1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EDU)
Gyda dyfodiad strategaeth Llywodraeth Cymru am filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rwy’n cytuno bod rhaid inni fod yn gyson ac yn gadarn, gan hoelio sylw agweddau penodol wrth hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Byddwn ni’n lansio ymgyrch cenedlaethol ym mis Medi.
Diolch yn fawr am yr ymateb yna, Gweinidog. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr fis diwethaf, mae llawer yn gofyn pam nad yw cyngor Pen-y-bont yn gwneud mwy i hyrwyddo a datblygu addysg cyfrwng Cymraeg yn y sir. Dim ond pedair ysgol gynradd Gymraeg sydd yn y sir, lefel isel iawn mewn cymhariaeth ag awdurdodau eraill. A ydych chi’n cytuno bod y sefyllfa bresennol ym Mhen-y-bont yn anfoddhaol, a beth ydych chi’n ei wneud i newid y sefyllfa, yn enwedig drwy hyrwyddo addysg Gymraeg a chodi’r nifer o blant ifanc sy’n derbyn addysg Gymraeg yn y sir?
Rydw i’n bendant yn cytuno bod Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn hynod o lwyddiannus, a dylem ni longyfarch pob un o’r gwirfoddolwyr wnaeth hybu a chyfrannu at lwyddiant Eisteddfod yr Urdd. Rwy’n credu bod lot fawr o Aelodau wedi ymweld â maes yr Eisteddfod ac wedi mwynhau eu hymweliad. Mae Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn i Aled Roberts wneud arolwg o’r WESPs i gyd, yn cynnwys Pen-y-bont, ac mi fydd e’n adrodd imi yn ystod yr wythnosau nesaf. Mi fyddaf i’n cyhoeddi ei adroddiad llawn e unwaith rydw i’n gallu gwneud hynny. Ond a gaf i ddweud hyn? Rydych chi’n gofyn am Ben-y-bont. Mae Pen-y-bont yn dangos bod yna uchelgais a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae cyngor Pen-y-bont yn gwneud hynny, ond mae’n rhaid i ni gydweithio gyda nhw a chydweithio gyda’n gilydd i sicrhau eu bod nhw yn gallu cyrraedd y weledigaeth y maen nhw wedi ei gosod.
Rwy’n croesawu’r cwestiwn, a’r ateb hefyd, oherwydd rhaid inni gydnabod bod Pen-y-bont ar Ogwr, fel eraill, yn dechrau o sylfaen gymharol isel o ran y ddarpariaeth yng Nghymru. Yn sicr, yn y cyfnod y bûm yn cynrychioli’r sedd mewn gwahanol sefydliadau, mae wedi darparu cyfleuster addysg uwchradd yn Llangynwyd bellach. Ceir galwadau gan rieni y dylai fod yn fwy canolog, ac rwy’n deall y gofynion hynny. Roedd fy mhlant—y tri ohonynt—yn ffodus i fynd i un o’r ysgolion cynradd gorau yn yr etholaeth gyfan, ac yn cerdded yn llythrennol i lawr y ffordd i Ysgol Cynwyd Sant, darpariaeth gwbl Gymraeg ei hiaith o’r radd flaenaf ac wedi’i gwreiddio yn yr eisteddfodau ac yn y blaen. Ond mae mwy i’w wneud, heb amheuaeth. Roeddwn yn y seremoni torri’r dywarchen y diwrnod o’r blaen ar gyfer ysgol gynradd newydd Betws, a fydd yn gwasanaethu nid yn unig y Cymoedd Gogleddol ond rhai o’r ardaloedd canolog hefyd. Ond rwyf am ofyn i’r Gweinidog: pa gymorth ychwanegol y gellir ei roi i awdurdodau lleol sy’n dechrau o sylfaen is—o ran cyngor hefyd—i symud ymlaen? A wnaiff roi anogaeth hefyd i’r awdurdodau sy’n ceisio gwneud y peth iawn, ond sy’n gwybod hefyd pa mor bell y mae’n rhaid iddynt fynd?
Rwy’n gobeithio y gallwn roi anogaeth i awdurdodau lleol. Y dull a ddefnyddiais drwy gydol proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg oedd gweithio gyda phobl yn hytrach na gweiddi ar bobl. Rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom yma, yn y Siambr hon, i weithio gyda’n hawdurdodau lleol ein hunain. Rwy’n sicr yn awyddus i weithio gyda fy awdurdod lleol i ym Mlaenau Gwent i sicrhau eu bod yn gallu tyfu, a gwireddu eu huchelgais hefyd. Ymwelais â’r unig ysgol iaith Gymraeg ym Mlaenau Gwent rai wythnosau yn ôl i drafod sut y gallant wella a datblygu eu darpariaeth. Yr hyn a welaf pan fyddaf yn teithio ar draws y wlad yw’r hyn a ddisgrifiodd yr Aelod dros Ogwr, sef ewyllys da dwfn a gwych tuag at yr iaith a dymuniad i ddatblygu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Credaf fod y ffynnon honno o ewyllys da yn rhywbeth y mae’n rhaid i bawb ohonom geisio ei hannog. Bydd Llywodraeth Cymru yn sicr yn chwarae ei rhan, o ran annog y ddarpariaeth, annog rhieni i ddefnyddio’r ddarpariaeth honno, a sicrhau wedyn fod yr awdurdodau lleol eu hunain yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni’r weledigaeth y mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi’i hamlinellu yn eu cynlluniau eu hunain.
Rwy’n meddwl bod yna newid swyddogion wedi bod yn yr ardal benodol y soniwch amdani ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddar, felly gobeithio y byddwn yn gweld rhywfaint o welliant. Ond roeddwn am ofyn i chi ynglŷn â rhywbeth arall. Rydych wedi cydnabod yn flaenorol y rôl y gall busnesau Cymru ei chwarae yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn wir, yn ysgogi’r galw am sgiliau mewn gwirionedd, ac rydym yn aml yn siarad yn gadarnhaol yn y Siambr hon am gydweithio rhwng busnesau ac ysgolion a cholegau, o ran dylanwadu ar, a hwyluso yn wir, y ffordd y caiff y cwricwlwm ei gyflwyno mewn ffordd ddiddorol. A ydych yn cael unrhyw awgrym yn ddiweddar fod busnesau efallai’n fwy awyddus i weithio gydag ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd y nod i gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg? Neu a yw’r enghreifftiau hyn o gydweithredu yn dal i fod i raddau helaeth yn benderfyniadau lleol—perthynas dda rhwng arweinwyr busnes ac arweinwyr ysgolion neu golegau—lle nad yw’r iaith yn ystyriaeth ar eu hagenda o bosibl?
Yr hyn a welaf, fel y dywedais wrth ateb Huw Irranca-Davies, yw llawer iawn o ewyllys da o bob rhan o’r gymuned, gan gynnwys busnesau, a’r hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud, drwy gyhoeddi’r strategaeth i sicrhau miliwn o siaradwyr erbyn 2050, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y toriad, yw ymgais i sicrhau bod cydweithio yn cael ei wireddu, yn cael ei annog, yn cael ei ddarparu gyda chefnogaeth, ac yn galluogi pobl i weithio gyda’i gilydd, oherwydd credaf mai hynny’n union y mae pobl eisiau ei wneud, er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r weledigaeth rydym i gyd yn ei rhannu ar gyfer dyfodol yr iaith.