5. 5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Cyflwyno Bil a gynigir gan Bwyllgor — Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 4 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:24, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 5 ar yr agenda, sef datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar gyflwyno Bil a gynigir gan bwyllgor—Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Galwaf ar Simon Thomas, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n dda gen i ddweud, ar ddydd Llun, 2 Hydref, gosodais Fil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yn ffurfiol gerbron y Cynulliad. Dyma’r tro cyntaf i bwyllgor gyflwyno Bil ers i’r Cynulliad gael pwerau deddfu sylfaenol llawn. Mae’r Bil wedi bod yn destun gwaith helaeth dros nifer o flynyddoedd a hoffwn gofnodi fy niolch i Bwyllgor Cyllid y pedwerydd Cynulliad, dan gadeiryddiaeth Jocelyn Davies, am ei ymrwymiad i ddatblygu’r Bil.

Ar hyn o bryd, mae’r ombwdsmon yn ymgymryd â’i rôl o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae’r Bil hwn yn ailddatgan y Ddeddf honno, gan amlinellu hefyd nifer o bwerau newydd i greu un darn o ddeddfwriaeth ddwyieithog a fydd yn rhan o lyfr statud Cymru. Mae Deddf 2005 wedi hwyluso mynediad y cyhoedd at wasanaethau’r ombwdsmon. Mae wedi arwain at ddatrys anghydfodau ac wedi bod yn ffordd i unigolion gael iawn am gamwedd. Drwy ganolbwyntio ar ymdrin â chwynion yn y sector cyhoeddus, mae Deddf 2005 hefyd wedi ysgogi gwelliant o ran y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu. Fodd bynnag, ers cyflwyno Deddf 2005, mae’r arfer gorau a’r safonau rhyngwladol ar gyfer ombwdsmyn wedi symud ymlaen. Mae’r datblygiadau hyn yn cynnwys cryfhau pwerau ombwdsmyn yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Yn y pedwerydd Cynulliad, cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymgynghoriad cyhoeddus i lywio ei ymchwiliad i’r cynigion i ymestyn pwerau’r ombwdsmon. Yn dilyn yr ymchwiliad hwn, lluniwyd Bil gan y pwyllgor. Ymgynghorodd y pwyllgor hwnnw ar y Bil drafft ddechrau mis Hydref 2015. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion yn gefnogol o ddarpariaethau’r Bil drafft. Gan nad oedd digon o amser yn y pedwerydd Cynulliad i gyflwyno Bil, argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylid cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosib yn y pumed Cynulliad.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn y pumed Cynulliad wedi ystyried y Bil drafft, gan ofyn am dystiolaeth gan yr ombwdsmon, yn ogystal â rhoi ystyriaeth bellach i’r amcangyfrifon o gostau a manteision darpariaethau’r Bil. Cytunodd y Pwyllgor Cyllid, felly, i gyflwyno’r Bil i gryfhau rôl yr ombwdsmon, gan baratoi’r ddeddfwriaeth ar gyfer unrhyw beth a ddaw yn y dyfodol a gan sicrhau ei bod yn canolbwyntio ar y dinesydd.

Gwnaf sôn nawr ychydig am y darpariaethau newydd yn y Bil hwn. Bydd y Bil yn caniatáu i’r ombwdsmon dderbyn cwynion llafar, gan wella cyfiawnder cymdeithasol, felly, a chyfle cyfartal, ac yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru deg a chyfiawn. Rydym yn credu y bydd yn hwyluso a gwella’r broses o wneud cwynion gan yr aelodau mwyaf bregus ac amddifadus o gymdeithas, fel pobl ag anawsterau dysgu, pobl ddigartref a’r henoed. Drwy gael gwared ar y gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig yn unig, bydd y Bil hefyd yn sicrhau mynediad at wasanaethau’r ombwdsmon yn y dyfodol, gan ganiatáu i’w swyddfa ddatblygu canllawiau i ymateb i ddatblygiadau’r dyfodol, megis datblygiadau ym maes technoleg—’apps’, ‘smartphones’ ac ati.

Bydd y Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i’r ombwdsmon gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Bydd angen bodloni meini prawf sydd wedi’u pennu ar wyneb y Bil cyn dechrau ymchwiliad o’r fath, ond bydd y pŵer i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hunan yn ffordd o ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed a rhoi sylwi i urddas unigolion. Mae manteision ehangach i hyn hefyd. Bydd yn galluogi’r ombwdsmon i ymateb yn well i ddinasyddion gan ei fod yn caniatáu iddo fe ymchwilio i faterion a ddaw i law yn ddienw, gan gryfhau llais y dinesydd.

Mae’r Bil yn caniatáu i’r ombwdsmon ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â’r elfen gwasanaethau iechyd preifat, gan gynnwys triniaeth feddygol a gofal nyrsio, a ddaw mewn cwyn mewn llwybr cyhoeddus/preifat gyda’i gilydd. Bydd hyn yn galluogi’r ombwdsmon i ymchwilio i’r gŵyn gyfan, sy’n golygu y gall ymchwiliadau ddilyn y dinesydd yn hytrach na dilyn y sector. Ar hyn o bryd, o dan Ddeddf 2005, mae gan yr ombwdsmon yr awdurdod i ymchwilio lle mae’r gwasanaeth iechyd gwladol wedi comisiynu triniaeth feddygol yn breifat i gleifion, ond nid lle mae cleifion eu hunain yn comisiynu triniaeth o’r fath. Os yw cleifion yn comisiynu triniaeth breifat, ar hyn o bryd mae’n rhaid iddyn nhw wneud cwynion ar wahân ar gyfer yr elfennau cyhoeddus a phreifat i’r ombwdsmon a’r darparwr sector preifat. Nid yw hyn yn foddhaol i ddinasyddion Cymru.

Er enghraifft, wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid yn egluro’r problemau hyn, soniodd yr ombwdsmon am gŵyn ddiweddar. Roedd aelod o’r cyhoedd wedi cysylltu â’i swyddfa ynghylch y driniaeth a ddarparwyd i’w diweddar ŵr a gafodd driniaeth drwy’r gwasanaeth iechyd gwladol, yna triniaeth breifat, cyn dychwelyd i’r gwasanaeth iechyd eto. Dywedodd yr ombwdsmon y bu’n rhaid i’r unigolyn aros pum mlynedd a hanner i gael ymateb, sy’n amlwg yn annerbyniol.

Bydd darpariaethau’r Bil hefyd yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac o ran ymdrin â chwynion. Mae model o bolisi cwynion ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd i helpu i sicrhau cysondeb ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Mae tystiolaeth yn dangos, er bod y sefyllfa’n gwella, nad yw’r sector cyhoeddus yn ei fabwysiadu mewn ffordd gyson. Rydym yn gobeithio y bydd y Bil yn mynd i’r afael â hyn. Mae darpariaethau’r Bil ar gyfer ymdrin â chwynion a gweithdrefnau yn cynnig dull tebyg i Gymru i’r hyn sydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu, am y tro cyntaf, y bydd data rheolaidd, dibynadwy a chymaradwy ar gael ynglŷn â chwynion ar draws y sector cyhoeddus. Bydd hyn, gobeithio, yn ysgogi atebolrwydd a gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn arwain at dryloywder o ran adrodd ac yn grymuso’r broses graffu, lle mae data a gwybodaeth yn hanfodol.

Fel pwyllgor, rydym yn credu ei bod hi’n bwysicach nag erioed fod gwasanaethau cyhoeddus yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru a bod yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus yn cael y grym priodol i sicrhau bod ein gwasanaethau’n canolbwyntio ar y dinesydd. Mae angen i’r cyhoedd fod â hyder yn yr ombwdsmon a swyddogaeth yr ombwdsmon i ymchwilio os ydynt yn credu eu bod wedi dioddef anghyfiawnder neu galedi neu rhyw gamwedd drwy gamweinyddiaeth, neu yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac rydym yn credu y bydd y Bil hwn yn mynd dipyn o’r ffordd i gyflawni hyn. Dyma pam, ym marn y Pwyllgor Cyllid, fod angen Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), ac felly, ar ran y pwyllgor, rwy’n cymeradwyo’r Bil i’r Cynulliad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:31, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Diolch yn fawr. A gaf ddweud i ddechrau gair o ddiolch i Simon Thomas ac aelodau eraill y Pwyllgor Cyllid am y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn barod i baratoi’r Bil ar hyn o bryd, ac i gyflwyno’r Bil heddiw? Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi rôl yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n darparu gwasanaeth pwysig wrth fod yn gyfrwng i helpu dinasyddion sydd heb dderbyn y lefel o wasanaeth gan y sector cyhoeddus y mae ganddyn nhw yr hawl i’w ddisgwyl. Bydd Llywodraeth Cymru yn edrych mewn modd cadarnhaol ar fesurau a fydd yn helpu’r ombwdsmon i gyflawni ei rôl e.

Felly, er enghraifft, byddem yn croesawu’r cynnig y dylai fod yn gallu derbyn cwynion ar lafar. Gall hyn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys y rheiny sydd â nodweddion gwarchodedig. Rwy’n siŵr y bydd y pwyllgorau fydd â’r cyfrifoldeb i graffu ar y Bil hefyd am ystyried sut y bydd y bobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn cael eu cefnogi i ddehongli’r ddeddfwriaeth arfaethedig.

Ar y llaw arall, Dirprwy Lywydd, mewn perthynas â rhai agweddau eraill ar y Bil, mae gan Lywodraeth Cymru bryderon y gallai ehangu rôl yr ombwdsmon arwain at bobl yn credu bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu gor-reoleiddio yng Nghymru, ac y gallai arwain at orgyffwrdd neu ddryswch yn rolau gwahanol reoleiddwyr. Edrychwn ymlaen at gynnal rhagor o drafodaethau ar y materion hyn a rhai pethau eraill yn y Bil yn ystod y broses graffu.

Rydych chi siŵr o fod yn disgwyl i mi ddweud hyn, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, ond dylwn hefyd ychwanegu fod gennym bryderon am y gost gynyddol a fyddai’n cael ei hysgwyddo yn sgil y ddeddfwriaeth hon, ar adeg pan fo’n rhaid i weddill y gwasanaethau cyhoeddus ddal yn ôl. Mae pob punt ychwanegol a chaiff ei gwario yma, neu arbedion na chaiff eu gwneud, yn bunt na ellir ei throsglwyddo i wasanaethau rheng flaen.

Bydd hefyd angen edrych yn bellach ar yr agwedd hon yn ystod y broses graffu, ond credaf fod angen i ni fod yn hollol sicr y byddai Cymru yn cael buddion sylweddol am y costau ychwanegol a ysgwyddir. Yn y cyfamser, wrth i’r Bil cael ei gyflwyno’n ffurfiol, mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at gymryd rhan adeiladol ac agos yn y broses graffu sydd ar y gweill. Diolch yn fawr.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:34, 4 Hydref 2017

A gaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ymateb i’r datganiad, ac am osod, yn y lle cyntaf, ei fod yn mynd i gymryd agwedd gadarnhaol tuag at y Bil hwn? Mae wedi’i rhoi’i fys ar un peth amlwg, lle mae’r Bil yn mynd i’r afael â gwendid presennol, lle nid oes modd gwneud cwynion ar lafar. Mae’n amlwg o ran y ffordd y mae technoleg yn datblygu a’r ffordd y mae rhai pobl, fel yr oedd e’n ei ddweud, gyda ‘protected characteristics’, fel petai, yn cael eu gwarchod hefyd, fod angen unioni’r sefyllfa honno.

Roedd e hefyd, wrth gwrs, yn briodol iawn fel cynrychiolydd y Llywodraeth, yn sôn am y rhychwant, yr ystod o reoleiddwyr eraill, a phobl eraill sydd yn gweithredu yn y maes yma, ac am osgoi gorgyffwrdd â gwaith rheoleiddwyr eraill. Mae’r Bil, fel y mae wedi cael ei ddrafftio ar hyn o bryd, yn cynnwys nifer o ddarpariaethau ar gyfer sicrhau bod cydlynu yn hynny. Ond, wrth gwrs, wrth i ni graffu ar y Bil, mae’n bosib iawn y bydd angen edrych ar hynny i wneud yn siŵr ei fod yn ddigon cadarn ac nad oes modd—neu, yn hytrach, fod modd osgoi’r pryderon yr oedd y Gweinidog wedi sôn yn eu cylch.

Yn olaf, wrth gwrs, mae’r gost yn gwestiwn cwbl briodol i’w godi ar y mater yma. Byddwn i jest am atgoffa’r Cynulliad cyfan mai chi, y Cynulliad, sy’n talu am y gost yma ac felly jest i bawb fod yn ymwybodol bod unrhyw gostau ychwanegol sy’n deillio o’r Bil yma yn dod atoch chi yn y pen draw, yn amcangyfrifon yr ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus, sy’n cael eu trafod gan y Pwyllgor Cyllid ac, yn eu tro, yn cael eu cymeradwyo yn fan hyn. Ond, wrth gwrs, mae’n dod o’r arian bloc. Mae’n rhan o’r arian bloc, ac felly fe fydd yr Ysgrifennydd Cabinet, fel y person sydd yn bennaf gyfrifol am y rhan fwyaf o’r arian yn yr arian bloc, rwy’n siŵr, eisiau cadw llygad barcud ar y gwariant yma, ond mae’n siŵr y bydd Aelodau eraill y Cynulliad hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod y costau sydd ynghlwm—ac sydd wedi’u hamlinellu’n drylwyr iawn, rwy’n meddwl, yn y memorandwm esboniadol—yn briodol i’r enillion y byddwn ni’n eu hennill wrth basio’r Bil neu’r darpariaethau newydd sydd yn cael eu hawgrymu yn y Bil. Felly, rwy’n edrych ymlaen at y drafodaeth honno.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:37, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n sicr yn croesawu mwy o bwerau i’r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus o dan y Bil hwn a chynnwys y Cynulliad yn y broses benodi. Roeddwn yn gefnogol iawn i hyn pan ddaeth gerbron y pwyllgor y tymor diwethaf ac edrychaf ymlaen at graffu yn ein pwyllgor pan ddaw gerbron.

Credwn yn gryf y dylai’r ombwdsmon fod yn atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid i Lywodraeth Cymru’n unig, felly mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn falch o nodi y bydd yr enwebiad ar gyfer y rôl hon yn digwydd yma drwy’r Cynulliad. Fodd bynnag, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad pellach ynglŷn â sut y bydd Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwydo i mewn i bob lefel o broses enwebu’r ombwdsmon, ac nid camau olaf y penodiad yn unig.

O ran hygyrchedd, rydym yn croesawu cynigion i ddiddymu’r gofyniad i wneud cwyn yn ysgrifenedig ac i’r ombwdsmon ddal i allu cychwyn ymchwiliadau. Pum aelod arall o Gyngor Ewrop yn unig sydd ag ombwdsmyn heb y pŵer hwn, felly mae’n hen bryd i hyn ddigwydd, mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau nad yw Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU ac Ewrop. Wrth sicrhau gwrthrychedd mewn perthynas â’r pŵer hwn, sut y bydd y darpariaethau yn y Bil yn tynnu llinell derfyn glir rhwng ymrwymiad yr ombwdsmon i gynrychiolaeth a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru? A sut y bydd y Bil yn sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru a gwasanaeth cyhoeddus yn fwy agored i dderbyn canlyniadau ymchwiliadau?

Mae’r polisi cwyno enghreifftiol cyfredol yng Nghymru yn wirfoddol a nododd y Pwyllgor Cyllid yn flaenorol nad oedd y modd y cafodd ei fabwysiadu ar draws y sector cyhoeddus yn gyson. Felly, yn gyntaf, pa ystyriaeth y gellid ei rhoi i sail statudol y canllawiau a gyhoeddir gan yr ombwdsmon i fod yn gymwys ar gyfer gwasanaethau iechyd preifat yn ogystal? Yn dilyn y drafodaeth diwrnod agored yr wythnos diwethaf, bydd y pŵer newydd penodol hwn yn golygu y byddwn yn gallu casglu data rheolaidd, dibynadwy a chymaradwy ar gwynion ar draws y sector cyhoeddus. Yn ail, felly, sut y caiff y data hwn ei gasglu er mwyn mynd ati’n gadarn i hyrwyddo atebolrwydd a thryloywder mewn gwasanaethau cyhoeddus, gan rymuso’r broses graffu?

Ac yn olaf, sut y pennir arferion gorau wrth edrych i’r dyfodol? A fyddwn yn gallu craffu ar enghreifftiau o arferion gorau o bob cwr o’r DU a thu hwnt er mwyn sicrhau bod cwynion gwasanaethau cyhoeddus yn effeithlon ac yn effeithiol o ganlyniad i’r Bil hwn? A fydd hyn yn cael ei adolygu fel rhan o’r adolygiad pum mlynedd gan y Cynulliad hwn?

Diolch i’r pwyllgor a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am dderbyn hyn mewn ysbryd da. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb, yn fy rhan ar y pwyllgor, a phan ddaw i’w graffu yma, er mwyn sicrhau ein bod yn cael hyn yn iawn. Diolch.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:40, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei sylwadau a’i chroeso cyffredinol i’r hyn y mae’r Bil yn cynnig ei wneud. A gaf fi ddweud ar y dechrau fod y Bil yn seiliedig ar—nid yw’n newid y ddeddfwriaeth bresennol o ran atebolrwydd yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus i’r Cynulliad Cenedlaethol, nid i’r Llywodraeth? Ef ydyw. Ar hyn o bryd mae’n ombwdsmon annibynnol, ac wedi ei benodi am—. Rwy’n credu bod nifer o flynyddoedd i fynd o hyd tan ddiwedd ei benodiad. Ni allaf gofio’n union pa bryd y dechreuodd yn y swydd—rhywbeth fel 2013, rwy’n meddwl, neu 2014. Mae’r Bil yn rhoi sicrwydd penodol na chafodd ei benodiad ei dorri drwy basio’r Bil hwn—felly nid ydym wedi ymyrryd â’r pwerau sydd ar waith—a phan ddown i benodi ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus newydd, nid yw’r Bil yn newid y trefniadau presennol sy’n sicrhau mai’r Cynulliad hwn sy’n gyfrifol am hynny, hyd at ac yn cynnwys penodi drwy bwyllgor. Felly, rwy’n gobeithio y gellir edrych ar rai o’r datblygiadau arloesol eraill hefyd a gawsom yn y Pwyllgor Cyllid, er enghraifft gyda gwrandawiadau cyn penodi ac yn y blaen, nid yn unig ar gyfer yr ombwdsmon, ond ar gyfer yr archwilydd cyffredinol newydd, sef yr apwyntiad nesaf a wneir gan y Cynulliad hwn mewn gwirionedd.

Croesawaf y ffaith eich bod at ei gilydd am weld y pwerau hyn ac yn credu bod y pwerau cwynion llafar a phwerau i weithredu ar ei liwt ei hun, sef un o’r pwerau mwy arloesol yn hynny o beth y fy marn i, a ddefnyddir, fel y dywedoch, gan ombwdsmyn eraill drwy Gyngor Ewrop i gyd. Nid yw’n unigryw yn yr ystyr honno, felly mae angen inni ddeall y gymhariaeth ryngwladol honno. Pe bai’r ombwdsmon yma ei hun, rwy’n siŵr y byddai’n siarad am y rhwydwaith o ombwdsmyn sy’n bodoli. Ceir cynadleddau rhyngwladol, ac maent yn dod at ei gilydd. Yn wir, mynychais un yn Aberystwyth y llynedd i glywed gan ombwdsmyn eraill sut y caiff eu gwaith ei wneud.

O ran y mater penodol yn ymwneud â chasglu data, rwy’n credu ei bod yn bwysig cofio bod yr ombwdsmon yn llunio adroddiad blynyddol i’r Cynulliad hwn, sy’n cael ei graffu, rwy’n meddwl, gan y pwyllgor rydych yn aelod ohono, ond mae ar gael i holl Aelodau’r Cynulliad. Buasech yn disgwyl i’r adroddiad blynyddol, os daw’r Bil hwn yn ddeddf, gynnwys y data hwnnw, a chynnwys y gymhariaeth o’r data. Yn sicr, mae’r asesiad effaith rheoleiddiol yn ystyried rhai o’r costau a allai godi mewn perthynas â hynny ac wrth gwrs, mae gennych rai costau sefydlu cychwynnol i wneud yn siŵr fod gennych y seilwaith yn ei le er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Ond y wers glir yn hyn—pwynt olaf Janet Finch-Saunders, rwy’n meddwl—oedd sut y mae hynny wedyn yn llywio arferion gorau, ac rydym yn awyddus i weld hynny wedi ei adlewyrchu yn adroddiadau blynyddol ombwdsmyn yn y dyfodol. Rydych yn hollol iawn; yn y Bil ei hun, ceir gofyniad penodol i’r Cynulliad wneud adolygiad pum mlynedd o’r Bil a’i weithrediad, ond nid yw hynny, mewn unrhyw ffordd, yn rhwystro unrhyw adolygiad arall rhag cael ei wneud gan unrhyw un o bwyllgorau’r Cynulliad neu unrhyw gorff allanol y gellid ei gomisiynu i wneud hynny.

Rwy’n credu, o ran y polisi enghreifftiol, system wirfoddol yw honno ar hyn o bryd, fel y dywedoch yn hollol gywir. Byddai gennym safon aur o’i rhoi ar sail fwy statudol yn fy marn i. Buaswn yn gobeithio, er enghraifft, y byddai darparwyr gofal iechyd preifat wedyn yn awyddus i fod yn rhan o’r safon aur oherwydd byddai hynny, yn ei dro, yn dangos sut y maent yn chwarae eu rôl yn diwallu anghenion dinasyddion ac yn diwallu anghenion pobl Cymru.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:43, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghroeso’n gynnes iawn hefyd i gyflwyno’r Bil cyntaf hwn a gynhyrchwyd gan bwyllgor. Ddeunaw mlynedd ar ôl i ni bleidleisio dros ddatganoli mae gennym bellach Fil wedi ei gyflwyno gan un o bwyllgorau’r Cynulliad. Rwy’n credu bod hwnnw’n gam enfawr ymlaen. Roeddwn yn rhan o’r Pwyllgor Cyllid yn y Pedwerydd Cynulliad, ac a gaf fi ymuno â Simon Thomas i roi clod i Jocelyn Davies am y gwaith a wnaeth fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw ar symud y Bil hwn i’r cam y mae arno ar hyn o bryd?

Mae’r ombwdsmon yn darparu gwasanaeth hynod o bwysig i lawer o’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Yn aml, yr ombwdsmon yw’r dewis olaf i bobl sy’n ceisio cael cyfiawnder. Maent wedi cael eu siomi gan y system drwyddi draw. Yr ombwdsmon yw’r person olaf y gallant droi ato. Mae’r Bil arfaethedig yn darparu llawer o welliannau posibl. A gaf fi sôn am gwynion llafar? Ni all yr ombwdsmon gymryd cwynion llafar. Buaswn yn tybio bod pob un ohonom yn yr ystafell hon yn cymryd cwynion llafar. Os na fyddem yn gwneud hynny, byddem yn torri oddeutu un rhan o dair oddi ar nifer y cwynion a gawn gan etholwyr. Pe na baem yn eu derbyn ar lafar, ac yn aml iawn mewn mannau amhriodol, pan fyddant eisiau dweud wrthych am bethau—. Mae llawer o bobl yn hoffi dweud pethau wrthych yn hytrach na gorfod eu hysgrifennu. Mae yna broblem lythrennedd ymhlith llawer o bobl nad ydynt yn hoffi ysgrifennu pethau ar bapur, yn enwedig yn swyddogol, pethau y bydd y byd swyddogol yn ymdrin â hwy. Maent yn nerfus yn ei gylch. Maent yn nerfus ynglŷn â’u sgiliau llythrennedd. Yn bwysicaf oll efallai, rwy’n credu eu bod yn ofni gwneud camgymeriad. Rwy’n credu y bydd caniatáu i’r ombwdsmon dderbyn pethau ar lafar yn golygu y bydd pobl yn cael gwared ar yr ofn hwnnw. Nawr, gallai hynny gynyddu nifer y cwynion sy’n mynd at yr ombwdsmon, ond gallai hefyd atal cwynion yn y dyfodol, oherwydd, os yw’r ombwdsmon yn cael llawer o gwynion mewn un maes, yn hytrach na’i fod yn gorfod aros yn barhaus am y nesaf—ac rwy’n dweud ‘ei fod’ yn hytrach nag ‘ei bod’ am mai ef ydyw ar hyn o bryd—bydd yn gallu ymdrin â’r mater.

Felly, os nad yw’n gwneud dim arall, byddai cwynion llafar yn newid yr ombwdsmon yn llwyr o fod yn rhywun sy’n gweithio yn y math hwnnw o faes technegol y mae pob un ohonom ni’n teimlo’n gartrefol ynddo, ond un na fyddai nifer fawr o fy etholwyr yn teimlo felly ynddo, i rywun sy’n barod i wrando ar gwynion yn yr un modd ag y mae pob un ohonom ni yn ei wneud.

Un cwestiwn sydd gennyf i Simon Thomas: a wnaiff amlinellu ymhellach sut y mae’r ddeddfwriaeth yn adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol i fod o fudd i’r hyn y dylem fod â diddordeb ynddo’n unig: pobl Cymru?

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:46, 4 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges, nid yn unig am ei sylwadau heddiw, ond am y gwaith a wnaeth ar y Pwyllgor Cyllid yn flaenorol, ac wrth gwrs rwy’n cefnogi’n fawr iawn yr hyn a ddywedodd am Jocelyn Davies. Rwy’n gobeithio y gallaf barhau—. Rwy’n credu bod gan Jocelyn ddull o weithredu lle’r oedd hi’n awyddus i weithio gyda phob plaid yma, ac rwy’n gobeithio bod—. Yn sicr, mae tywys Bil drwodd, mae angen i mi wneud hynny, ac rwy’n ymwybodol iawn fod angen i mi adeiladu cefnogaeth i’r Bil hwn ar ran y pwyllgor.

Hoffwn ddweud, cyn ateb y cwestiwn yn benodol, i gefnogi’r hyn roedd Mike Hedges yn ei ddweud am yr angen am gwynion llafar, mae pawb ohonom wedi eistedd yn ein cymorthfeydd ac yn ein swyddfeydd gyda phobl sy’n barod iawn i ddweud eu stori wrthym ond nad ydynt am lofnodi’r darn o bapur neu ddweud nad ydynt wedi dod â’u sbectol, wyddoch chi, ac mae’n rhaid i ni lywio ein ffordd drwy hyn. Ond wrth edrych ar y Bil hwn, cefais fy nharo gan ffigurau anllythrennedd gweithredol, i bob pwrpas, yng Nghymru. Mae mor uchel â 25 y cant o’r boblogaeth sy’n oedolion, ac yn uwch yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Felly, rwy’n meddwl bod yna angen gwirioneddol inni agor y drysau i’r ombwdsmon glywed y cwynion llafar hynny.

Wrth gwrs, mae’n rhaid cael rhyw fath o broses ddilysu a byddai’n rhaid i ni sicrhau bod yr ombwdsmon yn gallu gwneud yn siŵr fod y cwynion yn cael eu hystyried yn llawn. Ond gellid gwrthbwyso’r cynnydd posibl yn nifer y cwynion wedyn, fel y dywedodd Mike Hedges, â dealltwriaeth well o batrwm y cwynion mewn sector penodol, a allai arwain at ymchwiliad ar ei liwt ei hun, ac yn ei dro, hefyd, â’r rhan o’r Bil sy’n ymwneud â safoni, sydd, yn sicr yn achos ombwdsmon yr Alban, wedi arwain at lai o gwynion yn symud ymlaen o’r cam cyntaf mewn gwirionedd. Mewn geiriau eraill, mae pethau’n cael eu datrys yn gynt a cheir rhai arbedion o fewn y system oherwydd hynny.

I ymateb yn benodol i Mike Hedges, rwy’n ei sicrhau ef a’r Cynulliad cyfan nad yw’r Bil ond yn adeiladu ar y Biliau cyfredol; nid yw’n diddymu unrhyw bwerau. Yn ogystal â’r pwerau cwynion llafar, fel y dywedais, bydd yn galluogi’r ombwdsmon i gael y pwerau hynny i weithredu ar ei liwt ei hun. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cofnodi nad ydym yn ysgrifennu siec wag i’r ombwdsmon fynd i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun. Mae’n dweud ar wyneb y Bil sut y mae’n rhaid i’r ymchwiliadau hynny ymwneud â’i waith ac anghenion ehangach y dinesydd. Rwy’n gobeithio, wrth graffu ar y Bil, y caiff anghenion y dinesydd eu cydnabod fel rhai sy’n ganolog i’r Bil hwn, ac wrth gwrs, efallai y bydd yna syniadau sy’n dod i mewn drwy’r broses ddiogelwch a fydd yn ein cynorthwyo ac yn ein helpu i gyflawni’r nod hwnnw.

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 3:48, 4 Hydref 2017

Hoffwn innau hefyd ddiolch i Simon Thomas, fel Cadeirydd y pwyllgor, am y gwaith y mae wedi’i wneud yn dod â’r Bil yma ymlaen. Yn wir, mae nifer o’r pwyntiau roeddwn i’n mynd i’w codi wedi cael eu codi eisoes gan Aelodau eraill. Ond rwy’n meddwl ei fod yn bwynt pwysig i’w wneud—mae Mike Hedges wedi sôn am hyn yn enwedig—y pwynt yma ynglŷn â chostau yn ymwneud â derbyn cwynion ar lafar. Achos, wrth gwrs, os oes cynnydd yn mynd i fod yn nifer y cwynion oherwydd bod modd gwneud y cwynion ar lafar, bydd hynny efallai yn meddwl bod yna gost ar gychwyn y broses yna, ond, yn yr hir dymor, fe allwn ni sicrhau, drwy’r broses yma, fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio’n well ac yn fwy effeithlon, ac felly bydd yna arbediad. ‘Invest to save’, efallai—y model yna.

Rwy’n gweld Aelod y Cabinet yn gwenu. Rwy’n gwybod ei fod yn awyddus iawn i gadw costau o dan reolaeth, am resymau amlwg, ond rwy’n meddwl fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Mae nifer o’r bobl sy’n ymwneud yn rheolaidd gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac sydd wedyn angen system er mwyn cwyno i gael cyfiawnder, yn bobl sydd angen pob modd a chefnogaeth bosibl er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael triniaeth gyfartal efallai y byddai rhai ohonom ni’n teimlo’n fwy hyderus yn gwneud yn ysgrifenedig.

Hoffwn i ofyn i Gadeirydd y pwyllgor sut mae fe’n rhagweld y bydd modd hysbysu ymysg ein dinasyddion ni bod y broses newydd yma ar gael iddyn nhw. Sut fath o broses bydd angen rhoi yn ei le i sicrhau bod dinasyddion yn gwybod bod modd iddyn nhw wneud cwynion ar lafar? A, hefyd, roedd y Cadeirydd wedi sôn nifer o weithiau yn ei ddatganiad ef, am resymau da iawn, ynglŷn â ‘futureproof’—nid ydw i’n siŵr beth yw hynny’n Gymraeg, ond sicrhau bod pethau’n dda ar gyfer y dyfodol ynglŷn â thechnoleg ac yn y blaen. Wrth gwrs, mae technoleg yn gallu bod yn beth arbennig o dda, yn ei gwneud hi’n haws i bobl cysylltu, yn arbennig â phobl mewn swyddi cyhoeddus, ond, wrth gwrs, mae hynny’n mynd i greu lot fawr o waith os oes modd derbyn cwynion, er enghraifft, drwy Twitter. Gallaf i ddychmygu y byddai hynny, efallai, gyda canlyniadau na fyddai rhywun yn eu rhagweld neu moyn yn y lle cyntaf. So, hoffwn i ofyn, fel roeddwn i’n ei ddweud, yn y lle cyntaf: sut rydym ni’n mynd i sicrhau bod dinasyddion, ar yr un llaw, yn gwybod bod ganddyn nhw’r hawl i wneud y cwynion yma ar lafar a chael y gefnogaeth i wneud hynny, ond, ar y llaw arall, sut rydym ni’n mynd i gadw’r cydbwysedd yna, gan gofio bod Mr Drakeford yn mynd i fod yna’n edrych ar y costau—sut rydym ni’n mynd i sicrhau bod hynny’n cael eu cadw o fewn rhyw fath o reolaeth, ac ein bod ni ddim yn defnyddio cyfleoedd technolegol, achos byddai hynny efallai’n creu sefyllfa nad ydym ni eisiau ei weld?

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 3:51, 4 Hydref 2017

Diolch yn fawr i Steffan Lewis am y cwestiynau yna. A gaf i ddechrau drwy ddweud bod yna newyddion da fan hyn yn y cyd-destun ehangach, sef, os edrychwch chi ar adroddiadau’r ombwdsman gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd diweddar, mae nifer y cwynion, heb y ddeddfwriaeth arfaethedig, wedi bod yn codi’n gyson? Nawr, a ydy hynny’n adlewyrchu ar safon gwasanaethau cyhoeddus, neu a ydy’n adlewyrchu ar well gwybodaeth am wasanaethau’r ombwdsman? Nid yw hynny’n gwestiwn fedraf i ei ateb nawr, ond beth gallaf i ddweud yw, wrth i nifer y cwynion gynyddu, mae’r gost fesul cwyn i’r ombwdsman o ddelio â’r cwynion yna wedi bod yn gostwng. Felly, mae fe’n ddiddorol i weld bod y cwynion yn mynd i fyny ond mae’r gost fesul cwyn yn gostwng, sy’n golygu bod yr ombwdsman hyd yma wedi bod yn llwyddo i lyncu, os leiciwch chi, y costau hynny ac eu absorbio nhw tu fewn i’r ffordd mae’n gweithio fel swyddfa a darparu mwy o wasanaeth heb, o reidrwydd, fynd i’r holl gostau ychwanegol o hynny.

Mae hefyd yn wir i ddweud bod yr ombwdsman wedi gosod nenfwd gwirfoddol wrth ddod i’r Pwyllgor Cyllid. Ni fyddai fe’n gofyn am fwy na 0.03 y cant o’r bloc cyfan. Felly, er bod hynny’n wirfoddol, mae’n rhywbeth y gall y Pwyllgor Cyllid, ac, yn ei tro, y Cynulliad, wastad mynnu mewn cyd-destun. Felly, mae rheolaeth dros gostau, i raddau, yn nwylo’r Cynulliad a’r pwyllgor. Felly, nid yw hwn, fel roeddwn i’n ei ddweud, yn fath o siec blanc i alluogi hynny i ddigwydd. Ond mae’n wir i ddweud y gall mwy o wybodaeth am wasanaethau a mwy o hygyrchedd i’r gwasanaethau yna arwain at gynnydd mewn nifer y cwynion. Os edrychwch chi ar y ffaith ein bod ni’n trafod deddfwriaeth sy’n seiliedig ar Ddeddf 2005, wel, nôl yn 2005, nid oedd iPhone, nid oedd ‘apps’, nid oedd modd o gwbl o gysylltu’n uniongyrchol yn y modd yna. Nid oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth bresennol sy’n galluogi’r ombwdsman i estyn allan a hysbysebu ei wasanaethau yn y modd yna; mae popeth yn gorfod cael ei wneud ar ffurf ysgrifenedig, a’r ffordd mwyaf electronig yw derbyn e-bost. Wel, byddech chi’n dymuno—efallai nid ar Twitter, achos rydym ni i gyd o bryd i’w gilydd yn cael cwynion ar Twitter, mae’n siŵr, na Facebook, ond byddech chi yn disgwyl dros gyfnod i’r gwasanaethau rhyngweithiol yna, drwy ddulliau ‘app’, ffonau doeth neu beth bynnag yw e, gael eu datblygu gan yr ombwdsman, ond mae’n anodd gwneud hynny tra bod y pwerau mor gyfyngedig i gwynion ysgrifenedig yn unig.