2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau rhynglywodraethol diweddar am berthynas Cymru gyda'r UE yn y dyfodol? OAQ51758
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae cyfarfodydd diweddar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn fwy adeiladol nag o'r blaen. Fodd bynnag, mae'r mecanweithiau'n ddiffygiol o hyd o ran eu cynllun a’u cyflawniad. Mae angen cymryd camau pellach i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried wrth lunio unrhyw berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Efallai y byddai wedi bod yn fwy defnyddiol i mi ofyn am weithgarwch mewnol Llywodraeth y DU, oherwydd hyd y gwelaf, ni allant gytuno ymysg eu hunain ar hyn o bryd ar natur ein perthynas gyda'r UE yn y dyfodol, felly mae'n anodd iawn gweld sut y gallant siarad yn gall gyda'r gwledydd datganoledig ynglŷn â hynny. Rydym wedi clywed sawl tro, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y cloc yn tician bellach mewn perthynas â thrafodaethau'r UE, ac mae arnaf ofn fod amser yn ein herbyn bellach os ydym yn dymuno sicrhau'r fargen orau ar gyfer Cymru a'r DU. O gofio nad yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion wedi cyfarfod ers mis Rhagfyr, ac nad ydynt yn darparu mecanwaith ar gyfer yr ymgysylltu difrifol sydd ei angen mewn perthynas â'r materion hyn, ac yn sgil y dadansoddiadau cenedlaethol, rhanbarthol a sectorol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac rwy'n gobeithio cael golwg arnynt ryw dro y prynhawn yma, a ydych yn cytuno ei bod yn hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cael siâp ar bethau fel y gall y gwledydd datganoledig gael cyfle priodol i gynllunio ar gyfer canlyniadau'r negodiadau hyn gyda'r Undeb Ewropeaidd?
Lywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod nad yw'r materion heriol iawn sydd dan sylw wrth drafod dyfodol y DU y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd yn elwa o gwbl o anallu Llywodraeth y DU i drefnu ei hun mewn ffordd bwrpasol a dibynadwy. Pan fydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar negodiadau'r UE yn cyfarfod y tro nesaf, bydd yn cael ei gadeirio gan ei bumed cadeirydd yn y 15 mis ers ei sefydlu. Nid yw'n syndod nad ydym wedi cyfarfod ers mis Rhagfyr pan ydym wedi cael newid arall yn y personél ar lefel uchaf y corff hwnnw. Felly, mae ymdrin â Llywodraeth y DU yn peri llawer o rwystredigaeth o ran y ffordd y maent yn cael trafferth darparu un llais cydlynol sy'n cynrychioli eu barn ynglŷn â'r pethau hyn, ac yna darparu'r math o arweiniad ymarferol y bydd ei angen wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fanteisio ar bob cyfle posibl, serch hynny, i chwarae rhan adeiladol ym mhob fforwm y cawn wahoddiad iddo ac ym mhob ymwneud rhyngom a Llywodraeth y DU.
Un peth a wyddom, Ysgrifennydd y Cabinet, yw y bydd ôl troed gweithgarwch diplomyddol ar draws yr Undeb Ewropeaidd yn newid o'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ac maent yn darparu mwy o adnoddau i’w gweithgaredd. Yn amlwg, mae'n hanfodol fod yr ôl troed newydd hwnnw yn cydnabod y cyd-destun datganoledig y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu ynddo, a hoffwn ddeall pa ryngweithio a wnaeth ei adran gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad i sicrhau bod rôl gynrychioliadol Cymru o fewn yr ôl troed newydd yn cael ei chydnabod yn ddiplomyddol ac mor gryf â phosibl?
Lywydd, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cael ei chynrychioli o bryd i'w gilydd ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar y negodiadau Ewropeaidd, ac fel arfer caiff ei chynrychioli ar y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop. Mae hynny'n rhoi cyfle inni drafod y ffordd y bydd cynrychiolaeth ddiplomyddol yn cael ei threfnu ar ôl Brexit yn uniongyrchol gyda Gweinidogion y DU. Rydym yn manteisio ar bob cyfle a gawn i sicrhau bod y cynrychiolwyr hynny’n ymwybodol o’r angen i bresenoldeb y DU fod yn wirioneddol gynrychioladol o'r Deyrnas Unedig gyfan, ac yn cynnig cymorth rheolaidd i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau, wrth iddi siarad ar ran y Deyrnas Unedig, ei bod yn ymwybodol o fuddiannau Cymru a'r cyfleoedd a fydd ar gael i Gymru ar ôl Brexit.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y gallai fod yn barod i wrthdroi ei hymagwedd at y Bil Brexit wedi i bryderon dilys gael eu codi ynglŷn â San Steffan yn cipio pŵer, gan danseilio'r broses ddatganoli ac achosi argyfwng cyfansoddiadol. Nawr, mae Plaid Cymru yn croesawu'r tro pedol hwn a grybwyllwyd gan Lywodraeth San Steffan. Fodd bynnag, gwelwn dro ar ôl tro na ellir ymddiried yn San Steffan i gadw ei haddewidion. A allwch gadarnhau pa un a ydych wedi clywed unrhyw sôn am wrthdroi polisi o’r fath, ac ymhellach, a allwch ddweud wrthym sut y bwriadwch sicrhau eu bod yn cadw at eu gair, ac a oes gennych gynllun wrth gefn pe baent yn torri eu haddewidion?
Cytunaf yn llwyr â Leanne Wood fod yn rhaid inni gael mwy na geiriau cadarnhaol gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cadw at yr addewidion a wnaethant, ac mae'n llygad ei lle wrth ddweud eu bod wedi gwneud addewidion clir iawn yn hyn o beth. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban ar lawr Tŷ'r Cyffredin y byddai Llywodraeth y DU yn cyflwyno gwelliannau i unioni'r problemau yn y Bil ymadael yn ystod y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin, ac ni ddigwyddodd hynny. Mae’r addewid wedi cael ei ailadrodd, fodd bynnag, ar bapur ac ar lafar, y bydd hyn yn digwydd bellach yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu ymagwedd ddeuol yn hyn o beth. Byddwn yn gweithio gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, lle mae gennym gyfleoedd o fewn y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i bwyso arnynt i gyflwyno gwelliant y gallem ei gefnogi, ac a allai arwain at gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Ond nid ydym wedi gweld unrhyw destun eto a fyddai'n rhoi sicrwydd inni y byddai hynny'n digwydd, a thra nad yw ar gael i ni, byddwn yn mynd ar drywydd gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn braf iawn gweld yr Arglwydd Dafydd Wigley mewn sesiwn friffio a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi bythefnos yn ôl. Roedd cryn ddiddordeb, Lywydd, ymhlith arglwyddi o bob plaid ac aelodau’r meinciau croes, yn yr achos a wnaethom ar y cyd ynghylch natur ddiffygiol y Bil ymadael a pham y bydd angen ei ddiwygio. Os na allwn gytuno ar welliant gyda Llywodraeth y DU, byddwn yn mynd ar drywydd ein gwelliant ein hunain yn Nhŷ'r Arglwyddi, a byddwn yn ceisio trechu'r Llywodraeth fel y gallwn ddiwygio'r Bil yn y modd angenrheidiol.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae trafodaethau rhynglywodraethol yn amlwg yn hanfodol os ydym yn dymuno sicrhau'r fargen orau i Gymru, yn arbennig ar gyfer diwydiant. Fe fyddwch yn gwybod bod fy etholaeth i’n gartref i ardal fenter Glannau Dyfrdwy, ac yn gartref i lawer o gwmnïau, gan gynnwys Airbus a Toyota. Mae fy etholwyr yn dibynnu ar nifer o gwmnïau fel hyn, a rhai fel Tata Steel, am eu bywoliaeth a bywoliaeth eu plant. Gan fy mod wedi gweithio ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, rwyf innau’n gwybod pa mor bwysig yw hyn hefyd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i mi fod y Llywodraeth hon yn gwneud pob ymdrech i wneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn sicrhau'r fargen orau ar gyfer fy ardal a'r diwydiannau rydym yn dibynnu arnynt?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol—y cyntaf, rwy'n siŵr, o lawer y bydd yn eu gofyn i gynrychioli buddiannau hanfodol ei etholaeth? Ac mae'n llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Lannau Dyfrdwy gyfres o ddiwydiannau mawr sy'n dibynnu ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd am eu llwyddiant a'u ffordd bresennol o weithredu. Felly, rydym yn pwysleisio, fel y gwnawn bob amser ar Lywodraeth y DU, yr angen hanfodol i gael mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl, fel nad yw Airbus, er enghraifft, sy'n dibynnu ar y gallu i symud nwyddau ledled yr Undeb Ewropeaidd mewn modd di-dariff, yn cael eu rhwystro yn eu gallu i wneud hyn yn y dyfodol ac fel nad yw'n arwain at gwestiynau ynglŷn ag ai Cymru yw'r lle gorau ar gyfer y cwmni hwnnw yn y dyfodol. Nid yn unig y mae Airbus yn dibynnu ar allu i symud nwyddau’n rhydd, mae'n dibynnu ar allu pobl i symud yn rhydd hefyd—gallu pobl sy'n gweithredu ar draws ôl troed y cwmni hwnnw i symud i mewn ac allan o Gymru ar berwyl busnes y cwmni. Rydym yn gwneud y pwyntiau hyn yn rheolaidd ac yn benodol i Weinidogion y DU, ac mae’n braf iawn cael cefnogaeth yr Aelod y prynhawn yma gyda'n hymdrechion i wneud hynny.