2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 19 Medi 2017.
3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dogfen bolisi 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' Llywodraeth Cymru? (OAQ51052)
Nid ydynt wedi dymuno cael unrhyw drafodaethau, er ein bod ni wedi anfon y ddogfen atynt.
Fodd bynnag, ymddengys fod y Prif Weinidog wedi trafod gyda Phrif Weinidog yr Alban a datblygu strategaeth a dull ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Onid yw'r Prif Weinidog yn sylweddoli bod Cymru wedi pleidleisio 'gadael' yn y refferendwm? Dywedodd ei hun fod gan hynny lawer i'w wneud â symudiad rhydd pobl, ac eto mae ei ddogfen yma yn cefnogi symudiad rhydd pobl ym mhopeth ond enw. Yn hytrach na pharhau i fewnforio pobl i redeg ein GIG, oni ddylem ni fod yn hyfforddi pobl yma yng Nghymru, a pham, ar ôl 20 mlynedd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur, mae'r ddogfen hon yn dweud bod angen gwneud gwaith sylweddol o hyd i gyflawni hynny?
Pam mae gennym ni dramorwyr yn ein GIG? Onid dyna’r hyn y mae'n ei ddweud, mewn gwirionedd? Dyna beth yw hyn. Mae'r gwasanaeth iechyd gwladol, fel gwasanaeth iechyd unrhyw wlad arall yn y byd datblygedig, bob amser yn dibynnu ar feddygon o wledydd eraill. Nid wyf i’n poeni o ble mae meddygon yn dod cyn belled â’u bod yn dda a’u bod yn darparu gwasanaethau ar gyfer ein pobl. Dyna sy'n cyfrif yn y pen draw. Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwybod ble y cawsant eu geni; mae gen i ddiddordeb yn eu sgiliau meddygol. Dyna beth sydd gen i i'w ddweud wrtho.
Ydw, rwyf i wedi siarad â Phrif Weinidog yr Alban am y mater hwn. Unwaith eto, dywedaf wrtho nad yw’r dehongliad y rhoddodd ef a'i gyn-blaid ar y bleidlais y llynedd yn ddehongliad yr wyf i’n ei rannu. Y cwbl yr ydym ni’n ei wybod yw bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE. Ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled. Rhoddwyd y cyfle iddynt bleidleisio dros Brexit caled ym mis Mehefin; ni wnaethant bleidleisio dros Brexit caled, ac felly mae'n gyfrifoldeb i bob un ohonom ni yn y Siambr hon geisio dehongli'r safbwynt yr oedd gan bobl ar hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud na ddywedodd neb wrthyf i ar garreg y drws—dim un person, hyd yn oed pobl a oedd yn gefnogwyr mwyaf brwd Brexit y gallwch chi eu dychmygu—'Yr hyn sydd ei angen arnom yw llai o feddygon o dramor yn y wlad hon'. Ni ddywedodd neb hynny. Ac felly, ymgais yw hon, yn y ddogfen hon, i gyflwyno safbwynt ar sut y gellir gwneud i fudo weithio yn y dyfodol. Nid ydym wedi clywed dim gan ei blaid bresennol na'i blaid flaenorol i ychwanegu at y ddadl honno.
Prif Weinidog, pan gefais i gyfarfod â ffermwyr yn Rhymni yn ddiweddar—oes, mae ffermwyr yn Rhymni—fe wnaethom drafod nifer o faterion yn ymwneud â Brexit, a'i effaith bosibl ar yr economi wledig, ac yn groes i'r awgrymiadau yng nghwestiwn Neil Hamilton yn gynharach, un pryder a oedd ganddynt oedd eu hanallu i allu recriwtio llafur yn lleol—llafur achlysurol, llafur tymhorol—gan arwain at eu dibyniaeth ar ffrwd gyson o lafur mudol yr UE. A fyddech chi'n cytuno â mi fod angen i lafur tymhorol o'r UE wedi’i reoleiddio fod ar gael mewn unrhyw gytundeb ar symudiad pobl ar ôl Brexit?
Wel, mae'n hynod bwysig. Gwyddom, fel arall, y bydd prinder llafur difrifol yn y diwydiant amaethyddol, ac mae hynny'n rhywbeth nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael ag ef yn briodol eto. Mae'n dod yn ôl i'r pwynt yma eto: rydym ni angen polisi mewnfudo sy'n synhwyrol, sy’n deg, sy’n gytbwys, ac rydym ni’n credu, yn y ddogfen yr ydym ni wedi ei llunio ar Brexit a mewnfudo, ein bod ni wedi gwneud yn union hynny. Nid wyf yn derbyn bod pobl wedi pleidleisio i adael yr UE ac yna penderfynu adeiladu ffens ddychmygol na gwirioneddol o gwmpas y DU gan ar yr un pryd, wrth gwrs, gyda llaw, cadw'r ffin agored gyda'r UE yng Ngweriniaeth Iwerddon, sy’n rhywbeth nad yw wedi ei ddatrys. Felly, mae hon yn ffordd ymlaen yr ydym ni’n credu sy’n synhwyrol, yn deg, ac yn bodloni dymuniadau pobl Cymru a fynegwyd yn y refferendwm y llynedd.
Onid yw'r Prif Weinidog yn gweld efallai bod y rhesymau pam mae’n ymddangos ein bod ni’n ddibynnol ar weithwyr mudol yn ddeublyg? Yn gyntaf, prin yw’r cymhelliad i hyfforddi pobl leol ar gyfer swyddi pan ei bod yn hawdd iddyn nhw fewnforio gweithwyr parod a chymwysedig. Ac, yn ail, mae tâl ac amodau mor wael mai dim ond gweithiwr mudol o wlad sydd â safonau byw sy'n waeth na'n rhai ni sy'n barod i ddioddef camfanteisio fel hyn. Beth ydych chi'n mynd i’w wneud i wrthdroi'r ddibyniaeth ar weithwyr yr UE a gweithwyr mudol?
Wel, yn gyntaf oll, rydym ni i gyd eisiau gweld tâl ac amodau gwell, ac mae'n hynod bwysig ein bod ni’n gweld cyflog byw priodol yn cael ei gyflwyno ar draws ein heconomi, yn y sector preifat hefyd, ac mae’n bwysig bod gennym ni Lywodraeth y DU sy’n cydnabod pwysigrwydd hynny. Ond nid oes gen i obsesiwn â'r syniad mai’r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw taflu cymaint o weithwyr tramor allan â phosibl, sef yr hyn y mae hi'n ei ddweud i bob pwrpas. Ac nid yw pobl Cymru yn rhannu’r dehongliad hwnnw, fel y dangosir gan y ffaith fod ei phlaid—nid wyf yn gwybod a yw hi'n dal yn y blaid ai peidio—wedi ennill canran mor isel o'r bleidlais yn yr etholiad. Onid yw'n dweud rhywbeth wrthych chi nad yw pobl Cymru yn cefnogi'r math o Brexit yr ydych chi'n ei gefnogi, a’n bod ni wedi gweld hynny ym mis Mehefin?