– Senedd Cymru am 5:42 pm ar 17 Ionawr 2018.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, felly os ydych yn gadael y Siambr gwnewch hynny'n gyflym os gwelwch yn dda.
Iawn, a gawn ni i gyd adael—? A wnaiff y rhai sy'n gadael wneud hynny os gwelwch yn dda. Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Lee Waters i gyflwyno'r pwnc y mae wedi ei ddewis. Lee.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
'And we will build brutal energy cut into a much better home. It's a movement towards the beautiful legal scams and better share. And it was a gingelly deal, and I don't think they're never worth in a middle deal to be parted to Mexico.'
Nid yr agoriad mwyaf ysbrydoledig i araith, rwy'n cyfaddef, ond yr hyn sy'n gwneud yr agoriad hwn yn wahanol yw'r hyn sy'n gwneud y ddadl hon yn wahanol. Cafodd ei ysgrifennu gan robot, gimig a gyflawnwyd gan The New Yorker y llynedd. Aethant ati i fwydo 270,000 o eiriau gan Donald Trump i mewn i raglen gyfrifiadurol sy'n astudio patrymau iaith. Mae'n dadansoddi'r dewis o air a gramadeg, a dysgodd sut i efelychu lleferydd Trump. Nid yw'n gwneud synnwyr llwyr, ond nid yw Trump chwaith. Er fy mod yn hoffi'r term 'gingelly deal', nid wyf yn meddwl ei fod yn rhan o'r eirfa boblogaidd hyd yma, ond agorais gydag ef am fy mod am droi'r haniaethol yn real yn gyflym.
Hyd yn hyn, cafodd awtomatiaeth a roboteg eu cyfyngu i raddau helaeth i'r diwydiannau gweithgynhyrchu, ond bellach bydd twf esbonyddol yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn taro pob diwydiant, pob proffesiwn. Meddygon, cyfrifwyr, cyfreithwyr, cyfieithwyr—mae'n debygol o effeithio ar unrhyw rôl sy'n cynnwys elfen ailadroddus. Amcangyfrifir y bydd oddeutu 700,000 o swyddi yng Nghymru yn cael eu taro gan awtomatiaeth, ac mae angen inni baratoi i arfogi pobl ar gyfer y newid sy'n dod, ac mae'n newid mawr. Yn wir, mae dadansoddwyr wedi cymharu effaith deallusrwydd artiffisial gyda dyfodiad trydan ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif; mae'n newid mor fawr â hynny. Defnyddiodd yr awdur llyfrau ar dechnoleg, Luke Dormehl, y gymhariaeth i'n helpu i ddirnad maint y newid sy'n ein hwynebu. Roedd hwnnw'n newid hynod aflonyddgar a darfodd ar rythmau biolegol arferol bywyd: caniataodd golau trydan i bobl greu eu hamserlenni eu hunain ar gyfer gwaith a hamdden am y tro cyntaf, fel nad oedd nos a dydd o bwys bellach, a rhyddhaodd gadwyn o arloesedd. Arweiniodd y rhwydwaith o wifrau at lu o ddyfeisiau cysylltiedig a greodd ddiwydiannau a newid bywydau am byth.
Rydym ar drothwy'r raddfa honno o newid sylfaenol unwaith eto. Ar hyn o bryd, rydym ar gamau cynnar y broses o fabwysiadu chwyldro deallusrwydd artiffisial, ond mae gennym syniad o'r math o newid sydd o'n blaenau. Cefais fy rhyfeddu gan y robot a oedd yn gallu coginio pryd o fwyd drwy fod wedi gweld fideo 'sut i goginio' ar YouTube heb unrhyw fewnbwn dynol uniongyrchol. Cynhaliodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Maryland yr arbrawf hwn ddwy flynedd yn ôl bellach, ac maent yn bwriadu defnyddio dull dysgu dwfn tebyg mewn meysydd fel atgyweirio cyfarpar milwrol. Mae Elon Musk yn Tesla yn credu bod ffatri weithgynhyrchu ceir heb unrhyw weithwyr dynol o fewn cyrraedd. Mae Amazon yn treialu siop heb weithwyr, lle y cewch fil awtomatig wrth i chi adael. Mae'r rhain oll yn newidiadau sylfaenol, yn newid y ffordd rydym yn ymddwyn. Mae Amazon, Airbnb a Uber oll yn dangos pa mor gyflym y gall technoleg newid sut rydym yn siopa, cysgu a symud o A i B. Ac maent yn disodli modelau busnes yn y broses. Ni ddowch o hyd i fanwerthwr mwyaf y byd ar y stryd fawr. Nid yw darparwr llety mwyaf y byd yn berchen ar yr un gwesty. Ac nid yw'r cwmni tacsis mwyaf yn berchen ar yr un car.
Fel y nododd cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru mewn erthygl yn ddiweddar, yn 2004 roedd gan Blockbuster 84,000 o gyflogeion a refeniw o $6 biliwn. Yn 2016, gwta 12 mlynedd yn ddiweddarach, roedd Netflix yn cyflogi 4,500 o bobl ac yn gwneud $9 biliwn. Fe'i gelwir yn newid aflonyddgar am reswm, ac mae'n esblygu'n gyflym. Yn nyddiau cynnar y rhyngrwyd, roedd yn ymwneud â thasgau fel dod o hyd i wybodaeth neu wrando ar gerddoriaeth, ond erbyn hyn mae technoleg yn symud i ragweld ein hanghenion. Mae'r arbenigwr ar arloesedd, Alec Ross, yn nodi mai peiriannau annibynnol oedd robotiaid yn arfer bod, yn cyflawni tasgau sylfaenol. Bellach maent oll wedi'u cysylltu â'r cwmwl ac maent yn dysgu wrth fynd rhagddynt, nid yn unig o'u profiadau eu hunain, ond am fod modd eu cysylltu â phob peiriant arall tebyg ledled y byd, maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac yn addasu mewn amser real. Mae'n ei alw'n naid gwantwm i ddatblygiad gwybyddol robotiaid.
Mae'n cyfateb i chi a minnau'n gallu manteisio ar ymennydd cyfunol pob bod dynol arall ar y ddaear i wneud penderfyniad ac i wneud hynny ar amrantiad. Dychmygwch gymaint yn fwy clyfar y byddem. Dychmygwch faint yn well y byddem am wneud penderfyniadau. Dyna sy'n digwydd gyda robotiaid. Mae'n rhyfeddol. Ac mae hefyd yn frawychus. I economi fel ein hun ni, ceir nifer anghymesur o swyddi sy'n agored i awtomeiddio, ond nid oes modd atal y newid hwn a rhaid inni ddod i delerau ag ef ac addasu. Ni fuaswn yn cyfnewid fy nghloc larwm digidol am ddihunwr, fwy nag y byddai neb yn troi'r cloc yn ôl i fyd wedi'i oleuo gan olau cannwyll neu bŵer ceffylau. Yn yr un modd hefyd, ni ddylem geisio atal awtomeiddio; dylem ei harneisio.
Mae'r mynwentydd yn llawn o ddynion anhepgor oedd sylw enwog Charles de Gaulle, ac wrth gwrs mae'n rhan o'r natur ddynol i wrthsefyll newid. Nid oes yr un ohonom eisiau wynebu'r ffaith y gallai ein swydd gael ei disodli. Ond mae'n gyfrifoldeb arnom i sicrhau nad ailadroddir y dallineb bwriadol hwn ar lefel genedlaethol. Pan awgrymodd Gerry Holtham yn ddiweddar mewn digwyddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig y gallem gael gwared ar feddygon teulu yn gyfan gwbl oherwydd y gallai technoleg wneud eu gwaith drostynt, roedd y proffesiynau am ei waed. Cafodd ei gondemnio gan Gymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol y Meddygon. Fel urdd y crefftwyr yn yr hen ddyddiau a drefnodd i William Lee gael ei alltudio yn 1589 am ei fod wedi dyfeisio peiriant gwau, rhaid inni beidio â gadael eu hawydd i ddiogelu eu crefft ein hatal rhag manteisio ar y newidiadau hyn.
Ystyria beth y gallai'r ddyfais ei wneud i fy ninasyddion tlawd meddai'r Frenhines Elizabeth I wrtho.
Gadewch inni fod yn glir: bydd y bygythiad o golli swyddi yn ddibwys o gymharu â'r hyn fydd yn digwydd os na fanteisiwn ar y posibiliadau. Gwyddom fod yna brinder meddygon a bod y galw ar gynnydd a gwariant cyhoeddus yn gostwng. Gwyddom fod llawer o'r technolegau newydd yn fwy cywir na phobl ac y byddai'n well gan gleifion gael eu diagnosis gan beiriant mewn llawer o achosion. Felly gadewch i ni ryddhau parafeddygon sy'n gorweithio i wneud yr hyn na all neb ond hwy ei wneud a gadewch inni harneisio technoleg. A dyma fy mhle yn y ddadl y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet: os wynebwn faint yr her sydd ar ein gwarthaf, gallwn ddefnyddio technoleg i wella gwasanaethau cyhoeddus, i ryddhau pobl rhag gorfod cyflawni tasgau peryglus neu ailadroddus. Ond os ymataliwn rhag gwneud hynny, mae perygl y bydd anfanteision newid yn dominyddu'r ddadl ac yn creu hinsawdd o ofn.
Wrth inni siarad, mae Atos ac ymgyngoriaethau eraill yn towtio o amgylch cynghorau prin o arian gan gynnig arbed miliynau o bunnoedd drwy gael gwared ar swyddi cyffredin a gosod prosesau awtomataidd yn eu lle. Os caniatawn i'r ymagwedd hon wreiddio, bydd pob sôn am awtomatiaeth yn cael ei weld gan y gweithlu fel ymarfer torri costau, ac ni ddylai gael ei weld felly. Os manteisiwn arno, gallwn ddefnyddio dyfeisiau arbed llafur newydd i ryddhau staff i weithio ar y rheng flaen, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'r ddadl sydd angen i ni ei chael. Ac mae angen i bob rhan o Lywodraeth baratoi i wynebu sut y gallwn ddefnyddio'r technolegau newydd hyn i helpu i fynd i'r afael â'r problemau y gwyddom ein bod yn eu hwynebu—[Torri ar draws.] Ydw, rwy'n hapus i ildio—
Na, nid oes ymyriadau. Gall yr Aelod gynnig munud i chi ar ddiwedd ei araith.
Ymddiheuriadau. Nid yw rheolau'r dadleuon hyn yn gyfarwydd i minnau chwaith.
Mewn addysg, er enghraifft, mae angen inni sicrhau ein bod yn paratoi pobl ifanc ar gyfer swyddi nad ydynt yn bodoli eto, ac mae angen inni gadw mewn cof fod llawer o'r newidiadau hyn yn dod yn ystod y 10 i 20 mlynedd nesaf. Nid wyf yn gwybod amdanoch chi, ond rwy'n dal i obeithio y byddaf yn ennill cyflog yn fy mhumdegau. Rhaid inni feddwl am hyfforddiant ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn gwaith hefyd. Yn yr economi, mae strategaeth economaidd newydd Ken Skates yn cydnabod yr enillion cynhyrchiant y gellir eu gwneud drwy annog mabwysiadu awtomatiaeth, ond mae angen inni fod yn ddoeth yn y ffordd y rhown y meini prawf newydd hyn ar waith. Yn anochel, bydd yn rhaid i'r Llywodraeth roi cymorth ariannol i gwmnïau yn y pen draw, a fydd yn arwain at dorri rhai swyddi, ond pan fydd hynny'n digwydd, rhaid inni wneud yn siŵr fod cwmnïau'n helpu'r rhai sy'n colli swyddi i uwchsgilio, i gael eu hadleoli yn hytrach na chael eu diswyddo. Ym maes cyllid, mae esblygiad technoleg 'blockchain' yn gyfle inni fod yn gwbl dryloyw yn y modd y gwariwn arian cyhoeddus. Ac yn y Gymru wledig, rhaid inni achub ar gyfleoedd a gyflwynir inni gan ddata mawr, nid yn unig i drawsnewid y modd rydym yn ffermio ac yn cynhyrchu bwyd, ond hefyd i osod Cymru ar flaen y gad yn y diwydiant amaethyddiaeth fanwl sy'n datblygu. Mewn llywodraeth leol, rhaid inni ddilyn enghraifft dinasoedd eraill clyfar, gan dreialu gwasanaethau mewn amser real fel parcio clyfar, casglu sbwriel clyfar a goleuo clyfar.
Ceir cyfleoedd enfawr ym maes gofal iechyd i wella gofal a chanlyniadau i gleifion, o robotiaid therapiwtig a all helpu i ymdrin â'n hargyfwng unigrwydd i synwyryddion a all weld a yw pobl yn methu prydau bwyd neu os yw ymddygiad yn dod yn fwy afreolaidd ei natur, gan helpu cleifion dementia i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn hwy; lensys cyffwrdd sy'n gallu mesur lefelau glwcos a all sbarduno chwistrelliad inswlin wedyn drwy bats di-boen; a pheiriannau ysbyty clyfar a all rybuddio nyrsys ynghylch newidiadau amser real yn arwyddion bywyd cleifion, gan sicrhau bod newidiadau yn eu cyflwr yn cael sylw ar unwaith, yn hytrach nag o bryd i'w gilydd, gan adael nyrsys i ganolbwyntio ar agweddau eraill ar ofal cleifion.
Mewn gwirionedd, os edrychwn ar y technolegau impiadwy sydd ar y ffordd, crafu'r wyneb yn unig y maent. Mae hon yn agenda drawslywodraethol, sy'n berthnasol i bob Ysgrifennydd Cabinet. Bydd y datblygiadau newydd hyn yn arbed arian a byddant yn gwella ansawdd gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r rhain oll yn enghreifftiau o dechnolegau sydd eisoes yn hen—ac nid ydym wedi mabwysiadu unrhyw un ohonynt. Beth yw'r sefyllfa yng Nghymru? Nid ydym ond megis dechrau ar hyn. Y GIG sy'n prynu fwyaf o beiriannau ffacs. Ac mae'r ddau adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar wybodeg, a'r adolygiad seneddol ddoe—yn amlygu'n boenus ein bod ymhell ar ei hôl hi. Mae angen i'r Llywodraeth fod yn radical yma. Nid yn unig ein bod angen systemau newydd, mae angen diwylliannau newydd ac arweiniad newydd arnom i sicrhau'r trawsnewid hwn. Wrth i dechnoleg ddatblygu, daw pobl yn gynyddol i ddisgwyl gallu cael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt pan a lle byddant ei angen. Os na allaf weld meddyg a bod Babylon Health yn rhoi cyfle i mi siarad ag un ar-lein am £25, mae'n debygol y byddaf yn manteisio ar y cyfle. Ond os byddwn yn methu dal i fyny â disgwyliadau'r cyhoedd a bod darparwyr preifat yn camu i mewn, gallai fygwth holl sylfaen ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae hon yn her enfawr i'r Llywodraeth, yn enwedig gan ein bod yn brwydro mewn cymaint o ffyrdd eraill. Mae llywodraeth leol bron â chael ei pharlysu gan gyni a'r Llywodraeth ganolog gan Brexit. Ac mae'n cyfyngu ar ein gallu i ymateb i amgylchedd sy'n prysur newid. Ond mae ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn mynnu ein bod yn wynebu'r heriau hirdymor hyn. Lywydd, mae angen cynllun ar Gymru. Rydym angen uned yn swyddfa'r Prif Weinidog sy'n ymroddedig i sganio'r gorwel mewn perthynas â datblygiadau newydd ac arbrofi'n gyflym gyda dulliau newydd i fod o fudd i'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus ac annog twf diwydiannau newydd yn y sector preifat.
Rwyf am orffen gyda dyfyniad gan Fforwm Economaidd y Byd—sefydliad nad yw'n enwog am ei safbwyntiau brawychol:
Nid yw'r addasiadau unigol, sefydliadol, llywodraethol a chymdeithasol yn ddibwys, a bydd pawb yn teimlo eu heffaith. Mae cyflymder yr amrywiol agweddau ar y newid yn anodd eu rhagweld, ond nid yw'n anodd gweld y bydd y byd yn gweithredu mewn ffordd wahanol iawn 10 i 15 mlynedd o nawr. Mae bod yn barod i lywio'r newid yn dechrau gydag ymwybyddiaeth o'r newidiadau mawr i ddod, a pheth dealltwriaeth o'u goblygiadau.
Diolch.
Diolch. A oeddech chi'n bwriadu cynnig munud i'r Aelod?
Nid oes neb wedi dweud, ond rwy'n hapus i gynnig munud os oes rhywun yn dymuno.
Popeth yn iawn felly, diolch i chi. Felly, galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl—Ken Skates.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad heddiw ac am gyflwyno'r pwnc ar gyfer y ddadl fer? Mae'n bwnc y gwn ei fod yn teimlo'n arbennig o angerddol yn ei gylch, a heddiw, unwaith eto, mae wedi cyflwyno araith ragorol, sy'n nodi rhai o'r prif heriau, ond hefyd y cyfleoedd y gallwn eu cael os ydym yn addasu i'r pedwerydd chwyldro o flaen ein cystadleuwyr. Mae'n ddiddorol; rwy'n treulio cryn dipyn o fy amser ar hyn o bryd yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy, a thynnodd yr Aelod Seneddol lleol, Mark Tami, fy sylw yn gynharach yr wythnos hon at y ffaith mai'r etholaeth honno o'r holl rai ledled Prydain yw'r bumed etholaeth fwyaf agored i effaith awtomeiddio yn y DU. Dyna etholaeth sy'n gartref i rai o'r cyflogwyr mwyaf yn y sector preifat, rhai o'r cwmnïau mwyaf arloesol yn y sector preifat yn y DU, ond mae'n faes y mae'n rhaid inni sicrhau ei fod yn wydn yn y dyfodol, o ystyried ei gyfraniad i economi Cymru.
Nawr, rydym yn gwneud mwy na datblygu cynllun gweithredu economaidd newydd ar gyfer gwella rhagolygon Alun a Glannau Dyfrdwy a'i sylfaen weithgynhyrchu leol, sy'n gartref, wrth gwrs, i barc diwydiannol mwyaf Ewrop. Rydym hefyd yn cyflwyno, fel blaenoriaeth ac ymyrraeth uniongyrchol, y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch a fydd yn canolbwyntio'n fawr iawn ar y cyfleoedd a geir drwy awtomatiaeth ar gyfer y sylfaen weithgynhyrchu yn yr ardal honno ac ar draws y rhanbarth cyfan yn wir. Ond rwy'n credu bod y ddadl hon yn adlewyrchu pwysigrwydd y mater hwn a'i effaith ar yr etholwyr a gynrychiolwn ar draws y wlad. Mae Lee yn sicr yn gywir i honni y bydd y modd yr ymatebwn yn pennu ein ffyniant yn y dyfodol a diogelwch ein heconomi. Fel y mae eraill wedi dweud yn y gorffennol, mae ein heconomi a'n sylfaen ddiwydiannol wedi wynebu newid technolegol o'r blaen ers y chwyldro diwydiannol cyntaf, drwy'r ail, i mewn i'r drydedd, ac yn awr, wrth inni nesáu at y pedwerydd chwyldro. Rydym bob amser wedi gorfod ymateb i heriau newydd ac wynebu cyfleoedd newydd, ond rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, ei bod yn deg dweud yn y gorffennol nad yw diwydiant Cymru bob amser wedi cadw i fyny gyda'r newid mewn technoleg.
Rydym yn awr ar drothwy pedwerydd chwyldro diwydiannol, gyda datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio a fydd yn trawsnewid gwead ein heconomi a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Yng nghanol y newid digynsail hwn, yn sicr mae gan Lywodraeth rôl ganolog i ddarparu arweinyddiaeth ac i ddatblygu ymateb strategol. Ni allwn wneud dim a gadael y newid hwn i'r marchnadoedd. Felly, ein rôl yw sicrhau bod yr arweinyddiaeth honno, y weledigaeth honno a'r cymorth hwn i fusnes ar gael bob amser. Ni allwn atal datblygiad technolegau newydd yn y bedwaredd oes ddiwydiannol, ac ni ddylem geisio atal y cynnydd y mae'n ei gynrychioli. Ond fe allwn, ac mae'n rhaid inni arfogi ein busnesau a'n pobl i ddiogelu eu hunain ar gyfer y newid yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r cynllun gweithredu economaidd a lansiwyd ychydig cyn y Nadolig yn nodi'n eglur fod awtomatiaeth a digideiddio ymhlith yr heriau a'r cyfleoedd strategol allweddol sy'n wynebu economi Cymru dros y blynyddoedd nesaf.
Mae'r pum galwad i weithredu yn y cynllun yn darparu llwyfan i ni allu gweithio gyda diwydiant, undebau llafur a phartneriaid eraill i ymateb i'r heriau a amlinellodd Lee. Rydym yn canolbwyntio cyllid ar gyfer cefnogi busnesau i baratoi ar gyfer heriau yfory, i ddiogelu ein heconomi a'n gweithlu ar gyfer yr hyn y bydd awtomatiaeth yn debygol o'i gyflwyno yn y dyfodol. Dyna pam y mae'r cynllun gweithredu yn rhoi cymaint o bwyslais ar sgiliau, ar arloesi ac ar adeiladu ar economïau rhanbarthol sy'n gynhyrchiol ac yn gystadleuol. Ddirprwy Lywydd, dyna pam rydym am adeiladu ein dull o weithredu yng nghyd-destun perthynas adeiladol ac aeddfed gyda busnes, dull o weithredu sy'n seiliedig ar y contract economaidd newydd, lle mae'n bosibl iawn y bydd busnesau'n gofyn i ni ddangos yr arian iddynt, ond lle rydym ni'n gofyn iddynt hwy ddangos eu cynlluniau i ni ar gyfer y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Mae'n hawdd anobeithio—
A wnaiff y Gweinidog ildio? Credaf eich bod yn gysurol, yn gymwys, yn ddyfal ac yn drylwyr iawn, ond credaf mai'r hyn a gefais gan Lee Waters oedd cyflymder newid. Cawsom 10,000 o flynyddoedd o'r chwyldro amaethyddol, 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol. Mae hyn oll o fewn cenhedlaeth bron, y modd y cawsom ein trawsnewid gan y chwyldro mewn cyfrifiadura, a ddechreuodd yn yr ail ryfel byd ond sydd wedi cyrraedd dyfnder eithriadol yn y 10 neu'r 20 mlynedd diwethaf. Mae angen meddwl dwfn arnom yn Llywodraeth Cymru ac awgrymodd uned yn swyddfa'r Prif Weinidog. Wel, pam na ddylid cael hynny?
Mae'r Aelod yn llygad ei le. Rydym yn debygol o weld newid yn digwydd dros y 10 mlynedd nesaf a fydd yn fwy na'r newid sydd wedi digwydd dros y 200 mlynedd diwethaf. Yn wir, bydd llawer o newidiadau yn digwydd mor gyflym fel na fyddwn yn eu gweld erbyn iddynt fod eisoes wedi mynd heibio. Credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych ar newidiadau technolegol a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg. Yn sicr, dyna rôl a gyflawnwyd mewn blynyddoedd diweddar gan y tîm digidol. Pan oeddwn yn y swydd sydd gan arweinydd y tŷ bellach, pan oeddwn yn gyfrifol am dechnoleg, roedd gennym uned gudd-wybodaeth a oedd yn gallu rhoi'r math hwnnw o waith sganio'r gorwel dros gyfnod o ddegawd, dau ddegawd, yr holl ffordd at 2050, gan ddadansoddi'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer Cymru. Hefyd, ceir unedau mewn addysg uwch sy'n gwneud yn union hynny. Ceir hefyd y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, sydd â chyfrifoldeb a rôl i sicrhau ein bod yn sganio'r gorwel mewn ffordd a all arfogi ein heconomi a'n gweithwyr â'r sgiliau sydd eu hangen i addasu i'r pedwerydd chwyldro diwydiannol. Nid wyf yn meddwl mai lle swyddfa'r Prif Weinidog yw gwneud hynny. Lle swyddfa'r Prif Weinidog yw sicrhau bod ganddi'r wybodaeth a gesglir gan nifer o gyrff, mudiadau ac ar draws y Llywodraeth i sicrhau, yn ei dro, fod polisi yn seiliedig ar y wybodaeth orau ac yn seiliedig ar y dyfodol yn hytrach nag ar heriau a chyfleoedd heddiw'n unig.
Credaf ei bod hi'n hawdd anobeithio weithiau y bydd awtomatiaeth a digideiddio a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith ddinistriol ar gyflogaeth. Yr hyn y maent yn ei ddangos yw ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn paratoi heddiw yn y ffordd y mae David Melding yn ei nodi. Nid wyf yn credu y dylem anwybyddu effaith bosibl awtomatiaeth ar gynhyrchiant, sef yn union yr hyn a grybwyllodd Lee. Gallai cynnydd mewn cynhyrchiant arwain at fusnesau'n bod yn fwy cystadleuol, ac ennill mwy o fusnes a thyfu, gan ddisodli rhai o'r swyddi y gellid eu colli i awtomeiddio o bosibl. Mewn gwledydd datblygedig fel ein hun ni, bydd gofal iechyd cynyddol i gymdeithasau sy'n heneiddio a buddsoddi mewn seilwaith a hefyd mewn ynni yn creu galw am waith y dylem ei ddefnyddio i wrthbwyso'n rhannol, unwaith eto, y swyddi a gollir.
O ran addasu i newid ac ymbaratoi ar gyfer yr hyn sy'n bendant ar ei ffordd, rwy'n credu mai'r allwedd fydd gweithio'n rhagweithiol gyda busnesau, ac eraill yn wir, i sicrhau bod digon o gyfleoedd yn dod i'r amlwg yn yr economi newydd yn lle'r swyddi a'r busnesau a fydd yn cael eu colli yn yr hen economi. Un elfen allweddol fydd sicrhau bod pobl ar draws y wlad, fel y dywedais, yn meddu ar sgiliau i fanteisio ar y cyfleoedd hynny. Dyna yw bwriad pendant ein cynllun gweithredu, ac mae urddas cyflogaeth fedrus yn allweddol i'r cynllun hwn. Cynhaliwyd cyfarfod o amgylch y bwrdd yn ôl ym mis Mehefin y llynedd a hoffwn ddiolch i Lee Waters eto am ei drefnu. Yn y sesiwn honno, buom yn trafod y pryder ynghylch swyddi sydd mewn perygl o ganlyniad i awtomatiaeth yng Nghymru dros y ddau ddegawd nesaf. Mae'r gwaith hwnnw yn sicr wedi helpu i lywio'r meddylfryd sydd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, oherwydd mae angen i Gymru fod ar y blaen yn mabwysiadu technolegau newydd. Dyna pam y datblygwyd menter y Cymoedd Technoleg—
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs. Gwnaf.
Yn fyr iawn, a gaf fi ei annog, yn unol ag ymyriad David Melding, i edrych yn benodol ar y syniad hwn o greu'r hyn y mae nifer o Lywodraethau—maent yn eu galw'n i-dimau, sef timau trawslywodraethol o bobl ymroddedig i edrych ar arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwn yn faes lle y gallai Cymru arwain. Mae gennym sector cyhoeddus sy'n fawr o'i gymharu â'n heconomi yn ei chyfanrwydd, ond pe baem yn dod yn wirioneddol dda am ddefnyddio'r technolegau hyn mewn perthynas â materion polisi'r sector cyhoeddus, gallai'r byd ddod i guro ar ein drws.
Nid yw'r grym gennyf i wneud hynny, ond buaswn yn cytuno bod hyn yn rhywbeth rydym yn annog y sector preifat i'w wneud yn rheolaidd iawn i wneud yn siŵr eu bod yn sganio cyfleoedd nad ydynt yn cael eu hystyried ar hyn o bryd o bosibl. Credaf ei bod yn hanfodol, ar draws y Llywodraeth—o fewn y Llywodraeth ac o fewn llywodraeth leol—y ceir unedau wedi eu sefydlu, fod yna ffyrdd o ddysgu gan eraill, o arfer gorau sy'n gallu cymhwyso gwersi a diogelu'r mudiadau hynny at y dyfodol ar ba lefel bynnag y byddant.
Credaf fod sgiliau'n floc adeiladu enfawr ar gyfer manteisio ar dechnoleg a newid meddylfryd a phatrymau ymddygiad o fewn sefydliadau a mudiadau. Ac mae datblygu agenda sgiliau i ddiogelu at y dyfodol a'r angen i ddod o hyd i ffyrdd o annog, yn benodol, Ddirprwy Lywydd, merched a menywod i ddilyn pynciau a gyrfaoedd STEM yn hanfodol ar gyfer llwyddiant economaidd yn y dyfodol. Oherwydd bydd cyfalaf dynol yn allweddol a bydd cynnydd yn y galw, heb unrhyw amheuaeth, am weithlu gwybodus a set o weithwyr medrus iawn ar draws pob sector.
Mae'n bwysig nad ydym yn colli'r cyfle i weithio y tu hwnt i'n ffiniau. Byddwn yn dal Llywodraeth y DU at ei hymrwymiadau yn ei strategaeth ddiwydiannol a'i haddewid i fuddsoddi yn y technolegau a'r busnesau ac yn sgiliau'r dyfodol. Mae'r pum sylfaen cynhyrchiant a nodwyd yn strategaeth ddiwydiannol y DU—syniadau, pobl, seilwaith, amgylchedd busnes a lleoedd—yn ganolog i'r gwaith o fynd i'r afael â'r ffactorau sy'n gyfrifol am gynyddu cynhyrchiant a phŵer ennill o fewn economi, ac o dan y rhain ceir pedair her fawr lle y gall Prydain arwain y chwyldro technolegol byd-eang.
Nawr, ceir gorgyffwrdd clir iawn, yn fy marn i, rhwng yr heriau mawr a'n galwadau i weithredu, a rhwng y pum sylfaen cynhyrchiant ac amcanion y cynllun gweithredu economaidd. Mae'r contract economaidd, y galwadau i weithredu a'r sectorau thematig cenedlaethol a nodir yn y cynllun gweithredu economaidd i gyd yn gwbl ganolog i allu goresgyn yr heriau a'r cyfleoedd hyn.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n ymwybodol o'r amser a gymerais hyd yma i ymateb i'r ddadl fer hon, ond mae'r ddadl wedi dangos bod yna heriau anferth. Rydym yn eu cydnabod ac rydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynghylch mesurau lliniaru. Mae newid technolegol a'i fabwysiadu yn digwydd yn gyflym, ac mewn rhai achosion, rydym yn sefyll ar lwyfan sydd ar dân. Ni allai'r neges fod yn gliriach: mae angen inni fuddsoddi a chroesawu. Mae awtomatiaeth a digideiddio'n dod nawr, a nawr yw'r amser i arloesi a gwella cynhyrchiant er mwyn creu cyfleoedd newydd, neu rydym mewn perygl o golli cystadleurwydd a gallai hynny arwain at ddiffyg twf economaidd.
Mae yna achos dros fod yn optimistig—wrth gwrs—a thros hyder ynglŷn â'r dyfodol cyhyd â'n bod yn barod i weithredu yn awr i fanteisio ar y cyfleoedd a rheoli'r bygythiadau a ddaw yn sgil y pedwerydd chwyldro diwydiannol. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.