1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ddwywaith yn ystod yr wythnosau diwethaf—mewn cynhadledd gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain ac mewn cyfweliad gyda Guto Harri—rydych chi wedi cyfeirio at y nifer cynyddol o fusnesau llwyddiannus Cymreig sydd yn gwerthu mas i gwmnïau o'r tu fas i Gymru. Fe ddywedoch chi eich bod chi eisiau efelychu system y mittelstand yn yr Almaen, lle mae cwmnïau cynhenid yn tyfu ac yn datblygu yn gwmnïau canolig eu maint, yn hytrach nag yn cael eu prynu. A ydych chi wedi gwneud asesiad o hyd a lled y broblem yma? Hynny yw, faint o gwmnïau canolig Cymreig sydd wedi cael eu cymryd drosodd yn ystod y 12 i 15 mis diwethaf?
Na, ond beth rydw i yn gwybod yw bod rhaid newid diwylliant ynglŷn â busnesau yng Nghymru. Mae'r traddodiad o mittelstand yn yr Almaen yn un cryf dros ben, ac mae yna draddodiad fanna lle mae cwmnïau yn parhau i gynhyrchu ac nid yn gwerthu mas i gwmnïau eraill. Nid felly mae hi wedi bod yng Nghymru. Mae hon yn hen broblem. Un o'r pethau roeddwn i'n ei ystyried ar un adeg oedd gweld os gallem ni ailagor cyfnewidfa stoc Caerdydd. Erbyn hyn, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn weddol o ddigidol. Y rheswm am hynny oedd i sicrhau bod mwy o gwmnïau o Gymru yn edrych—neu mwy o fusnesau o Gymru—i gael eu rhestru ar y gyfnewidfa hynny, ond nawr, buaswn i'n dweud, nid yw hynny'n rhywbeth sy'n berthnasol.
Newid diwylliant yw'r peth i fi, i sicrhau bod mwy o fusnesau o Gymru yn meddwl, 'Reit, rydym ni'n moyn tyfu. Rydym ni'n moyn sefyll fel rydym ni', ac nid meddwl trwy'r amser, 'Wel, mae'n rhaid i ni werthu mas i rywun sydd yn fwy'. Nid yw hyn yn wir yn Iwerddon ac nid yw'n wir, i raddau, yn yr Alban. Felly, newid diwylliant sy'n bwysig.
O ran maint y broblem, efallai y gallaf i gynnig peth gwybodaeth i'r Prif Weinidog. Ers haf y llynedd, mae cwmni peirianneg sifil Alun Griffiths, o'r Fenni, wedi cael ei werthu i Tarmac. Mae Gap Personnel o Wrecsam, un o'r pump cwmni recriwtio mwyaf ym Mhrydain, wedi'i werthu i Trust Tech o Siapan. Mae Princes Gate, o sir Benfro, un o'r wyth cwmni dŵr mwyn mwyaf yng Nghymru ym Mhrydain, wedi'i brynu gan Nestlé. Hyd yn oed yn eich etholaeth chi yn unig, mae yna ddau gwmni Cymreig sylweddol wedi eu prynu yn ystod y cyfnod yma gan gwmnïau tramor, sef y peirianwyr Harris Pye—cwmni fel Alun Griffiths, gyda dros £100 miliwn o drosiant—wedi'i brynu gan Joulon yn Ffrainc, ac mae Aircraft Maintenance Services wedi cael ei brynu gan gwmni Americanaidd JBT. Mae yna sôn wedi bod am y canol coll, the missing middle. Ar y rât yma, bydd dim byd gyda ni ar ôl cyn hir. Felly, a fedrwch chi gadarnhau a wnaeth eich Llywodraeth gais i'r comisiwn cystadleuaeth a marchnadoedd i rwystro un o'r gwerthiannau hyn, ac a ydych chi'n derbyn mai un o'r problemau yw nad oes gan fanc Cymru ar hyn o bryd y capasiti ariannol i ariannu'r management buy-outs ar y raddfa sydd ei angen? Byddai un neu ddau o'r dêls yma yn mynd â holl gyllideb blynyddol y banc, felly onid yw hi'n bryd i edrych ar beth sy'n cael ei gynnig yn yr Alban, sef cronfa lawer mwy y gall sicrhau wedyn ein bod ni mewn sefyllfa i gynnig opsiwn arall i'r cwmnïau yma, yn hytrach na chael eu gwerthu?
Wel, mae'n wir i ddweud bod enghreifftiau fanna o'r diwylliant sydd gyda ni. Mae pobl yn tueddu i ymddeol a gwerthu o achos hynny, ac nid yn meddwl am sicrhau bod y cwmnïau’n parhau. So, y cwestiwn nesaf yw: beth allwn ni wneud amdano fe? Rydw i'n credu y liciwn i ystyried beth sydd wedi digwydd yn yr Alban er mwyn gweld a oes unrhyw wersi y gallwn ni eu dysgu o'r Alban, achos mae'n un peth i ddweud, 'Mae'n rhaid newid y diwylliant'; peth arall, wrth gwrs, yw sicrhau ein bod ni'n ffeindio ffyrdd i wneud hynny.
Ai rhan o'r broblem hefyd yw gorbwyslais o ran polisi'r Llywodraeth ar fewnfuddsoddi? Ddwy flynedd yn ôl, mi oeddech chi'n cyfeirio at ddenu Pinewood i Gymru fel un o brif lwyddiannau eich polisi economaidd. Ddoe fe glywom ni mai dim ond 20 y cant o'r budd economaidd arfaethedig sydd wedi dod. Mi ddywedodd eich cyfarwyddwr ym maes yr economi y byddai mwy o dryloywedd yn yr achos yma wedi bod yn ddefnyddiol, ond yn yr achos yma, ac yn achos Aston Martin, rydych chi wedi gwrthod bod yn dryloyw oherwydd cyfrinachedd masnachol. Rydych chi'n dadlau bod angen cael y balans yn iawn rhwng datblygu cynhenid a mewnfuddsoddi, ond sut ydym ni i farnu a ydy'r balans yma'n iawn heb fod y ffigurau gennym?
Nawr, wrth gwrs, mae angen strategaeth ar gyfer cwmnïau tramor, ond yn hytrach nag ysgrifennu siecs blank ar gyfer eliffantod gwyn, oni fyddai'n well i Lywodraeth Cymru edrych yn fwy ar amddiffyn y cwmnïau sydd gyda ni? I'r perwyl hyn, a ydy'r Llywodraeth yn bwriadu ymateb i ymchwiliad y Comisiwn Ewropeaidd i uniad ThyssenKrupp a Tata, a all olygu gorchymyn i werthu safle Trostre? A gan aros gyda Llanelli, a gaf i ofyn yn benodol pryd y daeth Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o fwriad Schaeffler i gau'i ffatri yn Llanelli? A gan fod ansicrwydd ynglŷn â Brexit yn cael ei nodi fel un o'r prif resymau am y penderfyniad, i ba raddau y mae gwrthwynebiad Jeremy Corbyn a'r Blaid Lafur i aelodaeth o'r farchnad sengl wedi cyfrannu at y penderfyniad yma?
Wel, mae sawl cwestiwn fanna. Ynglŷn â'r un diwethaf, nid ydw i'n credu bod unrhyw gyfraniad er y gwaethaf wedi cael ei wneud ynglŷn â Schaeffler gan Jeremy Corbyn, i fod yn deg. Fe glywais i y bore yma ynglŷn â Schaeffler. Nid oeddwn i'n ymwybodol o beth oedd cynlluniau'r cwmni cyn hynny. Mae cwmnïau o dramor yn hollbwysig i economi Cymru. Rydym ni'n gwybod hynny. Bydd Aston Martin yn hollbwysig. Mae Pinewood wedi sicrhau miliynau o fuddsoddiad yn economi Cymru, ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, fod hynny’n rhywbeth ddylem ni ddim ei ofni o gwbl. Ond mae yna bwynt: ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod mwy o fusnesau o Gymru’n tyfu? Achos, mae’n wir i ddweud, os yw cwmni â phencadlys mewn gwlad, maen nhw’n tueddu sefyll yn y wlad honno. So, dyna beth yw’r sialens. Nid wyf i'n gweld bod yn rhaid gwneud dewis; rydym ni wedi, wrth gwrs, sicrhau bod banc Cymru ar gael er mwyn helpu busnesau i dyfu yn y pen draw, a hefyd, wrth gwrs, rŷm ni'n moyn sicrhau ei bod hi'n bosib i’r cwmnïau hynny ffynnu, ac, wrth gwrs, i weithio gyda’r cwmnïau rhyngwladol. Rŷm ni’n gwybod bod cwmnïau rhyngwladol nid dim ond yn cyflogi pobl eu hunain, ond maen nhw’n hollbwysig ynglŷn â chyflogaeth ym musnesau bach Cymru sydd yn sicrhau eu bod nhw’n gwerthu cynnyrch iddyn nhw.
Rwy’n cofio, pan oedd y WDA mewn bodolaeth, nid oedd dim diddordeb o gwbl gyda nhw—o gwbl— ynglŷn â busnesau bach. Popeth oedd cael buddsoddiad o dramor. Mae hynny’n bwysig, ond mae’n rhaid, wrth gwrs, inni sicrhau bod y pyramid sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle mae gennym ni lot mawr o fusnesau bach, a bach iawn o fusnesau mawr—bod y pyramid hwnnw’n tyfu dros y blynyddoedd er mwyn rhoi’r hyder i gwmnïau o Gymru eu bod nhw’n gallu ehangu a’u bod nhw’n gallu sefyll fel y maen nhw ar y fodolaeth sydd gyda nhw.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fel efallai y gwyddoch, mae hi'n Wythnos Ryngwladol Ymwybyddiaeth o Straen yr wythnos hon a mis Tachwedd yw Mis Ymwybyddiaeth o Iechyd Dynion. O gofio bod dros 63 y cant o oedolion a thros 55 y cant o blant yng Nghymru yn aros yn hwy na phedair wythnos i gael triniaeth iechyd meddwl, ac o gofio bod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn credu y dylai cael mynediad prydlon at wasanaethau iechyd meddwl fod yn brif flaenoriaeth, pam nad yw'n un o brif flaenoriaethau eich Llywodraeth?
Wel, byddwn yn dadlau ei fod. Rydym ni wedi gweld gwelliannau enfawr, er enghraifft, o ran sicrhau mynediad at iechyd meddwl i blant ac i bobl ifanc, a hefyd pwyslais ar sicrhau bod cwnsela ar gael yn hytrach nag ymyrraeth glinigol ar gam cynharach. Mae gennym ni Fesur iechyd meddwl (Cymru) 2010, wrth gwrs, y byddwn yn dadlau sy'n ddarn unigryw o ddeddfwriaeth sy'n gwella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a'u darpariaeth. Mae wedi ysgogi gwelliant ers ei gyflwyno yn 2010, mae'n darparu gwasanaethau effeithiol a defnyddiol yn gynnar drwy'r gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, ac mae'n sicrhau bod y rhai sydd angen gwasanaethau arbenigol yn cael gofal a thriniaeth o'r ansawdd uchaf.
Ceir llawer o bethau eraill y gallwn gyfeirio atynt, wrth gwrs, fel, er enghraifft, strategaeth 'Siarad â fi 2' i helpu i atal hunanladdiad a hunan-niwed. Caiff y strategaeth honno, wrth gwrs, ei goruchwylio gan grŵp cynghori cenedlaethol. Felly, byddwn yn dadlau, mewn gwirionedd, bod gwasanaethau yng Nghymru wedi gwella'n helaeth dros y blynyddoedd, a chydnabyddir hynny gan faint o arian yr ydym ni wedi ei fuddsoddi mewn iechyd meddwl.
Wel, Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw'n un o brif flaenoriaethau eich Llywodraeth, fel arall ni fyddai'r bobl hyn yn aros cyhyd. Pan gyflwynodd eich Llywodraeth ei chyllideb fis diwethaf, nid oedd unrhyw eglurder ynghylch sut y byddech yn gwella darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl Cymru. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n enfawr â Lywodraeth y DU, a wnaeth yn eglur ei phenderfyniad i fuddsoddi ymhellach yn y GIG i gefnogi'r rhai â salwch meddwl yn ei chyllideb.
Nawr, Prif Weinidog, gwn eich bod chi'n hoffi siarad am Loegr, felly, o ganlyniad i gyhoeddiad y Canghellor yr wythnos diwethaf, mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn cyflwyno gwasanaeth argyfwng iechyd meddwl newydd, gyda chymorth iechyd meddwl cynhwysfawr ar gael mewn ym mhob adran damweiniau ac achosion brys fawr. Mae'n cyflwyno timau argyfwng plant a phobl ifanc ym mhob rhan o Loegr, mae'n cyflwyno mwy o ambiwlansys iechyd meddwl, mae'n cyflwyno mwy o noddfeydd diogel yn y gymuned, mae'n cyflwyno llinell gymorth argyfwng iechyd meddwl 24 awr—hyn i gyd, ond nid ar yr ochr hon i'r ffin. Mae'n dod yn eglur bod y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn colli tir ar y ddarpariaeth yn Lloegr a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. A fyddwch chi'n archwilio nawr rhai o'r mesurau hyn gyda'r bwriad o'u cyflwyno yma yng Nghymru?
Yr hyn y mae'n ei awgrymu, mewn rhai ffyrdd, yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud eisoes; ymddengys nad yw'n gwybod hynny. Gallaf ddweud bod y data diweddaraf a gyhoeddwyd yn dangos ein bod ni'n bodloni'r targedau ar gyfer asesu ac ymyraethau ar sail Cymru gyfan? Mae dros 184,000 o bobl wedi eu gweld gan wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol yng Nghymru ers iddynt gael eu cyflwyno yn rhan o'r Mesur.
Gallaf ddweud, o ran gofal mewn argyfwng, wel, cyflwynwyd concordat gofal argyfwng iechyd meddwl Cymru gennym yn 2015. Mae hwnnw wedi bod yn llwyddiannus i leihau'n sylweddol y defnydd o ddalfa'r heddlu ar gyfer pobl sy'n cael eu cadw yn gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Rydym ni'n parhau i weithio gyda byrddau iechyd lleol, gydag awdurdodau lleol ac awdurdodau'r heddlu ledled Cymru i gefnogi gwasanaethau rheng flaen sydd fwyaf tebygol o fod yn gyswllt cyntaf i bobl mewn argyfwng iechyd meddwl. Rydym ni'n gwella'r gofal argyfwng y tu allan i oriau; mae hynny'n flaenoriaeth yn y gronfa gweddnewid ac arloesi iechyd meddwl, a gefnogir gan £7 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ac, yn rhan o hynny, rydym ni wedi ymrwymo dros £1 filiwn eleni ar gyfer amrywiaeth o ddulliau i wella cymorth, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt, cymorth mewn argyfwng a brysbennu ar y stryd. Ac, un flaenoriaeth, wrth gwrs, i'n grŵp sicrwydd concordat gofal argyfwng iechyd meddwl yw deall yn well y cyd-destun o sut y mae argyfwng yn dod i'r amlwg, ac rydym ni'n datblygu'r data i gefnogi hyn. Lloegr sydd ar ei hôl hi.
Ddim o gwbl. Mae hyn yn achos o hunanfodlonrwydd llwyr gennych chi a'ch Llywodraeth, yn ôl yr arfer. Rydym ni'n gwybod, heb driniaeth brydlon, bod iechyd meddwl rhywun, yn union fel unrhyw gyflwr neu salwch arall, yn debygol o waethygu. Dro ar ôl tro, mae'n rhaid i blant ac oedolion ddangos lefel ddifrifol o salwch, yn aml i'r graddau o niweidio eu hunain, cyn y gallant gael mynediad at wasanaethau amserol. Ond, yn anffodus, mae'n amlwg bod eich Llywodraeth yn methu â bwrw ymlaen â'r newid sylweddol a chynhwysfawr y mae ein gwasanaethau iechyd meddwl eu hangen yn daer. Hyd yn oed pan roddwyd cynigion o'ch blaen gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad ar sut i wella cyflwr echrydus gwasanaethau iechyd meddwl ataliol yng Nghymru, fe wnaethoch chi wrthod ystyried y rhan fwyaf o'r argymhellion hynny, hyd yn oed yn groes i ddymuniadau rhai o aelodau eich meinciau cefn. Felly, a allwch chi ddweud wrth y Siambr hon heddiw pam wnaeth eich Llywodraeth wrthod derbyn yr argymhellion hynny, a gefnogwyd gan Aelodau o bob plaid, a pham, er gwaethaf cynnydd o 4 y cant mewn termau real i gyllideb Cymru yn 2015 tan 2020, nad ydych yn buddsoddi'n ddigonol mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru i ostwng yr amseroedd aros annerbyniol i bobl â chyflyrau iechyd meddwl?
Rydym ni'n buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae'r holl ddata yn dangos y gwelliant sydd yno. Ni wrandawodd ar yr ateb a roddais, wnaeth ef, i'r ail gwestiwn—rhoddais nifer o atebion iddo i'w gwestiwn yn dangos yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud yng Nghymru. Felly, gadewch i mi geisio, os gallaf, ei helpu ymhellach. Rydym ni'n gwybod bod atal yn bwysig. Dyna pam mae'n thema allweddol, ynghyd ag ymyrraeth gynnar, yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae hynny'n cynnwys pwyslais ar gymorth anghlinigol. Mae gennym ni gronfa iach ac egnïol, a lansiwyd ym mis Gorffennaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon—mae honno'n bartneriaeth sy'n darparu ffordd integredig y gallwn ei defnyddio i gyflwyno bond llesiant a cronfa her ar gyfer chwaraeon. Yn ystod cyfnod 1, mae £5 miliwn ar gael i'w fuddsoddi dros dair blynedd, gyda'r nod o wella iechyd meddyliol a chorfforol trwy alluogi ffyrdd iach ac egnïol o fyw, gyda phwyslais penodol ar gryfhau asedau cymunedol.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ein buddsoddiad o £1.3 miliwn ar gyfer Mind Cymru a'r Groes Goch Brydeinig yn ddiweddar hefyd i ddarparu prosiectau rhagnodi cymdeithasol ledled Cymru—byddant yn helpu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer rhagnodi cymdeithasol ar gyfer problemau iechyd meddwl i gefnogi ein dyfodol—[Torri ar draws.]—gwn nad oedd yn disgwyl yr ateb hwn, ond mae'n mynd i'w gael—i gynorthwyo ein camau yn y maes hwn yn y dyfodol. Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, effaith profiadau andwyol yn ystod plentyndod ar ein canlyniadau bywyd; dyna pam yr ariannwyd canolfan cymorth ACE gennym. Canolfan arbenigedd yw hon i gynyddu dealltwriaeth o brofiadau andwyol yn ystod plentyndod a chydnerthedd. Ac rydym ni'n parhau, yn olaf, i gefnogi ymgyrch Amser i Newid Cymru i roi terfyn ar y stigma a'r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â phrofiad o broblem iechyd meddwl yng Nghymru. Bydd cyfnod 3 yr ymgyrch honno yn para am gyfnod o dair blynedd o fis Ebrill, ac wedi ei ariannu ar y cyd rhwng meysydd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yr economi, trafnidiaeth a Comic Relief.
Rwy'n credu fy mod i wedi dangos yn gryf iawn, iawn ymrwymiad y Llywodraeth hon i faterion iechyd meddwl ac wedi dangos yr ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud, yn ariannol ac yn wleidyddol. Ac rwy'n falch bod y blaid gyferbyn wedi penderfynu dal i fyny.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, rhagwelwyd y bydd ychydig dros hanner holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd. Fodd bynnag, pan edrychwn ni ar bolau piniwn, mae'n amlwg nad yw pobl Cymru yn credu bod y GIG yn gweithio yng Nghymru. Ym mis Mai 2014, ar ôl 15 mlynedd o'r Cynulliad Cenedlaethol, gofynnodd y BBC ac ICM Research i bobl pa un a oedd a ffaith bod gennym ni'r Cynulliad wedi arwain at welliant yn y GIG, dirywiad, neu heb wneud unrhyw wahaniaeth. Roedd llai nag un o bob pedwar o bobl yn credu ei fod wedi arwain at welliant. Mae iechyd yn amlwg yn faes hanfodol i'ch Llywodraeth ac i bobl Cymru, ond a ydych chi'n credu bod gwario 50 y cant o'r holl gyllideb ar iechyd yn gynaliadwy, ac a yw pobl Cymru yn cael y gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu?
Wel, os yw'n awgrymu nad yw gwario 50 y cant ar iechyd yn gynaliadwy, mae'n argymell model arall. Nawr, os yw'n argymell model arall sy'n cynnwys gostyngiad i wasanaethau neu gyflwyno cynllun sy'n seiliedig ar yswiriant, yna rwy'n fodlon gwrando ar ei syniadau. Rwy'n siŵr y gall esbonio'r rheini i bobl Cymru. Rydym ni wedi dangos i bobl Cymru ein bod ni wedi parhau i wario'r arian sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd, er gwaethaf, wrth gwrs, gweld toriadau enfawr—£4 biliwn o doriadau mewn termau real—dros yr wyth mlynedd diwethaf gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod yn iawn, os gofynnwch i bobl yn Lloegr beth yw eu barn nhw ar y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, eich bod chi'n debygol o gael canlyniadau tebyg iawn i'r rhai yn 2015. Ac, ers 2015, mae pethau wedi gwella'n aruthrol: y gronfa triniaethau newydd a lansiwyd, y ffaith bod gennym ni, wrth gwrs, dargedau, mwy o dargedau, sydd wedi eu cyrraedd—os edrychwn ni ar dargedau ymateb ambiwlansys o ran galwadau coch, maen nhw'n cael eu cyrraedd, ac mae hynny'n arwydd o'r ymrwymiad yr ydym ni wedi ei wneud i'r gwasanaeth iechyd.
Yn amlwg, nid yw eich asesiad o berfformiad eich Llywodraeth yn cael ei rannu gan bobl Cymru mewn gwirionedd, ond un mater allweddol sy'n amlwg yn cael effaith andwyol ar y GIG yw twristiaeth iechyd a mewnfudo. [Torri ar draws.] Ydy. Mae Llywodraeth y DU wedi amcangyfrif bod trin twristiaid iechyd yn costio hyd at £300 miliwn y flwyddyn. Ceir y pwysau hefyd a achosir gan fewnfudo ar raddfa fawr. Dywedodd y Swyddfa—[Torri ar draws.] Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn 2017, bod 280,000 yn fwy o bobl yn mewnfudo i'r DU nag yr oedd yn allfudo, felly 280,000 yn fwy o bobl â mynediad at ein GIG. Mae hynny'n fwy na phoblogaeth Abertawe. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod mewnfudo heb reolaeth wedi chwarae rhan fawr yn yr argyfwng enfawr yn ein GIG?
Wel, fy mhrofiad i o bobl sydd wedi dod i'r DU yw eu bod nhw'n ifanc, yn heini ac yn egnïol. Nid ydyn nhw'n rhoi llawer o bwysau ar y GIG gan eu bod nhw'n gyfranwyr net o ran treth, ac ychydig iawn y maen nhw'n ei gymryd allan o ganlyniad i hynny. Gadewch i mi roi enghraifft o dwristiaeth iechyd iddo: y meddygon sy'n gweithio yn ein GIG, y nyrsys, y ffisiotherapyddion, y staff meddygol—mae pob un ohonyn nhw wedi dod i Brydain i weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ni allai'r gwasanaeth iechyd gwladol fodoli—ni allai fodoli—heb y gallu i gael gafael ar arbenigedd meddygol meddygon, nyrsys ac eraill o wledydd eraill. Ydw, rwy'n credu bod twristiaeth iechyd yn beth da gan ei fod yn gwneud yn siŵr bod ein pobl yn cadw'n iach ac yn fyw.
Ie, Prif Weinidog, roeddwn i'n meddwl y byddech chi'n gwneud eich peth arferol ac yn clodfori'r holl wladolion tramor sy'n gweithio yn y GIG. Ac, wrth gwrs, rydych chi fel rheol yn ychwanegu sut y bydd Brexit yn bygwth y gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, datgelodd gwaith ymchwil y BBC mai dim ond 2.5 y cant, ym mis Medi 2016, o holl staff y GIG yng Nghymru sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd. A dweud y gwir, mae mwy na 93 y cant o staff sy'n gweithio yn GIG Cymru o'r DU. Os ydych chi wir yn poeni am lenwi'r bylchau, yna dylech chi fod yn gofyn i'ch hunan, 'Pam nad ydym ni'n hyfforddi mwy o bobl Prydain i weithio yn y GIG?' Ac eto, unwaith eto, mae eich ochr chi y fy nghondemnio i am grybwyll mewnfudo heb reolaeth. Fodd bynnag, eleni—[Torri ar draws.] Eleni, canfu arolwg Migration Watch bod 73 y cant o—[Torri ar draws.]—bod 73 y cant o bleidleiswyr yn cefnogi'r nod o leihau mewnfudo yn sylweddol. Mae hyn hefyd yn cynnwys mwyafrif o bleidleiswyr Llafur. Onid yw hwn yn enghraifft arall, Prif Weinidog, eich bod chi wedi colli cysylltiad â phobl Cymru yn gyffredinol ac, yn waeth fyth, wedi colli cysylltiad â'ch pleidleiswyr Llafur eich hun?
Wel, rydym ni'n ennill etholiadau ar yr ochr hon. Nid wyf i'n gwybod amdanoch chi draw yn y fan yna, ond mae eich grŵp wedi lleihau'n eithaf sylweddol ers i chi gyrraedd y Cynulliad gyntaf. Gwn fod gennych chi gynllun cylchdroi'r arweinyddiaeth yn UKIP. Ond gadewch i mi ddweud un peth wrtho nawr: bydd pobl yn rhyfeddu at y ffaith ei fod yn wfftio cyfraniad y rhai o'r tu allan i'r DU at ein gwasanaeth iechyd. Hyd yn oed ar ei ffigurau ei hun, mae'n dweud bod 7 y cant o'r rhai sy'n gweithio yn y GIG o wledydd eraill. A yw e'n dweud na ddylen nhw fod yno gan fod lliw eu croen yn anghywir neu eu bod nhw o'r rhan anghywir o'r byd? Nid wyf i'n poeni o ble maen nhw'n dod. Yr hyn yr wyf i'n poeni amdano yw eu bod nhw'n iachau pobl. Nid wyf i'n poeni lle ganwyd rhywun. Yr hyn yr wyf i eisiau ei sicrhau yw bod gan rywun yr arbenigedd i drin canser, i drin clefyd y galon, i gyflawni llawdriniaethau ar wardiau orthopedig. Dyna yr wyf i'n poeni amdano. Nid wyf i'n malio dim am eu cefndir, cyn belled â'u bod nhw'n darparu gwasanaethau i'n pobl. Cymerwch y mwgwd oddi ar eich llygaid, agorwch eich llygaid i'r byd, a stopiwch feddwl, rywsut, nad oes croeso i unrhyw un a phawb sy'n byw yn y wlad hon sydd o deulu o fewnfudwyr.
Mae pob un person, fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen yn y Siambr hon, yn ddisgynnydd mewnfudwr—pob un person. Mae'n fater syml o bryd y daeth ein teuluoedd. Mewn rhai ffyrdd—. Nid yw'n ymddangos bod UKIP yn cydnabod hynny, ond agorwch eich llygaid a rhowch y gorau i ddweud wrth bobl Cymru, 'Rydym ni eisiau cael gwared ar feddygon sy'n eich iachau oherwydd ein dogma wleidyddol ryfedd—a hiliol yn aml—ein hunain.'