– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 16 Hydref 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y datganiad gan Weinidog yr Amgychedd, a'r diweddariad am effeithiau llifogydd storom Callum. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llifogydd a welwyd ledled Cymru dros y penwythnos o ganlyniad i storm Callum. Hoffwn ddechrau drwy gydymdeimlo â phawb sydd wedi dioddef llifogydd dros y penwythnos ac yn arbennig i deulu Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd o ganlyniad i dirlithriad.
Hoffwn ddweud ar goedd bod y Llywodraeth hon yn diolch i'r gwasanaethau brys, yr awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, a fu'n gweithio'n ddiflino ddydd a nos dros y penwythnos i helpu'r rhai sydd wedi dioddef llifogydd, yn cau ffyrdd a gwagio eiddo, ac maen nhw bellach yn gweithio gyda chymunedau i’w cynorthwyo i adfer y sefyllfa.
Rwy'n cydnabod pa mor ddinistriol a gofidus y gall llifogydd fod i'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw. Bore yma, gwelais drosof fy hunan rai o'r effeithiau pan ymwelais â Llandysul, lle cyfarfûm â thrigolion a thimau a ymatebodd dros y penwythnos ac sy'n parhau i weithio i adfer y sefyllfa.
Daeth storm Callum â llawer iawn o law i Gymru, gyda hyd at 160mm yn cael ei gofnodi mewn cyfnod o 24 awr—mwy na'r cyfartaledd misol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Yn ystod cyfnod brig y digwyddiad hwn, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 40 o rybuddion llifogydd. Cafodd hyn effaith enfawr ar ein hafonydd, gyda rhai ohonyn nhw'n cofnodi'r lefelau uchaf sydd wedi'u cofnodi erioed, ac, mewn llawer o leoedd, roedd systemau draenio wedi eu gorlwytho. Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at lifogydd mewn eiddo, ar ffyrdd, rheilffyrdd a thir amaethyddol ledled y wlad.
Mae'r awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i weithio i asesu graddfa lawn y difrod a'r effeithiau. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o lifogydd mewn eiddo yn awdurdodau lleol Sir Gâr, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Abertawe ac Ynys Môn. Mae ein hamcangyfrifon presennol yn nodi bod 218 eiddo ledled Cymru wedi dioddef llifogydd mewnol, 195 yn gartrefi, y rhan fwyaf o'r rhain yn hanner deheuol y wlad. Mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gasglu gwybodaeth am lifogydd mewn eiddo a, dros y dyddiau nesaf, mae'r ffigur hwn yn debygol o newid. Yn ogystal â hyn, mae Dŵr Cymru hefyd wedi dweud bod o leiaf 29 eiddo wedi dioddef llifogydd mewnol.
Cafodd storm Callum effaith sylweddol ar wasanaethau rheilffyrdd ar holl rwydwaith Cymru a'r gororau, gyda llifogydd a gwyntoedd cryfion yn arwain at ganslo nifer o wasanaethau, ac yn effeithio hefyd ar berfformiad cyffredinol. Roedd difrod yn sgil llifogydd yn arbennig o ddifrifol ar reilffordd Calon Cymru, lle mae llifogydd ar ran sylweddol o'r trac ger Llandeilo yn golygu y bydd y llinell yn parhau i fod ynghau yn rhannol am sawl diwrnod eto. Yn ychwanegol at yr effaith ar y seilwaith rheilffyrdd, difrodwyd nifer sylweddol o drenau hefyd yn ystod storm Callum drwy iddyn nhw daro coed a changhennau, yn ogystal â gorfod mynd trwy ddyfroedd llifogydd.
Effeithiwyd ar nifer o ffyrdd a phontydd drwy'r wlad dros y penwythnos, ac mae rhai yn dal i fod ynghau. Ni chaewyd y ffyrdd a oedd ynghau yn sgil y llifogydd oherwydd i'r seilwaith fethu, ond oherwydd bod cymaint o ddŵr yn llifo drostynt neu o afonydd yn torri eu glannau. Ailagorwyd y rhan fwyaf o'r cefnffyrdd ddydd Sul ac mae pob un ar agor yn llwyr erbyn hyn.
Adroddodd y cwmnïau pŵer bod dros 38,000 o gwsmeriaid wedi'u heffeithio gan y tywydd garw. Fodd bynnag, roedd pŵer pob cwsmer wedi'i adfer o fewn 24 awr.
Cafwyd nifer o achosion o anifeiliaid yn cael eu dal yn y llifogydd dros y penwythnos. Ymatebodd amryw o asiantaethau yng Nghymru, gan gynnwys y gwasanaethau brys, y trydydd sector a swyddogion gorfodi i adroddiadau o anifeiliaid mewn perygl. Er eu bod wedi gallu helpu mewn llawer o achosion, yn anffodus roedd yr amodau a'r risg i fywyd pobl yn golygu nad oedd bob amser yn bosibl ymyrryd.
Er ein bod ni wedi gweld llifogydd mewn llawer o ardaloedd ledled y wlad, rydym ni hefyd wedi cael adroddiadau o asedau yn gweithio'n effeithiol i leihau'r perygl mewn sawl lle. Dwy enghraifft yw'r adroddiadau o Ystradgynlais a Brynbuga, lle gwnaeth yr amddiffynfeydd eu gwaith ac atal llifogydd yn y trefi hynny. Mae hyn yn helpu i ddangos sut mae ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd, codi ymwybyddiaeth a systemau rhybuddio wedi cael effaith gadarnhaol.
Mae angen inni yn awr ddeall graddau llawn yr effeithiau sy'n gysylltiedig â storm Callum i lywio trafodaethau ag awdurdodau lleol ac i weld beth y gallwn ni ei wneud i gefnogi'r cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt. Yn dilyn achos o lifogydd mawr, mae gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i ymchwilio i'w achos a'i effeithiau, a chynnig argymhellion ar gyfer y dyfodol. Gallai hyn gynnwys sylwadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a Dŵr Cymru pan fo angen, yn ogystal â pha wersi y gellir eu dysgu ar gyfer y dyfodol. Gwn fod rhai awdurdodau lleol yn ystyried cynllun caledi a'u bod eisoes yn trafod gyda swyddogion cyllid a all Llywodraeth Cymru gynorthwyo â chymorth ariannol brys. Hoffai'r Llywodraeth hon roi ystyriaeth lawn i hynny.
Rwy'n cydnabod pwysigrwydd addasu i'n hinsawdd newidiol a heriol, a dyna pam mae rheoli perygl llifogydd yn parhau i fod yn un o'm blaenoriaethau. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn camau i reoli risg sy'n deillio o lifogydd ac erydu arfordirol a dros oes y Llywodraeth hon byddwn yn buddsoddi dros £350 miliwn ledled Cymru. Nid yw ein buddsoddiad yn canolbwyntio ar adeiladu a chynnal amddiffynfeydd yn unig, ond hefyd ar gydnerthedd cymunedol a gwaith atal, drwy well gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth o lifogydd a pharatoi cynlluniau llifogydd i leihau'r effeithiau ar fywydau ac eiddo.
Ni allwn ni atal pob achos o lifogydd, felly mae ailadeiladu cydnerthedd a dysgu o'r digwyddiadau hyn yn hollbwysig. Fel y dywedais ar y dechrau, ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain, a hoffwn gloi drwy ddiolch eto i bawb a fu'n rhan o'r ymateb i'r achosion hyn o lifogydd ac sy'n dal i weithio'n galed i helpu â'r gwaith adfer.
Fe wnaeth storm Callum, yn wir, ddinistrio cartrefi, busnesau a hawlio bywydau, ac aiff fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau y dyn ifanc, Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd. Ond mae'n rhaid imi ddweud hefyd y gwelwyd ymdrechion gwirioneddol arwrol yn y tirlithriad a hawliodd fywyd y dyn ifanc hwn, a hoffwn dalu teyrnged yn gyhoeddus i ddau weithiwr Cyngor Sir Gâr, oherwydd, ar y ffordd honno pan ddaeth y tirlithriad i lawr gyda galwyni a galwyni o ddŵr, fe wnaeth ysgubo'r lori oddi ar y ffordd, dros y lan ac i mewn i'r afon, oherwydd mae'n ffordd afon sy'n mynd drwy Gwmduad. Aeth y lori i mewn â'i phen yn gyntaf, roedd y gyrrwr dan ddŵr a neidiodd y ddau weithiwr hynny o Gyngor Sir Caerfyrddin i ganol y cenllif tymhestlog, torri'r ffenestri a'i dynnu allan. Rwy'n siŵr bod storïau eraill ledled Cymru am bobl sydd wedi gwneud pethau gwirioneddol arwrol, a hoffwn dalu teyrnged iddyn nhw.
Hoffwn ddiolch i Gyngor Sir Gâr, Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ond rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i dalu teyrnged i Gyngor Sir Gâr—i Mark James, Ruth Mullen a'r staff, sydd i gyd wedi bod yn anhygoel. Eisoes, mae'r timau tai wedi bod allan, mae'r timau adfywio wedi bod allan, yr wythnos nesaf bydd canolfan symudol yn cael ei sefydlu i helpu pobl gyda budd-daliadau, gyda chyfeirio, gydag ad-daliadau ardrethi, ac mae eu gweithredu cadarnhaol a'u penderfyniad i gynnig £100,000 heddiw ar gyfer unigolion, a £200,000 ar gyfer busnesau, yn gwneud, mae arnaf ofn, Gweinidog, i'r datganiad gan Lywodraeth Cymru heddiw edrych yn simsan. Gweinidog, a fyddwch chi'n gallu cynnig unrhyw arian go iawn i gynghorau ledled Cymru i gynorthwyo â chronfa galedi? A ydych chi'n gallu ymrwymo i roi cymaint o arian â phobl fel Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd eisoes wedi rhoi £300,000? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad y byddech yn hoffi rhoi ystyriaeth lawn i hynny—ond heddiw; maen nhw angen yr arian heddiw. Mae bywydau wedi'u dinistrio; mae angen iddyn nhw ddechrau ailadeiladu heddiw. Rwy'n poeni y bydd y Llywodraeth yn treulio hydoedd yn ystyried popeth cyn y bydd yn gweithredu. A wnewch chi egluro hynny i mi os gwelwch yn dda?
Mae'n bosibl y bydd y cynghorau yn gallu cefnogi'r busnesau llai o faint, ond, wrth gwrs, bydd angen arian ar gyfer y busnesau canolig a mawr, yn enwedig y rhai hynny nad oedden nhw'n gallu cael yswiriant risg llifogydd—nifer o fusnesau, eto yng Nghaerfyrddin. Mae yna gwmni mawr sydd â'r holl lorïau agored a'r lorïau achub—mae pob un wedi mynd—ni allan nhw gael yswiriant oherwydd eu bod nhw'n wrth yr afon. Mae hwn yn fater, Llywydd, y mae'r Pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd wedi ei ystyried mewn gwahanol gyfnodau o'r Cynulliad hwn a dydym ni ddim pellach ymlaen yn helpu busnesau a chartrefi sydd wedi'u heffeithio gan yr hyn sydd bellach yn risgiau llifogydd mawr, i gael yr yswiriant hwnnw. Felly, mae'r bobl hyn—mae eu bywoliaeth wedi mynd. Felly, hoffwn wybod beth y gallech chi ei wneud i'w helpu.
Gweinidog, a wnewch chi hefyd ddiystyru'r trothwy y mae angen i gynghorau ei gyrraedd cyn iddynt allu cael unrhyw arian o gronfa galedi Llywodraeth Cymru? Mae'r trothwy wedi'i bennu'n eithaf uchel ac rwy'n credu, mewn achos fel y llifogydd hyn, y byddai'n ddefnyddiol pe gellid diystyru hynny. Gweinidog, bydd y pethau bach hefyd—felly, er enghraifft, mae'r cynghorau allan yn glanhau tai, yn ymdrin â nwyddau sydd wedi eu dinistrio—yn eu tro, yn effeithio ar eu targedau ailgylchu gwastraff trefol. A allwch chi ystyried peidio â chynnwys y llanast hwnnw sydd wedi deillio o'r storm fel nad yw'n rhan o'r targedau ailgylchu hynny, oherwydd bydd hynny'n niweidio'r cynghorau yn y tymor hir o ran cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru?
Yn anad dim, Gweinidog, roedd hyn yn ofnadwy, ac yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin ac, yn wir, yng Nghaerfyrddin gyfan, bu'r effaith yn enfawr, o'r caffi a oedd yn cyflogi 12 o bobl sy'n mynd i'w chael hi'n anodd agor byth eto, i'r cwmnïau mawr sydd wedi colli cymaint. Felly, tybed, Gweinidog, a wnewch chi gytuno i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni i gyd ymhen y mis, ar ffurf datganiad llafar, gan fod angen inni roi gwybod i bawb bod Cymru yn dal ar agor er gwaethaf storm Callum, ac ar fy rhan i ac fel ymateb uniongyrchol i fusnesau Caerfyrddin, a allwn ni roi gwybod i bawb bod Caerfyrddin yn dal ar agor er gwaethaf storm Callum os gwelwch yn dda?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad? Fe wnaethoch chi hi'n hollol glir eich hun bod Caerfyrddin yn dal i fod ar agor er gwaethaf storm Callum. Rydych chi yn llygad eich lle, wrth ichi agor eich sylwadau heddiw, i sôn am yr enghreifftiau anhygoel hynny o ddewrder a phobl yn gwneud popeth yn eu gallu i helpu eu cyd-ddinasyddion ar adeg o argyfwng. Un peth a'm trawodd i pan ymwelais i y bore yma, er gwaethaf edrych ar gymaint yr oedd yr hyn a ddigwyddodd wedi achosi trallod a gofid i bobl, oedd yr ymdeimlad llwyr o ysbryd cymunedol, a'r straeon yr wyf i wedi'u clywed am bobl yn helpu ei gilydd—y ganolfan padlo, lle bydd pobl yn dod o bob cwr o'r wlad—. Roedden nhw'n dal i wenu. I mi, roedd yn bwysig iawn, fel y Gweinidog, i fynd yno ac i siarad â phobl, ond hefyd i glywed ganddynt, felly mae'n rhoi'r angerdd ychwanegol hwnnw y mae ei angen arnoch i wybod mewn gwirionedd bod angen inni wneud gwahaniaeth i gefnogi'r bobl hyn.
Rwy'n credu bod camau gweithredu Cyngor Sir Gâr i'w canmol. Cyfarfûm â chynrychiolwyr y cyngor y bore yma. Roeddent yn sôn am eu cronfa frys a'r hyn y maen nhw'n ei roi fesul cartref hefyd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r pwysau o ran amser a'r angen i ymateb a'r angen i gefnogi pobl pan maent ei angen yn awr. Felly, rydym ni'n casglu'r wybodaeth honno ar hyn o bryd. Cyn gynted ag y bydd yr wybodaeth honno gennym ni—gan siarad ag awdurdodau lleol, ac maen nhw eisoes yn cysylltu â'm swyddogion heddiw i edrych ar beth fu'r effeithiau a beth fydd yr effeithiau a beth sydd angen ei wneud—rwy'n siŵr y byddwn ni'n gallu ymateb mor brydlon â phosibl.
O ran y llanast y gwnaethoch chi sôn amdano o'r storm a'r gwaith glanhau, rwy'n siŵr bod hynny'n rhywbeth y byddem yn barod i ystyried ei hepgor hefyd.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad amserol. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â'r sylwadau a wnaed ganddi hi ac Angela Burns, ac estyn fy nghydymdeimlad i—a Phlaid Cymru—at bawb sydd wedi'u heffeithio, fel sydd eisoes wedi'i fynegi yn gynharach gan Adam Price, ac yn enwedig i deulu a ffrindiau etholwr Adam, Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn drasig. Roeddwn yn llawn tosturi o glywed y sylwadau a wnaeth Angela am sut y mae llawer o bobl ddewr wedi mynd yr ail filltir yn wir i ddiogelu eu hunain, eu ffrindiau a'u cymdogion ledled rhanbarth y canolbarth a'r gorllewin yn y cyfnod anodd hwn. Fe hoffwn i gytuno â sylwadau'r Gweinidog a sylwadau Angela Burns—y diolch y maen nhw wedi ei fynegi i'r gwasanaethau brys, i'r holl wasanaethau cyhoeddus, ac i staff yr awdurdod lleol ar draws y canolbarth a'r gorllewin a fu'n gweithio mor galed dros y penwythnos i gynorthwyo'r rhai hynny yr effeithiwyd arnynt. Cefais adborth cadarnhaol iawn, er enghraifft, gan etholwyr o ran pa mor ddefnyddiol fu'r llinellau cymorth brys yr oedd cynghorau Ceredigion a Chaerfyrddin yn eu cynnal yr adeg anodd iawn hon. Mae'n braf iawn gallu adrodd yn ôl ar sefyllfa frys ac ar ymateb i sefyllfa o'r fath yr ymddengys ei bod, mewn gwirionedd, yn gweithio i bobl. Rwy'n falch iawn bod y Gweinidog wedi gallu ymweld ag un o'r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, a gwn y bydd fy nghyd-Aelodau, Ben Lake AS, Jonathan Edwards AS ac Adam Price AC yn ymweld â mwy o ardaloedd yr effeithiwyd arnynt ddydd Gwener. Mae fy nghyd-Aelod Elin Jones AC, ein Llywydd ni, dros Geredigion wedi gofyn imi sôn yn benodol am ymdrechion y cymunedau eu hunain ac ymdrechion gwirfoddolwyr o'r trydydd sector i helpu gyda'r gwaith clirio ar ôl y storm ddinistriol hon.
Rhain oedd, wrth gwrs, y llifogydd gwaethaf a wynebodd llawer o'r cymunedau yn fy rhanbarth i ers 30 mlynedd, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi bod effeithiau newid yn yr hinsawdd yn golygu bod y digwyddiadau eithafol hyn yn mynd i ddod yn fwy cyffredin. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod bellach yn bryd—? Ac mae hi wedi crybwyll cydgysylltu, ond credaf fod angen inni fynd â hyn ymhellach. A yw hi'n cytuno â mi ei bod hi bellach yn bryd i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun addasu i newid yn yr hinsawdd i sicrhau ein bod yn gwbl barod a bod ein cymunedau wedi'u hamddiffyn yn ddigonol? Ac a wnaiff hi ymrwymo heddiw i drafod datblygu cynllun o'r fath gyda chydweithwyr ar draws y Llywodraeth ac i adrodd yn ôl i'r Siambr ar y cynnydd? Dydw i ddim yn awgrymu, Llywydd, nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd unrhyw gamau yn y maes hwn, ond credaf ei bod bellach yn bryd i ni, mewn gwirionedd, ystyried cydgysylltu'r gweithredu hwnnw hyd yn oed yn fwy effeithiol ar draws portffolios.
Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog yn sôn bod yna gymunedau a gafodd eu diogelu'n llwyddiannus gan amddiffynfeydd llifogydd sy'n bodoli eisoes, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yr yn mor falch â hi yn hynny o beth, ond bydd hi'n ymwybodol y bu yna sefyllfaoedd lle cafodd amddiffynfeydd sydd eisoes yn bodoli eu torri, ac nid yw pob un ohonyn nhw'n amddiffynfeydd hirsefydlog. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i adolygu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, ac yn wir y math o amddiffynfeydd rhag llifogydd yr ydym ni yn eu defnyddio, yng ngoleuni'r toriadau hyn?
Yn ei datganiad, mae'r Gweinidog yn datgan na chaewyd ffyrdd oherwydd i'r seilwaith fethu. Gobeithio y byddai hi'n cytuno â mi bod angen inni fod yn addasu ein seilwaith i ddiwallu anghenion amseroedd newidiol iawn. Rwy'n siŵr ei bod hi'n ymwybodol, er enghraifft, fod y rhan fwyaf o'r pontydd ar draws afon Teifi wedi'u cau am gyfnodau hir, gan greu problemau sylweddol ar gyfer gwasanaethau brys, er enghraifft, o ran cyrraedd ysbyty Glangwili o Geredigion. A wnaiff hi ymrwymo heddiw i adolygu, gyda'r awdurdodau lleol a'r cyrff cyhoeddus, pa mor briodol yw'r seilwaith yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnyn nhw, gan roi sylw penodol i gryfder y pontydd dros afon Teifi ac afon Tawe? Mae rhai ohonyn nhw, fel y bydd hi'n ymwybodol, o gryn oedran ac mae'n bosibl y bydd grymuster y digwyddiad hwn wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw.
O ran adnoddau, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni a yw Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â Llywodraeth San Steffan, neu a fyddwch chi'n gwneud hynny, gyda'r bwriad o fanteisio efallai ar y cymorth ariannol sydd ar gael o Gronfa Gydsefyll yr UE? Credaf y gallai hyn fod yn ffynhonnell werthfawr o adnoddau ychwanegol yn y cyfnod anodd hwn. A wnaiff hi—? Ac mae hi wedi crybwyll hyn, ond hoffwn bwyso arni ymhellach ar hyn—. Soniodd am hyn mewn ymateb i Angela Burns, ond a wnaiff hi roi sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw drwy'r cynllun cymorth ariannol brys? Llywydd, ni fyddai neb yn disgwyl i'r Gweinidog roi pris ar hynny heddiw, ond rwy'n teimlo bod angen inni geisio sicrwydd ganddi y bydd cymorth ar gael, hyd yn oed os na all hi ddweud wrthym ni faint yn union ar hyn o bryd.
Ac, yn olaf, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthym ni pa gymorth a all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r gymuned ffermio, y bydd llawer ohonyn nhw yn wynebu colledion dinistriol o ran offer a da byw? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad cynhwysfawr, ac fe wnaf fy ngorau i ateb y cwestiynau yr ydych chi wedi'u codi. Credaf eich bod hefyd yn iawn eto i dalu teyrnged i, a chydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr, y gymuned leol, yn ogystal â'r gwasanaethau brys, y mae pob un ohonom ni, rwy'n credu, nid yn unig y cymunedau lleol, yn ddyledus iddynt. Ac mae'n dda clywed y straeon cadarnhaol hefyd am linellau cymorth brys yn gweithio dda, bod camau atal wedi'u rhoi ar waith. Un o'r pethau a glywais y bore yma hefyd oedd sut y gwnaeth rhai o rybuddion Cyfoeth Naturiol Cymru helpu i roi gwybod i bobl felly os oedden nhw mewn ardal â risg o lifogydd, roedden nhw'n gallu symud eu ceir neu gymryd camau penodol i atal yr effaith ar eu cartref a'u hardal hefyd, mewn gwirionedd.
O ran ystyried adolygiad o'n blaenoriaethau ni, ar ôl unrhyw ddigwyddiad fel hwn, pan fydd ein gallu a'n cydnerthedd wedi'u profi, mae'n iawn a phriodol inni edrych ar yr hyn sydd wedi gweithio a hefyd edrych ar yr hyn nad yw wedi gweithio a gweld y pethau y mae angen eu newid yn y dyfodol. Felly, rydym ni yn disgwyl y byddwn nawr yn gweithio gydag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, a'r holl randdeiliaid eraill i edrych ar yr hyn a ddigwyddodd a'r hyn y bydd angen i ni ei newid o bosib ar gyfer y dyfodol, oherwydd mae bob amser yn briodol ein bod yn dysgu gwersi a'n bod yn ategu'r gwaith yr ydym yn ei wneud wrth gynnal yr ymrwymiad hwnnw i atal llifogydd ledled Cymru gyfan hefyd.
O ran y cynllun addasu i newid yn yr hinsawdd ac atal llifogydd, wrth gwrs, mae newid yn yr hinsawdd yn un o'r ffactorau sy'n cael ei ystyried o ran sut yr ydym ni'n mapio perygl llifogydd ac yn mynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny yn ein gwaith atal yng Nghymru fel y mae, ond, yn sicr, wrth i'r bygythiadau newid yn yr hinsawdd gynyddu fwy fyth—yr heriau a ddaw yn sgil hynny—nid yw ond yn briodol ein bod yn ystyried hynny yn ei gyfanrwydd. Rwy'n siŵr y byddaf i ac Ysgrifennydd y Cabinet dros ynni yn cydweithio'n agos, gyda chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet, o ran sut yr ydym ni'n addasu i newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, a fydd yn amlwg yn ystyried y popeth mewn modd cynhwysfawr, gan gynnwys atal llifogydd a chamau lliniaru hefyd.
O ran cyllid brys sydd ar gael i helpu, rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth—fel a ddywedais wrth fy nghyd-Aelod, Angela Burns, y mae hynny eisoes yn cael ei drafod gyda swyddogion ac mae'n rhywbeth, fel Llywodraeth Cymru, yr ydym yn agored iddo ac yn ei ddeall. Ac er eich bod chi'n gywir yn dweud na allaf roi ffigur neu nodi rhif ar hyn o bryd, yma yn y Siambr hon, yn sicr rydym yn ymwybodol o'r angen i fwrw ymlaen â hyn a hefyd i ystyried, mewn gwirionedd, a oes angen inni ystyried y trothwy hefyd yn rhan o hynny.
Yn olaf, dim ond ar y pwynt am Gronfa Gydsefyll yr UE, fy nealltwriaeth i ar hyn o bryd yw ei bod ond ar gael pan fo cost difrod llifogydd yn fwy na £1 biliwn. Yn amlwg, mae angen ystyried popeth a gynigir, popeth, ac yn amlwg rydych chi'n iawn y byddai angen mynd i'r afael ag unrhyw ddyrannu arian drwy drafod gyda swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Hyd y gwn i, nid fu unrhyw drafodaethau hyd yn hyn, ond, yn amlwg, byddai hynny'n dibynnu ar ganlyniad yr adolygiadau sy'n cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd yn yr holl gymunedau yr effeithiwyd arnynt.
Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Fel Angela Burns, rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Corey Sharpling, a fu farw yn anffodus mewn tirlithriad. Ac rwyf hefyd yn cydymdeimlo â phobl eraill yn y DU a fu farw neu sydd wedi dioddef anaf yn y storm ddiweddar. Rwy'n siŵr y bydd pob Aelod yn y lle hwn yn gwneud eu gorau glas i'w helpu nhw a'r bobl hynny y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi'u difrodi gan y gwyntoedd cryf a'r llifogydd a achoswyd gan storm Callum. Hoffwn hefyd ategu'r diolch a'r gwerthfawrogiad i'r gwasanaethau brys ac eraill ac aelodau o'r cyhoedd a weithiodd i helpu eu ffrindiau, cymdogion a phobl eraill drwy'r anawsterau a achoswyd gan y storm.
Rwy'n sylweddoli y bydd rhai cymunedau wedi elwa'n fawr o amddiffynfeydd rhag llifogydd sydd eisoes yn bodoli, ond, mewn rhai mannau, ni fu'r amddiffynfeydd hynny, yn amlwg, yn ddigonol, ac, wrth reswm, bydd preswylwyr yn bryderus. Felly, a wnewch chi gadarnhau beth fyddwch chi'n ei wneud i adolygu'r amddiffynfeydd rhag llifogydd, mewn cymunedau sydd â nhw eisoes a mannau lle mae trigolion a busnesau yn teimlo o bosib eu bod ar eu colled?
Rydych chi wedi cydnabod yn eich datganiad bod anifeiliaid wedi eu dal yn y llifogydd, a bu achosion o ddefaid yn cael eu golchi ymaith ac anifeiliaid eraill yn sownd. Hoffwn ofyn i chi pa gymorth all Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r ffermwyr hynny sydd wedi colli da byw ac sydd bellach â da byw sydd wedi'u hanafu oherwydd y llifogydd. Ceir adroddiadau hefyd o geffylau yn gorfod cael eu hachub o ddŵr y llifogydd. Felly, a ydych chi'n fodlon bod adnoddau priodol a digon o wybodaeth ar gael i helpu perchnogion ceffylau a pherchnogion anifeiliaid tebyg a ffermwyr hefyd i gynllunio ar gyfer, ac ymdopi â chanlyniadau llifogydd? Pa sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda ffermwyr ynghylch eu rhan nhw yn y gwaith o atal a lliniaru'r risg o lifogydd, a pha gymorth yr ydych chi'n ei gynnig iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu cyflawni hynny, mewn gwirionedd?
Mae Clwb Canŵio Padlwyr Llandysul yn fenter gymunedol ac mae eisoes wedi dechrau codi arian i fynd i'r afael â'r difrod a achoswyd, y maen nhw'n amcangyfrif sydd oddeutu £200,000. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cynnig rhyw faint o gefnogaeth i fentrau cymunedol sydd wedi'u heffeithio gan y tywydd garw? Ac mae darparu cyfleustodau yn effeithiol yn fater tyngedfennol i rai pobl—mewn ysbytai yn enwedig. Felly, pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael gyda chwmnïau cyfleustodau am eu hymateb i'r storm ac unrhyw heriau y gwnaethon nhw eu hwynebu y gall Llywodraeth Cymru fynd i'r afael â nhw ar gyfer y dyfodol? Diolch.
Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad a'i chwestiynau.
O ran edrych ar—. Fe wnaethoch chi gyfeirio at sut mae amddiffynfeydd rhag llifogydd wedi bod ar waith ac wedi gweithio ac i asesu a yw pethau wedi gweithio gystal ag y byddem ni wedi hoffi iddyn nhw weithio. Fel y dywedais o'r blaen, mae'n ddyletswydd arnom ni, pan fydd unrhyw beth fel hyn yn digwydd, y dylem ni adolygu ac asesu yr hyn sydd wedi digwydd pan fyddwn yn cael yr holl wybodaeth gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru a'r holl randdeiliaid a'r cymunedau dan sylw, a gwneud yn siŵr ein bod yn gallu dysgu o hynny a diwygio yn unol â hynny, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried yn ddifrifol iawn, fel y Gweinidog dros yr Amgylchedd, gan weithio ochr yn ochr â'm cyd-Aelodau perthnasol sydd yn y Llywodraeth ac yn y Cabinet. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei ystyried a bydd yn cyfrannu at ein cynlluniau yn y dyfodol wrth inni edrych ar beth yw ein blaenoriaethau ar gyfer atal.
Rydych chi'n iawn i grybwyll, a soniais yn fy natganiad, am yr effaith ar berchnogion tir a'r achosion o ran rhai defaid, a ffermwyr. O ran sut mae ein—. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig inni weithio gyda ffermwyr a pherchnogion tir, sy'n deall risg llifogydd ac sy'n deall rheoli tir yn eu hardaloedd, a dyna pam, pan fyddwn ni'n ystyried diweddaru ein strategaeth naturiol ar gyfer atal llifogydd, sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, bydd perchnogion tir a ffermwyr yn rhan o hynny hefyd, i wneud yn siŵr y gallwn ni ystyried a dysgu o'r holl bwyntiau yr ydych chi wedi'u codi o ran rheoli tir, a pherchenogion ceffylau ac anifeiliaid hefyd.
Fe wnaethoch chi sôn am y clwb padlwyr ac fe wnes i gwrdd â nhw heddiw yn Llandysul, mewn gwirionedd, a gweld yr hyn yr oedden nhw'n ei wneud o ran y gwaith glanhau a sut y mae pobl wedi dod o bob cwr o'r wlad a'u hariannu torfol. O ran hyn—wyddoch chi, mae'n rhaid inni weithio gyda'r holl randdeiliaid yn y gymuned a gweithio, fel Llywodraeth Cymru, i weld beth yw'r ffordd orau o gynnig cymorth yn y dyfodol.
Diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad. Fel yr wyf yn siŵr y byddwch chi'n gwybod, cafodd fy etholaeth i yn arbennig ei heffeithio gan storm Callum, a disgrifiwyd Aberdâr gan lawer fel y dref a gafodd ei tharo waethaf gan lifogydd. Yn Rhondda Cynon Taf, mae tua 40 o gartrefi a 29 o fusnesau wedi dioddef llifogydd, llawer ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Ac yn Penrhiwceiber, roedd dros 30 o bobl yn gaeth ar drên mewn dŵr llifogydd a oedd yn codi a bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu hachub gan ddefnyddio llwybr cerdded wedi'i lenwi ag aer.
Rwy'n dymuno ailadrodd sylwadau'r Aelodau eraill yn gynharach yn cynnig eu diolch i'r gwasanaethau brys, gweithwyr cyngor, gwirfoddolwyr ac eraill am eu camau gweithredu prydlon, a hefyd i gydymdeimlo â phawb sydd wedi'u heffeithio. Croesawaf eich sylwadau ynghylch rhoi ystyriaeth lawn i roi cymorth ariannol brys i awdurdodau lleol, ond rwyf eisiau gwneud y pwynt nad yw hyn ynghylch gwariant tymor byr ar unwaith yn unig. Yn Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, mae £100,000 eisoes wedi'i wario ar hynny ac mae £100,000 arall wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith ymchwilio a chlirio. Felly, a wnewch chi sicrhau eich bod yn rhoi ystyriaeth i fesurau hirdymor fel y rhai a allai helpu i liniaru effeithiau llifogydd ac arbed arian yn y tymor hir?
Yn ail, rydym ni'n gwybod, Gweinidog, bod coedwigo ardaloedd yr ucheldir yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol ac amgylcheddol gynaliadwy o liniaru llifogydd yn ein cymunedau yn y Cymoedd. Yn wir, os edrychwch chi ar Ardal y Llynnoedd, ar ôl storm Desmond yn 2015, plannodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1,400 o goed yno, sydd eisoes yn helpu i atal dŵr ffo a lleihau llifogydd. Felly, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi clirio cymaint o dir yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, fel yn Glenboi yn fy etholaeth, oherwydd clefyd coed ynn a chlefyd y llarwydd, ac nid yw'r gwaith o ailblannu coed mewn rhai ardaloedd allweddol wedi digwydd eto, beth arall y gellir ei wneud i gyflymu'r broses hanfodol o goedwigo?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a'i chyfraniad, yn enwedig ar ran eich etholwyr sydd hefyd wedi'u heffeithio gan y llifogydd dros y penwythnos. Rwy'n cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio ganddyn nhw, oherwydd rydym yn gweld cymaint o ofid y mae gweld eich cartref neu eich busnes a'ch cymuned yn cael eu heffeithio yn y modd hwnnw yn ei achosi, ac wedyn y gwaith clirio hefyd.
Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn am goedwigo. Mae rheoli risg llifogydd yn naturiol yn bendant yn rhywbeth i'w ystyried wrth leihau'r risg o lifogydd, a bydd hynny yn ffurfio rhan o'n strategaeth naturiol, yr ydym ni yn ei llunio a'i diweddaru ar hyn o bryd. Bydd hynny'n cynnwys pethau fel mannau storio llifogydd, plannu coed, defnyddio malurion pren ac argaeau sy'n gollwng, ac hefyd, ailgyflwyno dolenni, felly wrth gwrs mae'n rhywbeth sy'n—. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod bod hyn yn ffordd bwysig o ran sut yr awn ati i reoli llifogydd yn y dyfodol.
Oherwydd y gefnogaeth nawr gyda'r gwaith glanhau a'r costau uniongyrchol y mae angen eu talu—. Mae gwaith y mae angen ei wneud ar unwaith yn amlwg, ond rydych yn hollol gywir i sôn am fesurau tymor hir, oherwydd dyna'r holl bwynt o fod â—dyna pam yr ydym ni'n edrych ar atal llifogydd a rheoli risg o lifogydd, oherwydd rydym ni eisiau bod yn y sefyllfa orau bosibl yn y dyfodol, nid yn unig i atal llifogydd, amddiffyn eiddo a busnesau a chartrefi, ond er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bobl, hefyd. Oherwydd, pan rydych chi wedi eich effeithio unwaith gan lifogydd, mae bob amser yn mynd i fod yno ar eich meddwl bob tro y bydd glaw trwm. Bob tro y bydd rhywbeth fel hynny, mae hynny'n mynd i chwarae ar eich meddwl bob amser, ac mae hynny'n rhywbeth y sylweddolais yn llawn gan y bobl y bûm yn ymweld â nhw heddiw. Felly, mae'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei wneud. Dyna pam ei bod hi mor bwysig nad ydym yn meddwl yn y tymor byr yn unig; mae'n strategaeth hirdymor o ran sut yr ydym ni'n amddiffyn pobl yng Nghymru.
Gweinidog, diolch ichi am eich datganiad heddiw, ac rwyf innau hefyd yn ymuno â'r Aelodau eraill i gydymdeimlo â'r teuluoedd a'r rhai hynny yr effeithiwyd arnyn nhw—nid wyf yn credu bod 'digwyddiadau erchyll' yn eiriau rhy gryf, mewn gwirionedd, pan fyddwch chi'n gweld rhai o'r delweddau sydd wedi dod o bob cwr o Gymru. Yn amlwg, pan fydd marwolaeth yn un o ganlyniadau'r digwyddiadau hynny, yna maen nhw'n erchyll, a dweud y lleiaf.
Hoffwn bwyso arnoch chi ar ddau fater, os caf i, Gweinidog. Yn eich datganiad, rydych chi'n sôn am sut mae rheoli'r risg o lifogydd yn dal i fod yn un o'ch blaenoriaethau, ac rwy'n cefnogi hynny'n llawn. Ond eto, yn eich llythyr cylch gwaith, y soniodd arweinydd yr wrthblaid yn gryno amdano yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, o'r pum pwynt i chi fel Gweinidog—nid Ysgrifennydd y Cabinet, ond i chi fel Gweinidog yn benodol—nid yw atal llifogydd yn un o'r pum pwynt hynny sydd yn eich llythyr cylch gwaith ar gyfer eleni. Mae ailgylchu yn un, coetiroedd yn un, a mynd i'r afael ag ansawdd aer gwael, gwella'r ddealltwriaeth o werth natur, a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Felly, nid yw'n afresymol gofyn: pam yr oedd ar goll o'ch llythyr cylch gwaith i Gyfoeth Naturiol Cymru, o gofio mai hwnnw yw'r corff, yn amlwg, sy'n goruchwylio'r gwaith o gynllunio a chodi amddiffynfeydd rhag llifogydd ledled Cymru?
Ddoe, nododd y Prif Weinidog y byddai arian ar gael. Unwaith eto, rwy'n sylweddoli nad ydych chi mewn sefyllfa i roi ffigur ar hynny, a byddai'n anghywir, yn wir, cyn lleied o amser ar ôl y digwyddiad, ichi ddweud mewn gwirionedd, 'Dyma swm o faint bynnag sydd ar gael.' Byddai'n werth ystyried faint fydd ar gael. Ond a allwch chi gadarnhau y bydd yr arian yr oedd y Prif Weinidog yn sôn amdano yn arian newydd i'ch adran chi, neu a fydd yn rhaid iddo fod yn arian y bydd yn rhaid dod o hyd iddo o fewn eich adnoddau presennol? Oherwydd, fel y dywedais, fe wnaeth y Prif Weinidog nodi'n glir y byddai arian ar gael, felly dyna'r person uchaf yn y Llywodraeth yn dweud, yn rhoi'r ymrwymiad hwnnw, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig deall—ac mae'r Ysgrifennydd cyllid yn ei gadair—a yw'n sicrhau bod arian newydd ar gael i chi, ac, os felly, byddai hynny'n ychwanegiad dymunol iawn i'ch cyllideb.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad a'i eiriau o gydymdeimlad a chymorth i bawb sydd wedi cael eu heffeithio? Rydych chi'n codi, yn holi, a yw hyn yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Gallaf ei gwneud hi'n gwbl glir a dweud bod hwn yn flaenoriaeth, nid yn unig ar gyfer fy hun, ond ar gyfer y Llywodraeth hon. Ac fe wnaethoch chi sôn am y llythyr cylch gwaith. Pan ddeuthum i'r swydd a chyhoeddi'r datganiad, amlinellais nifer o flaenoriaethau, pump ohonyn nhw a restrwyd gennych chi yn y fan honno. Eglurais hefyd yn y datganiad hwnnw bod atal llifogydd yn flaenoriaeth allweddol a oedd yn rhyng-gysylltu ac yn cyd-blethu â llawer o hynny. Felly, mae'n sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a dyna pam yr ydym ni'n buddsoddi £350 miliwn yn ystod y tymor Cynulliad hwn, a £54 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, ac ni fydd hynny'n newid.
O ran sut y dylem ni symud ymlaen, dywedodd y Prif Weinidog ddoe y byddai arian ar gael o dan yr amgylchiadau hyn o lifogydd. Wel, mae'n mynd yn ôl at yr hyn yr wyf i wedi ei ddweud eisoes. Mae angen inni edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd, adolygu cyn gynted ag y gallwn ni, gweithio gyda'r holl randdeiliaid a'r awdurdodau lleol, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, i edrych ar beth sy'n gweithio a beth y mae angen inni ei flaenoriaethu a'i newid. O bosibl, efallai—. Rwyf o'r farn bod hyn yn sicr yn flaenoriaeth, ac mae angen inni wneud yn siŵr, er gwaethaf y cefndir o gyni, bod arian ar gael ar gyfer llifogydd hefyd. Dywed Theresa May bod cyni ar ben, felly os ydych chi eisiau codi'r ffôn a dweud wrthi am ein ffonio ni i roi rhagor o arian i ni fel y gallwn ni gael rhywfaint o arian tuag at lifogydd—
Ai arian newydd yw hwn? Ai arian newydd yw hwn?
Ond—.
Ewch yn eich blaen, Gweinidog, nid oes angen ichi wrando ar neb os ydych chi'n dewis peidio.
Diolch, Llywydd. Mae'n sicr yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon i sicrhau bod gennym ni'r arian a'r flaenoriaeth sydd eu hangen ar gael i wneud yn siŵr ein bod yn ymdrin ag atal a lliniaru llifogydd yng Nghymru, ac y gallwn ni sicrhau a rhoi tawelwch meddwl i bob cymuned sydd wedi ei heffeithio gan lifogydd.
Rydym ni wedi gweld storm Callum a'r dinistr ofnadwy, llifogydd ym mhobman, a thrasiedi, fel y soniwyd yn gynharach. Cafwyd llifogydd yn y bae. Eto, mae'r ardal sy'n destun anghydfod o amgylch Nant y Rhath yn hollol iawn ac ni fu llifogydd yno o gwbl, felly fy nghwestiwn i chi fyddai: a ydych chi'n credu y gallwch chi wario'r £0.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer ardal Nant y Rhath yn well mewn mannau eraill, ac a wnewch chi ailystyried?
Roeddwn i'n gwybod y byddai'r Aelod yn codi hyn yn y datganiad hwn. Edrychwch, mae'r Aelod yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa nawr o ran Nant y Rhath, lle mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r grŵp o drigolion yn y fan honno, ac mae'r gwaith wedi'i oedi ar ôl i'r trigolion wneud rhywfaint o waith modelu eu hunain. Mae hynny'n dal i fod yn wir. Yn wir, ymwelais â'r safle ychydig o wythnosau yn ôl i weld y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma, a Gerddi Melin y Rhath, lle nad oes gwaith wedi'i wneud. Mae hynny'n fater ar wahân. Dyna'r sefyllfa. Mae wedi ei ohirio. Mae hynny'n cael ei ystyried, ac rwy'n disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru gysylltu'n ôl gyda rhai cynigion ynghylch hynny.
Ond er fy mod yn cydnabod yr emosiwn a'r pryderon ynghylch y cynigion ar gyfer Parc y Rhath, ac yn enwedig yr effaith o ran cael gwared ar goed, rwy'n credu, i mi, ac i lawer o gymunedau ledled Cymru—ac rydym ni wedi gweld effaith llifogydd dros y penwythnos diwethaf—mae'n hollol briodol y dylem ni ystyried ac y dylem ni fuddsoddi, a chredaf fod angen diogelwch rhag llifogydd a chamau atal ar bobl. Ni ddylem ni ymgilio rhag—. Mae yna bobl sydd wedi gweld eu cartrefi wedi eu difetha a'u busnesau wedi eu difetha dros y penwythnos hwn.
Nid lle mae nant y Rhath. Nid yw wedi gorlifo ers degawdau.
Fi sy'n siarad nawr. Dywedwch hynny wrth y bobl—. Mae atal llifogydd mor bwysig, ac mae'n fuddsoddiad yn y cymunedau hyn. Mae nant y Rhath yn fater gwahanol. Heddiw, rydym ni'n sôn am y cymunedau hynny a gafodd eu heffeithio gan storm Callum a sut fydd y Llywodraeth hon yn gweithredu ac yn buddsoddi yn y cymunedau hynny i atal llifogydd pellach ac i roi tawelwch meddwl.
Diolch i'r Gweinidog.