygu fframwaith newydd ar gyfer y ffordd y maen nhw’n arolygu awdurdodau addysg lleol unigol, ond rwy'n sicr y byddai Estyn y cyntaf i ddweud y bydd yn rhaid edrych ar eu hymagwedd gyffredinol o ran sut y gall Estyn gyfrannu at wella ysgolion, a bydd yn rhaid edrych ar ei swyddogaeth yn ein cenhadaeth genedlaethol o wella addysg, ar ryw adeg.
Diolch. Ac yn olaf, Michelle Brown.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu eich ymrwymiad i'r amcan o sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn gymwys yn ddigidol erbyn iddo adael yr ysgol. Mewn gweithleoedd modern, ychydig iawn o swyddi sy’n bodoli lle nad oes angen ryw lefel o gymhwysedd mewn technoleg ddigidol, a phrin iawn yw’r meysydd o fywyd lle nad yw'n ymestyn iddynt erbyn hyn. Felly, rwy'n falch o’r ffaith bod sgiliau o'r fath yn rhan annatod o'r cwricwlwm. Hefyd, rwy’n croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i addysgu disgyblion am fwlio seiber drwy'r fframwaith cymhwysedd digidol.
Mae croeso i’r cyflwyniad o offeryn mapio cwricwlwm a’r offer anghenion proffesiynol sydd wedi eu diweddaru, ac o'r hyn yr ydych chi’n ei ddweud wrthym am fanteisio ar yr adnoddau ar-lein newydd, mae'n ymddangos bod yr athrawon a'r disgyblion yn eu gweld yn ddefnyddiol. Rwy’n croesawu eich ymdrechion hefyd i gynorthwyo a chefnogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau addysgu er mwyn cadw’n gyfredol mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym. Rydych chi’n datgan y bydd dull dysgu proffesiynol newydd ar gael o dymor yr hydref. Mae'r cysyniad hwn yn swnio'n ddiddorol, ond nid ydych wedi darparu unrhyw wybodaeth yn eich datganiad am beth y gallai hyn ei olygu, a sut y mae’r dull newydd yn debygol o edrych. Felly, a wnewch chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am hyn?
Mae nifer y defnyddwyr sy’n manteisio ar Hwb yn dangos bod yr adnoddau yn boblogaidd o leiaf, ac rwy’n croesawu’r ffaith bod datblygiad parhaus Hwb yn cael ei seilio ar sylwadau gan athrawon a chonsortia addysgol rhanbarthol. Rwy'n falch o ymdrechion Ysgrifennydd y Cabinet i gynnwys rhanddeiliaid o'r fath yn y gwaith o ddatblygu adnoddau ar-lein, ond mae hyn hefyd yn gwneud i mi feddwl pam nad yw rhieni yn cael yr un fraint, o gael eu barn wedi’i cheisio a’i hystyried mewn adroddiadau ar ansawdd ysgolion, yn yr un modd ag y mae safbwyntiau athrawon a chonsortia rhanbarthol yn cael eu ceisio a'u hystyried ynglŷn ag ansawdd adnoddau ar-lein.
Bydd mwy o ddibyniaeth ar offer ar-lein a TG yn yr ystafell ddosbarth, wrth gwrs, yn arwain at fwy o bwysau ar fand eang yr ysgol, ac rwy’n cytuno â chi ei bod yn annerbyniol i ysgol fod dan anfantais o ganlyniad i gyflymder rhyngrwyd gwael. Felly, rwy’n croesawu'r cyllid ychwanegol y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i neilltuo ar gyfer gwella band eang mewn ysgolion. Fodd bynnag, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet osod beth yw'r meini prawf cymhwysedd i gael buddsoddiad o’r gronfa honno ar gyfer band eang yr ysgol, ac ar ba sail na fyddai ysgol yn cael y cyllid hwnnw? Pa ddarpariaethau sydd ar waith ar gyfer ysgol y gwrthodwyd cyllid iddi ar gyfer gwelliannau i'w band eang, allu apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod cyllid?
Nodaf sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet am y datblygiad sgiliau codio mewn ysgolion. Mewn egwyddor, mae addysgu'r sgiliau sylfaenol i ddisgyblion a fydd yn eu galluogi i gael swyddi technolegol i’w groesawu. Mae addysgu’r sgiliau hynny yn hanfodol wrth ymdrechu i arfogi’r bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn well ar gyfer y byd gwaith ac i ysgogi diddordeb mewn astudio codio a data diogelwch, ac ati, os ydym yn mynd i gynhyrchu ein harbenigwyr TG ein hunain, yn hytrach na rhoi hyfforddiant ac addysg o'r fath ar gontract allanol, i bob pwrpas, i wledydd eraill. Felly, rwy’n edrych ymlaen at glywed eich datganiad ar ddatblygu sgiliau codio yr wythnos nesaf. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Michelle, am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu mai’r hyn sy'n gwbl hanfodol yw ein bod yn galluogi ein plant i gael yr wybodaeth am sut y gallant aros yn ddiogel ar-lein, sut y gallant ddefnyddio technoleg mewn bywyd bob dydd, ond hefyd, yn allweddol, fel y dywedasoch ar y diwedd, bod eu gwybodaeth yn mynd y tu hwnt i hynny ac mewn gwirionedd eu bod yn deall gweithrediadau sut y mae’r dechnoleg honno yn cael ei chreu a manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth sylweddol a fydd yn bodoli wrth fod â sgiliau codio.
Nid wyf am farnu ymlaen llaw yr hyn y byddaf yn ei ddweud yr wythnos nesaf ynghylch strategaeth y Llywodraeth ar godio, ond i fod yn glir, fy uchelgais i yw bod mwy o blant yn cael mynediad at y sgiliau hynny ac at y cyfleoedd hynny, ac mae hynny’n mynd y tu hwnt i blant. Rwy’n gweithio'n agos iawn â fy nghydweithiwr Cabinet dros sgiliau i weld sut y gall y sgiliau hynny gael eu cyflwyno i ddysgwyr sy'n oedolion, a sut y gall pobl, efallai nad ydynt ar hyn o bryd yn y gweithle, gael y sgiliau hynny. Maen nhw’n sgiliau sy'n golygu y gellir goresgyn anfantais logistaidd, h.y. pan eich bod yn gaeth i gymuned sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gwael i allu cyrraedd dinas fawr, os yw'r seilwaith band eang cyflym iawn yn ddigon da, gallwch wneud hynny o'ch cartref. Os oes gennych gyfrifoldebau gofalu ac na allwch weithio oddi cartref, gallwch godio a gweithio i gwmni llwyddiannus yn eich cartref eich hun. Felly, mewn gwirionedd, mae hyn yn mynd y tu hwnt i ddim ond codio ar gyfer pobl iau, mae'n ymwneud â defnyddio’r sgiliau hyn er mwyn gallu ymrymuso y gweithlu yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.
O ran y meini prawf, ar gyfer y 341 o ysgolion sydd wedi cael eu cefnogi gan £5 miliwn hwn, mae’r sgyrsiau hynny wedi'u cael gydag awdurdodau lleol unigol sydd wedi nodi ysgolion sydd â phroblemau sylweddol o ran cynyddu eu cyflymder band eang, y mae eu cofrestrau, efallai, yn cynyddu oherwydd uno ysgolion neu gau ysgolion, a gallai ailsefydlu patrwm gwahanol o fewn yr ysgol olygu y gallai ei chael hi’n anodd, yn ogystal â nodi adnoddau ar gyfer ein hysgolion arbennig, a oedd, fel yr amlinellais, â chyflymder is wedi’i osod ar eu cyfer yn wreiddiol ac rydym ni’n awyddus i fynd i'r afael â hynny, oherwydd yr anghenion penodol unigol sydd gan ysgolion arbennig ynghylch y math hwn o dechnoleg. Byddwn yn parhau i adolygu yn gyson digonolrwydd y seilwaith sydd ar gael.
O ran codio, fel y dywedais, mae hynny'n bwysig iawn ac mae rhieni yn rhan bwysig o'r drafodaeth gyfan hon; nid yw hyn yn ymwneud ag eithrio rhieni o'r drafodaeth hon. Mae llawer o ysgolion, rwy’n gwybod, yn gweithio'n agos iawn gyda'u cymunedau rhieni i rannu arfer da, i rannu, er enghraifft, cyngor ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd, er mwyn gallu rhoi cyfleoedd ar ôl ysgol i rieni ddod i mewn a deall yr hyn y gallant ei wneud yn rhwydd gartref gyda hidlyddion, ac ati, i gadw eu plant yn ddiogel ar-lein. Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag eithrio rhieni o hyn; mewn gwirionedd, rydym ni’n awyddus i gynyddu ymgysylltiad rhieni a’u dealltwriaeth o sut y gall yr adnoddau hyn fod o gymorth mawr i gyrhaeddiad academaidd ac addysgol eu plant.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.