– Senedd Cymru am 6:51 pm ar 24 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl fer, ac rydw i'n galw ar Siân Gwenllian i gyflwyno'r ddadl fer a gyflwynwyd yn ei henw hi. Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Mi fyddaf i yn gwahodd Jane Hutt, Joyce Watson, Suzy Davies a Julie Morgan i gymryd rhan hefyd. Diolch iddyn nhw rhag blaen am eu cyfraniadau.
Canrif ers i ferched gael y bleidlais, a ydy Cymru yn wlad gydradd? Mi fyddaf i yn cyflwyno tystiolaeth i ddangos bod Cymru ymhell, bell o fod yn gydradd o ran rhywedd. Mi fyddaf i yn dadlau bod angen rhoi blaenoriaeth i'r ymdrechion i gyrraedd at gyfartaledd, ac mi fyddaf i hefyd yn cynnig un ffordd ymarferol ynglŷn â sut y gall ein Senedd ni yng Nghymru arwain y ffordd.
Yn 1918, fe gafodd merched y bleidlais am y tro cyntaf, ond cofiwch chi, dim ond merched dros 30 a oedd efo ychydig bach o dir. Serch hynny, roedd pob dyn yn 1918 dros 21 oed yn cael pleidleisio. Anodd credu pam y byddai unrhyw un eisiau un set o reolau i ddynion a set arall i ferched, gan fychanu hanner y boblogaeth. Felly, wrth gofio'r canmlwyddiant, mae'n werth nodi nad oedd cydraddoldeb o ran pleidleisio tan 1928, mewn gwirionedd.
Wrth ddathlu gwaith y syffrajéts, mae'n amlwg ein bod ni bell, bell o fod yn wlad gydradd o ran rhywedd. Nid oes ond angen edrych ar y bwlch cyflogau rhwng dynion a menywod, yr ystadegau ynglŷn â thrais a chamdriniaeth ddomestig yn erbyn menywod, y diwylliant o aflonyddu rhywiol, a'r ganran fechan o ferched sydd mewn swyddi uchel yn y byd cyhoeddus. Fe wnawn ni ddechrau drwy edrych ar y bwlch cyflog.
Mae'r bwlch cyflog rhwng dynion a merched yng Nghymru tua 15 y cant, yn codi i 25 y cant mewn rhannau o'r wlad. Mae nodi cyfartaledd cyflogau dynion a merched yn dangos yr anghydbwysedd rhwng y swyddi mae dynion yn eu gwneud, gan amlaf ar dop y pyramid, a'r swyddi mae'r merched yn eu gwneud, sy'n tueddu i fod yn is i lawr y pyramid cyflogau. Un cam sylweddol ymlaen ydy bod rhaid i gyflogwyr mawr yn y sector preifat a gwirfoddol gyhoeddi gwybodaeth am gyflogau ar sail rhywedd. Dim ond 6 y cant o gyflogwyr sydd wedi cyhoeddi eu manylion hyd yma, ac erbyn y dyddiad cau yn Ebrill, efallai y cawn ni ddarlun gwell. Ond eisoes, mae cwmnïau fel y BBC, EasyJet a Virgin wedi dangos bod bylchau mawr yn bodoli, a dyna i chi un arwydd ein bod ni'n bell o gyrraedd cydraddoldeb.
Fe drown ni at drais yn erbyn merched a chamdriniaeth yn y cartref. Yn ôl y ffigurau swyddogol, mae un o bob pedair merch yng Nghymru a Lloegr—27 y cant—yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig yn ystod eu hoes—ffigur sydd dros ddwywaith cymaint ag ydyw i ddynion—13 y cant—ac mae'r ffigur yn cynrychioli tua 350,000 o ferched yng Nghymru.
Mae astudiaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dangos bod 68 y cant o ferched ar gampws coleg neu brifysgol wedi profi aflonyddu rhywiol, ac un o bob saith wedi dioddef ymosodiad rhywiol treisgar. Mae'r continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd, ac yn ganolog i'r cyfan mae cynnal ac atgynhyrchu perthynas o bŵer anghyfartal. Mae datrys y broblem yn gorfod cynnwys datrysiad diwylliannol cymdeithasol ehangach. Mae'r sylw diweddar i aflonyddu rhywiol yn sgil sgandal Weinstein wedi agor y llifddorau, gyda merched o'r diwedd yn dechrau trafod eu profiadau yn gyhoeddus. Mae fy nghenhedlaeth i wedi bod yn euog o ysgubo rhai mathau o aflonyddu o dan y carped. Rydym angen sgwrs genedlaethol amdano ar frys er mwyn egluro beth ydy aflonyddu a pham nad ydy o'n dderbyniol.
Wrth ddadlau bod diffyg cydraddoldeb yng Nghymru heddiw, fe drown at ddiffyg cydraddoldeb mewn bywyd cyhoeddus. Dau ddeg wyth y cant o gynghorwyr Cymru sydd yn fenywod. Yr un ffigur, 28 y cant, o Aelodau Seneddol Cymru sydd yn fenywod. Ac yma yn y Cynulliad, 42 y cant ohonom ni sydd yn fenywod—lle roedd cyfartaledd yn ôl yn 2003, a lle roedd y Cynulliad yn arloesi yn y byd. Ac yn anffodus, mae fy mhlaid i wedi cyfrannu at y cwymp yma, ond rwy'n falch ein bod ni wedi cytuno polisi newydd yn ein cynhadledd ni ym mis Hydref a fydd yn creu mecanweithiau newydd er mwyn cael nifer cyfartal o ymgeiswyr etholiadol.
Mae ymchwil yn dangos bod merched yn y Cynulliad yn codi pynciau fel gofal plant, trais yn erbyn merched, bwlch cyflog a thâl cyfartal, a diffyg cydraddoldeb yn gyffredinol. Ac mae merched yn gwneud hynny lawer mwy nag mae dynion yn gwneud. Er mwyn tegwch cwbl naturiol, ond hefyd er mwyn tynnu'r rhwystrau sy'n wynebu merched yn gyffredinol, mae'n rhaid inni gael cynrychiolaeth 50:50, hanner a hanner, ymhlith y rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau yma yng Nghymru. A dyna pam rwy'n cytuno yn llwyr efo cynigion diweddar y panel arbenigol ar ddiwygio'r Cynulliad, sy'n argymell, wrth gwrs, ei gwneud hi'n ofynnol drwy Ddeddf i bleidiau gwleidyddol ddewis ymgeiswyr ar sail gyfartal o ran rhywedd.
Mae sut fecanwaith yn union sydd ei angen i gyrraedd yno yn fater i ni hoelio sylw arno dros y misoedd ac efallai'r blynyddoedd nesaf yma. Wrth ddechrau yma wrth ein traed yma yn y Cynulliad, mae yna gyfle inni wneud gwahaniaeth. Mi fyddai cael mwy o ferched yn fan hyn yn arwain at well polisïau i greu cydraddoldeb yng Nghymru. Mi fyddai hefyd yn dangos yr arweiniad angenrheidiol ar gyfer creu cydraddoldeb ar draws ein gwlad. Mae tystiolaeth ar draws y byd yn dangos bod cwotâu a deddfwriaeth rhywedd yn gwneud gwahaniaeth, ond mae o'n gorfod bod law yn llaw â newid diwylliannol anferth hefyd, a dyna pam fod cynnwys addysg gynhwysfawr ar berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd yn hanfodol.
Fy mwriad i wrth ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw ydy rhoi ffocws unwaith eto ar ddiffyg cydraddoldeb, ond gan gynnig sut medrwn ni yn y Cynulliad gyfrannu at y gwaith o ddileu anghydraddoldeb, ac yn y lle cyntaf drwy gyflwyno cwota 50:50 drwy Ddeddf, a pheidio dibynnu ar y pleidiau yn unig i arwain y ffordd. Ers 1918, mae nifer o gamau wedi cael eu cymryd tuag at gydraddoldeb, gan gynnwys gwaith y syffrajéts, ac mae llawer iawn o waith ar ôl i'w wneud. Nid oes yna ddigon o bwyslais ar y gwaith yma, a dim digon o synnwyr o frys. Mae nifer ohonom ni yn y Cynulliad wedi bod yn brwydro dros gydraddoldeb i fenywod ers blynyddoedd maith—llawer yn rhy hir, efallai—ond rŵan ydy'r amser. Mae angen i ferched Cymru gymryd yr awenau. Mae merched wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Mae'n bryd i ni fynnu cydraddoldeb ac mae'n bryd i ni, yma, ddangos yr arweiniad sydd ei angen. Dyma ydy'n cyfle ni, mae'n rhaid i ni ei gymryd o.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau yr Aelodau Cynulliad eraill ac, yn fwy na hynny, efallai, rwy'n edrych ymlaen at drafod efo'n gilydd sut yr ydym ni yn mynd i symud hyn ymlaen dros yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy'n hapus iawn i siarad hefyd heddiw.
Yr wythnos hon, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn nodi deugeinfed pen-blwydd Cymorth i Fenywod Cymru. Wrth ddechrau gweithio gyda Cymorth i Fenywod Cymru, roeddem yn benderfynol o gefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan drais yn y cartref, ond hefyd i ymgyrchu dros newid. Rydym wedi gwneud cynnydd ers 1978, gyda Chymru'n arwain y ffordd yn y DU gyda Deddf nodedig trais yn erbyn menywod a phenodi ymgynghorwyr cenedlaethol; ond fel bob amser, mae'n un cam ymlaen ac un cam yn ôl. Mae adroddiad newydd brawychus gan Gymdeithas Fawcett yn honni bod cam-drin ac aflonyddu yn erbyn menywod yn endemig yn y DU a bod cyfiawnder i fenywod wedi dioddef yn sgil toriadau i gymorth cyfreithiol a chyflwyno credyd cynhwysol.
Fel y nododd Siân, mae'n ymddangos bod cynnydd yn arafu ar gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae gennym Davos yr wythnos hon—mae Fforwm Economaidd y Byd wedi rhagweld y bydd yn rhaid i fenywod aros am 217 o flynyddoedd cyn eu bod yn ennill cymaint â dynion. Gan symud ymlaen, llwyddodd Harriet Harman i gyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010 yn y Llywodraeth Lafur ddiwethaf, gan arwain at gymal, a ddaw i rym ym mis Ebrill, sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cwmni o 250 neu fwy o weithwyr gyhoeddi ei fwlch cyflog rhwng y rhywiau. Croesawaf y cam hwnnw ymlaen, ond rwy'n cefnogi eich galwad, Siân, am gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn ein Senedd, a byddaf yn gweithio gyda chi a menywod ar draws y Siambr i gyflawni hynny.
Diolch yn fawr iawn. Hoffwn longyfarch Siân Gwenllian ar gael y ddadl hon. Mae cydraddoldeb yn agos iawn at fy nghalon ac fe'ch cefnogaf yn llwyr yn y pethau rydych wedi eu dweud.
Pan oeddwn yn San Steffan, gwnaethom drafod y posibilrwydd bryd hynny—y menywod yn San Steffan—o geisio cael y gyfraith i benderfynu y dylai fod cwotâu, ond nid oedd yr ysbryd cyffredinol o'n plaid. Felly, yn hytrach, pasiwyd y ddeddfwriaeth a alluogodd y pleidiau gwleidyddol i ddefnyddio camau cadarnhaol i helpu menywod i ddod yn Aelodau Seneddol ac yn Aelodau Cynulliad. Golygai hynny, yn y Blaid Lafur, ein bod yn gallu defnyddio rhestrau byr o fenywod yn unig ac roeddem yn gallu defnyddio gefeillio ar ddechrau'r Cynulliad hwn, a olygai ein bod wedi dod i mewn i'r Cynulliad gyda nifer gyfartal o ddynion a menywod.
Roedd honno'n broses boenus. Roedd yn broses lwyddiannus iawn, ond credaf ein bod wedi cyrraedd y cam yn awr lle mae'n rhaid inni gael deddfwriaeth. Credaf fod y cynigion gan y grŵp sydd wedi edrych ar y trefniadau yn y dyfodol ar gyfer y Cynulliad wedi cyflwyno'r hyn yr ystyriaf ei bod yn ffordd ymlaen gwbl hanfodol er mwyn cael 50:50 i bob plaid wleidyddol gyflwyno niferoedd cyfartal o ymgeiswyr. Nid wyf yn meddwl ei fod yn syml oherwydd, yn amlwg, mae gennych yr holl gwestiynau ynghylch pa seddi sy'n enilladwy a phob math o bethau felly i edrych arnynt, ond credaf fod yr hanes wedi bod mor hir a'r ymdrech wedi bod mor hir fel bod arnom ddyletswydd i bawb yng Nghymru—yn fenywod a dynion—i wneud yn siŵr fod gennym gynrychiolaeth gyfartal yma. Rwy'n meddwl na ddylem byth anghofio bod yr hyn a wnawn yma yn y Cynulliad yn gweithio er lles pobl Cymru, ac rydym yn ceisio gwella bywydau pobl yng Nghymru, ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen cynrychiolaeth gyfartal. Rydym angen i fenywod gael eu cynrychioli yma, ac mae angen yr holl bobl arnom i fod yn Siambr wirioneddol dda a chynrychiadol. Felly, rwy'n eich cefnogi'n llwyr.
Diolch, Siân. Diolch yn fawr am gyflwyno'r ddadl hon. Y ffigur ar gyfer llywodraeth leol, cynrychiolaeth menywod, yw 28 y cant os cofiaf y ffigur yn iawn. Ar adeg pan fo cyni'n taro'n galed iawn, yr holl ffordd i lawr i gyllidebau llywodraeth leol, mae prinder menywod o amgylch y bwrdd yn y lle cyntaf a phrinder difrifol menywod i yrru agendâu economaidd mewn cabinetau yn destun mwy byth o bryder, gan mai'r canlyniad yw nad yw'n edrych fel pe bai gan fenywod lais hyd yn oed—mae'n gwbl dawel. Felly, pan fyddwch yn torri'r cyllidebau ar gyfer y gwasanaethau y mae menywod yn dibynnu arnynt fwyaf, mae'n eithaf hawdd gwneud hynny—neu beidio â meddwl am y peth hyd yn oed—os nad yw menywod yn eistedd o amgylch y bwrdd.
A gaf fi ddiolch i chi? Diolch, hefyd, Siân. Gwnaethoch bwyntiau pwerus iawn heddiw, yn enwedig mewn perthynas â thrais yn erbyn menywod ac yn amlwg yr agwedd tuag at sylw di-eisiau.
Weithiau, mae pethau fel hyn yn dod i'r berw go iawn, a'r hyn yr hoffwn ei weld yn dod i'r berw yn awr yw sut y mae cymdeithas yn gwerthfawrogi cryfderau a briodolir yn draddodiadol—ac rwy'n golygu fel stereoteip bron—i fenywod. Yn sicr rwy'n parchu eich dadl, ond nid wyf wedi fy argyhoeddi eto mai statud yw'r ffordd o wneud hynny, byddai'n llawer gwell gennyf gefnogi sefydliadau fel Women2Win a Chwarae Teg, sy'n helpu cymdeithas, a menywod eu hunain lawn cymaint, i ddeall mai cryfderau menywod sydd eu hangen arnom mewn gwleidyddiaeth. Dyna fyddai fy hoff lwybr, nid yn lleiaf oherwydd fy mod yn poeni braidd y byddai cwota statudol yn cyfyngu ar y cyfle mewn gwirionedd i fwy na 50 y cant o fenywod ddod i'r lle hwn. Ac rwy'n credu bod y cryfderau sydd gan fenywod yn gyffredinol yn ddadl dda iawn dros gael mwy na 50 y cant. Diolch.
Galwaf ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl. Julie James.
Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl eithriadol o bwysig hon. Pleser o'r mwyaf yw bod yma i dystio iddi. Rwyf am ddechrau drwy ddweud fy mod i'n bersonol wedi fy ethol oddi ar restr fer a gynhwysai fenywod yn unig—rhywbeth y brwydrodd fy mhlaid drosto am flynyddoedd, ac mae llawer o'r menywod a frwydrodd drosto gyda ni yn y Siambr. Mae'n rhywbeth yr oeddwn yn hynod o falch fod fy mhlaid yn yr etholaeth wedi ei gefnogi i'r carn, oherwydd gallent weld drostynt eu hunain pa mor anodd yw hi i fenywod gamu ymlaen ym myd cystadleuol dethol ymgeiswyr, ac yn y blaen.
Gall y broses ddethol ynddi ei hun weithio yn erbyn y cryfderau sydd gan fenywod o ran cydweithio ac ati. Bob tro yr awn drwy un o'r prosesau dethol hynny yn ein plaid ein hunain, rydym yn brwydro unwaith eto yn erbyn y broblem o ddewis rhwng cydweithwyr a ffrindiau ac ati. Credaf fod cydweithio a'r holl ysbryd sydd ynghlwm wrth hynny yn rhywbeth y mae angen i ni ei gynnwys yn ein pleidiau gwleidyddol er mwyn hyrwyddo'r agenda hon. Ond rwy'n sefyll yma yn bendant fel rhywun a etholwyd oddi ar restr fer o fenywod yn unig ac rwy'n falch iawn mai felly y bu.
Gwibiodd Siân drwy nifer fawr o faterion y mae angen inni eu symud ymlaen o hyd, a chredaf fod y rhan fwyaf ohonom yn ddig ac yn drist fel ei gilydd ynghylch rhai o'r pethau a drafodwyd gennym yma heddiw. Felly, fe wibiaf drwyddynt hefyd. Cyflog cyfartal: wrth gwrs y dylem gael cyflog cyfartal. Mae blynyddoedd ers Deddf Cyflog Cyfartal 1970 ac roedd y Ddeddf cyflog cyfartal yn beth gwych, ond nid yw'n cael ei gweithredu. Roedd angen Deddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn gorfodi'r Ddeddf Cyflog Cyfartal i gael ei gweithredu. Mae'n warthus mewn gwirionedd. Mater tryloywder—rhaid i chi orfodi pobl i fod yn dryloyw, rhywbeth a wneuthum yn fy mywyd fy hun sawl gwaith pan oeddwn yn negodi fy nghyflog fy hun mewn cwmnïau cyfreithiol yn y sector preifat a byddent yn dweud wrthyf beth fyddai fy monws neu beth bynnag y byddai, a byddwn innau'n dweud, 'Beth y mae'r dynion yn ei gael?' Mewn cwmnïau lle nad yw'n broblem, maent yn dweud wrthych ar unwaith a lle na fyddant yn dweud wrthych, nid yw byth oherwydd nad ydynt yn cael cymaint â chi.
Felly, rhaid i mi ddweud mai un o'r pethau rwyf wedi hoffi hefyd ers bod yma yw prosiect Cenedl Hyblyg Chwarae Teg. Mae'n dysgu menywod ifanc i wneud yr hyn rwyf newydd ei ddweud. Ac roedd y codiad cyflog cyfartalog o ganlyniad i'r prosiect hwnnw yn £3,000 y flwyddyn i'r menywod hynny, oherwydd yr hyn y maent yn ei wneud yn dda yw eu dysgu sut i sefyll dros eu hawliau, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd. Mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei wneud.
Ceir yr agenda aflonyddu rhywiol, y pethau a welwn ar y cyfryngau cymdeithasol, y rhywiaeth bob dydd y bydd rhai ohonoch chi'n ei ddilyn mae'n siŵr, #ThisIsMe ac ati. Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau diddorol iawn o amgylch Cymru am #ThisIsMe, gyda phobl yn dweud, 'Nid yw pob menyw yn cael profiad felly' ac nid wyf erioed wedi bod mewn ystafell lle mae menyw wedi dweud, 'Wel, nid wyf fi wedi cael profiad felly.' Erioed. Efallai mai fi'n unig yw hynny, ond ni chlywais hynny erioed. A'r rheswm am hynny yw bod menywod wedi cael eu dysgu i gadw'n ddistaw am bethau o'r fath, ac yn awr mae yna fenywod ifanc nad ydynt yn cael eu dysgu i gadw'n ddistaw yn codi llais ac rwy'n eu cymeradwyo am wneud hynny ac mae angen inni eu cefnogi bob cam o'r ffordd.
Lywydd, os nad ydych wedi ei weld—nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwylio rhaglenni o'r fath, neu wedi gwneud hynny—mae yna raglen o'r enw Have I Got News For You ac mae gwylio Jo Brand, y digrifwr, yn dweud wrth Ian Hislop pam nad yw ei sylwadau dibwys am aflonyddu rhywiol yn dderbyniol yn rhywbeth rwy'n ei argymell i'r Siambr gyfan. Mae'n werth ailedrych arno. Fe ddywedodd hynny'n rymus iawn a hyn ydoedd yn syml: gallai patrwm o ymddygiad ymddangos yn ddibwys ar y cychwyn, ond gall gronni hyd nes ei fod yn tanseilio'r person sy'n dioddef yr ymddygiad hwnnw yn llwyr. A hyd nes y deallwn fod y gyfres o bethau dibwys yn arwain at y pwynt hwnnw lle y cânt eu tanseilio, yna nid oes gennym unrhyw synnwyr o sut brofiad y gallai hwnnw fod. Amlygwyd hyn gan Siân Gwenllian, a'r holl fenywod a siaradodd mewn gwirionedd: heb leisiau menywod i wneud hynny'n glir, ni chaiff y pethau hynny eu deall, a dyna pam rydym yn bwysig. Mae'n bwysig ein bod ni yma.
Ceir pentwr cyfan o agendâu eraill sy'n bwysig hefyd. Ceir llawer o 'faterion menywod' mewn dyfynodau ac mae wedi fy ngwylltio ar hyd fy oes eu bod yn 'faterion menywod'. Mae fy mhlant yn perthyn i fy mhartner lawn cymaint ag y maent yn perthyn i mi. Mae gofal plant yn llawn cymaint o fater iddo ef ag y mae i mi. Mae hynny yr un fath ar gyfer pob un o'r hawliau hynny: maent yn faterion ar gyfer pob bod dynol. Nid yw'r ffaith mai menywod sy'n ysgwyddo'r beichiau hynny yn iawn ac mae angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Dyna pam y mae ein lleisiau'n bwysig o ran cael y rheolau hynny ar waith a'r ddeddfwriaeth ar waith sy'n galluogi pobl i gymryd eu lle cywir yn ein cymdeithas.
Felly, rwy'n hollol benderfynol, yn ystod y tymor Cynulliad hwn, o weld pob bwrdd cyhoeddus a noddir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cynrychiolaeth 50:50. Dechreuodd fy nghyd-Aelod, Lesley, yma, y frwydr dros hynny, a llawer o gyd-Aelodau eraill—gwnaeth Jane hynny ei hun pan oedd yn y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y bydd cyd-Aelodau eraill yn gwneud hynny hefyd. Ond rwy'n dweud y byddwn yn gwneud hynny yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Nid oes unrhyw reswm pam na allwn ei wneud. Fe allwn wneud hynny. Mae gennyf Chwarae Teg yn gweithio arno ar hyn o bryd.
Yn sicr.
Roeddwn yn meddwl tybed a allech wneud gwaith i edrych ar sut y mae menywod sydd wedi cael plant ac wedi dod yn ôl i weithio yn dioddef gwahaniaethu. Cyn i Siân gael y ddadl hon, dywedodd un o aelodau ein plaid ei bod wedi wynebu gwahaniaethu lle na allai gael dyrchafiad yn ei gweithle oherwydd y math hwnnw o—weithiau gan fenywod di-blant neu fenywod nad ydynt yn deall yr heriau hynny. Felly, pa waith pellach y gallwch ei wneud fel Llywodraeth, naill ai gyda Chwarae Teg neu sefydliadau eraill, i geisio annog menywod sydd wedi cael plant i allu camu ymlaen yn eu gyrfa?
Yn bendant. Mae hynny'n rhan fawr o'r agenda gwaith teg, ac mae Chwarae Teg yn cynnal rhaglen ar hyn o bryd sy'n achredu cyflogwyr sydd ag ethos gwaith teg, ac mae hynny'n sicr yn rhan o'r ethos hwnnw: gwneud yn siŵr nad ydych yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un sy'n cymryd absenoldeb rhiant—yn amlwg, menywod yn bennaf sy'n gwneud hynny, ond dim gwahaniaethu yn erbyn pobl sy'n cymryd absenoldeb rhiant—ac mewn gwirionedd, fod dynion yn cael eu hannog i gymryd absenoldeb rhiant er mwyn iddynt gael yr un seibiant gyrfa â menywod, ac yna fe fyddwch yn cael peth cydraddoldeb, oherwydd mae llawer o faterion yn codi mewn perthynas â hynny. Ond yn sicr, Bethan Jenkins—rydych yn hollol iawn am hynny. Mae angen i ni wneud hynny.
Felly, rwy'n mynd i wneud un neu ddau o gyhoeddiadau cyn gorffen, Lywydd, os maddeuwch i mi. Rwy'n falch iawn ein bod yn mynd i wario oddeutu £300,000 ar ddathlu canmlwyddiant y swffragetiaid. Dywedodd Siân mai pleidlais rannol yn unig oedd hi. Tynnwyd fy sylw at y ffaith fod menywod Cymru, mae'n debyg, wedi cael y bleidlais yn 18 oed o 1865 ymlaen ym Mhatagonia—drwy garedigrwydd fy ffrind, Jeremy Miles, sydd newydd nodi hynny i mi. Felly, mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond gwyddom hefyd mai pleidlais rannol yn unig sydd gan fenywod yn Saudi Arabia yn awr, felly mae yna ffordd bell i fynd gyda hynny o gwmpas y byd.
Byddwn yn dathlu pen-blwyddi allweddol ar hyd y flwyddyn hon mewn perthynas â'r bleidlais. Rydym yn mynd i gael rhaglen 100 o Gymraësau nodedig a noddir gennym dan arweiniad Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonoch yn cymryd rhan yn hynny, ac yna fe gawn bleidlais gyhoeddus dros y rhai y dylid eu cydnabod. Rydym yn mynd i gael cerfluniau newydd o fenywod go iawn o hanes Cymru, ac rwy'n benderfynol o wneud hynny. Rydym yn mynd i gyfrannu tuag at ymgyrch y plac porffor, ac rydym yn mynd i gael grant ar gyfer gweithgarwch cymunedol arloesol i ddilyn hynny.
Felly, mae nifer o bethau'n mynd i ddigwydd, a'r rheswm pam rydym yn mynd i wneud y pethau hyn i gyd, ac rwy'n gorffen gyda hyn, Lywydd, yw bod hanes menywod yn anweledig. Rydych yn teithio o gwmpas y wlad ac yn siarad â menywod ifanc, ac nid ydynt yn gwybod mai menywod a wnâi'r gwaith y tu cefn i'r arfau rhyfel, nid ydynt yn gwybod mai menywod a wnâi'r gwaith a oedd yn sail i'r rhyngrwyd. A wyddoch chi mai menyw oedd yr unig berson erioed a basiodd y profion i gyd i fynd i mewn i'r—ni allaf gofio beth y mae'n cael ei alw yn awr—rhwydwaith ysbiwyr yn y rhyfel byd? Yr unig berson a basiodd yr holl brofion—gwnaeth y lleill fethu rhai ohonynt—ac ni enwyd y fenyw honno hyd yn oed. Pan ewch i Bletchley Park—dyna chi; fe ddaeth i mi—nid yw ond yn dweud 'menyw', er ein bod yn gwybod pwy oedd pob un o'r dynion. Felly, rhaid siarad am yr hanesion tawel hynny. Mae'r ymgyrch plac porffor, gyda'r teclyn bach lle rydych yn dal eich ffôn a bydd yn dweud llawer wrthych am y fenyw dan sylw a'i lle mewn hanes, yn gwbl hanfodol fel bod ein menywod ifanc yn deall y cyfraniad y mae menywod eisoes wedi ei wneud yng Nghymru, y cyfraniad y gallant hwy ei wneud a'r cyfraniad y byddant yn ei wneud yn y dyfodol i wneud Cymru yn gymdeithas gyfartal fel rydym eisiau iddi fod. Diolch, Lywydd.
Diolch. Daw hynny â thrafodion y dydd i ben.