1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 4 Gorffennaf 2018.
6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon? OAQ52449
Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod Chwaraeon Cymru yn gweithredu ar ein rhan fel y corff a noddir gan y Llywodraeth ym maes chwaraeon. I'r perwyl hwnnw, cynhaliodd gynhadledd y llynedd ar foeseg ac uniondeb, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod gwerthoedd chwarae teg mewn chwaraeon, a'r angen i bob sefydliad chwaraeon ac unigolyn gynnal y lefelau uchaf o uniondeb.
Rwy'n falch iawn o glywed eich ymateb, Weinidog, ond cyfarfûm â Sports Chaplaincy Wales yr wythnos diwethaf. Mae ganddynt 50 o gaplaniaid gwirfoddol yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ledled y wlad—gan gynnwys rhai o'n clybiau mwyaf—Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, y Gweilch, y Scarlets a Gleision Caerdydd yn eu plith. Maent yn gwneud llawer iawn o waith yn darparu gwerth oddeutu £0.5 miliwn o oriau gwirfoddol ar ffurf gofal bugeiliol, hybu ymgysylltiad moesegol mewn chwaraeon yn clybiau y maent yn gweithio ynddynt, ymdrin â phethau fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, ac yn wir, helpu pobl drwy eu problemau personol. Tybed a allech ddweud wrthym pa ymgysylltiad a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a gwasanaethau caplaniaeth chwaraeon, ac os na fu unrhyw ymgysylltiad, a fyddech yn barod i gyfarfod â hwy gyda mi er mwyn trafod sut y gallant gefnogi uchelgais y Llywodraeth i sicrhau bod gennym athletwyr moesegol yng Nghymru yn y dyfodol.
Buaswn wrth fy modd yn cydweithio gyda chaplaniaid yn y maes hwn. Rwy'n ymwybodol o rai o'r caplaniaid chwaraeon hyn ac rwy'n edmygu eu gwaith yn fawr iawn. Rwy'n meddwl yn benodol am y gwaith caplaniaeth sy'n mynd rhagddo yn Abertawe. Felly, buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw gan ei bod yn bwysig annog gweithgarwch gwirfoddol cymunedau ffydd, ac mae hynny'n cynnwys yr holl gymunedau ffydd, yn amlwg, ac efallai fod lle i gael rhagor o gaplaniaethau dyneiddiol yn y maes hwn, ond nid wyf am drafod hynny y prynhawn yma.
Un o'r materion sy'n peri pryder imi, sy'n fater moesegol enfawr, yw'r cysylltiad cynyddol rhwng y diwydiant gamblo a chwaraeon. Mae ymchwil a wnaed gan goleg Goldsmiths yn Llundain yn dangos bod logos cwmnïau gamblo i'w gweld ar gemau a ddarlledir ar y teledu y rhan fwyaf o'r amser. Mae'n ymgais fwriadol i gyflyru meddyliau plant i feddwl bod gamblo yn rhan o fod yn gefnogwr chwaraeon, ac mae hynny'n gwbl resynus yn fy marn i. Nawr, mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yr holl gytundebau nawdd â chwmnïau betio yn dod i ben, ond yn anffodus, nid yw rygbi wedi cicio gamblo allan o'r gêm eto. Felly, beth y credwch y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â nawdd betio mewn chwaraeon, sy'n troi'r peth yn endemig yn yr un ffordd ag yr arferai'r cwmnïau tybaco mawr ei wneud yn y gorffennol?
Yn sicr, rwy'n derbyn y pwyntiau a wnewch, a byddwch yn cofio bod y Prif Weinidog wedi ymateb yr wythnos diwethaf i gwestiwn gan ein cyfaill yma, Mick Antoniw, am y grŵp trawslywodraethol a sefydlwyd i ddatblygu dull strategol o leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ledled Cymru, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn edrych eto ar argymhellion adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, a alwodd am weithredu cydgysylltiedig ac a nododd weithgarwch newydd a allai fod yn angenrheidiol ar lefel Cymru a lefel y DU. A chan fy mod wedi cael fy holi ynglŷn â'r berthynas rhwng pêl-droed, ac yn fwy penodol, rhwng rygbi a betio, byddaf yn sicr yn codi'r materion hyn gyda chyrff rheoli chwaraeon lle mae'n ymddangos bod gweithgarwch gamblo'n cael ei hyrwyddo ochr yn ochr â gweithgarwch chwaraeon, gan nad dyna yw rôl y cyrff rheoli chwaraeon. Rwy'n deall bod cyrff rheoli chwaraeon yn elwa o incwm mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hwnnw'n fater masnachol iddynt hwy, ond lle mae iechyd y boblogaeth yn cael ei niweidio drwy hyrwyddo gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chwaraeon, dylem ni, y Llywodraeth, ymyrryd.