– Senedd Cymru am 3:11 pm ar 2 Mai 2018.
A gawn ni symud ymlaen at eitem 7, os yw pawb—? Iawn. Eitem 7, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar dlodi misglwyf a stigma. Galwaf ar Jane Hutt i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6695 Jane Hutt, Jenny Rathbone
Cefnogwyd gan David Rees, Dawn Bowden, Jack Sargeant, Jayne Bryant, John Griffiths, Julie Morgan, Leanne Wood, Mick Antoniw, Mike Hedges, Siân Gwenllian, Simon Thomas, Vikki Howells
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.
2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.
3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;
b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac
c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone—
A gawn ni ddistawrwydd, os gwelwch yn dda? Diolch.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gydgyflwyno'r cynnig hwn, a fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi ei gefnogi. Mae tlodi misglwyf yn digwydd pan fo menywod a merched yn cael trafferth i dalu am gynhyrchion misglwyf hanfodol yn fisol gan effeithio'n sylweddol ar eu hylendid, eu hiechyd a'u lles.
Dengys canfyddiadau'r elusen Plan International UK fod un o bob 10 merch wedi methu fforddio cynhyrchion misglwyf. Mae un o bob saith merch wedi gorfod gofyn am gael benthyg cynhyrchion misglwyf gan ffrind oherwydd problemau gyda fforddiadwyedd, ac mae mwy nag un o bob 10 merch wedi gorfod addasu cynhyrchion misglwyf oherwydd problemau gyda fforddiadwyedd. Mae diddordeb cynyddol y cyhoedd a'r byd gwleidyddol yn y mater wedi dangos y ffaith syfrdanol fod cynhyrchion misglwyf sylfaenol i fenywod yn anfforddiadwy bellach i ormod o fenywod a merched.
Mae gennym dystiolaeth anecdotaidd o famau'n mynd heb eitemau misglwyf er mwyn eu prynu ar gyfer eu merched yn lle hynny; o fenywod sy'n ddigartref yn gorfod addasu drwy ddefnyddio carpiau budr, sanau a hyd yn oed papur newydd; o ferched o deuluoedd incwm isel yn colli ysgol pan gânt eu misglwyf oherwydd yr her o ymdopi oddi cartref heb ddigon o gynhyrchion misglwyf.
Clywsom hefyd gan Ymddiriedolaeth Trussell a ddatgelodd yr wythnos diwethaf ei bod wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed yn y ffigurau banciau bwyd ar gyfer 2017-18, a bod mwy a mwy o fenywod yn ei chael yn anodd fforddio cynhyrchion misglwyf sylfaenol ac yn dibynnu ar roddion, gyda rhai'n dewis mynd heb gynhyrchion misglwyf ar eu cyfer hwy eu hunain er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd.
Ond ceir effeithiau difrifol i iechyd corfforol a meddyliol menywod nad ydynt yn gallu rheoli eu misglwyf yn hylan bob mis. O heintiau y gellir eu hachosi drwy gael eu gorfodi i fyw ar un neu ddau o damponau i deimlo'n gaeth dan do er mwyn bod yn agos at doiled, ac o deimlo gormod o embaras a chywilydd i ofyn am help.
Mae tlodi misglwyf yn ymdrech breifat iawn ac yn ganlyniad cyni cudd nad yw wedi taro ymwybyddiaeth y cyhoedd hyd nes yn ddiweddar. Rhaid inni ei amlygu fel mater iechyd, hylendid ac anghydraddoldeb hefyd. Ond rwyf hefyd am i'r ddadl hon gydnabod bod gennym gyfrifoldeb clir i fenywod a merched yng Nghymru i ddatblygu urddas misglgwyf fel rhan o'n hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth y mislif, er ei bod yn broses naturiol a phwysig. Mae'n anghredadwy fod y misglwyf wedi bod, ac yn parhau i fod, yn fater tabŵ. Yn wir, roedd cenedlaethau hŷn yn aml yn cyfeirio at y mislif fel 'melltith'. Hyd yn oed heddiw, rydym yn defnyddio mwytheiriau am y misglwyf ac yn ei fychanu; soniwn am 'fod ar' fel bod menywod a merched, yn ogystal â methu fforddio eitemau hylendid, yn teimlo gormod o embaras neu gywilydd i ddweud eu bod yn cael eu misglwyf.
Mae hyn yn hynod o anodd i ferched a menywod ifanc, ac mae'n dechrau yn yr ysgol gynradd a thrwodd i'r ysgol uwchradd. Felly, yn ogystal â siarad am dlodi misglwyf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn siarad ac yn defnyddio'r cyfle i drafod a thynnu sylw at urddas misglwyf. Amlygodd yr adroddiad dadlennol gan weithgor craffu Cyngor Rhondda Cynon Taf, a sefydlwyd i ymdrin â darpariaeth rad ac am ddim ar gyfer y misglwyf mewn ysgolion, rai o'r pryderon a godwyd gan ferched ysgol am urddas misglwyf a stigma, gyda rhai ohonynt yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae bechgyn yn gwneud hwyl am ein pennau os ydynt yn ein gweld yn mynd i'r toiled gyda'n bagiau—mae'n creu embaras.
'Byddai'n well gennyf fynd adref' na gofyn i athro neu athrawes am gynhyrchion misglwyf, yn enwedig athro gwrywaidd. 'Mae bechgyn yn aeddfedu'n ddiweddarach', mae angen rhoi'r mislif mewn persbectif gan eu bod yn mynd i fod yn bartneriaid yn y dyfodol, yn dadau, yn gyflogwyr a rhaid cael gwared ar y stigma. Mae angen iddynt sylweddoli mai un o weithredoedd normal y corff ydyw a'r effaith y gall ei chael ar fenywod.
Dyna pam mae'r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried galwadau i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysg ar iechyd a lles mewn perthynas â'r mislif, gan fynd i'r afael â stigma sy'n dal i fod yn gysylltiedig â'r mislif ac agor sgwrs naturiol a chenedlaethol am y misglwyf.
Fodd bynnag, rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb diweddar Llywodraeth Cymru i dlodi misglwyf, gyda'r cyhoeddiad y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i'r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau drwy ddarparu cynhyrchion misglwyf i'r menywod a'r merched sydd fwyaf o'u hangen, a gellid gwneud hyn drwy grwpiau cymunedol, ysgolion neu fanciau bwyd. Ac yn bwysicaf oll, bydd £700,000 o gyllid cyfalaf ar gael i wella cyfleusterau ac offer mewn ysgolion. Mae'n arbennig o galonogol nodi y gellir defnyddio'r cyllid hwn mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cydnabod ymchwil sy'n dangos bod mwy o ferched yn dechrau eu misglwyf yn iau, ac nid oes gan rai ysgolion cynradd y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ganmol ymdrechion fforwm menywod a chynghorwyr Llafur lleol ym Mro Morgannwg, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ers y llynedd i godi ymwybyddiaeth o dlodi misglwyf a gwneud yn siŵr fod darparu cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ym Mro Morgannwg ar agenda'r cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson:
Mater tlodi yw hwn. Mae'n broblem gudd a thawel. Nid yw merched eisiau siarad am y peth.
Dywedodd y Cynghorydd Jayne Norman o blaid Llantwit First:
Mae'r mislif yn effeithio ar bob menyw. Nid oes gennym ddewis yn y mater... I ormod o fenywod ifanc a merched, mae cyfaddef eu bod hyd yn oed yn cael eu misglwyf yn ddigon o embaras, heb orfod cyfaddef na all eu teulu fforddio prynu'r cynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt. Y cynhyrchion sy'n caniatáu iddynt gael yr hawl i urddas a llesiant.
Hefyd, hoffwn ganmol gwaith rhagorol sefydliadau Cymreig megis Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell a llawer o rai eraill, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed amdanynt y prynhawn yma, sefydliadau sy'n codi ymwybyddiaeth am y mater hwn a helpu i fynd i'r afael ag ef.
Mae distawrwydd yn atal cynnydd ac rwyf mor falch ein bod yn torri'r tabŵ ac mae'n dda gweld cymaint yn aros yn y Siambr y prynhawn yma i rannu ac ystyried y mater hwn, er mwyn mynd i'r afael â sgandal anweledig tlodi misglwyf a diffyg urddas misglwyf drwy fod yn rhan o'r ddadl hon yn y Cynulliad heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau. Diolch.
Mae tlodi yn fater ffeministaidd. Pan fo menywod ifanc yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio cynhyrchion misglwyf, tlodi yw hynny. Pan fo menywod yn gorfod defnyddio papur toiled, hen ddillad, neu ddim byd o gwbl, yn aml, yn lle padiau a thamponau pan fyddant yn cael eu mislif, tlodi yw hynny. Pan fo menywod yn gorfod dewis rhwng prynu cynhyrchion misglwyf, dillad, tocyn bws neu fwyd, tlodi yw hynny. Ydy, mae tlodi yn fater ffeministaidd ac mae effeithio'n anghymesur ar fenywod a merched.
Yng Nghymru, menywod yw'r rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser a gweithwyr ar gyflogau isel a hwy sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan doriadau creulon i les. Mae'n destun cywilydd cenedlaethol fod yna fenywod yng Nghymru nad ydynt yn gallu fforddio prynu'r cyflenwadau o gynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt. Roeddwn yn falch pan gyhoeddwyd y grant £1 filiwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, oherwydd bydd yn cynnig rhyw lefel o arian i leddfu symptomau tlodi misglwyf. Ond nid yw'n ddigon.
O'i ddadelfennu, mae grant o £1 filiwn yn cynnig oddeutu £22,000 dros ddwy flynedd i bob awdurdod lleol yng Nghymru i brynu a dosbarthu cynhyrchion misglwyf. Fodd bynnag, byddai cyngor Rhondda Cynon Taf yn unig angen £70,000 mewn un flwyddyn yn unig i brynu a dosbarthu'r cynhyrchion misglwyf. Os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi misglwyf, rhaid inni fynd ymhellach nag ateb arwynebol tymor byr—rhaid inni geisio mynd i'r afael â gwraidd y broblem yn uniongyrchol, ac mae hynny'n golygu trechu tlodi.
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi mesurau go iawn ar waith i ddileu tlodi yng Nghymru, ac mae hynny'n dechrau gyda datganoli gweinyddu lles. Rhaid iddi hefyd weithredu strategaeth gydlynol, hirdymor wedi'i chyllidebu'n briodol ac a fydd yn cynnwys sicrhau darpariaeth gyson, gynhwysol o eitemau misglwyf ledled Cymru. Mae stigma a thabŵ yn perthyn i dlodi misglwyf. Mae angen inni gael gwared ar y cywilydd sy'n gysylltiedig â'r mislif ac addysgu pawb yn agored ac yn onest am y pwnc. Dylem fod yr un mor gyfforddus yn sôn am ddarparu cynnyrch misglwyf ag yr ydym yn sôn am ddarparu papur toiled.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i weithredu'n llawn argymhellion yr adroddiad 'Dyfodol y cwricwlwm addysg rhyw a pherthnasoedd yng Nghymru' gan y panel arbenigol rhyw a pherthnasoedd i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn darparu addysg rhyw a pherthnasoedd sy'n gynhwysol ac o ansawdd uchel.
Rhaid imi nodi hefyd nad menter Lafur yw hon yn wreiddiol. Plaid Cymru a wthiodd y mater ar yr agenda, a phan wthiodd cynghorwyr yn fy ardal am bleidlais ar gronfa tlodi misglwyf, dewisodd Llafur wrthwynebu. Ond mae eu hymagwedd ddygn wedi cadw'r ymgyrch hon yn fyw, a dyna pam rwyf am dalu teyrnged i'r menywod aruthrol sy'n gynghorwyr Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf, ac sydd, ar ôl ymgyrch hir ac a chaled o dan arweinyddiaeth y cynghorydd ifanc, Elyn Stephens, wedi sicrhau bod cynhyrchion misglwyf yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim i'r holl ddisgyblion ysgolion uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae cynghorau Merthyr Tudful, Bro Morgannwg a Chasnewydd oll wedi cyflwyno cynigion yn dilyn esiampl Rhondda Cynon Taf, gan ddangos bod yna symudiad organig tuag at ddarparu cynhyrchion misglwyf i bawb, gyda menywod ifanc yn flaenllaw ynddo.
Mae gofal mislif yn fater gofal iechyd, ac mae gofal iechyd yn hawl ddynol. Er mwyn cydraddoldeb, rhaid i gynhyrchion misglwyf ac addysg rhyw a pherthnasoedd gynhwysfawr fod ar gael i bawb yng Nghymru. Mae darpariaeth gyffredinol yn olwyn hollbwysig yn y peirianwaith i sicrhau cymdeithas gyfartal. Mae gan Gymru bŵer a photensial i arwain drwy esiampl, nid yn unig ar ddileu tlodi, ond yn y gwaith o greu gwlad sy'n gyfartal.
Hoffwn ddiolch i Jane a Jenny am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Rwy'n cefnogi ymdrechion yr Aelodau i dynnu sylw at y mater, ac yn llwyr gefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw. Oherwydd chwiw ein bioleg, mae hanner y boblogaeth yn wynebu her fisol. Oherwydd tlodi, i lawer o ferched ifanc, mae'r her honno'n ymdrech. Mae llawer gormod o ferched ifanc yn colli ysgol oherwydd na allant fforddio cynhyrchion misglwyf. Mae llawer gormod o ferched ifanc yn cael eu gorfodi i fynd i eithafion i addasu cynhyrchion misglwyf. Mae'n anodd credu bod hyn yn digwydd yn 2018.
Rwy'n croesawu'r arian a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i ddosbarthu cynhyrchion misglwyf i grwpiau cymunedol, ysgolion a banciau bwyd, ond mae angen inni fynd ymhellach. Ni ddylai merched wynebu eu hallgáu'n fisol o'r ysgol am na allant fforddio cael misglwyf. Rhaid inni sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael am ddim yn ein hysgolion. Hefyd, rhaid inni roi diwedd ar bolisïau sy'n cyfyngu ar fynediad merched i doiledau, yn bennaf yn ystod amser gwersi, a rhoi diwedd ar ddiwylliant lle mae merched yn teimlo gormod o embaras i siarad â staff ysgol pan fo angen iddynt wneud hynny. I ddyfynnu Plan International:
Mae misglwyf merched yn ffaith bywyd ac mae'n dal i fod angen i ysgolion, yn ogystal â'r gymdeithas yn ehangach, addasu i'r ffaith honno.
Hefyd, rhaid inni wneud cynhyrchion misglwyf yn rhatach i bob un ohonom. Rwy'n annog Llywodraeth y DU, gan ein bod yn gadael yr UE ac yn rhydd i osod ein rheolau treth ar werth ein hunain, i ddiddymu'r dreth ar damponau. Mae cynhyrchion misglwyf yn nwydd hanfodol bob mis, ac ni ddylai fod yn ddarostyngedig i dreth ar werth. Rwy'n disgwyl i Ganghellor y Trysorlys ddiddymu TAW ar gynhyrchion misglwyf ar 29 Mawrth y flwyddyn nesaf. Tan hynny, mae angen iddynt weithio gyda gweithgynhyrchwyr y cynhyrchion i'w gwneud yn fwy fforddiadwy. Rhoddodd un o'r gweithgynhyrchwyr mwyaf, Procter & Gamble, becyn o Always Ultra i ysgol yn y DU am bob pecyn a werthwyd yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill. Hoffwn i'r holl gynhyrchwyr efelychu'r cynllun hwn drwy gydol y flwyddyn.
Tra'n bod yn sôn am y gweithgynhyrchwyr, credaf fod angen iddynt roi'r gorau i ddefnyddio plastig yn eu cynnyrch. Cefais fy synnu wrth glywed ddoe bod 90 y cant o bad misglwyf yn blastig, sy'n cynnwys cymaint â phedwar bag siopa archfarchnad. Mae angen inni ddileu'r ffynhonnell hon o blastig untro ac edrych am rywbeth amgen.
Ond, i ddychwelyd at y pwnc, hoffwn hefyd ddiolch i'r elusennau sy'n gweithio'n galed yn gwneud eu rhan i roi diwedd ar dlodi misglwyf. Mae Jane a Jenny wedi sôn am rai, ond hoffwn sôn am Matthew's House yn Abertawe, sy'n gweithredu The Homeless Period Swansea. Maent yn dosbarthu cynhyrchion misglwyf i fenywod digartref ar ffurf pecynnau urddas, sy'n cynnwys y cynhyrchion misglwyf, cadachau gwlyb a hancesi papur, dillad isaf a sanau, diaroglydd a balm wefusau. Yn eu geiriau hwy, maent yn darparu gobaith (ar ffurf pecyn gofal) i'r bobl fwyaf agored i niwed yn Abertawe sydd yn fy rhanbarth i.
Mae'r mislif yn broses naturiol na ddylai roi menywod a merched dan anfantais. Mae elusennau'n gwneud eu rhan i sicrhau chwarae teg. Mae angen i ni wneud ein rhan ninnau, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Mae'n bleser codi i siarad o blaid y cynnig heddiw. Mae hyn yn wirioneddol bwysig, yn cyffwrdd ar sut y gallwn sicrhau urddas merched a menywod ifanc yn ysgolion Cymru.
Mae data Plan International UK yn dangos sut y mae llawer gormod o fenywod ifanc yn cael trafferth i dalu'r gost am gynhyrchion misglwyf. Mae'r elusen wedi dangos effaith ofnadwy hyn hefyd. Roedd bron i hanner y merched a holwyd wedi colli diwrnod cyfan o ysgol oherwydd eu misglwyf. Mae 64 y cant yn colli gwersi addysg gorfforol, ac mae merched a menywod ifanc yn gorfod dweud celwydd oherwydd embaras.
Mae hwn yn fater y deuthum ar ei draws yn uniongyrchol, mewn rôl fugeiliol mewn ysgol uwchradd. Nid yw'n iawn fod merched a menywod ifanc yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Ar ben hynny, nid yw llawer o'r rhai yr effeithir arnynt yn cael gwybodaeth briodol am yr hyn sy'n digwydd i'w cyrff. Cyfaddefodd un o bob saith nad oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd pan ddechreuodd eu mislif, a dywedodd mwy na chwarter nad oeddent yn gwybod beth i'w wneud pan ddechreuodd eu misglwyf. Mae hyn yn frawychus, ac rwy'n falch fod y cynnig hefyd yn trafod addysg.
Rwyf am ganolbwyntio ar beth sy'n digwydd yn fy awdurdod lleol fy hun yn Rhondda Cynon Taf. Fel y gŵyr yr Aelodau, Rhondda Cynon Taf fydd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi camau ar waith i drechu tlodi misglwyf. Fel y dywedodd y Cynghorydd Joy Rosser, aelod cabinet dros addysg, mae hwn yn gam arloesol. Rwy'n falch fod hyn hefyd wedi'i gydnabod yn y cynnig.
Hoffwn dalu teyrnged i'r ysbryd trawsbleidiol y datblygwyd y polisi pwysig hwn ynddo yn RhCT. Mae'n dda gweld pob plaid yn gweithio gyda'i gilydd i wella amgylchiadau merched a menywod ifanc. Ond beth y mae gwaith Rhondda Cynon Taf yn ei olygu? Yn gyntaf, rwy'n falch fod y gweithgor a ystyriodd ymateb y cyngor wedi gwneud meddyliau a phrofiadau dysgwyr benywaidd ym mhob rhan o'r sir yn fan cychwyn. Fel y nododd y gweithgor, mae cyfranogiad disgyblion drwy gydol yr adolygiad yn hollbwysig er mwyn codi proffil y ddarpariaeth fisglwyf mewn ysgolion. Mae hefyd yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth a chael gwared ar y dryswch a'r ymdeimlad o gywilydd, gobeithio.
Felly, hoffwn nodi rhai pwyntiau pwysig o'u hymchwil. Dywedodd 52 y cant o ddisgyblion ysgol uwchradd benywaidd eu bod yn ymwybodol fod cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim ar gael iddynt yn eu hysgol. Dywedodd y rhan fwyaf eu bod yn gwybod sut i gael gafael arnynt, ac roeddent yn hapus â'r hyn a oedd ar gael. Ond pan ofynnwyd iddynt os oedd eu misglwyf wedi effeithio ar eu presenoldeb, dywedodd 46 y cant ei fod wedi peri iddynt golli'r ysgol. Er ei fod yn cyd-fynd â data Plan, efallai mai crafu'r wyneb yn unig y mae hyn, gan nad oedd pob un o'r ymatebwyr wedi dechrau eu misglwyf mewn gwirionedd. Dywedodd 62 y cant o'r ymatebwyr fod cael misglwyf yn effeithio ar eu perfformiad yn yr ysgol uwchradd. Ac yn olaf, er bod dros hanner y disgyblion wedi cael gwybodaeth am fisglwyf yn ystod eu haddysg gynradd, dywedodd chwech o bob 10 nad oedd eu hysgol uwchradd yn darparu addysg ddilynol ynglŷn â hyn. Mewn cyferbyniad, fodd bynnag, dywedodd 100 y cant o ysgolion uwchradd a ymatebodd eu bod yn teimlo eu bod yn cynnig dosbarthiadau priodol i'w disgyblion. Nid wyf yn credu bod hwn yn achos o un grŵp yn gywir a'r llall yn anghywir. Rwy'n meddwl ei fod yn tynnu sylw at y gwahaniaeth mewn canfyddiad ac yn dangos efallai fod angen i ysgolion ystyried mabwysiadu dulliau amgen i wneud yn siŵr fod merched a menywod ifanc yn gwybod pa gymorth sydd ar gael.
Hefyd, rwyf am nodi dau bwynt pellach o'r ymchwil. Dywedodd nifer fach o ysgolion uwchradd eu bod eisoes yn dyrannu cyllideb gyfyngedig ar gyfer prynu cynhyrchion misglwyf, ond nad oedd y mwyafrif helaeth yn gwneud hynny. Fel arfer, yn lle hynny, roeddent yn dibynnu ar staff i brynu'r eitemau, a defnydd o arian mân, neu eitemau am ddim a adawyd ar ôl wedi i'r nyrs ysgol ymweld i drafod y glasoed. Mae ysgolion yn hysbysu disgyblion fod y cynhyrchion hyn ar gael mewn amrywiaeth o ffyrdd, yn amrywio o sgyrsiau cynnil i drafodaethau dosbarth yn y cyfnod pontio a gwersi addysg bersonol a chymdeithasol blwyddyn 7. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad oes dull cyson ar draws yr awdurdod lleol ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir ledled Cymru hefyd.
Yn yr amser sydd gennyf ar ôl, hoffwn edrych ar beth y mae Rhondda Cynon Taf yn ei gynnig fel ateb mewn gwirionedd. Bydd bellach yn orfodol yn fy awdurdod lleol i bob ysgol gyda merched naw oed a hŷn ddarparu amrywiaeth o gynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim y gellir cael gafael ynddynt—ac mae hyn yn hollbwysig—yn annibynnol yn y toiledau. Datblygir adnoddau ac arwyddion i godi ymwybyddiaeth ymysg dysgwyr, staff, rhieni a gofalwyr. Caiff camau eu cymryd hefyd i wella ansawdd y ddarpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol a gwaith gydag athrawon i ddileu stigma neu embaras. Gwn hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pendant, fel y mae'r Aelodau eraill wedi dweud eisoes, i gynorthwyo cynghorau er mwyn sicrhau bod prosiectau o'r fath yn cael eu hariannu. Felly, rwy'n hapus iawn i gefnogi'r cynnig hwn heddiw.
Galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Rwyf innau hefyd yn falch iawn fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno a'i bod mor drawsbleidiol ar draws y Siambr. Mae'n wych gweld y mater hanfodol hwn yn cael cyhoeddusrwydd a chefnogaeth o'r fath o bob rhan o'r Siambr, yn wir. Rwy'n mynd i'w ailadrodd oherwydd mae'n werth ei ailadrodd—mae'n gwbl annerbyniol fod yna fenywod a merched yng Nghymru nad ydynt yn gallu ymgymryd â'u gweithgareddau bob dydd arferol am na allant fforddio prynu cynhyrchion misglwyf hanfodol i fenywod pan fo'u hangen arnynt. Mae'n gwbl amlwg nad yw pobl sy'n troi at fanciau bwyd oherwydd na allant fforddio bwydo eu teulu yn gallu fforddio hanfodion eraill chwaith. Ac mae'n gwbl warthus, fel y mae llawer o'r Aelodau—yr Aelodau i gyd, rwy'n credu—wedi dweud, yn gwbl warthus fod pobl yn gorfod dewis rhwng bwyd ac urddas.
Mae llawer o'r Aelodau hefyd wedi sôn am yr ymchwil a wnaed gan Plan International sy'n rhoi syniad o ba mor gyffredin yw'r broblem yn y DU. Mae nifer o'r Aelodau wedi crybwyll Rhondda Cynon Taf hefyd, ac mae eu hymchwil wedi bod yn hynod ddefnyddiol yn taflu goleuni ar ba mor annigonol yw cyfleusterau toiled ac ymolchi ar gyfer merched, a sut y maent wedi cyflwyno atebion arloesol. Mae arnaf ofn gorfod cyfaddef hyn yn gyhoeddus—ond credaf ei fod yn werth ei gyfaddef, a gobeithio y bydd Leanne Wood yn fy helpu yma—ond roeddwn ar banel gyda'r cynghorydd ifanc rhagorol, ac mae ei henw wedi mynd allan o fy mhen yn llwyr—
Elyn Stephens.
Elyn Stephens. Diolch yn fawr iawn. Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, siaradodd yn frwd am y frwydr i fwrw'r agenda hon yn ei blaen a pham ei bod hi'n teimlo mor gryf am y peth. Roedd yn drawiadol iawn wrth wneud hynny, ac roedd yn fraint cael ei chlywed. Mae'n dyst i gynghorwyr yn Rhondda Cynon Taf eu bod wedi parhau i gael yr agenda hon i symud. Roedd hi'n ysbrydoledig iawn yn y modd y siaradai amdano, ac yn sicr yn werth gwrando arni, ac rwy'n mynd i gael y fraint o'i chyfarfod i siarad ymhellach am yr hyn y gallwn ei wneud fel Llywodraeth ymhen pythefnos. Felly, rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny. Fe siaradodd lawer iawn, nid yn unig am dlodi misglwyf, ond fel y mae llawer o'r Aelodau yn y Siambr wedi sôn, am urddas misglwyf a'r angen am addysg ac am wybodaeth, a sut y mae addysg a gwybodaeth yn hanfodol er mwyn cynnal urddas, yn ogystal â chael yr arian sy'n angenrheidiol er mwyn cael hanfodion yn eich bywyd. Ac felly, rydym yn awyddus iawn i weithio ar draws yr elfennau hynny yn Llywodraeth Cymru, er mwyn cael hynny i gyd—tlodi misglwyf ac urddas misglwyf—yn rhan o'n polisi ar y mater hwn.
Fel y soniodd llawer o'r Aelodau eisoes, rydym wedi llunio cronfa'n gyflym iawn o £700,000 o arian grant cyfalaf, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi manteisio ar y cynnig hwnnw o arian grant. Defnyddir y rownd o gyllid i wneud gwelliannau angenrheidiol i gyfleusterau toiledau ysgol lle nad ydynt yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion. A hoffwn dynnu sylw, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, at y ffaith bod hynny'n cynnwys ysgolion cynradd, lle mae'r toiledau'n aml yn annigonol ar gyfer hynny. Gallai olygu darparu biniau neu newidiadau i giwbiclau toiled.
Cynigir rowndiau eraill o gyllid gwerth cyfanswm o £440,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn nesaf i ategu'r grant. Mae gennym nifer o awdurdodau lleol sydd eisoes wedi derbyn y cynnig o arian y flwyddyn gyntaf, ac rydym yn gweithio gyda phob un ohonynt i wneud yn siŵr ein bod yn gwasgaru hwnnw ar draws Cymru. Defnyddir hwn i ddarparu cynhyrchion misglwyf i fenywod drwy rwydweithiau awdurdodau lleol, ac mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector lleol. Yn y bôn, ein nod yw sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael ar gyfer y rhai na allant eu fforddio. Mae banciau bwyd yn fan dosbarthu pwysig, ac rwy'n credu bod Jane Hutt wedi crybwyll banciau bwyd penodol yn ei hardal hi hefyd. Ond ceir mannau eraill posibl, megis llochesi i'r digartref a llochesi i fenywod, er enghraifft. Gwn fod Caroline Jones wedi crybwyll un yn fy etholaeth sy'n dda iawn o ran y pecynnau y maent yn eu rhoi at ei gilydd—fe'u gelwir yn becynnau gofal. Mae'n ddiddorol iawn, oherwydd nid â chynhyrchion misglwyf yn unig y mae'n ymwneud mewn gwirionedd. Maent yn darparu deunydd ymolchi a sychu ac ati.
Daw hynny â mi at y peth nesaf yr ydym wedi gofyn i awdurdodau lleol ei ystyried, sef darparu cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu gynnyrch ecogyfeillgar, oherwydd fel y nododd sawl Aelod, mae deunydd misglwyf yn gallu bod yn anodd iawn ei ailgylchu mewn gwirionedd, a gall achosi problemau ecolegol annerbyniol eraill, ac rydym am allu mynd i'r afael â rhai o'r rheini ar yr un pryd. Felly, credaf y dylid cymeradwyo ymdrechion awdurdodau lleol. Rwy'n credu bod angen camau gweithredu pellach er hynny, ac maent y tu allan i'r system addysg yn ogystal. Ar y pwynt hwn, rwy'n credu ei bod hi'n werth crybwyll, fel y mae llawer o bobl wedi sôn, fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i fod yn gwneud datganiad ar yr adroddiad rhyw a pherthnasoedd iach yn ddiweddarach y mis hwn, ymhen ychydig wythnosau.
Felly, o ran gweithredu yn y dyfodol, mae gennym swyddogion yn gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i archwilio opsiynau pellach, gan gynnwys darpariaeth drwy bartneriaethau cymunedol a gwasanaethau iechyd rhywiol. Rydym hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer dosbarthu drwy raglenni sy'n targedu teuluoedd incwm isel, megis Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Hefyd, rydym yn cael cyfres o gyfarfodydd rheolaidd gyda chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y DU, fel y gallwn ddysgu o'r camau a roddir ar waith gan y tair Llywodraeth a chynnig cefnogaeth ar bolisïau newydd i fynd i'r afael â thlodi misglwyf ac urddas misglwyf. Ac, fel y bydd yr Aelodau oll yn gwybod, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn imi gynnal adolygiad cyflym o'n polisïau rhywedd a chydraddoldeb er mwyn rhoi hwb newydd i'n gwaith yn y maes hwn, a bydd hyn yn sicr yn cynnwys adolygiad o'r mater tlodi ac urddas misglwyf y mae'r Aelodau yn ei godi, ac sydd eisoes wedi'i godi gan randdeiliaid yn ein digwyddiadau cychwynnol i randdeiliaid.
O ran addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cyrraedd eu potensial llawn, waeth beth fo'u cefndir a'u hamgylchiadau, ac mae hyn yn cynnwys helpu dysgwyr i oresgyn rhwystrau rhag dysgu a grëwyd gan amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Felly, mae gan ysgolion drefniadau ar waith sy'n cael eu deall yn dda i gefnogi llesiant dysgwyr. Dylai disgyblion wybod ble i fynd ac fel y nododd Vikki Howells, mae'n hanfodol fod cyfathrebu'n digwydd yn yr ysgol, fel eu bod yn gwybod â phwy i siarad os oes angen cynnyrch misglwyf arnynt pan fyddant yn yr ysgol, gan gynnal urddas. Gall merched yn eu harddegau yn arbennig fod yn sensitif iawn ynglŷn â'r materion hyn. Wrth edrych ymlaen, mae'r cwricwlwm newydd yn mynd i gynnwys y materion hyn, a bydd yn ystyried sut y mae amgylchedd yr ysgol yn cefnogi iechyd a lles cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol disgyblion, a bydd yn gyfrwng i gefnogi un o brif nodau'r cwricwlwm newydd ac yn helpu ein plant i fod yn unigolion iach a hyderus.
O ran iechyd, mae tlodi misglwyf, fel y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi, yn fater iechyd yn ogystal. Mae tlodi misglwyf i fod i gael ei drafod yng nghyfarfod nesaf bwrdd y rhaglen iechyd rhywiol, oherwydd mae'n hanfodol fod gan bob merch a dynes ffordd o gael y cynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt, yn enwedig os oes ganddynt broblemau iechyd yn ogystal. Mae hylendid mislif effeithiol yn hanfodol i iechyd, lles, urddas, grym, symudedd a chynhyrchiant menywod a merched ac felly, mae'n elfen hanfodol o waith y Llywodraeth hon mewn perthynas â chydraddoldeb rhywiol ledled Cymru.
Byddwn yn parhau i gadw llygad ar ymchwil sy'n dod i'r amlwg i lywio penderfyniadau a wnawn a sicrhau bod y camau a gymerwn yn cefnogi cynifer o bobl â phosibl yng Nghymru. Rwy'n awyddus i wybod mwy ynglŷn â sut yr effeithir ar deuluoedd incwm isel yng Nghymru. Felly, bwriedir cyflawni ymchwil i faint tlodi misglwyf ymhlith defnyddwyr banciau bwyd, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Trussell, ar gyfer y misoedd i ddod. Mae swyddogion hefyd yn edrych ar opsiynau i weithio gyda'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, sy'n rheoli cronfa dreth ar damponau Llywodraeth y DU, i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar fudd y gronfa honno yng Nghymru.
Felly, credaf fod yna amrywiaeth o faterion yn codi, ond rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelodau am gyflwyno'r mater i ni allu ei drafod yn llawn. Hoffwn ddweud hefyd y buaswn yn croesawu unrhyw syniadau eraill y mae'r Aelodau am eu cyflwyno fel rhan o'r adolygiad, neu mewn unrhyw ffordd arall, fel y gallwn ystyried sut y gallem gefnogi'r syniadau hynny yn y ffordd orau. Diolch.
Galwaf ar Siân Gwenllian i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gennyf i gloi'r ddadl, a diolch yn fawr iawn i Jane Hutt am ofyn i mi wneud hynny. Mi gychwynnodd Jane drwy drafod y stigma sydd ynghlwm â'r mislif, yn ogystal â fforddiadwyedd cynhyrchion hylendid, ac, wrth gwrs, mae'r cynnig yn sôn am wella ymwybyddiaeth ac addysg ynglŷn â'r mislif a thorri'r tabŵ. Rydw i'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n trafod y pwnc yn y Siambr yma heddiw yn cychwyn ar y daith honno o dorri'r tabŵ. Nid yw Leanne yn ein cofio ni'n cael trafodaeth ar y mislif yn y Siambr yma o'r blaen. Nid wyf i wedi bod yma mor hir â hynny, ond rydw i'n cymryd nad oes yna ddim trafodaeth o'r math yma wedi bod tan rŵan, felly rydym yn y broses o dorri'r tabŵ yn trafod y mater fel yr ydym ni heddiw.
Mi wnaeth Leanne ein hatgoffa bod diffyg cynhyrchion hylendid mislif yn yr ysgolion, a'r ffaith bod merched yn cael trafferthion yn prynu'r defnyddiau yma, yn arwydd o dlodi a bod tlodi yn achos ffeministaidd a bod rhaid mynd at wraidd y broblem a thaclo'r broblem a thaclo tlodi fel rhan o hynny, a dyna pam mae angen strategaeth lawn i daclo tlodi. Mi soniodd Leanne hefyd am bwysigrwydd addysg rhyw a pherthnasoedd iach ac mae hwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei drafod ers rhai blynyddoedd, rwy'n credu—pwysigrwydd hynny. Rwy'n falch iawn o glywed y prynhawn yma gan arweinydd y tŷ y bydd yna ddatganiad ar y mater yna yn ystod y mis yma, felly edrychwn ni ymlaen at hynny.
Mi wnaeth Caroline atgyfnerthu'r ddadl ac, yn wir, rwy'n cytuno—mae'n anodd credu bod tlodi mislif yn digwydd yn 2018. Mi soniodd Vikki Howells am y grŵp ymchwil—y grŵp tasg—yn Rhondda Cynon Taf, a buaswn i hefyd yn hoffi cyfeirio at waith y grŵp tasg yna a hefyd i ddiolch i'r cynghorydd Elyn Stephens a chriw Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf am arwain ar hyn drwy Gymru, a hynny o'r cychwyn cyntaf. Dair blynedd yn ôl, fe gyflwynodd Elyn gynnig i gynhadledd Plaid Cymru ar ôl trafod y mater efo Plaid Ifanc tra roedd hi'n aelod o'r mudiad hwnnw. Roedd Elyn ei hun wedi dioddef o dlodi mislif ar ôl cael ei magu gyda'i dwy chwaer gan ei mam, a oedd yn rhiant sengl a oedd yn dibynnu ar fudd-dâl anabledd ar gyfer cynnal y teulu. Meddai Elyn, 'Roeddem ni'n wynebu'r dewis o brynu bwyd, gwresogi, dillad neu gynhyrchion hylendid mislif, a'r olaf oedd yn colli allan bob tro.'
Ar ôl i Elyn gael ei hethol fel cynghorydd yn mis Mai y flwyddyn ddiwethaf, mi aeth hi ati i geisio cael y maen i'r wal efo cael defnyddiau hylendid mislif am ddim yn ysgolion Rhondda Cynon Taf. Ni chafodd y cynnig a wnaeth hi roi gerbron y cyngor ddim ei basio'r tro cyntaf, ac yn wir, mae hi wedi dweud wrthyf fi ei bod hi, y noson, honno, wedi cael negeseuon gan gyd-cynghorwyr yn dweud wrthi nad oedd hi ddim wedi gwneud digon o ymchwil, ac mae'n siŵr bod pobl yn gallu fforddio 50c am dampon, a'r math yna o ymagwedd. Dyna oedd yr agwedd ar y cychwyn. Ond mi wnaeth hi ddyfalbarhau ac mi wnaeth y cyngor gyfeirio'r mater i'r pwyllgor craffu ar gyfer gwneud mwy o ymchwil. Pedair o gynghorwyr Plaid Cymru a wnaeth y gwaith yma, gan anfon holiaduron i fenywod ifanc mewn ysgolion ar draws yr ardal. Mae Vikki Howells wedi sôn am rhai o ganlyniadau'r gwaith ymchwil yna, ond mi oedd pethau fel hyn yn cael eu dweud gan y menywod a oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg: 'Nid yw mislif byth yn cael ei drafod yn yr ysgolion', 'Nid ydyn nhw'n dweud wrthym bod gennym ni hawl i gael cynhyrchion hylendid oni bai bod yna ddamwain yn digwydd', a'u bod nhw ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn i athrawon gwrywaidd i gael cynhyrchion.
A gytunwch chi hefyd fod angen inni edrych ar atebion cynaliadwy? Mae hyn yn ymwneud â mwy na threchu tlodi a mater urddas. Pan edrychwch ar faint o damponau a waredir i lawr y system garthion bob blwyddyn ac anghynaliadwyedd llwyr hyn, rhaid inni hefyd edrych ar addysgu merched am eu cyrff a sut y maent yn gweithredu a sut i osod Mooncup, oherwydd mae Mooncup yn costio rywle rhwng £15 i £20 a bydd yn para am flynyddoedd lawer. Dyna rywbeth gwirioneddol bwysig rwyf am ei bwysleisio yn y ddadl hon, oherwydd os ydym yn rhuthro i gynhyrchu mwy o finiau ar gyfer deunydd misglwyf ac i ailgynllunio toiledau mewn ysgolion, mae angen inni ystyried y posibilrwydd y bydd merched yn y dyfodol yn llawer mwy cyffyrddus a chyfarwydd â'r ffordd y mae eu cyrff yn gweithio ac felly byddant yn gallu defnyddio Mooncup, sy'n golygu nad oes rhaid iddynt fynd i'r toiled bob pedair awr, ni fyddant yn wynebu'r risg bosibl o syndrom sioc wenwynig y gallwch ei gael o damponau, ac mae hefyd yn golygu nad ydynt yn gorfod talu'r holl arian i'r cwmnïau sy'n cynhyrchu'r cynhyrchion hyn, sy'n codi llawer iawn mwy nag y maent yn ei gostio i'w cynhyrchu. Felly, hoffwn grybwyll hynny a sicrhau ein bod yn cadw hynny mewn cof yn y ffordd y byddwn yn bwrw rhagddi ar y ddadl hon.
Rydw i'n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno efo'r egwyddor rydych chi'n rhoi gerbron. Mater, efallai, o gynnig y dewis ydy o ar hyn o bryd, ac addysgu mwy a mwy o ferched am fanteision y dulliau mwy cyfeillgar i'r amgylchedd yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw. Ond rydw i'n meddwl, ar hyn o bryd, ei bod hi yn bwysig bod y dewis yma ar gael, a dyna pam rydw i yn croesawu'r £1 filiwn sydd wedi cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth yma. Ond rydw i'n cyd-fynd efo chi: oes, mae eisiau agor y drafodaeth yma allan yn fwy na dim ond am y mater sydd gyda ni dan sylw fan hyn. Mae eisiau ei agor o allan hyd yn oed yn fwy, onid oes? Mae eisiau ei weld o mewn cyd-destun taclo tlodi, ond mae eisiau ei weld o yng nghyd-destun cydraddoldeb, neu'r diffyg cydraddoldeb sydd yn wynebu menywod yng Nghymru heddiw. Mae o'n symptomatig o hynny—nad ydym ni wedi bod yn trafod y mater tan yn ddiweddar iawn yn fan hyn.
Rydw i'n falch, a dweud y gwir—merched ydy pawb sydd wedi siarad yma heddiw. Efallai bod hynny'n dweud rhywbeth. Mae o'n dweud un peth—mae o'n dweud, pan fo yna ddigon o ferched mewn safleoedd lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud, mae materion sydd o bwys i ferched—merched y tu allan i fan hyn, merched yn gyffredinol—yn cael eu trafod. A dyna pam rydw i o blaid ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni gyfartaledd o fenywod yn fan hyn, ond hefyd yn ein cynghorau sir ac ar draws y sectorau cyhoeddus, fel bod materion pwysig fel hyn yn cael sylw.
Jest i dynnu sylw at—. Gwnaethom ni lansio hwn y bore yma: maniffesto cydraddoldeb i ferched a genethod yng Nghymru—maniffesto wedi'i roi at ei gilydd ar y cyd gan bedwar o fudiadau pwysig yng Nghymru sydd yn gweithio tuag at gydraddoldeb. Roeddwn i'n falch iawn o fod yn gallu noddi'r digwyddiad yma heddiw. Felly, mae eisiau cofio rhoi beth rydym ni'n trafod heddiw yn y cyd-destun mawr hwn, ac rydw i'n mawr obeithio y byddwn ni'n symud ar yr agenda cyffredinol yma hefyd, fel Cynulliad, ac y byddwch chi fel Llywodraeth yn arwain y ffordd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan.
Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.