1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 21 Mawrth 2018.
2. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i leihau'r lefelau o wastraff plastig yng Nghymru? OAQ51946
Dengys y data diweddaraf gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau mai 75 y cant oedd cyfradd gasglu awdurdodau lleol Cymru o boteli plastig i’w hailgylchu o aelwydydd yn 2015, i fyny o 55 y cant yn 2009. Rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth i archwilio potensial cynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o gynlluniau dychwelyd ernes.
Diolch. Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad Awr y Ddaear Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd yma yn y Senedd, gan addo rhoi'r gorau i ddefnyddio cyllyll a ffyrc plastig untro er mwyn helpu i leihau gwastraff plastig—cam bychan iawn. Ond wrth gwrs, un o'r llygrwyr plastig mwyaf yw poteli plastig. Felly, a fyddai'n cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yw pwyso am gynllun dychwelyd ernes, ac a all hi roi gwybod i ni am unrhyw gynnydd mewn perthynas â hynny?
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwyf innau, mewn gwirionedd, wedi rhoi'r un addewid â hithau i beidio â defnyddio cyllyll a ffyrc plastig. Yn sicr, credaf ein bod yn gwybod bod plastig yn broblem fawr. Mae'n sicr yn rhywbeth sydd yn y penawdau'n aml ar hyn o bryd. Fel rhan o'r astudiaeth o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r cynlluniau dychwelyd ernes posibl. A bydd hynny'n edrych ar bethau yn gyffredinol, o ran sut rydym yn adeiladu ar ein cyfraddau presennol, ond hefyd beth arall y gallwn ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno y gwyddom ei bod yn bodoli o ran cynwysyddion diodydd, poteli plastig a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu ond nad ydynt yn cael eu hailgylchu cystal ag y dylent ar hyn o bryd. Rwyf wedi cael y drafft terfynol cyntaf o grynodeb yr adroddiad hwnnw, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl.
Weinidog, nid oes ond angen i chi gamu allan o'r adeilad hwn a cherdded draw at yr Eglwys Norwyaidd i weld llawer iawn o blastig yn arnofio yn ardal y bae. Ac er bod geiriau da'n cael eu dweud yn y Siambr hon, mae angen i bob un ohonom roi camau unioni ar waith i sicrhau ein bod yn lleihau ein defnydd o blastig ac yn glanhau ein hamgylchedd. Ond un peth sydd wedi dod i'r amlwg dros yr wythnosau diwethaf yw faint o blastig a all fod yn y system fwyd. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n cael eu goruchwylio gan Lywodraeth Cymru yma yng Nghymru, rôl i'w chwarae mewn arolygiadau a deall a yw hon yn broblem bosibl drwy'r gadwyn fwyd. Hoffwn gael gwybod a ydych wedi cael unrhyw gyfarfodydd gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch y mater hwn, ac os ydych wedi cael y trafodaethau hynny, yn ôl yr hyn a ddywedasant wrthych, faint o berygl a geir o blastig yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ddynol a pheri risg bosibl i bobl?
Diolch am eich cwestiwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac fel y dywedodd yr Aelod Julie Morgan, mae'n ymwneud â'r camau bach y gall pob un ohonom eu cymryd. A boed yn unigolyn, yn sefydliad, ar lawr gwlad neu yn y Llywodraeth, mae'n ymwneud â'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith o fynd i'r afael â'r materion hyn.
O ran y problemau posibl a berir gan blastig yn y system fwyd, rwy'n deall bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, wedi cael cyfarfod gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd. Felly, os hoffech ysgrifennu ati, efallai y gall roi gwybod i chi sut aeth y cyfarfod hwnnw.
Gan ddilyn ymlaen o'r cyfraniadau eraill, rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynllun dychwelyd ernes i gwtogi ar y defnydd o gynwysyddion diodydd untro. Mae hyn, wrth gwrs, yn dilyn y tâl hynod lwyddiannus a godwyd ar fagiau plastig. A gaf fi annog y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw dâl dychwelyd ernes yn cael ei osod ar lefel a fydd yn gwneud y cynllun dychwelyd yn opsiwn hyfyw? Mae gennyf fantais, neu'r anfantais, o gofio'r system ddychwelyd ernes ar yr hen boteli Corona. Felly, mae'n werth nodi eich bod yn arfer cael tair ceiniog am bob potel a ddychwelid. Golygai hyn, yn erbyn y gost o 10c yn unig am botel lawn, fod y pris dychwelyd ychydig dros draean o gost y botel lawn. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried defnyddio'r un math o wahaniaeth?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n cofio'r hen boteli Corona, mewn gwirionedd, ond mae'n debyg eich bod wedi fy ngholli i raddau wrth grybwyll y darn tair ceiniog. [Chwerthin.] O ran yr adroddiad ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a chan gynnwys dichonoldeb cynllun dychwelyd ernes, byddwn yn edrych ar yr holl faterion hynny ac yn eu gwerthuso, yna byddwn yn gallu llunio adroddiad a dadansoddi'r canlyniadau hynny, ac ystyried yr holl agweddau, megis y rheini, mewn perthynas â chynwysyddion diodydd.