2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ51357
Rwy'n ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ar hyn o bryd. Rwy'n bwriadu gwneud datganiad ar y camau nesaf ym mis Chwefror.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, ymatebais i'r ymgynghoriad yn ddiweddar. Gofynnai cwestiwn 33: a ydych yn cytuno na ddylid caniatáu i neb wasanaethu fel Aelod Cynulliad a chynghorydd? Ar wahân i'r ffaith ei fod yn gwestiwn arweiniol iawn ac yn anaddas ar gyfer ymgynghoriad difrifol, safbwynt y Llywodraeth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yw gwahardd Aelodau Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr hefyd. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith eich bod chi'n cyflawni dwy rôl: rôl weinidogol, sy'n dweud bod yn rhaid i Weinidogion gadw eu rolau fel Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad ar wahân. I bob pwrpas, maent yn ddwy swydd wahanol. Yma, ceir Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi—arglwydd a barwnes—sy'n gwasanaethu yn eich Llywodraeth; mae gennym Aelod o Senedd Ewrop nad yw'n gallu bod yma heddiw; ac rydym yn ein cael ein llywyddu'n llwyddiannus gan Aelod Cynulliad, sydd hefyd yn Llywydd—[Chwerthin.]
Parhewch. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld i ble rydych yn mynd gyda hyn. [Chwerthin.]
O ran rolau, mae gennym hefyd gyfarwyddwyr cwmnïau a phobl a gyflogir mewn rolau eraill. Felly, mewn gwirionedd, i fynd at wraidd y cwestiwn—[Chwerthin.] Diolch. Beth ynglŷn ag Aelod Cynulliad yn bod yn gynghorydd sy'n peri cymaint o ofid i Lywodraeth Cymru? Ac a ydych yn bwriadu atal Aelodau'r Cynulliad rhag bod yn gynghorwyr er mwyn rhwystro democratiaeth a gwneud yr hyn na allwch ei wneud drwy'r bocs pleidleisio drwy'r Llywodraeth a deddfwriaeth?
Lywydd, caiff y Cynghorydd McEvoy glywed fy nghasgliadau ar yr un pryd â phawb arall. Fe ddywedaf hyn wrtho: rwy'n credu ei bod yn bwysig fod pobl yn y lle hwn yn gwasanaethu democratiaeth drwy sicrhau na cheir unrhyw wrthdaro buddiannau. Yn fy marn i, mae gwasanaethu fel aelod o awdurdod lleol ac Aelod o'r lle hwn yn arwain at wrthdaro buddiannau.
A gaf fi atgoffa'r Aelodau o'r mwyafrif llethol a wrthododd y bleidlais amgen ar ffurf cynrychiolaeth gyfrannol yn y refferendwm, a sut y mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn seiliedig ar 'dyfalwch sawl sedd y gallwch ei hennill'? A wnaiff Llywodraeth Cymru ddeddfu y bydd mwyafrif llethol o ddwy ran o dair o bleidlais y cynghorwyr a'r cynghorau yn angenrheidiol os yw cynghorau'n awyddus i newid eu system bleidleisio?
Lywydd, rwyf eisoes wedi siomi fy nghyfaill o Ddwyrain Abertawe gyda fy safbwyntiau ar gynrychiolaeth gyfrannol; nid wyf yn bwriadu ei siomi eto y prynhawn yma. Ond dywedaf hyn wrtho, wrth i ni edrych ar sut rydym yn diwygio ac yn dyfnhau ein democratiaeth, rwy'n credu bod rhaid i ni fod yn feiddgar ac yn radical, ac nid yn geidwadol, ac ystyried ac arddel newid.
A gaf fi groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd? Efallai y cofiwch unwaith i mi eich galw'n Weinidog Emeritws, ac ymddengys eich bod yn gweddu i'r enw hwnnw. [Torri ar draws.] Nid wyf erioed wedi'i alw'n fwmerang. Chi a ddywedodd hynny.
Ysgrifennydd Cabinet, mae hanes llywodraeth leol yng Nghymru yn frith o ad-drefnu ar ôl ad-drefnu, diwygio ar ôl diwygio dros flynyddoedd lawer. Roeddwn yn falch iawn pan wthiodd eich rhagflaenydd y syniad o ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru o'r neilltu. A ydych yn bwriadu ailystyried y mater hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd nesaf? Ac ni waeth beth rydych yn penderfynu neu'n penderfynu peidio â'i wneud gyda threfniadau llywodraeth leol—a'r system etholiadol a allai ddeillio o hynny—a ydych yn cytuno mai'r hyn sydd ei angen ar lywodraeth leol yng Nghymru yw sefydlogrwydd, fel y gall swyddogion a chynghorwyr etholedig yn yr awdurdodau hynny fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol i bobl leol, sef yr hyn y cawsant eu hethol i wneud?
Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Credaf fod arnom angen sefydlogrwydd, ond sefydlogrwydd a ddaw o ganlyniad i allu cadarn i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Clywsom Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud yr wythnos diwethaf nad ydynt yn credu bod y ddarpariaeth gyfredol o wasanaethau yn gynaliadwy, a chredaf fod angen inni wrando ar y geiriau hynny. Ac yn sicr, byddaf yn ystyried hynny wrth i mi ddatblygu polisi yn y maes hwn.