– Senedd Cymru am 2:38 pm ar 14 Mehefin 2017.
Yr eitem nesaf ar ein agenda ni yw’r ddadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig Aelod ar Fil Awtistiaeth (Cymru). Ac rwy’n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig.
Diolch, Llywydd. Ac rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i gyflwyno Bil awtistiaeth i’r Cynulliad. Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad o staff y Comisiwn sydd wedi fy nghefnogi yn y broses hon, ac wedi helpu i roi’r memorandwm esboniadol cysylltiedig at ei gilydd. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch diffuant i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am eu cefnogaeth ragorol drwy gydol y broses hon, ac i’r gymuned awtistig ehangach yng Nghymru, sydd wedi dweud yn glir iawn, dro ar ôl tro, eu bod eisiau gweld Deddf awtistiaeth yn cael ei chyflwyno, er mwyn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol i ddarpariaeth a chymorth awtistiaeth yng Nghymru. Wel, mae’r Cynulliad bellach mewn sefyllfa i ganiatáu neu wrthod cyflwyno Bil awtistiaeth, ac rwy’n gobeithio y bydd Aelodau o bob plaid yn gwrando ar fy nadleuon ac o ddifrif yn ystyried caniatáu i mi gyflwyno’r Bil hwn.
Yn ganolog i’r cynigion hyn, mae sicrhau bod y ddarpariaeth yno i ateb anghenion y 34,000 o bobl awtistig yng Nghymru, a hefyd i sicrhau bod awtistiaeth yn cael ei hunaniaeth statudol ei hun. Bwriad y Bil yw sicrhau bod pob gwasanaeth awtistiaeth yn cael ei ddarparu’n gyson ac yn barhaus ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun gweithredu strategol cyfredol ar awtistiaeth ar waith tan 2020 yn unig, ac felly nid oes unrhyw sicrwydd y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth yn cael unrhyw flaenoriaeth barhaus wedi hynny.
Rydym yn gwybod bod deddfwriaeth yn Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Llywodraethau hynny gyhoeddi strategaeth awtistiaeth ar gyfer oedolion, ac ar gyfer oedolion a phlant, ac rwy’n gobeithio y bydd Cymru’n ymuno â’r ddwy wlad i sefydlu deddfwriaeth ar sail drawsbleidiol sy’n gweithio i sicrhau canlyniadau go iawn i’r gymuned awtistiaeth. Trwy greu gofyniad cyfreithiol i gyhoeddi strategaeth awtistiaeth drwy’r Bil awtistiaeth arfaethedig, bydd yn helpu i sicrhau lefel o barhauster o ran darparu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth ar draws y wlad. Byddai’r Bil arfaethedig yn sicrhau bod ffocws parhaus a phwrpasol ar anghenion pobl ag awtistiaeth yn sylfaen ganolog iddo, beth bynnag fo lliw Llywodraethau yn y dyfodol yng Nghymru. Gall pobl ag awtistiaeth sy’n byw yng Nghymru fod yn sicr beth bynnag fo canlyniad etholiadau’r Cynulliad, y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth yn parhau i fod yn flaenoriaeth gadarn i unrhyw Lywodraeth Cymru a ddaw i rym. I bob pwrpas, bydd y Bil hwn yn dadwleidyddoli darparu gwasanaethau awtistiaeth ac yn sicrhau na fydd yn fater gwleidyddol mwyach.
Rwy’n siŵr y bydd pob Aelod yn cytuno bod angen i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol wybod beth yw maint y galw yn eu hardaloedd lleol eu hunain er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol. Rwy’n derbyn yn llwyr fod gwneud diagnosis o awtistiaeth yn gallu bod yn gymhleth iawn ac y bydd yn cynnwys asesiadau amlasiantaethol ac arbenigol sy’n rhaid eu cyflawni gan arbenigwyr yn eu maes gwaith. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae’n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd gynhyrchu asesiadau poblogaeth i asesu’r lefelau o angen am wasanaethau gofal a chymorth yn eu hardaloedd. Deallaf mai un o themâu craidd yr asesiadau poblogaeth hyn yw anabledd dysgu, a ddylai gynnwys awtistiaeth. Fodd bynnag, mae yna bryderon go iawn fod yna berygl y gallai anghenion penodol pobl ag awtistiaeth gael eu cynnwys yng nghategori ehangach anableddau dysgu, sy’n golygu unwaith eto na fydd anghenion pobl awtistig yn cael eu diwallu. Felly, mae’r Bil hwn yn ceisio sefydlu arferion, gan gynnwys casglu data dibynadwy a pherthnasol ar niferoedd ac anghenion plant ac oedolion awtistig, fel y gall ardaloedd lleol gynllunio a chydlynu’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn unol â hynny.
Mae’n hanfodol fod llwybrau clir at ddiagnosis awtistiaeth yn cael eu sefydlu mewn ardaloedd lleol, a bod gan y rhai yr effeithir arnynt gan awtistiaeth fynediad at wybodaeth glir a dealladwy am y llwybrau. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llwybr asesu diagnostig yn seiliedig ar arferion gorau, gan gynnwys sut i gael asesiad yn ogystal ag amseroedd aros disgwyliedig rhwng pob cam o’r broses. Mae mor bwysig fod rhieni a theuluoedd ledled Cymru yn deall holl broses gofal o’r dechrau i’r diwedd, fel eu bod yn gwybod yn union beth y gallant ei ddisgwyl ar bob cam, ac felly eu bod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael.
Byddai’r Bil, o gael ei gyflwyno, yn galluogi byrddau iechyd ledled Cymru i fod yn atebol yn gyfreithlon am ddarparu llwybr clir ar gyfer oedolion a phlant.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, fe wnaf mewn munud.
Rydym i gyd yn gwybod ei bod mor hanfodol i lwybrau fod ar waith ar gyfer teuluoedd cyn gynted â’u bod wedi ymweld â’u meddyg teulu, gan fod ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn datblygu’r cymorth cywir i rywun sy’n cael diagnosis o awtistiaeth. Yn fy marn i, dylai unrhyw lwybrau a sefydlir gynnwys ymgyrch ymwybyddiaeth sylfaenol, fel bod teuluoedd yn deall yn iawn pa wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn eu cymunedau lleol. Mae’n siomedig nad oes gwybodaeth glir ar gael i’r cyhoedd mewn rhai rhannau o Gymru ar lwybrau i ddiagnosis, ac felly mae llawer o bobl yn ei chael yn anodd iawn deall beth yn union yw’r broses o gael diagnosis ac asesiad llawn. Yn wir, gallai fod rhywfaint o le hyd yn oed i ddefnyddwyr llwybrau presennol a’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth fod yn rhan o’r broses o greu llwybrau newydd.
Wrth gwrs, mae hyn yn arwain at y pwynt ehangach fod yn rhaid i fwy o wybodaeth fod ar gael yn fwy cyffredinol am awtistiaeth, a nodaf fod y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd yn tynnu sylw at y ffaith fod gwybodaeth, canllawiau a deunyddiau hyfforddi yn cael eu datblygu drwy dîm cenedlaethol anhwylderau’r sbectrwm awtistig, a gwefan ASD Info Cymru. Ond rwy’n credu ei bod yn bwysig sicrhau bod gwybodaeth fwy lleol ar gael ar lefel lawer mwy lleol a chymunedol. Ildiaf i’r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ystyried ildio. Yn sicr, rwy’n cefnogi’r egwyddor sy’n sail i’w Fil. Rwyf eisiau dychwelyd at y pwynt a wnaeth am y bwrdd iechyd. Un o’r anawsterau o ymdrin ar hyn o bryd â strategaethau a chynlluniau yw nad yw’r sector iechyd wedi cefnogi hyn yn llawn, ac a yw hynny’n rhywbeth y mae’r Bil yn ceisio mynd i’r afael ag ef?
Yn bendant, a dyna pam y mae angen llwybrau clir fel bod pobl yn deall pa wasanaethau a pha gymorth sydd ar gael mewn gwirionedd, a bydd byrddau iechyd yn gwybod wedyn pa wasanaethau y dylent fod yn eu cyflawni yn eu cymunedau lleol.
Wrth gwrs, mae un agwedd allweddol ar y Bil arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i staff sy’n gweithio gyda phobl ag awtistiaeth i gael hyfforddiant awtistiaeth, a gwn fod hwn yn fater sydd wedi’i godi dro ar ôl tro. Rwyf am ei gwneud yn glir fod croeso i’r gwaith a wnaed gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar ar y mater penodol hwn, a bod y mesurau a gynhwysir yn y Bil arfaethedig yn ceisio ychwanegu at, nid cymryd lle’r mesurau hyn. Mae’n hanfodol fod hyfforddiant awtistiaeth yn cael ei ddarparu i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl awtistig a lle bo’n briodol, yn cael ei fandadu, a dylai hynny gynnwys cynlluniau hyfforddi.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai un o’r anawsterau y mae plant ar y sbectrwm awtistig yn eu hwynebu yw gwneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth cywir yn yr ysgol, ac felly mae’n bwysig fod hyfforddiant awtistiaeth wedi’i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon a’i wella gyda datblygiad proffesiynol parhaus. Mae lle i wneud mwy yma gyda byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol, a dylai unrhyw gynlluniau a gynhyrchir gynnwys amserlenni hefyd ar gyfer monitro effeithiolrwydd y cynlluniau. Gallai cyflwyno Bil awtistiaeth penodol sicrhau bod gweithwyr proffesiynol allweddol megis athrawon yn cael hyfforddiant gorfodol mewn awtistiaeth, a fyddai’n mynd beth o’r ffordd at wella canlyniadau i blant ag awtistiaeth wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion.
Mae’n gwbl hanfodol—
Iawn, fe ildiaf.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi ddweud o’r cychwyn fy mod yn llwyr gefnogi’r Bil hwn? Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i mi, fel rhai o’r Aelodau eraill yma gan gynnwys yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, adael cyn y bleidlais mewn gwirionedd, ond a gaf fi gofnodi fy nghefnogaeth iddo? A gaf fi ddweud hefyd fy mod yn credu mai’r un peth amdano yw ei fod yn cynnig eglurder ac yn sicrhau gorfodaeth? Rwy’n meddwl bod y rheini’n ddau beth pwysig iawn, a’r perygl yw bod gennych un gyfres o nodiadau cyngor yn cael ei dilyn gan gyfres arall o nodiadau cyngor. Mae deddfwriaeth yn rhoi eglurder a gorfodaeth i chi.
Wel, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyrain Abertawe am ei gefnogaeth, ac rwy’n cytuno â phopeth y mae newydd ei ddweud.
Nawr, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn annog cydweithio rhwng asiantaethau ac yn hyfforddi’r gweithlu i allu cefnogi rhai sydd ag awtistiaeth yng Nghymru yn y ffordd orau. Yn fy marn i, byddai Bil awtistiaeth yn gweithio gyda’r Bil anghenion dysgu ychwanegol a gwaith ehangach arall a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn er mwyn gwneud yn siŵr fod y cynnydd yn digwydd. Fy mwriad penodol ar gyfer y Bil hwn yw iddo weithio ochr yn ochr â gwaith Llywodraeth Cymru, nid yn ei erbyn, er mwyn sicrhau bod y gymuned awtistiaeth yng Nghymru yn cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu. Yn naturiol, mae croeso i gynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar ei newydd wedd, a fy mwriad yw i fy Mil weithio ochr yn ochr â’r cynllun gweithredu er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnal y tu hwnt i 2020.
Mae’r cynllun awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd yn gwneud llawer i ddarparu cefnogaeth, cyngor ac ymyrraeth ar gyfer y rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru, ac unwaith eto, rwy’n croesawu’r gwaith hwnnw, yn enwedig o ran mynd i’r afael â diagnosis i oedolion yng Nghymru. Credaf yn gryf y bydd fy Mil yn helpu i gryfhau’r gwaith hwnnw drwy sicrhau hawliau pobl awtistig â dyletswydd statudol. Nawr, rwy’n deall y bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau y bydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol a’r tribiwnlys addysg yn rhoi cymorth ychwanegol i bobl ag awtistiaeth. Fodd bynnag, mae’r Bil dysgu ychwanegol yn cynnwys cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag awtistiaeth hyd at 25 oed. Eto i gyd, er bod hynny i’w groesawu, bydd fy Mil yn ceisio darparu cymorth i bawb sy’n byw gydag awtistiaeth a gwneud yn siŵr fod gwasanaethau ar gael i bob grŵp oedran.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol fod bylchau yn dal i fodoli yn y ddarpariaeth ar gyfer awtistiaeth, ac mae amseroedd diagnosis mewn rhai rhannau o Gymru yn llawer rhy hir. Yn fy etholaeth fy hun, mae rhai plant wedi wynebu gorfod aros am hyd at saith mlynedd am ddiagnosis, ac mae hynny’n gwbl annerbyniol. Nawr, fe gydnabu bwrdd iechyd Hywel Dda fod yna broblem yn Sir Benfro ac ymrwymodd i ddarparu adnoddau, sydd wedi arwain at welliant. Fodd bynnag, mae’r adnoddau penodol hynny bellach wedi’u dileu unwaith eto, ac yn anffodus, mae’r gwelliannau yn y lefelau diagnosis wedi disgyn eto o ganlyniad i hynny. Er bod arferion da a gwasanaethau ymatebol i’w gweld mewn rhai ardaloedd, mae ffocws lleol y cynllun gweithredu strategol wedi golygu bod y ddarpariaeth wedi aros yn anghyson ar draws Cymru. Yn syml iawn, mae angen sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael cefnogaeth o ansawdd lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru.
Nawr, rwy’n derbyn bod gan rai ohonoch bryderon ynglŷn â gweithredu a chyflwyno’r Ddeddf awtistiaeth yn Lloegr, ond rwyf am eich atgoffa fod gennym gyfle i greu Bil pwrpasol sy’n addas i anghenion y gymuned awtistiaeth yma yng Nghymru, ac nid unrhyw le arall. Mae’n bwysig cydnabod arferion da, boed hynny yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu unrhyw le arall, ond mae’n hanfodol ein bod yn teilwra unrhyw ddeddfwriaeth benodol ar awtistiaeth i fynd i’r afael ag anghenion y gymuned awtistiaeth yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, os caf ganiatâd heddiw i fynd â’r Bil i’r cam nesaf, byddaf yn cychwyn ar gryn dipyn o ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddysgu mwy am anghenion penodol y gymuned awtistiaeth ar draws y wlad a byddaf yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael sylw priodol gan y Bil hwn. Rwyf am ei gwneud yn glir heddiw fy mod eisiau gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac adeiladu ar beth o’r gwaith da a welsom yn ystod y misoedd diwethaf. Os yw’r 13 mis nesaf yn profi bod gwaith parhaus Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn arwain at welliant helaeth yn y ddarpariaeth a’r gefnogaeth i’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yma yng Nghymru, yna byddaf yn barod i drafod gyda’r Llywodraeth ac ailystyried yr angen am ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ar sail gwybodaeth.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i atgoffa’r Aelodau nad yw’r galw am Ddeddf awtistiaeth yng Nghymru wedi dod gan Aelodau’r Cynulliad neu wleidyddion, ond gan y gymuned awtistiaeth ei hun. Byddai hwn yn Fil a grëwyd gan y gymuned awtistiaeth ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ac rwy’n credu bod arnom yr hawl iddynt i archwilio ymhellach yr angen i gyflwyno’r ddeddfwriaeth honno.
Mae’r Bil arfaethedig hwn yn anelu at sicrhau chwarae teg o ran mynediad at wasanaethau ar gyfer pobl awtistig lle bynnag y maent yn byw, a bydd yn rhoi dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Gobeithiaf y bydd gan Lywodraeth Cymru feddwl agored ynglŷn â’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, gan fod pob un ohonom yn y Siambr hon eisiau yr un peth: gweld gwelliannau gwirioneddol a helaeth i’r modd y caiff gwasanaethau eu cyflenwi a’u darparu yng Nghymru. Y llynedd, gwnaeth y Gweinidog yn glir iawn fod y drws yn agored iawn i ddeddfwriaeth awtistiaeth yng Nghymru, ac rwy’n mawr obeithio bod hynny’n dal i fod yn wir. Felly, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac i ailddatgan cryfder ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni’r gwelliannau y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Ers i ni drafod awtistiaeth ddiwethaf yn y Siambr hon, mae cynnydd da wedi’i wneud. Mae blwyddyn bellach ers i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gael ei rhoi mewn grym ac mae’n dechrau trawsnewid y ffordd y mae pobl yn cael gofal a chymorth. Cyhoeddasom gynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer awtistiaeth, yn gyfan gwbl mewn ymateb i’r hyn y dywedodd pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd wrthym eu bod eisiau ei weld, ac rydym eisoes yn cyflawni’r blaenoriaethau yn y cynllun hwn, yn cynnwys buddsoddi £13 miliwn yn ein gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd, sy’n newid go iawn i’r ffordd rydym yn diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth.
Fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ar awtistiaeth ar ddiwedd mis Tachwedd, mae gan Lywodraeth Cymru y pwerau a’r ysgogiadau polisi sydd eu hangen arnom i gyflawni’r gwelliannau i wasanaethau a chymorth y mae pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, yn dweud wrthym eu bod am eu gweld. Rwyf wedi dweud y byddwn yn cadw meddwl agored ynglŷn â’r angen am fwy o ddeddfwriaeth ar ôl i ni allu asesu’r dystiolaeth ar ganlyniadau’r cynllun gweithredu strategol newydd ar anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Serch hynny, mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y byddaf, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, yn cyflwyno canllawiau statudol ar awtistiaeth o dan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant i ategu’r gwaith o gyflawni’r cynllun gweithredu strategol. Bydd hyn yn sicrhau bod cyrff statudol yn deall eu cyfrifoldebau tuag at bobl ag awtistiaeth ac yn gweithredu i ddiwallu’r anghenion hynny. Fel y mae’r Prif Weinidog wedi datgan o’r blaen yn y Siambr hon, rwy’n archwilio sut y gallwn gyflwyno deddfwriaeth i roi’r cynllun gweithredu strategol ar y sbectrwm awtistig ar sail statudol, a gwn fod hyn yn mynd at wraidd yr hyn y siaradodd Paul Davies amdano yn ei araith heddiw, ac y bydd yr Aelodau yma a phobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yn croesawu hyn.
Rwyf eisoes wedi gwneud ymrwymiad clir yn y cynllun gweithredu strategol i fonitro’r cynnydd rydym yn ei wneud. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi sefydlu grŵp cynghori ar weithredu ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac fe gyfarfu am y tro cyntaf ym mis Mawrth. Mae’r aelodaeth yn cynnwys pobl sydd ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr, sefydliadau sy’n eu cynrychioli a sefydliadau cyflawni statudol. Bydd y grŵp hwn yn fy nghynghori ar yr hyn sy’n gweithio’n dda a lle mae’n rhaid gwella. Ers ein dadl ddiwethaf, rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol a fydd yn canolbwyntio ar y gwelliannau a brofir yn uniongyrchol gan bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Rydym eisiau gwybod sut y mae eu bywydau o ddydd i ddydd yn gwella a’u bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.
Mae rhieni yn bryderus iawn ynglŷn ag amseroedd aros am asesiad a diagnosis, a hynny’n ddigon teg. Trwy ein rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc, rwy’n falch o ddweud ein bod yn rhyddhau £2 filiwn bob blwyddyn i wella gwasanaethau asesu niwroddatblygiadol. Rydym wedi cyflwyno targed amser aros newydd o 26 wythnos rhwng atgyfeiriad ac apwyntiad cyntaf, ac rydym eisoes wedi rhoi llwybr asesu plant newydd y cytunwyd arno’n genedlaethol ar waith ledled Cymru, fel bod teuluoedd yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fydd eu plentyn yn cael ei gyfeirio i gael asesiad a bod yna gysondeb lle bynnag y maent yn byw.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth y byrddau iechyd ynglŷn â’r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ddiwallu anghenion pobl ag awtistiaeth. Gwyddom efallai nad yw llawer o bobl ag awtistiaeth yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae’n dal i fod ganddynt anghenion cymorth sylweddol, a allai waethygu os nad eir i’r afael â hwy’n gynnar. Trwy’r gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol newydd i rai o bob oed, byddwn yn rhoi cefnogaeth i bobl sy’n byw gydag awtistiaeth a’u teuluoedd pan fyddant fwyaf o’i angen. Bydd cymorth a chyngor ar gael gan ystod o broffesiynau arbenigol, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi galwedigaethol a seicoleg. Bydd gweithwyr cymunedol ar gael hefyd ym mhob awdurdod lleol i gefnogi a chynorthwyo gyda materion o ddydd i ddydd. Bydd y gwasanaeth yn darparu cyngor a chefnogaeth mewn perthynas â phethau megis rheoli pryder, sgiliau cymdeithasol, sgiliau bywyd bob dydd a chael gafael ar wasanaethau eraill fel gofal iechyd, cymorth cyflogaeth a thai. Felly, mae’r gwasanaeth hwn bellach yn dod yn realiti. Mae eisoes ar waith ym Mhowys, a dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd yn cael ei gyflwyno yng Nghaerdydd a’r Fro, Gwent a Chwm Taf. Bydd pob un o’r rhanbarthau sy’n weddill yn dechrau datblygu’r gwasanaeth eleni, ac edrychaf ymlaen at weld Cymru yn dod yn wlad gyntaf i ddarparu gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol llawn erbyn 2018, flwyddyn cyn ein hamserlen wreiddiol ein hunain.
I gydnabod pa mor bwysig yw’r gwasanaeth hwn yn fy marn i, rwyf wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael o £6 miliwn i £13 miliwn, sy’n golygu y bydd pob rhanbarth yn cael cyllid ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, gan greu gwasanaeth hirdymor a chynaliadwy ar draws Cymru. Mae hyn i gyd yn gyffrous iawn, ond rwy’n deall y rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o deuluoedd sy’n ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr. Mae ein cynlluniau yng Nghymru yn uchelgeisiol, ac er ei bod yn ddyddiau cynnar ar lawer ohonynt, mae cymorth ar gael. Yr hyn sy’n dod yn amlwg i mi wrth i mi gyfarfod â rhieni a gofalwyr a phobl ag awtistiaeth, yw nad yw teuluoedd bob amser yn ymwybodol o’r gwasanaethau newydd sy’n cael eu datblygu a’r adnoddau y gallant wneud defnydd ohonynt eisoes. Mae ein gwefan ASD Info Cymru yn ffynhonnell hanfodol o wybodaeth, ac mae angen i bob sefydliad sy’n cefnogi pobl ag awtistiaeth yng Nghymru chwarae eu rhan a gweithio gyda ni i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd ar gael.
Bydd llawer o’r Aelodau yn crybwyll mater addysg yn y ddadl hon. Er mwyn i blant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth gael profiad addysgol cadarnhaol, dylai sefydliadau addysgol ddarparu amgylchedd dysgu lle maent yn teimlo’n ddiogel, lle cânt eu deall gan eu cyfoedion, gan staff addysgu a chan staff nad ydynt yn addysgu, a lle y gallant ddysgu. Mae ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth wedi bod yn hynod o boblogaidd mewn ysgolion, a gallaf gyhoeddi heddiw ei bod bellach yn cael ei haddasu ar gyfer addysg bellach a lleoliadau dysgu seiliedig ar waith hefyd. Bydd yr Aelodau’n gwybod bod y rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol eisoes ar y gweill, ac yn cyflawni gwelliannau mewn ymarfer yn awr, a fydd o fudd i ddysgwyr yn y system gyfredol ac yn y system yn y dyfodol, fel yr argymhellwyd gan y Bil anghenion dysgu ychwanegol.
Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd sy’n ein helpu i gyflawni ein hymgyrch newydd, ‘Weli di fi?’ i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn y gymuned. Caiff ei chyflwyno gan Gethin Jones, ac mae’n cael cefnogaeth eang yn y cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau a chyfleusterau lleol megis canolfannau hamdden, gan ddangos beth y gallwn ei wneud pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd a phan fyddwn yn rhoi’r grym yn nwylo pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd.
Credaf ein bod yn rhoi’r camau cywir ar waith i wella’r system bresennol o gymorth i bobl ag awtistiaeth, ond rwyf hefyd yn cydnabod ei bod yn ddyddiau cynnar o ran gweld manteision ein buddsoddiad newydd sylweddol. O ganlyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn ymatal ar gynnig Paul Davies heddiw, sy’n golygu y gall y ddeddfwriaeth ddrafft symud yn ei blaen ac y bydd gwaith yn digwydd arni dros y flwyddyn nesaf. Ar yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith o gyflawni ein Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ein cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig a’n gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Mae Paul a minnau wedi cael nifer o gyfarfodydd adeiladol iawn ar y mater hwn, ac edrychaf ymlaen at ei gyfarfod eto i weithio gyda’n gilydd i fireinio rhagor ar y cerrig milltir y byddwn yn ceisio eu cyflwyno dros y misoedd nesaf er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y canlyniadau a gwelliannau amlwg i fywydau pobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd, sef yr hyn y gall pawb ohonom gytuno ein bod am ei weld. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch yn fawr i Paul Davies am gyflwyno'r Bil yma. Mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol i alwadau gan bobl am ddeddfwriaeth er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau pobl awtistig yng Nghymru, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr—deddfwriaeth a fyddai’n gwella’r gwasanaeth mae pobl yn ei dderbyn a chyflymu’r broses o gael diagnosis. Pleidlais rydd fydd hon, ac mi fyddaf i yn sicr yn cefnogi’r cynnig i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn y cam cychwynnol yma. Rwy’n disgwyl y bydd yr Aelodau ar yr un meinciau â fi yn gwneud hynny hefyd, fel y gwnaethon nhw bleidleisio o blaid yr egwyddor i Fil awtistiaeth pan fuom ni yn ei drafod o yma yn y Senedd yn ôl ym mis Hydref.
Rydw i wedi clywed yr hyn oedd gan y Gweinidog i’w ddweud, sef ei bod hi’n credu bod yna ffyrdd eraill o gyflwyno'r math o newidiadau a allai fod yn ddefnyddiol. Ond, wrth gwrs, roedd hi yn ymwybodol bod yna siom bod Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi pleidleisio yn erbyn ar yr adeg yna. Ac, o ran nodi hefyd ar y cofnod, os caf i, rwy’n deall bod un Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrth bapur newydd yn ei hetholaeth yn Wrecsam na all hi gefnogi heddiw ac mai ymatal y mae hi’n gorfod ei wneud oherwydd ei bod hi yn Weinidog.
I’ll quote from that article:
‘As is always the case with Proposed Members’ Bills’, she says,
‘Cabinet Secretaries and Ministers of the Welsh Government are unable to cast a vote and, therefore, I will be abstaining.’
That is not actually correct, is it? Because I have a list here of all the Government Ministers that voted against Dai Lloyd’s proposed Member’s Bill on protecting historic place names in Wales.
At yr hyn sy’n cael ei gynnig, yntefe, mi fydd y Bil anghenion dysgu ychwanegol yn gwella cefnogaeth a darpariaeth ar gyfer unigolion mewn addysg, ond mae angen rhywbeth ar gyfer unigolion y tu allan i addysg hefyd. Weithiau, nid ydy pobl yn cael diagnosis tan eu bod nhw’n oedolion, er enghraifft. Mae angen i gefnogaeth fod ar gael i bobl o bob oed. Rydw i’n ofni bod momentwm positif strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru wedi pallu rhywfaint erbyn hyn. Mae yna rŵan achosion ar draws Cymru, rydw i’n meddwl, lle nad ydy’r strategaeth ddim i’w gweld yn gweithio i bobl awtistig a’u teuluoedd, ac yn gadael rhai efo ychydig neu ddim cefnogaeth, a ddim yn gallu byw bywyd y byddan nhw’n ei ddewis ac yn haeddu gallu ei fyw. Felly, dyna pam rydw i’n cytuno bod angen deddfu.
Rydw i’n croesawu’r amcan yn y Bil i sicrhau llwybr clir a chyson i gael diagnosis o awtistiaeth yn lleol, achos rydym ni’n gwybod bod y ddarpariaeth yn anghyson ar draws Cymru, ac mae’r diagnosis yna mor bwysig. Fel dywedodd un eiriolwr awtistig o ogledd Cymru wrthyf i’r wythnos yma:
‘Receiving a diagnosis didn’t miraculously magic my autism away, but it did give me that deeper understanding and the permission to take the time to understand myself.’
Rydw i hefyd yn croesawu’r amcan i gasglu data dibynadwy a pherthnasol. Heb y wybodaeth yma mae hi’n anodd iawn i awdurdodau lleol allu cynllunio’n briodol ar gyfer y gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd ac oedolion ar y sbectrwm awtistiaeth. Rydw i’n gwybod yn y gorffennol fod grŵp awtistiaeth yn Ynys Môn wedi poeni bod cyllido fel petai’n cael ei wneud ar sail poblogaeth yn hytrach nag ar sail anghenion. Mae angen y data er mwyn cael at waelod hynny.
Rydw i’n cytuno hefyd efo’r amcanion i wneud yn siŵr bod staff yn cael hyfforddiant awtistiaeth, bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn deall y camau angenrheidiol i roi cymorth amserol, er mwyn gwneud yn siŵr bod gan unigolion ac awdurdodau y ddealltwriaeth i allu cefnogi pobl ar y sbectrwm yn iawn. Mae ymddygiad unigolion ag awtistiaeth yn gallu bod yn gymhleth ac yn anodd i’w ddilyn ac i’w ddeall, felly mae’n bwysig bod yr hyfforddiant yna ar gael.
I gloi, un mater arall rydym ni’n sicr yma ym Mhlaid Cymru eisiau mynd i’r afael ag o ydy’r rhagfarn yn erbyn pobl ar y sbectrwm awtistig. Yn anffodus, er enghraifft, mae rhagfarn gan gyflogwyr yn dal i atal nifer o bobl rhag gallu cael swyddi maen nhw’n fwy nag abl i’w gwneud, ac mi ddangosodd arolwg diweddar gan y gymdeithas awtistiaeth mai dim ond un ym mhob 10 o oedolion awtistig oedd mewn cyflogaeth. Mae hynny’n gwbl, gwbl annerbyniol, a pan fuom ni’n trafod y Bil awtistiaeth yn y Senedd yn yr hydref mi wnaeth Bethan Jenkins gyfeirio hefyd at nifer o enghreifftiau o ragfarn mewn ysgolion hefyd, a’r effaith mi oedd hynny yn ei chael ar blant a’u rhieni.
Felly, i gloi, ac wrth ddiolch eto am gyflwyno’r cynnig deddfwriaethol yma, mi ofynnaf i tybed a ydy hynny’n rhywbeth mae’r Aelod wedi ei ystyried wrth gyflwyno’r Bil—a ydy o’n teimlo bod y Bil arfaethedig yn delio â hynny, neu a oes yna rywbeth pellach y gallem ni fod yn ei wneud ar y mater yna’n benodol?
Rwy’n falch o gyfrannu’n fyr yn y ddadl hon heddiw. Roeddwn yn ddiolchgar i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru am gyfarfod â mi ar ôl y tro diwethaf y buom yn trafod hyn. Roedd eu hangerdd a hefyd eu rhwystredigaeth amlwg ar ran y teuluoedd y maent yn eu cefnogi yn bwerus a gwnaeth argraff fawr iawn arnaf. Rwyf hefyd yn ymwybodol o fy ngwaith achos fy hun o’r brwydrau y mae teuluoedd yn aml yn eu hwynebu er mwyn cael diagnosis ac yna i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen arnynt yn ei le. Ar y sail honno y byddaf yn pleidleisio dros adael i’r Bil hwn fynd rhagddo heddiw.
Fel y gŵyr Paul, mae gennyf amheuon ynglŷn â’r dull o ddeddfu ar gyfer cyflwr penodol, gan fy mod yn credu, os ydynt yn gweithio’n iawn, y dylai deddfwriaeth fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd ddarparu ar gyfer pawb o’n dinasyddion ar sail angen. Rwy’n credu bod angen i ni ystyried goblygiadau cynsail o’r fath yn y dyfodol hefyd, gan nad gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth yw’r unig faes lle mae angen gwella gwasanaethau’n ddybryd yn fy marn i. Rwyf hefyd yn meddwl, os yw hyn yn mynd yn ei flaen, ei bod hi’n hanfodol ein bod yn ystyried yn llawn unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn sgil deddfu ar gyflwr penodol, a’n bod yn archwilio unrhyw berygl y gallai deddfwriaeth o’r fath effeithio ar ein gallu i ymateb i eraill ar sail angen, ac rwy’n meddwl yn benodol yma am blant eraill sydd angen mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed.
Fodd bynnag, rwy’n credu bod y Bil hwn yn llawn haeddu ystyriaeth bellach ac rwy’n gobeithio, os yw’n mynd rhagddo heddiw, y bydd yn rhoi hwb mawr i wella gwasanaethau yn y maes hwn. Rwy’n croesawu agwedd adeiladol Paul Davies a’i sylwadau agoriadol, yn ogystal â sylwadau cadarnhaol y Gweinidog, y gwn fod ganddi ymrwymiad penodol i gyflawni yn y maes hwn. Yr hyn y mae pawb ohonom ei eisiau yw sicrhau bod teuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, ac rwy’n gobeithio, os yw’r Bil yn mynd rhagddo heddiw, y bydd yn gam mawr ymlaen i’r cyfeiriad hwnnw. Diolch.
Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth i Gymru, a phleidleisiodd yr Aelodau o blaid. Wyth mis yn ôl, arweiniais ddadl amhleidiol yn cydnabod yr angen am ddeddfwriaeth benodol ar gyfer awtistiaeth ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn ystod pumed tymor y Cynulliad. Arweiniodd y ffaith iddo gael ei drechu, yn ôl y pleidiau, at ofid mawr, ac rwy’n gweddïo y gallwn symud y tu hwnt i hyn heddiw a darparu, o’r diwedd, ar gyfer y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Felly, diolch i fy nghyd-Aelod, Paul Davies am gyflwyno cynigion heddiw i sicrhau bod awtistiaeth yn cael hunaniaeth statudol briodol yng Nghymru a bod gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn diwallu eu hanghenion go iawn.
Er nad yw awtistiaeth yn fater iechyd meddwl nac anhawster dysgu, mae pobl ag awtistiaeth yn disgyn rhwng dwy stôl gan nad oes unman arall i fynd. Ceir pryderon difrifol nad yw strategaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru yn ddigon cadarn i wneud y newidiadau y mae pawb ohonom am eu gweld oni bai ei bod yn cael ei chefnogi gan ddeddfwriaeth. Byddai gosod dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â’r gofal a’r cymorth y gall pobl ag awtistiaeth eu disgwyl. Mae adnoddau ar-lein ar gyfer y gymuned awtistiaeth, ffilmiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol y rheng flaen a siartiau llif gwasanaeth awtistiaeth cenedlaethol yn iawn, ond ni fydd y gymuned awtistiaeth yn cael y cymorth y maent yn gwybod eu bod ei angen hyd nes y ceir sylfaen ac atebolrwydd statudol a’n bod yn symud y tu hwnt i ymgynghori i rôl uniongyrchol ar gyfer cyrff sector proffesiynol a’r trydydd sector a’r gymuned awtistiaeth mewn perthynas â chynllunio, darparu a monitro.
Pleidleisiodd y cyfarfod o’r grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, a fynychwyd gan aelodau o’r gymuned awtistiaeth ledled Cymru ym mis Tachwedd 2014, yn unfrydol o blaid galw am Ddeddf awtistiaeth. Clywsom fod y strategaeth wedi addo cyflawni cymaint ond bod pobl yn cael eu gwthio i argyfwng gwaeth, fod pobl wedi’u siomi ac yn ddig fod yn rhaid iddynt ymladd mor galed i gael y cymorth sydd ei angen arnynt a’i bod yn bwysig nad yw pobl sydd ag awtistiaeth yn anweledig i wasanaethau mwyach.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd unrhyw un o’r ymatebion i’w dogfen ymgynghorol ar y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig ar ei newydd wedd wedi gofyn am Ddeddf awtistiaeth, nid oedd hyn yn rhan o’r ymgynghoriad na’r cwestiynau. Yn wir, dywedai’r ymateb gan Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, a ysgrifennwyd gyda mewnbwn gan eu haelodau cangen ar draws Cymru, fod cefnogaeth statudol i’r strategaeth, ynghyd â mesur cynnydd yn llawer mwy manwl er mwyn cyflawni amcanion allweddol y strategaeth, yn hanfodol er mwyn sicrhau’r newid y mae pawb ohonom eisiau ei weld ar gyfer plant ac oedolion awtistig ac aelodau eu teuluoedd.
Rwy’n cynrychioli nifer fawr o etholwyr yn y gymuned awtistiaeth sy’n ymladd y system er mwyn cael y gwasanaethau y maent hwy neu eu hanwyliaid eu hangen. Cafodd hyn ei grynhoi mewn e-bost a gefais yr wythnos hon, a oedd yn dweud, ‘Mae fy mab 11 oed wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac ar hyn o bryd, nid yw’n cael y gefnogaeth a’r cymorth sydd eu hangen arno. Gallai eich pleidlais dros y Bil wneud byd o wahaniaeth i’w ddyfodol ac eraill tebyg iddo.’
Fel y dywedodd y prosiect grymuso menywod awtistig wrth y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol a gadeirir gennyf, mae’r gwahaniaeth rhwng y modd y mae awtistiaeth yn amlygu ei hun mewn menywod a merched yn awgrymu y dylai’r gymhareb a dderbynnir o bum bachgen i un ferch fod yn llawer agosach mewn gwirionedd, lle mae llawer o fenywod yn cael eu gadael heb ddiagnosis, gyda diagnosis anghywir neu heb gefnogaeth. Fel y mae rhieni nifer o ferched wedi dweud wrthyf yn bersonol, nid yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, fod awtistiaeth yn amlygu ei hun yn wahanol mewn merched ac nad yw llawer o fenywod yn gallu cael mynediad at ddiagnosis oherwydd safbwyntiau ystrydebol, gan olygu bod merched a menywod awtistig yn cael eu gadael yn agored i lefelau isel o hunan-werth, pryder, iselder a hunan-niweidio. Yn rhy aml, caiff rhieni eu gorfodi wedyn i dalu am asesiad awtistiaeth preifat. Dywedai llythyr gan y bwrdd iechyd yn 2017 fod gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed Sir y Fflint, ac rwy’n dyfynnu, ‘wedi lleisio pryderon ynglŷn â thrylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat’, ac mewn rhai achosion, nid oedd yn derbyn y diagnosis, a’i bod yn ofynnol i’r rhain fod yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Ond pan soniais wrth y meddyg a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, atebodd ei bod mewn gwirionedd yn un o’r rhai a gyfrannodd at y canllawiau NICE hynny. Mae’r un enghraifft hon yn amlygu problem sefydliadol ehangach, a pham y mae angen Deddf awtistiaeth ar Gymru i ateb anghenion plant ac oedolion â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig yng Nghymru, ac i ddiogelu a hyrwyddo hawliau oedolion a phlant ag awtistiaeth yng Nghymru. Diolch yn fawr, Paul.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r Bil hwn heddiw. Safodd Plaid Cymru, yn etholiad diwethaf y Cynulliad, ar faniffesto a oedd yn galw am ddeddfwriaeth i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl ag awtistiaeth, eu teuluoedd a’u gofalwyr, a byddai’r cynnig hwn yn gwneud yn union hynny. Felly, byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, ac rwy’n gobeithio y bydd yn pasio heddiw fel y gall yr Aelod gyflwyno Bil gyda chefnogaeth y Cynulliad hwn.
Fel y siaradwr blaenorol, rwyf wedi colli cyfrif sawl gwaith rwyf wedi cyfarfod â rhieni gofidus sydd wedi brwydro i gael gwasanaethau ar gyfer eu plant ac sydd wedi methu gwneud hynny. Does bosibl nad rôl y Llywodraeth yw gwneud yn siŵr fod pawb yn gallu chwarae rhan lawn yn y gymdeithas—mae gormod o bobl yn cael eu hatal rhag gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae gormod o bobl yn teimlo fel pe bai ein cymdeithas heb gael ei chynllunio i’w cynnwys. Nawr, rwy’n derbyn nad yw mewnflwch llawn bob amser yn ganllaw i’r hyn sy’n iawn neu beidio, ond gall fod yn arwydd o’r hyn sy’n bwysig, o beth sydd o bwys i ddinasyddion yng Nghymru. Ac fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth, yn ogystal â lobïo ar y cyfryngau cymdeithasol, yn galw am ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Mae yna alw mawr gan bobl ag awtistiaeth ac aelodau o’u teuluoedd i weld awtistiaeth yn cael ei chydnabod mewn deddfwriaeth benodol. Rwy’n derbyn y pwyntiau a wnaeth Lynne Neagle yn ei chyfraniad. Rwy’n credu bod angen inni ystyried canlyniadau anfwriadol, ond rwy’n credu bod hwn yn rhywbeth y mae angen i ni fwrw ymlaen ag ef.
Mae pobl yn deall y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau a deddfwriaeth, ac maent yn deall bod gwasanaethau’n fwy tebygol o gael yr adnoddau a’r sylw y maent yn eu haeddu os oes dyletswydd statudol ar waith. Pan gyflwynwyd deddfwriaeth o’r fath yn y gorffennol, gwnaed addewidion am well gwasanaethau gan Lywodraeth Cymru. Efallai mai’r Bil arfaethedig fydd y cyfrwng i gyflawni’r gwelliannau hynny. Gallai fod yn ffordd o wneud yn siŵr fod y mathau hynny o addewidion yn cael eu cadw. Yn dibynnu ar yr hyn sy’n digwydd ar y camau diweddarach, gallai’r Bil sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn llunio cynlluniau strategol ar gyfer gwasanaethau a gwneud iddynt ddarparu digon o adnoddau. Roedd y cynllun gweithredu strategol a gyflwynwyd yn 2008 yn arloesol, ac mae’r cynnig yma yn cydnabod hynny. Felly, nid yw hyn yn ymwneud â beirniadu Llywodraethau Cymru yn y gorffennol, ond heb amheuaeth, ceir bylchau yn y ddarpariaeth o hyd—fel y mae, wrth gwrs, ac fel y mae eraill wedi dweud, gyda chymaint o gyflyrau eraill.
Dylai’r ddeddfwriaeth ei hun arwain at wasanaethau gwell, ond mae symbolaeth deddfwriaeth hefyd yn bwysig. Byddai deddfu ar hyn yn anfon neges ynglŷn â’n blaenoriaethau fel gwlad. Byddai’n dangos ein bod yn malio am yr holl blant ac oedolion nad oes gan gymdeithas le go iawn ar eu cyfer. Byddai’n dweud wrth rieni, teuluoedd a gofalwyr fod pobl ag awtistiaeth yn cyfrif, ac y byddwn yn cydnabod ac yn diogelu eu hawliau.
Byddai cymeradwyo’r cynnig hwn yn gefnogaeth gref gan y Senedd hon, ond mae’n rhaid bwrw drwyddi gyda’r gwaith hefyd. Ers gormod o amser, mae pobl ar y sbectrwm awtistig wedi cael eu hatal rhag byw eu bywydau’n llawn. Trwy gefnogi’r ddeddfwriaeth hon, byddwn yn cymryd un cam bach tuag at gymdeithas gyda chyfle cyfartal go iawn i bawb. Rwy’n fwy na hapus i ychwanegu fy llais at y lleisiau eraill heddiw i annog Aelodau o bob plaid i gymeradwyo egwyddorion Bil awtistiaeth. A chymeradwyaf yr Aelod am ei gynnig heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at ei gefnogi. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno’r cynnig hwn, ac rwy’n cefnogi cynnig yr Aelod i gyflwyno Bil awtistiaeth. Rwy’n amau y byddai unrhyw un yma yn anghytuno â’r egwyddor y dylai hawliau pobl ag awtistiaeth gael eu diogelu a’u hyrwyddo. Y ffordd gliriaf a mwyaf effeithiol o wneud hynny yw drwy ddeddfwriaeth, ac mae’n drueni mawr fod y Gweinidog yn mynd i ymatal ar y cynnig hwn heddiw. Mae cyflwyno deddfwriaeth yn anfon y neges at gyrff cyhoeddus ac eraill, gan gynnwys pobl awtistig, fod eu Llywodraeth o ddifrif ynglŷn ag anghenion pobl awtistig. Mae’n ffordd o newid ymddygiad yn yr un ffordd ag y newidiodd Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 ymddygiad yn y gweithle. Byddai Deddf awtistiaeth (Cymru) yn rhoi ffocws ar bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth ac yn cymell awdurdodau lleol a byrddau iechyd i roi mwy o flaenoriaeth iddynt. Oes, mae angen i ni fod yn wyliadwrus rhag deddfu er mwyn deddfu’n unig, ond nid wyf yn credu mai dyna fyddai hyn.
Mae’r Bil arfaethedig yn ceisio gosod strategaethau a llwybrau i ddiagnosis ac ateb anghenion pobl awtistig ar sylfaen gyfreithiol. Byddai Bil awtistiaeth yn ategu’r Bil anghenion dysgu ychwanegol sy’n mynd i’r afael â’r cymorth sydd ei angen yn y system addysg ar bobl ag awtistiaeth a chyflyrau eraill. Yn wir, mae’n ymddangos yn afresymegol ac yn wrthwynebus i ddeddfu ar egwyddorion da y Bil anghenion dysgu ychwanegol mewn cyd-destun addysgol, a pheidio â gwneud yr un peth mewn perthynas â chyflyrau penodol megis awtistiaeth mewn cyd-destunau eraill. Wedi’r cyfan, nid yw plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn gadael y cyflwr wrth gât yr ysgol neu’r coleg ar ddiwedd y dydd neu pan fyddant yn cwblhau eu haddysg.
Fodd bynnag, rwy’n gochel rhag gosod dyletswyddau pellach ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd pan allai’n hawdd fod yn wir nad oes ganddynt y seilwaith neu’r adnoddau i gydymffurfio o bosibl, gan arwain at doriadau mewn meysydd eraill. Felly dylai dyletswyddau o’r fath gael eu hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru’n bennaf neu fel arall, gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd gyda dyletswydd gyfatebol ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt yn rhesymol i gydymffurfio â’u dyletswyddau newydd. Yn enwedig lle mae’r arian sydd ar gael yn gyfyngedig, mae’n hanfodol fod y cyllid yn cael ei ddefnyddio’n briodol lle mae ei angen. I wneud hynny, mae angen data cywir a dibynadwy a dadansoddiad priodol ar gyfer mapio’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu yn ôl y galw tebygol. Dylai fod yn amlwg i bawb yma, os nad ydych yn meddu ar ddata dibynadwy ynglŷn â faint o bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth, lefel debygol yr angen a dosbarthiad pobl ag awtistiaeth ledled Cymru, bydd unrhyw gynllunio gwasanaethau yn seiliedig i bob pwrpas ar ddyfalu.
Byddai deddfwriaeth yn ysgogi awdurdodau lleol a byrddau iechyd i adolygu a gwella eu dulliau o gasglu data, er fy mod yn mawr obeithio eu bod eisoes yn gwneud hyn. Byddai cyflwyno Bil awtistiaeth (Cymru) yn sail i ddarparu cefnogaeth i bobl awtistig. Rwy’n siŵr y bydd pobl ag awtistiaeth, eu ffrindiau, eu teuluoedd a gweithwyr cymorth yn gwylio canlyniad y bleidlais ar y cynnig hwn ar ddiwedd y dydd heddiw yn agos iawn i weld pa mor uchel ar y rhestr flaenoriaethau y mae eu Haelod Cynulliad yn eu gosod. Rwy’n annog Aelodau’r Cynulliad hwn i bleidleisio o blaid y cynnig hwn. Diolch.
A gaf i ychwanegu fy niolch i Paul Davies am ddod â’r ddeddfwriaeth hon gerbron, ac am ei ffordd gydsyniol o ddatblygu’r cynnig hyd yma? Rwy’n credu bod consensws yn y Cynulliad Cenedlaethol fod angen gwneud mwy i helpu teuluoedd ag awtistiaeth. Ac a gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â llawer o’r hyn a ddywedodd Leanne Wood? Gobeithio y gall pawb ohonom ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn gytuno arno a gwrthsefyll y demtasiwn i sgorio pwyntiau.
Ers i ni drafod hyn y llynedd, rwyf wedi cyfarfod â’r Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, rwyf wedi cyfarfod â’r gwasanaeth awtistiaeth integredig, gyda theuluoedd, gyda gweithwyr proffesiynol, gyda Paul Davies a chyda’r Gweinidog, a chefais fy mherswadio mai deddfwriaeth yw’r ffordd briodol o fwrw ymlaen. Mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd, ac mae arian sylweddol wedi’i fuddsoddi, ac er bod tipyn o ffordd i fynd i gyflwyno hyn yn llawn, rwy’n meddwl ei bod yn deg dweud, ar y cam cynnar hwn, ei bod yn debygol y bydd angen camau pellach oherwydd natur y newid diwylliant systemig sydd ei angen i gydnabod yn iawn yr ystod o heriau y mae pobl ag awtistiaeth yn eu hwynebu. Rwyf wedi clywed straeon am yr oedi cyn atgyfeirio i gael asesiad, yr oedi ar ôl cyrraedd y rhestr aros, yr oedi cyn gwneud penderfyniadau, y diffyg cyfeirio ar ôl cael diagnosis ac yn fy ardal i, y pryderon yn sgil diffyg ymgynghorydd pediatrig ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Mae’r rhain oll yn bryderon teg a rhesymol, ac roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn barod i roi’r strategaeth awtistiaeth ar sail statudol. Credaf fod hwnnw’n ddechrau pwysig, er fy mod yn credu ei fod yn annhebygol o fod yn ddigon.
Fodd bynnag, mae gennyf rai pryderon. Rwy’n nerfus ynglŷn â mabwysiadu ymagwedd lle rydym yn deddfu ar gyfer pob cyflwr. Rwy’n credu bod Lynne Neagle yn iawn i grybwyll hyn yn gynharach. Mae’n gosod cynsail y dylem fod yn wyliadwrus yn ei gylch. Rwyf hefyd yn nerfus ynglŷn â dewis un cyflwr penodol pan geir basgedi o gyflyrau sy’n gysylltiedig, sydd â symptomau tebyg ac sy’n effeithio ar nifer tebyg o bobl, ond sydd heb grŵp ymgyrchu huawdl wedi’i drefnu’n dda y tu ôl iddynt. Rhaid i mi longyfarch Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ar yr ymgyrch y maent wedi’i chynnal. Mae wedi bod yn ymgyrch a daniwyd gan rwystredigaeth ddealladwy, a gwelwyd hynny’n glir ar adegau. Ond llunwyr polisi a chynrychiolwyr ydym, ac mae gennym gyfrifoldeb i edrych y tu hwnt i fuddiannau’r rhai sy’n gweiddi uchaf. Ceir cyflyrau tebyg, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr egwyddor hon yn ei strategaeth ddiagnostig. Yng Nghymru, mae gennym lwybr asesu diagnostig niwroddatblygiadol sy’n cydnabod yr egwyddor fod yna gyflyrau cysylltiedig yn bodoli a theuluoedd sy’n dioddef sy’n haeddu dull tebyg o weithredu. Rwy’n credu y byddai’n werth inni fabwysiadu dull tebyg wrth lunio deddfwriaeth. Pam y dylai un math o gyflwr niwroddatblygiadol gael deddfwriaeth benodol ac nad yw cyflyrau eraill yn ei chael? Credaf fod hwnnw’n gwestiwn sy’n haeddu ateb. Cefais drydariad y bore yma gan rywun a ddywedodd:
Nid oes yr un o’r cyflyrau hyn yn digwydd ar eu pen eu hunain. Mae gan fy mab ddyspracsia gydag ychydig o syndrom Asperger. Cymorth; fawr ddim, rhaid oedd ymladd yr holl ffordd.
Rwy’n credu y byddai’n anghywir cael deddfwriaeth sy’n dewis un cyflwr ac yn anwybyddu dioddefaint, brwydr a phoen teuluoedd sydd hefyd yn dioddef ac sydd hefyd yn wynebu gwasanaethau annigonol. Felly, heddiw, byddaf yn cefnogi symud y ddeddfwriaeth yn ei blaen i’r lefel nesaf, ond rwy’n ei wneud ar yr amod efallai na fydd y gefnogaeth honno yno ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r pryderon hyn sydd gennyf. Byddwn yn dweud am y pwyntiau a wnaed ynglŷn ag ymatal fod rhywun yn gadael i rywbeth fynd yn ei flaen pan fyddant yn ymatal. Nid yw hynny yr un fath â gwrthwynebu rhywbeth. Yn arbennig, rhaid i mi dynnu sylw at y Gweinidog, Rebecca Evans, sydd â chefndir yn y maes hwn. Nid oes gan deuluoedd awtistig gyfaill mwy, yn fy mhrofiad i, na Rebecca Evans. Efallai ein bod yn cael dadl yn y Siambr hon am y ffordd orau y gallwn gefnogi teuluoedd, ond na foed unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r ffaith ein bod yn credu bod angen mwy o gefnogaeth ar deuluoedd a’u bod yn haeddu mwy o gefnogaeth. Felly, rwy’n meddwl bod beirniadu’r rhai sy’n ymatal heddiw yn anffodus, tra bo manylion y cynnig yn dal i gael eu datblygu. Felly, rwy’n gobeithio y gallwn fwrw ymlaen yn unedig. Credaf mai’r pwynt a wnaeth Leanne Wood yw bod angen i ni sicrhau newid diwylliant sy’n ategu’r modd y mae pobl ag awtistiaeth yn cyfrif. Dyna’r her i bawb ohonom, ac yn awr mae angen cael dadl ynglŷn â manylion y ffordd orau inni wneud hynny. Byddaf yn pleidleisio o blaid.
Bydd pawb yn y Siambr yn cytuno gyda nod y Bil hwn. Mae’r Bil yn gwneud darpariaethau ar gyfer ateb anghenion plant ac oedolion sydd â chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n diogelu ac yn hyrwyddo hawliau oddeutu 34,000 o bobl sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Yn wir, nid yw llawer o ddioddefwyr awtistiaeth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i’w helpu i gamu ymlaen mewn bywyd. Maent yn wynebu heriau pan fyddant yn ceisio cael mynediad at waith, addysg, iechyd, tai a gwasanaethau eraill mewn bywyd. Mae hyn yn ei gwneud yn gynyddol anodd i’r bobl hynny fyw bywydau annibynnol. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn ac wedi cyhoeddi ei chynllun gweithredu strategol diwygiedig ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig—mae’n enw braidd yn hir, Dirprwy Lywydd, ond dyna’r cynllun y maent wedi’i gyhoeddi. Ond mae llawer yn credu bod angen cefnogaeth statudol i sicrhau’r newid y mae pawb ohonom am ei weld yn y wlad hon.
Byddai Deddf awtistiaeth i Gymru yn darparu’r gefnogaeth statudol honno, yn diogelu hawliau pobl awtistig ac yn codi ymwybyddiaeth o gyflyrau cymhleth, sy’n angenrheidiol yma. Gyda ffocws ar roi mwy o gydnabyddiaeth i awtistiaeth, gallai’r gyfraith sicrhau diagnosis prydlon drwy ddulliau statudol ac adolygu data rheolaidd. Byddai’n sicrhau mynediad at wasanaethau a chymorth i bobl sy’n byw gyda’r cyflwr, boed yn oedolion neu’n blant. Byddai Deddf hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn gweithredu gyda chefnogaeth i bobl awtistig a’u teuluoedd mewn cof. Byddai’n gosod dyletswydd ar gymdeithas i dderbyn a deall awtistiaeth yn well a byddai’n rhoi cyfle go iawn i bobl awtistig gyrraedd eu potensial llawn mewn bywyd.
Gydag ymrwymiad deddfwriaethol i adolygu cynnydd gwasanaethau’n rheolaidd, gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl lefel gyson o ofal gan ddarparwyr gwasanaethau. Yn anffodus, nid yw hyn wedi digwydd bob amser yn y gorffennol. Mae diffyg dealltwriaeth ynglŷn ag awtistiaeth yn bresennol, nid yn unig ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, mae hefyd yn bodoli ymhlith rhai gweithwyr proffesiynol yn ein gwasanaethau cyhoeddus. O’r byd addysg i wasanaethau iechyd, nid yw teuluoedd ac oedolion ag awtistiaeth yn cael eu cefnogi’n ddigonol o ganlyniad i ddiffyg dealltwriaeth. Nid yw awdurdodau lleol yn ymwybodol o faint o bobl awtistig sy’n byw yn eu hardaloedd, sy’n ei gwneud yn broblematig i gynllunio cymorth priodol ar gyfer y teuluoedd a’r bobl hynny. Mae rhieni a gofalwyr yn aml yn mynd drwy brofiad gofidus cyn cael eu hatgyfeirio oherwydd diffyg dealltwriaeth o’r fath.
Ceir anghysondeb mawr yn yr amseroedd aros rhwng atgyfeirio ac asesiad. Canfu ymgynghoriad a gynhaliwyd gan ASD Info Cymru fod 19 y cant o deuluoedd ag atgyfeiriadau posibl wedi cael eu hatgyfeirio i gael asesiad o fewn chwe mis i leisio pryder am y tro cyntaf, ond bu’n rhaid i 22 y cant aros dros bedair blynedd. Mae hyd yr asesiad diagnostig yn amrywio’n fawr hefyd, o lai na chwe mis i rai teuluoedd i dros ddwy flynedd i eraill. Cafodd rhai teuluoedd ddiagnosis gan un clinigydd yn unig—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, ewch ymlaen.
Diolch yn fawr am dderbyn yr ymyriad. Rwy’n rhannu rhai o’r pethau roeddech yn sôn amdanynt, ac rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i groesawu’r sail statudol y siaradodd y Gweinidog amdani a’r cyllid ychwanegol. Roeddwn eisiau cofnodi y byddaf yn cefnogi hyn heddiw; credaf fod Paul wedi mabwysiadu’r ymagwedd gywir yn y ffordd gymodlon y mae bob amser yn ei defnyddio pan fydd yn gwneud pethau.
Diolch i chi, Joyce.
Cafodd rhai teuluoedd ddiagnosis gan un clinigydd yn unig, ond roedd eraill wedi cael eu gweld gan bump neu ragor o glinigwyr. Mae arnom angen mwy o hyfforddiant i staff ysgol allu cynorthwyo plant ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Nid yw pob ysgol yn gallu darparu ar gyfer anghenion arbenigol. Yn Lloegr, mae datblygiad proffesiynol parhaus yn bodoli ar gyfer athrawon er mwyn iddynt allu eu deall yn iawn. Mae angen gwneud hyn yng Nghymru hefyd.
Mae cymorth pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn broblem reolaidd. Mae cymorth sgiliau bywyd yn brin, ac nid yw anghenion cyflogaeth a thai yn cael eu diwallu. Dirprwy Lywydd, dengys profiad o’r Ddeddf awtistiaeth yn Lloegr fod modd sicrhau gwelliant go iawn i fywydau pobl ag awtistiaeth. Gall cydweithio gyda darparwyr sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynllunio a’u darparu’n well. Credaf y bydd Deddf awtistiaeth yng Nghymru’n gwneud yr un peth. Rwy’n cefnogi’r cynnig hwn heddiw, ac fe’i cymeradwyaf. Diolch.
Rwy’n credu, y prynhawn yma, ein bod wedi gweld, fel y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau ar draws y Siambr—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—wedi amlygu, fod pawb ohonom yn derbyn llawer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Maent yn aml yn dod i’n swyddfeydd yn flin, dan straen, yn bryderus, wedi blino’n lân, ac weithiau’n brwydro yn erbyn dagrau, wrth iddynt egluro’r caledi y maent wedi’i brofi wrth geisio cael cais syml am gymorth i’w plant neu rywun annwyl. Fis Hydref diwethaf, yn ystod y ddadl flaenorol, pwysleisiais ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru a phob corff cyhoeddus arall yn cefnogi’r teuluoedd hyn sydd, o ddydd i ddydd, yn wynebu llawer o heriau, ac i beidio â chaniatáu i rwystrau fodoli i’r gefnogaeth honno. Mae’r teuluoedd hyn yn mynd i’r afael â’r heriau hyn hyd eithaf eu gallu ar ran eu hanwyliaid, a’n gwaith ni yw darparu mecanweithiau i’w helpu a chynnig cymorth, ac yn bendant, nid cynyddu eu caledi. Mae’r teuluoedd yn dweud wrthyf yn gyson am eu dicter a’u rhwystredigaeth o orfod parhau i ddadlau a mynnu cymorth i’w plant neu frodyr a chwiorydd, i gael y cymorth a’r gofal angenrheidiol ar gyfer helpu’r rhai sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig, ac i ddatblygu a gwella eu lles.
Rydym i gyd yn ymwybodol fod awtistiaeth yn anabledd gydol oes sy’n effeithio ar sut y mae pobl yn gweld y byd ac yn rhyngweithio ag eraill, ac rwy’n falch y bydd Bil Paul Davies yn ystyried nid yn unig y plant rydym yn aml yn siarad amdanynt, ond oedolion yn ogystal. Rwyf am i chi wybod, felly, fod y rhan fwyaf o’n gwaith achos yn canolbwyntio ar blant, ond gadewch i ni beidio ag anghofio’r heriau y mae oedolion ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig yn eu hwynebu. Mae llawer yn cael trafferth yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolion, gan wynebu ymyl clogwyn yn aml, yn yr ystyr fod y cymorth a gawsant yn blant yn dod i ben yn 18 oed.
Ac ar yr un pryd, maent yn edrych ar fyd gwaith, a’r heriau o ddechrau gweithio. Nid ydynt am dderbyn budd-daliadau lles ar hyd eu hoes. Mewn gwirionedd maent yn awyddus i gael gwaith, maent yn awyddus i ganfod eu ffordd eu hunain, ac yn awyddus i wella eu bywydau. Fodd bynnag, wrth iddynt wynebu heriau newydd, mae angen iddynt ddeall y gallwn gynnig cymorth i’r unigolyn, ond hefyd i’r cyflogwr yn ogystal—a soniodd Paul Davies am yr hyfforddiant. Mae angen i ni edrych ar ehangu’r meysydd hyfforddi, i ystyried yr agwedd honno hefyd, fel bod y cyfnod pontio i fywyd fel oedolyn yn dod ychydig yn llyfnach iddynt, heb beri cymaint o ofn a braw, fel y gwnaeth i gymaint o bobl yn yr achosion hyn.
A neithiwr, roeddwn yn y digwyddiad a gynhaliodd Jane Hutt yn y Senedd, pan siaradodd Andrea Wayman o Elite Employment Agency am ei gwaith yn yr elusen sy’n helpu pobl i gael gwaith. A thynnodd sylw at un enghraifft—sut y mae’n gweithio i bobl ifanc; sut y cafodd gymorth un i un ar gyfer dyn ifanc a oedd ag awtistiaeth, a bod cymorth un i un wedi caniatáu iddo ddatblygu yn y gweithle, yn y lleoliad gwaith, a meithrin yr hyder a oedd yn ofynnol. Ac fel y cyfryw, cafodd yr unigolyn ifanc hwnnw waith cyflogedig. Mae honno hefyd yn agwedd bwysig sy’n rhaid i ni beidio â’i hanwybyddu.
Gweinidog, gwn eich bod wedi tynnu sylw at y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith—cyflwyno strategaeth 2008, diweddariad y strategaeth honno, y cynllun cyflawni ar ei newydd wedd, a chyflwyno gwasanaethau awtistiaeth integredig cenedlaethol: £13 miliwn; rhoddais £7 miliwn, ond dywedai £13 miliwn—y cyfan yn wych. Maent i gyd yn gadarnhaol—nid oes amheuaeth am hynny—ond fel yr amlygodd Paul Davies, mae’r cynnydd yn anghyson ac yn araf. Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod strategaeth o’r fath yn cael ei chyflawni gyda chysondeb gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, a’i bod yn darparu’r gwasanaethau a’r cymorth gorau posibl i bobl sy’n byw ag anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Ac rwy’n ofni nad wyf yn gweld hynny ar waith, na’r teuluoedd. Mae cynllun cyflawni, a chyflwyno gwasanaeth integredig Llywodraeth Cymru yn iawn, ond pan na fydd teuluoedd yn profi’r ddarpariaeth yn eu cymunedau, yna mae angen i ni gymryd camau pellach.
Rwyf wedi gofyn am eglurhad gan fy awdurdod ynglŷn â’i strategaeth awtistiaeth, a phwy yw ei hyrwyddwr awtistiaeth, ac yn anffodus, mae’r eglurhad yn araf yn dod. Ni ellir caniatáu i hyn barhau, ac mae’n rhaid inni roi gofynion ar waith, ac felly, efallai, yr angen am ddyletswyddau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i baratoi strategaethau ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth a rhoi sylw priodol i’r strategaethau hynny wrth gyflawni eu cyfrifoldebau.
Nawr, rwy’n ymwybodol fod deddfau amrywiol wedi’u cyflwyno a allai helpu. Gwelsom gyfeirio hefyd at Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r Bil anghenion dysgu ychwanegol, sydd ar ei daith drwy’r Cynulliad ar hyn o bryd. Y cwestiwn sy’n codi yw: a ydynt yn cyflawni ar gyfer y teuluoedd hyn? Ac a fydd y Bil newydd hwn yn cefnogi’r ddeddfwriaeth sy’n bodoli eisoes, ac yn gwella trafferthion y teuluoedd hyn? Ac mae’n ddyletswydd arnom i ofyn y cwestiwn hwnnw. Ac os down i’r casgliad fod angen Bil o’r fath i wneud y sefyllfa’n well ar gyfer teuluoedd ar lawr gwlad, yna dylem gyflwyno rhwymedigaeth statudol a fydd yn dwyn pobl i gyfrif, a fydd yn eu cael i weithredu’n unol â hi, ac a fydd yn caniatáu i ni a theuluoedd ddwyn y cyrff hynny i gyfrif.
Ac rwy’n derbyn fod yna gyflyrau eraill sy’n bwysig, cyflyrau a ddylai fod yn sefyll ochr yn ochr ag awtistiaeth, ac efallai, yn y cyfamser, y bydd Paul Davies yn dymuno edrych i weld a oes modd ymestyn y Bil, cyflwyno Bil sy’n cwmpasu pob cyflwr niwroddatblygiadol. Ac rwy’n siŵr ei bod yn bryd i ni wneud hynny.
Nawr, y prynhawn yma, byddaf yn cefnogi’r cynnig hwn, a byddaf yn edrych ymlaen at weld ei uchelgais yn cael ei gyflawni, a’i gynnig o welliannau i’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau ar y sbectrwm awtistig. Mae’n bwysig ein bod yn deddfu i bwrpas, ac y bydd unrhyw ddeddfwriaeth yn gwella bywydau’r rhai y mae’n eu targedu yng Nghymru. A byddaf yn cefnogi ac yn edrych ymlaen at weld hynny’n digwydd.
Nid wyf yn bwriadu siarad yn hir iawn, ond roeddwn eisiau diolch yn gyntaf i’r ymgyrchwyr am eich holl waith caled, ac mae’n dangos bod grym pobl yn gweithio. Ac nid wyf yn meddwl y dylech danseilio’r ffaith fod ymgyrchwyr yn gwneud hyn am reswm real iawn, er gwaethaf y ffaith y gallai fod clefydau niwrogyhyrol eraill sy’n haeddu’r ddeddf honno. Beth am ddeddfu ar gyfer y rheini pan fydd yr ymgyrchwyr hynny’n dod i guro ar ein drysau yn y dyfodol? Felly, diolch yn fawr iawn am eich dycnwch ac am eich dyfalbarhad yn hyn.
Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn bwysig diolch i Mark Isherwood am gadeirio’r grŵp trawsbleidiol am yr holl flynyddoedd. Weithiau, pan fyddwn yn cadeirio grwpiau trawsbleidiol, byddwn yn aml yn ei wneud gan edrych i mewn arnom ein hunain, ac rydym yn bwrw iddi waeth beth fo gwleidyddion eraill yn ei wneud, ac rwy’n meddwl eich bod yn haeddu cael y clod hwnnw yma heddiw hefyd, Mark. Paul, yn amlwg rwy’n falch eich bod yn gallu bwrw ymlaen â hyn, ac rwy’n siŵr, fel y clywsoch gan bobl yma heddiw, fod gennych y gefnogaeth honno, ac mae gennych fy nghefnogaeth i, wrth gwrs.
Rwy’n mynd yn ôl at y dyfyniad a ddefnyddiais yn y ddadl ddiwethaf, pan gymerais ran mewn hustyngau trawsbleidiol cyn imi gael fy ethol eto, a dywedodd y wraig yn y gynulleidfa, ‘Rwy’n ei chael yn anos ymladd yn erbyn y system nag rwy’n ei chael i ymdopi ddydd ar ôl dydd â chyflwr fy mab.’ Ac os oes rhaid inni glywed hynny fel gwleidyddion, yna dyna reswm, os rhywbeth, dros bleidleisio o blaid heddiw—nid ymatal, er mwyn gadael iddo fynd yn ei flaen, ond pleidleisio o blaid fel mater o egwyddor. Dyna’r hyn y byddwn yn annog Gweinidogion y Llywodraeth i’w wneud, oherwydd bod hynny’n dangos i’r bobl yn yr ystafell hon sydd wedi trafferthu i ddod i lawr yma heddiw, i wrando—
Rydych yn chwarae i’r galeri yn awr.
Na, nid wyf yn chwarae i’r galeri. Rwy’n siarad yn seiliedig ar yr hyn rwyf wedi’i brofi yn fy etholaeth, a lefel y gefnogaeth i hyn y gallwch ei weld yma heddiw. Ac os gall Gweinidogion y Llywodraeth weld hynny, dylent gefnogi’r Bil hwn.
Ac wrth ateb eich cwestiwn mewn perthynas â chyflyrau eraill, ar ôl ymgynghori â’r meddyg teulu wrth fy ymyl cyn i mi sefyll, rwy’n credu y bydd Asperger yn rhan o ddeddfwriaeth awtistiaeth.
Ond beth am unrhyw gyflwr arall?
Wel, iawn, gallwn fynd yn ôl ac ymlaen yn y fan hon—
Na allwch—
[Yn parhau.]—rydych yn cefnogi’r Bil, rwy’n cefnogi’r Bil. Gan weithio ar y consensws hwn, efallai—. Nid wyf yn ei wneud er mwyn cael clap, rwy’n ei wneud am fy mod yn malio am y bobl sydd wedi dod yma heddiw ac sy’n trafferthu i falio am y materion hyn. Mae gennyf rywun ar y rhestr aros ers dwy flynedd a hanner am ddiagnosis interim o oedi mewn datblygiad cyflawn, yn aros am y diagnosis hwnnw yn fy etholaeth. Nid ydynt yn haeddu gorfod aros yn hwy am y diagnosis, ac os gall y ddeddfwriaeth hon wneud unrhyw beth, mae’n mynd i wneud y newid hwnnw’n realiti iddynt yn eu bywydau bob dydd, nid i ni sy’n llunio polisi—yn eu bywydau bob dydd. Felly, os gwelwch yn dda, cefnogwch y Bil hwn.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Paul Davies i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Rydym wedi clywed rhai cyfraniadau defnyddiol ac ystyriol iawn ar fater sy’n bwysig iawn, o ystyried y nifer fawr o bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth yng Nghymru, ac ymddiheuraf o’r cychwyn na fyddaf yn gallu cyfeirio at sylwadau pawb, o ystyried yr amser sydd ar gael i mi. Nawr, rydym wedi clywed rhai pryderon ynglŷn ag a oes angen deddfwriaeth sylfaenol i fynd i’r afael â’r bylchau ac anghysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru. Hoffwn ailadrodd bod y Bil hwn yn bwriadu gweithio ochr yn ochr â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, nid yn eu herbyn.
I’m grateful to the Member for Anglesey for his support and for drawing attention to the Anglesey autism group’s concern about how data are collected and how important that is. To respond to his point as to whether I would be willing to broaden the remit of the Bill, I want to give an assurance that I am willing to do that, if possible, and I will consult widely with you and with stakeholders to ensure that this Bill is as effective as it possibly can be.
Diolch i’r Aelod dros Dorfaen am ei chefnogaeth, ac rwy’n deall ei hamheuon ynglŷn â deddfwriaeth benodol. Hoffwn ei sicrhau y byddaf yn adolygu’r sefyllfa dros y 13 mis nesaf os gwneir digon o gynnydd. Rwyf hefyd yn deall amheuon yr Aelod dros Lanelli ynglŷn â chanolbwyntio ar un cyflwr penodol, ac rwyf am ei sicrhau fy mod yn fwy na pharod i edrych ar ehangu’r Bil i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill, os yn bosibl, ac mae hynny’n rhywbeth y byddaf yn ymgynghori yn ei gylch, os caiff y Bil ganiatâd i symud ymlaen i’r cyfnod nesaf.
Rwyf hefyd yn ddiolchgar i David Rees am ei gefnogaeth, ac mae’n gwneud pwynt dilys iawn, rwy’n meddwl, am y cymorth sydd ei hangen ar bobl ag awtistiaeth i gael gwaith, ac mae hynny’n rhywbeth y gobeithiaf y bydd y Bil hwn yn helpu i’w wneud.
Nawr, rydym wedi clywed rhywfaint o feirniadaeth o’r cynlluniau a gyflwynir yn Lloegr hefyd, ac felly, fe ddywedaf unwaith eto fod gennym gyfle yma yng Nghymru i edrych ar ddeddfwrfeydd eraill, dysgu gwersi a chreu Bil sy’n bwrpasol i anghenion y gymuned awtistiaeth yng Nghymru. Nid oes gennyf unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth torri a gludo os yw’r Bil hwn yn mynd ymlaen i’r cyfnod nesaf. Yn wir, fy mwriad yw gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, rhanddeiliaid lleol a’r rhai sy’n byw gydag awtistiaeth, er mwyn datblygu Bil sydd nid yn unig yn cydnabod bod llawer o bobl yn dal i fethu cael y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, ond sy’n sicrhau darpariaeth gyson a pharhaus o’r holl wasanaethau awtistiaeth, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Ac rwy’n hyderus, os yw’r Bil arfaethedig hwn yn symud ymlaen i’r cam nesaf, y gallaf weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r gymuned awtistiaeth yng Nghymru i sefydlu deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â’r bylchau yn y ddarpariaeth.
Rwyf hefyd yn hyderus y gallwn ddarparu Bil sy’n ateb anghenion y rhai sy’n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru a sicrhau o ddifrif fod eu lleisiau’n cael eu clywed yn glir. Mae’n hanfodol ein bod yn creu Bil sy’n rhoi ei hunaniaeth statudol ei hun i awtistiaeth, ac yn anfon neges glir y bydd darparu gwasanaethau awtistiaeth bob amser yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth Cymru, waeth beth fo’i lliw gwleidyddol neu ei chyfansoddiad.
Ac wrth ymateb i’r Gweinidog, a gaf fi ddiolch iddi am y ddeialog adeiladol a gawsom ar y mater hwn, ac a gaf fi ddiolch i’w swyddogion am ymgysylltu â mi? Wrth gwrs, rwy’n siomedig fod y Gweinidog wedi dweud y bydd Llywodraeth yn ymatal ar y cynnig heddiw, ond rwy’n derbyn y bydd hyn yn parhau i roi cyfle i gynnig heddiw gael ei basio. Fodd bynnag, rwy’n falch fod y Gweinidog wedi cyhoeddi heddiw y bydd y Llywodraeth yn ystyried rhoi’r cynllun gweithredu ar sail statudol, a byddwn yn ei hannog i weithredu yn awr fel y gall teuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth gael mynediad at y gwasanaethau y maent eu hangen, heddiw ac yn y dyfodol.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, heddiw mae cyfle gan y Cynulliad i anfon neges gref at y gymuned awtistiaeth yng Nghymru fod ei llais yn cael ei glywed yn glir. Cafwyd galwadau cyson am Fil awtistiaeth, a dyma’r amser i’r Cynulliad hwn ysgwyddo ei chyfrifoldeb a rhoi’r gefnogaeth y mae’n ei haeddu i’r gymuned awtistiaeth. Anogaf yr Aelodau i gefnogi’r cynnig hwn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch yn fawr. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.