1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Hydref 2018.
Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a'r llefarydd cyntaf y prynhawn yma yw Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, nifer o wythnosau'n ôl, dywedasoch, mewn ymateb i gwestiynau a ofynnwyd gennyf fi, rwy'n credu, eich bod yn bwriadu cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru i drafod nifer o faterion gydag ef mewn perthynas â masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r gororau. Fe egluroch chi mai un o'r materion y byddech yn ei godi oedd manylion ynghylch amserlennu, sef yn benodol, y gwelliannau arfaethedig i wasanaethau, gan gynnwys y rheini rhwng Merthyr Tudful ac Aberdâr a Chaerdydd, a rhwng Llandudno a Chaer. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â chanlyniad y trafodaethau hynny gyda Trafnidiaeth Cymru, ac yn arbennig, canlyniad y trafodaethau ar amserlennu?
Gallaf gadarnhau fy mod bellach wedi cyfarfod â phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ar ddau achlysur ers y tro diwethaf i mi ateb cwestiynau'r Aelod. Rydym wedi trafod amrywiaeth fawr o faterion, gan gynnwys y rhai a nodwyd ganddo. Buaswn yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig am y materion amserlennu, ond hefyd am faterion sy'n ymwneud â llywodraethu Trafnidiaeth Cymru, y broses recriwtio ar gyfer cadeirydd a hefyd y rôl bosibl i Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol o ran cyflawni'r agenda trafnidiaeth ehangach.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn yn gobeithio y gallech roi atebion penodol o ran y materion amserlennu rwyf wedi'u codi heddiw. Os ydych yn gallu gwneud hynny, gwnewch hynny heddiw os gwelwch yn dda.
Mae Trafnidiaeth Cymru a'r Llywodraeth wedi gwneud nifer o ymrwymiadau i deithwyr rheilffyrdd mewn perthynas â darparu trenau newydd. Fel y byddwch yn gwybod, un o'r prif gwynion mewn perthynas â threnau ar reilffyrdd Cymru yw'r ffaith bod trenau'n orlawn, yn hen, yn fudr ac yn is na'r safon yn amgylcheddol. Fe fyddwch yn deall, wrth gwrs, fod teithwyr yn siomedig ac yn rhwystredig fod yr un hen drenau'n dal i gael eu defnyddio, er bod cyfnod y fasnachfraint newydd wedi dechrau. A gaf fi ofyn i chi ei gwneud yn gwbl glir pryd fydd y trenau newydd yn cyrraedd o'r diwedd? A wnewch chi hefyd amlinellu strategaeth gerbydau fel y gall y cyhoedd fod yn hyderus y bydd y trenau newydd yn cyrraedd, fel yr addawyd? Ac yn olaf, a wnewch chi roi gwybod i ni pryd y bydd manyleb y tendr a'r cytundeb terfynol a ddefnyddiwn i ddarparu'r fasnachfraint newydd yn cael eu cyhoeddi? Gwn eich bod wedi ymrwymo i wneud hyn eisoes.
Gwnaf, yn sicr. Mae'r Aelod yn codi nifer o gwestiynau. O ran y trenau, etifeddu trenau gan Trenau Arriva Cymru a wnaethom pan gafodd Trafnidiaeth Cymru y fasnachfraint, ond fe ddywedasom yn glir hefyd y bydd £40 miliwn yn cael ei wario ar wella'r trenau sy'n bodoli'n barod tra byddwn yn aros am gerbydau newydd. Rydym yn rhagweld y bydd y cerbydau newydd yn cael eu darparu erbyn 2021. Bydd y cyntaf o'r trenau newydd hyn yn rhedeg ar reilffordd arfordir gogledd Cymru. Bydd cymysgedd o drenau'n cael eu hadeiladu yng Nghymru a'u hadeiladu dramor. Nododd yr ymarfer caffael y cerbydau gorau ar gyfer pob un o'r llwybrau penodol a fydd yn cael eu gwasanaethu gan y fasnachfraint newydd. Yn ychwanegol at y £40 miliwn a fydd yn cael ei wario ar wella'r trenau presennol, rwy'n falch o ddweud hefyd y bydd yr holl orsafoedd yn cael eu glanhau'n drylwyr o fis Rhagfyr y flwyddyn hon ymlaen, ac erbyn 2023, bydd trenau newydd wedi dod yn lle'r holl drenau ar y rhwydwaith. Mae hefyd yn werth nodi, yn ystod y 15 mlynedd nesaf, y byddwn yn gwario bron i £200 miliwn ar wella pob un o'r gorsafoedd ar rwydwaith y fasnachfraint.
O ran y pwyntiau eraill a godwyd gan yr Aelod, rwy'n hapus i ddarparu diweddariadau ar yr ymholiadau. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion yr amrywiol bwyntiau a gododd yr Aelod.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Buaswn yn gwerthfawrogi datganiad, efallai, fel y gallwn gael gwybodaeth bendant a manwl o ran pryd y bydd y trenau'n cyrraedd, gyda dyddiadau cysylltiedig. Hefyd, gofynnais i chi am y broses dendro a'r manylebau tendro yn y cytundeb terfynol. Pe gallech roi ateb ar hynny heddiw—o ran pryd rydych yn rhagweld y bydd y rheini ar gael i'r cyhoedd er mwyn i ni allu craffu arnynt—buaswn yn gwerthfawrogi hynny.
Mae nifer o orsafoedd rheilffyrdd Cymru mewn cyflwr gwael iawn ac maent wedi'u hesgeuluso ac wedi cael llai o fuddsoddiad nag y maent ei angen ers rhai blynyddoedd. Unwaith eto, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y bydd yna raglen fuddsoddi i uwchraddio gorsafoedd Cymru fel rhan o gytundeb y fasnachfraint newydd. A allwch chi sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi amserlen ar gyfer gwelliannau i orsafoedd fel bod teithwyr trên yn gwybod yn union pryd y bydd eu gorsaf yn cael ei huwchraddio? Oherwydd un thema yn y cwestiynau heddiw yw bod teithwyr eisiau gwybodaeth a chyfathrebu, ac mae bod yn agored ac yn dryloyw yn gwbl allweddol.
Credaf fod yr Aelod yn hollol iawn. Mae cyfathrebu'r rhaglen welliannau'n hanfodol er mwyn sicrhau y gellir gwarantu hyder teithwyr. Rydym eisoes wedi cyhoeddi'r amserlen ar gyfer cyflwyno trenau newydd. Fodd bynnag, buaswn yn hapus i anfon honno at yr Aelodau eto. Yn y gorffennol, rwyf wedi cynnig nifer o weithdai gyda Trafnidiaeth Cymru i Aelodau pan fyddant yn gallu darparu amserlen fanwl o ran pryd y bydd y cerbydau newydd yn cael eu darparu, ac mae hefyd yn cael ei chyhoeddi ar-lein. Ond rwy'n fodlon rhoi tabl manwl o'r holl gerbydau newydd a ddaw'n weithredol dros y pum mlynedd nesaf. Ac o ran manyleb y tendr a'r cytundeb, rydym yn dod i gytundeb o ran sut y gallwn eu cyhoeddi mewn ffordd addas. Rwy'n awyddus i sicrhau eu bod yn cael eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau tryloywder a chraffu.
O ran y gwelliannau i orsafoedd, rydym yn llunio offeryn asesu ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gallwn gategoreiddio a blaenoriaethu'r gwelliannau i orsafoedd, a phan fyddwn wedi gwneud hynny, credaf y bydd yn bwysig i ni allu nodi amserlen addas ar gyfer y gwelliannau hynny. Rwyf wedi dweud yn y gorffennol y bydd £15 miliwn ar gael, er enghraifft, ar gyfer gwella mynediad i orsafoedd. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn gallu nodi'r gorsafoedd a fydd yn elwa o'r arian hwnnw a'n bod yn gallu nodi pryd y byddant yn cael eu gwella.
Efallai y bydd yr Aelod yn gwybod ein bod eisoes wedi cyhoeddi dyddiadau penodol ar gyfer gorsafoedd penodol sy'n cael eu gwella, ond credaf fod yr Aelod yn gywir, a byddaf yn ymdrechu i lunio tabl o'r 274 o orsafoedd a fydd yn cael eu huwchraddio a'u gwella. Ond mae'n bwysig ailadrodd y bydd y gwelliannau hynny'n dechrau ym mis Rhagfyr eleni pan fydd y gorsafoedd yn cael eu glanhau'n drylwyr.
Diolch. Y llefarydd David Rowlands.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym oll yn ymwybodol o'r problemau gyda thagfeydd yn nhwnelau Bryn-glas yng Nghasnewydd. Er gwaethaf y penderfyniad ar y llwybr du neu fel arall, mae'n amlwg y bydd unrhyw ymyrraeth yn cymryd cryn dipyn o amser i fod yn effeithiol. Pa fesurau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith i leddfu'r broblem yn y tymor byr?
Wel, mae yna nifer o fesurau tymor byr rydym yn parhau i edrych arnynt. Mae nifer o fesurau tymor byr rydym eisoes wedi'u rhoi ar waith. Credaf y bydd yr adnoddau ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer teithio llesol yn gwella argaeledd cyfleoedd teithio llesol diogel yng Nghasnewydd ei hun, gan dynnu traffig nad oes angen iddo fod ar y draffordd oddi arni, o ystyried y nifer sylweddol o gerbydau sy'n defnyddio'r draffordd er mwyn mynd o un ochr i Gasnewydd i'r llall.
Bydd diwygiadau i wasanaethau bysiau a deddfwriaeth ar y rhwydwaith bysiau yn ein helpu i wella darpariaeth y gwasanaethau bysiau lleol ledled Cymru, gan gynnwys yn ardal Casnewydd, a bydd y diwygiadau hynny'n cael eu hamlinellu'n fuan iawn. Felly, trwy ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol mewn modd sylweddol a radical ar draws y wlad, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu denu mwy o bobl o'u cerbydau preifat ac ar y bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd mwy trefol.
Gellir defnyddio arian y gronfa drafnidiaeth leol i greu llwybrau bysiau a thacsis dynodedig, a sicrhau bod y ddarpariaeth a'r defnydd o wasanaethau bysiau yn fwy deniadol i bobl a fyddai fel arall yn teithio mewn car o bosibl, ac rwyf hefyd yn awyddus i weithio gydag ysgolion a chydweithwyr addysg er mwyn annog plant ifanc i gymryd rhan mewn teithiau llesol yn hytrach na defnyddio cerbydau preifat er mwyn teithio i ac o ysgolion, colegau a phrifysgolion.
O ran y rhwydwaith ffyrdd ei hun, wrth gwrs, rydym wedi edrych ar, ac wedi gweithredu terfynau cyflymder newidiol er mwyn sicrhau bod y traffig yn llifo'n gyson, ac mae'r gwelliannau hyn wedi bod yn arbennig o lwyddiannus ar yr M4. Credaf fod modurwyr yn gwerthfawrogi'r ymyrraeth hon. Ar y dechrau, rwy'n credu efallai fod rhai modurwyr yn credu ein bod yn gostwng terfynau cyflymder er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd. Mewn gwirionedd, pwrpas y penderfyniad hwnnw oedd sicrhau bod mwy o gysondeb yn y ffordd y mae pobl yn gyrru a sicrhau nad oedd gennych draffig yn arafu ac yn cyflymu ar y draffordd. Felly, mae'r holl fesurau hyn sydd eisoes wedi cael eu gweithredu, ac a fydd yn cael eu gweithredu, yn cyfrannu, rwy'n credu ac yn gobeithio, tuag at leihau amseroedd teithio.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod yr ymyriadau rydych yn cyfeirio atynt. Os caf siarad am ymyrraeth fwy uniongyrchol, rydych newydd sôn am derfynau cyflymder, ond fel rhywun sy'n wynebu tagfeydd ar sail ddyddiol bron, daeth yn amlwg i mi fod terfynau cyflymder sy'n cael eu defnyddio ar adegau penodol yn gwaethygu'r sefyllfa gryn dipyn mewn gwirionedd. Mae terfyn cyflymder o 40 mya ar waith yn aml, yn enwedig ar adegau prysur. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ystyried ail-werthuso’r drefn hon?
Wel, rydym bob amser yn edrych ar y dystiolaeth o'r—. System gyfrifiadurol yw hi, yn y bôn, nid person sy'n cynyddu neu'n lleihau'r terfyn cyflymder ar hap. Mae'n offeryn cymhleth sy'n sicrhau bod traffig yn llifo'n ddidrafferth. Un o'r ffactorau mwyaf sy'n cyfrannu, os mynnwch, at dagfeydd traffig rhithiol yw cerbydau'n symud o stop i gyflymder uchel ac yna'n stopio eto'n sydyn. Effaith slinky dog ydyw i bob pwrpas. Gall achosi tagfa draffig rithiol, sydd yn ei thro yn achosi tagfeydd mwy, a all gymryd cryn dipyn o amser i'w datrys, ac felly mae sicrhau bod traffig yn teithio ar gyflymder cyson, er yn is na'r terfyn cenedlaethol, yn lleihau tagfeydd.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod bod modurwyr sy'n dewis newid lonydd yn rheolaidd hefyd yn cyfrannu at dagfeydd. Nawr, mewn rhannau eraill o Gymru—yn arbennig ar hyd arfordir gogledd Cymru ar yr A55—cynhaliwyd astudiaeth gydnerthedd gennym i edrych ar y posibilrwydd o gyfyngu mynediad i'r gefnffordd ar gyfer rhai cerbydau sy'n symud yn araf ar adegau penodol o'r dydd. Rwy'n hapus i adolygu—. Pe baem yn gweithredu'r mesur penodol hwnnw, yn seiliedig ar yr ymgynghoriad a fydd yn digwydd, buaswn yn hapus i werthuso hwnnw a phenderfynu a ellir defnyddio ymyrraeth o'r fath ar gefnffyrdd eraill, gan gynnwys yr M4. Rwy'n benderfynol o wneud yn siŵr fod pobl, drwy deithio mewn cerbydau preifat neu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn gallu mynd i ac o'u cyrchfannau cyn gynted â phosibl, ac yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael i ni, mae terfynau cyflymder newidiol yn cyfrannu at wneud hynny.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy'n cydnabod bod yna broblem, fel rydych wedi crybwyll, gyda newid lonydd, yn enwedig y newidiadau lonydd hwyr, hynny yw, o gyffordd Malpas yn ôl ar y brif ffordd. Maent yn peri problemau difrifol iawn. Ond ar ôl profi'r ffyrdd o dan bob math o draffig bron, o draffig ysgafn i draffig trwm iawn, rwy'n credu'n gryf y byddai dwy bont arwyddion, un cyn cyffordd High Cross, ac un arall 500 llath ymhellach ymlaen yn rhoi cyfarwyddiadau clir iawn ar sut i symud i'r lôn briodol ar gyfer defnyddio'r twneli yn dileu'r angen am gyfyngiadau cyflymder ac felly'n caniatáu i draffig lifo'n rhydd. Daw'r sylw hwn ar ôl gweld amodau traffig trwm ond bod traffig yn dal i lifo'n rhydd pan nad oes terfynau cyflymder. Hoffwn dynnu eich sylw at y ffaith bod gan dwneli llawer hwy ar y cyfandir, sy'n aml yn cynnwys troadau, derfyn cyflymder o 80 i 100 km yr awr. Pam fod angen terfyn cyflymder o 40 milltir yr awr ar dwnnel mor fyr â Bryn-glas? A gaf fi annog Ysgrifennydd y Cabinet i gynnal gwerthusiad priodol o fy nghynnig, gan fy mod yn credu y byddai'n gwneud llawer i leddfu problemau tagfeydd yng Nghasnewydd?
Dylwn ailadrodd unwaith eto mai diben y cyfyngiad cyflymder o 40 milltir yr awr—neu 50, pan fydd 50 yn cael ei gyflwyno—yw atal traffig sy'n cael ei achosi gan bobl yn arafu ac yn cyflymu. Credaf fod y cynnig penodol y mae'r Aelod wedi'i awgrymu yn haeddu ei archwilio ymhellach. Byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion trafnidiaeth edrych ar y cynnig hwnnw. Lluniwyd nifer o atebion y gellir eu defnyddio ar unrhyw ffordd benodol i leihau a dileu tagfeydd a gwella diogelwch, ac os oes gan yr Aelod unrhyw awgrymiadau pellach, buaswn yn eu croesawu'n fawr iawn.
Yn ogystal, credaf ei bod yn bwysig cydnabod cyfraniad yr hyn y mae'r Ffrancwyr yn eu galw yn 'raswyr eliffant', rwy'n credu, tuag at dagfeydd ar gefnffyrdd—cerbydau mawr yw'r raswyr eliffant sy'n goddiweddyd ei gilydd ac yn mynd â darn enfawr o'r ffordd er mwyn gwneud hynny, gan beri i'r holl draffig y tu ôl iddynt symud yn arafach o lawer, ac o ganlyniad mae hyn yn aml yn achosi tagfeydd traffig rhithiol. Felly, unwaith eto, ar yr A55, fel rhan o'r astudiaeth gydnerthedd, rydym yn edrych ar gamau i roi terfyn ar y math hwnnw o ymddygiad gan yrwyr ac i sicrhau bod traffig yn llifo mor rhwydd â phosibl. Gall yr holl gamau hyn gyda'i gilydd wneud gwahaniaeth enfawr. Weithiau, fodd bynnag, mae modurwyr yn credu ein bod yn eu gwneud am resymau ar wahân i wella llif traffig. Gallaf warantu mai'r peth pwysicaf oll i ni yw diogelwch traffig, diogelwch teithwyr a bod traffig yn llifo'n rhwydd.
Diolch. A'r llefarydd nesaf yw Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fel rydych chi'n gwybod, mae rheilffordd HS2 wedi cael ei dynodi'n broject Lloegr a Chymru, er bod yna ddim milltir ohoni yma yng Nghymru, ac er bod astudiaethau yn dangos yn glir y bydd yn costio arian i’r economi Gymreig. Mae’r dynodiad yn golygu na fydd Cymru yn cael dyraniad Barnett llawn ar y costau gwreiddiol o ryw £55 biliwn. Roedd hynny’n golygu Cymru’n colli rhyw £25 miliwn y flwyddyn. Rydym ni’n sôn erbyn hyn o bosib am £100 biliwn ar gyfer y project yma—£50 miliwn y flwyddyn i Gymru dros broject o ryw 15 mlynedd. Mae hynny’n £750 miliwn. A allwch chi ddweud wrthyf i beth ydych chi a Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud i drio cael gafael ar y dyraniad Barnett llawn yna, fel mae Gogledd Iwerddon a’r Alban yn ei gael, wrth gwrs?
Wel, a gaf fi yn gyntaf groesawu'r Aelod i'r rôl newydd hon? Mae'n dda iawn gweld cyd-ogleddwr â briff sy'n ymwneud â'r economi, ac rwy'n falch mai un o'i weithredoedd cyntaf yn y rôl oedd croesawu'r cyhoeddiad am y llwybr a ffafrir ar gyfer y drydedd bont dros y Fenai, rhaglen seilwaith arbennig o bwysig sy'n gwasanaethu ei etholaeth ei hun. Roedd ei ragflaenydd yn y rôl yn awyddus iawn ar sawl achlysur i hyrwyddo trac rasio penodol yn ne Cymru. Rwy'n obeithiol y bydd yr Aelod yn awyddus i hyrwyddo trac rasio penodol yn ei etholaeth ei hun yn ogystal—y Trac Môn rhagorol.
O ran HS2, credaf fod yr holl dystiolaeth yn dangos y byddai gogledd-ddwyrain Cymru yn un o brif fuddiolwyr y buddsoddiad penodol hwnnw, cyhyd â bod canolfan Crewe yn mabwysiadu'r ateb cywir. Yn yr un modd, i lawer o rannau eraill o Gymru, a de Cymru yn bennaf, gallai'r effaith ar yr economi fod yn sylweddol ac yn negyddol iawn. Dyna pam ein bod wedi dweud wrth Lywodraeth y DU ein bod yn dymuno gweld, ochr yn ochr â chyllid canlyniadol, mwy a mwy o fuddsoddi yn y gwaith o liniaru'r effaith andwyol ar economi de Cymru, ac i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer gogledd Cymru gyfan, er enghraifft, drwy drydaneiddio.
At hynny, rydym hefyd wedi dadlau y dylai'r trenau a fyddai'n cael eu defnyddio ar y gwasanaeth rheilffordd HS2 gael eu hadeiladu yma yng Nghymru. Pe baent yn cael eu hadeiladu yma yng Nghymru, byddai hynny'n darparu gwaith amhrisiadwy i fwy na 1,000 o bobl, o bosibl.
Diolch am y geiriau caredig, ac wrth gyfeirio at ogledd Cymru a manteision yn sgil HS2 i ogledd Cymru, rydych yn dweud bod hynny'n ddibynnol ar fod y cysylltiadau cywir yn cael eu gwneud yn Crewe. Nid ydym wedi cael y sicrwydd rydym ei angen ynglŷn â'r cysylltiadau yn Crewe.
Er mwyn rhoi rhywfaint o bersbectif am y costau rydym yn sôn amdanynt yma, rhagwelir y bydd y 6.6 milltir cyntaf i'r gogledd allan o Lundain yn costio £8.25 biliwn. Dyna £1.25 biliwn y filltir. Gallech ariannu'r gwaith o ailagor rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth, trydaneiddio rheilffordd Caerdydd i Abertawe, ailagor rheilffordd Gaerwen i Amlwch yn fy etholaeth am gost un filltir o HS2 yno, a dal i fod â digon o newid i brynu digon o frechdanau i bara oes, heb amheuaeth, ar droli bwffe newydd Trafnidiaeth Cymru.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r prosiect yn y gorffennol, er i chi ddyfynnu astudiaeth Llywodraeth y DU sy'n dangos colli gweithgarwch economaidd, yn y de yn arbennig, ond mae hynny'n wir ar gyfer Cymru gyfan, cofiwch. A allwch enwi Llywodraeth arall a fyddai'n barod i gefnogi prosiect, gan wybod y bydd yn costio i'w heconomi ei hun ac y bydd yn niweidio'r economi honno'n hirdymor?
Gadewch i ni fod yn glir ynglŷn ag ychydig o bethau. Mae'r ateb yn nghanolfan Crewe yn gwbl hanfodol; nid yw'n fater ymylol. Os nad yw'r ateb yn Crewe yn fuddiol i ogledd Cymru, bydd hynny'n arwain at HS2 yn effeithio'n andwyol ar ogledd y wlad yn ogystal ag ar y de. Nawr, mae Cymru eisoes wedi derbyn cyllid ychwanegol dros gyfnod yr adolygiad o wariant cyfredol o ganlyniad i'r cynnydd yng nghyllideb yr Adran Drafnidiaeth, oherwydd HS2 i raddau helaeth, ac rydym yn gwneud achos cryf dros weld mwy o gyllid canlyniadol yn dod i ni cyn gynted â phosibl.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud, mewn perthynas ag ail-gydbwyso economi'r DU, fod angen i ni sicrhau ein bod yn ail-gydbwyso economi Cymru i gyd yn ogystal. Mae sawl rhan o Gymru'n rhyngweithio'n agos iawn â rhannau eraill o'r DU, yn bennaf yr ardaloedd ffiniol. Nawr, mae'n hanfodol, felly, fod gwariant Llywodraeth y DU sy'n sicrhau llif economaidd trawsffiniol yn cael ei ddefnyddio cymaint â phosibl. Mae hynny'n golygu gwella coridor yr M4, mae'n golygu gwella rheilffordd y Great Western, mae'n golygu gwella arfordir gogledd Cymru, mae'n golygu gwella'r ardal drawsffiniol yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac wrth gwrs, rhwng canolbarth Cymru a chanolbarth Lloegr yn ogystal. Mae'n golygu gwario llawer mwy o arian gan yr Adran Drafnidiaeth ar wasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol nag a wnaed yn y gorffennol.
Nodaf fod y prosiectau penodol y mae'r Aelod wedi dweud y gallai'r rhaglen HS2 fod wedi talu amdanynt i gyd yn etholaethau Plaid Cymru. Buaswn yn awgrymu ei bod yn hanfodol, wrth i ni symud ymlaen, nad ydym yn ceisio nodi prosiectau sydd ond yn mynd i fod o fudd i'n hardaloedd uniongyrchol ein hunain yn unig, a'n bod yn dibynnu ar gyngor arbenigol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru pryd bynnag a sut bynnag y gallwn wneud hynny. Mae'r comisiwn hwnnw bellach yn weithredol. Byddaf yn ceisio cyngor gan y comisiwn. Buaswn yn annog pob Aelod, o ystyried ei annibyniaeth—pob Aelod—i wneud datganiadau o gefnogaeth i unrhyw raglen seilwaith sy'n seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir a'r cyngor a ddarperir gan yr arbenigwyr sy'n rhan o'r comisiwn.
Maddeuwch i mi am godi ar fy nhraed yn rhy gynnar; roeddwn yn meddwl na fyddech chi byth yn gorffen. Rydych—[Torri ar draws.]
Na, fi sy'n penderfynu pryd y bydd pobl yn gorffen, ac rydych chi mewn perygl.
[Anghlywadwy.]—er i mi nodi nifer o brosiectau a oedd i gyd mewn etholaethau Plaid Cymru, dywedais y gallai dalu am drydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe. Nawr, byddant yn etholaethau Plaid Cymru un diwrnod, ond nid yw hynny'n wir eto.
O ran eich gwyriadau, rydych yn gwneud fy mhwynt ar fy rhan—rydych yn gwneud fy mhwynt ar fy rhan drwy ddweud bod Crewe a chael y cysylltiad hwnnw'n bwysig. Yr holl bwynt yw nad yw'r cysylltiad hwnnw wedi'i sicrhau eto, felly dyna fethiant arall o safbwynt yr hyn sydd yn HS2 i Gymru.
Ar gyllid canlyniadol Barnett, mae'n rhaid i mi ddweud, er mwyn deall hyn yn iawn, mae gan yr Alban ffactor cymharedd o 100 y cant, sy'n golygu, yn syml, nad yw'n cael ei ystyried fel prosiect ar gyfer yr Alban, felly mae'n cael cyllid canlyniadol ychwanegol. Mae gan Gymru ffactor cymharedd o 0 y cant, a dyna pam fod Cymru hyd at £50 miliwn y flwyddyn, mwy na thebyg, ar ei cholled. Nawr, o ystyried ei bod yn amlwg na fydd Cymru'n derbyn cyllid canlyniadol llawn, fod cwmnïau o Gymru wedi bod ar eu colled yn y broses gaffael—beth bynnag yw eich gobeithion ar gyfer adeiladu trenau yn y dyfodol, nid oes gennym y sicrwydd hwnnw—y gost bosibl i economi Cymru, nad oes unrhyw newyddion ynglŷn â thrydaneiddio yn y gogledd na'r de, o ystyried eich bod wedi methu ennill y cyllid canlyniadol hwnnw yn llawn, onid yw'n bryd i Lywodraeth Lafur Cymru newid ei meddwl a dadlau yn erbyn HS2, gan ei fod yn erbyn buddiannau Cymru?
Roedd yn ddrwg gennyf glywed yr Aelod yn ymateb mewn ffordd mor gynhyrfus ac anghyfeillgar. Credaf ei bod yn bwysig cydnabod, ar lawer o faterion—[Torri ar draws.] Ar lawer o faterion, credaf y byddem yn cytuno. Ac ar fater penodol buddsoddi yn y rheilffyrdd, nid oes unrhyw wahaniaeth, rwy'n siŵr, ar draws y Siambr, o ran ein barn y dylid gwario mwy yng Nghymru. Ond mae'r Aelod eisoes wedi amlygu ei fod yn awyddus i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am wario arian trethdalwyr Cymru ar brosiectau y dylai Llywodraeth y DU fod yn buddsoddi ynddynt, megis trydaneiddio o Gaerdydd i Abertawe. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hwnnw—nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru—a dylai'r arian ddod o Lywodraeth y DU. Pam nad ydych yn herio Llywodraeth y DU ynglŷn â'r mater a dweud eich bod chi am wneud y gwariant hwnnw? Mae'n hurt. Mae'n hurt. Gwn fod Calan Gaeaf ar y gorwel, gyda jôcs a straeon brawychus, ond nid yw eich syniad o wario arian trethdalwyr Cymru ar wasanaethau a seilwaith y dylai Llywodraeth y DU fod yn talu amdanynt yn ddim llai na jôc.
Symudwn yn awr at y cwestiynau ar y papur trefn a chwestiwn 3—Michelle Brown.