3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â gwasanaethau plant ym Mhowys yn sgil adroddiad gan Fwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru am farwolaeth plentyn o dan ofal y Cyngor Sir? 142
Diolch, Simon. Cafodd bywyd y person ifanc hwn ei golli o dan yr amgylchiadau mwyaf trychinebus ac rwy'n credu y bydd cyhoeddi'r adolygiad yn amser anodd i'w deulu. Fel hwy, rydym yn disgwyl y bydd Powys yn cyflymu'r gwelliannau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gofal a'r cymorth gorau'n cael eu darparu bob amser.
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac yn amlwg byddai pob un ohonom eisiau anfon ein cydymdeimlad at y rhieni maeth ac unrhyw un arall a gafodd eu heffeithio gan hyn. Mae'n amlwg o ddarllen adroddiad yr adolygiad ymarfer plant fod y plentyn wedi mynegi pryderon ac ansicrwydd mawr iawn ynglŷn â’i lwybr, ac un o'r pethau mwyaf sylfaenol ac annymunol i'w darllen yn yr adroddiad yw'r methiant i gyfathrebu rhwng plentyn, ei ofalwyr maeth a'r awdurdodau, nad oeddent, yn syml iawn, yn gwrando.
Os caf ofyn dau gwestiwn i'r Gweinidog. Yn gynharach y bore yma, cynhyrchodd ddatganiad ysgrifenedig ar wasanaethau plant ym Mhowys, a soniai am barhau i weithio gyda'r cyngor sir. Hoffwn ddeall a yw wedi ystyried adroddiad yr adolygiad wrth gyhoeddi'r datganiad ysgrifenedig hwnnw, gan fod llawer o bobl ym Mhowys yn teimlo bod hwn yn arwydd arall fod pethau wedi dirywio i'r fath raddau yno fel bod angen ymyrraeth fwy uniongyrchol nag y mae'r Gweinidog wedi bod yn barod i'w wneud hyd yn hyn mewn gwirionedd, a gwn fy mod wedi trafod hyn gydag ef yn y gorffennol.
Yr ail elfen yr hoffwn ei holi amdani yw'r ffaith ei bod yn amlwg o ddarllen yr adroddiad fod y canllawiau ymarfer cenedlaethol sydd ganddo fel y Llywodraeth genedlaethol, 'Pan Fydda i'n Barod', sy'n sôn yn glir iawn am ganiatáu i rai pobl gymwys yn eu harddegau aros mewn gofal y tu hwnt i 18 oed os nad ydynt yn barod i adael gofal, ac sy'n sôn yn glir am eu rhoi yng nghanol cynlluniau gofal—ni chafodd y canllawiau arfer da eu dilyn yn yr achos hwn; ni roddwyd unrhyw ofal dyledus. Felly, pa sicrwydd y gall ei roi i bobl Powys yn awr ac i'r gymuned ehangach fod y canllawiau hyn, y cyhoeddwyd gennym eu bod ymysg canllawiau gorau’r byd ar gyfer plant mewn gofal, yn cael eu dilyn ym mhob rhan o Gymru mewn gwirionedd, yn enwedig ym Mhowys? Sut y gall roi sicrwydd o'r fath yn y dyfodol?
A gaf fi ddiolch i Simon am dynnu sylw at y mater hwn heddiw, ond hefyd am y cwestiynau perthnasol y mae wedi'u codi yn ei ffocws parhaus, a ffocws parhaus eraill, ar y materion pwysig iawn hyn? Gadewch i mi ymdrin â phob un o'r pwyntiau a gododd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i rieni'r gŵr ifanc am eu diwydrwydd yn pwyso am yr adolygiad ymarfer plant hwn. Roedd gwahanol ffyrdd o fwrw ymlaen â hyn; roeddent yn benderfynol o gael adolygiad ymarfer plant. Ac mae'r adolygiad ymarfer plant estynedig hwn yn gyfle da, nid yn unig i fyfyrio, ond i wneud yn siŵr fod y gwersi o'i fewn, ac mae wedi cyffwrdd â rhai ohonynt, wedi eu cynnwys yn awr o fewn y gwelliannau rydym eisoes yn ceisio eu sicrhau ym Mhowys, ar y cyd ag eraill sy'n eu cefnogi, er mwyn cyflawni mewn gwirionedd, ac nid cyflawni yn y tymor byr yn unig, ond yn y tymor canolig a'r tymor hir hefyd, fel eu bod yn rhwymol.
Cyfeiriodd at yr agwedd, y ffaith, fod lleisiau plant a phobl ifanc eu hunain, pa mor bwysig ydynt yn gyffredinol, ac mae hwnnw'n fater o egwyddor o fewn ein fframwaith statudol, ac eto roedd ar goll yn y fan hon. Mae hwnnw'n bwynt allweddol sy'n cael ei amlygu yn yr adolygiad a'r adroddiad hwn, a byddem yn disgwyl i Bowys fel rhan o'i chynllun gwella—mae eisoes yno—ddysgu gwersi o hyn yn unol â'u cynllun gwella, a gwneud yn siŵr fod hwnnw'n rhwymol fel bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed. Mae llais y plentyn yn allweddol i hyn. Mae Cadeirydd y pwyllgor sy'n eistedd wrth fy ymyl wedi ailadrodd hyn yng ngwaith ei phwyllgor o'r blaen, ac yn y blaen. Mae angen i ni wneud yn siŵr fod hyn yn cael ei weithredu ar lawr gwlad ym mhob ymwneud â gweithwyr proffesiynol rheng flaen.
Roedd Simon yn cyfeirio at ddull 'Pan Fydda i'n Barod'—yr union bwynt hwnnw—fel bod pryderon a dyheadau pobl ifanc yn cael eu clywed, yn enwedig ar adeg gwneud cynlluniau pontio, a dangosir yn glir yn yr adroddiad nad oedd hynny'n wir. Ac yn drasig, gwyddom, pe bai pobl wedi gwrando ar hynny, efallai y gellid bod wedi osgoi'r sefyllfa drasig hon.
Yn wir, mae yna ddatganiad a gyhoeddwyd heddiw yn fy enw i ac enw fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o ddatganiadau yn dilyn cynlluniau gwella a chynlluniau gweithredu. Mae'r datganiad heddiw yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad, a buaswn yn annog yr Aelodau i edrych ar y cam nesaf o gymorth i Gyngor Sir Powys, a sefydlu bwrdd gwella a sicrwydd i oruchwylio a chydlynu'r gwaith gwella yng Nghyngor Sir Powys. Nid yw hyn yn tynnu oddi wrth y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo o fewn y gwasanaethau cymdeithasol. Yr hyn a wna mewn gwirionedd yw adeiladu ar hynny. Wrth annog yr Aelodau i edrych arno, mae'n mynd yn ehangach i mewn i faes corfforaethol arweinyddiaeth a diwylliant Powys i wneud yn siŵr fod y rhain yn newidiadau sy'n rhwymo, ac nid yn unig yr adolygiad a'r adroddiad heddiw, sy'n mynd law yn llaw â chynlluniau gwella sydd eisoes ar waith, ond yr arweinyddiaeth gorfforaethol ehangach sydd angen ei hysgogi, gyda chymorth o fewn Powys, ac sydd angen rhwymo o ddifrif, fel ein bod yn lleihau'r posibilrwydd y bydd y math hwn o ddigwyddiad yn digwydd eto. Felly, rwy'n tynnu sylw at y datganiad hwnnw.
Rwyf hefyd wedi gofyn i fy swyddogion sicrhau bod yr hyn sydd wedi'i ddysgu o'r adolygiad ymarfer plant hwn yn llywio gwaith parhaus grŵp cynghori'r Gweinidog, dan gadeiryddiaeth David Melding, ein cyd-Aelod, ar wella canlyniadau i blant, yn ogystal â chynghori gwaith parhaus Gofal Cymdeithasol Cymru a gwaith y byrddau diogelu plant eraill yng Nghymru. Yn rhy aml, rydym yn dweud bod yn rhaid i ni ddysgu gwersi o hyn. Wel, roedd rhai o'r gwersi hyn wedi'u dysgu eisoes—rhoesom y fframweithiau cywir ar waith, ac yn y blaen—yn awr, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu'n ddi-ffael ym mhob man.
Weinidog, mae'r achos trasig sydd wedi cael ei amlinellu heddiw, wrth gwrs, yn amlwg yn mynd yn ôl i 2015, cyn adroddiad yr arolwg safonau gofal critigol o wasanaethau plant a gyhoeddwyd fis Hydref diwethaf. A fydd gwaith y bwrdd gwella gwasanaethau plant cyfredol yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn, a pha wersi y credwch eu bod wedi cael eu dysgu yn y cyd-destun ehangach? Ac a gaf fi ofyn hefyd, yng ngoleuni'r adroddiad hwn, a ydych yn credu bod yr awdurdod lleol angen rhagor o gymorth?
Ar y pwynt olaf—diolch am yr ymholiadau hynny—yn wir, os gallaf gyfeirio'r Aelod at y datganiad eithaf helaeth a wnaethom ar y cyd heddiw, oherwydd mae'n dangos y lefel uwch o ymgysylltiad sydd gennym yn awr yn uniongyrchol gyda Phowys ar lefel gorfforaethol, ar lefel ddiwylliannol ac ar lefel arweiniol, sy'n mynd y tu hwnt i wasanaethau cymdeithasol yn unig. Diolch i fy nghyd-Aelod am y ffordd bersonol iawn y mae ein swyddogion wedi mynd i'r afael â'r mater hwn, gan geisio helpu Powys i helpu ei hun a newid y sefyllfa. Cafwyd llawer iawn o gefnogaeth gan awdurdodau eraill eisoes, nid yn unig o fewn y gwasanaethau cymdeithasol, ond o fewn y maes corfforaethol ehangach hefyd.
O ran sut y mae hyn yn bwydo i mewn i'r gwaith parhaus, wel, ydy, yn sicr. Yn unol â’r datganiadau blaenorol a wnaethom a'r hysbysiadau rhybuddio a gyhoeddwyd gennym, a'r camau gweithredu rydym wedi’u mynnu gan Bowys, tra'n rhoi cymorth iddynt yn ogystal, cymorth y maent wedi ei gymryd yn barod, rwy’n falch o ddweud fod hyn yn rhan o'r gwaith parhaus. Felly, mae'r holl gynlluniau gweithredu a nodir yma—. Os edrychwch ar y pedwar maes allweddol sydd wedi deillio o'r adroddiad hwn: cynlluniau pontio, gan gynnwys gwybodaeth am ddull 'Pan Fydda i'n Barod' a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer plant, pan nad yw'r awdurdod lleol yn rhannu cyfrifoldeb rhieni—mae hynny'n rhan ohono; yr uwchgyfeirio a'r her, sy'n cynnwys datblygu mecanweithiau sicrwydd ansawdd a gwybodaeth am berfformiad—mae hynny'n rhan o'r gwaith gwella parhaus; rhianta corfforaethol, gan gynnwys datblygu mecanweithiau sicrwydd ansawdd i fonitro effeithiolrwydd y polisi datrys gwahaniaethau proffesiynol, y defnydd o berfformiad amlasiantaethol, olrhain canlyniadau da i blant—mae hynny'n rhan o'r cynllun gwella; ac yn olaf, y pedwerydd pwynt allweddol, sef y pwynt allweddol ynghylch cyfranogiad a llais y plentyn. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o effeithiolrwydd eiriolaeth a gomisiynwyd yn rhanbarthol a sicrwydd gan y bwrdd diogelu rhanbarthol, CYSUR, a chan bartneriaid ynglŷn â sut y mae llais y plentyn yn dylanwadu ar eu gallu i sicrhau canlyniadau da i blant. Felly, mae hyn i gyd yn cydweddu'n fawr iawn â'r cynllun gwella sydd eisoes ar waith.
Fel rwy’n dweud, mae'r cyhoeddiad heddiw—y datganiad ar y cyd gennyf fi a fy nghyd-Aelod Cabinet—yn dangos y lefel uwch o ymgysylltiad â Phowys yn awr i sicrhau’r newid hwn mewn arweinyddiaeth a diwylliant a pherchnogaeth, nid yn unig yn y gwasanaethau cymdeithasol, ond ar draws Powys.
A gaf fi gefnogi Simon Thomas yn yr hyn a ddywedodd yn gynharach a chefnogi'r Gweinidog hefyd yn yr hyn y mae newydd ei ddweud ynglŷn â helpu Powys i helpu ei hun? Gwn o drafodaethau gydag ef, os nad yw hynny'n dwyn ffrwyth ymhen amser, y bydd yn rhoi camau llymach ar waith. Tybed a fyddai'n cytuno â mi mai un o nodweddion mwyaf gofidus yr achos hwn fel y mae'n ymddangos yn adroddiad yr adolygiad ymarfer plant yw ei fod yn dweud hyn, ymddangosai mai’r her fwyaf arwyddocaol oedd y symlaf, sef cyfathrebu da a chynllunio cydlynol, yn seiliedig ar ddealltwriaeth drylwyr o brofiadau byw bob dydd Plentyn A ac effaith sylweddol trawma difrifol plentyndod cynnar.
Ymddengys mai methiant i weithio mewn partneriaeth oedd hyn yn bennaf, ac mae'n peri gofid braidd fod gennym yr holl weithwyr proffesiynol hyn sy'n methu cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd, yn ôl pob golwg. Yn yr achos penodol hwn, roedd plentyn A yn huawdl iawn yn dweud wrthynt beth oedd ei anghenion, a’r anhawster oedd nad oedd y gweithwyr proffesiynol yn gallu cyfathrebu hynny ymysg ei gilydd. Nid oes neb yn bychanu anhawster y gwaith y mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn ei wneud, felly nid wyf am danseilio eu hyder neu eu hunan-barch, ond mae gwersi pwysig iawn sy'n rhaid eu dysgu gan bawb yn y gadwyn o awdurdod a arweiniodd at y canlyniad ofnadwy hwn.
Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw yn fwy manwl sut y mae'r gwelliant hwn mewn cyfathrebu o fewn yr awdurdod a rhwng gweithwyr proffesiynol gwahanol yn mynd i gael ei gyflawni.
Gwnaf, yn wir. Diolch, Neil. Rydych yn iawn i dynnu sylw at rai o rannau allweddol yr adroddiad sy'n dweud, er enghraifft, fod angen i weithwyr proffesiynol deimlo'n hyderus—teimlo'n hyderus—wrth weithio gyda rhieni sy'n cael eu hystyried yn heriol a dangos mwy o empathi wrth weithio gyda theuluoedd, fod angen i bob gweithiwr proffesiynol fod â’r wybodaeth ddiweddaraf am ganllawiau a deddfwriaeth newydd, a gallu meddwl yn greadigol am gynllunio gyda ac ar gyfer plant yn eu gofal ac yn y blaen.
Mae hyn yn ymwneud ag arferion da, ac mae arferion da unigol ym Mhowys. Y broblem yw'r elfen hon rydym wedi’i gweld lle nad yw’n ymwneud yn syml ag arweinyddiaeth o fewn adran, mae’n ymwneud ag arweinyddiaeth ar bob lefel, rhannu arferion gorau a lledaenu arferion gorau, a'r dull proffesiynol hwnnw. Mae’r sefyllfa’n newid bellach. Dyna pam yr ailgyhoeddwyd yr hysbysiad rhybuddio.
Nodwyd y gwelliant a oedd wedi cael ei wneud eisoes ar 15 Ionawr, gan gynnwys penodi arweinyddiaeth newydd, ar lefel dros dro, i rai swyddi allweddol. Ond mae mwy i'w wneud, a dyna pam nad ydym wedi diddymu’r hysbysiad rhybuddio, rydym wedi’i ymestyn ac wedi tynnu sylw at y cerrig milltir allweddol mewn mis, mewn tri mis, mewn chwe mis a thu hwnt. Mae ein cefnogaeth yn parhau i fod yn gadarn, ein hanogaeth i wneud yn well yn parhau i fod yn gadarn, ac rydym yn gweld y gwelliant. Pe bai unrhyw beth yn rhoi cysur i'r teulu a'r bobl a oedd yn adnabod y person ifanc hwn heddiw, rwy’n credu mai’r ffaith bod yr achos hwn wedi sbarduno gwelliant parhaus ym Mhowys fyddai hynny.
Mae'n werth ystyried nad diben adolygiad ymarfer plant yw bwrw bai. Y diben mewn gwirionedd yw dweud, 'Dyma lle y gallwch chi wneud gwahaniaeth cadarnhaol a gwella, ac rydym yn disgwyl i hynny ddigwydd.' Felly, byddwn ni a CYSUR, a'r holl asiantaethau eraill a'r gefnogaeth gan gymheiriaid sydd eisoes ar waith, yn gweithio gyda hwy i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu hymgorffori a’n bod yn darparu'r hyder a'r wybodaeth y mae gweithwyr proffesiynol rheng flaen eu hangen i wneud eu gwaith yn dda, yn greadigol ac yn ddiogel, gan ofalu am ein pobl ifanc, gan roi’r cyfleoedd a'r dewisiadau cywir i'n pobl ifanc, ac nid eu gadael allan o'r sgwrs. Dyna y mae’r gwersi a ddysgwyd o hyn yn ei ddweud wrthym, a dyna pam y mae angen ei ymgorffori yn y cynllun gwella sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac er ein bod yn weddol hyderus ei fod yn cael ei gyflawni, mae ffordd bell i fynd o hyd.
Y peth cyntaf rwyf eisiau ei wneud yw cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan y trychineb hwn. Ond ymddengys i mi mai’r trychineb yn hyn oll—siaradodd Neil Hamilton am y gadwyn o ddigwyddiadau a sgyrsiau, ac rwy'n cytuno ag ef, oherwydd dylai fod wedi bod yn gylch. Roedd gennym gadwyn estynedig o unigolion yn siarad ar wahân, pan ddylent yn amlwg fod wedi’u cysylltu. Nid wyf yn gwybod am bobl eraill, ond rwy'n gwybod amdanaf fi fy hun: rwyf wedi cael llond bol ar siarad am adolygiadau achos lle mae pethau wedi mynd o chwith o ganlyniad i ddiffyg meddwl cydgysylltiedig—y geiriau allweddol hyn nad ydynt byth yn cyflawni unrhyw newid. Ac eto, fe fyddwn yn dysgu ohono. Wel, a fyddwn ni? Dyna'r cwestiwn rwy’n ei ofyn yma heddiw, oherwydd mae'n hynod boenus i ddarllen am ofid y person ifanc hwn, ac er iddo fynegi’r gofid hwnnw wrth rai unigolion, ni wnaeth neb erioed ymyrryd yn weithredol er lles gorau'r plentyn.
Rwy’n gwybod, yn y gorffennol—ac rwy'n llawn obeithio bod pethau wedi newid—pan ysgrifennais at gyngor Powys am fy mod yn poeni am deulu, ac wedi gofyn iddynt weithredu, dywedwyd wrthyf y byddai’n rhaid i mi ysgrifennu at yr aelod cabinet yn nodi fy mhryderon. Pwy yn y byd a glywodd y fath beth? Ysgrifennais yn ôl yn y modd cryfaf, gan ddweud, ‘Anghofiwch am hynny, a cheisiwch wneud rhywbeth.' Roedd yn rhaid i mi ysgrifennu’n ôl chwe mis yn ddiweddarach i ofyn am ateb. Felly, er y gall fod gennym lawer o ffydd yma, mae fy ffydd i wedi cael ei ymestyn i'r pen, a byddai wedi bod o gwmpas yr adeg hon. Rwy'n gweld eraill yn nodio i ddweud eu bod wedi cael yr un profiad.
Felly, fy nghwestiwn yma yw bod yn rhaid i ni fynd i mewn a sicrhau bod Powys yn dysgu'r gwersi hyn, a bod pawb arall yn eu dysgu hefyd, fel nad oes raid i ni ddarllen am unigolion ifanc, agored i niwed sy'n ofni camu i'r byd mawr ar eu pen eu hunain, nad oedd yn rhaid iddynt gamu i'r byd mawr ar eu pen eu hunain, oherwydd bod yna system ar waith a fyddai wedi eu cefnogi, system o’r enw, 'Pan Fydda i'n Barod'. Rwy’n credu y dylem wneud rhywbeth ynglŷn â hyn yn awr mewn gwirionedd. Rwyf wedi cael llond bol ar eistedd yma’n gwrando ar y methiannau, dro ar ôl tro.
Joyce, diolch yn fawr iawn. Rwy'n meddwl y byddai unrhyw Weinidog sy'n sefyll yn y fan hon ac yn dweud, 'Gallwn ddiystyru y bydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd eto', yn Weinidog annoeth. Ond mae yn ein gallu, drwy'r negeseuon rydym newydd eu clywed, drwy'r fframweithiau rydym wedi'u gosod—a chofiwch ein bod yng Nghymru ar y blaen mewn rhai ffyrdd yma, oherwydd y modd rydym wedi mynd ati i ddiogelu gyda'r bwrdd cenedlaethol, gyda'r byrddau rhanbarthol, y fframwaith hwnnw o ddiogelu, gyda rhai o'r mentrau y soniwyd amdanynt a ddylai fod wedi'u hymgorffori yma mewn gwirionedd, a ddylai fod wedi'u cyflawni ar lawr gwlad. Gwrando ar bobl ifanc yw'r hyn a wnawn, dyna y mae—. Dyna'r fframwaith a roesom ar waith.
Ond rwy'n gobeithio y bydd pryderon Aelodau'r Cynulliad yn y Siambr heddiw, wedi eu clywed ym Mhowys, ond hoffwn hefyd iddynt glywed nid yn unig staff rheng flaen da, ond hefyd y newidiadau y maent wedi bod yn eu rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf oherwydd parodrwydd y Cynulliad hwn a'r Llywodraeth hon i ymateb i'r her, gan annog, ond hefyd gan ddweud bod yna fesur wrth gefn yma os nad yw pethau'n gwella—y byddant yn gwella, ac rydym yn eu gweld yn digwydd ar lawr gwlad ym Mhowys yn awr.
Mae eich pwynt yn un da hefyd na ddylai'r gwersi o'r adolygiad ymarfer plant hwn, fel ar gyfer unrhyw adolygiad ymarfer plant, fod ar gyfer Powys yn unig, y dylent fod ar gyfer pawb, a dyna beth fydd yn mynd allan. Dyna'r neges o'r fan hon. Bydd yr adolygiad ymarfer plant hwn yn cael ei ledaenu nid yn unig ar draws y rhanbarth hwnnw, ond drwy'r bwrdd diogelu cenedlaethol, ar draws Cymru yn ogystal. Mae angen inni gadw'r ffocws ar ragoriaeth o fewn y gwasanaeth hwn, gwrando ar bobl ifanc, rhoi'r hyn y maent yn ei haeddu iddynt a'r hyn y maent ei angen a gwrando arnynt er mwyn gwneud hynny. Mae wedi methu ar y pwynt hwn. Mae'n drasiedi ei fod wedi methu, ac rwy'n meddwl bod lleisiau Aelodau'r Cynulliad heddiw yn dweud bod rhaid inni wneud popeth a allwn i arbed hyn rhag digwydd eto a'i fod o fewn ein pŵer ac annog y rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen i gael yr hyder a'r sgiliau a'r wybodaeth i wneud y penderfyniadau cywir ac i ymgysylltu â phobl ifanc—credaf fod hynny wedi cael ei gyfleu'n gryf iawn y prynhawn yma.
Diolch i'r Gweinidog.