1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 13 Mehefin 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, David Melding.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, fis diwethaf, croesewais y cyhoeddiad y bydd contract economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau gyflwyno cynigion i ddod yn garbon isel neu di-garbon. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gosod safonau i wella cymwysterau gwyrdd busnesau yng Nghymru, yn enwedig os ydym am fuddsoddi a chefnogi'r cwmnïau hynny gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod nad yw cyfyngu ar gamau i leihau allyriadau carbon yn unig yn ddigon i greu Cymru gydnerth, fel y'i diffinnir gan nod 2 yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i sicrhau bod y contract economaidd newydd yn cynnig ymateb integredig i bob un o'r saith nod llesiant?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, a Lywydd cyn i mi ateb, os caf dalu teyrnged i Martin Bishop, rheolwr cenedlaethol Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd, a oedd yn aelod gwerthfawr o grŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn Ysgrifennydd y Cabinet ar Brexit, ac yn hyrwyddwr brwd i'r sector coedwigaeth, a fu farw mewn damwain dros y penwythnos yn anffodus? Rwy'n siŵr y bydd Aelodau, ac yn enwedig Aelodau a oedd yn ei adnabod, yn ymuno â mi, a Llywodraeth Cymru, wrth i ni gydymdeimlo â theulu, ffrindiau a chydweithwyr Martin. Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt dilys iawn ei bod hi'n dda cael yr uchelgeisiau hynny i fynd i'r afael â lleihau allyriadau carbon, a'n huchelgais yn arbennig yw sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral, ond mae hynny hefyd yn wir yn gyffredinol mewn gwirionedd. Un peth o ran yr hyn y buom yn edrych arno hefyd yw sut y defnyddiwn gaffael cyhoeddus yn ogystal, ac nid yn unig o ran y cynllun gweithredu economaidd, yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a chydag unrhyw gontractau a chadwyni cyflenwi, a sut rydym yn cymhwyso caffael cyhoeddus gwyrdd. Ac yn enwedig o fewn fy mhortffolio fy hun, rydym yn edrych ar sut y gallwn, drwy weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ochr yn ochr â WRAP, a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ddatblygu ystod o fesurau sy'n caniatáu i ni nodi tueddiadau a chamau gweithredu i helpu i leihau'r defnydd o blastigion, gan gynnwys pethau fel gwellt o fewn y sector cyhoeddus, ac yn enwedig mewn ysgolion. Rwy'n siŵr fod cyd-Aelodau eraill wedi derbyn nifer o lythyrau huawdl a rhesymegol gan blant ysgol gynradd am eu hymgyrchoedd i gael gwared â gwellt plastig yn eu hysgolion. O ran trafodaethau am y cynllun gweithredu economaidd, yn arbennig, rwyf fi a fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth yn gweithio'n agos oherwydd rydym yn nodi bod angen i ni bellach weithio gyda'n gilydd ac ar draws y Llywodraeth ar hyn—fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet, a minnau yn ogystal.
Lywydd, ar yr ochr hon i'r tŷ, a gaf fi estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Martin?
Weinidog, i ddangos bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio ar draws y Llywodraeth, mae'n hanfodol fod y nodau cydnerthedd yn cael eu hadlewyrchu yn y contract drwy alw ar fusnesau i ddangos sut y byddant yn cyfrannu tuag at, er enghraifft, y broses o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Pe bai'n cael ei roi ar waith, gallai contract o'r fath ei gwneud yn ofynnol i fusnesau osod targedau clir a mesuradwy sy'n gwella cydnerthedd ecosystemau o fewn y cyfnod y maent yn cael cymorth gan y Llywodraeth neu'n cyflawni contract Llywodraeth. Felly, pa fesurau penodol sydd gan y Gweinidog mewn golwg o ran y ffyrdd y gall y contract fynnu bod busnesau'n rhoi camau ar waith i gyfrannu tuag at wytnwch ecosystemau ac adfer natur?
Mae'r Aelod yn llygad ei le fod angen i ni gymryd camau i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth a'i wrthdroi, yn ogystal â hyrwyddo gwerth ein hecosystemau, bioamrywiaeth a'n cynefinoedd i gymunedau a busnesau fel ei gilydd.
Mae'r contract economaidd a'r galwadau am gamau gweithredu yn rhoi llwyfan i ni i wneud yn siŵr ein bod yn ymgorffori, fel y dywedwch, y nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rwy'n arbennig o awyddus i archwilio potensial—[Anghlywadwy.]—yn barod, fel caffael gwyrdd i roi cyfrifoldebau ar fusnesau i weithio gyda ni o ran Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ogystal. Byddwn yn cyflwyno Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd, a fydd yn rhoi'r un cyfrifoldebau ar fusnesau i wahanu eu gwastraff ar gyfer casgliadau fel y mae cartrefi wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd.
Ond hefyd, mewn gwirionedd, sut rydym yn cymhwyso nodau bioamrywiaeth? Un ffordd yw mynd o gwmpas a gweithio gydag awdurdodau lleol yn benodol i weld sut y maent hwy wedi bod yn ei wneud, ond daw'n ôl at y sgyrsiau parhaus hyn gyda fy nghyd-Ysgrifenyddion Cabinet mewn gwirionedd—nid yn unig Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, ond yn gyffredinol—o ran sut y gallwn gymhwyso hynny.
Rydym hefyd wedi cael sgyrsiau gyda fy nghyd-Aelod sy'n eistedd wrth fy ymyl, o ran cynhyrchiant pren o fewn y sector tai. Felly, dangos gwerth —. Ac yn enwedig, i mi, o ran fy mhortffolio—[Anghlywadwy.]—mae gwerth ein heconomi gylchol, nid yn unig i gynnal ac adfer y broses o reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, ond hefyd o ran y gwerth ychwanegol mewn perthynas â'r manteision swyddi y gallai hynny eu creu i'n heconomi yng Nghymru.
Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch ymuno â mi i ganmol gwaith y WWF, sydd wedi edrych ar y maes hwn o bolisi'r Llywodraeth a byddai'n hoffi gweld mwy o weithredu. Maent wedi cyflwyno rhai syniadau penodol iawn, gan gynnwys lleihau'r defnydd o adnoddau drwy gynyddu digonolrwydd adnoddau busnes ac adnoddau gan gynhyrchwyr cynaliadwy ardystiedig. Yn ogystal, mae WWF yn awgrymu y gallem wella bioamrywiaeth ac adfer gweithrediad ecosystemau drwy asesu'r effaith ar adnoddau naturiol a buddsoddi'n weithredol mewn gwaith adfer. Ond onid yw'n wir, hyd yma, nad yw Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sydd, rwy'n credu y bydd pawb yn cytuno, yn ddeddfwriaeth bwysig, wedi cael ei defnyddio'n llawn ac yn ymarferol eto? Mae gwir angen i chi gynyddu eich uchelgais a sicrhau eu bod yn deall hyn yn llawn, er enghraifft, yn adran eich cyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi, a mynd ati o ddifrif i weithio, ac mae angen i chi gydgysylltu hyn gyda'r chwaraewyr allweddol yn y sector dinesig, fel WWF.
Mae'r Aelod yn cyfeirio at WWF, ac rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda hwy fel rhanddeiliaid o fewn y sector, ac mae yna werth mewn cydweithio, nid yn unig â WWF, ond ar draws y sector ac ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â—. Ac rydych yn amlwg yn gywir—rydym yn iawn i fod yn falch o'n deddfwriaeth flaengar a'r uchelgeisiau a'r dyheadau a gynhwysir yn y ddeddfwriaeth honno, ond yn awr, mewn gwirionedd, mae angen i ni roi hynny ar waith a chydnabod, er eu bod yn faterion amgylcheddol, fod angen ymgorffori cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn, a dyna pam fod gwerth mewn gweithio ar draws y Llywodraeth i wneud yn siŵr ein bod yn gweld y canlyniadau rydym eu heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi ei bod yn anffodus nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud mwy o gynnydd wrth geisio consensws gan weinyddiaethau datganoledig ar ddyfodol cymorth ffermydd yn dilyn Brexit. Mae'n bwysig iawn fod hyn yn cael ei egluro cyn gynted ag y bo modd. Mae Michael Gove wedi dweud ei fod eisiau ceisio consensws gyda ni. Mae hefyd wedi dweud y dylid seilio cymorth ffermydd ar anghenion y diwydiant yn hytrach na fformiwla Barnett, ac rwy'n credu, unwaith eto, y gall pob un ohonom gytuno ar hynny. Ond bydd gan Lywodraeth Cymru, pan ddaw'r cyfnod gweithredu i ben, ryddid sylweddol i wyro oddi wrth bolisi Llywodraeth y DU, pan fo hynny er budd Cymru, ac un maes yn arbennig yr hoffwn ei ymchwilio gydag Ysgrifennydd y Cabinet yw'r posibilrwydd o gyflwyno taliadau y pen ar gyfer ffermydd mynydd. Nid yw'r ffermydd hyn yn hyfyw'n economaidd ar eu pennau eu hunain—mae hynny'n amlwg o'r holl anawsterau topograffig a'r anawsterau eraill y mae ffermwyr yn gorfod ymdopi â hwy—ac os ydym am barhau i ffermio bryniau Cymru i gynhyrchu cig o ansawdd da yn arbennig, byddant angen y math hwn o gymorth. Felly, a yw Llywodraeth Cymru o blaid cyflwyno taliadau y pen ar y bryniau mewn egwyddor?
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid ar gyfer cymorth ffermio yn y dyfodol. Roeddwn yn falch iawn fod Michael Gove wedi dweud hynny am beidio â defnyddio fformiwla Barnett, oherwydd dywedasom o'r dechrau na fyddai hynny'n ganlyniad da o gwbl i Gymru, ac rwy'n parhau i wneud yn siŵr nad yw Cymru'n colli'r un geiniog, fel yr addawyd i ni, mewn perthynas â chyllid yn dilyn Brexit.
Credaf eich bod eisoes yn gweld gwahaniaeth mewn polisi ffermio. Yn sicr, dros yr 20 mlynedd diwethaf tra bod amaethyddiaeth wedi cael ei ddatganoli'n llwyr yma, er nad yw'n wahanol iawn, mae yna wahaniaeth, ac mae ffermydd mynydd yn amlwg yn faes sy'n wahanol iawn i'r rhan fwyaf o Loegr. Mae'n debyg fod yna rai ardaloedd lle y gallech ddweud ei fod yn debyg. Felly, credaf fod hwnnw'n faes y bydd yn rhaid i ni edrych arno'n fanwl iawn.
Rwyf eisoes wedi dweud yn gyhoeddus y byddaf yn lansio Papur Gwyrdd ar ddechrau mis Gorffennaf, ymhell cyn sioeau'r haf, i ymgynghori ar ddyfodol amaethyddiaeth, ac yn amlwg bydd hyn yn cael ei gynnwys ynddo.
Diolch i chi am yr ymateb hwnnw. Nid ydym yn gwybod eto pa fath o gytundeb a geir gyda'r UE yn y pen draw. Un peth rydym yn ei wybod yw mai tua 75 y cant hunangynhaliol yw'r DU yn gyfan mewn cynhyrchion bwyd. Ceir anghydbwysedd sylweddol o ran masnach rhwng Prydain a'r UE mewn cynhyrchion bwyd a diod, felly mae yna bosibilrwydd enfawr, pe bai'r UE yn ddigon ffôl i gymhwyso tariffau sylweddol ar fewnforion o'r DU, y byddwn yn dial ac y bydd bwyd sy'n dod o'r UE ar hyn o bryd yn cael ei amnewid am fwyd sy'n cael ei dyfu yng Nghymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gyda chynnyrch llaeth, er enghraifft, tua £1 biliwn y flwyddyn yw ein hallforion i'r UE, ond rydym yn mewnforio £2 biliwn o'r UE. Yn achos cig eidion, rydym yn mewnforio tua 400,000 tunnell y flwyddyn, ond nid ydym ond yn allforio 180,000 tunnell. Gyda phorc, rydym yn mewnforio tua 1 filiwn tunnell y flwyddyn, ond nid ydym ond yn allforio un rhan o bump o hynny—200,000 tunnell. Felly, mae yna gyfle gwych i amnewid y cynnyrch a gaiff ei fewnforio. Nid ydym yn gwybod pa fath o drefn y byddwn yn ei hwynebu, ond byddai'n sicr yn synhwyrol i ni gynllunio ar y sail nad oes unrhyw fargen go iawn a mynd ati felly i baratoi ffermwyr Cymru a'r diwydiant yn gyffredinol i amnewid yr allforion yr ydym yn cystadlu â hwy o'r UE i Brydain. Felly, pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i ffermwyr ac eraill yn y sector amaethyddol i fanteisio ar y bwlch rydym yn ei ddioddef mewn masnach ar hyn o bryd?
Rydym yn bryderus iawn ynglŷn â thariffau. Rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed hynny. Yn amlwg, mae polisi masnach wedi'i ddatganoli'n gyfan gwbl i Lywodraeth y DU, ond rydym wedi dweud yn glir iawn fod angen i ni fod o amgylch y bwrdd o'r cychwyn cyntaf, a chredaf eu bod yn sylweddoli hynny. Yn sicr, ddydd Iau diwethaf, cynhaliais gyfarfod ar y cyd ag Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gyda fy ngrŵp rhanddeiliaid bwrdd crwn, lle y clywsom fod Llywodraeth y DU, er enghraifft, yn cynllunio ar gyfer senario 'dim bargen', gan wneud yn siŵr fod ganddynt y ddeddfwriaeth ac yn y blaen. Roedd yn amlwg iawn fod pobl a oedd yn eistedd o amgylch y bwrdd yn bryderus iawn am hyn, oherwydd credaf mai dyna'r tro cyntaf iddynt glywed hynny.
Credaf eich bod yn gywir fod yna bosibiliadau, ac mae rhan o'n cefnogaeth i'r sector amaethyddiaeth a'r sector bwyd ar hyn o bryd i baratoi ar gyfer Brexit yn ymwneud â hyn—edrych ar y bylchau, edrych ar y cyfleoedd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yng Nghatalonia ac yng Ngwlad y Basg gyda'r timau clwstwr bwyd, ac mae'n amlwg fod yna gyfleoedd nad ydym wedi cael y budd mwyaf ohonynt. Yn sicr, mae Gwlad y Basg yn awyddus iawn i adeiladu ar eu perthynas â Chymru.
Roedd hwnnw'n ateb llawn gwybodaeth, ac rwy'n falch iawn o glywed bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cymryd y camau hynny. Y maes arall y mae'r diwydiant yn bryderus iawn amdano, wrth gwrs, yw effaith mesurau rheoli ar symud llafur rhwng yr UE a'r DU. Rydym i gyd eisiau gweld cymaint o hyblygrwydd â phosibl yn hyn o beth, heb niweidio mesurau rheoli mewnfudo cyffredinol. O ran gweithwyr medrus, ni fyddai neb yn ei iawn bwyll eisiau lleihau'r cyfleoedd i bobl o dramor lenwi'r bylchau yn y sgiliau sydd gennym ar hyn o bryd. Deallaf fod 63 y cant o staff lladd-dai yn dod o'r UE, ac mae tua 90 y cant o filfeddygon lladd-dai yn hanu o Ewrop. Felly, mae'r bobl hyn yn chwarae rôl hanfodol yn y DU a'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru a dylid rhoi pob anogaeth iddynt aros yn eu gwaith. Ni waeth beth yw eich barn ar ddymunoldeb Brexit, credaf y byddai consensws eang ar y farn honno.
Ond mewn perthynas ag amnewid mewnforion gyda nwyddau a chynnyrch bwyd, yn amlwg, mae gennym gyfle, gyda mwy o hyfforddiant ac ati, i ddysgu'r mathau o sgiliau nad oes gennym ddigon ohonynt ar hyn o bryd i'n pobl ein hunain. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ddweud wrthym beth y mae hi wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar i baratoi, unwaith eto, ar gyfer Brexit lle nad oes gennym fargen synhwyrol gyda'r UE oherwydd nad ydynt yn cynnig un ac oherwydd bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud ei pholisi'n berffaith glir eu bod eisiau gweld cyn lleied o densiwn â phosibl mewn perthynas â symud llafur a symud nwyddau? Yr UE yw'r rhwystr ar hyn o bryd, ac mae Monsieur Barnier ei hun yn rhwystr personol i gytundeb, ac dyna ran o'i strategaeth negodi. Ond mae'n hanfodol bwysig—nid wyf eisiau i'r cwestiwn hwn droi'n araith—mae'n hanfodol bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i wella cyfleoedd hyfforddi, yn enwedig yn y meysydd lle y ceir bylchau sgiliau ar hyn o bryd, a buaswn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi'r newyddion diweddaraf i ni ar hynny.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynglŷn â'r gweithlu, ac mae'r holl elfennau ar draws fy mhortffolio yn bryderus iawn am y gweithlu. Fe sonioch fod 90 y cant o filfeddygon lladd-dai, rwy'n credu i chi ddweud, yn raddedigion o'r UE; mae 100 y cant o filfeddygon yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn raddedigion o'r UE—100 y cant. Felly gallwch weld pam ein bod yn pryderu cymaint. Ac yna, ar wahân i'r llafur medrus, mae'r llafur anfedrus. Mae ffermwyr yn dweud wrthyf ein bod eisoes yn gweld gostyngiad yn nifer y gwladolion o'r UE sy'n dod i wneud gwaith tymhorol cyn yr haf. Felly, mae'n amlwg yn fater o bryder mawr ac yn rhywbeth rydym wedi'i drafod yn fanwl iawn gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Nid wyf yn credu ei fod o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â'r pryderon sydd gennym i'w hadrodd yn ôl wrth Lywodraeth y DU. Mae'n anodd iawn—. Mewn rhai lladd-dai, mae tua 80 y cant o'u staff yn wladolion yr UE. Mae'n anodd iawn gwneud y swyddi hynny'n fwy deniadol, felly mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn helpu i wella sgiliau, ac mae hyn wedi bod yn rhan o'r gwaith y buom yn ei wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mewn gwirionedd, ers pleidlais refferendwm yr UE, i sicrhau bod ein sectorau ar draws fy mhortffolio yn barod.
Llefarydd Plaid Cymru, Simon Thomas.
Diolch, Lywydd. Cyn i mi ddechrau, a gaf fi a Phlaid Cymru ategu'r cydymdeimlad a fynegodd Gweinidog yr amgylchedd i deulu Martin Bishop? Roedd yma, rwy'n credu, dair wythnos yn ôl yn fy helpu i sefydlu grŵp trawsbleidiol ar goedwigaeth a bydd llawer ohonom yn gweld ei eisiau ef, ei frwdfrydedd a'i gefnogaeth.
A gaf i droi nawr at y cynllun ymsefydlu i ffermwyr ifanc? Mae'r cynllun, wrth gwrs, yn ffrwyth cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae yna £6 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer y cynllun hwn. Mae ar agor ar hyn o bryd, ac rydw i'n gwybod bod yna nifer fawr o bobl wedi ymgeisio a nifer fawr o bobl yn trafod y cynllun. Yn gyffredinol iawn, mae croeso mawr wedi bod i'r cynllun. Mae yna gwpwl o gwestiynau wedi codi fel adwaith wrth i'r cynllun gael ei fabwysiadu, a hoffwn i jest grybwyll y rhain i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf oll, mae pobl yn holi a oes modd cael mwy o, efallai, sgwrs o bryd i'w gilydd ac ymateb gan y Llywodraeth ynglŷn â rhoi cais i mewn ac ym mha ffordd mae cais yn datblygu ac ati, i ddeall a fydd y cais yn addas yn y ffordd yna. Mae pobl hefyd yn codi yr awydd i wneud yn siŵr bod y cynllun yn ffocysu'n briodol ar ffermwyr ifanc, rhai ohonyn nhw, efallai, blwyddyn neu ddwy i mewn i fusnes ond yn gallu manteisio ar y cynllun yma i dyfu'r busnes yma, a thrwy hynny, wrth gwrs, fel rydym ni wedi trafod yn y Cynulliad, dyfu rhyw garfan o bobl a fydd yn arwain y diwydiant wrth i ni wynebu rhai o'r heriadau sydd eisoes wedi cael eu trafod yma ar hyn o bryd. A fedr yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrthym ni a ydy hi'n fodlon jest cadw llygad ar y cynllun wrth iddo fe nesáu at y dyddiad cau a gwneud yn siŵr bod digon o hyblygrwydd yn y cynllun i gwrdd â'r anghenion a'r amcanion sydd wedi'u cytuno?
Diolch. Rwy'n hapus iawn i gydweithio ar y cynllun hwn ochr yn ochr â Simon Thomas. O ran y datganiadau o ddiddordeb—caeodd y ffenestr ddoe mewn gwirionedd. Rwy'n cadw llygad barcud arno. Mewn gwirionedd, mynychais ail gyfarfod y fforwm pobl ifanc mewn amaeth, ac rwy'n siŵr y gallwch ddeall fy mod wedi cael fy holi'n fanwl iawn yno am y cynllun hwn. Fel y dywedoch, mae yna £6 miliwn yn mynd i fod ar gael. Rwy'n wirioneddol awyddus i wneud yn siŵr ein bod yn targedu'r cyllid lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. Fel y dywedwch, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym yr arweinwyr ifanc nesaf, felly byddwn yn cynnig—. Ochr yn ochr â manteision eraill y cynllun, byddwn yn gweithio gyda hwy, mewn perthynas â'r fforwm amaethyddol, i wneud yn siŵr eu bod yn gallu dod i gysylltiad â fy swyddogion a minnau. Credaf fod un neu ddau ohonynt yn fy nghysgodi yn Sioe Frenhinol Cymru. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn eu hannog wrth symud ymlaen. Fel y gwyddoch, bydd y cyllid yn cael ei gynnig ar ffurf cyfalaf gweithio, ac eto, bydd hynny'n cynnig hyblygrwydd i newydd-ddyfodiaid gyda'u busnesau.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei hateb. Mae’n dda gen i glywed yn arbennig nad oes yna ddim stop ar y ffordd yr ydym yn cydweithio â phobl ifanc. Bydd yna rai, efallai, wedi’u siomi gyda’r cynllun yma, ond rwy’n gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dal i gadw llygad ar agor ar gyfer posibiliadau eraill o gynnwys pobl ifanc wrth ddatblygu dyfodol y diwydiant yng Nghymru.
A gaf fi droi yn awr at y cwestiwn o’r morlyn llanw ym mae Abertawe? Wrth gwrs, roeddwn yn meddwl, wrth feddwl am y cwestiwn heddiw, y byddem ni wedi clywed erbyn hyn, ond nid ydym wedi. Rŷm ni’n dal i aros. Beth nad ydym yn ei wybod, wrth gwrs, yw a ydym yn aros oherwydd bod yna benderfyniad heb ei wneud, neu a ydym yn aros oherwydd nad ydynt wedi penderfynu pryd i ryddhau’r newyddion yn dawel bach. Ac yn y cyd-destun hwnnw, a gaf fi ofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet, gan fod y Llywodraeth wedi’i wneud yn gyfan gwbl glir nawr bod yna £200 miliwn ar y bwrdd gan y Llywodraeth hon ar gyfer helpu a hyrwyddo’r cynllun yma, a ydy’r cynnig yna wedi cael ei gymryd o ddifri gan Lywodraeth San Steffan? A ydyn nhw wedi ymateb? A ydyn nhw wedi cynnig trafodaethau? A ydyn nhw wedi eich gwahodd chi, neu unrhyw Aelod arall o’r Llywodraeth, i Lundain i drafod sut y gall yr arian yma ddod â’r cynllun morlyn llanw i fwcwl? Ac yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â’r ffordd i wthio’r cynllun yma i gael penderfyniad fydd yn llesol ac yn fuddiol i Gymru?
Diolch. Wel, roeddwn innau hefyd yn disgwyl i benderfyniad gael ei wneud. Dywedwyd wrthym y byddai penderfyniad wedi cael ei wneud ddydd Llun diwethaf mwy na thebyg, yna dywedwyd wrthym mai heddiw y caiff ei wneud. Yn ôl yr wybodaeth ddiweddaraf sydd gennyf, bydd yn 10 diwrnod arall mwy na thebyg, felly nid ydym yn gwybod mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n rhaid i mi fod yn ystyriol iawn eto wrth drafod prosiect penodol oherwydd fy rôl mewn perthynas â chynllunio, a thrwyddedu morol wrth gwrs. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Greg Clark yr wythnos diwethaf. Hyd yma, nid yw wedi cael ymateb. Felly, credaf fod y cynnig ariannu yn cael ei ystyried yn gynnig difrifol, a gwn fod Prif Weinidog Cymru wedi ei drafod yn bersonol gyda Phrif Weinidog y DU. Nid wyf yn siŵr a yw wedi'i drafod yn bersonol gyda Greg Clark, ond yn sicr mae wedi ysgrifennu ato, ac rydym yn aros am ymateb.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y newyddion hwnnw er nad oedd yn galonogol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. O'i safbwynt hi, deallaf nad hi yw'r un sy'n gyfrifol am hyn, ond mae'n mynd a dod fel y llanw ei hun, mewn gwirionedd. Pe baem yn gallu harneisio'r ynni o ddiffyg penderfyniad Llywodraeth San Steffan, byddem yn gwneud yn dda iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd.
Ond rwy'n credu ei fod yn gynnig difrifol, ac roedd yn gais agoriadol gan Lywodraeth Cymru, a gallai fod wedi sbarduno pob math o drafodaethau ynghylch cydberchnogaeth, datblygu'r dechnoleg, Llywodraeth Cymru yn cydfuddsoddi mewn technoleg newydd sbon yng Nghymru. Os gall Llywodraeth San Steffan gydfuddsoddi yn Hitachi yn yr Wylfa, nid oes unrhyw reswm pam na all Llywodraeth Cymru wneud rhywbeth tebyg yn achos y morlyn llanw. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn barod i drafod y rhain er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiect.
Gan nad ydym wedi cael penderfyniad eto, a chan fy mod yn credu'n bersonol ein bod yn cael ein paratoi am benderfyniad gwael, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a oes unrhyw gyfran o'r arian hwn sydd wedi cael ei addo i'r morlyn llanw ar gael ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy eraill yng Nghymru, a oes ganddi bethau eraill mewn golwg y gallwn fwrw ymlaen â hwy gyda'n pwerau ein hunain, a'n pwerau cynllunio ein hunain, yn arbennig o dan Ddeddf Cymru 2017, ac a oes ganddi gyfle yn awr i ailystyried ei phenderfyniad mewn perthynas â chwmni ynni cenedlaethol i Gymru, y byddai £200 miliwn yn gallu ei sefydlu'n dda iawn, diolch yn fawr, i fwrw ymlaen â llawer o'r syniadau y mae Cymru'n barod amdanynt yn fy marn i? Os ydym am gael ein siomi gan San Steffan, ein hymateb gorau i'r gwrthodiad hwnnw yw dangos ein bod yn well na hwy a'n bod yn gallu gwneud yn well yma yng Nghymru.
Rwy'n edmygu dycnwch yr Aelod mewn perthynas â gwasanaeth ynni i Gymru. Rwy'n gwybod y bu dadl yr wythnos diwethaf yn fy absenoldeb a bod Gweinidog yr Amgylchedd wedi ymateb iddi. Rydych yn gwneud pwynt da iawn am y £200 miliwn. Wrth gwrs, mae yna lawer o sectorau ynni adnewyddadwy eraill y gallem roi'r cyllid hwnnw tuag atynt—gwynt ar y tir, ar y môr. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau manwl eto, oherwydd, yn amlwg, roedd y cynnig a wnaeth y Prif Weinidog mewn perthynas â'r £200 miliwn yn gynnig difrifol iawn. Felly, mae angen i ni aros am benderfyniad, ni waeth pa mor hir y bydd hynny'n cymryd, gan Lywodraeth y DU, cyn fy mod yn cael y trafodaethau hynny.