3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Cynnydd ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'

– Senedd Cymru am 2:40 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:40, 10 Gorffennaf 2018

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: adroddiad cynnydd ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad. Alun Davies.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:41, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n ddiolchgar i chi am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed gan dasglu'r Cymoedd ers cyhoeddiad y cynllun gweithredu 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' fis Gorffennaf y llynedd. Hoffwn ddechrau drwy fynegi ar goedd fy niolch personol am waith a chymorth aelodau'r tasglu yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys fy nghydweithwyr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, y Gweinidog Tai ac Adfywio, a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Sefydlwyd tasglu'r Cymoedd ar gyfer creu newid hirhoedlog yng Nghymoedd y de: maes sydd â chyfleoedd aruthrol, ond mwy na'i siâr o heriau hefyd. Rwy'n falch o adrodd heddiw bod y tasglu wedi plannu hadau'r newid hwnnw. Wrth galon y cynllun gweithredu a'r cynllun cyflawni sy'n cyd-fynd â hwnnw a gyhoeddwyd gennym fis Tachwedd y llynedd, ceir tair blaenoriaeth allweddol: swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni, gwasanaethau cyhoeddus gwell, a'm cymuned leol i. Ceir mwy na 60 o gamau gweithredu unigol i'r blaenoriaethau hyn, a ddatblygwyd yn dilyn gwaith ymgysylltu eang â phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y de. Rydym ni o'r farn y bydd y camau hyn yn sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol i gymunedau yn y Cymoedd.

Mae'r tasglu yn cyhoeddi adroddiad heddiw ar gynnydd y flwyddyn gyntaf, yn nodi ehangder y gwaith dros y 12 mis diwethaf, a hoffwn i, Llywydd, gyda'ch cydsyniad chi, rannu peth o'r cynnydd hwnnw gyda chi heddiw. Flwyddyn yn ôl, gosododd y tasglu darged heriol o gau'r bwlch cyflogaeth rhwng y Cymoedd a gweddill Cymru. Mae hyn yn golygu helpu 7,000 yn fwy o bobl i gael gwaith teg a chreu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd. Dros y 12 mis diwethaf, mae mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn ardaloedd tasglu'r Cymoedd wedi dechrau gweithio drwy raglenni cyflogaeth a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Cafodd bron 1,000 o bobl a busnesau bach eu helpu drwy gael cyngor a chymorth busnes. Ac mae mwy na 100 o fentrau newydd wedi cael eu creu o fewn ardal tasglu'r Cymoedd.

Lluniwyd y saith canolfan strategol yn wreiddiol fel ardaloedd lle byddai arian cyhoeddus ac adnoddau yn canolbwyntio ar greu cyfleoedd i'r sector preifat fuddsoddi a chreu swyddi newydd. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd da i ddatblygu'r canolfannau hyn. Mae awdurdodau lleol ym mhob un o'r ardaloedd wedi arwain y gwaith o ddatblygu'r cynlluniau, sy'n unigryw i'w hardal leol. Mae pob ardal wedi bod yn datblygu glasbrint ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, ac rydym yn nodi'r prosiectau allweddol i gefnogi trawsnewid hirdymor. Mae'r gwaith cynnar ar y canolfannau yn tynnu sylw at y budd y gall dull cydgysylltiedig o weithredu'r math hwn o fuddsoddiad ei gynnig. Rydym wedi gweld hyn eisoes gyda phrosiect Bro Taf, a fydd yn rhoi pencadlys newydd i Drafnidiaeth Cymru, ac yn helpu i adfywio stryd fawr Pontypridd. Cyhoeddwyd Cynllun Strategol Cymoedd Technoleg, gan roi cyfeiriad strategol i fuddsoddiadau a gweithgarwch rhaglen yng Nglynebwy, ochr yn ochr ag ymrwymiad o £25 miliwn rhwng 2018 a 2021.

Llywydd, mae pawb yn y Siambr hon yn ymwybodol o'r metro ac yn croesawu'r cyhoeddiad a wnaeth fy nghyd-Weinidog Ken Skates am y fasnachfraint rheilffyrdd newydd a'r cynlluniau sy'n flaenllaw yn fyd-eang ar gyfer canolfan profi rheilffyrdd ar frig Cwm Dulais. Mae'r metro nawr yn cael ei wireddu, ond fel yr eglurwyd ar hyd y daith, mae angen inni sicrhau ei fod yn cyflawni llawer mwy na manteision trafnidiaeth yn unig. Ar gyfer hynny bydd angen cefnogaeth weithredol amrywiaeth o sefydliadau, ac rydym yn gweithio ledled y rhanbarth eisoes i gyflawni er budd cymunedau'r Cymoedd.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi Linda Dickens, Athro Emeritws mewn cysylltiadau diwydiannol ym Mhrifysgol Warwick, yn gadeirydd ein comisiwn gwaith teg. Ar ran y tasglu, hoffwn fynegi fy niolch innau i'r Athro Dickens am gytuno i'n cefnogi ni ar y daith hon. Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais i Gymru fod yn genedl gwaith teg, ac mae'r gwaith hwn yn bwysig iawn o ran yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni yn y Cymoedd. O'r cychwyn cyntaf, mae tasglu'r Cymoedd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â chymunedau'r Cymoedd. Mae hynny wedi parhau i fod yn elfen hanfodol o'n gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf.

Ochr yn ochr â'n dulliau traddodiadol o ymgysylltu, mae'r tasglu wedi bod yn gweithio'n agos gyda thair chymuned—yn Llanhiledd, Glynrhedynog, ac yng Nglyn-nedd a Banwen. Rydym wedi bod yn edrych ar sut y gallwn wella gwasanaethau lleol a'u gwneud nhw'n fwy integredig. Mae pob un o'r cynlluniau braenaru hyn wedi cytuno ar nifer o gamau gweithredu neu weithgareddau, a bydd yr hyn a ddysgwyd o'r gwaith hwn yn ychwanegu at ddull ehangach y tasglu o weithredu.

Llywydd, bydd y tasglu yn datblygu tri chynllun peilot digidol ar gyfer y Cymoedd. Byddwn yn ystyried ymestyn rhwydweithiau band eang y sector cyhoeddus i greu dilyniant o lecynnau Wi-Fi rhad ac am ddim sy'n agored i bawb ledled cymunedau'r Cymoedd. Rydym yn gwneud ymchwil i lunio ap ar ddull Uber, a fyddai'n dwyn ynghyd ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol, gan ei gwneud yn haws i bobl i drefnu trafnidiaeth ar gyfer eu hapwyntiadau iechyd. Rydym yn awyddus i gynyddu'r defnydd o dechnolegau mapio data ar-lein fel cyfrwng i hyrwyddo'r Cymoedd. Mae'r gwaith hwn yn cydfynd yn agos â'r blaenoriaethau a nodwyd gan brifddinas-ranbarth Caerdydd. Mae hefyd yn faes arall lle y mae'r tasglu yn gweithredu fel catalydd ar gyfer newid ehangach. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd technolegau digidol yn natblygiad swyddi o ansawdd uchel.

Mae parc tirwedd y Cymoedd yn allweddol o ran traean y blaenoriaethau yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae wrth galon ein huchelgais i helpu cymunedau'r Cymoedd i ddathlu a gwneud y mwyaf o'n hadnoddau naturiol a'n treftadaeth. Rydym yn awyddus i weld cymunedau yn y Cymoedd yn teimlo eu bod yn ardal y gallwn fod yn falch o'i galw yn 'gartref' ac y bydd busnesau yn dewis gweithredu ynddi. Rydym yn awyddus i gymunedau ennill hyder a dangos balchder yn eu hamgylchedd sydd yn rhwydd i'w gyrraedd a'r defnydd ohono yn helaeth.

Mae'r tasglu wedi treulio llawer o amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn gweithio ar ddatblygu'r dull cyffrous a deinamig hwn a fydd yn cydgysylltu, yn gyrru ac yn hybu gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd a thwristiaeth ledled Cymoedd y de. Rydym ni i gyd yn gwybod cymaint sydd gan y Cymoedd i'w gynnig, ond rwy'n dymuno y bydd gweddill Cymru, y DU a'r byd yn dysgu mwy am ein hanes, ein diwylliant, a'n golygfeydd syfrdanol.

Rydym wedi datblygu'r syniad ar gyfer parc tirwedd y Cymoedd gyda chymunedau lleol, gyda rhanddeiliaid allweddol a gwahanol grwpiau buddiant. Y nod yw cyflawni cynlluniau uchelgeisiol a fydd yn cysylltu'r hyn yr ydym yn ei alw yn 'lleoliadau darganfod' ledled y Cymoedd â llwybrau cerdded a llwybrau beicio. Fy mwriad i yw y bydd hyn yn datblygu o fewn ffiniau diffiniedig a chaiff ei gefnogi gan statws tir dynodedig ar gyfer y Cymoedd. Rydym yn eiddgar i'r Cymoedd fod yn gyrchfan gydnabyddedig i dwristiaid. Rydym yn awyddus i feithrin yr economi twristiaeth yn y Cymoedd ar gyfer elwa ar yr effaith economaidd y gwyddom sy'n bosibl. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd gyda nifer o ddatblygiadau twristiaeth arfaethedig o ansawdd uchel, a fydd, pe digwydd hynny, yn denu ymwelwyr newydd i'r Cymoedd a fydd yn gwario llawer o arian.

Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon wedi cyhoeddi cymeradwyaeth i ddau brosiect yr wythnos hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'w hardaloedd yn y Cymoedd. Bydd y prosiect £4.6 miliwn Triongl Antur Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn datblygu gweithgarwch twristiaeth a hamdden yn yr awyr agored ar hyd camlas sir Fynwy ac Aberhonddu yn Nhor-faen a Chaerffili, a bydd yn gallu cysylltu ag ardal ucheldirol Mynydd Maen. Bydd y prosiect yn cael ei gyflawni gan bartneriaeth rhwng Cyngor Torfaen, Cyngor Caerffili, Ymddiriedolaeth yr Afonydd a'r Camlesi, ac Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Aberhonddu a'r Fenni. Bydd yn canolbwyntio ar ymwelwyr sydd â diddordeb mewn gweithgareddau hamdden awyr agored a chwaraeon antur, gan ddwyn ynghyd amrywiaeth o gyfleusterau i ysgogi ymwelwyr i aros dros nos, a bydd yn helpu i fanteisio ar botensial economaidd rhan ddeheuol y gamlas nad yw'n cael ei defnyddio'n ddigonol ar hyn o bryd, a'r ucheldir cyfagos.

Ceir manylion hefyd yn yr adroddiad cynnydd am uwchraddio Neuadd Llechwen, gwesty gwledig tair seren ger Pontypridd, a leolir mewn chwe acer o dir. Cynigiwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu maint y gwesty, ychwanegu cyfleusterau campfa a sba ac uwchraddio i westy pedair seren.

Mae gwaith cymunedol ysbrydoledig yn digwydd ledled y Cymoedd. Rydym yn dymuno adeiladu ar hyn a chefnogi pobl i fynd gam ymhellach.

Llywydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llawer iawn i'w wneud eto, ond, gan weithio gyda'n partneriaid a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd, byddwn yn gwireddu'r canlyniadau.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:49, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn ystod dadl mis Ionawr ar y cynllun cyflenwi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', nodais fod gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth yn y gorllewin ac yn is-ranbarth y Cymoedd yn parhau ar y gwaelod ledled y DU, gyda chymoedd Gwent, yn ail yn unig i Ynys Môn, yr isaf yn y DU. Nodais hefyd fod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough times ahead? What 2018 might hold for Wales' wedi dweud bod y perfformiad diweithdra yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae cyfradd diweithdra ymhell uwchlaw ffigur y DU, fel Merthyr Tudful a Blaenau Gwent. Roedd yn dweud hefyd nad oes dim i'w ennill o esgus fod popeth yn dda, ac y byddai'r perfformiad hwnnw yn annhebygol o helpu oedolion ifanc, gyda mwy nag un mewn wyth o'r rhai rhwng 16 a 24 oed yn ddi-waith yng Nghymru gyfan.

Mae'r cynllun hwn yn cynnwys cam gweithredu: gweithio gyda phobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd y de, a hefyd gweithio â bargeinion dinesig dinas-ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe, Llywodraeth y DU, busnesau a'r trydydd sector. Ym mis Ionawr, gofynnais sut yr oeddech yn monitro i sicrhau, os credwch y dylech chi, bod hyn yn golygu gwir gydgynhyrchu, gan wyrdroi mater pŵer, os nad yw Llywodraeth Cymru am ailadrodd dulliau'r 18 mlynedd diwethaf, gan alluogi pobl a gweithwyr proffesiynol i rannu pŵer a gweithio mewn partneriaeth gyfartal.

Achos pryder yw'r datganiad heddiw gan Sefydliad Bevan sy'n dweud mai diafael yw'r rhaglen i gael adferiad i Gymoedd y de 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ac nid yw'n cyrraedd y rhai hynny sydd â'r angen mwyaf. Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad heddiw bod hyn yn gyfystyr â mwy o'r un peth? Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad nad oedd buddsoddiad yn ddiweddar yn Ffynnon Taf a Nantgarw yn ardaloedd craidd y Cymoedd? Rydych yn dweud bod 1,000 o bobl wedi cychwyn rhaglenni cyflogaeth. Faint o'r rheini sydd wedi eu cwblhau nhw? Faint o'r 1,000 hynny gafodd gyflogaeth? Sut ydych yn ymateb i ddatganiad Sefydliad Bevan heddiw fod y targed o gael 7,000 o bobl mewn cyflogaeth yn swnio'n drawiadol iawn? Os edrychwch chi ar hynny ychydig yn fanylach, nid yw'n uchelgeisiol iawn o gwbl. Mae'n golygu'r niferoedd a gyflawnwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac os parhawn i wneud mwy o'r un peth, ni fydd y Cymoedd yn newid. Sut wnewch chi ymateb i'w datganiad bod diweithdra yn 25 y cant ymysg dynion ifanc mewn rhai ardaloedd, ac y collwyd swyddi mewn manwerthu a ffatrïoedd bach? A sut wnewch chi ymateb i'w datganiad eu bod yn synnu sut y gallai Llywodraeth Cymru fyw gydag amddifadedd fwy neu lai ar garreg y drws, heb ddigon o gynigion i hybu buddsoddiad a sgiliau?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:52, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y cwestiynau hyn. A gaf i ddweud yn gyntaf un fy mod i wedi darllen ymateb Sefydliad Bevan? Mewn gwirionedd cefais fwynhad ohono. Roeddwn o'r farn ei fod yn ateb da iawn, a dweud y gwir. Roeddwn yn credu ei fod wedi ei fynegi'n dda iawn, a'i fod yn gwneud rhai pwyntiau teg iawn. A gaf i ddweud yn fwy na dim fy mod yn rhannu'r un rhwystredigaeth? Rwy'n eiddgar i weld newid cyflymach. Rwy'n eiddgar i weld amseriad cyflymach a sicrhau newid gwirioneddol yn y cymunedau yr wyf yn eu cynrychioli ac mewn mannau eraill. Credaf ei bod yn deg a phriodol i'r ymdeimlad hwnnw o fod yn ddiamynedd fod yn sail i lawer o'n trafodaethau a llawer o'r hyn a ddywedwn. Nid wyf yn credu am funud, ac nid wyf yn ceisio honni bod pethau'n fêl i gyd, ac nid wyf yn ceisio honni ein bod, mewn ychydig dros 18 mis, wedi gwyrdroi bron canrif o ddirywiad. Credaf y byddai'n hurt pe byddwn yn dod i'r Siambr ac yn gwneud honiadau fel hyn, a chredaf y byddai'n hurt pe byddai'r Llywodraeth yn ceisio gwneud yr honiadau hynny ar ein rhan ni. Nid ydym yn dweud hynny. Yn fy natganiad, dywedais ein bod yn plannu hadau'r trawsnewid cynaliadwy, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud.

Rwy'n gwrthod unrhyw honiad nad ydym yn ddigon uchelgeisiol. Pan edrychaf ar brosiectau fel y parc tirwedd, rwy'n edrych ar rywbeth gwirioneddol drawsnewidiol a thrawsnewidiol yn yr ystyr nid o fuddsoddi mewn seilwaith neu ganolfan ddiwydiannol benodol yn unig, ond yn ysbrydoledig yn y ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain a'n cymunedau. Un o'r trychinebau gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf yw bod gormod o bobl yn y Cymoedd yn teimlo nad oes fawr ddim gobaith i'r dyfodol. Mae angen inni droi hynny ar ei ben, ac mae angen inni droi hynny ar ei ben nid yn unig drwy wneud y buddsoddiadau materol y mae angen inni eu gwneud—ac y mae'n rhaid inni, ac fe wnawn ni—ond hefyd drwy fuddsoddi yn ein pobl, ein diwylliant, ein treftadaeth a'n hamgylchedd. Mae'r parc tirwedd yn dwyn ynghyd yr holl wahanol agweddau hynny ar yr hyn a geisiwn ei gyflawni, ac yn ceisio ei becynnu mewn ffordd sydd nid yn unig yn trawsnewid y mynegiant corfforol o bwy ydym ni, ond ein dealltwriaeth ddiwylliannol o bwy ydym ni hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n siarad dros uchelgais yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni.

Nawr, rwy'n deall y dadleuon ynghylch a yw Ffynnon Taf neu Nantgarw yn ddigon o 'Gymoedd' o ran eu hanian. A ydyn nhw'n ddigon isel mewn cwm arbennig neu beidio? A ydyn nhw yn y Cymoedd o gwbl? Mae'n rhaid imi ddweud nad yw honno'n ddadl y bwriadaf ymuno ynddi, y prynhawn yma nac unrhyw bryd arall.

Credaf fod y pwynt mwy sylfaenol a wnaeth Sefydliad Bevan yn bwysicach, a hwnnw yw pwysigrwydd buddsoddi yn ardal Blaenau'r Cymoedd a rhannau o ranbarth y Cymoedd uchaf lle ceir problemau ac anawsterau mawr a dwfn. I'r rhai ohonom a ymgyrchodd dros ddeuoli'r A465—ffordd Blaenau'r Cymoedd—ryw ddegawd yn ôl, roeddem yn gwneud hynny nid i adeiladu ffordd ar gyfer osgoi ein cymunedau, ond i greu cyfle ar gyfer cysylltedd gwirioneddol rhwng ardal Blaenau'r Cymoedd a'r economi yn ehangach. Roeddem yn ystyried y byddai hwnnw'n ddull o ddatblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Rwyf eisoes wedi cynnal un seminar ar sut yr ydym yn gwneud hynny a sut y gallwn gynyddu'r budd o'r buddsoddiad hwnnw. Byddwn yn dychwelyd at hynny ym mis Medi, oherwydd, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn rhoi ar waith y buddsoddiadau y mae angen i ni eu rhoi ar waith i greu gwaith cynaliadwy sy'n talu'n dda, ond ein bod hefyd yn rhoi buddsoddiadau ar waith i sicrhau bod y gyflogaeth a bod y ffordd honno o fyw yn gynaliadwy i'r dyfodol. Felly, yn sicr ni fyddwn yn cydfyw ag amddifadedd. Nid ydym yn dymuno cydfyw ag amddifadedd, a dywedaf wrth yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru fy mod yn gweld amddifadedd yn rhy aml o lawer pan fyddaf yn dychwelyd i fy etholaeth i wedi gorffen fy nyletswyddau yn y fan hon. Rwy'n dyheu am newid hynny. Dyna pam y deuthum i mewn i wleidyddiaeth yn y lle cyntaf, a dyna'r hyn yr wyf i a'r Llywodraeth hon yn ceisio ei wneud.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:56, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Alun Davies yn iawn, wrth gwrs, yn ystod bron canrif o argyfwng economaidd a welwyd mewn cyn-ardaloedd glofaol, ers cwymp pris glo ym 1924, rydym wedi cael cyfres o ymyriadau a mentrau a strategaethau a chredaf y gellid crynhoi'r cyfan, yn wir, fel cynnydd bach a dirywiad mawr. Y cwestiwn y mae'n rhaid i ni ofyn iddo, ac rwy'n siŵr y bydd ef yn ei ofyn iddo'i hun, yw: sut y gall y fenter hon ddianc rhag y dynged honno? Rydym wedi gweld, dro ar ôl tro, godi disgwyliadau a chwalu gobeithion, a'r anghymwynas fwyaf fyddai honno i'r cymunedau hyn.

Felly, croesawaf yr adroddiad ar y cynnydd. Mae llawer o bethau ynddo sydd yn anodd peidio â'u hoffi ar y lefel micro, ond, os yw am fod yn wirioneddol drawsnewidiol, rwy'n credu bod angen inni wedyn ymgysylltu gyda'r math o her feirniadol—ac rwy'n falch ei fod yn gadarnhaol am y feirniadaeth a roddir gan Sefydliad Bevan, oherwydd fy mod yn rhannu peth—. A ydym ni'n targedu'r pethau iawn, a yw'r ffocws yn gywir? Roeddech yn cyfeirio at ddaearyddiaeth, a dyna gwestiwn hollbwysig hefyd. A yw'r ymyriadau ar y cyd ar raddfa ddigonol o'i chymharu â'r her, ac a yw'r strwythurau yn iawn? Rwyf am ddilyn peth o'r trywydd hwn yn fyr iawn.

Swyddi: yr unig ffigur—y ffigur mawr sydd gennym mewn targedau—yw'r 7,000 o swyddi. Mae ychydig o ddryswch yn y fan hon oherwydd, mewn gwirionedd, os edrychwn ar y record o ran creu swyddi, neu nifer y swyddi yn ardal tasglu'r Cymoedd, mewn gwirionedd, dros y cyfnod o bum mlynedd hyd 2016, aeth i fyny i 22,000. Felly, o leiaf ar y wyneb, oni bai i chi fy nghywiro i, ymddengys bod y targed yn llai uchelgeisiol na thuedd y gyfradd dros y pum mlynedd flaenorol. A chan dilyn ychydig mwy ar y trywydd na hynny, onid y mater gwirioneddol yw ansawdd y swyddi hynny? Erbyn hyn y broblem mewn llawer o gymunedau yn y Cymoedd hyn yw nid nifer y swyddi fel y cyfryw; ond eu hansawdd, sef natur sgiliau isel a chyflog isel llawer o'r swyddi hynny. Problem cynhyrchiant yw hon, ac yna mae'n ymwneud â buddsoddi mewn sgiliau.

O ran a yw'r raddfa'n ddigonol, os edrychwch ar rai o'r mentrau cynharach—yr ardaloedd adfywio strategol, er enghraifft, dan weinyddiaeth flaenorol, Llywodraeth Cymru'n Un—roedd cronfeydd o arian dynodedig mewn gwirionedd yn y fersiynau o'r canolfannau strategol a grëodd. Nid oes gennym unrhyw eglurder o hyd ynghylch maint y buddsoddiad cyfan sydd yn mynd i'r rhaglen hon neu, yn wir, sydd ynghlwm wrth y canolfannau strategol hynny. Pryd y cawn ni'r sicrwydd ein bod, mewn gwirionedd, am gael buddsoddiad sylweddol dros gyfnod cenhedlaeth, sydd, mewn gwirionedd, yn angenrheidiol ar gyfer sicrhau newid?

Ac, yn olaf, pan ydym yn cymharu tasglu'r Cymoedd—. A hoffwn innau dalu teyrnged i'r ymgysylltu hynod drawiadol sydd wedi digwydd a'r gwirfoddolwyr sy'n eistedd ar y tasglu, ond pan fyddwch yn cymharu hynny â strwythurau'r dinas-ranbarthau—y dinas-ranbarthau, sydd, drwy eu strwythurau llywodraethu, yn cynnwys llawer o asiantaethau allweddol, gan gynnwys Llywodraeth Leol, ac mae ganddyn nhw gyllidebau enfawr ynghlwm wrthyn nhw—yna hafaliad annheg yw hwnnw ar hyn o bryd ac nid yw'n syndod fod pryder ynghylch yr hyn sy'n digwydd, sef bod magnet coridor yr M4 o fewn y dinas-ranbarthau yn parhau i arfer ei rym anferthol. A sut all tasglu'r Cymoedd yrru'r buddsoddiad angenrheidiol mewn cyfeiriad arall i ardaloedd craidd y Cymoedd hynny y cyfeiriodd ato yn gynharach?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:01, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, cyn ateb y cwestiynau gan lefarydd Plaid Cymru, credaf y byddai'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn hoffi ymuno â mi i'w groesawu ef yn ôl i'r lle hwn a'i longyfarch a dymuno'n dda i'w deulu i'r dyfodol. Rwy'n credu y bydd pob un ohonom ar bob ochr i'r Siambr yn awyddus i gyfleu ein dymuniadau da i chi.

A gaf i ddweud hyn? O ran ein sefyllfa heddiw, rydych wedi gofyn rhai cwestiynau sylfaenol iawn ac, os byddaf yn gwbl onest gyda chi wrth eu hateb, rwy'n dweud wrthych, 'A yw'r ffocws yn iawn? A yw'r ymyriadau yn iawn? A yw'r strwythurau yn eu lle?' Rwy'n gobeithio hynny. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n awchu am weld newid. Nid wyf i'n fodlon ac nid ydwyf am ddod i'r fan hon yn unig er mwyn dweud y bydd yr hyn yr ydym wedi ei roi ar waith dros y 18 mis diwethaf yn parhau i fod ar waith. Rwy'n edrych yn barhaus ar y strwythurau a'r prosesau sydd ar waith gennym, ac, os nad wyf yn credu eu bod yn cyflawni'r newid yr ydym yn ei ddymuno, yna ni fyddaf yn petruso o gwbl wrth wneud newidiadau i sicrhau y gallwn gyflawni'r newid yr ydym yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n gobeithio—.

Mae ei bortread o fentrau blaenorol—cynnydd bach a dirywiad mawr—yn feirniadaeth deg ac yn feirniadaeth y gobeithiwn y byddwn yn dysgu oddi wrthi yn hytrach na'i hailadrodd. Nid fy nymuniad i y prynhawn yma yw dod yma a dweud, 'Mae gennym ni adroddiad, a, doed a ddelo, pa feirniadaethau beth bynnag a wneir o'r adroddiad hwnnw, byddaf yn ei amddiffyn hyd yr eithaf'. Nid dyna fy mwriad. Fy mwriad i yw dod yma ac adrodd yn onest ac eglur a dysgu o'r feirniadaeth, gan Aelodau yma a chan y gymuned yn ehangach, a dyna pam, fel chithau—. Mae'n debyg na chefais i lawn cymaint o fwynhad o ddarllen adroddiad Sefydliad Bevan ag y cawsoch chi, os wy'n gwbl onest, ond roeddwn o'r farn fod y dadleuon yn dda a theg.

Felly, o ran cynyddu ein dyhead, dyna'r her allweddol sy'n ein hwynebu. Yr her allweddol yw sicrhau y gallwn roi'r buddsoddiadau ar waith mewn canolfannau strategol, a fydd wedyn yn denu buddsoddiad y sector preifat yn llwyddiannus. Mae sicrhau bod gennym ni'r berthynas â'r dinas-ranbarthau a'r cyrff strategol eraill yn her allweddol. Ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod hynny'n digwydd ar hyn o bryd, os wy'n gwbl onest yn fy ymatebion.

Ond gadewch i mi ddweud hyn: y tasglu ei hun —. Ac mae hwn yn un maes yr wyf yn pryderu yn ei gylch o ran cyfeiriad y ddadl hon weithiau. Yn rhy aml, mae pobl yn credu bod y tasglu ynddo'i hun yn un o gyrff y Llywodraeth sydd â'i fywyd ei hun—gyda'i bapur ysgrifennu a phennawd iddo, a baner a phencadlys yn rhywle. Nid felly y mae. Ffordd o ganolbwyntio dull a pholisi Llywodraeth Cymru ar Gymoedd y de yw'r tasglu. Felly, pan fyddwn yn sôn am y tasglu, yr hyn yr ydym yn sôn amdano yw dull a pholisi Llywodraeth Cymru ac nid dim ond grŵp o weision sifil neu un Gweinidog neu grŵp o Weinidogion sy'n gweithredu yn annibynnol ar Lywodraeth. Felly, yr holl adnoddau sydd gennym ni yw adnoddau'r Llywodraeth ac mae angen i'r adnoddau hynny gael eu rhoi ar waith i bwyso ar yr achosion o amddifadedd a ddisgrifiwyd yn dda iawn gan Mark Isherwood.

Ac, o ran yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni, y targed yw 7,000 o bobl yn hytrach na 7,000 o swyddi. Ond mae'r feirniadaeth gyffredinol a wnaeth llefarydd Plaid Cymru yn gymen unwaith eto. Rydym yn edrych ar ansawdd y gwaith ac rydym yn edrych ar Gymru fel cenedl gwaith teg. Y rheswm dros gydnabod yn benodol waith yr Athro Dickens yn fy natganiad agoriadol oedd gwneud yr union bwynt hwnnw. Rydym yn cydnabod ac yn gwybod, pe byddem yn edrych yn unig ar lefelau cyflogaeth yn y Cymoedd ni fyddem yn adrodd y stori wirioneddol. Yn wir, rydym yn dysgu'r gwersi anghywir. Yn rhy aml o lawer, mae pobl mewn cyflogaeth mewn llawer rhan o'r Cymoedd, gan gynnwys fy etholaeth i, a rhannau o etholaeth yr Aelod yn sir Gaerfyrddin hefyd, rwy'n siŵr, yn gweithio mewn swyddi sy'n talu'n wael ac yn ansicr ac nid oes ganddyn nhw'r cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau yr hoffem eu gweld. Felly, yr hyn y mae angen inni ei wneud yw hyn–nid sicrhau bod gan bobl y math hwnnw o waith sgiliau isel ac ansicr, sy'n talu'n wael, ond y bydd y math o swyddi sydd gennym yn arwain at yrfaoedd yn y Cymoedd ac ym Mlaenau'r Cymoedd ac ym mhob rhan o'r Cymoedd. Dyna yw ein huchelgais ni. Ac wrth ddatblygu'r targed o 7,000 o bobl, yr hyn yr oeddem yn dymuno ei wneud—. Nid ymddangos o'r awyr wnaeth y targed; roedd yn tarddu o'r dymuniad i ddod â'r rhannau o'r awdurdodau lleol dan sylw yn y Cymoedd i'r un lefel â gweddill Cymru, a chyflawni hynny o fewn pum mlynedd. Dyna yw maint ein huchelgais.

Mae'r Aelod yn hanesydd economaidd da a medrus iawn; mae'n gwybod am yr anawsterau a wynebwyd gan y Cymoedd dros y degawdau. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw plannu hadau'r newid, a bydd hynny'n cymryd mwy na 18 mis a bydd yn cymryd mwy na dwy flynedd. Ond rwy'n gobeithio mai'r hyn y gallwn ei wneud yw dangos bod y sylfeini gennym ni ar gyfer dyfodol gwahanol iawn i'n Cymoedd.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:06, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr adroddiad cynnydd heddiw ar fenter y Cymoedd bresennol Llywodraeth Cymru. Pan fydd llefarwyr a gwleidyddion y gwrthbleidiau yn trafod eich cynlluniau, fel arfer mae gennym ychydig o ragarweiniad am lawer o gynlluniau'r Cymoedd sydd wedi bod o'r blaen, ac mae Adam wedi rhoi'r rhagarweiniad hwnnw inni unwaith eto heddiw—un hyddysg iawn—ond rydym yn gwybod bod angen inni ddianc oddi wrth fethiannau'r gorffennol.

Rydym ni yn UKIP yn obeithiol y bydd y fenter hon yn arwain at rywfaint o gynnydd yn y Cymoedd a cheir pethau da yn y diweddariad heddiw. Rydym ni'n credu, yn gyffredinol, wrth gwrs, bod unrhyw fenter yn un dda cyn belled ag y bo ganddi fwriadau da a'i bod yn ystyrlon. Dywedasoch y tro diwethaf mai'r hyn nad oeddech yn dymuno ei wneud oedd creu unrhyw fiwrocratiaeth newydd. Nid oeddech yn awyddus i gael dirgel-gyngor o wleidyddion, ond roeddech yn dymuno sicrhau bod pobl y Cymoedd yn rhan o'r drafodaeth, ac rwy'n cytuno â chi nad ydym yn dymuno creu pethau sy'n ymddangos eu bod yn haenau ychwanegol o Lywodraeth. Mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod yn clywed llais y Cymoedd yn y drafodaeth hon a'n bod yn caniatáu i bobl y Cymoedd  ddweud eu barn yn ystyrlon ar y cynlluniau ar gyfer eu dyfodol nhw eu hunain. Felly, rwyf wedi cael fy nghalonogi o glywed am yr awdurdodau lleol yn cymryd rhan, gan ddod â digwyddiadau fel uwchgynadleddau a gweithdai i mewn i'r peth, a'n bod felly yn cael yr ymgysylltu hwnnw â phobl leol.

Ond, wrth gwrs, mae Adam wedi codi'r mater bod hwn, mewn rhai ffyrdd, yn adweithio yn erbyn, o bosib, y cynlluniau dinas-ranbarth, a fydd yn canolbwyntio ar y ffaith bod y Cymoedd yn agos i goridor yr M4, tra mai'r hyn yr ydych yn dymuno ei wneud gyda chynllun y Cymoedd yw ennyn buddsoddiad i'r Cymoedd uchaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni ystyried beth a olygir gan y Cymoedd mewn gwirionedd a bod gwahaniaeth ystyrlon rhwng pen y coridor deheuol a'r Cymoedd uchaf. Rwy'n gwybod eich bod wedi cydnabod y gwahaniaeth. Nid ydym yn dymuno mynd ar ôl y pwnc yn ormodol, oherwydd mae buddsoddiad yn y Cymoedd yn beth da ar y cyfan. Ond rwyf i o'r farn bod gwahaniaeth eglur rhwng dau ben y Cymoedd. Felly, bydd yn rhaid inni ganolbwyntio ychydig yn fwy ar ble y byddwn yn buddsoddi.

Nawr, gan fynd yn ôl at yr ymgysylltiad â'r cyhoedd, sut fyddwch chi'n sicrhau y bydd llais pobl leol yn parhau i gael ei gynrychioli yn eich cynlluniau, ac a fydd y llais hwnnw yn arwain at newid ystyrlon? Fe wnaethoch chi sôn am y berthynas â'r dinas-ranbarthau ac nad yw'r berthynas fel y mae ar hyn o bryd fel y byddech yn hoffi iddi fod, felly, pe gallech chi daflu ychydig mwy o oleuni ar hynny, byddai'n dda o beth. Y prif angen yw cael swyddi o ansawdd da a chynaliadwy. Ie, mae angen iddyn nhw fod yn swyddi o ansawdd uchel, nid—. Mae angen inni symud oddi wrth sgiliau isel a cheisio cael pobl i swyddi sgiliau uwch. Felly, yn amlwg, mae hynny'n golygu bod angen ailhyfforddi pobl, a ffactor mawr yw rhoi mwy o gyfle i hyfforddi ac ailhyfforddi pobl fel y gall pobl o bob oedran yn y Cymoedd gael gwaith mewn swyddi fel y rheini. Pa ymrwymiadau penodol a roddir i ailhyfforddi? Bydd yn rhaid ichi weithio gyda chyflogwyr, â cholegau lleol a'r cynghorwyr gyrfaoedd, felly beth fydd eich ymgysylltiad â chyflogwyr a cholegau a Gyrfa Cymru wrth ichi ddatblygu eich cynlluniau? Codwyd pwyntiau penodol y tro diwethaf, mewn gwirionedd, gan Hefin David, sydd wedi cael llawer o brofiad, yn amlwg, o addysg bellach ac uwch—roedd ef yn sôn am yr angen am fwy o astudio rhan-amser a mwy o astudio breiniol a byddai'n rhaid i golegau lleol ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw. Felly, beth yw eich barn ar y pwyntiau penodol hynny?

Bydd trafnidiaeth yn allweddol. Mae Mick Antoniw ac Adam Price fel ei gilydd yn y gorffennol wedi cyfeirio at yr angen am lein gylch o amgylch y Cymoedd, y mae'r cynlluniau cyfredol ar gyfer metro de Cymru, i ryw raddau, yn darparu ar ei chyfer. Credaf, felly, fod angen inni wneud yn siŵr nad yw'r metro yn y pen draw yn golygu dim ond un llwybr ychwanegol i mewn i Gaerdydd; mae angen iddo fod â'r rhyng-gysylltiad hwnnw rhwng y Cymoedd. Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod y syniad o gael y rhyng-gysylltiad hwnnw'n parhau wrth i'r cynlluniau ddatblygu ar gyfer y metro, ac a allwch chi gynnig unrhyw beth i'n sicrhau ni neu i helpu i rwystro'r metro rhag efallai osgoi'r cynlluniau hyn yn y dyfodol? O bosib, pe bai maint y buddsoddiad yn cael ei leihau, mae perygl y gallai'r syniad o ryng-gysylltiad ddiflannu.

Mae gennym gynlluniau lleol hefyd; cafodd un neu ddau ohonyn nhw eu crybwyll heddiw. Mae hynny'n galonogol iawn. Mae'r cynllun camlas yn swnio fel menter dda. Yr wythnos diwethaf cyfarfûm â nifer o bobl sy'n ymwneud â chynllun y twnnel yn y Rhondda. Felly, tybed pa ran fydd gan gynlluniau fel hynny yn eich barn chi, ac a ydych yn bwriadu datblygu mwy o gynlluniau trafnidiaeth lleol wrth inni symud ymlaen? Diolch yn fawr.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:11, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, un o'r materion a godwyd gyda ni ym mhob digwyddiad cyhoeddus a gynhaliwyd bron dros yn ystod y ddwy flynedd diwethaf yw mater trafnidiaeth leol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn codi materion yn ymwneud â bysiau lleol yn hytrach na'r system fetro, ac rwyf i o'r farn y bydd yn bwysig inni gydnabod, wrth ddatblygu'r metro, ein bod yn datblygu ac yn darparu rhwydwaith trafnidiaeth a fydd yn mynd y tu hwnt i'r trenau hynny sydd gan amlaf yn cael y sylw mwyaf yn hynny o beth. Felly, byddwn yn sicrhau y bydd cysylltiadau trafnidiaeth wrth galon yr hyn yr ydym ni'n ei wneud. Pan nodwyd y saith canolfan strategol, nodwyd ardaloedd a oedd yn hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ardaloedd a fyddai'n cael eu gwasanaethu gan y metro yn y dyfodol. Felly bydd gennym olwg strategol a gofodol o'r mannau y byddwn yn canolbwyntio ein buddsoddiad yn y dyfodol, a bydd y metro yn rhan gwbl hanfodol o hynny.

O ran y materion y mae llefarydd UKIP yn eu codi ar brentisiaethau a hyfforddiant, yn amlwg, byddwn yn sicrhau bod y rhaglen gyflogadwyedd y mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes wedi ei lansio yn weithgar yn y Cymoedd, a'i bod yn canolbwyntio ar y Cymoedd. Rydym hefyd yn datblygu model rhannu prentisiaeth ym Merthyr Tudful a fydd yn sicrhau y gallwn ddatblygu a dysgu gwersi yn sgil rhai o'r prosiectau eraill, fel prosiect Aspire, yn fy etholaeth i, a fydd yn sicrhau bod gennym ffordd o ddarparu sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau sy'n gynaliadwy ac a fydd yn cyrraedd y gwahanol rannau o'r Cymoedd, a'r gwahanol sgiliau sy'n ofynnol ar gyfer swyddi cynaliadwy yn y Cymoedd. 

Ond a gaf i ddweud bod llefarydd UKIP yn gwneud pwynt o sicrhau bod pobl leol yn cymryd rhan yn nyluniad yr holl wahanol brosiectau a rhaglenni hyn? Rydym wedi gwreiddio popeth a wnaethom yn y dyheadau a rannwyd â ni gan bobl yng nghymunedau'r Cymoedd a'r cyffiniau. Ni chafodd hyn ei gyd-gynhyrchu yn y ffordd y mae llefarydd y Ceidwadwyr yn ei ddweud, ond cafodd ei wreiddio yn nyheadau a gweledigaethau'r bobl ledled rhanbarth y Cymoedd yn ei chyfanrwydd. Rydym wedi treulio amser ac rydym wedi buddsoddi ein hamser nid yn unig yn siarad â phobl, ond yn gwrando ar yr hyn a ddywedodd y bobl hynny wrthym ni. Ac un o'r pethau allweddol a ddywedwyd wrthym—ac roedd llefarydd Plaid Cymru yn cyfeirio at hyn yn ei sylwadau—yw y codwyd disgwyliadau yn rhy aml o lawer dim ond i'r gobeithion hynny gael eu chwalu. Yr hyn yr wyf yn dymuno gallu ei wneud drwy'r rhaglen hon o wrando a siarad, a thrwy gyhoeddi cynllun cyflenwi, yw cael fy nwyn i roi cyfrif o'r addewidion a wnawn, fel bod pobl yn y fan hon—yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yma—yn gallu ein dal ni i gyfrif am yr hyn a gyflawnwn a'r hyn a ddywedwn ein bod yn ei gyflawni, yr amserlenni a'r targedau a osodir gennym, ond, ar yr un pryd, bydd pobl ledled y Cymoedd yn gallu ein dal ni i gyfrif hefyd. Ac o ran ennill ac ailadeiladu ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, credaf fod hynny'n hanfodol i'r dyfodol.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:14, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr wybodaeth ddiweddaraf? Credaf fod yna lawer i'w groesawu yn y datganiad yr ydych wedi ei gyflwyno heddiw, Alun. Fel chithau, sy'n cynrychioli cymuned yn y Cymoedd, rwyf wedi bod yn gefnogol dros ben i waith y tasglu, yr hyn y mae wedi ceisio ei gyflawni a'r ffordd y mae wedi ymgysylltu â chymunedau'r holl ffordd ar hyd y Cymoedd i gyrraedd ein sefyllfa ar hyn o bryd. Ond byddwch yn gwerthfawrogi nad wyf i am ymddiheuro am fy mod i, unwaith eto, yn achub ar gyfle fel hwn i wneud pwynt plwyfol am gwm Rhymni uchaf. Er fy mod yn croesawu'r math o fuddsoddiad a welsom mewn pethau fel cyflenwi ysgol newydd Idris Davies yn Abertyswg, er enghraifft, rwy'n parhau i fod yn bryderus bod Rhymni yn mynd yn gwr angof o'r Cymoedd. Nid oes unrhyw fuddsoddiad economaidd amlwg neu sylweddol i ddod ar ei gyfer, er ei fod wedi ei leoli mor strategol wrth ymyl ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Fel y crybwyllwyd eisoes, rwy'n credu mai dyma'r pwynt yr oedd Sefydliad Bevan yn ceisio ei wneud yn ei ddatganiad, yn enwedig o ran buddsoddiad y metro yn Ffynnon Taf. Gwn nad ydych chi yn awyddus i drafod hynny a gwn fod eraill wedi sôn am hyn, ond rwyf am ei ailadrodd: mae'n nes at Gaerdydd nag y mae at y Cymoedd. Rwyf i wedi crybwyll hyn o'r blaen a chredaf ei fod yn fater o flaenoriaethau economaidd o ran buddsoddiad, a dyna'r rheswm pam yr wyf yn amheus o hynny. Oherwydd rwy'n credu y byddai buddsoddiad o'r fath, pe byddai wedi bod yng Nghwm Rhymni, wedi bod yn drawsnewidiol o ran y swyddi o ansawdd da y byddai wedi eu darparu, y sgiliau a fyddai wedi dod yn ei sgil, a'r effaith gadarnhaol ar yr economi ehangach, nid yn Rhymni yn unig, ond ledled Blaenau'r Cymoedd. Byddai wedi ticio pob blwch yn amcanion tasglu'r Cymoedd, yn ogystal ag yn rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adref y Llywodraeth.

Felly, o ystyried ei bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru arwain ar ddarparu buddsoddiad yng nghymunedau ein Cymoedd a'i bod yn dal yr awenau economaidd mewn cynifer o feysydd, rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am ddod i Rhymni ddydd Iau, pan gynhelir cyfarfod â chynrychiolwyr lleol a rhai busnesau yno. Bydd yn gallu gweld yn uniongyrchol a chlywed ganddyn nhw beth sy'n ddisgwyliedig. Felly, fy nghwestiwn i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yw: a wnewch chithau hefyd ymweld â Rhymni gyda mi a thrafod y cynnydd yn ein strategaeth ar gyfer y Cymoedd er mwyn y cymunedau hyn a rhoi rhywfaint o sicrwydd na fydd y Cwm hwn yn cael ei adael ar ôl? Oherwydd a dweud y gwir, er fy mod yn deall yn iawn na all pethau ddigwydd dros nos, a gwn y byddwch yn cytuno â hyn, os nad yw 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' yn cyflawni mewn lleoedd fel Rhymni, yna bydd wedi ffaelu.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:17, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae gan Gwm Rhymni rai eiriolwyr gwych yn siarad ar ei ran. Gwn fod Dawn Bowden, yr aelod ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni, yn siarad ar ran Cwm Rhymni uchaf ac mae ein cyd-Aelod Hefin David yn siarad am rannau isaf Cwm Rhymni gyda ffyrnigrwydd cyffelyb. Deallaf y pwyntiau a wnaed, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau hynny. Rwy'n hapus iawn i ddod draw i Rhymni ar unrhyw adeg i siarad ac i ymweld a chael y trafodaethau hyn. Ond rwyf i o'r farn fod y pwynt sylfaenol a wnewch am gymunedau'r Cymoedd uchaf, Blaenau'r Cymoedd, yn gwbl gywir. Credaf i chi fod mewn seminar yn ôl ym mis Ebrill i drafod rhai o'r materion penodol hynny. Yn rhy aml, rydym yn edrych ar y Cymoedd fel cyfanrwydd heb ddeall y gwahaniaethau rhwng y cymunedau amrywiol a phwysigrwydd bod â strategaeth fanwl iawn i ymdrin â rhai o'r materion mwy sylfaenol.

I mi, bydd Blaenau'r Cymoedd yn brawf litmws i weld a fyddwn yn llwyddo neu'n methu. Roedd y pwyntiau a wnaeth llefarydd Plaid Cymru yn dda, ac os ydym am lwyddo yn y profion sydd wedi eu gosod gennych chi ac eraill yma, mewn lleoedd fel Pontlotyn neu Rhymni y gwelir hynny. Felly, gadewch imi ddweud hyn: daethom â grŵp o bobl at ei gilydd yn y gwanwyn i edrych ar sut y gellir defnyddio gwaith deuoli ar yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, fel catalydd ar gyfer newid, a chredaf fod angen inni edrych nawr ar y camau a pha fuddsoddiadau y mae angen eu gwneud yn seilwaith y Cymoedd uchaf i wireddu'r uchelgais hwnnw. Gallaf weld bod yr Aelod dros Gwm Cynon yma hefyd, ac rydym yn gwybod bod ein cymunedau, o Hirwaun a throsodd i Frynmawr, yn wynebu rhai heriau sylweddol iawn sydd y sydd tu hwnt i'r rhai a wynebir gan ardaloedd eraill—a gallwn ddadlau ynghylch a ydyn nhw'n rhan o'r Cymoedd neu beidio rywbryd arall efallai.

Mae mater allweddol y Cymoedd uchaf yn sicr yn ystyriaeth ganolog yn fy meddwl i, a gobeithiaf, yn gynnar yn yr hydref, y gallwn sefydlu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cymunedau'r Cymoedd uchaf—strategaeth ddiwydiannol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd, a fydd yn edrych ar sut y gallwn sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn ardal safle Glofa'r Tŵr yng Nghwm Cynon uchaf a throsodd i Ferthyr ei hunan. Credaf y bydd prosiect y Pair yr ydym wedi ei drafod o'r blaen yn rhoi hwb gwirioneddol i Ferthyr ar gyfer y ffordd ymlaen, ac mae ar Gwm Rhymni uchaf angen yr union fath o fuddsoddiad yr ydych wedi ei ddisgrifio. Yn fy etholaeth i fy hunan, mae'n golygu datblygu lleoedd fel stad ddiwydiannol Tafarnaubach neu stad ddiwydiannol Rasa, yn sicrhau nad yw buddsoddiad Cymoedd Technoleg yn aros yng Nglynebwy yn unig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel hwb i fuddsoddiadau ledled ardal  Blaenau'r Cymoedd. Dyna'r uchelgais sydd gennym i gyd, rwy'n credu, ac mae angen inni wireddu hynny. Felly, rwy'n cytuno'n fawr iawn â'r pwyntiau a wnaed.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:21, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich diweddariad yma heddiw. Byddwch yn gwybod fy mod yn gefnogwr brwd o dasglu'r Cymoedd a'i gynllun cyflawni, fel y mae llawer o'm hetholwyr hefyd. Mae'n dda eich clywed yn cyfeirio at hen safle Glofa'r Tŵr, y credaf fod ganddo bosibiliad ardderchog oherwydd ei gysylltiadau unigryw o ran cysylltedd. Edrychaf ymlaen at weld beth y gellir ei wneud gyda'r safle hwnnw gyda help Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae gennyf i ychydig o gwestiynau i chi heddiw. Yn gyntaf, o ran parciau tirwedd y Cymoedd, ac yn benodol eu cysylltu â'i gilydd, efallai i chi weld yn ddiweddar yn y newyddion y penodwyd cyngor Rhondda Cynon Taf yn awdurdod arweiniol i ddatblygu'r gwaith o ailagor hen dwnelau rheilffordd, gan gynnwys twnnel Abernant, sy'n cysylltu Cwmbach yn fy etholaeth i â Merthyr Tudful. O ystyried eich sylwadau ar dreftadaeth a thwristiaeth, a ydych yn cytuno â mi y gellid defnyddio'r strwythurau hyn, gan gynnwys twnnel Abernant a gynlluniwyd gan Brunel, yn ysgogiadau i gefnogi denu twristiaeth i'r ardal ac i annog teithio llesol hefyd? Ym mha ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi datblygiad y prosiectau hyn?

Yn ail, cafodd nifer o ymyriadau iechyd eu crybwyll yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. O ystyried y dathliad amserol yr wythnos diwethaf o ddengmlwyddiant a thrigain y GIG, a chysylltiadau cryf y sefydliad hwnnw â'r Cymoedd, a allwch ddweud mwy am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i fodloni'r nodau hyn?

Yn drydydd, ac yn olaf, siaradais yn ddiweddar mewn cynhadledd a drefnwyd o dan ymbarél cynghrair y cymdeithasau cydfuddiannol, a oedd yn tynnu sylw at ba fodelau cydweithredol a chydfuddiannol y gellid eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau mewn amrywiaeth o feysydd. Sut ydych yn cysylltu â'r sector hwn ac yn annog datblygiad dewisiadau cydweithredol gwirioneddol ar lawr gwlad?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:23, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'r pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon yn rhai da iawn. O ran iechyd a mentrau cydweithredol, wrth gwrs, rydym newydd ddathlu'r hyn yr oedd llawer o bobl yn ei ddisgrifio fel dengmlwyddiant a thrigain y gwasanaeth iechyd gwladol. Wrth gwrs, i'r rhai ohonom ni sydd o Dredegar, Llywydd, y cyfan yw hyn yw dengmlwyddiant a thrigain y Ddeddf Seneddol a grëodd y gwasanaeth iechyd gwladol. Rydym ni wedi dathlu cant ac wyth ar hugain o flynyddoedd ers sefydlu Cronfa Cymorth Meddygol a Lliniaru Tostrwydd Tredegar a arweiniodd at greu'r gwasanaeth iechyd. Ac mae hwnnw'n bwynt da iawn, oherwydd mae rhai ohonom sy'n aelodau o'r blaid gydweithredol yn cydnabod bod ffyrdd y gellir defnyddio dinasyddiaeth weithredol ar gyfer cyflawni newid sylweddol yn ein cymunedau, sy'n mynd â ni yn ôl at nifer o themâu sydd fel edafedd drwy ein trafodaeth y prynhawn yma.

Nid fy uchelgais i ar gyfer y Cymoedd yw gwneud pethau i'r Cymoedd, boed y Cymoedd yn hoffi hynny neu beidio, ond cael dinasyddiaeth weithgar i benderfynu ar ein dyfodol ledled y Cymoedd. Efallai'n wir y byddai'r dyfodol y byddem yn dymuno ei weld yn nyffryn Sirhywi ac ym Mlaenau Gwent yn wahanol iawn i farn yr Aelod dros Gastell-nedd ar gyfer Cwm Nedd a Chwm Dulais, lle buom yn ddiweddar iawn, lle byddai gennym setiau gwahanol o flaenoriaethau a setiau gwahanol iawn o uchelgeisiau. Ond mae'n iawn a phriodol ein bod yn rhoi dull ar waith i alluogi dinasyddion gweithredol i gymryd rheolaeth o'u dyfodol eu hunain a sicrhau ein bod yn darparu'r modd a'r arian a'r strwythurau i ganiatáu pobl i wneud hynny.

Pan feddyliaf am hanes a threftadaeth wych y Cymoedd—soniasom am dwnnel Abernant y prynhawn yma, ond hefyd siaradwyd am y twnnel yng nghymoedd y Rhondda ar achlysuron blaenorol—mae cyfleoedd yma i ni newid dyfodol y Cymoedd. Credaf fod parc tirwedd y Cymoedd yn un o'r mentrau a'r cysyniadau cyffrous iawn hynny a allai wneud llawer mwy nag a ragwelir. Yn wir, gall newid y ffordd yr ydym yn ein gweld ein hunain, sydd yn gwbl hanfodol yn fy marn i. Pan oeddwn yn siarad â phobl yn Aberdâr, ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ychydig fisoedd yn ôl, am eu dyheadau ar gyfer y dyfodol, roedd yn taro tant gyda mi o ran fy uchelgeisiau fy hunan, a'n bod yn rhannu'r weledigaeth honno am y dyfodol.

Pan feddyliaf am y parc tirwedd, rwy'n meddwl hefyd am y pyrth—ardaloedd yn arwain i'r Cymoedd—ac rwy'n credu y gallai Parc Gwledig Cwm Dâr fod yn un o'r ardaloedd hynny. Credaf y gallai Merthyr fod yn un o'r ardaloedd hynny. Credaf hefyd y gallai ardaloedd o amgylch fy etholaeth i, sydd â threftadaeth y gwasanaeth iechyd gwladol, fod yn un o'r rhai hynny, a gallwch ddwyn Blaenafon i mewn gyda'r Big Pit, ac ardaloedd eraill hefyd. Mae nifer o ffyrdd y gallwn drawsnewid y dyfodol, ond er mwyn gwneud hynny bydd yn rhaid inni wreiddio ein gweledigaethau ni â gweledigaethau'r bobl sy'n byw yn y Cymoedd ar yr un pryd. Pan oeddem yn trafod economi Blaenau'r Cymoedd, roedd yn hyfryd gweld Tyrone O'Sullivan, arweinydd mawr y glowyr, yn sôn am ei ddyheadau ar gyfer dyfodol safle'r Tŵr, a'r hyn y gall hynny barhau i'w gynnig i bobl nid yn unig yn Hirwaun ac Aberdâr, ond y bobl drwy holl ardal Blaenau'r Cymoedd. Gobeithio mai'r uchelgais hwnnw y gallwn ei wireddu yn y dyfodol.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma. Croesawaf yn fawr y tasglu a'i uchelgeisiau, ac rwy'n dymuno ei weld yn gweithio. Yn amlwg, rwyf eisiau gallu gweld y gwersi a ddysgwyd o hynny yn berthnasol i bob cwm yn ne Cymru, oherwydd, fel y gwyddoch, ni chynhwysir cwm Afan yn eich canolfannau. Mewn gwirionedd rydych wedi nodi parc tirwedd y Cymoedd fel un cyfle, ac mae Vikki Howells wedi sôn am dwnnel Abernant. Yr un na wnaeth sôn amdano oedd twnnel y Rhondda i Blaengwynfi—i sicrhau bod hynny i gyd yn gweithio hefyd.

Ond mae datblygiadau yng nghwm Afan, nad ydynt yn cael eu cynnwys, sydd wedi edrych ar brosiectau a fydd yn datblygu'r diwydiant twristiaeth yno, gyda phrosiect man gwyliau cwm Afan neu brosiect twnnel y Rhondda. Mae'r rhain yn brosiectau sy'n canolbwyntio ar ddenu twristiaeth. A wnewch chi gadarnhau i mi yn awr, na fyddwn yn colli allan ar gyfleoedd i elwa o barc tirwedd y Cymoedd, fel y gallwn adeiladu ar hynny a gweithio gyda'n gilydd?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:27, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Gallaf yn bendant gadarnhau hynny heddiw. Pan ydych yn gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi strategol, rydych chi'n creu'r math hwnnw o sefyllfa lle mae rhai pobl yn teimlo eu bod nhw i mewn ac mae eraill yn teimlo nad ydynt. Rwy'n cydnabod hynny, a gwn fod eraill wedi gwneud pwyntiau tebyg iawn i mi ar adegau gwahanol. Ond gadewch i mi ddweud hyn: rwy'n credu bod pawb ohonom sydd wedi teithio drwy gwm Afan ac wedi teithio hyd at Blaengwynfi, a thros y grib yno, wedi gweld tirwedd sydd yn cymharu ag unrhyw le yn y byd. Mae'n lle gwych i fod ynddo; mae'n gynnig gwych, os mynnwch, ar gyfer twristiaeth. Mae'n dwyn ynghyd rai cyfleoedd gwych, ac yn sicr, mae'r sgyrsiau a gawsom am ddyfodol twristiaeth yng nghwm Afan, yn fy marn i, yn rhai o'r sgyrsiau mwyaf cadarnhaol a gefais am ddyfodol y Cymoedd. Yn sicr, bydd y buddsoddiadau yr ydym wedi eu trafod a dadlau amdanynt yng Nghwm Afan, yn fy marn i, yn trawsnewid nid yn unig gwm Afan, ond y canfyddiad o'r cymoedd a lle'r cymoedd, o ran twristiaeth o Gymru a gweddill y DU, ond hefyd ein canfyddiad ni ein hunain ohonom ni ein hunain.

Credaf fod gan y Cymoedd, o ran twristiaeth, fwy o botensial na bron unrhyw ran arall o Gymru; mae'r potensial hwnnw heb ei gyffwrdd ar hyn o bryd. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn rhoi'r strwythurau ar waith sy'n galluogi twristiaeth i fod yn rhan allweddol o'n dyfodol, ond hefyd—ac mae hyn yn bwysig i mi wrth orffen, Dirprwy Lywydd—bod manteision twristiaeth yn aros o fewn y Cymoedd, a'n bod yn gweld cymunedau yn y Cymoedd yn elwa o hynny mewn ffordd real iawn, a hefyd, gan ddychwelyd at y pwynt a wnaed gan yr Aelod dros Gwm Cynon, ein bod hefyd yn sicrhau ei fod yn rhan o'r hyn ydym yn y dyfodol o ran iechyd y cyhoedd, ac o ran darparu cyfleoedd i bobl archwilio a deall mewn ffordd a gollwyd dros y degawdau diwethaf. Felly, mae ailagor y twnnel yn un ffordd, mae deall ein treftadaeth yn ffordd arall. Mae agor mynediad at y bryniau a'r mynyddoedd a chefn gwlad o gwmpas y Cymoedd, ac yn y Cymoedd, mi gredaf, yn ffordd inni ailgysylltu â'n gorffennol i greu dyfodol gwahanol iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:29, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.