– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 13 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gynllun gwaith polisi treth 2018, gan gynnwys trethi newydd, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, diolch yn fawr. Mewn ychydig dros fis, fel y bydd yr Aelodau’n ymwybodol iawn, bydd y trethi Cymreig cyntaf ers cannoedd o flynyddoedd yn dechrau cael eu casglu wrth i’r dreth traddodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi gael eu gweithredu. Fodd bynnag, mae datganoli trethi yn golygu mwy na dim ond disodli un system dreth ag un arall. Mae cyfrifoldeb arnom i feddwl yn fwy dyfeisgar am drethi, am sut y mae trethi’n gweithredu, am eu heffaith ar bobl, busnesau a chymunedau, a’r ffordd y maent yn gweithio â'n hamcanion polisi ehangach.
Mae cynllun gwaith polisi trethi 2018, a gyhoeddais heddiw, yn amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer eleni. Mae’n cynnwys cymysgedd o flaenoriaethau tymor byr a hirdymor yn y meysydd canlynol: cyfraddau trethi, polisi trethi, gwelliannau trethiant lleol, gweinyddu trethi ac ymchwil hirdymor. Fel rhan o gynllun gwaith y llynedd, amlinellais fwriad y Llywodraeth i brofi pwerau Deddf Cymru 2014. Mae’r Ddeddf yn galluogi Cymru i gynnig trethi newydd mewn meysydd sydd wedi eu datganoli.
Llywydd, cyhoeddais restr fer o bedwar syniad am drethi ym mis Hydref: treth ar dir gwag, treth ar blastig untro, ardoll ar gyfer gofal cymdeithasol, a threth ar dwristiaeth. Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried yr achos dros y pedwar syniad hyn yn fanylach, gan gynnwys eu heffaith ar Gymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cynnal pleidlais anffurfiol ar-lein drwy’r cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r syniadau hyn ac i gael amcan o gefnogaeth y cyhoedd iddynt. Cyhoeddais ganlyniad y bleidlais yn gynharach heddiw.
Bydd yr Aelodau’n ymwybodol mai proses syml a gafodd ei hamlinellu yn Neddf Cymru a’i dogfennau cysylltiedig. Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i drafod hyn â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys a chytuno ar broses i ddatganoli pwerau trethi newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys dau gyfnod penodol. Yn gyntaf, bydd angen i ddau dŷ’r Senedd a’r Cynulliad Cenedlaethol gytuno i ddatganoli’r cymhwysedd, ac, yn ail, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r polisi a'r anghenion deddfwriaethol i’r Cynulliad Cenedlaethol. Mae disgrifiad o’r broses honno wedi ei chyhoeddi ar ein gwefan yn gynharach heddiw.
Llywydd, rwyf wedi dod i’r casgliad fod gan bob un o’r syniadau ar y rhestr fer rinweddau pwysig. Rwyf o’r farn, wrth brofi system am y tro cyntaf, ei bod yn bwysig symleiddio sefyllfa drwy gynnig un dreth yn unig i ddechrau. Nid yw hynny’n golygu, fodd bynnag, na fydd gwaith yn parhau ar bob syniad ar y rhestr fer. Gadewch i mi fod yn glir hefyd am ystyr hyn i gyd. Mae gan y cynnig am dreth yr wyf yn bwriadu ei ddefnyddio i brofi system Deddf Cymru 2014 y potensial i helpu i gyflawni ein hagenda polisi yma yng Nghymru. Nid yw’n golygu ein bod wedi ymrwymo’n ddi-droi'n-ôl i gyflwyno treth o’r fath. Os caiff y pŵer i gyflwyno treth benodol i Gymru yn unig ei ychwanegu at gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol, yna bydd gwaith polisi manwl a thrafodaethau â rhanddeiliaid yn dilyn. Os caiff deddfwriaeth ei chynnig, bydd yn destun holl drefniadau craffu arferol y Cynulliad.
Dyma edrych ar bob syniad yn ei dro.
Llywydd, rwy'n troi yn gyntaf at y dreth ar blastig tafladwy. Cafwyd cryn ddiddordeb a chefnogaeth i dreth ar blastig tafladwy yng Nghymru, ac mae nifer o Aelodau Cynulliad wedi cyflwyno dadleuon argyhoeddiadol iawn ar gyfer gwneud treth ar blastigion yn brif flaenoriaeth yn yr ymarferiad hwn. Ers cyhoeddi'r rhestr fer wreiddiol, fodd bynnag, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys yng nghyllideb yr hydref y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau casglu tystiolaeth ar sut y bydd yn ymdrin â phroblem plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth. Beth bynnag fo'i rinweddau, mae'r cyhoeddiad hwnnw, rwy'n credu, yn creu rhwystr ar lwybr unrhyw gynnig ar gyfer Cymru yn unig. Mae gormod o risg, rwy'n credu, y byddai Llywodraeth y DU yn ymateb i gynnig ynglŷn â chael treth blastig ar gyfer Cymru yn unig drwy ddweud na allai ystyried hynny hyd nes y bydd y broses o gasglu tystiolaeth wedi dod i ben.
Yn fwy cadarnhaol, Llywydd, rwyf wedi llwyddo i drafod y cais am dystiolaeth gyda Gweinidogion Trysorlys y DU ac, o ganlyniad, rydym wedi sicrhau bod Cymru wedi bod yn rhan o'r broses honno. Byddwn yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i'r cais yng Nghymru, er mwyn sicrhau cymaint o ymrwymiad yma ag y bo modd. Byddwn yn cyfrannu at y gwaith o ddadansoddi'r canfyddiadau yn dilyn y cais am dystiolaeth, ac rwyf wedi cytuno i gwrdd ag Ysgrifennydd y Trysorlys i drafod cynnydd ar yr adeg honno a rhannu safbwyntiau Cymru ynglŷn â datblygu dewisiadau polisi.
Cyfradd ailgylchu Cymru yw'r drydedd orau yn y byd. Rydym ar flaen y gad gyda'r agenda wastraff ac mae gennym lawer i'w gynnig drwy ein galluoedd ymchwil a phrofiad helaeth. Serch hynny, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol ar gyfer Cymru. Mae hyn yn yn parhau'n ddewis a bydd yn seiliedig ar ganlyniadau'r astudiaeth estynedig ynglŷn â chyfrifoldeb y cynhyrchydd, y mae Llywodraeth Cymru i fod i adrodd yn ôl arni cyn bo hir.
Rwy'n troi at fater yr ardoll gofal cymdeithasol. Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn arwain at gynnydd yn y galw am ofal cymdeithasol a'r gost am hynny. Mae talu am ofal yn parhau'n her sydd heb ei datrys ledled y Deyrnas Unedig, ac mae trethu yn un ateb posib. Byddwn yn parhau i weithio drwy gydol 2018 i archwilio a ellid defnyddio trethi i ariannu gofal cymdeithasol yn fwy hirdymor yma yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad economaidd dangosol yr Athro Gerry Holtham o system yswiriant cymdeithasol gwell, y disgwylir iddo fod ar gael inni ym mis Mai. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno y bydd fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, yn cadeirio grŵp rhyng-weinidogol i ddatblygu'r gwaith pwysig hwn.
Llywydd, cyn belled ag y mae treth dwristiaeth yn y cwestiwn, mae'r gwaith a wnaed dros y chwe mis diwethaf wedi dangos pa mor amrywiol yw twristiaeth ledled Cymru. Deuthum i'r casgliad na fyddai treth genedlaethol ar dwristiaeth yn adlewyrchu'r amrywiaeth hwn orau o ran amgylchiadau lleol. Byddwn nawr yn ystyried ffyrdd y gellid rhoi grymoedd caniataol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu treth dwristiaeth leol. Wrth wneud y gwaith hwnnw, byddwn, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r sector twristiaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phobl a mudiadau â buddiant er mwyn gwneud hyn.
Rwy'n troi yn olaf at y dreth ar dir gwag. Rwyf wedi dod i'r casgliad y bydd defnyddio treth ar dir gwag yn fodd o roi prawf ar ba mor effeithiol yw Deddf Cymru 2014. Mae tai yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gallai treth ar dir gwag helpu i gymell datblygiad mwy amserol drwy ei gwneud hi'n ddrutach dal gafael ar dir sydd wedi ei glustnodi fel tir sy'n addas ar gyfer ei ddatblygu.
Mae ardoll safleoedd tir gwag Gweriniaeth Iwerddon yn fan cychwyn defnyddiol o ran sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. Yn unol â'r model hwn, mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio sefydlu cofrestr o safleoedd gwag yn eu hardaloedd. Os yw safle cofrestredig wedi bod yn wag am flwyddyn, mae'r ardoll yn berthnasol a chaiff ei gasglu yn flynyddol gan yr awdurdod cynllunio. Pennir y gyfradd gan Lywodraeth Iwerddon fel canran o werth y safle.
Mae bodolaeth model o'r fath a phwyslais cymharol gyfyngedig y dreth yn golygu mai hwn yw'r syniad mwyaf addas o bedwar sydd ar y rhestr fer i roi prawf ar y peirianwaith newydd. Byddwn bellach yn gwneud cais ffurfiol i geisio trosglwyddo cymhwysedd i'r Cynulliad Cenedlaethol, a byddaf yn ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i ddechrau ar y broses hon.
Llywydd, dyma ddechrau'r broses o ddatblygu treth newydd. Os cyflwynir achos llwyddiannus o ran datganoli'r grym i Gymru, byddwn yn ymgynghori'n ffurfiol ar y cynigion newydd yma yng Nghymru ac yn y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n edrych ymlaen at hysbysu'r Aelodau yn llawn wrth i'r broses yr ydym ni wedi cychwyn arni ddatblygu.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad heddiw? Rwy'n siŵr y byddech yn disgwyl imi groesawu'r newyddion bod synnwyr cyffredin wedi cario'r dydd a bod cynigion dadleuol iawn Llywodraeth Cymru ynglŷn â threth dwristiaeth genedlaethol, fel y mae wedi'i hailenwi bellach, wedi cael ergyd farwol, ac nid cyn pryd. Oni fuoch chi'n byw ar blaned Mawrth dros yr ychydig fisoedd diwethaf, byddwch yn gwybod bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu'r dreth hon ers y cafodd ei chrybwyll gyntaf gan Lywodraeth Cymru fel un o'r posibiliadau. Gwn nad oedd Plaid Cymru yn ei chefnogi, ond nid oeddem ninnau o'r dechrau chwaith. Rydym wedi rhannu pryderon y sector twristiaeth am effeithiau posib treth o'r fath ar fusnesau twristiaeth ledled Cymru a'r rhagdybiaethau y byddai hyn o bosib yn ei greu ynghylch cost gwyliau yma yng Nghymru. Nid wyf yn credu y rhoddwyd sylw effeithiol i'r pryderon hyn erioed, hyd yn oed ar bwynt yn ystod y broses lle y gallesid fod wedi gwneud hynny.
Nawr, wrth gwrs, roedd amryfusedd yng nglo mân cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, pan gyhoeddwyd y bydd gwaith yn mynd rhagddo, o leiaf mewn egwyddor, ar ddatblygu trethi twristiaeth lleol. Mae hynny'n swnio fel dihangfa o sefyllfa anodd i mi, ond dyna ni, mae angen hynny ar bob un ohonom ni yn achlysurol. Rwy'n sylweddoli mai ystyr hyn yw caniatáu i awdurdodau lleol ddatblygu eu trethi twristiaeth lleol eu hunain. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi ymhelaethu ychydig ynglŷn â ffurf bosib y trethi hyn yn lleol? Oherwydd rwyf i eisoes wedi cael e-byst pryderus gan y sector ynglŷn â'r cwestiynau y mae hyn yn eu codi. Yn benodol, a ydych chi'n rhagweld y bydd canllawiau cenedlaethol ar gyfer awdurdodau lleol wrth lunio'r trethi hynny? Pa mor drwyadl fyddai'r canllawiau hynny? A fyddai unrhyw fath o uchafswm, er enghraifft, ar y symiau a godir, neu ar y mathau o drethi lleol y gellid eu datblygu?
Mewn egwyddor, rwy'n credu mewn democratiaeth leol, ac rwy'n credu bod rhinwedd mewn datblygu trethi lleol. A fyddai'r arian a godir yn lleol o'r trethi hyn yn cael ei glustnodi ar gyfer twristiaeth yn y sector hwnnw? A fyddai hynny yn gyfan gwbl yn nwylo'r awdurdodau lleol? A fydden nhw'n cael eu hailddosbarthu? A roddwyd unrhyw ystyriaeth hyd yma i sut y byddai hynny'n digwydd? Go brin, rwy'n dychmygu, ond amser a ddengys, felly edrychaf ymlaen at rywfaint o arweiniad. Pa sicrwydd, yn bwysig—[Torri ar draws.] Yn dilyn ail-ymgysylltu, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r sector na fydd hyn yn annog twristiaid i beidio â dod i Gymru? Oherwydd yn y pen draw rydym ni i gyd eisiau osgoi hynny yn y lle hwn.
Os caf i gyfeirio'n gryno at 'y dewis un', y dreth ar dir gwag, yn amlwg mae rhai rhinweddau i hyn—rwy'n cytuno â chi ar hynny, Ysgrifennydd y Cabinet—yn arbennig yn ein nod o ddarparu mwy o dai. Fel y gwyddom ni i gyd mae diffyg hynny ar hyn o bryd yng Nghymru, ac mae unrhyw beth a all liniaru'r broblem honno a symud rhywfaint o'r rhwystrau rhag datblygu tai i'w groesawu. Rydych chi wedi cyfeirio at yr enghraifft o Weriniaeth Iwerddon. Nid wyf yn rhy gyfarwydd â'r sefyllfa yno, ond gwn fod cefnogaeth i hynny. Nid oes gennyf wrthwynebiad i dreth ar dir gwag mewn egwyddor, ond, unwaith eto, mae nifer o gwestiynau heb eu hateb, ac rydym wedi gweld sut mae'r cwestiynau hyn sydd heb eu hateb wedi effeithio ar feysydd eraill drwy gydol y broses hon pan rydych chi'n ystyried rhai o'r trethi eraill sydd bellach wedi'u rhoi o'r neilltu.
Nid fy mhryderon i yn unig yw'r rhain, ond hefyd rai o bryderon y sector tai—cwestiynau megis faint y bydd y dreth yn ei godi. Amser a ddengys faint y byddai treth ar dir gwag yn ei godi. A sut y byddwch chi'n ymdrin â phryderon Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, er enghraifft, sy'n credu y gallai treth ar dir gwag, os caiff ei ffurfio yn y ffordd anghywir, mewn gwirionedd gosbi cwmnïau adeiladu llai o faint yng Nghymru, er budd y cwmnïau adeiladu mwy o faint? Rwy'n siŵr ein bod ni'n awyddus i osgoi hynny.
A gaf i ddweud yn olaf, gan fynd yn ôl i ddechrau eich datganiad, fy mod i'n ategu'r pryderon yr ydych chi wedi eu mynegi yn y gorffennol ac y mae eraill wedi eu mynegi ynghylch yr holl broses hon? Mae peryg y bydd y broses ddwy-haen o geisio'r caniatâd yn gyntaf gan Lywodraeth y DU ac yna ddatblygu trethi wedyn—mae'n ymddangos braidd fel y system gorchymyn cymhwysedd deddfwriaethol fondigrybwyll a oedd gennym ni rai blynyddoedd yn ôl, a oedd yn anhydrin iawn, yn aneffeithlon ac yn eithaf costus yn y pen draw. Felly, rwy'n cydnabod bod yn rhaid ichi weithio o fewn cyfyngiadau'r system honno, ond rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n gytûn, yn y dyfodol, nad yw, mae'n debyg, yn ddelfrydol.
Diolch i'r Aelod am yr hyn a ddywedodd, yn enwedig tuag at ddiwedd ei gyfraniad. Rwyf yr un mor bryderus ag yntau ein bod yn dylunio'r ffordd y gellir datganoli grymoedd i Gymru ar gyfer y dibenion newydd hyn—ac y gwneir hynny mewn ffordd sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng y cyfrifoldebau a weithredir yn briodol gan Lywodraeth y DU ac yna gyfrifoldebau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rwy'n gobeithio pan fydd yr Aelodau yn gweld yr amlinelliad a gyhoeddwyd gennym ni heddiw, sy'n egluro sut y bydd hyn yn gweithio, y bydd yr Aelodau yn gweld ein bod wedi llwyddo i ddod i gytundeb gyda'r Trysorlys ac y bydd y Trysorlys yn canolbwyntio ar y materion hynny y credaf sy'n ddilys i Lywodraeth y DU.
Rwy'n credu ei bod hi'n deg eu bod nhw eisiau bod yn argyhoeddedig bod y dreth arfaethedig yn bendant o fewn cymhwysedd datganoledig. Rwy'n credu ei bod hi'n deg bod arnyn nhw eisiau bod yn siŵr nad ydym ni'n cynnig rhywbeth a fyddai'n casglu arian yng Nghymru ond a fyddai'n cael effaith ar gasglu arian y maen nhw'n dibynnu arno yn y DU yn ei chyfanrwydd, er enghraifft. Ond pan drosglwyddir y grym i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyfrifoldeb y Cynulliad hwn wedyn yw craffu ar y defnydd o'r grymoedd hynny. Cyfrifoldeb y Cynulliad hwn yw penderfynu a yw o'r farn bod unrhyw syniadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i ddeddfu arnynt yn llwyddo yn y broses graffu, ac mae'r cwestiynau manwl mewn gwirionedd yn perthyn i'r rhan honno o'r broses. Nid oes diben o gwbl i Lywodraeth Cymru ymrwymo cyfran enfawr o amser ac adnoddau i ddylunio cynnig treth mewn manylder hyd nes y gwyddom fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru y gallu i gyflwyno'r dreth honno.
O ran y sylwadau a wnaeth yr Aelod ynghylch y cyhoeddiad heddiw, sef datblygu treth ar dir gwag, wrth gwrs nid oes unrhyw un yn dymuno cynllunio treth a ffurfiwyd yn y ffordd anghywir. Mae yna faterion pwysig y byddai angen rhoi sylw iddyn nhw er mwyn gwneud yn siŵr y byddai treth ar dir gwag yn berthnasol i dir gwag pan na wneir unrhyw ymdrech i'w ddefnyddio'n bwrpasol, ac nid, wrth gwrs, i geisio cosbi pobl sy'n gweithio'n galed i weithredu'r caniatâd a roddwyd, neu'r dynodiadau a amlinellwyd, a'u bod yn teimlo'n rhwystredig ei bod hi'n anodd gwneud hynny am resymau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth weithiau. Rydych chi'n dylunio'r meini prawf ar gyfer sut y caiff tir ei gofrestru fel tir gwag ar y gofrestr i gynnwys y pethau hynny yr ydych eisiau eu cynnwys ac i wneud yn siŵr bod y rhai nad yw'r dreth hon yn berthnasol iddynt yn cael eu heithrio ohoni.
Faint fyddai'r dreth yn ei godi? Mae'n rhy gynnar, wrth gwrs, i roi ateb priodol i'r cwestiwn hwnnw. Yng Ngweriniaeth Iwerddon gosodir treth ar 3 y cant o werth y tir yn y flwyddyn gyntaf, sy'n codi i 7 y cant o werth y tir yn yr ail flwyddyn pan na chaiff ei ddefnyddio'n gynhyrchiol. Mae'r Weriniaeth yn credu y byddai hynny'n ddigon o leiaf i dalu am y system newydd, a byddai unrhyw arian dros ben yn cael ei neilltuo at ddibenion adfywio.
O ran treth dwristiaeth leol, fel y dywedais yn fy natganiad, byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am y mater hwn ar lefel weinidogaethol er mwyn datblygu'r sgwrs. Holl ddiben y dreth dwristiaeth erioed, er gwaethaf y cam-ystumio a fu ar y syniad gan rai Aelodau yn y Siambr hon, yw dod o hyd i ffyrdd gwell o fuddsoddi mewn twristiaeth, fel ein bod yn denu mwy o bobl i fod yn rhan o'r diwydiant twristiaeth yma yng Nghymru. Os ydym ni'n bwriadu datblygu'r syniad ar sail rhyddid lleol, byddai hynny yn amlwg ar y sail y cai arian a godir yn y ffordd honno ei ddefnyddio i ymateb i'r gofynion priodol gan dwristiaid am gyfleusterau priodol a gwasanaethau ar lawr gwlad, ac i wneud y gwasanaethau hynny hyd yn oed yn well fel bod pobl sy'n dod i Gymru eisiau ymweld droeon eto yn y dyfodol.
Os caf i groesawu'r datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw gan ddweud fy mod i'n siomedig braidd, wrth gwrs, nad yw e wedi dewis y dreth plastig untro, ond rwy'n croesawu'r ffaith ei fod yn mynd i ddefnyddio'r broses newydd yma i arbrofi gyda threth newydd—cawn ni ei alw fe'n 'taxco', efallai, i gyd-fynd â'r LCO. Ond rydym ni, yn fan hyn, yn cefnogi'r ffaith bod y broses yma yn mynd i gael ei phrofi. Fel mae e yn ei ddatganiad wedi dweud, nid ydym ni'n mynd i ymrwymo yn ddi-droi'n-ôl at y dreth tir gwag yma. Rydym ni eisiau gweld sut fydd yn cael ei datblygu a beth yn union fydd pwrpas a defnydd y dreth a rhychwant ac ystod y dreth yma yng Nghymru. Ond, rydym ni'n sicr yn cefnogi’r egwyddor o ddefnyddio'r broses yma o lunio trethi newydd.
Un cwestiwn yn benodol ar y dreth tir gwag sydd yn bosibl i'w ofyn nawr yw: i bwy y bydd y dreth yn gymwys? Mae'r datganiad yn sôn am ddatblygwyr tir, pobl sy'n dal—gallwch chi feddwl am archfarchnadoedd sydd yn enwog am eistedd ar dir am gyfnodau hir iawn. Ond, y ffaith amdani yw bod lot o dir yng Nghymru yn cael ei berchen gan y sector cyhoeddus, gan y Llywodraeth ei hunan, a gan awdurdodau lleol, a'r sector cyhoeddus yn yr ystyr ehangach, megis prifysgolion, megis colegau, megis cymdeithasau tai, sydd yn dal yn y sector cyhoeddus oni bai ein bod ni'n pasio'r Ddeddf sydd yn cael ei thrafod yn nes ymlaen heddiw. Felly, rwyf eisiau deall: a yw'n gwestiwn y bydd treth o'r fath hefyd yn mynd i fod yn trethu'r sector cyhoeddus am eu bod nhw'n eistedd ar dir gwag? Achos mae braidd yn od i Lywodraeth drethu rhan arall o'r Llywodraeth, fel petai. Nid wyf yn siŵr beth fydd pwrpas hynny. Mae gan y Llywodraeth arfau polisi eraill i fynd i'r afael â'r broblem, yn hytrach na threthu. Dyna'r cwestiwn sydd gyda fi ar hyn o bryd.
Os gwnaf droi at y datganiad yn ehangach, ac os caf i hefyd ddweud bod y datganiad ar lafar heddiw wrth gwrs yn cyd-fynd â datganiad ysgrifenedig a datganiad hirfaith o ddatganiad polisi treth ar gyfer 2018 y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gosod allan, sy'n llawer rhy hir i gael trafodaeth heddiw amdano, ond mae yna gwpwl o bethau sy'n deillio o hynny y liciwn i ofyn heddiw yn ogystal. Yn y polisi treth rydych chi wedi datgan heddiw, un o'r pethau rydych chi'n dweud yw mai amcanion eich polisi chi yw defnyddio trethi er mwyn dylanwadu ar ymddygiad—nid yn unig i godi arian ond i ddylanwadu ar ymddygiad. Yn y cyd destun hwnnw, roedd y dreth ar blastig untro yn edrych yn ddeniadol iawn. Rwy'n deall beth rydych chi'n dweud ynglŷn â datblygiadau ar lefel y Deyrnas Gyfunol, ond a fedrwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni nawr am yr ymwneud fydd gyda chi gyda Llywodraeth San Steffan ar ddatblygu treth plastig untro? Rydych chi'n sôn am fod yn rhan o gasglu tystiolaeth, ond a ydych chi hefyd am fod yn rhan o ffurfio polisi, dylanwadu ar y polisi, a gwneud yn siŵr, os bydd yna dreth plastig untro, drwy'r dulliau hynny, eu bod nhw'n gymwys ar gyfer hynny?
Un o'r cwestiynau sydd wedi cael ei godi sawl gwaith yn y Cynulliad yma wrth inni drafod y syniad yw bod rhaid iddo gyd-fynd â'r ailgylchu uchel sydd gyda ni yng Nghymru, ac mae ailgylchu o fath wahanol mewn rhannau eraill o Brydain. Nid yw pob treth yn mynd i fod yn addas i ni o dro i dro. Un o'r pethau amlwg, felly, os daw treth blastig drwy ddulliau San Steffan, yw y dylai fod rhyw fath o ddylanwad neu rhyw fath o hawl gan y Llywodraeth fan hyn ar lefel y dreth honno. Fel arall, nid oes modd i chi gymhwyso'r dreth ar gyfer y sefyllfa sydd gyda ni yma.
Dau gwestiwn i gloi sy'n codi o'r cyd-destun ehangach rŷch chi wedi cyhoeddi heddiw. Yn y polisi treth rŷch chi'n sôn am drethi lleol a'r egwyddor o sut mae'r rhain yn cydweithio gyda'i gilydd. Rydym ni'n deall, wrth gwrs, eich bod chi'n adolygu trethi busnes, ac rydym ni'n wynebu treth cyngor gyda rhai codiadau uchel iawn o bosib eleni. Mae gyda chi arian craidd o'r Llywodraeth ganolog sy'n mynd i awdurdodau lleol sydd hefyd yn lleihau. Yn Lloegr, mae'n glir erbyn hyn ei bod yn fwriad gan Lywodraeth Lloegr i dorri nôl yn sylweddol ar yr arian sy'n dod o ffynonellau canolog ac i felly annog trethi cyngor a threth busnes i gynyddu er mwyn gwneud i fyny am hynny. Nid wyf yn gweld unrhyw ddatganiad o fwriad na pholisi gan Lywodraeth bresennol Cymru ynglŷn â'r materion yna. A fedrwch chi roi rhyw fath o syniad i ni o ble rydych chi'n gweld trethi lleol yn mynd dros y blynyddoedd nesaf?
Ac yn olaf, rydym ni'n gweld datganoli treth incwm ar y gorwel. Rydych chi wedi dweud yn y gorffennol nad yw'n bolisi'r Llywodraeth yma i newid treth incwm yng Nghymru yn ystod tymor y Cynulliad hwn. A fedrwch chi ailgadarnhau wrth y Cynulliad heddiw mai dyna sy'n aros fel eich polisi chi?
Diolch yn fawr, Simon Thomas, am y cwestiynau yna. Diolch am beth ddywedodd e am gefnogaeth Plaid Cymru i brofi'r system newydd sydd gyda ni, ac i gadw llygad ar y dreth tir gwag a sut rydym ni'n defnyddio honno i brofi y system newydd. Ar yr un cwestiwn roedd Simon Thomas yn codi ar y dreth honno, yn Iwerddon, mae'r dreth yn mynd i bob person a phob awdurdod sy'n gyfrifol am y tir gwag—y tir gwag sydd yn nwylo'r Llywodraeth ei hunan ac awdurdodau lleol ac unrhyw beth arall yn y sector cyhoeddus, achos beth maen nhw'n ddweud yw, os nad yw'r awdurdod lleol, er enghraifft, yn gwneud y gwaith i ddefnyddio'r tir, lle maen nhw wedi cael y permissions ac yn y blaen i ddatblygu'r tir, wel, maen nhw yn yr un sefyllfa ag unrhyw berson arall. Nawr, rwy'n mynd i Iwerddon, gobeithio, yr wythnos nesaf, a gobeithio y bydd cyfle i fi gwrdd gyda'r bobl sy'n gyfrifol am y dreth yna unwaith eto a mynd yn fwy manwl gyda nhw ar y pethau, fel y pethau yn y cwestiwn y mae Simon Thomas wedi'i godi y prynhawn yma.
A throi at y cwestiynau ar y datganiad ysgrifenedig, wrth gwrs, mae lot o'r trethi rydym yn siarad amdanynt yn mynd i gael effaith ar ymddygiad yn fwy na chodi arian. Mae hynny'n wir am dreth ar dir gwag. Beth maen nhw'n ei ddweud yn Iwerddon yw nad ydyn nhw'n disgwyl codi lot o arian, ond maen nhw eisiau newid ymddygiad pobl sy'n jest sefyll ar dir a ddim yn defnyddio y tir am bwrpasau pwysig yn yr Iwerddon.
Faint o ran fydd gennym ni yng ngwaith Llywodraeth y DU o ran y cais am dystiolaeth? Wel, roeddwn yn falch iawn o gael sgwrs faith gydag Ysgrifennydd y Trysorlys. Rwy'n credu ein bod ni wedi sicrhau llais i Gymru yn y cais am dystiolaeth ac y byddwn ni'n gallu dylanwadu ar hynny yma yng Nghymru i wneud yn siŵr y rhoddir ystyriaeth ddyledus i farn Cymru yn y broses honno, a lle mae materion Cymreig yn y fantol byddwn yn gallu tynnu sylw at y rheini yn rhan o'r dadansoddiad. Byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Trysorlys yn y rhan honno o'r broses cyn y dywedir unrhyw beth yn gyhoeddus.
Felly, mae hynny i gyd rwy'n credu yn rheswm dros fod yn gadarnhaol. A yw hynny'n golygu fy mod i'n teimlo y gallwn ni fforddio'n syml i ddibynnu'n llwyr ar yr hyn y bydd ymarferiad y DU o bosib yn esgor arno? Nid wyf yn credu y gallwn ni. Rwyf yn credu bod angen inni barhau i lunio ein syniadau ein hunain. Ac os nad yw'r hyn a ddeilliodd o ymarferiad y DU yn cyd-fynd ag anghenion ac amgylchiadau Cymru yn y ffordd y crybwyllodd Simon Thomas, heb ystyried y ffordd yr ydym ni'n gwneud pethau yma yng Nghymru, ac y byddai'n dal yn well pe baem yn cyflwyno ein treth plastig untro ein hunain, byddem mewn sefyllfa i wneud cais am y pŵer hwnnw. Os gallwn ni wneud hynny ar sail y DU, yna rwy'n credu fy mod i wedi fy argyhoeddi y gallai'r dreth fod yn fwy effeithiol ac y gallai wneud mwy byth i geisio gwireddu'r dyheadau sydd gan bobl sydd o blaid y dreth hon ar ei chyfer, ond byddai'n rhaid inni fod yn hyderus y caiff hynny ei wneud yn y ffordd honno.
Mae Simon Thomas yn llygad ei le yn dweud bod gan Lywodraeth y DU, cyn belled ag y mae awdurdodau lleol yn Lloegr yn y cwestiwn, bolisi clir a manwl o ddiddymu'n llwyr yr arian a gaiff awdurdodau lleol gan y Llywodraeth ganolog, a chaniatáu iddyn nhw godi'r holl arian y maen nhw'n ei ddefnyddio drwy drethiant lleol, gan gynnwys trethi busnes. Mae'n llanast ofnadwy, y polisi hwnnw, oherwydd maen nhw'n darganfod, wrth gwrs, bod y lleoedd hynny sydd â'r angen mwyaf yn codi'r lleiaf o drethi lleol. Bu'n rhaid iddyn nhw ddatblygu pob math o ffyrdd cymhleth o geisio unioni'r system i'r perwyl hwnnw. Nid oes gennym ni unrhyw fwriad i wneud hynny yma yng Nghymru. Mae gennym ni system gyfun ar gyfer ardrethi busnes. Mae deunaw o awdurdodau lleol yng Nghymru yn elwa ohono, mae pedwar yn cyfrannu at y Gronfa, ond mae hynny'n iawn os oes ddiddordeb gennych mewn paru gwariant â'r angen, yn hytrach na rhyw uchelgais eraill.
Rwyf yn y sefyllfa braf o allu rhoi croeso gwresog i ddatganiad yr Ysgrifennydd cyllid heddiw, ac rwy'n canmol ei ymdriniaeth bwyllog a gofalus o'r maes polisi pwysig hwn. Mae wedi dewis yr hyn y credaf o bosib yw'r lleiaf niweidiol o'r dewisiadau yr oedd yn eu cyflwyno i ni, ac rwy'n croesawu llawer o fanylion y datganiad.
Rwy'n falch fod gwaith yn mynd rhagddo ar ardoll gofal cymdeithasol. Rydym wedi cyfeirio at hyn yn y Siambr o'r blaen. Mae'n rhaid inni wynebu'r problemau cyllid tymor hir yn y maes hwn; byddai'n sicr yn anghyfrifol i bob un ohonom ni yn y lle hwn i beidio â chydnabod bod angen inni godi symiau mawr o arian yn y dyfodol i alluogi pobl i fyw bywyd urddasol mewn henaint a llesgedd. Rwy'n falch iawn, iawn, felly, o weld Huw Irranca-Davies yn cael ei benodi i gadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol ar y pwnc hwn. Rwyf bob amser wedi ei ystyried yn rhywun teg ei farn a deallus, os nad yw'n cymryd hynny'n sarhad—[Chwerthin.] Mae'n fater dyrys y bydd angen llawer iawn o waith penodedig arno, ac rwy'n credu bod y penodiad cywir wedi'i wneud.
Yn naturiol, rwy'n falch y cefnwyd ar y syniad o dreth dwristiaeth genedlaethol. Nid wyf yn gwrthwynebu rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol, os ydyn nhw'n awyddus i gyflwyno rhyw fath o ardoll. Rwy'n credu y byddent yn ffôl i wneud hynny, ond fel rhywun sy'n credu mewn datganoli y tu hwnt i'r Cynulliad, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth nad yw o reidrwydd yn beth drwg ynddo'i hun. Rwy'n llawn ddeall ac yn cefnogi'r rhesymau dros beidio â pharhau ar hyn o bryd gyda gwaith ar dreth plastig tafladwy. Rwy'n credu bod Ysgrifennydd y Cabinet yn hollol gywir yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwy'n sylwi, o ran y dreth ar dir gwag, nad yw'r Llywodraeth yn ymrwymedig mewn gwirionedd i'w chyflwyno os, maes o law, nad yw'n barnu mai doeth fyddai gwneud hynny. Felly, ar un ystyr, ymddengys mai ymarferiad academaidd braidd yw'r hyn yr ydym ni'n yn rhan ohono. Ond rwyf yn cytuno bod angen inni roi prawf ar y pwerau yn Neddf Cymru a deall sut mae'r gweithdrefnau'n gweithio a nodi unrhyw ddiffygion a gwendidau posib ynddi.
O ran treth ar dir gwag, rwy'n credu bod anawsterau sylweddol yn hyn o beth. Yn ôl a ddeallaf, yng Ngweriniaeth Iwerddon, amcangyfrifwyd bod y swm a godir gan eu hardoll dim ond yn ddigon i dalu costau casglu, sydd, mae'n debyg, yr hyn sy'n cyfateb mewn treth i balu tyllau dim ond i'w llenwi eto. Wrth gwrs, os mai diben y dreth yw newid ymddygiad yna gallaf ddeall y symbyliad y tu ôl i hynny, ond mae problemau. Sut ydych chi'n gwahaniaethu, er enghraifft, rhwng tir wedi ei neilltuo am ba reswm bynnag—cyfeiriodd Simon Thomas at archfarchnadoedd yn neilltuo tir am gyfnodau hir o amser —? Sut mae gwahaniaethu rhwng banciau tir o'r math hwnnw ar y naill law a thir nad yw wedi ei ddatblygu am resymau y tu hwnt i reolaeth y datblygwr? Bydd hyn yn bwysig, yn arbennig pan rydych mewn cyfnod o gyni economaidd. Bryd hynny, yn aml mae prosiectau a oedd yn ymddangos yn fasnachol bosib ar yr adeg y prynwyd y tir yn mynd yn anhyfyw ac nid oes dewis arall ond aros nes bod modd datblygu. Rwy'n meddwl am brosiectau mawr fel Cylchffordd Cymru, er enghraifft, lle byddai symiau mawr o dir i bob pwrpas wedi eu troi'n anghyfannedd gan amheuaeth ac oedi oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y datblygwyr arfaethedig yno. Gallai gael effaith andwyol sylweddol iawn ar gwmnïau adeiladu yn yr amgylchiadau hynny.
Ac mae'r hyn sy'n gyfystyr â dechrau datblygu yn bwynt diddorol arall. Rwy'n cofio pan oeddwn yn gyfreithiwr cynllunio y gallai gwneud dim amgenach na phalu rhaw yn y pridd fod yn gyfystyr â datblygu, neu gallai hyd yn oed dim ond nodi clwt o dir drwy godi ffens o'i amgylch fod yn gyfystyr â dechrau datblygu at ddibenion cynllunio. Mae'n rhaid inni gydnabod hefyd, gan fod gennym ni dir sy'n ffinio â Lloegr, os nad oes unrhyw dreth ar dir gwag yn Lloegr, y gall adeiladwyr tai fod yn llai tebygol o fuddsoddi mewn datblygiadau tai yng Nghymru nag yn Lloegr. Fel y dywed Andrew Whitaker o Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai:
Gydag adeiladwyr tai cenedlaethol yn amlwg mae gennych chi gystadleuaeth rhwng buddsoddi eich arian yng Nghymru a buddsoddi eich arian yn Lloegr.
A dyna un o'r pryderon sydd ganddyn nhw.
Mae John McCartney, y cyfarwyddwr gwaith ymchwil ar gyfer Savills yn Iwerddon, wedi dweud mai canlyniad yr ardoll sydd wedi'i gyflwyno yn Iwerddon yw na fydd unrhyw ddatblygwr bellach yn bancio tir pan fo'r farchnad yn wan. Mae hyn yn golygu pan ddaw adferiad, y bydd datblygwyr yn treulio'r blynyddoedd cynnar yn paratoi'r safleoedd yn hytrach nag adeiladu tai y gallent ac y dylent fod yn ei wneud.
Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus nad oes canlyniadau anfwriadol. Rwy'n falch bod Simon Thomas wedi holi am dir sy'n eiddo i'r Llywodraeth, boed hynny'n Llywodraeth Leol neu'n Llywodraeth Genedlaethol, oherwydd mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn berchen ar ardaloedd helaeth o dir y gellid ei ddatblygu mewn modd defnyddiol, a bu hynny'n sgandal mawr, rwy'n credu, ers blynyddoedd maith, maith. Mae unrhyw beth a allai helpu i ryddhau tir o'r sector cyhoeddus nad yw'n mynd i gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben ymarferol yn beth da yn fy marn i.
Mae llawer o'r problemau o ran eiddo gwag, wrth gwrs, yn berthnasol i dir sydd wedi ei ddatblygu eisoes—adeiladau gweigion, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, y caniateir iddyn nhw ddirywio ac sy'n boendod i'r rheini sy'n gymdogion gan eu bod yn hyll ac yn broblem i awdurdodau lleol sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau ymddygiad gwrth-gymdeithasol a grëir gan y pethau hyn.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn troedio'n ofalus gyda'r pwyll canmoladwy y mae wedi ei ddangos gyda'r datganiad hwn. Ond rwy'n falch iawn, fel y dywedais ar ddechrau fy ymateb i'r datganiad heddiw, o allu croesawu'r hyn rwy'n credu sy'n gyfraniad meddylgar at ddadl bwysig.
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y sylwadau hynny. Mae ef a minnau wedi cytuno o'r blaen yn y Siambr fod talu am ofal cymdeithasol yn un o'r materion hynny y mae Llywodraethau olynol wedi methu mynd i'r afael â nhw, ac i lunio polisi llwyddiannus yn ganlyniad. Bydd llawer ohonom yn cofio ein cyd-Aelod, Gwenda Thomas, yn llunio papur gwyrdd ar dalu am ofal cymdeithasol bron ddegawd yn ôl yma yn y Cynulliad hwn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am gytuno y bydd Huw Irranca-Davies yn cadeirio'r grŵp rhyng-weinidogol hwn i wneud yn siŵr ein bod yn cydlynu ein holl ddadleuon. Ond bydd gan y grŵp hefyd berthynas bwysig â Llywodraeth y DU, oherwydd un o'r pethau heriol ynglŷn â deddfu ynghylch gofal cymdeithasol yng Nghymru yw bod y cyfrifoldebau yn gorgyffwrdd yn uniongyrchol â rhai'r Trysorlys, rhai'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a rhai yn yr adran Gwaith a Phensiynau. Ac er mwyn dylunio treth lwyddiannus i Gymru yn y maes hwn byddai angen bod yn sicr y llwyddwyd i ddatrys yr agweddau pwysig iawn hynny sy'n gorgyffwrdd.
Rwy'n cydnabod y sylw a wnaeth yr Aelod am ei gefnogaeth i roi pwerau caniataol i awdurdodau lleol. Roedd yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith imi wneud ymdrech arbennig yn fy natganiad i egluro bod a wnelo hyn â cheisio cael grymoedd i Gymru. Nid yw hyn yn warant, pe bai'r pwerau hynny yn dod yma a phetaem ni'n gwneud y gwaith manwl ac yn cynnal yr amrywiol ymgynghoriadau, y byddem yn dod i gasgliad ynghylch yr hyn a wnaem ni wedyn, yn wyneb yr wybodaeth helaethach honno. Roedd nifer o'r cwestiynau a holodd yr Aelod yn union y mathau o bethau y byddech yn dymuno eu harchwilio'n briodol yn y cyfnod hwnnw i wneud yn siŵr bod y canlyniadau anfwriadol wedi cael sylw pwrpasol.
Yng Ngweriniaeth Iwerddon, maen nhw'n credu bod ganddyn nhw atebion ymarferol i lawer o'r pwyntiau a godwyd. Ond byddai'n rhaid inni fod yn ffyddiog ein bod wedi ystyried y materion hynny yng nghyd-destun Cymru ac wedi dod i'n casgliadau ein hunain.
A gaf i gloi drwy gyfeirio at sylw a wnaeth Neil Hamilton tuag at y diwedd? Mae'r ddadl ynghylch treth ar dir gwag yn tueddu i ganolbwyntio ar faterion tai. Ond yn y Weriniaeth, roedden nhw'n awyddus iawn i ddweud wrthyf eu bod yn ei ystyried yn fodd i ymdrin â dadfeiliad trefol cymaint ag y maen nhw'n ei ystyried yn offeryn ar gyfer datblygu tir ar gyfer tai. Ac mewn rhannau o ardaloedd trefol lle prynir tai ond ni wneir dim â nhw, lle mae gennych chi effaith negyddol ar ardal gyfan sy'n llyffethair i'w hadfywio, maen nhw'n ystyried hyn yn offeryn—offeryn grymus—sydd ganddyn nhw er mwyn ceisio ymyrryd yn yr amgylchiadau hynny. Felly, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ddweud unwaith eto bod tai yn bolisi targed pwysig iawn ar gyfer treth ar dir gwag, ond mae adfywio a mynd i'r afael â dadfeiliad yn ddibenion yr un mor bwysig.
Mae trethiant yn bodoli er mwyn codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a newid ymddygiad—y ddau os oes modd. Dim trethiant: dim gwasanaethau cyhoeddus. Mae dwy dreth wedi eu datganoli ar hyn o bryd ac i'w casglu yn fuan. Mae treth trafodiadau tir yn bodoli er mwyn codi arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac, o ran y ffordd y mae wedi ei weithredu, i roi mwy o gostau ar y rheini sy'n gallu ei fforddio fwyaf. Mae hynny yn rhywbeth yr wyf yn ei gymeradwyo. Mae treth gwarediadau tirlenwi yn dreth ymddygiad—hebddi, ni fyddai unrhyw fudd ariannol mewn ailgylchu, ac mae wedi bod yn hynod o effeithiol yn ei nod o gynyddu ailgylchu, sydd wedi gwthio Cymru i fyny i'r drydedd safle orau ledled y byd.
O ran y trethi sy'n cael eu hystyried, y dreth dwristiaeth, mae pris ystafelloedd gwesty ac aros mewn meysydd carafanau yn amrywio'n fawr yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn. Sylweddolais imi dalu treth dwristiaeth ar fy ystafell pan oeddwn ar wyliau y llynedd—nid cyn i mi fynd ar fy ngwyliau, ond pan edrychais ar y gwledydd a'r dinasoedd sy'n codi'r dreth honno, ac am y tro cyntaf roeddwn yn gwybod fy mod wedi ei thalu mewn gwirionedd.
O ran y dreth ar blastig tafladwy, sy'n rhywbeth rwy'n credu y mae'n rhaid ei gyflwyno, nid yw o bwys i mi a wneir hynny gan Lywodraeth y DU neu gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen hynny arnom ni. Yn wir, pan rwy'n dweud 'angen', rwy'n credu bod ar y byd ei angen er mwyn ceisio atal gwaredu'r holl blastig hwn sy'n achosi problemau enfawr ledled Prydain, ond mewn gwirionedd ledled y byd. Ymddengys fod yr hen syniad y gallwch chi daflu pethau yn y môr ac y byddan nhw, drwy ryw hud a lledrith, yn diflannu, yn dal yn bodoli o ran y safbwyntiau sydd gan bobl ynglŷn â phlastig. Felly, os na fydd Llywodraeth San Steffan yn llunio unrhyw beth sy'n dderbyniol, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo ei hun i gyflwyno rhywbeth yma, fel y gallwn ni symud ymlaen, oherwydd rwy'n credu bod cefnogaeth i hyn ym mhob rhan o'r Siambr er mwyn ymdrin â'r hyn sy'n broblem enfawr?
Mae treth ar dir gwag yn ddiddorol. Mae dau beth y gellir ei ddweud am dir: does dim modd ei symud a dydyn nhw ddim yn gwneud mwy ohono. Rwy'n credu mai dyna'r pethau pwysig. Ni all pobl benderfynu ei godi a mynd ag ef i Loegr, oni bai eu bod yn symud y ffin, felly mae'n bwysig. Mae ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn enghraifft o sut y gallai treth ar dir gwag weithio yng Nghymru. Gyda'r model hwn, mae awdurdodau cynllunio yn llunio cofrestr o safleoedd gwag yn eu hardaloedd. Pan fydd safle ar y gofrestr wedi bod yn wag am flwyddyn, mae'r ardoll yn berthnasol a chaiff ei chasglu'n flynyddol gan yr awdurdod cynllunio. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd dwy fantais i hyn? Un: mae'n atal bancio tir, sy'n aml yn rhwystro datblygwyr eraill—pobl yn prynu tir er mwyn atal datblygwyr eraill rhag gallu ei ddatblygu; a bydd hefyd yn atal y duedd sydd gan bobl o geisio cael pethau mewn cynllun datblygu lleol yn y gobaith ymhen peth amser yn y dyfodol y byddant yn gallu ei ddatblygu. Ar ôl iddyn nhw ei roi yn y math hwnnw o fanc tir, bydd yn rhaid iddyn nhw mewn gwirionedd ddechrau rhoi rhywfaint o ystyriaeth i—os gallaf ddefnyddio term o'r byd rygbi, 'defnyddiwch ef neu fe gollwch ef'— ac os nad ydyn nhw'n dechrau datblygu, mae'n mynd i ddechrau costio llawer iawn o arian iddyn nhw yn gyflym iawn, iawn.
Wel, Llywydd, hoffwn i ddiolch i Mike Hedges, am ei gefnogaeth gyson a chryf i'r dull gweithredu yr ydym ni wedi ei fabwysiadu ar gyfer y ddwy dreth a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill, ond hefyd am yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma. Mae trethi twristiaeth yn gyffredin ar draws y byd. Rydym ni'n gwybod bod diddordeb cynyddol ynddynt dros y ffin, yn Birmingham ac yng Nghaerfaddon, a'r hyn yr wyf i wedi'i ddweud y prynhawn yma—fel yr wyf wedi ceisio'i ddweud yn eglur—yw nad ydym ni'n troi ein cefn ar y syniad hwn, yn hytrach, rydym ni'n ceisio bwrw ymlaen ag ef yn y ffordd fwyaf addas i Gymru.
Mae gen i deimlad bod yr Aelod yn iawn bod treth plastigau ar y gorwel. Cafodd 125 miliwn o gwpanau untro eu taflu yng Nghymru y llynedd. Un cant a phum miliwn ar hugain ohonyn nhw yng Nghymru yn unig. Mae hon yn broblem y mae taer angen i lywodraethau fynd i'r afael â hi, ac mae'r cyhoedd, fel erioed, ar y blaen inni yn hyn o beth. Maen nhw'n disgwyl i gamau gael eu cymryd. Os na fydd camau yn cael eu cymryd ar lefel y DU yn y ffordd yr ydym ni'n gobeithio, ac mewn rhai ffyrdd y byddai'n well gennym ni ei weld, yna yn sicr byddwn i'n dychwelyd i'r syniad yma yng Nghymru, a byddwn ni'n gwneud y gwaith yn y cyfamser a fydd yn caniatáu inni wneud hynny. Rwy'n credu y bydd rhoi prawf ar y system gyda threth ar dir gwag yn ei gwneud yn haws i allu mynd ar ôl y trywydd hwnnw gyda syniadau eraill, syniadau mwy arwyddocaol weithiau, yn y dyfodol.
O ran y dreth ar dir gwag, mae yn llygad ei le. Rwy'n credu mai Mark Twain a atebodd rywun a oedd wedi gofyn iddo am gyngor ar le y gallai fuddsoddi ei arian, gan ddweud, 'Pryna dir, dydyn nhw ddim yn ei gynhyrchu mwyach.' Ac mae hwn yn faes lle mae angen i ni wneud mwy er mwyn gwneud y defnydd gorau posibl o'r adnodd sydd gennym ni. Mae bancio tir yn digwydd er mwyn atal rhywun arall rhag gwneud defnydd da a cynhyrchiol o'r tir hwnnw. Ac mae yna bobl sydd, mewn ffordd hapfasnachol, yn ceisio ac yn cael caniatâd i ddefnyddio tir at ddibenion penodol. Mae'r ymdrech a wnaed gan y cyhoedd, o ran rhoi'r caniatâd hynny, yn caniatáu i werth y tir hwnnw godi. Nid yw'r bobl sy'n eistedd arno wedi gwneud unrhyw ymdrech o gwbl eu hunain, i beri hynny i ddigwydd, ac maent yn gobeithio y byddant yn gwneud elw gan gymryd yr holl fuddion ohono ar ôl i'r cyhoedd ysgwyddo'r holl gostau. Ac mae treth ar dir gwag yn un ffordd bosibl o wneud y posibilrwydd hwnnw yn llai deniadol.
Mae ein hamser ni bron ar ben ar y datganiad hwn, ond rwyf eisiau galw ychydig o siaradwyr eraill, ond mae'n rhaid i mi bwysleisio bod angen cwestiynau cryno nawr. Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd dros gyllid bod bendant angen i ni edrych yn fanylach ar y dreth dir gwag hon. Mae'n dweud y byddai'r dreth dir gwag yn gymwys i dir sydd eisoes wedi'i nodi fel tir sy'n addas i'w ddatblygu. Ai goblygiadau hynny felly yw ei fod yn dir sydd wedi ei nodi yn y CDLl, ac os felly, a yw'n briodol mewn gwirionedd, o ran y rhagolwg 15, 20 mlynedd sydd gan hynny, i gyflwyno treth lle byddwch yn talu 7 y cant yn yr ail flwyddyn os nad ydych chi wedi mynd ati i'w ddatblygu? Rwy'n tybio nad ydym ni eisiau i'r holl dir yn y CDLl gael ei ddatblygu ar unwaith. Neu a yw hyn wedi'i seilio ar ganiatâd cynllunio? Os felly, mae yna risg sylweddol y byddai pobl yn oedi cyn gwneud cais am ganiatâd cynllunio, onid oes? A bydd nifer y ceisiadau am ganiatâd cynllunio sy'n dod drwodd yn gostwng oherwydd yr ofn y byddai'r dreth hon yn dod i mewn? Mae'n dweud bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio sefydlu cofrestr o safleoedd gwag yn eu hardaloedd nhw. A yw hynny wedyn yn awgrymu ein bod yn sôn am rywbeth gwahanol i leoedd yn y CDLl neu leoedd sydd wedi cael caniatâd cynllunio? A sut ar y ddaear y mae'n mynd i gysoni'r tri chysyniad hyn?
Soniodd, wrth ymateb i Simon Thomas, ei fod eisiau i hwn fod yn gymwys i dir y sector cyhoeddus, a bod hynny'n bwysig. Os yw'r awdurdod lleol yn gyfrifol am lunio cofrestr tir gwag, pam y byddai'n disgwyl i'r awdurdod lleol hwnnw nodi ei dir ei hun fel y gall talu llawer o drethi ychwanegol iddo ef, a helpu Llywodraeth Cymru? Hefyd rydym ni'n sôn o bosibl am tua bron—. Mae'n ddrwg gennyf, fe adawaf y pwynt hwnnw, er mwyn bod ychydig yn gyflymach. Ond sut y byddwch yn pennu'r gwerth? Ai dyma'r gwerth gyda chaniatâd cynllunio? Ai dyma'r gwerth pan fo'r dreth yn gymwys ai peidio? Yn ôl pob tebyg, mae gorfod talu'r dreth hon yn mynd i leihau gwerth y tir ar gyfer y sawl sy'n berchen arno. Ac a oes yna hefyd berygl, ar y cyd â'i daerineb i ddatblygwyr dalu 6 y cant yn hytrach na'r 5 y cant sydd yn Lloegr pan fyddant yn datblygu, dyweder, tir, gan gynnwys y rhan fwyaf o swyddfeydd dros £1 miliwn, os bydd ef wedyn yn ychwanegu at hynny y dreth ychwanegol hon ar dir gwag, onid oes risg y bydd datblygwyr, yn arbennig y rhai hynny o Loegr, yn edrych dros y ffin ar Gymru dan Lywodraeth Lafur a gweld dim ond trethi yn codi, mwy o drethi newydd yn dod i mewn, ac yn penderfynu peidio â buddsoddi yma o gwbl?
Wel, mae bron pob cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi yn briodol, ond roedd yn iawn yn y dechrau eu bod yn briodol ar gyfer pwynt yn y broses pan fydd y pŵer ar gael i ni yn y Cynulliad Cenedlaethol, ac nid ar adeg pan na allem ni wneud unrhyw beth yn y maes hwn, pa un a allem ateb y cwestiynau hynny i gyd ai peidio. Rwy'n gwneud tri phwynt mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd yr Aelod.
Yn gyntaf oll, rwy'n rhannu pryderon Canghellor y Trysorlys, a gododd yn ystod ei araith ar y gyllideb, pan gyfeiriodd at y miloedd o geisiadau datblygu tai sydd wedi eu caniatáu yn Llundain, ond heb eu defnyddio. A dyna pam y mae wedi gofyn i Syr Oliver Letwin lunio adroddiad ar y mater hwnnw, a byddwn ni'n edrych yn ofalus ar yr hyn y bydd gan yr adroddiad i'w ddweud.
Yn ail, gofynnodd pam y dylai awdurdod lleol roi ei dir gwag ei hun ar gofrestr os yw'n mynd i gael ei drethu arno. Un o'r pethau a ddywedwyd wrthyf yng Ngweriniaeth Iwerddon, Dirprwy Lywydd, oedd pa mor llwyddiannus a phoblogaidd oedd y syniad hwn, gydag aelodau o'r cyhoedd yn ffonio'r awdurdod lleol, i ddweud, 'Pam nad yw'r darn hwnnw o dir gwag ar ddiwedd fy stryd ar eich cofrestr?' Felly, nid yw hwn yn fater lle mae'r awdurdod lleol yn farnwr ac yn rheithgor yn ei achos ei hun. Bydd yna feini prawf, a bydd dinasyddion ymhlith y rhai hynny a fydd yn goruchwylio'r polisi hwn i wneud yn siŵr ei fod yn llwyddo.
Ac, yn olaf, ac yn drydydd, gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod nad yw rhai ohonom ni yn y fan yma bob amser yn credu, gan fod rhywbeth gwahanol yn digwydd ar un ochr y ffin, ei bod yn anochel mai ar ochr Lloegr bydd y datblygiad gwell, ac y bydd Cymru bob amser o dan anfantais. Rydym ni'n gwneud pethau oherwydd ein bod yn credu ein bod yn eu gwneud yn well yn y fan yma, a dyna beth yr ydym ni yma i'w wneud.
A gaf i groesawu penderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i roi prawf ar y pŵer newydd gyda'r dreth tir gwag? Mae'n ddefnyddiol gwybod bod ardoll safleoedd gwag Gweriniaeth Iwerddon yn cynnig man cychwyn defnyddiol ar gyfer treth o'r fath yng Nghymru. A fyddai'n cytuno y gallai treth o'r fath wneud rhywbeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cynyddol mewn cyfoeth, a'r ffordd y caiff ei ddosbarthu, ac mae'r anghydraddoldeb hynny i'w weld yn glir yn y mater o fancio tir? Rwy'n deall, wrth gwrs, mai'r cam cyntaf yw sicrhau pŵer gan San Steffan. Meddwl ydw i, tybed a yw'r trafodaethau wedi digwydd ar lefel swyddogol neu weinidogol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y pedwar cynnig treth, gan gynnwys y dreth dir gwag, i baratoi'r ffordd er mwyn ar y cyhoeddiad heddiw. Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig cydnabod y bydd treth tir gwag yn helpu i roi sylw i'r angen i sicrhau tir gwag ar gyfer tai. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei groesawu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sy'n ceisio diwallu anghenion tai lleol. A yw unrhyw waith mapio neu samplu tir gwag wedi ei gynnal, ar sail peilot neu ehangach yng Nghymru, i nodi cwmpas a maint y tir a allai fod yn ddarostyngedig i'r dreth hon?
Rwy'n croesawu hefyd ei ymrwymiad i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol yng Nghymru. Rwy'n gwybod yn sicr y caiff hon ei chroesawu gan Jones Dairies yn fy etholaeth i, sydd eisoes wedi cofleidio neges Blue Planet, ac wedi gweld cynnydd o 500 yn nifer y poteli llaeth a archebwyd dros yr wythnos ddiwethaf, i'w dosbarthu gan y lorïau llaeth sy'n dod lawr fy stryd i yn dawel fach yn gynnar yn y bore. Mae'n bwysig iawn ein bod yn darparu mwy o wybodaeth—fel y dywedwch, mae'r cyhoedd wedi croesawu'r neges hon—fel y gall yr alwad am dystiolaeth gynnwys y rhai sydd eisiau cymryd rhan, fel Chris Jones o'r llaethdy yn fy etholaeth.
Yn olaf, a gaf i groesawu ei ymrwymiad i edrych ar y rhagolygon ar gyfer ardoll gofal cymdeithasol? A wnaiff ymrwymo ei hun neu, yn wir, y Gweinidog Huw Irranca-Davies i gyflwyno adroddiad i'r Cynulliad ar y model yswiriant cymdeithasol gwell hwn? Rwy'n deall y disgwylir adroddiad ym mis Mai. Rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, y gall bwrw ymlaen â hynny fod yn ymateb pwysig iawn i'r arolwg seneddol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Ochr yn ochr â'i dreth tir gwag arfaethedig ac, yn wir, ei waith ar dreth plastig tafladwy, rwy'n credu y bydd hyn i gyd yn dangos bod Cymru ar flaen y gad o ran diwygio cymdeithasol blaengar.
A gaf i ddiolch i Jane Hutt am y cwestiynau hynny i gyd? Dechreuodd llawer o'r trafodaethau hyn pan oedd ganddi hi'r cyfrifoldeb fel Gweinidog cyllid yma yn y Cynulliad, ac rwy'n gwybod pa mor gyfarwydd fydd hi â nhw.
Gallaf ei sicrhau fy mod wedi trafod pob un o'r pedwar cynnig treth â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, yn enwedig o ran y dreth gofal cymdeithasol, i sicrhau bod drysau'n agor i ni gael trafod y syniad hwn â rhannau eraill o Whitehall, ac o ran y dreth plastigau, i wneud yn siŵr bod Cymru yn ymgysylltu cymaint ag y gallwn yn yr alwad am dystiolaeth y mae Llywodraeth y DU yn ei gyflwyno. Bydd y ffaith ein bod wedi cynnig helpu i wneud yn siŵr bod yr alwad honno am dystiolaeth yn cael cyhoeddusrwydd eang yng Nghymru, gobeithio, yn agor drysau i'w hetholwyr ac eraill i gymryd rhan ynddi. Mae hi yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith bod y cyhoedd ar y blaen o ran y ddadl hon, a'u bod eisoes yn cymryd camau yn eu bywydau eu hunain i fynd i'r afael â'r niwed y gall plastigau ei wneud ar yr amgylchedd sydd i bawb ei fwynhau.
O ran unrhyw fapio neu gynlluniau peilot, gallaf ddweud hyn, mewn arolwg sampl o dir a nodir mewn cynlluniau datblygu lleol at ddibenion datblygu tai, daeth i'r amlwg nad oes unrhyw weithgarwch o gwbl yn digwydd ar 25 y cant o'r holl safleoedd hynny. Arolwg bach ydyw, ac mae'n arolwg sampl, felly ni fyddwn i eisiau rhoi gormodedd o bwysau arno, ond mae'n arwydd, rwy'n credu, o raddfa'r mater hwn.
Datblygiad arall i'w nodi: cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar brosiect yn defnyddio cyfalaf trafodion ariannol gwerth £32 miliwn ac £8 miliwn o gyfalaf confensiynol ar gronfa o safleoedd sydd wedi arafu, i ddwyn safleoedd yn eu blaenau fel y gellir eu defnyddio at ddibenion cyhoeddus priodol. Mae dros 400 o safleoedd yng Nghymru wedi'u nodi a allai elwa ar y gronfa honno.
Jest cwpwl o gwestiynau ar y cynllun gwaith o ran trethi lleol. A ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn gallu dweud a ydy'r gwaith y mae e'n sôn amdano fe o ran adolygu'r dreth gyngor ar y raddfa radical o ran unioni'r baich trethiannol i'w wneud e'n decach, er enghraifft, ar y math o linellau mae fy mhlaid i wedi eu cynnig yn y gorffennol, a hefyd yr Athro Gerry Holham? Pryd mae'r gwaith yna yn mynd i gael ei gyhoeddi ac a yw e'n fwriad i ddod ag argymhellion gerbron yn ystod y Senedd hon?
O ran y gwaith treth gwerth tir a'r gwaith cysylltiedig yn yr un modd, hynny yw, a oes yna ymchwil wedi cael ei gomisiynu a phryd mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn bwriadu cyhoeddi neu ymgynghori ar hynny? Ac a yw e hefyd yn bwriadu dod ag argymhellion gerbron yn ystod y Senedd hon? Ac, yn olaf, mae yna gyfeiriad at yr ymrwymiad i adolygu’r trethi datganoledig presennol o fewn tair i bum mlynedd o fis Ebrill eleni. Wel, pa un o’r rheini fydd e? Hynny yw, o fewn tair neu o fewn pump? A ydy’r Llywodraeth wedi gwneud penderfyniad eto?
Diolch i Adam Price am bob un o'r cwestiynau hynny. Nid ydym wedi penderfynu ar y cwestiwn olaf oherwydd ei bod yn rhy gynnar, rydym ni'n credu, yn y broses.
O ran yr atodiad ail gartrefi yn y dreth trafodiadau tir, mae yna ddwy ran o'r rhaglen waith sydd wedi'u cytuno â Phlaid Cymru. Fe wnaethom ni addo gwneud dadansoddiad rhanbarthol o hynny, ar ôl i Awdurdod Cyllid Cymru gael ei sefydlu a dechrau gweithredu, i weld a ellir graddnodi treth i lefel leol, ac rwyf wedi cymryd o ddifrif y pwyntiau hynny y mae Siân Gwenllian wedi eu gwneud yn rheolaidd yn y Siambr hon am y ffordd y gall trethu ail gartrefi arwain at ganlyniad anfwriadol o berchnogion ail gartrefi yn newid o drethi domestig, gan hawlio eu bod yn fusnesau, a bod awdurdodau lleol yn colli ffrwd incwm bosibl yn y ffordd honno, ac mae hynny'n rhan o'r rhaglen waith erbyn hyn.
O ystyried dyfodol trethiant lleol yn ei chyfanrwydd, rwy'n gobeithio sefylll ar y pen radicalaidd. Yr hyn yr wyf wedi'i ddweud yn y Siambr o'r blaen, Dirprwy Lywydd, yw fy mod i wedi paratoi darn o waith yn y tymor Cynulliad hwn a fydd yn edrych yn fanwl ymarferol ar ba un a fyddai ffurfiau amgen o drethiant lleol megis treth gwerth tir yn well na'r math o drethiant sydd gennym ni ar hyn o bryd yng Nghymru. Rwyf eisiau i'r Cynulliad fod mewn sefyllfa i ddod i gasgliad ar y ddadl honno, nid ar rinweddau haniaethol gwahanol syniadau polisi, ond ar beth y byddai'n ei gymryd i wireddu ffyrdd amgen o wneud pethau yng Nghymru. Beth fyddai angen inni ei wneud? A fyddai gennym ni'r hyder y byddai hon yn system well na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd? Nid ydym ni yn y sefyllfa lle mae gennym yr wybodaeth sydd ei hangen arnom i wneud penderfyniad cytbwys am hynny; rwy'n gobeithio y byddwn ni yn y sefyllfa honno, yn sgil y gwaith a wneir yn y tymor Cynulliad hwn.
Diolch. Ac, yn olaf, Vikki Howells.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod yn gyhoeddiad cyffrous iawn. Mae bancio tir yn sicr yn broblem sy'n—cael ei mynegi'n gryf iawn ar lawr gwlad yng Nghwm Cynon, ac roedd fy nghwestiwn cyntaf i yn y Siambr ar ôl i mi gael fy ethol yn ymwneud â bancio tir.
Mae fy nghwestiwn yn canolbwyntio ar y datganiad a wnaethoch yn gynharach, pan ddywedasoch, yn Iwerddon, maen nhw'n gweld hwn yn ddull o ymdrin â thir diffaith trefol, a dyna'n sicr sut y caiff ei weld yn fy etholaeth i, bod bancio tir yn arwain at ddiffeithwch trefol. A dweud y gwir, cynhaliais ddigwyddiad ar fynediad at fannau cymunedol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Tir ychydig wythnosau yn ôl, ac fe wnaethant dynnu sylw at y ffyrdd y mae safleoedd sydd wedi eu gadael mewn cyflwr gwael yn effeithio ar eu hardal leol. Rhai o'r pethau a ddywedasant oedd y gall hynny gyfrannu at salwch meddyliol a chorfforol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chwalu cymunedol i'r rhai sy'n byw o amgylch safleoedd o'r fath.
Fy nghwestiwn i chi, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, yw: a yw'r rhain yn ddadleuon yr ydych chi'n eu hystyried, ac a ydyn nhw'n ddadleuon y byddech yn ceisio mynd ar eu trywydd wrth i chi ddatblygu'r cynnig ac efallai yn eu cysylltu â nodau cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru?
Dirprwy Lywydd, diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi yn fawr iawn, os byddwn ni'n cael y pŵer i gyflwyno treth dir gwag, oherwydd y diddordeb hirdymor y mae wedi'i gael yn y mater hwn.
Rwy'n falch ein bod yn gorffen y drafodaeth hon drwy fynd yn ôl i ddefnyddioldeb o gael treth dir gwag yn yr ardal o adfeiliedigrwydd trefol a safleoedd sydd wedi eu gadael yn wag. Gall pawb ohonom ni ddychmygu sut y mae'n teimlo gorfod byw yn rhywle lle mae, o'ch cwmpas chi, adeiladau heb eu meddiannu, lle mae tipio anghyfreithlon yn digwydd, a lle nad oes teimlad o gwbl fod cariad at y lle yr ydych yn byw ynddo na dyfodol cadarnhaol. Ac felly, os ydym ni'n gallu defnyddio treth dir gwag i drechu, nid pobl sydd wedi caffael tir oherwydd bod ganddyn nhw gynllun ar ei gyfer ac maen nhw ysgogi'r ynni angenrheidiol a'r ymdrech i wneud y cynllun hwnnw ddigwydd, ond pobl sy'n brynu lleoedd ar hap ac yn dibynnu ar y farchnad heb unrhyw ymdrech ganddyn nhw eu hunain i weld y prisiau godi, gwneud arian ohoni, a gadael ar eu hôl malltod ar fywydau i'r rhai hynny sydd wedi talu pris am eu gweithredoedd, ac os gallwn ni ddefnyddio treth dir gwag fel rhan o'r arfogaeth polisi sydd gennym ni i atal hynny rhag digwydd mewn rhannau o Gymru, yna bydd yr holl ymdrech hwn wedi bod yn werth chweil.