– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 10 Hydref 2018.
Symudwn at eitem 9 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl yn ceisio cytundeb y Cynulliad i gyflwyno Bil arfaethedig y Comisiwn: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru). Galwaf yn awr ar y Llywydd i wneud y cynnig. Lywydd.
Cynnig NDM6821 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Comisiwn y Cynulliad: "Creu Senedd i Gymru, adroddiad yr ymgynghoriad", Hydref 2018;
2. Yn nodi datganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad: Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru);
3. Yn cytuno i ganiatáu i Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Bil i:
a) newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
b) ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad,
c) diwygio’r gyfraith yn ymwneud ag anghymhwyso, a
d) gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad, a newidiadau sy’n gysylltiedig â hwy.
Diolch i’r Dirprwy Lywydd. Rwy’n gwneud y cynnig sydd ar y papur trefn.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ddatganiad ar ran Comisiwn y Cynulliad yn amlinellu ein strategaeth ddeddfwriaethol arfaethedig o ran diwygio trefniadau etholiadol y Cynulliad Cenedlaethol mewn dau gam. Y cam cyntaf fyddai deddfu i newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol, i ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud â threfniadau anghymhwyso, a gwneud newidiadau eraill i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad. Yr ail gam fyddai deddfu yn ystod tymor y Cynulliad yma ynghylch maint Senedd Cymru a’r dull a ddefnyddir i ethol ei Haelodau—yn amodol, wrth gwrs, ar gonsensws ar y materion yma.
Diben y ddadl heddiw yw i geisio cytundeb Aelodau i ganiatáu i’r Comisiwn gyflwyno’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth. Rydym yn gwneud hynny gan hyderu ein bod wedi ymgynghori’n eang ac yn gyhoeddus ar y cynigion hyn ac wedi cael llawer o sgyrsiau â rhanddeiliaid allweddol.
Os ydych yn cytuno i ganiatáu i’r Comisiwn gyflwyno’r Mesur hwn, cawn gyfle i drafod a dadlau manylion y polisi yn llawn wrth i’r Mesur fynd drwy broses graffu ddeddfwriaethol y Cynulliad. Fodd bynnag, fel yr wyf wedi’i nodi’n flaenorol, ni fydd y cynigion hyn yn cael eu dwyn ymlaen oni bai fod consensws cyffredinol o blaid gwneud hynny. Byddai’n rhaid i uwchfwyafrif o 40 o Aelodau bleidleisio o blaid unrhyw Fesur yn y dyfodol cyn iddo gyrraedd y llyfrau statud, a byddai’n destun gwaith craffu, ymgynghori a thrafod trwyadl yn y Cynulliad yma a thu hwnt.
Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 2 Hydref, amlinellais amcanion allweddol y Mesur Senedd Cymru ac etholiadau (Cymru). Yr amcan cyntaf yw newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament, sef y teitl a ffafriwyd gan y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater yma. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn ffafrio’r teitl Aelodau Senedd Cymru/Members of the Welsh Parliament, a fyddai’n cyd-fynd â’r teitlau a ddefnyddir gan ddeddfwrfeydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Gyfunol. Er inni ddod i gytundeb cychwynnol ynghylch teitl yr Aelodau, penderfynodd y Comisiynwyr ystyried y mater ymhellach a thrafod eto gyda’u pleidiau. Mae’r trafodaethau yma yn parhau, ond mi fydd angen i’r pleidiau, a chi yr Aelodau, gyrraedd consensws ar y cyfle cyntaf posib ar y mater yma.
Mae’r Comisiwn yn cynnig y dylai enw’r sefydliad gael effaith gyfreithiol ym mis Mai 2020 i sicrhau bod pobl Cymru yn dod yn gyfarwydd â’r term Senedd Cymru/Welsh Parliament cyn etholiad y Cynulliad—Senedd Cymru/Welsh Parliament—yn 2021. Byddwn yn sicrhau bod cost y newid mor isel â phosib ac nid oes bwriad newid logo’r Cynulliad yn gyfan gwbl. Bydd y memorandwm esboniadol a gaiff ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r Mesur pan gaiff ei gyflwyno wrth gwrs yn cynnwys yr amcangyfrifon gorau o’r costau a’r arbedion posib a allai ddod yn sgil y ddeddfwriaeth.
Ail amcan y Mesur fydd gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16, yn effeithiol o etholiad 2021. Rwy’n gwybod y bydd Aelodau am gael sicrwydd y byddwn yn gwneud ymdrechion sylweddol i roi gwybod i bobl ifanc am y newid yma ac yn annog y lefel uchaf o gyfranogiad ganddynt. Rydym yn cytuno â hyn, ac fel rhan o’r broses ddeddfwriaethol yma, bydd y Comisiwn yn amlinellu pa gamau a gymerir gan y sefydliad a’n partneriaid ar y mater yma.
Y trydydd amcan yw gweithredu’r argymhellion o ran newid deddfwriaethol a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y pedwerydd Cynulliad i egluro a diwygio’r fframwaith deddfwriaethol ynghylch anghymhwyso unigolion rhag bod yn Aelodau Cynulliad. Byddai’r newidiadau hyn yn rhoi eglurder ynghylch cymhwysedd pobl i sefyll mewn etholiad, yn helpu i oresgyn y rhwystrau sydd ar hyn o bryd yn golygu bod yn rhaid i lawer o bobl ymddiswyddo cyn sefyll fel ymgeiswyr er mwyn osgoi unrhyw risg, ac yn gwahardd, o etholiad nesaf y Cynulliad ymlaen, Aelodau o Dŷ’r Arglwyddi rhag bod yn Aelodau Senedd Cymru oni bai eu bod yn cymryd cyfnod o absenoldeb o San Steffan.
Yn olaf, y pedwerydd amcan fyddai sicrhau bod darpariaethau ar waith i’w gwneud yn bosib inni ystyried gweithredu yng Nghymru pe bai Comisiwn y Gyfraith yn gwneud unrhyw argymhellion i resymoli’r ddeddfwriaeth ynghylch etholiadau. Gallai Gweinidogion Cymru gyflwyno cynigion o’r fath drwy is-ddeddfwriaeth, a fyddai’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Siambr yma.
Byddai’r Mesur hefyd yn ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad, o saith diwrnod—fel y mae ar hyn o bryd—i 14, yn unol â’r trefniadau yn Senedd yr Alban, a hefyd yn cywiro’r amwysedd deddfwriaethol presennol, drwy egluro bod gan Gomisiwn y Cynulliad y pŵer i godi tâl am ddarparu gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig â’i swyddogaethau.
Fel y dywedais yn gynharach, bydd Aelodau’n cael cyfle i drafod manylion y diwygiadau hyn yn ystod y broses o graffu. Ac os byddwch yn derbyn y cynnig hwn heddiw, rydw i'n edrych ymlaen yn ddiffuant i weithio gyda chi er mwyn creu deddfwriaeth gadarn y gallwn ni, a phobl Cymru, ymfalchïo ynddi.
Nid oes gennyf lawer iawn i'w ychwanegu at yr hyn rydym newydd ei glywed gan y Llywydd. Credaf ei bod hi'n bwysig nodi bod gennym y pwerau hyn a dylem eu defnyddio. Er bod y cwestiynau mwy anodd o bosibl wedi'u cadw'n ôl ar gyfer ail Fil, mae diben difrifol i'r Bil hwn yn ogystal, a'r hyn a olygaf yn benodol yw newid enw'r Senedd hon. Nid prosiect porthi balchder yn unig ydyw. Pwrpas hyn yw helpu pobl Cymru i ddeall beth yw'r lle hwn, sef deddfwrfa sylfaenol, Senedd go iawn, a pheth pellter oddi wrth y Cynulliad a sefydlwyd yn 1999. Mae pawb ohonom yn teimlo'r rhwystredigaeth, rwy'n siŵr, beth bynnag fo'n pleidiau, pan fyddwn yn curo ar ddrysau, nad yw pobl eto'n deall y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru, neu hyd yn oed yn deall beth y mae Cynulliad Cymru'n gyfrifol amdano. Os yw hwn yn gyfle i helpu—dim ond un cyfle arall i helpu pobl Cymru i ddeall hynny—fe ddylem fanteisio arno wrth gwrs.
Caiff y Bil ei lywio gan ymgynghoriad cyhoeddus. Cyfeiriodd y Llywydd at rai o'r ymatebion yno. Ond wrth gwrs, bydd barn yr Aelodau eu hunain, sy'n cael ei llywio gan eu hymgynghoriad Cyfnod 1 eu hunain, yn bwysig hefyd. Os cyflwynir gwelliannau, rwy'n siŵr y cânt eu gwneud ar sail tystiolaeth yn ogystal â safbwyntiau personol. Ac os cawn ganiatâd i fwrw ymlaen gyda Bil drafft heddiw, os deallaf yn iawn, ymdrinnir â Chyfnodau 2 a 3 gan bwyllgor y tŷ cyfan yn hytrach na chan y pwyllgorau, fel y gwnaethom yn y gorffennol.
Yn bersonol, ac efallai y dylwn ddatgan buddiant ar y pwynt hwn gan fy mod yn Gomisiynydd, yr hyn yr edrychaf amdano yn y Bil hwn yw offeryn cyfreithiol o safon sy'n eglur ac sy'n cyflawni ei amcanion datganedig. Ac mae hynny'n golygu: dim Bil fframwaith, dim ailgyfeirio cyfrifoldeb i is-ddeddfwriaeth ac eithrio pan fo'n gwbl angenrheidiol oherwydd yr holl oblygiadau craffu sy'n mynd gyda hynny, dull dadansoddol a thryloyw iawn o weithredu'r gwahaniaeth rhwng y defnydd o bwerau a dyletswyddau, ac wrth gwrs, dim pwerau Harri'r VIII i'r Llywodraeth ar wyneb y Bil.
Bil Cynulliad yw hwn. Mae'n atgoffa mai ni yw'r ddeddfwrfa—ni yw'r Cynulliad—ac rydym yn gweithredu ar ran pobl Cymru. Nid Llywodraethau sy'n gwneud cyfraith. Ac er efallai na fydd yn digwydd, rhaid inni fod wylio rhag unrhyw ddiwygiadau a allai, hyd yn oed yn anfwriadol, danseilio'r ffaith mai ni sy'n gwneud y gyfraith yma. Er y gallai Llywodraethau eu cyflwyno o bryd i'w gilydd, ac yn amlach, nid mater i Lywodraeth yw tanseilio diben y ddeddf hon—hyd yn oed yn anfwriadol, fel rwy'n dweud—drwy gyflwyno gwelliannau sy'n rhoi gormod o bwerau iddynt hwy yn hytrach nag i ni.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon ar Fil arfaethedig Comisiwn, Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru) at ei gilydd. Fodd bynnag, rwy'n siomedig nad ydym yn bwrw ymlaen â rhai o'r argymhellion yr ymgynghorodd y Comisiwn yn eu cylch. Yn ddiweddar, ysgrifennodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb i Fenywod at y Llywydd yn annog y Comisiwn i symud ymlaen gyda'r cynigion yn adroddiad Laura McAllister, yn hyrwyddo cyfleoedd i rannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, yn credu y dylai'r Cynulliad arwain ar hyn a thorri ei chwys ei hun. Fel y maent wedi dweud, os ydych yn dechrau rhannu swyddi yn y sefydliad sy'n rhedeg Cymru, rydych yn gosod cynsail ar gyfer gwaith yn y trydydd sector, gan gyfrannu at y Gymru fwy cyfartal rydym i gyd am ei gweld, yr un a ddisgrifir yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol.
Felly, rwy'n siomedig nad yw'r Comisiwn wedi cynnwys y cynigion hyn yn y Bil, yn enwedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i adroddiad diweddar Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad, 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru', sy'n argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr achos dros newid deddfwriaeth fel bod modd rhannu rolau swyddi Gweinidogion, penodiadau cyhoeddus a chynghorwyr. Ac yn ei hymateb i'r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd yn ystyried yr achos dros newid y ddeddfwriaeth mewn perthynas â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr ag unrhyw ystyriaeth y gallai'r Cynulliad Cenedlaethol ei rhoi i gyflwyno rhannu swyddi ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, ac rwy'n croesawu hynny. Po fwyaf o hyblygrwydd a gynigiwn i'n gwleidyddion, y mwyaf o ymgeiswyr benywaidd y byddwn yn eu denu, ond dylai fod yn ddeniadol i ymgeiswyr gwrywaidd yn ogystal.
Fe fyddwn yn radical ac yn hirben pan fyddwn yn rhoi'r bleidlais i rai 16 a 17 oed drwy gyfrwng y Bil hwn. Bydd eu lleisiau'n gryf ac yn glir o ran y cyfarwyddyd a gawn i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Cynulliad, a chaiff hyn ei atgyfnerthu gan y Senedd Ieuenctid Cymru newydd. I gefnogi'r Bil hwn, gobeithiaf hefyd y gallwn fod yn radical ac yn hirben yn ein hystyriaethau o nodweddion ac argymhellion ehangach adroddiad McAllister, yr adroddiad a gomisiynwyd gennych—a gomisiynodd y Llywydd—drwy wneud hon yn Senedd sy'n addas at y diben ac yn gweithio i Gymru. Nid ydym yno eto, ond rydym yn rhoi'r camau cyntaf pwysig ar waith heddiw, ac rwy'n cefnogi'r Bil hwn.
Rydw i'n croesawu'r cyfle i gael y ddadl yma ar lawr y Senedd heddiw ar eich cynigion chi a'r Comisiwn i gyflwyno rhaglen o ddiwygiadau i gryfhau ein prif gorff democrataidd yma yng Nghymru. Mae yna 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i'r ddeddfwriaeth a oedd yn sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei phasio, a phryd hynny roedd y corff o natur debycach i gyngor sir na senedd genedlaethol. Rydym ni wedi dod yn bell iawn ers hynny, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson mai megis dechrau ar y gwaith o godi cenedl ydy seilwaith llywodraethiant presennol ein sefydliadau democrataidd cenedlaethol. Felly, mae Plaid Cymru, wrth reswm, yn cefnogi bwrdwn unrhyw gynigion i gryfhau'r corff yma.
Yn wyneb culni'r sefydliad gwleidyddol Prydeinig a'r rheini sydd am ein gweld ni cau'r drws ar ein cydweithio â chyfeillion Ewropeaidd, mae'n rheidrwydd arnom ni i sicrhau bod y sefydliad yma yn llwyfan i ddyheadau pobl Cymru, ac yn gerbyd i greu'r Gymru newydd yr ydym ni am ei chreu efo'n gilydd.
Rydym ni'n falch iawn o groesawu'r bwriad o gyflwyno pleidleisio yn 16 oed, a braf yw gweld ein Senedd ni yma ar flaen y gad yn agor drysau ac yn tynnu pobl ifanc i mewn i'r gwaith o greu democratiaeth Gymreig newydd gynhwysol, lle mae pobl ifanc yn benseiri eu dyfodol eu hunain, mewn gwrthgyferbyniad llwyr, wrth gwrs, â'r hyn sydd yn digwydd yn San Steffan.
Pwrpas y ddadl heddiw yma, wrth gwrs, ydy ceisio cytundeb y Cynulliad i ddod â chynigion manylach yn y flwyddyn newydd i roi'r cig ar yr asgwrn, ac rydym ni'n edrych ymlaen at gael craffu'n fanwl ar y cynigion yn ystod y broses honno. Ond mae'n rhaid inni gofio mai rhan gyntaf o becyn o ddiwygiadau ydy'r rhain yn dilyn adroddiad arbennig a gafwyd gan y gweithgor dan gadeiryddiaeth Laura McAllister. Rydw i'n mawr obeithio y byddwn ni'n symud yn syth ar ôl hynny, hefyd, i gyflwyno gweddill y cynigion.
Rydw i, fel Jane Hutt, yn siomedig nad yw argymhellion 10 ac 11, yn ymwneud â chynyddu cynrychiolaeth gyfartal o ran y rhywiau, yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd. Rydw i'n deall y cefndir, wrth gwrs. Mae cwotâu a rhannu swyddi yn ffordd arbennig o roi mwy o lais i ferched, ac rydw i'n falch iawn bod fy mhlaid i, Plaid Cymru, benwythnos diwethaf yma wedi cyflwyno rhestrau merched yn unig mewn etholaethau targed, a hynny i'w groesawu yn fawr iawn.
Yn olaf, rydw i eisiau troi at y cynnig i newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol i adlewyrchu ei statws fel senedd genedlaethol. Rydw i'n nodi mai cynnig y Comisiwn ar hyn o bryd ydy 'Senedd Cymru/Welsh Parliament'. Safbwynt Plaid Cymru ydy y dylai fod yr enw 'Senedd' yn cael ei arddel ar gyfer y sefydliad hwn yn nwy iaith swyddogol Cymru, ac y dylai Aelodau gael eu galw yn 'Aelodau o'r Senedd' neu 'Aelod o Senedd Cymru' yn y Gymraeg, ac yn 'Member of the Senedd' neu 'Member of Senedd Cymru' yn Saesneg. Rydw i yn gobeithio y cawn ni edrych eto ar y mater yma yn ystod y broses graffu.
A gaf i jest gyfeirio yn sydyn at y rhesymeg dros y safbwynt yma ynghylch yr enw? Prif nod newid enw'r Cynulliad ydy gwella dealltwriaeth y cyhoedd o'i swyddogaeth. Ar hyn o bryd, mae nifer fawr iawn o bobl yn galw'r sefydliad—y sefydliad, nid yr adeilad yn unig—yn 'Senedd'. Mae wedi dod yn ddefnydd cyffredin erbyn hyn. Serch hynny, mae yna nifer yn dal i ddefnyddio termau fel 'Welsh Assembly', 'Welsh Assembly Government' neu 'Welsh Government' i gyfeirio at y Cynulliad, oherwydd diffyg dealltwriaeth. Nid oes yna ddim defnydd ar hyn o bryd o 'Welsh Parliament' yn gyffredinol, ac felly mi fyddai newid enw'r sefydliad i hynny yn golygu newid arferion y cyhoedd ac ychwanegu term arall i'r gymysgedd sydd yn bodoli ar hyn o bryd. Ni fyddai'r enw uniaith 'Senedd' yn gwneud hyn, gan ei fod yn barod yn cael ei ddefnyddio gan nifer.
Yn ystod yr ymgynghoriad, fe gafodd 'Aelod Senedd Cymru/Member of Welsh Parliament' ei ffafrio gan 30 y cant o ymatebwyr, dim ond 1.6 y cant yn fwy na'r ganran a oedd yn ffafrio 'Aelod o’r Senedd/Member of the Senedd', sef 28.4 y cant. Os ychwanegir y ganran a oedd yn ffafrio'r teitl trydydd mwyaf poblogaidd, sef 'Aelod o Senedd Cymru/Member of Senedd Cymru', sef 13.5 y cant, mae yna ffafriaeth glir dros deitl i'r Aelodau sy'n cynnwys enw uniaith Gymraeg i'r sefydliad, sef 41.9 y cant.
Mae yna nifer o sefydliadau cenedlaethol eraill, megis Chwarae Teg, Mudiad Meithrin, ac, yn wir, teitl swyddogaeth y Llywydd ei hun, sydd yr un fath yn y ddwy iaith ac nid oes yna ddim anhawster. Byddwn i'n gofyn hefyd, yn y cyswllt hwn felly, i'r Comisiwn gyhoeddi unrhyw asesiad effaith ieithyddol sydd wedi'i wneud ar y penderfyniad polisi i argymell yr enw 'Senedd Cymru/Welsh Parliament' fel enw'r sefydliad hyd yma ac yn gofyn i sylw gael ei roi ar sail dystiolaethol wrth symud ymlaen.
Ac, yn olaf, mi fyddai'n braf gweld enw'n prif gorff cenedlaethol ni yn adlewyrchu natur ein huchelgais ar gyfer Cymru wirioneddol ddwyieithog lle mae'r Gymraeg yn eiddo i'w holl ddinasyddion.
Hoffwn siarad yn fyr i groesawu'r Bil sy'n cael ei gyflwyno. Mae wedi bod yn saith mlynedd bellach ers i fwyafrif llethol ohonom gytuno mewn refferendwm y dylai'r lle hwn gael pwerau Senedd, ac nid yw hi ond yn iawn ein bod yn newid yr enw i adlewyrchu'r realiti hwnnw.
Rwy'n falch hefyd fod adroddiad McAllister yn cael ei ddatgysylltu, fel y gallwn ganolbwyntio ar yr elfennau y gall pawb ohonom gytuno arnynt gan barhau i weithio ar ddatblygu consensws ar yr elfennau eraill. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn symud ymlaen cyn hir i ddatblygu rhannau eraill o'r adroddiad hwnnw yn ogystal.
Rwy'n credu ei bod hi'n rhagorol ein bod yn cyflwyno pleidleisiau i rai dros 16 mlwydd oed, a bydd llawer ohonom wedi cael sgwrs gyda phleidleiswyr tro cyntaf sy'n dweud wrthym yn aml eu bod yn amharod i bleidleisio y tro cyntaf oherwydd nad ydynt bob amser yn teimlo'n barod i allu gwneud penderfyniad gwybodus—nid ydynt bob amser yn teimlo eu bod yn gwybod digon—ac rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol cael ymgyrch addysg wleidyddol drylwyr i fynd rhagddi ochr yn ochr â'r newid hwn yn y gyfraith, ac roeddwn yn falch o glywed y Llywydd yn dweud mai dyna fydd yn digwydd. Ond wrth gwrs, mae angen iddo fynd ymhellach na'r hyn y gall Comisiwn ei ddarparu'n unig; mae angen i hyn gael ei groesawu gan ysgolion a cholegau a sefydliadau ar draws Cymru, a theuluoedd hefyd.
Ar fater enw'r Cynulliad, nodais y bydd yr hyn a ddywedodd y Llywydd am hyn yn cael ei drafod yn fanwl yn ystod y camau nesaf, ac wrth gwrs, mae hynny'n gywir. Ond rwy'n cytuno gyda Siân Gwenllian mai'r enw Cymraeg syml 'Senedd' fyddai orau. Fe ymgyrchais gyda llawer o rai eraill yn 1997, ac yn y blynyddoedd cyn hynny, dros greu'r lle hwn. Nid oeddwn am ail-greu 'Parliament' yng Nghymru. Roeddwn am greu rhywbeth gwahanol: diwylliant gwahanol, ffordd wahanol o wneud pethau, synnwyr o ddiben gwahanol. A chredaf fod temtasiwn i lynu at yr hen dermau Ffrengig hyn i roi rhyw syniad o awdurdod i ni. Ac mewn gwirionedd, nid dyna'r hyn y dylem fod yn ceisio ei wneud; dylem fod yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol.
A chredaf fod defnyddio'r term Cymraeg 'Senedd', a ddefnyddiaf eisoes i ddisgrifio'r sefydliad hwn—yn amlwg, enw'r adeilad yn unig ydyw, ond cyfeiriaf at fy ngwaith yn y Senedd bob amser, ac yn sicr, mae pobl Llanelli y siaradais â hwy'n glir iawn ynglŷn â'r hyn y mae'n ei olygu. A chredaf y byddai honno'n ffordd fwy priodol o lawer o symud ymlaen—yn arwydd o'r hyn rydym am ei gyflawni yma ac arwydd o le iaith yn ein bywyd cenedlaethol. A gobeithio ei fod yn gyfle inni fyfyrio ar hynny wrth inni fwrw ymlaen.
Mae'n wrthddywediad braidd i ddweud ein bod eisiau pwerau i benderfynu pethau drosom ein hunain a dweud wedyn ein bod yn mynd i ddirprwyo'r penderfyniad hwn allan i ganlyniad ymgynghoriad cyhoeddus, a oedd yn bell o fod yn glir fel y dywedodd Siân Gwenllian. Felly, rwy'n gobeithio y rhoddir ystyriaeth bellach i hynny wrth inni fwrw ymlaen.
Fe ildiaf.
Diolch. Fy mhryder—. Rwy'n cytuno â Siân Gwenllian fod pobl yn aml—. Mae fy etholwyr yn drysu rhwng yr ymadroddion gwahanol—Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llywodraeth Cymru—a dyma'r broblem. Felly, i mi, hoffwn yn fawr weld y lle hwn yn cael ei alw'n 'Welsh Parliament' yn Saesneg a 'Senedd Cymru' yn Gymraeg, oherwydd rwy'n credu mai'r broblem fyddai—i siaradwyr di-Gymraeg byddai'n fwy dryslyd eto o bosibl. Rwy'n derbyn eich pwynt o ran ceisio creu rhywbeth gwahanol, ond rwy'n credu y byddai'n ei gwneud hi'n haws o lawer cael 'UK Parliament, Welsh Parliament; UK Government, Welsh Government' yn Saesneg.
Wel, nid oes dim o'i le ar bobl yn egluro'n anffurfiol i'r di-Gymraeg mai ein henw ar ein 'Welsh Parliament' yw 'Senedd', ond credaf mai Senedd ddylai'r enw swyddogol fod. O ran dealltwriaeth y cyhoedd yn gyffredinol, nid ydym eto wedi cyrraedd 20 mlynedd o fodolaeth y lle hwn; credaf y bydd dealltwriaeth yn datblygu wrth i amser fynd yn ei flaen.
Fel y dywedaf, mae rhesymau eraill dros ddewis y term 'Senedd', nid yn lleiaf y pwynt olaf yr wyf am droi ato, sef beth a ddefnyddiwn i gyfeirio atom ein hunain. Drwy greu'r broblem i ni ein hunain o'i galw'n 'Welsh Parliament', wynebwn yr acronym chwerthinllyd ar gyfer 'Member of Welsh Parliament'— MWP. Nawr, rwy'n credu ein bod yn gwneud ein hunain yn destun gwawd drwy ddisgrifio ein hunain fel 'MWP'. Mae fy meddwl plentynnaidd yn meddwl am yr hyn y mae'n odli ag ef ar unwaith—'twp' a 'pwp'. Efallai fod hyn yn adlewyrchu beth y mae rhai o'n hetholwyr yn ei feddwl ohonom, ond ni chredaf y dylem roi unrhyw anogaeth iddynt. Credaf ei bod yn set braidd yn hurt o lythrennau, a phe na baem yn galw ein hunain 'Welsh Parliament' yn Saesneg, ni fyddwn yn creu'r broblem yn y lle cyntaf.
Credaf fod 'Aelod Seneddol' yn gwbl syml. Gallai fod yn broblem i ddarlledwyr Cymraeg wahaniaethu rhwng Aelodau Seneddol, neu ASau, a ninnau. Ond a dweud y gwir, nid yw y tu hwnt i ddyfeisgarwch dyn i feddwl am ateb i hynny—[Torri ar draws.] Neu fenyw, yn wir; roeddwn yn ei ddefnyddio yn ei ystyr gwreiddiol. Ond a dweud y gwir, eu problem hwy yw hynny, nid ein problem ni. Ond credaf mai cyfleu'r neges ein bod yn Aelodau o'n 'Senedd' yw'r un iawn i'w rhoi. Diolch.
Diolch, Llywydd, am gyflwyno'r ddadl heddiw.
Rydym ni yn UKIP yn nodi'r newidiadau arfaethedig yn adroddiad y Comisiwn ac yn eich datganiad diweddar. Os gallaf fynd drwy rai o'r cynigion yn unigol, gan fod gan Gynulliad Cymru bwerau codi treth bellach, nid oes gennym wrthwynebiad i'r enw newid i 'Welsh Parliament'. O ran awgrym Plaid Cymru ynglŷn â 'Senedd', mae 'Senedd' yn ymadrodd ardderchog wrth gwrs cyn belled ag yr aiff ar gyfer y fersiwn Gymraeg o'r hyn a fydd yn 'Welsh Parliament', ond rwy'n tueddu i gytuno â'r hyn a ddywedodd Russ George, nad oes digon o ymwybyddiaeth gyhoeddus o'r ymadrodd iddo fod yr unig ddisgrifiad. Felly, buaswn yn tueddu i fynd am—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch. A ydych chi'n gwybod beth yw'r Dáil? A ydych chi'n gwybod beth yw Taoiseach?
Ydw, mewn gwirionedd, Llyr, ond os gofynnwch i nifer o aelodau o'r cyhoedd yn gyffredinol nid wyf yn credu y byddent yn gwybod beth yw Dáil neu Taoiseach. [Torri ar draws.] O, yn Iwerddon, ie; iawn, rhaid inni ei wneud yn berthnasol i Iwerddon. Wel, mae hwnnw'n bwynt diddorol. Gadewch i mi feddwl am hynny. Rydych wedi codi pwynt da.
Rydym yn cytuno â'r newidiadau arfaethedig sy'n ymwneud ag anghymhwyso. Roedd gennym broblem o fewn UKIP yn ddiweddar ynglŷn â sefyllfa Nathan Gill, a oedd yn cyfuno bod yn Aelod o'r Cynulliad â bod yn Aelod o Senedd Ewrop. Nid oedd yn gyfuniad hapus iawn o rolau. Fel y bydd yr Aelodau'n cofio, roedd Nathan yn enwog yng Nghaerdydd i raddau helaeth oherwydd ei absenoldeb, er fy mod yn siŵr ei fod wedi bod yn ddiwyd iawn o ran ei bresenoldeb yn Strasbourg. Credaf fod yr achos hwnnw'n dangos—[Torri ar draws.] Credaf fod yr achos hwnnw'n dangos y peryglon o ganiatáu i wleidyddion 'ddyblu swyddi' fel y mae'r arfer yn cael ei alw bellach.
Nawr, gwn fod gennym ddau Aelod yma yn y Cynulliad sydd hefyd yn Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi. Nid wyf yn awgrymu mewn unrhyw ffordd eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Mae eu hachosion hwy yn dra gwahanol. Gwn fod Dafydd Elis-Thomas ac Eluned Morgan wedi gwneud pethau defnyddiol yn Nhŷ'r Arglwyddi ar ôl iddynt gael eu hethol yma. Felly, fe allwch wneud cyfraniadau defnyddiol mewn dwy ddeddfwrfa wahanol mewn rhai achosion. Ond ar y cyfan, credaf y bydd y cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried yr arfer braidd yn amheus a chredaf ei bod yn well fod y drws wedi'i gau ar yr arfer hwn, er gwaethaf y cyfraniadau unigol y mae rhai Aelodau wedi'u gwneud mewn dwy Siambr wahanol.
Felly, rydym yn cytuno gyda'r elfen hon o gynigion y Llywydd, na ddylai Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi fod yn gymwys i gael lle yn y Cynulliad oni bai eu bod wedi arwyddo caniatâd i fod yn absennol o Dŷ'r Arglwyddi. Rydym hefyd yn cytuno â'r deunydd sy'n ymwneud ag Uchel Siryfion ac Arglwydd Raglawiaid a'r cyfnod o 14 diwrnod—gellir ei alw'n gyfnod ailfeddwl—ar ôl diwrnod yr etholiad Cynulliad.
Yr unig bwynt yr anghytunwn ag ef yw eich dymuniad i ymestyn yr etholfraint i gynnwys rhai 16 a 17 mlwydd oed. Teimlwn fod hwn yn oedran ifanc i ofyn i bobl wneud penderfyniadau gwleidyddol. Ceir digon o bethau i rai 16 a 17 mlwydd oed feddwl amdanynt fel y mae heb ychwanegu anhawster teyrngarwch gwleidyddol. Nid oes fawr o gefnogaeth gyhoeddus i gynyddu'r etholfraint cyn belled ag y mae arolygon barn wedi dangos, er bod ymgynghoriad y Cynulliad, fel arfer, wedi darparu ffigur gwahanol. Felly, nid ydym yn teimlo bod yr awydd hwn i roi'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed yn syniad gwych, ac nid ydym yn cytuno â'r rhan hon o'r cynigion, ond fel y dywedaf, rydym yn cefnogi'r gweddill. Diolch yn fawr.
Diolch, Lywydd. Rwy'n sefyll heddiw, fel yr wythnos diwethaf, i fynegi fy rwystredigaeth a fy siom. Unwaith eto, teimlaf yr angen i bwysleisio y gellid treulio ein hamser—amser pobl Cymru yn wir—yn well o lawer. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y teimladau hyn yn cael eu hadleisio ar draws fy rhanbarth.
Gadewch inni wynebu'r gwirionedd am eiliad. Mae'r gaeaf ar ddod. Bydd rhai pobl yng Nghymru yn wynebu gaeaf caled yn byw ar y strydoedd, mae staff y GIG yn ystyried yr anhrefn a ddaw yn anochel gyda'r gaeaf, bydd yr henoed a'r tlawd yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac wrth i'r Deyrnas Unedig ddod yn nes ac yn nes at adael yr Undeb Ewropeaidd, mae gennym bwerau ychwanegol a allai fod yn weddnewidiol ar fin cyrraedd y Cynulliad hwn.
Ni fydd newid enw'r sefydliad hwn, neu newid ein teitlau, yn ateb i'r pethau hynny. Ni fydd newid ein teitl o 'Aelod Cynulliad' i 'Aelod Seneddol', neu hyd yn oed 'Seneddwr', yn helpu unrhyw etholwr. Dylem dreulio ein hamser yn well yn gwella bywydau ein hetholwyr, nid ein curricula vitae.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Na wnaf. Mae'r modd y gall Aelodau gyfiawnhau paratoi'r ffordd i gynyddu nifer Aelodau'r sefydliad hwn heddiw, a dadlau ar yr un pryd yn erbyn lleihau nifer yr Aelodau Seneddol, yn dangos sut y mae'r diwylliant swyddi i'r hogiau yn fyw ac yn iach mewn gwleidyddiaeth heddiw.
Mae'r trethdalwr yng Nghymru eisoes yn talu am ormod o wleidyddion. Yr Alban—[Torri ar draws.] Mae gan yr Alban oddeutu dwbl poblogaeth Cymru, ond mae ganddynt lai o gynghorwyr. Roeddwn yn eistedd yn y Siambr hon pan siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am yr angen i ddiwygio llywodraeth leol, ond mae'n camu'n ôl yn awr am na all wneud penderfyniadau anodd.
Rwyf hefyd yn pryderu'n fawr ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio. Derbynnir 18 oed yn y Deyrnas Unedig fel oedran dod yn oedolyn. Nid ydym yn caniatáu i rai 16 oed yfed, gyrru, gamblo na gwylio ffilmiau dan gyfyngiadau—maent yn mynd i sefydliadau troseddwyr ifanc a hyd yn oed i wardiau plant mewn ysbytai. O ran y fyddin—fel y dywedoch chi'n gynharach—ni chânt ymuno â'r fyddin heb gydsyniad rhiant os ydynt o dan 18 oed, oherwydd bu'n rhaid i mi lofnodi dros fy mab.
Credaf y dylem adael yr oedran pleidleisio yn 18 oed. Mae'n ddefod newid byd—rhywbeth i edrych ymlaen ato ac i fod yn falch ohono. Am y rhesymau hyn, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ac i ddatgan cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r cynnig i gyflwyno'r Bil hwn. Mae Deddf Cymru 2017 wedi dod â phwerau newydd yn y maes hwn, ac mae'n iawn iddyn nhw gael eu defnyddio i wneud ein deddfwrfa yn fwy effeithiol, hygyrch ac amrywiol o ran cynrychiolaeth.
Mae'r diwygiadau a gynigir ar gyfer eu cynnwys yn y Bil hwn yn bwysig er mwyn sicrhau bod rôl y Cynulliad, ei brosesau a'i drefniadau etholiadol yn glir. Yn fwyaf arbennig, rwy'n croesawu'r argymhelliad i ymestyn yr etholfraint ar gyfer pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad i rai 16 a 17 mlwydd oed. Yn wahanol i Gareth Bennett, credaf fod rhai 16 i 17 mlwydd oed yn berffaith abl i arfer y lefel honno o ymgysylltiad democrataidd.
Cymeradwyaf nod y Comisiwn i rymuso, ymgysylltu ac ennyn diddordeb pobl ifanc mewn cymryd rhan yn y prosesau democrataidd yng Nghymru. Ers amser maith, bu'r Llywodraeth hon o blaid ymwneud pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd, sy'n hanfodol i sicrhau democratiaeth iach. O fewn ein Bil llywodraeth leol ac etholiadau ein hunain sydd ar y gweill, byddwn yn cynnwys darpariaethau i ganiatáu hawl i rai 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio mewn etholiadau lleol.
Gall rhai 16 mlwydd oed gymryd rhan yn gyfreithiol mewn llu o weithgareddau, felly mae'n iawn ac mae'n gyfiawn ein bod yn caniatáu llais iddynt hefyd i siarad a phleidleisio ar faterion sy'n effeithio arnynt hwy, fel y maent yn effeithio ar bawb arall.
A wnewch chi gymryd ymyriad? Rwy'n chwilfrydig—un o'r pethau a gododd wrth benderfynu ar y Bil hwn oedd a fyddai rhai 16 a 17 mlwydd oed yn hoffi rhywfaint o addysg drwy'r system ysgolion ar y system wleidyddol ac yn y blaen, yn hytrach na gwleidyddiaeth plaid. A oes gennych farn ynglŷn ag a fyddai'n well ymdrin â hynny mewn Bil fel hwn, neu ym Mil llywodraeth leol y Llywodraeth ei hun?
Nid oes gennyf farn ar hynny. Rwy'n meddwl ei bod hi'n amlwg yn bwysig inni wneud yn siŵr fod gennym etholwyr gwybodus o bob oed, a chredaf y dylem fanteisio ar bob cyfle a gawn i wneud yn siŵr mai felly y mae.
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliodd y Comisiwn yn awgrymu fod pobl ifanc yn fwy tebygol o barhau i gymryd rhan wrth iddynt dyfu'n hŷn os ydym yn eu hannog i ymwneud â gwleidyddiaeth yn ifanc. Dylai hyn sicrhau lefelau cryf o gyfranogiad y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd ar gyfer y dyfodol, a pha well ffordd o ymgysylltu â phobl ifanc na chaniatáu iddynt gymryd rhan a phleidleisio yn yr etholiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eu bywydau? Mae Llywodraeth Cymru'n credu nad i bobl ifanc yn unig y dylid caniatáu llais; dylai'r hawl i bleidleisio fod yn berthnasol i bawb sydd â buddiant yn ein cymdeithas. Bydd ein Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd i ddod yn rhoi pleidlais hefyd i wladolion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru mewn etholiadau llywodraeth leol. Cred y Llywodraeth fod yn rhaid cymhwyso'r egwyddor hon yn gyson ar draws etholfreintiau etholiadol Cymru, a hoffai'r Llywodraeth ymchwilio i'r materion hyn, wrth i'r Bil fynd rhagddo, gyda Chomisiwn y Cynulliad.
Hefyd, rwy'n croesawu'r cynnig i ddiwygio'r darpariaethau presennol yn Neddf 2006 sy'n ymwneud ag anghymhwyso. Fel y cydnabyddir yn eang bellach, rwy'n credu, mae'r darpariaethau hynny'n cyfuno dau gwestiwn hollol neilltuol: ar y naill law, pwy, os unrhyw un, y dylid eu hatal rhag sefyll etholiad oherwydd y swyddi sydd ganddynt, ac ar y llaw arall, pa swyddi y dylai ymgeisydd llwyddiannus ymddiswyddo ohonynt cyn gallu ymgymryd â'u haelodaeth o'r Cynulliad. Mae arnom angen eglurder ar hyn, a gobeithio y bydd cynigion y Bil yn helpu i ddarparu'r eglurder hwnnw.
Rwy'n falch o fynegi cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil arfaethedig hwn. Edrychaf ymlaen at ei gyflwyno ac rwy'n croesawu'r cyfleoedd a ddaw yn ei sgil i ddadlau ac ystyried ymhellach, er mwyn sicrhau bod ein deddfwrfa'n parhau i wasanaethu pobl Cymru'n effeithiol mewn tirwedd gyfansoddiadol sy'n newid.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Llywydd i ymateb i'r ddadl?
A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma? Fel y dywedodd Suzy Davies wrth iddi ddechrau ei ymateb, rydym wedi dod yn bell, cryn bellter o'r Cynulliad Cenedlaethol a etholwyd gyntaf yn 1999. Rydym yn Senedd go iawn—eich geiriau chi—rydym yn Senedd go iawn yn awr, a dylem alw ein hunain yn hynny ym mha iaith bynnag, a dof at y pwynt hwnnw yn nes ymlaen.
Ymddengys bod mwyafrif o gefnogaeth yn y Siambr hon i ganiatáu i bobl ifanc—rhai 16, 17 oed—i gael pleidlais ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol, neu Senedd Cymru. Disgrifiodd Siân y peth yn hyfryd—mae pobl ifanc yn benseiri ar eu dyfodol; mae angen iddynt gael llais ym mhensaernïaeth eu dyfodol. Nid yw'n rhywbeth y mae pawb yma yn cytuno yn ei gylch, ac roedd hynny'n wir, gyda llaw, yn yr ymatebion a gawsom i'r ymgynghoriad hefyd, lle roedd mwyafrif o blaid gweld rhai 16 a 17 oed yn pleidleisio, er nad oedd pawb yn cefnogi hynny.
Ar rannu swyddi, y pwyntiau a wnaeth Jane Hutt a Siân Gwenllian, rwy'n deall y siom ynglŷn â'r ffaith nad yw argymhelliad y panel arbenigol ar rannu swyddi'n mynd i gael ei gyflwyno yn y ddeddfwriaeth hon, a chawsom drafodaeth am hyn yn y Comisiwn. Nid ydym yn argyhoeddedig ar hyn o bryd fod uwch-fwyafrif yn y Siambr hon o blaid cyflwyno hynny fel rhan o'r ddeddfwriaeth, ond yn fwy sylfaenol mae'n debyg, ceir problem gyda chymhwysedd lle mae'n ymwneud â hawl Aelod Cynulliad i ddod yn Weinidog neu'n Ysgrifennydd Cabinet. Ac nid wyf am fod mewn sefyllfa lle'r etholir Aelodau i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn sy'n cael bod yn Aelodau Cynulliad, ond heb fod ganddynt hawl i ddod yn Ysgrifenyddion Cabinet. I bob pwrpas, byddai gennym ddwy haen o Aelodau ar y pwynt hwnnw. Felly, dyna fater sy'n galw am ei ddatrys cyn i ni ymgymryd ag unrhyw ddeddfwriaeth ar y mater hwn. Daw ei amser—nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny—ond nid yw wedi dod eto.
Nawr, mynegwyd y safbwyntiau gwahanol ynglŷn â beth i alw'n hunain. Ni chredaf y dylem ymroi'n ormodol i ystyried beth i'w roi'n enw arnom ein hunain neu beth i'w roi'n enw ar y Senedd hon. Rydym yn mynd i fod yn Senedd, yn 'Parliament'. Mae'n amlwg fod gwahaniaeth barn wedi'i fynegi yma heddiw ynglŷn ag a ddylem ddefnyddio'r enw Cymraeg yn unig, Senedd, i gyfeirio at y lle hwn yn hytrach na Senedd Cymru/Welsh Parliament. Gadewch imi eich atgoffa chi i gyd fod angen i 40 o'r 60 ohonoch gytuno i'r newid enw hwn fel rhan o'r ddeddfwriaeth wrth iddi weithio ei ffordd drwy'r Cynulliad Cenedlaethol a chyrraedd Cyfnod 4. Y rhai ohonoch sy'n cefnogi 'Senedd' a'i ddefnydd yn y Gymraeg yn unig—edrychwch i weld a oes 40 ohonoch a fyddai'n cefnogi hynny, a dyna'r ffordd i wneud y newid hwnnw.
Fel y dywedodd Lee Waters, bydd yr hyn y byddwn yn galw ein hunain fel Aelodau Cynulliad, o'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, yn deillio o'r hyn y byddwn yn ei alw'n Senedd, yn 'Welsh Parliament', a bydd meddyliau plentynnaidd—fel y galwoch chi eich hun, rwy'n credu, Lee—yn chwarae ar rai fersiynau o'r hyn y galwn ein hunain. Ond unwaith eto, buaswn yn gofyn ichi—mae angen inni gytuno ar hyn; mae angen inni gael 40 o'r 60 ohono, ohonom—mae gennyf bleidlais ar hyn, gyda llaw, yn yr achos penodol hwn, fel sydd gan Ann Jones, felly mae angen i 40 o'r 60 ohonom gytuno ar hyn, ac ni ddylem bendroni a threulio gormod o amser ar y peth. Mae rhai wedi dweud bod angen inni dreulio mwy o amser ar beth y mae'r Senedd yn ei wneud mewn gwirionedd, ac rwy'n cytuno â hynny, ond rydym yn Senedd, rydym yn galw ein hunain yn hynny ac rydym yn gweithio ar ran pobl Cymru, ac er mwyn inni wneud hynny, a gadewch i ni ddechrau heddiw, gobeithio, ar y broses o ddeddfu ar y materion hyn. Bydd craffu'n dilyn a gellir archwilio'r holl fanylion ar y pwynt hwnnw, ond rwy'n gobeithio y caniatewch i'r Comisiwn gyflwyno'r Bil hwn ar gyfer ei graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.