9. Dadl Fer — Galw am help: diogelu plant sydd ar goll yng Nghymru

– Senedd Cymru am 5:42 pm ar 22 Tachwedd 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:42, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at y gyntaf o'r dadleuon byr y prynhawn yma. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n dawel ac yn gyflym os gwelwch yn dda. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny. Os nad ydych yn gadael, eisteddwch os gwelwch yn dda. Symudaf ymlaen yn awr at y ddadl fer a galwaf ar Llyr Gruffydd i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Llyr.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i drafod mater y mae angen rhoi sylw iddo ar fyrder, yn fy marn i, sef yr ymateb diogelu ar gyfer plant sy'n mynd ar goll neu sydd mewn perygl o fynd ar goll. Edrychaf ymlaen, hefyd, at glywed cyfraniadau gan Dawn Bowden a David Melding yn y ddadl hon y prynhawn yma.

Nawr, mae'n fater amserol i'w drafod, oherwydd mae protocol plant coll cyfredol Cymru yn cael ei adolygu fel rhan o'r broses o ddiweddaru gweithdrefnau amddiffyn plant Cymru gyfan. Mae'r adolygiad hwn i'w groesawu, wrth gwrs, ond mae'n bwysig, wrth adolygu'r protocol, ein bod yn pwyso ar arbenigedd amrywiaeth o leisiau i lywio'r modd y gallwn ddiogelu plant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu o ofal yn well.

Dau lais yr hoffwn eu dwyn i sylw'r Gweinidog yw Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru, sydd, yn gynharach eleni, wedi ysgrifennu adroddiad o'r enw 'Bwlch yn y Wybodaeth', a oedd yn archwilio'r ymateb diogelu ar gyfer plant coll yng Nghymru. Nawr, mae'r adroddiad yn cynnwys rhai argymhellion pendant a chyraeddadwy, a fuasai'n helpu i wella ein hymateb diogelu ar gyfer y plant hyn pe baent yn cael eu gweithredu.

Efallai y bydd llawer o bobl yn synnu faint o blant coll a geir yng Nghymru, a'r llynedd, aeth tua 4,500 o blant a phobl ifanc ar goll o'u cartrefi neu o ofal. Ac aeth y plant hyn ar goll fwy na 11,000 o weithiau i gyd. Yn yr ardal heddlu sy'n plismona fy rhanbarth yng ngogledd Cymru, aeth dros 700 o blant ar goll bron 1,500 o weithiau yn ystod 2015-16.

Nawr, mae llawer o resymau pam y mae plant yn cael eu gorfodi, neu'n teimlo gorfodaeth i fynd ar goll. Efallai y bydd plentyn yn wynebu amrywiaeth o fathau o galedi yn y cartref, megis esgeulustod, cam-drin neu drais yn y cartref. Efallai fod plentyn mewn gofal yn anhapus ynglŷn â'i leoliad neu efallai ei fod wedi cael ei roi mewn gofal y tu allan i'w ardal leol, gan olygu nad yw'n gallu troi at rwydweithiau cymorth a bydd hynny'n aml yn peri iddynt fynd ar goll i'r lle maent yn ei adnabod fel eu cartref. Hefyd, mae'n bosibl fod pobl y credent eu bod yn ffrindiau neu'n gariadon yn meithrin perthynas amhriodol â phlant oddi cartref neu o ofal neu'n camfanteisio arnynt. Dyma rai o'r ffactorau gwthio a thynnu y mae llawer o blant a phobl ifanc yn eu hwynebu sy'n eu cymell i fynd ar goll.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:45, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, er efallai y bydd y plant hyn yn credu eu bod yn dianc o ffynhonnell o berygl neu anhapusrwydd, maent yn wynebu mwy o risg o niwed, wrth gwrs, tra'u bod ar goll. Mae plant coll yn wynebu risg o gamfanteisio rhywiol, camfanteisio troseddol neu fasnachu mewn pobl, ac yn ôl ymchwil Cymdeithas y Plant, mae 25 y cant o blant a oedd wedi diflannu dros nos naill ai wedi cael eu brifo neu eu niweidio neu wedi cysgu allan neu gyda rhywun roeddent newydd gyfarfod â hwy, neu wedi dwyn neu gardota er mwyn goroesi. Nawr, mae'r plant hyn yn wynebu risgiau cymhleth, ac mae angen inni wneud yn siŵr fod gennym ymateb amlasiantaethol sy'n cadw'r plant yn ddiogel.

Rwyf am ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes sy'n pennu i raddau helaeth yr ymateb y bydd plant yn ei gael pan fyddant yn mynd ar goll, ac mae lle i wella'r ymateb presennol i blant coll. I wneud hyn, rwyf am strwythuro fy nghyfraniad y prynhawn yma ar y broses ddiogelu a ddilynir pan roddir gwybod bod plentyn ar goll.

Felly, yn gyntaf, rwyf am droi at rannu gwybodaeth. Pan roddir gwybod gyntaf fod plentyn ar goll, fel ymatebwyr cyntaf, wrth gwrs, bydd yr heddlu yn dechrau edrych am y plentyn ac yn hollbwysig, byddant yn penderfynu ar sbectrwm risg, pa mor anniogel y gallai plentyn fod a phennu eu hymateb yn unol â hynny. Nawr, er mwyn cynyddu'r gobaith o ddod o hyd i blentyn a'u cadw'n ddiogel, mae'r heddlu angen gwybodaeth ynglŷn â ble y gallai plentyn fod a chyda phwy y gallai fod. Heb ddarlun cyflawn gan amrywiaeth o asiantaethau o'r risgiau y mae'r plant hyn yn eu hwynebu, ni fydd swyddogion yr heddlu yn gallu asesu'n ddigonol y risgiau sy'n wynebu plant, gan adael y plant hynny mewn perygl wrth gwrs. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant sy'n wynebu risg o gamfanteisio neu fasnachu pobl.

Y ffordd fwyaf effeithiol o gael asesiad risg cadarn ar gyfer y plant hyn yw drwy weithio amlasiantaethol. Mae hyn yn golygu cael aelodau o'r heddlu, gwasanaethau iechyd, addysg a phlant, a'r trydydd sector i rannu gwybodaeth er mwyn adeiladu proffil cyfannol o blentyn sydd mewn perygl o fynd ar goll a defnyddio'r wybodaeth honno i ddarparu cymorth priodol i atal y plentyn rhag mynd ar goll dro ar ôl tro. Nawr, roedd tîm amlasiantaethol Gwent ar gyfer plant coll yn enghraifft o effeithiolrwydd hyn, gyda digwyddiadau yn yr ardal yn gostwng dros 30 y cant ers ei sefydlu, a gwn y byddwn yn clywed mwy am hynny yn nes ymlaen yn y ddadl hon.

Fodd bynnag, mae canfyddiadau o adroddiad ar y cyd Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru yn dangos fod 12 awdurdod lleol o blith yr awdurdodau lleol sydd wedi darparu gwybodaeth, yn dweud nad ydynt yn rhannu asesiadau risg gyda'r heddlu ac nid oes ganddynt bartneriaeth amlasiantaethol ar waith i ganiatáu i asiantaethau rannu gwybodaeth. Nawr, mae hyn yn gwneud gwaith yr heddlu o geisio cael hyd i'r plentyn yn fwy anodd ac felly, gallai roi plentyn y gwyddys ei fod mewn perygl eisoes mewn mwy o berygl hyd yn oed. Rhaid bod ffordd i asiantaethau ledled Cymru allu rhannu gwybodaeth gyda'i gilydd. Nid yn unig y mae gwneud hynny'n gallu amddiffyn plentyn rhag risgiau, ac achub bywyd y plentyn mewn achosion eithafol, ond gall hefyd alluogi asiantaethau i dargedu eu hadnoddau'n well, a chreu arbedion yn sgil hynny yn y tymor canolig i'r tymor hwy wrth gwrs.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cronfa ddata genedlaethol newydd ar gyfer unigolion coll a fydd yn galluogi heddluoedd i olrhain plant coll ar draws ffiniau. Gan nad yw plant, nac oedolion yn wir, sy'n mynd ar goll neu'n wynebu risgiau yn parchu ffiniau gweinyddol, wel, mae angen inni sicrhau nad yw'r ffiniau hyn yn atal gweithio agos a rhannu gwybodaeth i gadw'r plant hynny'n ddiogel. Un ffordd y gallwn symud ymlaen ar hyn yng Nghymru yw y dylai awdurdodau lleol, penaethiaid gwasanaethau plant Cymru gyfan a heddluoedd Cymru gytuno ar weithdrefn lle y gall awdurdodau lleol osod nodyn ar systemau heddlu i nodi'r risgiau i blant fel bod yr heddlu'n deall yn eglur pa risgiau sy'n wynebu plant pan fyddant yn mynd ar goll ac yna, gallant ymateb yn unol â hynny. Bydd hyn yn helpu'r heddlu i ddeall y risgiau i blant pan fyddant yn mynd ar goll ac yn helpu i'w cadw'n ddiogel.

Yn ail, rwyf am droi at ran hanfodol arall o'r jig-so ar gyfer cadw plant yn ddiogel. Pan yw plentyn yn cael ei ddarganfod neu'n dychwelyd o gyfnod o fod ar goll, dylai gael cynnig cyfle i ôl-drafod, y gellid ei alw hefyd yn gyfweliad dychwelyd adref. Nawr, mae ôl-drafod yn rhoi cyfle i blentyn siarad am y cyfnod pan oedd ar goll, sy'n gallu golygu trafod lle roedd y plentyn yn ystod y cyfnod a chyda phwy oedd ef neu hi. Mae cyfle i ôl-drafod hefyd yn galluogi ymarferwyr i ddeall y rhesymau pam y gallai plentyn fod wedi mynd ar goll.

Er na all cyfarfodydd ôl-drafod ohonynt eu hunain atal plant rhag mynd ar goll dro ar ôl tro, gallant fod yn adnodd diogelu effeithiol a allai helpu i roi cymorth i blentyn a fyddai'n helpu i'w atal rhag mynd ar goll eto. Os yw'r sawl sy'n darparu'r cyfweliad yn annibynnol ar y gwasanaethau statudol, fel y dylent fod, efallai y bydd plentyn yn ei chael hi'n haws ymddiried yn y sawl sy'n darparu'r cyfweliad a'r broses, ac felly, mae hyn yn cyflwyno'r plentyn i berson y gall ymddiried ynddo, yn hytrach na mynd ar goll yn y dyfodol. Fodd bynnag, o dan brotocol presennol Cymru gyfan ar gyfer plant coll, nid yw cynnig cyfle i blant coll ôl-drafod yn ofyniad statudol, er ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol yn Lloegr. Mae'r adroddiad 'Bwlch yn y Wybodaeth' yn dangos canlyniadau'r diffyg gofyniad cyfreithiol hwn. Mae'r adroddiad yn dangos bod pedwar o'r 13 awdurdod lleol a roddodd wybodaeth yn darparu cyfarfodydd ôl-drafod ar sail achosion unigol, sy'n golygu nad oes sicrwydd y rhoddir cyfle i blant coll siarad am eu profiad na chymorth, o bosibl, i'w rhwystro rhag mynd ar goll dro ar ôl tro. Yng ngogledd Cymru, gwn fod y sefyllfa'n ddifrifol bellach. Ers i Lywodraeth y DU ddiddymu cronfa arloesedd yr heddlu, a dalai am ddarpariaeth ôl-drafod yng ngogledd Cymru, mae'n frawychus fod nifer gyfartalog y cyfarfodydd ôl-drafod a ddarparir bob chwarter wedi gostwng yn ddramatig. Felly, er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, mae adolygu protocol Cymru gyfan ar gyfer plant coll yn rhoi cyfle hollbwysig i wneud cyfarfodydd ôl-drafod yn ofyniad statudol ar draws Cymru, ac edrychaf ymlaen at glywed sylwadau'r Gweinidog ar yr argymhelliad hwn yn benodol, yn nes ymlaen.

Yn olaf, roeddwn am droi at grŵp o blant sydd mewn perygl arbennig o fynd ar goll ac felly'n galw am ymateb penodol. Nawr, plant yw'r rhain sydd yng ngofal yr awdurdod lleol ond cânt eu lleoli yn ardal awdurdod arall, a'u galw'n blant a leolir y tu allan i ardal wrth gwrs. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen lleoli plant sy'n derbyn gofal y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol cartref er mwyn eu diogelu rhag risgiau a nodwyd yn ardal eu cartref. Yn 2015-16, roedd tua 1,500 o blant yng Nghymru yn byw mewn lleoliadau y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol. Nawr, mae hyn yn cyfateb i tua 27 y cant o'r holl blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. A gwyddys bellach fod plant sydd wedi'u lleoli y tu allan i ardaloedd eu hawdurdodau lleol yn fwy tebygol o fynd ar goll—ac un o'r prif resymau am hyn yw y gallant geisio dychwelyd, wrth gwrs, at unrhyw rwydweithiau cefnogi a allai fod ganddynt yn ôl yn ardal eu cartref. Os yw plentyn sy'n cael ei leoli y tu allan i ardal wedi cael profiadau blaenorol o fynd ar goll, yna dylid nodi hyn mewn unrhyw asesiadau risg sy'n cael eu trosglwyddo oddi wrth yr awdurdod lleol sy'n lleoli'r plentyn i'r awdurdod lleol sy'n derbyn y plentyn i'w ofal. Dylid rhannu'r wybodaeth hon hefyd gyda'r heddlu sy'n derbyn, a allai fod yr asiantaeth statudol gyntaf i godi'r plentyn pan fydd yn mynd ar goll gyntaf.

Yn anffodus, mae ymchwil Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru yn dangos nad yw 13 o'r 14 o awdurdodau lleol a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn darparu asesiadau risg i heddluoedd ar gyfer plant a leolir yn eu hardaloedd, gan ddweud mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol sy'n lleoli fuasai gwneud hynny. Fodd bynnag, caiff hyn ei wrth-ddweud gan y ffaith mai pump yn unig o'r un 13 o awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod hwy eu hunain yn rhannu asesiad risg gyda'r heddlu pan oeddent yn lleoli plentyn mewn ardal wahanol. Felly, mae'n amlwg fod yr heddlu'n hanfodol. Maent yn asiantaeth hanfodol wrth ddiogelu plant coll a dylid eu hysbysu pan fydd plentyn, a phlentyn sy'n wynebu risg uchel o fynd ar goll yn rhinwedd ei leoliad, yn cael ei leoli yn eu hardal. A buaswn yn ategu argymhelliad Cymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru y dylid ei wneud yn ofyniad statudol i awdurdodau lleol hysbysu a rhannu asesiad risg gyda'r heddlu sy'n derbyn pan fyddant yn lleoli plentyn yn eu hardal.

Lywydd, rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hwn yn fater pwysig ac amserol. Mae adolygu protocol Cymru gyfan ar gyfer plant coll yn gyfle i unioni'r materion a nodwyd yn y ddadl hon ac yn ymdrech i ddarparu cymorth diogelu effeithiol ar gyfer holl blant coll Cymru. Mae gwaith da yn digwydd yng Nghymru i ddiogelu plant coll, ac mae'n ymdrech rydym yn ei rhannu, rwy'n siŵr, ar draws y pleidiau, er mwyn parhau i wella ein hymateb i'r plant a'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed. Bellach mae gennym gyfle i ledaenu'r gwaith da ar draws y wlad, a buaswn yn annog y Llywodraeth, wrth ymateb i'r ddadl hon, i roi camau ar waith. Diolch.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:54, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Llyr am y cyfle i wneud cyfraniad byr ar y mater pwysig hwn? Rwy'n ddiolchgar iddo am gyfeirio yn ei araith at waith prosiect plant coll Gwent, sy'n cwmpasu ochr Rhymni fy etholaeth. Gobeithio y gall fy nghyfraniad amlygu, mewn ychydig mwy o fanylder, rywfaint o'r gwaith defnyddiol sy'n digwydd yno. Buaswn yn sicr yn annog Aelodau o rannau eraill o Gymru sydd â diddordeb brwd yn y mater hwn i ymweld â phrosiect Gwent, oherwydd mae'n gweithredu fwy neu lai yn unol â'r ffordd y mae Llyr wedi nodi sy'n angenrheidiol er mwyn lleihau'r risg. Mae'n dwyn ynghyd amrywiaeth o bartneriaid mewn un prosiect sy'n cynnig y budd amlwg o berthynas waith agos sy'n gallu gweithredu'n gyflym, ac yn fwyaf hanfodol, gweithredu gyda'n gilydd pan ddaw adroddiadau i law am blant coll.

Fel y dywedodd Llyr eisoes, yn aml daw'r heddlu i wybod am blant coll drwy'r alwad frys gychwynnol, ond dengys profiad y gallai partneriaid fod yn rhan o achos plentyn coll yn hawdd. Mae partneriaid yn gweld bod modd dod o hyd i atebion trwy gyfuno eu gwybodaeth a'u harbenigedd. Mae'r prosiect hefyd wedi caniatáu i fwy o waith ddatblygu mewn ymateb i gamfanteisio'n rhywiol ar blant a masnachu mewn pobl. Yn bwysig, mae'r prosiect yn caniatáu i waith dilynol a gwaith cymorth ddigwydd ar gyfer pobl ifanc a'u teuluoedd, lle y bo'n briodol. Cafwyd adroddiad gwerthuso ar y prosiect y llynedd a dynnai sylw at y—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:55, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

—gwersi a ddysgwyd hyd at y pwynt hwnnw. Ond gan mai prosiect Gwent yw'r unig un o'i fath yng Nghymru, a'i fod wedi dangos rhai manteision profedig wrth ymdrin â phlant coll a'r materion ehangach sy'n gysylltiedig â hyn, mae'n ymddangos ei bod hi'n amser priodol yn awr i heddluoedd ac asiantaethau eraill Cymru ystyried y model hwn er mwyn helpu fynd i'r afael â llawer o'r materion a grybwyllodd Llyr.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gymeradwyo Llyr am gyflwyno'r ddadl fer bwysig hon? Fel yntau, credaf fod 'Bwlch yn y Wybodaeth' yn adroddiad hynod o bwysig, ac rwyf am gofnodi fy niolch i Gymdeithas y Plant a'r Eglwys yng Nghymru. Roeddwn yn falch iawn o allu cynnal a chadeirio lansiad yr adroddiad yn y Senedd.

A gaf fi ddweud wrth Dawn ei bod yn gwneud pwyntiau pwysig iawn am yr ymarfer rhagorol yng Ngwent? Mae Heddlu De Cymru hefyd yn datblygu ymarfer da iawn, yn enwedig o ran casglu data a'r angen i gydweithio ac edrych ar faterion fel polisi ataliaeth. Mae llawer o blant yn mynd ar goll, ac rydym yn gwybod amdanynt am fod y staff a allai fod wedi ymyrryd yn teimlo na allant eu ffrwyno. Felly, mae yna lawer o haenau i'r broblem hon sy'n galw am ystyriaeth ofalus. Ond rwy'n canmol gwaith yr heddlu yn y maes hwn.

A gaf fi ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod gwaith Carl Sargeant yn bwysig iawn? Mae'r arweiniad a roddodd ar fater plant coll yn rhagorol, ac yn wir, ar ôl clywed y cyflwyniad gan Heddlu De Cymru, gofynnodd iddynt roi'r cyflwyniad hwnnw i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant a chafwyd trafodaeth lawn, gyda Heddlu Gwent yn bresennol hefyd. Roedd yn eithriadol o bwysig. Mae'r plant hyn yn agored iawn i niwed, fel y clywsom, ac mae yna rai ffyrdd ymarferol iawn bellach y gallem wella gwaith yn y maes hwn, ond mae'n rhywbeth sy'n galw am wyliadwriaeth a gweithredu cyflym, rwy'n credu, oherwydd mae'r canlyniadau i rai o'r plant hyn, pan fyddant i ffwrdd o lle y dylent fod, o ran eu hecsbloetio, yn droseddol neu beth bynnag—mae'n faes gwirioneddol hanfodol sydd angen sylw. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:57, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Llyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, a hefyd am amlinellu'r heriau sydd o'n blaenau, yn ogystal â rhywfaint o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ac am ei chyflwyno'n bwyllog ac yn ystyrlon, ond hefyd gydag angerdd ynglŷn â goresgyn yr heriau hyn mewn gwirionedd a cheisio gwelliannau yn y maes? Ac yn yr un modd, y pwyntiau a nododd fy nghyd-Aelodau: Dawn Bowden a gyfeiriodd at y gwaith amlasiantaethol da ar lawr gwlad yng Ngwent eisoes, a'r gwersi y gallwn eu dysgu o hynny, a byddaf yn dychwelyd at y rheini mewn eiliad; a hefyd David Melding, sydd, wrth gwrs, fel y gŵyr cyd-Aelodau, yn cadeirio grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Mae hwn yn faes y gwn fod y grŵp cynghori'n edrych arno hefyd, er mwyn cyflwyno'r gwelliannau y cyfeiriwyd atynt. Felly, a gaf fi ddiolch iddynt oll am gyflwyno'r ddadl hon gerbron y Siambr hon yma heddiw?

Gadewch i mi grybwyll rhai o'r materion sy'n codi. Rwy'n mynd i fynd yn fanwl hefyd drwy rai o'r ffyrdd y credwn eu bod yn ffyrdd ymlaen. Fel y soniodd David Melding, rwy'n camu i esgidiau go fawr yma, ar ôl arweinyddiaeth Carl Sargeant yn y maes.

Wel, yn gyntaf oll, fel y gwyddom, daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym y llynedd. Yn ganolog i'r Ddeddf hon mae gweithio gyda phobl i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt—gwell defnydd o wasanaethau ataliol. Bydd hyn yn cael mwy o effaith ar gyfleoedd bywyd unigolyn, ac mae'n caniatáu inni ddefnyddio'r adnoddau hynny i helpu mwy o bobl. Rwy'n ymwybodol iawn, fel y mae'r Aelodau, fod pob achos o blentyn coll yn cynnwys y posibilrwydd y caiff plentyn ei niweidio'n difrifol mewn nifer o ffyrdd. Mae'r rhesymau pam y mae plant yn mynd ar goll yn amrywio, maent yn gymhleth, maent yn unigryw i bob sefyllfa a phob plentyn unigol, ond rydym yn gwybod, pan fydd plentyn yn mynd ar goll, y gallent fod yn agored i amrywiaeth o risgiau emosiynol, corfforol a rhywiol yn ogystal. Felly, mae'n bwysig iawn fod asiantaethau'n cydweithio pan fydd plentyn yn mynd ar goll, er mwyn rhannu gwybodaeth ac ymateb yn gyflym fel y gellir lleoli'r plentyn yn gyntaf a'i ddiogelu cyn gynted â phosibl.

Mae'r ffordd y byddwn yn ymateb i blant wedi iddynt fod ar goll hefyd yn bwysig iawn. Mae angen ymagwedd gymesur, a dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y plentyn ym mhob achos o blentyn coll, dull sy'n ystyried eu hanghenion unigol ac a oes problemau o ran llesiant, gofal, cymorth, amddiffyn plant sydd angen mynd i'r afael â hwy. Rwy'n falch o ddweud bod fy swyddogion, o dan arweiniad fy rhagflaenydd, Carl Sargeant, wedi cael cyfnod o ymgysylltu gweithgar iawn â darparwyr gwasanaethau rheng flaen sy'n gweithio gyda phlant coll. Mae'r gwaith wedi ein helpu i ddeall yn well y problemau go iawn ar lawr gwlad, er mwyn sicrhau bod ein hymateb polisi yn un gwybodus sy'n deall y tirlun yn llawn fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd yng Nghymru, a beth y gallwn ei wneud yn well. Felly, rwyf wedi cytuno i ariannu gwaith i gasglu safbwyntiau plant eu hunain—mae hynny'n hollbwysig—fel bod eu profiad a'u barn am y penderfyniadau a wneir yn eu cylch yn llywio'r polisïau rydym yn eu datblygu bellach i'w cadw'n ddiogel.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid i Fwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant Caerdydd a Bro Morgannwg i adolygu a datblygu gweithdrefnau diogelu cenedlaethol ar gyfer Cymru ar ran Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, ac mewn ymgynghoriad â byrddau diogelu rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi hyn drwy hwyluso gwaith gyda grwpiau amlasiantaethol i ddatblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol ar faterion diogelu penodol, i'w defnyddio ar y cyd â'r gweithdrefnau amddiffyn Cenedlaethol. Disgwylir i'r gwaith pwysig gael ei gwblhau'n llawn erbyn mis Rhagfyr 2018. Mae'n mynd rhagddo yn awr; nawr yw'r amser i fwydo syniadau i mewn i'r gwaith hwnnw.

Yn ganolog i'r gwaith hwn mae fy ymrwymiad i symud oddi wrth ddull o ddiogelu sy'n cael ei ysgogi gan broses a thicio blychau i ddull clir sy'n canolbwyntio ar unigolion yn unol â nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaethol, o dan grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant, i ystyried dull gweithredu o'r fath mewn perthynas â phlant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu o ofal. Mae'r grŵp hwn yn datblygu canllawiau ymarfer cenedlaethol, i'w defnyddio ar y cyd â gweithdrefnau amddiffyn cenedlaethol. Bydd y canllawiau ymarfer cenedlaethol ar blant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu leoliad gofal yn cefnogi dull cyson a chymesur o weithredu mewn perthynas â phob plentyn sy'n mynd ar goll yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys trefniadau i ystyried angen pob plentyn am wybodaeth, cyngor a chymorth mewn ffordd gymesur sydd hefyd yn hyrwyddo eu llesiant.

Nawr, bydd rhai plant a theuluoedd yn elwa o wybodaeth a chyngor am wasanaethau ataliol. Efallai y bydd rhai plant angen cael eu hanghenion gofal a chymorth wedi eu hasesu, a bydd rhai plant angen cynllun amddiffyn plant cofleidiol hefyd. Efallai y bydd rhai sydd â chynlluniau ar hyn o bryd angen cael y rhain wedi'u hadolygu ar ôl bod ar goll. Gallwn gytuno fod angen mynd i'r afael â'r mater penodol hwn o fynd ar goll trwy gyfarfod strategaeth amlasiantaethol, lle y bo angen, i lywio asesiad, cynllun neu ymateb i adolygiad sy'n canolbwyntio ar y plentyn, yn ddibynnol ar anghenion llesiant a diogelu'r plentyn unigol. Rwy'n ymwybodol, fel y dywedodd yr Aelod, ei fod yn un o lofnodwyr llythyr gan Gymdeithas y Plant, sy'n tynnu sylw at nifer o faterion yn ymwneud â phlant coll y carwn fynd i'r afael â hwy. Gyda llaw, rwy'n hapus i gyfarfod i'w drafod hefyd.

Ar fater rhannu data rhagweithiol gyda'r heddlu, rwy'n falch o ddweud bod Heddlu De Cymru, fel y soniodd David Melding eisoes, yn neilltuo amser, gan weithio mewn ymgynghoriad â'r tri heddlu arall yng Nghymru, i ddatblygu proses ar gyfer cofnodi a rhannu'r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn i'r heddlu asesu risg plant unigol mewn gofal os ânt ar goll. Caiff hyn ei ystyried yn rhan o waith y canllawiau ymarfer ar gyfer plant sy'n mynd ar goll o'u cartref neu leoliad gofal. Gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi.    

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:04, 22 Tachwedd 2017

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, fe ildiaf.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour

(Cyfieithwyd)

Fe luniais adroddiad cyfan ar hyn fy hun yn 2013, a rhoddwyd protocolau ar waith yn 2011. Roeddwn yn lansiad prosiect Gwent, a dyma ni, lle nad yw'n ddim ond prosiect. Pa mor gyflym y gall plant eraill, fel y plant yn fy ardal i, ddisgwyl gweld y gwasanaethau y maent yn eu haeddu, yn fy marn i, ac y bydd yr awdurdodau hynny y dywedwyd wrthynt yn 2011 i weithio gyda'i gilydd yn dechrau gwneud hynny?

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Mae fy nghyfaill yn hollol gywir. Credaf y bu cydnabyddiaeth yma yn y Siambr heddiw o'r gwaith da sy'n mynd rhagddo, ond nid yw'n digwydd ym mhobman. Dyna'r mater y mae grŵp cynghori'r Gweinidog yn edrych arno. Mae'r adroddiad hwn yn gyfraniad at hynny sydd i'w groesawu. Ond mae'n wir ein bod yn gwybod beth sy'n gweithio, a gallwn ei weld yn gweithio, a ni sydd wedi ariannu llawer ohono. Bellach mae angen inni ei weld yn cael ei gyflwyno'n well o lawer, ac rwyf am droi at rai o'r materion eraill. Ond rydych yn llygad eich lle, ac rwy'n canmol fy nghyfaill, Joyce, ar yr ymrwymiad y mae wedi'i ddangos i hyn, gan wthio'r agenda hon ymlaen dros nifer o flynyddoedd.

Ar fater y ddyletswydd statudol, os caf droi at hynny, a darparu cyfweliadau ôl-drafod i blant coll sy'n cyfateb i'r darpariaethau presennol yn Lloegr—gyda llaw, mae'r dull o weithredu yn Lloegr yn wahanol iawn. Mae'n amlwg wahanol. Nid oes gan Loegr weithdrefnau cenedlaethol fel sydd gennym ni, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddynt gael protocolau unigol. Nid oes unrhyw weithdrefnau cenedlaethol. Rydym ar y blaen yma mewn gwirionedd, a chaiff hynny ei gydnabod.

Ond ar y mater hwnnw, rwy'n parhau'n bryderus nad yw hyn yn ffocws ohono'i hun ac efallai na fydd yn gwella ymatebion diogelu i blant unigol, ac yn wir, os caf dynnu sylw Llyr at adroddiad Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a gyhoeddwyd y llynedd, roedd yn awgrymu bod gweithredu'r ddyletswydd statudol yn Lloegr yn anghyson, a hefyd—a dyfynnaf yn fyr— er bod llawer o enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol a mentrau drwy weithio amlasiantaethol

—yn Lloegr mae hyn gyda llaw— nid ydym wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod gwasanaeth yr heddlu a sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldebau am les plant yn deall y canlyniadau y mae hyn yn eu sicrhau i blant, neu'n defnyddio'r ddealltwriaeth hon i lywio eu harferion cynllunio a gweithredu.  

Rhaid inni fod yn ymyrraeth ddeallus a'i wneud i weithio er mwyn y canlyniadau, nid er mwyn rhoi tic yn y blwch yn unig, 'rydym wedi'i wneud', wedi ôl-drafod, ac yn y blaen. Mae'r feirniadaeth yno. Nawr, ceir tystiolaeth dda, gyda llaw, ei fod yn gweithio mewn rhai mannau. Rwy'n credu bod yr adroddiad yn cyfeirio at Gaerwrangon a mannau eraill. Ond ceir tystiolaeth hefyd ei fod yn amrywiol iawn, ac mae'n ymwneud â'r gallu yno i ddweud, 'Rydym wedi ei wneud. Da iawn. Wedi'i wneud'.

Rwy'n credu'n gryf fod dull amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n seiliedig ar anghenion unigolion o fewn gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), a gefnogir yma yn y Cynulliad hwn, yn cynnig ymateb diogelu llawer mwy cadarn sy'n canolbwyntio mwy ar y plentyn. Fe fyddwch yn gwybod hefyd, ac mae wedi'i grybwyll yn y Siambr heddiw, am arferion da sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru, drwy wasanaethau, fel y soniodd Dawn, fel prosiect plant coll Gwent, ac fel y soniodd David, gwasanaeth eiriolaeth annibynnol de Cymru i blant coll, sy'n darparu gwasanaethau ôl-drafod a chymorth parhaus. Gwyddom fod arferion da i'w cael ar lawr gwlad. Mae'n darparu eiriolaeth ac maent yn atgyfeirio er mwyn sicrhau bod gan y plant sydd fwyaf mewn perygl gynlluniau diogelwch cadarn ar waith.

Ar fater plant sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o leoliadau y tu allan i'r ardal, mae grŵp cynghori'r Gweinidog ar wella canlyniadau i blant yn cynnwys rhaglen waith sy'n edrych yn benodol ar ofal preswyl, gan gynnwys lleoli y tu allan i'r ardal. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar hysbysu, cynllunio lleoliadau a dewis lleoliadau. Mae'r rhaglen waith hon yn datblygu'n dda, ac mae adnoddau ar gael gan y Llywodraeth ganolog ar gyfer gwaith ymchwil a chwmpasu gwaith i lywio'r ffordd ymlaen, a byddwn yn sicrhau, gyda llaw, bod adroddiad Cymdeithas y Plant yn cael ei ystyried wrth i'r gwaith hwnnw ddatblygu.

Nid wyf yn siŵr a ymatebais i fy nghyfaill pan oedd hi'n gofyn am yr amserlen, ond fel yr eglurais yn fy sylwadau cynharach, erbyn 2018 rydym yn gobeithio cael y canlyniadau ar gyfer yr holl waith hwn fel y gallwn ddweud wedyn, 'Dyma'r ffordd ymlaen'.

Felly, hoffwn ddiolch i Gymdeithas y Plant am eu hadroddiad a'r cyfraniad y mae'n ei wneud i lywio'r dystiolaeth y mae'n ei darparu fel rhan o'r dull gweithredu strategol hwn i wella canlyniadau real i holl blant Cymru. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod ehangder y camau y clywsom amdanynt heddiw ac a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth hon gyda phartneriaid ar lawr gwlad yn helpu plant ond hefyd y gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio'n ddiflino i'w helpu i gyflawni eu canlyniadau. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau unwaith eto—Llyr a phawb arall sydd wedi cyfrannu at hyn—a chredaf fod y nifer o'r Aelodau sydd yma ar ddiwedd y chwarae heddiw i glywed y ddadl hon yn dangos pa mor bwysig yw hyn, a sut y gallwn wneud pethau'n wahanol ac yn well yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ledaenu'r arferion da hyn ledled y tir. Diolch yn fawr iawn.