7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

– Senedd Cymru am 4:20 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:20, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM6765 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:20, 11 Gorffennaf 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser mawr gennyf i agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad hwn mewn ymateb i’r pryderon cynyddol ynghylch y defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn lleoliadau cartrefi gofal i reoli ymddygiad heriol pobl sydd â dementia. Fel y gwyddom i gyd, caiff meddyginiaeth wrthseicotig ei defnyddio fel arfer wrth drin cyflyrau iechyd meddwl megis sgitsoffrenia, a dim ond un feddyginiaeth, sef risperidone, mewn rhai amgylchiadau, sy’n drwyddedig yn y Deyrnas Unedig i drin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia.

Fodd bynnag, yn ystod ein gwaith craffu ar strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru ar ddementia, dywedwyd wrthym fod y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig yn peri pryder mawr i bobl sydd â dementia a’u teuluoedd. Mae meddyginiaeth wrthseicotig yn gysylltiedig â risg gynyddol o ddigwyddiadau niweidiol serebro-fasgwlaidd a mwy o farwolaethau pan gaiff ei defnyddio gyda phobl sydd â dementia. Mae astudiaethau’n amcangyfrif bod o leiaf 1,800 o farwolaethau ychwanegol bob blwyddyn ym Mhrydain ymhlith pobl sydd â dementia o ganlyniad iddynt gymryd meddyginiaeth wrthseicotig a bod y tebygolrwydd o farw cyn pryd yn cynyddu os bydd pobl yn cymryd y cyffuriau hyn am fisoedd neu flynyddoedd yn hytrach nag am wythnosau. Felly, mae’n bwysig mai dim ond lle y bo’n hollol angenrheidiol y defnyddir meddyginiaeth wrthseicotig, y caiff ei hadolygu’n rheolaidd, ac mai’r dosau lleiaf posibl yn unig a roddir i’r claf.

Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym. Cawsom 18 o ymatebion ysgrifenedig a oedd yn cynrychioli ystod o sefydliadau gofal iechyd a grwpiau proffesiynol. At hynny, clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o dystion. Hoffwn ddiolch i’r holl bobl a gyfrannodd at ein hymchwiliad, ac rwy’n arbennig o ddiolchgar i’r bobl y mae defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig wedi effeithio arnynt am rannu eu profiadau â ni. Mae ein hadroddiad yn cynnwys 11 o argymhellion i Lywodraeth Cymru yn seiliedig ar y dystiolaeth a gawsom. A diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb a’i lythyr dilynol yn y dyddiau diwethaf yma a oedd yn cynnwys rhagor o fanylion am ei ymateb i rai argymhellion.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:23, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â chasglu data. Dywedwyd wrthym fod y diffyg data a chofnodion yn golygu bod anhawster mawr wrth bennu darlun cenedlaethol o nifer yr achosion a phatrymau rhagnodi meddyginiaethau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal. Rydym yn gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i wneud gwelliannau a chasglu data newydd, ond bydd yn dal i fod cyfyngiadau gyda'r data newydd a gesglir a bylchau yn ein dealltwriaeth o nifer y bobl hŷn mewn cartrefi gofal sy'n cael meddyginiaeth wrthseicotig amhriodol ar bresgripsiwn. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, o fewn 12 mis, fod pob bwrdd iechyd yn casglu a chyhoeddi data safonol ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn ar y cynnydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o 12 mis. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn unig.

Wrth basio, yn amlwg, o'r 11 o argymhellion a wnaeth y pwyllgor, cafodd chwech eu derbyn mewn egwyddor, cafodd pedwar eu derbyn, a chafodd un ei wrthod, a chafodd yr argymhelliad hwn ynglŷn â chasglu data ei dderbyn mewn egwyddor. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb, yn nodi bod cyfyngiadau sylweddol gyda data rhagnodi a gesglir fel mater o drefn, sy'n golygu, mae'n dweud,

'nad yw’n bosibl priodoli presgripsiynau’n rhwydd i breswylwyr mewn cartrefi gofal'.

Fodd bynnag, clywsom mewn tystiolaeth ei fod eisoes yn digwydd mewn rhai byrddau iechyd, sy'n arwain at y cwestiwn: os gall rhai ei wneud, pam na all pob un ei wneud? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gynnull grŵp o arbenigwyr perthnasol i edrych ar ddefnyddioldeb ffynonellau data amrywiol a chynghori ar sut y gellir defnyddio data o'r fath i leihau'r arfer o ragnodi. Ymddengys bod hyn yn awgrymu y byddant yn archwilio ffynonellau data presennol ac yn cynghori ar sut y gellir defnyddio data o'r fath i leihau'r arfer o ragnodi, ac nid yw hynny'n rhoi'r argraff y bydd argymhelliad y pwyllgor yn cael ei dderbyn o gwbl. Buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y pwynt hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y cylch gorchwyl a'r amserlen ar gyfer y grŵp arbenigol hwn.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:25, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae argymhelliad 2 yn ymwneud â chydymffurfio â chanllawiau NICE. Mae'r canllawiau NICE ar ddementia yn cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer symptomau nad ydynt yn rhai gwybyddol neu ymddygiad heriol dementia oni bai bod yr unigolyn mewn trallod difrifol neu fod risg uniongyrchol o niwed iddynt hwy neu i eraill. Fodd bynnag, dywedwyd wrthym y defnyddir meddyginiaeth wrthseicotig fel mesur diofyn mewn cartrefi gofal a rhai wardiau ysbyty pan fydd pobl â dementia yn anodd eu trin. Dywedwyd wrthym hefyd nad yw ymarfer presennol yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau NICE. Rydym yn cytuno â thystion ei bod yn hanfodol cael cydymffurfiaeth lawn â chanllawiau clinigol NICE. Felly, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn ynglŷn â chyfraddau cydymffurfio o fewn 12 mis. Felly, er ei fod yn rhannu pryderon y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer rheoli symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia pan nad yw defnydd o'r fath yn cydymffurfio â chanllawiau a gyhoeddwyd gan NICE, mae'n siomedig nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, sydd unwaith eto'n awgrymu na chaiff ei weithredu'n llawn.

Mae ein trydydd argymhelliad yn ymwneud â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dywedwyd wrthym fod meddyginiaeth wrthseicotig yn cael ei defnyddio fwyfwy fel mater o drefn mewn ymateb i ymddygiad heriol, yn lle bod staff yn gweithio i ganfod yr hyn sydd wrth wraidd yr ymddygiad hwnnw. Yn aml, bydd gan unigolyn sy'n byw gyda dementia sy'n arddangos ymddygiad heriol angen nas diwallwyd nad yw'n gallu ei gyfathrebu o bosibl, ac os gellir canfod yr angen, gellir gwella'r sefyllfa'n fawr heb feddyginiaeth wrthseicotig. Felly, mae'n bwysig edrych ar yr unigolyn cyfan i ddeall beth sy'n achosi ymddygiad penodol. Teimlai'r pwyllgor yn gryf iawn ynglŷn â'r angen i edrych ar yr unigolyn cyfan er mwyn deall beth allai fod yn achosi ymddygiad penodol, a chlywsom lawer o enghreifftiau o restrau gwirio arfer da y gellid eu defnyddio gan staff mewn cartrefi gofal i nodi achosion posibl dros ymddygiad yr unigolyn. Un adnodd o'r fath yw'r proffil adwaith niweidiol i gyffuriau—ADRe—offeryn cyfleus a chryno sy'n gofyn i nyrsys archwilio eu cleifion yn systematig am arwyddion a symptomau'n ymwneud ag effeithiau annymunol meddyginiaethau a rhannu'r wybodaeth gyda rhai sy'n rhagnodi a systemau adolygu meddyginiaethau fferyllwyr.

Felly rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pawb sydd â dementia sy'n arddangos ymddygiad heriol yn cael asesiad gofal cyfansawdd o anghenion yr unigolyn. Dylai weithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol perthnasol i ddatblygu offeryn rhestr wirio safonol fel yr un a amlinellwyd, i'w ddefnyddio gan staff iechyd a gofal cymdeithasol i nodi a thrin, neu ddiystyru achosion posibl o ymddygiad heriol, gan gynnwys anghenion corfforol neu emosiynol heb eu diwallu, a chynnwys gofyniad i ymgynghori â'r unigolyn a'u gofalwyr neu eu teulu. Dylai'r rhestr wirio fod ar gael o fewn chwe mis a rhaid iddi gofnodi'r camau a gymerwyd i ddangos bod pob opsiwn arall wedi'u hystyried cyn ystyried y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig fel y'u rhagnodir ar gyfer pobl â dementia. Unwaith eto, derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn datgan eu bod wedi dechrau rhoi sylw eisoes fel rhan o'r broses o gyflwyno fframwaith addysg a hyfforddiant 'Gwaith Da' i ddatblygu asesiad cynhwysfawr a chynlluniau gofal i gefnogi'r dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Fodd bynnag, roedd tystiolaeth i'r pwyllgor yn awgrymu bod lefel yr ymwybyddiaeth o'r fframwaith 'Gwaith Da' yn isel ac nid yw eto'n cael ei ddefnyddio gan lawer o gartrefi gofal.

Yn ei lythyr dilynol yr wythnos hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn atgyfnerthu ei gefnogaeth i'r dull bras o deilwra'r gofal y mae person â dementia yn ei gael yn ôl asesiad sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o'u hanghenion. Dywed hefyd ei fod yn credu na all y defnydd o un offeryn safonol adlewyrchu'n gywir beth yw anghenion ac amgylchiadau pob unigolyn, ac mae'n ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid ar ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o egwyddorion. Rwy'n deall pwynt Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â'i amharodrwydd i gymeradwyo un dull gweithredu neu offeryn penodol, felly buaswn yn croesawu mwy o fanylion ynglŷn â sut y mae'n bwriadu gweithio gyda rhanddeiliaid, a sut beth fydd y gwaith hwn.

Er bod chwech allan o 11 o argymhellion wedi'u derbyn mewn egwyddor, rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhelliad 7 a'i sicrwydd mai un rhan annatod o rôl yr ymgynghorydd dementia proffesiynol perthynol i iechyd fydd gwella mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal. Yn yr un modd, mae derbyniad argymhelliad 8 a chydnabod rôl allweddol therapyddion lleferydd ac iaith yn gwella canlyniadau i bobl â dementia i'w groesawu'n fawr hefyd.

Fodd bynnag, yn gyffredinol, rwy'n siomedig iawn ynglŷn ag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet. Er ei bod yn ymddangos bod y rhan fwyaf o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor, mae'r naratif cysylltiedig yn awgrymu fel arall, gyda diffyg ymrwymiad gwirioneddol ac amserlenni clir ar gyfer mynd i'r afael â'r mater fel blaenoriaeth.

Fel pwyllgor, credwn fod angen newidiadau diwylliannol a systemig sylweddol i sicrhau bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi'n briodol ac nid fel opsiwn cyntaf. Mae rhoi meddyginiaeth ddiangen i bobl agored i niwed mewn gofal yn fater hawliau dynol sylfaenol, ac mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef. Felly, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar sail y dystiolaeth a gasglwyd gennym a'r argymhellion a wnaethom i ysgogi cynnydd a sicrhau'r atebion sydd eu hangen i ddiogelu rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Diolch yn fawr.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:31, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r holl dystion a ddaeth i roi tystiolaeth i'r pwyllgor. Mae rhai o'r straeon personol a glywsom yn gwbl ddirdynnol ac wedi bod yn agoriad llygad mawr i lawer ohonom.

Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn gwbl annerbyniol fod meddyginiaeth bwerus yn cael ei defnyddio'n amhriodol neu heb ei hadolygu fel mater o drefn—meddyginiaethau sy'n llethu'r meddwl, y corff a'r ysbryd. Eto, ar y llaw arall, mae pawb ohonom yn dweud ein bod am lynu wrth egwyddorion urddas a pharch, a dyna pam y teimlwn fod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor yn hollol dorcalonnus, oherwydd credaf fod adroddiad ein pwyllgor wedi nodi'n glir y ffaith bod yna grŵp o bobl sy'n agored i niwed nad ydynt yn cael eu trin ag urddas a pharch. Mae pobl yn bwysig, mae pob unigolyn yn bwysig, a'r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas a'r mwyaf agored i niwed sydd fwyaf pwysig, gan mai eu lleisiau hwy a ymyleiddiwyd fwyaf ac a glywir leiaf yn aml, ac mae rhai o'r lleisiau distawaf mewn cartrefi gofal preswyl.

Roeddwn yn teimlo bod gwrthod argymhelliad 9 yn diystyru grŵp o bobl agored i niwed. Yma rydym yn gofyn am ddull o asesu'r cymysgedd sgiliau priodol sydd ei angen ar gyfer staff gofal cartref ac yn gofyn i chi, Lywodraeth Cymru, gynhyrchu canllawiau ar hyn i sicrhau bod yna lefelau staffio diogel a phriodol ym mhob cartref gofal. Y bore yma, yn ein pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, roeddech chi a'ch cyd-Aelod y Gweinidog gofal cymdeithasol yno'n sôn wrthym ynglŷn â sut y mae pob unigolyn yn haeddu triniaeth holistaidd, ein bod am edrych ar yr unigolyn yn naratif cyfan eu bywydau, ein bod am sicrhau eu bod yn y lle iawn, yn cael y driniaeth iawn, ar yr adeg iawn. Eto i gyd, mae'r ffaith eich bod yn gwrthod yr argymhelliad fod gan bobl mewn cartrefi gofal yr hawl honno hefyd yn peri pryder mawr i mi.

Rwy'n teimlo ei fod yn destun pryder mawr am mai un o'r rhesymau a roddwyd gennych oedd bod llu o reoliadau ar waith yn barod yn sôn am y mathau o staff a ddefnyddir a nifer y staff a ddefnyddir, felly nid ydych yn ystyried bod angen mecanwaith ychwanegol. Eto i gyd, mae gennym Arolygiaeth Gofal Cymru eu hunain yn dweud eu bod yn poeni am gartrefi gofal sydd â'r dosbarthiad cofrestru henoed eiddil eu meddwl, neu ddementia heb fod ganddynt staff sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol mewn gwirionedd. Suzy.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:33, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. A ydych yn meddwl tybed ai'r rheswm dros amharodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i ymrwymo i'r argymhelliad penodol hwn yw y byddant yn dileu nyrsio parhaol mewn cartrefi gofal preswyl ac na fydd nyrsys yno am 24 awr, fel y mae rhai ohonynt ar hyn o bryd?

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Gallai hynny fod yn ffactor. Ond gwn, er enghraifft, fel rhywun sydd â pherthnasau sydd wedi dioddef dementia, y buaswn yn arswydo pe bawn yn meddwl fy mod yn mynd i roi rhywun sy'n annwyl i mi mewn cartref gyda dosbarthiad sy'n dweud, 'Dyma gartref gofal sy'n gallu ymdrin mewn modd cyfannol a chyflawn ag unigolion sydd â dementia', a buaswn yn credu hynny, ac yn dweud, 'O gwych, mae'r un sy'n annwyl i mi mewn lle diogel'—nid yn ôl Arolygiaeth Gofal Cymru.

Aeth Gofal Cymdeithasol Cymru ymlaen i ddweud ei bod yn hanfodol fod cartrefi gofal yn cael eu staffio gan bobl sy'n meddu ar sgiliau digonol i ddarparu dull o ofalu ataliol sy'n sensitif i anghenion yr unigolyn. Rwy'n credu'n gryf na allwch ddweud, 'Mae argymhelliad 9 yn ddiangen', oherwydd mae rhai o'r cyrff gwarchod a roddwyd ar waith gennych i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn yn dweud nad ydym yn gwneud y peth iawn. Yn sicr, eich dyletswydd absoliwt chi, Lywodraeth Cymru, yw mynd i'r afael â hynny a gwneud yn siŵr fod cartrefi gofal wedi eu hasesu'n briodol yn ôl y safonau cywir fel bod pobl yn gwybod lle y dylent allu teimlo'n ddiogel i roi pobl y maent yn eu caru.

Argymhellion eraill a dderbyniwyd mewn egwyddor yn unig—mae'r rhain yn peri dryswch hefyd. Mae gennyf rai, ond rwy'n mynd i sôn am argymhelliad 2.

Mae argymhelliad 2 o adroddiad y pwyllgor yn dweud ein bod yn bryderus nad yw pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â'r canllawiau NICE sy'n cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer symptomau nad ydynt yn rhai gwybyddol ar gyfer ymddygiad heriol oherwydd dementia. Nawr, rydych yn dweud yn eich ymateb eich bod yn rhannu ein pryderon ynghylch y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig. Rydych yn dweud hefyd, ac rwy'n dyfynnu:

'Fodd bynnag, nid mater hawdd yw penderfynu a yw meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi yn unol â chanllawiau NICE.'

Wel, iawn, lleygwr wyf fi—pam nad yw'n fater hawdd? Proffesiwn yw hwn. Mae'n llawn o weithwyr proffesiynol. Rhaid iddynt ufuddhau i'r rheolau. Pam na allwn sicrhau bod unigolyn agored i niwed nad oes ganddo lais, nad yw'n cael ei glywed, rhywun sy'n cael ei gau mewn cartref gofal, heb eiriolwr, rhywun nad oes ganddo aelod o'r teulu i hyrwyddo ei achos, rhywun na fydd yn gallu dweud, 'A wyf i'n cael y pethau iawn?', sydd wedi colli'r llais hwnnw, neu rywun y mae ei lais mor wan fel nad ydym yn ei glywed—? Pam, o pam, nad yw'n bosibl i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd wybod a yw'r holl bobl hynny'n cael eu trin yn briodol yn ôl y canllawiau NICE a luniwyd gan yr holl arbenigwyr?

Ceir argymhellion eraill—rwy'n sylweddoli bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd—ond rwy'n poeni'n fawr, oherwydd rwy'n credu bod 'derbyn mewn egwyddor' yn golygu, 'Ni feddyliwyd amdano yma, nid ydym yn barod iawn i'w wneud, ond fe dwyllwn ni chi ychydig bach a dweud, "Iawn, fe edrychwn arno".' Ni allwn beidio ag edrych arno. Mae hwn yn adroddiad da iawn, ac mae'r bobl hyn yn haeddu peidio â chael meddyginiaeth amhriodol pan nad oes ei hangen arnynt.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:37, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

I mi, mae hwn yn fater sy'n ymwneud yn llwyr â hawliau dynol. Dywedir weithiau mai'r hyn sy'n dynodi cymdeithas wâr yw sut rydym yn trin ein dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac i mi, mae hynny'n mynd at wraidd y mater hwn.

Fel y dywedodd y Cadeirydd, un cyffur gwrthseicotig yn unig, risperidone, a drwyddedwyd i drin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia, ac eto gwyddom fod meddyginiaethau gwrthseicotig eraill yn cael eu rhagnodi'n eang i'r rheini sy'n byw gyda dementia, a bod sgil-effeithiau peryglus i'r meddyginiaethau gwrthseicotig hyn, risg o godymau a'r risg o farwolaeth gynnar. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch yr arfer hwn gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar sawl achlysur, ac mewn adroddiadau eraill i Lywodraeth Cymru. Tynnir sylw at yr union fater hwn yn adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor iechyd yn y pedwerydd Cynulliad.

Felly, y cwestiwn i mi heddiw yw a yw ymateb Llywodraeth Cymru yn darparu'r sicrwydd y mae'r pwyllgor yn chwilio amdano: ein bod yn mynd i weld gweithredu cyfunol i atal rhagnodi meddyginiaeth gwrthseicotig yn amhriodol. A rhaid imi ddweud, yn anffodus, nad yw'n gwneud hynny i mi. Pam fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn yr alwad y dylai'r holl fyrddau iechyd gasglu a chyhoeddi data safonol ar y defnydd o'r feddyginiaeth hon mewn cartrefi gofal mewn egwyddor yn unig? Clywodd y pwyllgor dystiolaeth fod rhai byrddau iechyd eisoes yn gwneud hyn. Pam nad oes modd i bob un ohonynt wneud hynny? Pam fod Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn mewn egwyddor yn unig yr alwad i sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia? Y cwestiwn y dylem ei ofyn heddiw yw: pam nad ydynt yn gwneud hynny'n barod?

Nawr, mae'n gas gennyf yr ymadrodd 'ymddygiad heriol' i ddisgrifio ymddygiad y bydd pobl sy'n byw gyda dementia yn ei arddangos, yn amlach na pheidio, pan na fydd eu hanghenion yn cael eu diwallu—pan fyddant mewn poen, pan fyddant angen y toiled, pan fyddant yn unig neu wedi diflasu. Yn amlach na pheidio, yr anghenion nas diwallwyd hynny sy'n arwain at ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol. Dyna pam fod nifer o argymhellion y pwyllgor yn canolbwyntio ar yr angen i sicrhau bod gofal safonol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddarparu gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n dda.

Nawr, fel y nodwyd, gwrthodwyd argymhelliad 9, a gynlluniwyd i sicrhau bod gennym y nifer gywir o staff gyda'r cymysgedd priodol o sgiliau mewn cartrefi gofal. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi eglurhad pellach ar y rhesymau y tu ôl i hynny, ond hoffwn gael sicrwydd pellach ganddo heddiw fod y mesurau y cyfeiriodd atynt, y rheoliadau sy'n mynd drwodd, ond hefyd y Ddeddf lefelau staff nyrsio, nad yw'n berthnasol i gartrefi gofal—sut y mae honno'n mynd i wella'r sefyllfa ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal.

Mae argymhelliad 10 yn galw am ddatblygu safonau cenedlaethol i sicrhau bod yr holl staff sy'n gweithio gyda phobl â dementia yn cael hyfforddiant ar gyfer rheoli ymddygiad heriol. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Unwaith eto, rydym wedi gwybod ers blynyddoedd fod hon yn broblem. Roedd yn adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, 'Lle i'w Alw'n Gartref?' Ni ddylai fod y tu hwnt i'n gallu i sicrhau bod gan bawb sy'n gweithio gyda'n dinasyddion agored i niwed sydd â dementia y lefel sylfaenol honno o hyfforddiant dementia, ac mae gennym fodel ardderchog ar ei gyfer yn ein hyfforddiant Cyfeillion Dementia. Hefyd mae'n hanfodol cofio bod yna arferion da iawn i'w cael fel y gwelir gyda phethau fel gwaith pontio'r cenedlaethau. Gwahoddais Ysgol Gynradd Griffithstown i ymweld â'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia y diwrnod o'r blaen, ac roeddent yn siarad yn frwdfrydig iawn am y gwaith y maent yn ei wneud gyda phobl sy'n byw gyda dementia, sy'n sicrhau manteision mawr i'r bobl hynny ac mae wedi bod yn drawsnewidiol i'r plant a'r bobl ifanc hynny hefyd.

Roeddwn am orffen drwy sôn am yr argymhelliad olaf, sy'n ymwneud â'r angen i wneud gwaith pellach i edrych ar raddau rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig i bobl ar wardiau iechyd meddwl pobl hŷn yng Nghymru. Mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen. Dyma rai o'n dinasyddion mwyaf di-lais yng Nghymru, a chredaf fod gennym ddyletswydd arbennig i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu cynnal. Derbyniwyd yr argymhelliad penodol hwnnw mewn egwyddor, ond mae'n swnio, o ddarllen y naratif, fel pe bai'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i edrych arno o ddifrif, ond buaswn yn erfyn arno i wneud hynny ar fyrder yn awr.

Mae'n hanfodol hefyd ei fod yn bwrw iddi ar fyrder i wneud y gwaith ar ymestyn y ddeddfwriaeth lefelau staff nyrsio i gynnwys wardiau ysbytai ar gyfer pobl â dementia oherwydd maent angen y gofal hwnnw sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gennym ddyletswydd, bob un ohonom, i wrando ar leisiau'r bobl sy'n byw gyda dementia er mwyn sicrhau bod y lleisiau hynny'n cael eu clywed ac i gynnal eu hawliau.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:42, 11 Gorffennaf 2018

Rydw i'n meddwl y gallaf i siarad ar ran pob un ohonom ni sy'n Aelod o'r Cynulliad yma drwy ddweud ein bod ni'n dysgu llawer yn aml iawn wrth ymwneud â gwahanol ymgynghoriadau, ac mi wnaf i ddechrau fy nghyfraniad i efo cyfaddefiad: nid oeddwn i wedi sylweddoli cymaint oedd graddfa y mater yma oedd dan sylw. Nid oeddwn i wedi sylweddoli maint y broblem. Ond unwaith i ni ddechrau cymryd tystiolaeth fel pwyllgor, mi ddaeth hi'n amlwg iawn i fi a fy nghyd-Aelodau fod y dystiolaeth yr oeddem ni'n ei chlywed ac yn ei darllen yn bwerus ac yn ddirdynnol, ac mi oedd hi fel gwylio sgandal yn ymddangos o flaen fy llygaid—neu fel yna roeddwn i'n teimlo—gyda thyst ar ôl tyst yn adrodd wrthym ni stori a oedd yn gyson iawn ac yn ddirdynnol tu hwnt.

Nid ydw i'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn ein cartrefi gofal ni ag ysbytai yn digwydd oherwydd esgeulustod neu falais yn gyffredinol, ond mi ydw i'n grediniol, ar ôl ein gwaith ymchwil ni, mai camdriniaeth ydy'r hyn sydd yn digwydd. Dyna ydy'r canlyniad, a'r hyn sy'n digwydd ydy ein bod ni wedi caniatáu i'r defnydd o feddyginiaethau diangen, sydd gyfystyr i fi â cham-drin difrifol, ddod yn rhywbeth normal, ac mae'n rhaid rhoi pen ar hynny. Y gwir amdani ydy bod rhoi meddygaeth ddiangen i bobl fregus yn fater difrifol, ac fel rydym ni fel pwyllgor yn ei ddweud yn glir iawn yn yr adroddiad yma, mi oedd hi'n bryderus iawn clywed pa mor aml roedd hyn yn cael ei ddewis fel opsiwn cyntaf, nid fel dewis olaf. A dyna pam—oherwydd y difrifoldeb yma—rydym ni'n ystyried hyn. Dyna pam rydym ni wedi gwneud argymhellion ar wneud yn siŵr bod yna gydymffurfiaeth â chanllawiau NICE, bod angen datblygu rhestr wirio i staff gofal, bod angen rhoi sgiliau angenrheidiol i’r staff gofal i ymdrin ag ymddygiad heriol, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Rydw i mor siomedig yn ymateb y Llywodraeth. Er mai dim ond un argymhelliad maen nhw wedi’i wrthod, o edrych ar y rhai maen nhw yn eu derbyn mewn egwyddor, waeth iddyn nhw fod wedi eu gwrthod nhw ddim. Yn ymarferol, mae ymateb y Llywodraeth yn golygu eu bod nhw am drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros weithredu i bobl eraill. Er enghraifft, yn argymhelliad 2, mae’r Llywodraeth yn dweud mai gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am gydymffurfio efo canllawiau NICE. Mewn argymhellion eraill, mae’r Llywodraeth jest yn dweud y byddan nhw’n gofyn i randdeiliaid neu grwpiau cynghori i ystyried yr adroddiad yma wrth gynnal adolygiadau a diweddaru canllawiau. Mae fel pe baen nhw’n credu nad oes yna rôl i’r Llywodraeth rhywsut wrth gyhoeddi canllawiau a darparu arweinyddiaeth yn y maes yma.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Ar eich pwynt ynglŷn â gwadu cyfrifoldeb, wrth ddweud efallai mai'r byrddau iechyd a ddylai fod yn gyfrifol am weithredu canllawiau NICE, a gredwch fod angen inni roi mwy o rym i sefydliad fel Arolygiaeth Gofal Cymru ar ran y Llywodraeth, neu ar ein rhan ninnau, fel y gallant wneud yn siŵr fod y rheini sy'n torri'r canllawiau hynny'n cael eu cosbi'n briodol?

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:46, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod hwnnw'n awgrym cwbl ddilys. Y casgliadau y daethom iddynt oedd bod angen amrywiaeth eang o gyrff â dannedd, a chyrff sy'n cael eu grymuso i helpu i roi diwedd ar y cam-drin systematig hwn, sef yr hyn ydyw bellach.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

Os edrychwn ni ar argymhelliad 9, yr un sy’n cael ei wrthod, mae rhesymeg y Llywodraeth yn ddryslyd iawn, rwy’n meddwl. Mae hwnnw’n argymell bod  Llywodraeth Cymru’n datblygu dull ar gyfer asesu'r cyfuniad priodol o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer staff y cartrefi gofal, a llunio canllawiau ar hyn i sicrhau bod lefelau staffio diogel a phriodol ym mhob cartref gofal. Mae’r Llywodraeth yn gwrthod hyn drwy ddadlau nad oes angen mecanwaith ychwanegol arnyn nhw am fod rheoliadau yn eu lle yn barod sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddarparwyr cartrefi gofal ddangos sut maen nhw wedi dod i benderfyniad ynglŷn â’r math o staff sydd eu hangen arnyn nhw. Ond mae’n eithaf clir nad ydy’r rheoliadau yna’n cyflawni yr hyn mae yr argymhelliad yma yn ein hadroddiad ni yn gofyn amdano fo. Rŷm ni’n gofyn i’r Llywodraeth ddweud wrth gartrefi gofal beth ddylen nhw fod yn ei wneud a rhoi'r canllawiau mewn lle i helpu’r cartrefi gofal hynny. Yr un peth ddaeth yn amlwg i fi oedd gymaint o rôl sydd gan fferyllwyr i’w chwarae, ac maen nhw eisiau chwarae rhan llawer mwy blaengar mewn datrys y sefyllfa hon. Mae eisiau eu grymuso nhw, a dyna’r math o weithredu rhagweithiol rŷm ni angen ei weld gan y Llywodraeth. Felly, ydw, rwy’n siomedig yn y Llywodraeth yma.

Mi wnaf gloi drwy atsain geiriau Cadeirydd y pwyllgor, Dr Dai Lloyd, a geiriau sydd wedi cael eu dweud gan eraill. Rŷm ni’n sôn am dramgwyddo hawliau dynol yn fan hyn. Rwy’n gwbl grediniol o hynny. Nid yw bod eisiau mynd i’r afael â’r math yna o dramgwyddo hawliau dynol yn rhywbeth y gallwch chi ei dderbyn mewn egwyddor. Mi ddylai pob un ohonom ni fod yn benderfynol o wneud popeth sydd ei angen er mwyn edrych ar ôl rhai o’r bobl fwyaf bregus sydd gennym ni.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:48, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor, staff Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a'r tystion amrywiol sydd wedi ein helpu i gynnal yr ymchwiliad hwn. Roedd adroddiadau'r tystion yn aml yn ddirdynnol ac yn anodd gwrando arnynt.

Mae dementia yn fater iechyd cyhoeddus pwysig yng Nghymru; credir ei fod yn effeithio ar oddeutu 42,000 o bobl yng Nghymru ac mae i'w weld yn fwyaf cyffredin ymysg pobl hŷn. Mae dementia yn effeithio ar un ym mhob 20 o bobl dros 65 oed, ac oddeutu un o bob pump o bobl dros 80 oed. Yn fyd-eang, rhagwelir y bydd niferoedd y bobl sy'n byw gyda dementia yn codi 204 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, dros y tri degawd nesaf. Yn anffodus, dementia yw'r unig gyflwr yn y 10 achos marwolaeth uchaf na cheir triniaeth i atal, gwella neu arafu ei gynnydd. Felly mae'n rhaid inni reoli'r symptomau cystal ag y gallwn, a thrwy sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl sy'n deall dementia, gallwn wneud yn siŵr fod pobl â dementia yn byw'n annibynnol cyhyd ag sy'n bosibl mewn amgylchedd cefnogol. Mae pobl â dementia yn agored i niwed ac mae'n bwysig fod staff wedi'u hyfforddi'n gywir yn rhoi'r gofal gorau posibl i unigolyn â dementia er mwyn diwallu'r anghenion penodol hyn, a bod yr urddas a'r parch hwnnw'n weladwy ac yn cael ei gynnal bob amser wrth helpu'r bobl hyn, sydd heb lais yn aml.

Wrth i'r clefyd ddatblygu, bydd angen mwy a mwy o ofal arbenigol ar y rheini sy'n byw gyda dementia, ac wrth i nifer yr achosion o'r clefyd gynyddu, rydym yn dibynnu mwy a mwy ar gartrefi gofal i ofalu am y rhai sy'n byw gyda'r clefyd hwn, a dyna pam y mae'n peri pryder fod cynnydd wedi bod yn y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal er mwyn trin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia. Nid yw'r cyffuriau hyn wedi'u trwyddedu ar gyfer defnydd o'r fath a chredir bod eu defnydd yn cyfrannu at farwolaethau cynnar bron i 2,000 o gleifion dementia bob blwyddyn. Mae hwn yn ystadegyn syfrdanol. Daeth yn amlwg, yn ystod ein hymchwiliad, fod y cyffuriau hyn yn cael eu rhoi fel mater o drefn mewn ymateb i ymddygiad heriol rhai cleifion sydd â dementia, er bod yr ymddygiad heriol yn ganlyniad i angen heb ei ddiwallu nad yw'r unigolyn â dementia yn gallu ei fynegi. Roedd hi hefyd yn amlwg fod diffyg mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gwaethygu'r sefyllfa.

Yn ystod ein sesiynau gyda thystion, daeth yn amlwg fod casglu'r dystiolaeth ar y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig yn anodd, gan nad oedd y data wedi'i chasglu nac ar gael yn rhwydd oherwydd hynny. Galwodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chyfadran Seiciatreg yr Henoed am archwiliadau i gasglu data ar arferion rhagnodi, y dywedant eu bod yn hanfodol i ddeall nifer yr achosion a phatrymau defnydd o'r cyffuriau hyn. Rwy'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau'r arfer o ragnodi'r cyffuriau hyn yn amhriodol. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, hoffwn gael sicrwydd na fydd cynnull y grŵp perthnasol o arbenigwyr i edrych ar yr argymhelliad hwn a'r argymhellion cysylltiedig yn cymryd gormod o amser, ac na fyddwn yn edrych ar rai blynyddoedd eto cyn y gweithredir yr argymhellion hyn.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu ein barn fod y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer rheoli symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia yn annerbyniol. Rwy'n ddiolchgar ei fod wedi derbyn rhai o'n hargymhellion, ond rwy'n ei annog i sicrhau y cânt eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd. Pobl â dementia yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a dylent gael eu diogelu rhag niwed, nid eu rhoi mewn perygl er mwyn gwneud gwaith rhywun yn haws. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y camddefnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer cleifion sydd â dementia yn cael ei ddileu, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd cyflym ar ein hargymhellion.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:53, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am fy ngalw i siarad am yr adroddiad pwysig iawn hwn. Rwy'n aelod o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a chredaf mai dyma un o'r adroddiadau pwysicaf a gynhyrchwyd gennym.

Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon rwy'n siŵr, ddydd Sadwrn dathlais ben-blwydd y GIG yn 70 oed yn fy etholaeth gyda stondin a cherdyn pen-blwydd i'r y GIG yn yr Eglwys Newydd yng Ngogledd Caerdydd. Roedd yn brofiad gwych, oherwydd roedd pobl yn ciwio i'w lofnodi, roeddent mor frwdfrydig ynglŷn â'r GIG, roedd pobl yn dweud wrthyf fod eu bywydau wedi'u hachub ar dri achlysur a siaradodd pobl eraill am weithio yn y GIG ers 40 mlynedd, ac roedd yn fore calonogol iawn mewn gwirionedd. Roedd cymaint o straeon am ofal gwych, ond drwy'r holl amser hwnnw yn ystod y bore, ni chlywsom unrhyw hanesion am bobl oedrannus mewn cartrefi gofal, neu bobl hŷn yn cael gofal gan y GIG, a chredaf mai dyna un o'r pwyntiau allweddol—na all y bobl hynny ddweud eu straeon wrthym, a dyna pam y mae'r adroddiad hwn mor bwysig. Mae angen inni siarad ar eu rhan gan na allant siarad drostynt eu hunain. Mae angen inni glywed lleisiau cleifion ac mae angen inni ganfod beth yw anghenion gofal y bobl sydd yn ein gofal.

Credaf fod Lynne, pan oedd hi'n siarad, wedi crybwyll 'ymddygiad heriol' fel ffordd o ddisgrifio'r ffordd y mae pobl yn ymddwyn, ac unwaith eto, rwy'n teimlo'n amharod i ddefnyddio siarad o'r fath. Ond y peth pwysig yw darganfod beth yw gwir anghenion pobl, y dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a pheidio â rhagnodi meddyginiaeth sy'n gwneud dim ond eu tawelu i bob pwrpas. Clywsom rai ymholiadau a oedd yn peri pryder a'r un sy'n aros yn fy meddwl yw'r dyn yn y cartref gofal a oedd yn gyson yn taro ei ben yn erbyn drws gwydr. Yn hytrach na gofyn am bresgripsiwn ar gyfer cyffuriau gwrthseicotig, darganfu gofalwr ei fod yn taro ei ben ar y drws oherwydd ei fod yn gallu gweld drws tŷ gwydr y dymunai fynd allan iddo, oherwydd ei fod wedi bod yn arddwr, a garddio oedd ei hobi wedi bod ar hyd ei oes. Teimlai y byddai'r lle hwnnw'n hafan ddiogel. Dyna enghraifft sy'n aros gyda mi o ran sut y mae'n rhaid inni edrych ar yr unigolyn ac nid cymryd yr hyn a allai fod yn ddim ond ateb hawdd.

Roeddwn am siarad ychydig am yr argymhellion gan y pwyllgor ac ymateb y Llywodraeth. Roeddwn yn mynd i ddechrau gydag argymhelliad 3, i atgyfnerthu'r hyn a ddywedodd y Cadeirydd yn ei gyflwyniad mewn gwirionedd, oherwydd fe wnaethom argymell y dylid datblygu offeryn rhestr wirio safonol i'w ddefnyddio gan staff iechyd a gofal cymdeithasol i nodi achos ymddygiad heriol.

Mae cryn dipyn wedi'i ddweud eisoes am yr ymadrodd 'derbyn mewn egwyddor' a sut y mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y gallwn symud oddi wrtho, ond gwn fod y Llywodraeth yn dweud yn ei hymateb,

'nid ydym yn ystyried bod datblygu un rhestr wirio safonol yn briodol.'

Ni allaf ddeall y rheswm dros beidio â datblygu offeryn safonol, oherwydd derbyniwyd argymhelliad 6, lle mae'n dweud

'Dylai monitro meddyginiaethau fod yn rhan allweddol o arolygu cartrefi gofal, a bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn mandadu tystiolaeth wedi’i dogfennu'.

Felly, ni allaf weld pam na allwch gael offeryn safonol i'w ddefnyddio ar gyfer pob cartref gofal, pob lleoliad lle mae'r unigolyn wedi bod. Byddai'n rhoi offeryn i staff allu gwirio pob posibilrwydd a gwneud yn siŵr nad oeddent yn rhagnodi rhywbeth pan oedd rheswm arall dros yr ymddygiad, megis y ddannodd, neu broblemau gyda'u golwg—wyddoch chi, llawer o bethau sy'n peri gofid.

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y dystiolaeth a gawsom gan yr Athro Sue Jordan o goleg gwyddorau dynol ac iechyd Prifysgol Abertawe, sydd wedi datblygu'r offeryn proffil adwaith niweidiol i gyffuriau a gafodd ei brofi ac y dangoswyd ei fod yn lleihau'n sylweddol y meddyginiaethau gwrthseicotig a ddefnyddir. Cynhaliwyd adolygiad gan gymheiriaid ar yr offeryn ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn. Rwy'n meddwl nad oes unrhyw bwynt mewn ailddyfeisio'r olwyn; gwyddom fod yna becynnau cymorth wedi'u datblygu, megis yr un gan yr Athro Sue Jordan, a chredaf y byddai'n gwneud synnwyr perffaith i ddatblygu'r pecyn cymorth hwn i'w ddefnyddio fel mater o drefn ym mhob cartref gofal, ym mhob lleoliad lle mae unigolyn hŷn yn cael gofal. Felly, mae'n fater o drefn, mae'r gwaith wedi'i wneud, gwyddom am waith yr Athro Sue Jordan a gwaith arall a gyflwynwyd i ni, ac rwy'n meddwl y byddai honno'n ffordd amlwg ymlaen i Lywodraeth Cymru.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:59, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond a gaf fi ddiolch yn fawr iawn iddynt am yr adroddiad hwn? Un o'r pethau rwy'n eu hoffi amdano yw ei fod yn bendant yn cyfleu ymdeimlad o frys, o leiaf o ran gwneud penderfyniadau gwleidyddol, er mwyn sicrhau ymateb cyflym a chymharol syml i broblem na ddylai fod gennym. Rhaid imi ddweud fy mod yn credu ei fod yn dadlennu ystod gyfan o hepgoriadau eraill y credaf eu bod yn eithaf brawychus a dweud y gwir.

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddweud o brofiad teuluol y gall y defnydd cywir o gyffuriau gwrthseicotig fod yn ddefnyddiol iawn? Pan arweiniodd rhithdyb fy mam-gu, o ganlyniad i ddementia a waethygodd yn gyflym, at achosi iddi fygwth fy nhad-cu a oedd yr un mor oedrannus â hi â chyllell cegin, gallai pawb ohonoch weld pam y gallai fod angen ymateb cyflym fel mesur brys. Er hynny, ac rwy'n cyfaddef nad wyf yn siŵr sut y mae rhai o'r meddyginiaethau hyn yn gweithio, pam nad yw'r adroddiad hyd yn oed yn gryfach ar y cyfnodau ar gyfer adolygu defnydd—. Oherwydd i mi, mae tri mis i'w weld yn amser hir iawn i rywun fod ar y math hwn o gyffur o gwbl os ydynt wedi'u rhagnodi i ymdrin ag episod o seicosis acíwt yn hytrach na phatrwm cronig sy'n gwaethygu. Gydag unigolyn sy'n arddangos patrwm cyson o ymddygiad, mae gan yr unigolyn hwnnw eisoes hawl i asesiad llawn o'i anghenion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, fel eu gofalwr yn wir, os ydym yn sôn am ofal yn y cartref.

Mewn perthynas ag argymhelliad 3, hoffwn wybod pam ein bod yn rhoi chwe mis i unrhyw un lunio rhestr wirio. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn bedair blwydd oed—pedair blynedd pan ellid bod wedi llunio rhestr gan bawb fwy neu lai, gan ganiatáu ar gyfer gwahaniaethau rhwng unigolion gyda chyflyrau penodol, ac a wyddoch chi, Weinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n ddrwg gennyf—rwyf wedi diflasu ar ddarllen ymatebion sy'n dweud, 'Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid.' Rydych wedi cael pedair blynedd ers i Ddeddf y gwasanaethau cymdeithasol ddod i rym. Pam nad yw hyn ar waith eisoes?

Yn yr un modd, mewn perthynas ag argymhelliad 5, a wyf fi o ddifrif yn darllen nad yw Arolygiaeth Gofal Cymru—neu Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, fel yr arferai fod, a bod yn deg—wedi bod yn herio'r gwaith o fonitro meddyginiaeth unigolion yn fwy cadarn fel rhan o edrych ar gydymffurfiaeth cartrefi gofal â chynlluniau gofal? Nid wyf yn disgwyl iddynt wneud penderfyniadau meddygol, ond buaswn yn disgwyl iddynt ymholi ynghylch cyfnodau hir heb unrhyw newid yn y feddyginiaeth, neu gynnydd neu ostyngiad sydyn yn y feddyginiaeth, yn enwedig os yw'r cynnydd yn cynnwys cyffuriau gwrthseicotig neu gyffuriau eraill sy'n peri pryder, ac yn enwedig pan fyddwch yn gwybod bod y cyffuriau hyn yn cael eu rhagnodi ar gyfer cyflyrau ar wahân i'r rhai y cafodd ei gymeradwyo ar eu cyfer yn swyddogol. Hynny yw, a oedd yn glir yn y dystiolaeth a gawsoch—o ddifrif, nid wyf yn gwybod—pam nad yw NICE wedi cymeradwyo'r cyffuriau hyn ar gyfer y pethau y cânt eu defnyddio ar eu cyfer yn aml bellach? Gwelais yr hyn a ddywedoch chi am y canlyniadau hirdymor yn fwy na'r manteision mewn rhai achosion, ond mae'r adroddiad yn sôn dro ar ôl tro am ddefnydd amhriodol heb egluro dim beth y mae 'amhriodol' yn ei olygu. Nid yw'n ymddangos i mi, o'r adroddiad, fod rhagnodi ar gyfer pethau na chawsant eu cymeradwyo i'w trin ynddo'i hun yn amhriodol, felly beth sy'n amhriodol?

Rwy'n deall mai beth sydd ei angen arnoch i ateb hyn yw data dibynadwy, ac felly rwy'n falch o weld argymhelliad 1. Ond a gaf fi awgrymu, fodd bynnag, fod yna gasglu data ansoddol cyflenwol o gartrefi gofal yn digwydd yn ogystal â chasglu data meintiol gan fyrddau iechyd, gan fod cartrefi gofal yn gweld effaith ddyddiol defnydd parhaus o'r cyffuriau hyn ar drigolion dros gyfnod o amser? Gallai'r dystiolaeth ansoddol gynnwys nid yn unig a yw'r ymddygiad heriol i'w weld wedi gwella neu beidio, ond pa elfennau eraill o gymeriad, diddordebau a galluoedd yr unigolyn sydd wedi newid o ganlyniad i'r defnydd hwnnw.

Nawr, peth arall sy'n fy syfrdanu yw argymhelliad 10. A yw'n iawn, o ystyried nad yw dementia yn ffenomen newydd o bell ffordd, nad yw canllawiau NICE ar gyfer hyfforddi staff cartrefi gofal i ymdrin â phreswylwyr heriol eisoes wedi eu prif-ffrydio mewn hyfforddiant ymsefydlu ar gyfer gweithwyr newydd cartrefi gofal? Nawr, rwy'n sylweddoli, wrth gwrs, fod yna broblemau gyda recriwtio a chadw staff mewn gwaith gofal lefel mynediad. Efallai fod eu teimlad o fod yn agored i niwed oherwydd hyfforddiant annigonol yn rhan o'r rheswm pam y maent yn gadael. Ac mae'n iawn i Ofal Cymdeithasol Cymru ystyried datblygiad proffesiynol a llwybrau gyrfa, ond sut y gallodd AGGCC yn y gorffennol roi sêl bendith i gartrefi os nad yw eu staff wedi eu hyfforddi yn yr elfen hanfodol hon o ofal dementia?

Trafodais annigonolrwydd cyffredinol meini prawf a phrosesau adrodd AGGCC  gyda Gwenda Thomas ymhell yn ôl yn ystod y Cynulliad diwethaf. Heddiw mae Lynne Neagle wedi sôn am adroddiad etifeddiaeth o'r Cynulliad diwethaf. Faint o strategaethau dementia fydd eu hangen arnom? Pam y mae hon yn dal i fod yn broblem? Oherwydd, hyd yn oed gyda'r hyfforddiant dementia sylfaenol a gefais i, gallaf ddeall y gall dryswch posibl, ac anawsterau cyfathrebu yn sicr, fod yn eithriadol o rhwystredig i unrhyw un. Os na allwch egluro anghysur arteithiol—a'r rhithweledigaethau—yn sgil heintiau'r llwybr wrinol twymynol neu eich gofid o golli urddas fel sy'n anochel pan fydd yn rhaid i rywun arall eich helpu gyda gofal personol, rydych chi'n mynd i fod yn heriol. Felly, mae derbyn yr argymhellion hyn a'u gweithredu yn hawdd i Lywodraeth Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Cawsoch eich llabyddio yr wythnos diwethaf, fel gweddill Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', a chredaf eich bod yn gwneud yr un camgymeriad gyda hwn, gyda'ch ymatebion. Rwy'n dweud wrth reolwyr cartrefi gofal: peidiwch ag aros i Lywodraeth Cymru weithredu, rhowch hyfforddiant i'ch staff yn awr. A feddygon teulu, peidiwch ag aros am ddata: gofynnwch fwy o gwestiynau pan fydd perchnogion cartrefi gofal yn gwasgu arnoch i ragnodi. Diogelwch yn gyntaf, wrth gwrs, ond peidiwch â gadael i garedigrwydd a dealltwriaeth ddod yn ail gwael yn y sefyllfa erchyll hon.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:04, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:05, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am y gwaith y maent wedi'i wneud yn cynhyrchu'r adroddiad hwn ar feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Rwy'n cydnabod cywair y ddadl a'r siom a fynegodd rhai o'r Aelodau, ond rwy'n credu mewn gwirionedd fod cryn dipyn o gytundeb ar flaenoriaeth y camau gweithredu y mae angen eu rhoi ar waith ar hyn. Mewn gwirionedd, nid ymgais faleisus i geisio osgoi argymhellion neu i egluro pam na fydd unrhyw beth yn digwydd yw 'derbyn mewn egwyddor'. Mae'n ymwneud â rhai o'r manylion a sut rydym am weithio drwy hynny. Nid ydym yn cytuno ar yr yr union eiriad, ond mewn gwirionedd rydym yn derbyn ac yn deall y cyfeiriad teithio y mae'r pwyllgor am fynd iddo yn yr argymhellion. Mae gennyf fwy i'w ddweud wrth gloi ynglŷn â sut rwyf am fwrw ymlaen â'r gwaith hwnnw mewn gwirionedd a darparu mwy o wybodaeth i'r pwyllgor ynglŷn â'r hyn rydym yn ei wneud, ond nid wyf yn meddwl bod hynny'n mynd i fod yn bosibl yn yr amser sydd ar gael yn y ddadl heddiw.

Ond roedd canfyddiadau'r pwyllgor yn darparu cadarnhad ychwanegol fod angen i'n ffocws fod ar ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a sut y defnyddiwn ymatebion nad ydynt yn rhai ffarmacolegol cyn ystyried ymateb ffarmacolegol. Ac mae'n rhaid bod hynny'n briodol—rhagnodi priodol ym mhob achos. Ceir ffocws clir ar hynny yn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia a lansiwyd gennyf ym mis Chwefror—unwaith eto, cynllun a luniwyd ac a gyflawnwyd gan weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia eu hunain, eu gofalwyr, yn ogystal â darparwyr. Felly, mae wedi cael cefnogaeth gan bobl ar draws y gymuned ddementia mewn perthynas â'r hyn sy'n bwysig iddynt hwy.

Mae'r Llywodraeth wedi cytuno, neu wedi cytuno mewn egwyddor, i dderbyn 10 o'r 11 o argymhellion, ac mae'n ymwneud â sut y datblygwn y rheini. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod y pwyllgor yn deall bod yna gamau rydym eisoes yn eu cymryd i wella argaeledd data, sy'n bwynt allweddol a gododd mewn nifer o gyfraniadau, mewn perthynas â rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig ymhlith pobl hŷn. Rydym yn cydnabod yn onest yn ein hymateb fod cyfyngiadau ar hyn o bryd yn ein dull o gasglu data, yn enwedig o ran sut y gallwch briodoli presgripsiynau i breswylwyr mewn cartrefi gofal. Mae'r posibilrwydd o or-ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn peri pryder, ni waeth a yw'n unigolyn sy'n preswylio mewn cartref gofal, oherwydd, yn wir, byddai lleihau cyfraddau rhagnodi ymysg pobl hŷn yn gyffredinol yn cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o'r meddyginiaethau hyn ymhlith preswylwyr cartrefi gofal hefyd. Hoffwn ailadrodd y pwynt y byddwn o ddifrif ynglŷn â'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud. Felly, mewn perthynas ag argymhelliad 1, y grŵp arbenigol y dywedais y byddwn yn ei sefydlu, rwy'n disgwyl iddo gyflwyno adroddiad yn rhoi cyngor i mi cyn diwedd y flwyddyn galendr—felly, nid yw'n cael ei wthio ddwy neu dair blynedd yn ei flaen er mwyn ceisio osgoi ymdrin â'r mater, ond o fewn y flwyddyn galendr hon, i gael cyngor ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y camau y disgwyliwn eu cymryd o ganlyniad i hynny.

Mae nifer o'r argymhellion a wnaeth y pwyllgor yn ymwneud ag argaeledd ac adrodd ar ddata rhagnodi. Wrth gwrs, mae rhagor i'w wneud, ac felly rydym wedi derbyn ystod o'r argymhellion hynny. Rwyf wedi ystyried argymhelliad 11 eto wrth gwrs, ac rwyf wedi newid yr ymateb i 'derbyn' yn hytrach na 'derbyn mewn egwyddor'. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion gynnull grŵp o'r arbenigwyr perthnasol hynny i edrych ar ddefnyddioldeb ffynonellau data amrywiol. Mae rhywbeth yno am—. Diben hynny yw ein helpu i leihau'r arfer o ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol.

Mae'r pwyllgor hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd sicrhau y cynhelir asesiadau cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn galluogi i ofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gael ei ddarparu yn gyffredinol. Mae hynny, wrth gwrs, yn ffocws allweddol yn y cynllun gweithredu ar gyfer dementia—nid dim ond cynllun, ond cynllun a gefnogir gan £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol o'r flwyddyn hon i helpu ei gyflawni. Mae llawer o bwyntiau gweithredu'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia yn gyson ag argymhellion y pwyllgor, ac ni ddylai hynny fod yn syndod—er enghraifft, y cyfeiriad at yr angen i alluogi pobl sy'n gweithio gyda'r rhai sy'n byw gyda dementia i feddu ar sgiliau i deimlo'n hyderus ac yn gymwys i ofalu am, a chefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.

Felly, yn ein hymateb, rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i gyflwyno 'Gwaith da: Fframwaith dysgu a datblygu dementia i Gymru' mewn cartrefi gofal. Mae'r fframwaith hwnnw'n darparu canllawiau ar hyfforddiant ac egwyddorion ymddygiad heriol, ac rwy'n cydnabod y disgrifiad a roddodd Lynne Neagle. Mae'n ymwneud â deall beth sy'n sail i'r ymddygiad hwnnw yn hytrach na dweud yn syml fod angen i chi ymdrin ag ef yn y ffordd rydym yn cydnabod y caiff ei drin yn llawer rhy gyffredin, sef drwy ragnodi meddyginiaeth yn amhriodol. Felly, nid oes unrhyw anghytundeb ynghylch hynny. Mae'n ymwneud â deall y gofid ymddygiadol a chael strategaethau amgen ar gyfer staff, pa un a ydynt yn weithwyr proffesiynol iechyd a gofal gyda chymhwyster proffesiynol neu aelodau eraill o staff sy'n gweithio yn y cartref gofal yn wir. Deellir y pwynt am hyfforddiant yn dda hefyd.

Er hynny, rwy'n falch o weld ffocws yn yr adroddiad ar y defnydd o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, gan gynnwys therapyddion lleferydd ac iaith. Felly, rydym yn cydnabod bod gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gwneud cyfraniad hollbwysig i alluogi pobl i fyw'n dda gyda'u dementia. Mae'r proffesiynau hynny'n nodi ac yn mynd i'r afael ag achosion posibl ymddygiad a elwir yn 'heriol', gan gynnwys anghenion corfforol, gwybyddol ac emosiynol nas diwallwyd ac anghenion cyfathrebu a sut y gallwn ddarparu ymyriadau i leihau lefel y straen a'r pryder ac yn wir y rhwystredigaeth y gwyddom ei bod yn aml yn digwydd ochr yn ochr â hyn. Dyna pam, o ran cael y nifer iawn o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd, y bydd cam nesaf ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gwaith. Byw.' yn cael ei ymestyn i gynnwys gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd.

Gyda'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu timau amlddisgyblaethol o amgylch yr unigolyn i helpu i ddarparu gofal, cymorth a thriniaeth sy'n gydgysylltiedig ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Rydym yn cydnabod yr angen i sicrhau bod cysylltiadau da rhwng cartrefi gofal a gwasanaethau yn y gymuned gyda thimau o amgylch yr unigolyn. Bydd cylch gwaith y swydd ymarferydd ymgynghorol dementia perthynol i iechyd Cymru gyfan, pan gaiff ei recriwtio, yn cynnwys gweithio gyda chartrefi gofal, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i hyrwyddo a dangos tystiolaeth o arferion gorau gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar draws ein holl system iechyd a gofal cymdeithasol.

Rwyf am geisio rhoi sylw i'r argymhelliad a wrthodwyd, ar ddatblygu

'asesu’r cyfuniad priodol o sgiliau... ar gyfer staff cartrefi gofal' ac i ddarparu canllawiau ar gyfer sicrhau lefelau staffio diogel a phriodol. Nid yw nod yr argymhelliad yn rhywbeth rwy'n ei wrthwynebu, ond mae'n ymwneud â'r ffaith fy mod yn credu bod gennym fframweithiau cywir ar waith drwy Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Nawr, rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor gyda rhagor o fanylion am y gwaith rydym wedi ei wneud ac yn ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys y gwaith dan arweiniad Prifysgol Bangor, a daeth eu gwaith i'r casgliad nad oes un offeryn yn seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn nodi niferoedd a mathau o staff sydd i'w cyflogi yn y sector cartrefi gofal, ond mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru'n comisiynu gwaith pellach ar osod canllawiau a chefnogi comisiynwyr ar gyfer lleoliadau o fewn y sector. Bydd hynny'n dysgu o'r gwaith sydd ar y gweill eisoes ar weithredu'r Ddeddf staff nyrsio ac uned gomisiynu gydweithredol genedlaethol y GIG.

Nawr, mae rhywbeth yma ynghylch deall y gwaith rydym eisoes yn ei wneud a deall beth a wnawn i wneud y fframwaith deddfwriaethol sydd gennym eisoes yn addas i'r diben a sicrhau gwahaniaeth real ac ymarferol. Ond rwy'n derbyn, wrth gwrs, y bydd y pwyllgor a'r Aelodau am ddod yn ôl i weld a yw hynny'n digwydd yn ymarferol. Felly, byddwn yn monitro ein cynnydd ar yr argymhellion ochr yn ochr â'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia. Rydym wedi sefydlu goruchwyliaeth ddementia o'r grŵp gweithredu ac effaith, a bydd yn cynnwys pobl yr effeithiwyd arnynt gan ddementia ymhlith eu haelodau; maent yn ymwneud yn weithredol â monitro ein llwyddiant neu fel arall, ac maent eisoes wedi cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mehefin. Felly, nid y Llywodraeth yn asesu ei gwaith ei hun fydd hyn.

Rwy'n cydnabod ac yn cytuno gyda'r pwyllgor fod rhagnodi amhriodol—ac mae hynny'n cynnwys methu adolygu rhagnodi yn rheolaidd—yn achosi niwed go iawn. Ni cheir diffyg pryder ar ran y Llywodraeth, nac ymagwedd gan y Llywodraeth sy'n diystyru'r pryderon hynny neu hunanfodlonrwydd ynghylch yr angen i wella. A byddaf yn ystyried eto y pwyntiau a wnaed gan Aelodau yn y ddadl hon mewn nifer o feysydd a dderbyniwyd gennym mewn egwyddor, a byddaf yn ysgrifennu unwaith eto i amlinellu'r camau rydym yn eu gweithredu er mwyn ceisio cyflawni diben yr argymhelliad a wnaed gan y pwyllgor, oherwydd rydym yn edrych yn ddidwyll ar sut rydym yn diwallu amcanion a rennir, er nad ydym yn cytuno ar yr holl fanylion. Ac wrth gwrs byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar y cynnydd a wnaed wrth ymdrin â'r argymhellion a'r amserlenni ar gyfer gweithredu a gwaith yn y dyfodol ar roi'r cynllun gweithredu ar gyfer dementia ar waith.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:13, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd fel Cadeirydd y pwyllgor i ymateb i'r ddadl?

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i ymateb i'r ddadl. Bu'n ddadl ardderchog, ac rwy'n meddwl bod hynny'n dyst i ansawdd y cyfraniadau; yn amlwg, mae'n dyst i ansawdd y dystiolaeth a gymerasom dros y misoedd gan nifer o dystion—yn ysgrifenedig ac ar lafar—ac yn amlwg mae'n dyst i ansawdd y cymorth a gawn fel pwyllgor gan ein clercod a'n hymchwilwyr. Dyma ymdrech tîm yn wir, ac ymdrech tîm y gellir ei chyfiawnhau am ein bod yn ceisio mynd i'r afael ag anghyfiawnder tuag at grŵp o bobl agored iawn i niwed, fel y clywsom.

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dechreuasom gydag Angela Burns a chyflwyniad grymus am yr anesmwythyd ynglŷn ag argymhellion 9 a 2. Lynne Neagle wedyn—perfformiad arall gwirioneddol ardderchog gan Lynne yr wythnos hon eto am y newid perfformiad sylfaenol sydd ei angen yma. Nid dyma'r adroddiad beirniadol cyntaf ynglŷn â meddyginiaeth wrthseicotig. Gallwn gymryd rhai o'r argymhellion 'derbyn mewn egwyddor' pe bai hwn y tro cyntaf inni gael adroddiad am yr union bwnc hwn. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi dweud yr un peth fwy neu lai—ein bod yn gwneud cam â'n pobl fwyaf agored i niwed mewn cartrefi gofal. Mae angen gwneud rhywbeth am y peth, a dyna pam na allwn dderbyn pethau mewn egwyddor mwyach. Rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Clywaf yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ond clywais yr hyn a ddywedodd y comisiynydd pobl hŷn hefyd. Mae angen newid—newid sylweddol—mewn diwylliant a pherfformiad, ac mae angen inni fynd i'r afael â lefelau staff nyrsio yn ein cartrefi gofal, ac ar ein wardiau ysbyty, fel roedd Lynne Neagle yn dweud.

Cyfraniad ardderchog arall hefyd gan Rhun am yr holl fater ynghylch 'derbyn mewn egwyddor', a chredaf, fel y dywedodd sawl un, nid yn unig yn y ddadl hon ond mewn dadleuon eraill, fod angen ymdrin â'r mater yn nhermau derbyn neu wrthod.

Diolch hefyd i Caroline Jones am ei chyfraniad, a hefyd i Julie Morgan, a bwysleisiodd eto y pwynt a wneuthum ar y dechrau: mae yna offer ar gael, mae yna restrau gwirio ar gael i asesu beth sy'n achosi'r hyn a labelwn fel ymddygiad heriol. Mae angen inni edrych i weld pam y mae pobl â dementia yn adweithio yn y ffordd y maent yn ei wneud weithiau. Mae angen inni edrych ar yr unigolyn ei hun, ac mae yna offer rhestr wirio amrywiol sy'n ein galluogi i wneud hynny. Un enghraifft ragorol yw proffil adwaith niweidiol i gyffuriau Prifysgol Abertawe y cyfeiriwyd ato eisoes gennyf fi a chan Julie Morgan, ac a ddatblygwyd gan dîm yr Athro Sue Jordan ym Mhrifysgol Abertawe.

Hefyd, diolch i Suzy Davies am gyfraniad rhagorol, a hefyd am nodi'r angen am frys. Oherwydd, fel rwyf eisoes wedi dweud, ac rydych chi wedi'i ddweud hefyd, buom yma o'r blaen, ac yn awr yw'r amser i weithredu, nid i gael adroddiad arall i feirniadu perfformiad presennol. Felly, cafwyd adroddiadau blaenorol, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi mynegi pryderon ar sawl achlysur, ac mae gennym adroddiad etifeddiaeth gan bwyllgor iechyd blaenorol, fel rydym wedi sôn a phob un yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Ni ddylai byth fod yn ddewis cyntaf.

Yn dilyn y ddadl heddiw, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae wedi ein sicrhau, yn rhoi ystyriaeth bellach i'r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn a'r hyn a fynegwyd yn y cyfraniadau llafar heddiw, ac yn ystyried hefyd yr argymhellion a wnaed gennym er mwyn darparu'r atebion hirdymor sydd eu hangen. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gofal. Nid ymwneud â chadw pobl dan reolaeth y mae. Mae'n ymwneud â thrawsnewid gofal pobl â dementia yng Nghymru. Nid yw ein pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn haeddu dim llai. Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:17, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.