– Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
Ar gyfer eitem 8 ac eitem 9, rwy'n sylweddoli mai dadleuon hanner awr ydynt, a gwn fod gennyf lawer o siaradwyr yn y ddwy. Rwyf wedi gofyn ichi ystyried araith dair munud. Rwy'n derbyn eich bod oll wedi ysgrifennu ac wedi ymchwilio, ond os gallwch, bydd yn caniatáu inni gynnwys pawb yn y dadleuon. Felly, dyna eich atgoffa'n garedig. Eitem 8, felly, yw dadl Plaid Cymru ar y bwriad i ailenwi ail bont Hafren. Galwaf ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi ail bont Hafren. Yn naturiol, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi hynny a hefyd yn pleidleisio yn erbyn gwelliant Llafur.
Soniodd Adam Price yr wythnos diwethaf am y cyd-destun ehangach—bod y penderfyniad yma i orfodi'r penderfyniad yma ar enwi'r bont heb drafodaeth nac ymgynghoriad â phobl Cymru yn batrwm amlwg o ddiffyg parch Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Lafur Cymru at gynrychioli buddiannau ein cenedl ni.
Mae yna gyfres o ddigwyddiadau sydd yn dod i'r amlwg: dim penderfyniad dros forlyn Abertawe, gollwng cynlluniau i drydaneiddio rheilffordd Caerdydd i Abertawe, ffwlbri cynigion am y fodrwy haearn yng nghastell y Fflint y flwyddyn ddiwethaf, ailenwi pont Hafren heb ymgynghori, peidio â rhoi siâr deg o fuddsoddiad HS2 i Gymru, bung o £1 biliwn gan y Ceidwadwyr i'r DUP a dim ceiniog i Gymru. A'r un fwyaf diweddar, wrth gwrs: ildio dros Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn golygu colli pwerau i'r Senedd yma—pleidiau unoliaethol Prydain yn ceisio troi'r cloc yn ôl a sugno Cymru fach yn nes i Loegr.
Nawr, rwy'n ddyn eithaf hawdd gwneud ag ef, ond roeddwn yn meddwl y buaswn yn eich atgoffa o hanes tywysogion Cymru. Yn 1282, lladdwyd y Tywysog Cymru olaf. Ymhyfrydai Edward I yn y ffaith fod teulu brenhinol Cymru wedi dod i ben a datganodd mai ei fab newydd-anedig oedd y Tywysog Cymru newydd oddi ar furiau Castell Caernarfon ac mewn gweithred o dwyllresymeg, sicrhaodd bobl Cymru na allai'r Tywysog Cymru newydd siarad gair o Saesneg chwaith, fel hwythau. Ni laddwyd Gwenllian, babi Llywelyn, ond cafodd ei halltudio i leiandy yng nghefn gwlad swydd Lincoln am 55 mlynedd ei bywyd bach, yn amddifad ac wedi'i hynysu tan ei marwolaeth yn 1337.
Felly, cafodd mab ac etifedd coron Lloegr ei eneinio'n Dywysog Cymru byth ers hynny, ac ar ein gliniau ers hynny rydym wedi cydymffurfio, rai ohonom yn fwy brwd nag eraill, sy'n dod â mi at Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nawr, fe wn fod pobl yn dweud y dylem drafod pethau pwysicach, ond dyna'r holl bwynt. Dylai Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn gwneud pethau pwysicach. Nid wyf wedi clywed neb yn gweiddi am ailenwi ail bont Hafren o gwbl. Rwyf wedi clywed llawer yn galw am gael morlyn llanw ym Mae Abertawe, trydaneiddio'r rheilffyrdd, peidio â chael carchar mawr ym Maglan—llawer o alw gan y cyhoedd—ond Pont Tywysog Cymru? Ni chlywais unrhyw alw gan y cyhoedd. Yr hyn a ddisgwyliwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, tra bo gennym un, yw cymorth i'r Cabinet drosi'r cynlluniau a'r syniadau gwirioneddol drawsnewidiol hyn yn weithredu.
Ni chynigiodd y Prif Weinidog yma unrhyw wrthwynebiad i gynllun yr Ysgrifennydd Gwladol i enwi'r bont—naw wfft i sefyll dros Gymru, neu a ydym wedi ailddiffinio sefyll dros Gymru bellach fel gorwedd ar lawr?
Yn dilyn eich cyfarwyddyd, Dirprwy Llywydd, fe wnaf i gadw pethau yn fyr. Mae'n bosibl y gwnaiff nifer o bobl Cymru gynnig enw amgen i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y bont. Efallai y ceir nifer o gynigion y dylai'r bont gael ei henwi ar ôl rhai o wir dywysogion a thywysogesau Cymru, megis 'Hewl Hywel Dda', 'Cefnffordd Gwenllian'—
A wnewch chi ildio?
O, dyma ni. Dewch 'te.
Siaradwch am dywysogion Cymru yn yr oes Normanaidd. A wnewch chi dderbyn bod y Tywysog Charles, drwy'r llinell Duduraidd, nid yn unig yn hanu o un o ddisgynyddion teulu hynafol ar Ynys Môn, ond o linach Cadwaladr, y brenin hynafol Prydeinig olaf gyda mwy o hawl na'r hawlwyr ôl-Normanaidd?
Anobeithiol. Daw â fi'n ôl at y Bil ymadael.
Ond pam trwblu o gwbl efo enwi pontydd ta beth, ydy'r pwynt sylfaenol, pan mae materion llawer pwysicach i'w datrys? Mae'n gofynion ni fel rhan o'r ddadl yma heddiw yn syml: rhowch gyfle i bobl Cymru gael eu dweud ar enw a roddir i un o strwythurau mwyaf nodedig ein cenedl, neu i beidio â'i enwi o gwbl, yn hytrach na gadael i'r Ceidwadwyr sathru ar fat croeso Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol.
Gwelliant 1. Julie James
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.
Rwy'n cynnig.
Diolch. John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn wneud y pwynt fod enwau yn bwysig. Maent yn wirioneddol bwysig. Maent yn anfon negeseuon ac maent yn bwysig yn symbolaidd, ac maent yn golygu rhywbeth i bobl. Ddirprwy Lywydd, byddai'n well o lawer gennyf fod yn byw mewn gweriniaeth gyda'i negeseuon cryf ynghylch dinasyddiaeth, grymuso a statws yn sgil cyflawniad a gallu yn hytrach na damwain genedigaeth. Yn anffodus, nid yw hynny'n wir, ond nid ydym ychwaith yn byw mewn tywysogaeth. Nid maenoriaeth tywysog yw Cymru, felly roedd ailenwi ein Stadiwm Genedlaethol yn Stadiwm Principality yn ddi-fudd. Mae'n atgyfnerthu disgrifiadau anghywir, camarweiniol a diofal o Gymru fel tywysogaeth ac felly, buaswn yn dadlau, mae'n diraddio ac bychanu. Ac yn awr mae'r cynnig i ailenwi'r ail bont Hafren yn 'Bont Tywysog Charles' yn bygwth ychwanegu at gamsyniadau niweidiol. Mae'n eironig hefyd, rwy'n credu, fod yna argymhelliad, wrth i'r bont ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, i'w hailenwi, nid ag enw y mae'r bobl wedi penderfynu yn ei gylch a'i eisiau, ond ag enw a drosglwyddwyd oddi fry heb ymgynghoriad cyhoeddus hyd yn oed. Mae llawer o ddegau o filoedd o fodurwyr yn defnyddio'r bont bob dydd ond ni chawsant unrhyw lais ynglŷn ag a oedd angen enw newydd ac os felly, beth y dylai'r enw newydd fod. Ddirprwy Lywydd, buaswn yn dweud y gellid disgrifio camau gweithredu Llywodraeth y DU yn y mater hwn fel—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Ym—
Gallwch, parhewch.
Iawn.
Diolch. A wyf yn gywir, fodd bynnag, i'r mater ddod i Lywodraeth Cymru am eu barn ac na wnaethant wrthod yr awgrym mewn gwirionedd?
Pa ffordd bynnag yr edrychwch arno, Janet, mater Llywodraeth y DU ydyw. Penderfynodd Llywodraeth y DU fod angen enw newydd, penderfynodd beth oedd yr enw newydd i fod a phenderfynodd fwrw ymlaen ag ef heb ymgynghoriad cyhoeddus. Felly, dyna lle mae'r cyfrifoldeb.
Ddirprwy Lywydd, gadewch imi ddweud fy mod yn credu'n rhesymol y gellid galw, ac y dylid galw camau gweithredu Llywodraeth y DU yn y mater hwn fel rhai trwsgl, cyfeiliornus a nawddoglyd yn wir. Os yw'r ail bont Hafren i gael enw newydd, dylai'r rhai sydd wedi dioddef y tollau dros gynifer o flynyddoedd benderfynu beth ydyw, ac yn wir y rhai sy'n dal i ddioddef y tollau heddiw. Yn fyr, dylai gael ei benderfynu gan y werin nid y crachach.
Dyna ni. Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud wrth Dai Lloyd na fydd yn synnu na fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw? Rhaid imi ddweud ei bod yn rhyfedd gweld Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar fater sydd eisoes wedi'i gytuno a'i benderfynu mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw ei fod yn fy nharo'n rhyfedd fod Plaid Cymru'n awgrymu ei bod yn rhesymol i ni yn y Cynulliad hwn ddweud wrth Lywodraeth y DU a'r Senedd beth y dylent ei wneud ar fater sydd yn eu dwylo hwy. Pe bai'r esgid ar y droed arall a bod y Senedd yn dweud wrth y Cynulliad beth i'w wneud ar fater sydd o fewn ein cyfrifoldeb, byddai gan yr Aelodau gyferbyn rywbeth i'w ddweud am y mater hwnnw'n fuan iawn.
Gan droi at y pwynt o ailenwi'r bont, yn wahanol i John Griffiths rwy'n freniniaethwr balch. Ond hyd yn oed pe na bawn yn freniniaethwr, rwy'n credu nid yn unig fod yr enw 'Pont Tywysog Cymru' yn nodi'r cyfraniad gydol oes a wnaeth i Gymru a'i chymdeithas, ond efallai'n bwysicach, mae'r penderfyniad hwn yn cydnabod rôl yr ail bont Hafren fel un o dirnodau mwyaf eiconig Cymru, symbol o gyfraniad economaidd cryf Cymru—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf mewn eiliad—i'r DU, cyfraniad a fydd yn rhoi hwb o £100 miliwn amcangyfrifedig y flwyddyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren.
Diolch i chi am ildio. Rwy'n weriniaethwr fy hun, ond fel breniniaethwr, oni fyddech yn cydnabod efallai mai'r person sy'n teimlo fwyaf o embaras ynglŷn â hyn i gyd yw Tywysog Cymru?
Wel, ymgynghorwyd â Thywysog Cymru hefyd ar y mater ac roedd yn hapus ynglŷn ag enwi'r bont yn hyn o beth.
Fe ddywedaf—ac mae gennyf Oscar yn eistedd wrth fy ochr yma yn ogystal—pan fyddwn yn meddwl am y £100 miliwn a'r penderfyniad i ddiddymu'r tollau ar bont Hafren wrth gwrs, mae Casnewydd bellach yn gartref i'r farchnad eiddo sy'n symud gyflymaf yn y DU, yn ôl Rightmove, ac rwy'n awgrymu y gellir priodoli'r farchnad fywiog hon yn uniongyrchol i ddiddymu'r tollau. Gallai cynifer â 25 miliwn o fodurwyr arbed tua £1,400 y flwyddyn ac mae sectorau twristiaeth a lletygarwch Cymru yn disgwyl ymchwydd yn niferoedd ymwelwyr dydd o Loegr, a gallai'r diwydiant cludo nwyddau yn ogystal a'r farchnad eiddo weld manteision yn sgil hynny hefyd. Nawr, am hyn y dylem fod yn siarad. Gallaf glywed Aelodau Plaid Cymru'n ochneidio, ond am hyn y dylem fod yn sôn heddiw—nid am enwi'r bont. Felly, er y credaf fod ailenwi'r ail bont Hafren yn ffordd addas o gydnabod yn ffurfiol y degawdau o gyfraniad a wnaeth Tywysog Cymru i'n cenedl ar achlysur ei ben blwydd yn 70 oed, mae'r enw 'Tywysog Cymru' yn frand ynddo'i hun hefyd wrth gwrs, brand sy'n cael ei adnabod ledled y byd. Felly, gadewch inni ganolbwyntio ein hamser heddiw yn y Siambr hon ar faterion pwysig ynglŷn â'r modd y bydd cael gwared ar y tollau yn cefnogi economi Cymru. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.
Rydym yn cael dadl gwicsotig y prynhawn yma ar fater nad wyf yn siŵr ei fod yn flaenllaw yn yr hyn y mae pobl yn siarad amdano y Dog and Duck neu unrhyw dafarn arall—
Wel, maent yn siarad amdano. Mae'n un o'r ychydig bethau y maent yn siarad amdanynt.
Os felly, maent yn rhoi'r Cynulliad ar y map hefyd, a da iawn hynny. Ond o ran faint o amser sydd ar gael ar gyfer dadleuon yn y Siambr hon a'r problemau enfawr sy'n wynebu Cymru, credaf fod pynciau gwell ar gyfer dadlau yn eu cylch na hyn, er fy mod bob amser yn mwynhau gwrando ar deithiau Dai Lloyd yn hel atgofion a'i ymatebion arloesol i'r problemau y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy. Ond yn bersonol nid oes gennyf unrhyw anhawster o gwbl i gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru ar hyn. Er gwell neu er gwaeth, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, rydym yn frenhiniaeth gyfansoddiadol, a'r frenhiniaeth yw un o'r ffactorau sy'n uno'r Deyrnas Unedig. Rydym yn etifeddu'r sefydliadau hyn gan genedlaethau blaenorol, a byddai'r syniad y gallai rhywun fel fi ddod yn Arlywydd y Deyrnas Unedig neu'n arlywydd Cymru weriniaethol yn llawer mwy erchyll, rwy'n meddwl, i Aelodau Plaid Cymru na bod y Tywysog Cymru presennol yn y swydd sydd ganddo. Dyna'r perygl bob amser, wrth gwrs, gyda democratiaeth—eich bod weithiau'n cael dihirod yn ceisio am swyddi. Gallem fod wedi cael Arlywydd Tony Blair, er enghraifft, ar un adeg, pan oedd yn uchel ei barch yn llygaid y cyhoedd.
Mae'r mwyafrif llethol o bobl Cymru, fel yn y Deyrnas Unedig, yn cefnogi brenhiniaeth gyfansoddiadol fel pennaeth seremonïol y wladwriaeth. Nid oes gennym frenhiniaeth weithredol yn y wlad hon, a da iawn hynny hefyd. Mae'r pŵer gyda'r bobl drwy sefydliadau cynrychioliadol fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Credaf y dylem ymhyfrydu yn ein brenhiniaeth oherwydd mae'n rhoi bri anferth i'n gwlad yn y byd mawr. Pwy mewn gwirionedd a allai enw arlywydd yr Almaen neu arlywydd yr Eidal a gwledydd eraill? Ni allwch, ond mae'r Frenhines yn un o'r bobl enwocaf yn y byd ac mae yna fantais economaidd enfawr—er bod yn gas gennyf gyfiawnhau'r frenhiniaeth ar sail mor faterol—ond mae yna fantais economaidd enfawr i'r wlad hon—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os yw'r Dirprwy Lywydd—
Gallwch dderbyn ymyriad.
A ydych yn sylweddoli bod Legoland yn Windsor yn cael mwy o ymwelwyr na phalas Windsor mewn gwirionedd? Yn syml iawn, ni ddylem fynd ar drywydd y ddadl economaidd. Hefyd, maent yn gwneud llawer o arian drwy'r pwrs cyhoeddus, megis pensiynau ac ati, a thrwy'r Ddugiaeth. Nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn ei gefnogi, a dyna rywbeth yr hoffwn ei drafod yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, oherwydd mae'n bwysig. Dylai fod gennym weriniaeth Gymreig yma yng Nghymru.
Wel, rwy'n siŵr y byddai'r rhai ohonom sydd o blaid y frenhiniaeth wrth ein boddau fod Plaid Cymru'n cefnogi rhywbeth nad yw pobl Cymru yn ei gefnogi. Felly gwnewch hynny, ddywedaf i.
Wrth gwrs, mae pobl yn ymweld â Legoland yn Windsor. Efallai mai'r rhai na allant fynd i mewn i gastell Windsor ar y diwrnod hwnnw ydynt. Pwy a ŵyr? Nid oes unrhyw amheuaeth nad oes cefnogaeth boblogaidd enfawr i sefydliad y frenhiniaeth yn y wlad hon, ac mae'n ymddangos yn gwbl briodol y dylid enwi ail bont Hafren ar ôl Tywysog Cymru. Hoffwn gynnig, fel y gwneuthum y diwrnod o'r blaen, y dylid enwi pont arall yr Hafren ar ôl Llywelyn ap Gruffudd, Llywelyn Ein Llyw Olaf, i gynrychioli dau draddodiad y tŷ hwn, a byddai honno'n ffactor sy'n uno, efallai.
Mae'r cynnig yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
'Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.'
Wel, beth sydd o'i le ar hynny? Ni welaf unrhyw beth o'i le ar hynny o gwbl, ac eto mae gennym welliant gan Lafur sy'n sôn am esgeuluso cyfrifoldeb. Mae fel y dywedodd fy nghyd-Aelod ar draws y Siambr. 'O, nid ein cyfrifoldeb ni ydyw. Nid ni, Syr. Llywodraeth y DU ydyw.'
Gan symud ymlaen, mae'r gwelliant yn croesawu'r ymgynghoriadau lleol ar ailenwi pontydd cefnffyrdd yng Nghymru. Wel, waw—pontydd cefnffyrdd, pan fo gennym y porth i Gymru yn cael ei ailenwi heb ymgynghoriad cyhoeddus o gwbl—dim. Clywais am hyn ac euthum yn y car a gyrru at bont Hafren a chreu fideo. Mae wedi'i gweld gan 50,000, ac mae wedi cychwyn ymgyrch. Mae yna ddeiseb. Unwaith eto, mae degau o filoedd o bobl wedi ei llofnodi oherwydd bod hyn yn bwysig. Nid ymwneud â'r frenhiniaeth y mae hyn mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud ag urddas a democratiaeth, a phobl yng Nghymru yn cael dweud eu barn. Mae pobl y wlad hon wedi cael digon—[Torri ar draws.] Wedi cael digon. Mae'n ddiddorol bod yn y Siambr yn trafod hyn ac edrych ar y sgyrsiau sy'n digwydd wrth i mi siarad. Yn amlwg, nid yw'n fater sydd o ddiddordeb i bawb yn y Siambr hon, yn anffodus. Gorau po gyntaf y cawn sofraniaeth unigol yma yng Nghymru i'n dinasyddion. Gorau po gyntaf y cawn sofraniaeth gymunedol yng Nghymru, a gorau po gyntaf y cawn sofraniaeth genedlaethol fel ein bod yn gallu sefyll ar ein traed ein hunain gydag urddas a gwneud ein penderfyniadau ein hunain. Rwy'n teimlo embaras wrth wrando ar y gweriniaethwyr honedig asgell chwith draw yno ar fy ochr dde. Maent yn mynd i bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn, buaswn yn dychmygu, am eu bod o dan chwip eu plaid, fel erioed, gyda Llafur. Plaid yn gyntaf, y wlad yn ail.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau yn glir am eu cyfraniadau ac am y cyfle hwn i ymateb. Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, dyma bont sy'n eiddo i Lywodraeth arall, ac rydym wedi gwneud galwadau mynych yn y gorffennol am drosglwyddo perchnogaeth am y groesfan i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn hanesyddol mae'r galwadau hyn wedi cael eu gwrthod. Felly, penderfyniad i Lywodraeth y DU yw a ddylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar enwi'r bont ai peidio. Hefyd, gwnaed cais i ofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad yr wythnos diwethaf. Ond i ailadrodd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad.
Rhaid imi ddweud, ar adegau, mae wedi bod yn bryder i mi fod yr iaith a ddefnyddiwyd weithiau, nid yn y Siambr hon, ond yn sicr ar y cyfryngau cymdeithasol, yn awgrymu bod pobl sy'n cefnogi'r teulu brenhinol yn llai o Gymry na'r rhai nad ydynt yn eu cefnogi, eich bod yn llai o Gymry os ydych yn cefnogi enwi'r bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru. Buaswn yn annog holl ddinasyddion Cymru i fod yn fwy goddefgar o safbwyntiau eraill a chefnogi amrywiaeth o safbwyntiau. Ni fuaswn yn dymuno i unrhyw un y tu allan i Gymru feddwl nad ydym yn goddef barn a safbwyntiau pobl eraill. Hefyd byddai'n well gennyf pe baem yn canolbwyntio ar gael gwared ar dollau'r bont yn hytrach nag ar ei hailenwi. Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol wybodus ac ystyrlon yn y Senedd o blaid diddymu'r tollau ar y ddwy bont, yn ogystal ag ymhlith busnesau a diwydiant. Rwy'n credu'n gryf iawn fod y gefnogaeth hon wedi ein galluogi i lunio achos pwerus a chyson dros weld Llywodraeth y DU yn eu dileu, rhywbeth a chwaraeodd ran fawr ym mhenderfyniad Llywodraeth y DU yn y pen draw yn fy marn i.
Os edrychwn tua'r dyfodol, fel y dywedodd Russell George, mae cynhyrchiant economi Cymru ar fin cael hwb o dros £100 miliwn y flwyddyn. Mae'n hanfodol, wrth inni adael yr UE, ein bod yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru'n fyd-eang ac yn wir, ar bob lefel. Mae cael gwared ar y tollau yn anfon neges gref iawn yn rhyngwladol fod Cymru'n agored i fusnes, ac nad oes unrhyw rwystrau i symudiad rhydd traffig rhyngom a Lloegr a gweddill y DU. Galwaf yn awr ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhyngom a gweddill Ewrop.
Nawr, fel Llywodraeth, mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol i'r modd y lluniwn ein polisïau. Yn wir, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ffyrdd o weithio yn pennu bod yn rhaid inni weithio mewn ffordd gydweithredol, gyda phobl yn cymryd rhan yn llawn. Byddwn yn parhau i ymgynghori gyda'r cyhoedd ar gynigion ar gyfer ein hasedau ein hunain yng Nghymru i helpu i wella ansawdd lleoedd a hunaniaeth leol. Rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn cynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd cefnffyrdd newydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried ymgynghori ar enwi'r bont ym Mryn-mawr ar gyfer rhan 2 yr A465, ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint ynghylch enwi'r hyn a elwir ar hyn o bryd yn bont newydd Sir y Fflint; dyma'r porth i Gymru yn y gogledd. Ac rwyf hefyd yn awyddus i gynnal ymgynghoriad lleol ynghylch enwi trydedd bont y Fenai. Rhaid imi bwysleisio mai ymgynghoriadau lleol fydd y rhain, i roi hawl i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau y maent yn rhoi hunaniaeth iddynt gael rhan yn y broses o'u henwi.
Edrychaf ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r ymgynghoriadau lleol hyn, a buaswn yn annog yr holl wleidyddion, a'r holl bobl, ble bynnag y maent yn eu cynrychioli, a ble bynnag y maent yn byw, i barchu barn y bobl leol, ni waeth a ydynt yn dewis enw brenhinol ai peidio ar y seilwaith sy'n rhoi hunaniaeth iddynt a'u cymunedau.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Adam Price i ymateb i'r ddadl, os gwelwch yn dda?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A fo ben, bid bont, wrth gwrs, medd yr hen ddihareb yn y Mabinogi. Wel, wrth gwrs, yn sgil ymyriad Alun Cairns, efallai bydd rhaid inni wyrdroi hynny i: a fo bont, bid ben. Nawr, pam wnaeth e hyn? Pam wnaeth 40,000 o bobl arwyddo’r ddeiseb yn ei wrthwynebu? Rwy’n credu roedd John Griffiths yn iawn, wrth gwrs: mewn enw mae grym. Mae symbolau’n bwysig; maen nhw’n arwyddocaol achos maen nhw’n cario neges ynghylch pwy ydym ni. Dyna pam mae pobl yn poeni am y pethau yma, ac nid ydw i'n credu bod unrhyw beth anoddefgar ynghylch teimlo’n eithaf angerddol am beth mae hyn yn ei gynrychioli o ran ein gwerthoedd ni, fel roedd John Griffiths yn ei ddweud.
Nid wyf yn credu ei fod yn fater—rwy'n weriniaethwr hefyd—o p’un ai ydych chi’n weriniaethwr neu’n frenhinwr; mae’n fater ynglŷn ag a ydych chi’n ddemocrat, a dweud y gwir. Ble oedd llais pobl Cymru yn hyn o beth—yn y penderfyniad yna? Penderfyniad sydd wedi cael ei arosod arnom ni, wrth gwrs, fel rhywbeth mas o’r hen oes, a dweud y gwir—oes cyn datganoli, oes cyn democratiaeth. Dyna pam mae pobl yn ymateb ac yn dweud, ‘Nid yw hwn yn dderbyniol.’
Mae sawl cenedl yn y byd, wrth gwrs, wedi bod yn mynd trwy’r broses o ailenwi pethau er mwyn rhyddhau eu hunain o drefedigaethedd. Yng Nghanada yn ddiweddar, maen nhw wedi newid enw pont Langevin yn Alberta—gorthrymwr mawr y bobloedd brodorol—wedi troi yn bont 'cymodi'. Yn Awstralia, wrth gwrs, rŷm ni i gyd yn gwybod am Ayers rock wedi'i throi'n Uluru. Dim ond yng Nghymru, wrth gwrs, mae’r broses yn mynd i’r ffordd arall, yntefe? Fel roedd John yn cyfeirio at y Principality Stadium, mae nawr gyda ni'r bont. Rŷm ni'n dal yn colli enwau Cymraeg lleol, fel, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ei wneud ers canrifoedd—proses digon tebyg i’r un ddigwyddodd yn Iwerddon. Cofiwch ddrama enwog Brian Friel, Translations, am rym enwi lleoedd. Mae’n rhan ganolog, a dweud y gwir, o ddeall pwy ydym ni a’n hanes ni.
Enwau lleoedd ydy’r man lle mae iaith a grym yn cwrdd. Mi oedd ail groesiad yr Hafren yn ddim ond pont, ond beth yw hi nawr? Mae’n symbol; mae’n symbol o’n diffyg awdurdod ni. Mae’n symbol o’n diffyg llais ni yn ein gwlad ein hunain, symbol o’n diffyg democratiaeth ni: hanner y bont yn Lloegr, ond 100 y cant o’r pŵer. Cymru sydd—[Torri ar draws.] Nid oes amser. Cymru sydd wedi talu rhan helaeth o’r tollau, ac eto ni chawsom siawns i leisio ein barn. Mae’n fy atgoffa o’r gofeb honno yn Calcutta—cofeb Victoria—wedi cael ei thalu, Dirprwy Lywydd, trwy danysgrifiadau gan yr Indiaid eu hunain. Ni a nhw, cyn hir, fydd yr unig bobl yn y byd sydd wedi talu am symbolau o’n darostyngiad ni ein hunain, ond gydag un gwahaniaeth mawr, wrth gwrs: maen nhw’n annibynnol. Brysied y dydd y bydd hynny’n wir am Gymru hefyd.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.