1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2017.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn ei wneud o hysbysiadau cosb benodedig? OAQ(5)0148(FLG)
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Llywydd, cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw pennu eu polisi a’u hymagwedd eu hunain at y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r defnydd ohonynt pan gânt eu defnyddio fel ymateb i broblemau gwirioneddol, eu rhoi yn synhwyrol, a’u gorfodi yn deg.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Y llynedd, dau hysbysiad cosb benodedig yn unig a roddwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, a 13 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fodd bynnag, rhoddwyd 840 o hysbysiadau gan Gyngor Dinas Casnewydd, o gymharu â llai na 300 mewn blynyddoedd blaenorol. Rhoddwyd dros 1,400 o hysbysiadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent y llynedd. Pa reswm y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi am yr anghysondeb sylweddol o ran nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd gan awdurdodau lleol yn ne-ddwyrain Cymru? A pha sicrwydd y gall ei roi nad ydynt yn cael eu defnyddio fel ffordd o gynyddu refeniw yn unig?
Wel, Llywydd, mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at yr amrywio yn y ffordd y mae gwahanol awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig, ond mae hynny oherwydd y repertoire o gamau y gall awdurdodau lleol eu cymryd, gan gynnwys achosion llys, ac mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio cymysgedd o ymatebion sy’n wahanol i’r hyn a geir gan awdurdodau eraill. Ac nid wyf o’r farn mai lle Llywodraeth Cymru yw penderfynu sut y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio’r gwahanol ymatebion sydd ar gael iddynt, a’r cyfuniad o’r ymatebion hynny, yn eu hardaloedd eu hunain. Cytunaf â’r pwynt y gwnaeth yr Aelod ar ddiwedd ei gwestiwn, fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig fel ymateb priodol i broblemau gwirioneddol, a bod y refeniw a godant yn ffordd o fynd i’r afael â’r problemau hynny yn hytrach na bod yn ffordd o godi refeniw ynddi’i hun.
Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn dadlau y dylid rhoi dirwyon i rieni sy’n gadael i’w ceir segura y tu allan i ysgolion, oherwydd y broblem llygredd aer. Ac rwy’n meddwl tybed, o ystyried bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi defnyddio cosbau penodedig yn effeithiol iawn, gan ddefnyddio camerâu ar gefn bysiau, i atal ceir rhag defnyddio lonydd bysiau, pa bwerau a fyddai gan gyngor Caerdydd i fynd i’r afael â phroblem debyg y tu allan i gatiau ysgolion yng Nghaerdydd?
Wel, diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiwn. Gwelais y cyngor a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr, gyda chanllawiau yn galw am sefydlu parthau aer glân y tu allan i ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal, er enghraifft. Ni chredaf eu bod yn cyfeirio’n uniongyrchol yn y ddogfen honno at gyfundrefn cosbau penodedig; maent yn trafod y defnydd posibl o is-ddeddfau a chamau gweithredu eraill i gefnogi ardaloedd lle y gwaherddir cerbydau rhag segura. O ystyried yr hyn a wyddom am y pwyslais ar ansawdd yr aer, ymddengys i mi fod hwn yn adroddiad gwerthfawr iawn, a gwn y bydd cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn edrych arno, i weld a yw’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu y dylem ystyried eu rhoi ar waith yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau bod pwerau ar gael i awdurdodau lleol, os credir mai dyna’r ffordd orau o orfodi trefn o’r fath.
Fel cyn-gynghorydd, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cydymdeimlo’n fawr â’r llu o ofynion y mae troseddau amgylcheddol lefel isel yn eu hychwanegu at lwyth achosion cynghorwyr lleol. A thu hwnt i bortffolio o ymatebion awdurdodau lleol a grybwyllwyd eisoes gan Ysgrifennydd y Cabinet, gan gynnwys achosion llys, gall y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig fod yn offeryn effeithiol i helpu i fynd i’r afael â throseddau amgylcheddol lefel isel, sy’n cynnwys sbwriel, baw cŵn, a sŵn nychus o anheddau ac adeiladau trwyddedig. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw barn Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwerth y defnydd o hysbysiadau cosb benodedig gan awdurdodau lleol fel un mesur ymhlith eraill i ddarparu gwell cymunedau ar gyfer y bobl y maent yn eu gwasanaethu? A sut y gellir lledaenu arferion gorau?
Wel, cytunaf gyda’r Aelod mai un mesur ymysg eraill yw hwn. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn rhan gyfarwydd iawn o’r repertoire sydd ar gael i awdurdodau lleol. Fe’u cyflwynwyd am y tro cyntaf mor bell yn ôl â’r 1950au. Ac er fy mod yn deall rhai o’r pryderon a fynegir weithiau ynglŷn â’r defnydd ohonynt fel offeryn i godi refeniw, mae’n bwysig nodi bod awdurdodau lleol ledled Cymru wedi codi gwerth £1 filiwn drwy hysbysiadau cosb benodedig i ymdrin â phroblemau amgylcheddol lefel isel o’r math y cyfeiriodd Rhianon Passmore atynt, a bod costau amgylcheddol glanhau sbwriel i awdurdodau lleol Cymru y llynedd yn £70 miliwn. Felly, mae’n gyfraniad cymharol fach tuag at fynd i’r afael â’r broblem, ac ni chredaf ei fod yn bwynt annheg i mi ei wneud i unigolion sydd weithiau’n cwyno am y ffordd y mae awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â sbwriel, baw cŵn ac yn y blaen, fod yr ateb yn eu dwylo hwy i raddau helaeth, ‘Peidiwch â thaflu sbwriel ac ni fydd unrhyw hysbysiadau cosb benodedig i boeni amdanynt.’