1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 27 Tachwedd 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Arweinydd y tŷ, a ydych chi'n credu ei bod hi'n iawn bod corff cyhoeddus pwysig yn gallu gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr?
Nac ydw, wrth gwrs nad ydw i, ac wn i ddim beth mae e'n cyfeirio ato. Ond, na, yn gyffredinol, wrth gwrs, yr ateb i hynny fyddai 'wrth gwrs nad ydw i'.
Wel, rydw i'n falch ei bod hi'n cytuno â hynny, oherwydd mae gyda ni sefydliad yma yng Nghymru sydd yn gweithredu heb roi sylw dyledus i fframweithiau cyfreithiol neu arian trethdalwyr. Fel y gwyddoch, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am gatalog o fethiannau sydd â chanlyniadau difrifol ar gyfer y rheolaeth gynaliadwy o adnoddau Cymru. Nid yn unig y mae cyfrifon y corff wedi cael eu cymhwyso yn nhair o'r pum mlynedd mae e wedi bod yn weithredol, ond mae e hefyd wedi colli £1 filiwn o arian cyhoeddus i drethdalwyr. Mewn adroddiad damniol ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi pryderon nad yw'r sefydliad yn derbyn cyfrifoldeb am ei fethiannau a'i fod wedi diystyru nifer o argymhellion gan adroddiadau'r archwilydd cyffredinol. Pan ofynnais i i'r Prif Weinidog nôl ym mis Hydref, roedd e o'r farn bod y sefydliad yma yn addas i'r pwrpas. Felly, a ydych chi fel Llywodraeth nawr yn dal i gredu bod y sefydliad yma yn addas i'w ddiben?
Rwy'n credu bod cyfundrefn reoli newydd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ateb cwestiynau am hyn, fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud, ar sawl achlysur. Byddai newid y sefydliad nawr yn newid sefydliadol enfawr, yn ychwanegol i rai o'r heriau eraill y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw. Dim ond newydd—yn ddiweddar iawn o safbwynt sefydliadol—benodi prif weithredwr newydd ydym ni, mae gennym ni fwrdd newydd, pum aelod newydd o'r bwrdd a chadeirydd dros dro newydd. Rwy'n credu ei bod hi'n amser gadael iddyn nhw fwrw ymlaen â'r dasg a pheidio â chyflwyno cyfres arall o heriau sefydliadol ar ben yr hyn sydd ganddyn nhw eisoes.
Arweinydd y tŷ, rydw i'n teimlo nad ydych chi'n derbyn graddfa'r mater yma. Mae hwn yn sefydliad sy'n methu: mae'n methu i wella ar ei berfformiad ac i ddysgu o'i gamgymeriadau difrifol, mae'n methu â dilyn ei ofynion statudol a chyfreithiol, ac mae'n methu â chyflawni gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'n amlwg nad oes gan eich Llywodraeth chi unrhyw strategaeth ar waith i ddelio â'r sefydliad hwn, ac mae hyd yn oed un Aelod o'ch plaid chi wedi disgrifio Cyfoeth Naturiol Cymru fel 'allan o reolaeth'.
Mae llawer ohonom ni yn dal pryderon difrifol am allu eich Llywodraeth chi i reoli gwasanaethau cyhoeddus, gyda'n bwrdd iechyd mwyaf mewn mesurau arbennig, ynghyd ag 19 o ysgolion. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn sefydliad cyhoeddus arall o dan eich rheolaeth chi sy'n methu â chyflawni. Felly, arweinydd y tŷ, ar ran pawb sy'n gwerthfawrogi ac sy'n dibynnu ar adnoddau naturiol Cymru, a wnewch chi nawr alw amser ar y sefydliad hwn, sy'n amlwg yn methu, â sicrhau bod y digwyddiad yma yn cael ei ddiwygio'n gyfan gwbl?
Fel y dywedais, rwy'n credu mai dyna fyddai'r dull cwbl anghywir o ymateb i her sefydliadol. Mae'r Aelod yn awyddus iawn i dynnu sylw at rai o'r agweddau negyddol ac, yn sicr, mae gan y sefydliad nifer o bethau y mae angen iddo fynd i'r afael â nhw, a bwriedir i'w drefniadau rheoli newydd fynd i'r afael â nhw. Ond rwy'n credu bod dwy ochr i bob stori. Mae'n bwysig cofio, yn ystod storm Callum, er enghraifft, bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu prosiectau a gafodd glod rhyngwladol i helpu gyda materion ymatebwyr brys, gydag amddiffyn rhag llifogydd, gyda lliniaru. Mae'n rheoli 7 y cant o arwynebedd tir Cymru ac yn cyflogi 1,900 o staff. Mae'n bwysig bod rheolwyr y sefydliad hwnnw yn cael cyfle i gynefino a datrys ei broblemau. Rwy'n credu fy mod i'n iawn wrth ddyfynnu cadfridog Rhufeinig yn dweud y gellir cyflwyno'r argraff o newid, dim ond drwy symud y byrddau o gwmpas. Yr hyn sydd ei angen arnoch mewn gwirionedd yw newid gwirioneddol i'r strwythur rheoli ac rydym ni'n credu erbyn hyn bod gennym ni'r tîm rheoli ar waith i wneud hynny.
Arweinydd Plaid Cymru—Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yn ôl ym mis Ionawr, dywedodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon bod eich Llywodraeth yn gwrthwynebu preifateiddio yn y GIG yn llwyr gan gymharu hynny â'r sefyllfa yn Lloegr. Mewn gwirionedd, polisi'r Llywodraeth pan benodwyd Carwyn Jones yn Brif Weinidog i ddechrau oedd diddymu'n raddol y defnydd o'r sector preifat yn llwyr erbyn 2011. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd heddiw i sicrhau nad yw byrddau iechyd yn caniatáu i ddarparwyr sector preifat gynyddu eu dylanwad yma yng Nghymru?
Ie, rydym ni'n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn seiliedig ar ei egwyddorion sylfaenol, ac yn cael ei ddarparu felly gan staff sector cyhoeddus pan fo hynny'n bosibl o gwbl ac yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu.
Mae'n gydnabyddedig iawn bod hanes eich Llywodraeth o ran amseroedd aros y GIG ymhell o fod yn foddhaol. Er enghraifft, mae'r archwilydd cyffredinol wedi adrodd yn ddiweddar y bu cynnydd o 55 y cant ers 2015 i nifer y cleifion y caiff eu hapwyntiadau dilynol eu gohirio ddwywaith cyn hired ag y dylent. Nawr, mae radioleg yn un maes lle mae targedau yn cael eu bodloni ar hyn o bryd, ond mae hyn oherwydd bod byrddau iechyd fwyfwy yn cynnig contractau allanol i'r sector preifat. Mae adroddiad yr archwilydd cyffredinol yn nodi bod perfformiad o ran amseroedd aros wedi cael ei helpu trwy sicrhau capasiti ychwanegol o'r sector preifat mewn ymateb i'r hyn y mae'n ei ddisgrifio fel
'anawsterau o ran recriwtio a chadw staff, oherwydd bod y cyfarpar sganio’n hen ac yn annigonol, ac oherwydd gwendidau TG' yn y GIG. Onid yw'n wir bod yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn bolisi o breifateiddio llechwraidd fel plastr i guddio problemau strwythurol tymor hwy yn y GIG yng Nghymru?
Wel, ni allwn anghytuno mwy gyda'r Aelod a dweud y gwir. Yn amlwg, mae'n rhaid i ni drefnu i wasanaethau gael eu darparu yn y modd gorau posibl, ond ceir egwyddor eglur, benderfynol, a fynegwyd yn gyhoeddus, agored a thryloyw yn y fantol, sef: pan fo hynny'n bosibl, rydym ni'n eu darparu gan staff sector cyhoeddus, yn rhad ac am ddim ar y pwynt darparu. Yn amlwg, ceir rhai achosion lle mae'n rhaid i ni ddefnyddio darparwyr sector preifat yn y tymor byr fel trefniant wrth gefn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu, a'r Aelod fyddai'r cyntaf i sefyll ar ei draed a'n beirniadu ni pe na byddem ni'n gwneud hynny. Ond mae'n amlwg nad oes llwybr i breifateiddio ar sail eang, fel y mae ef yn ei awgrymu.
Wel, edrychwch, arweinydd y tŷ, efallai fod dadl, yn amlwg, dros ddefnyddio capasiti sector preifat mewn argyfwng, ond nid dyna sut yr ydych chi'n adeiladu GIG cynaliadwy. Mae cynllunio hirdymor yn ei gwneud yn ofynnol i chi hyfforddi'r gweithlu, prynu'r offer sydd ei angen, fel bod y capasiti gennych chi i fodloni'r gofynion yn y dyfodol. Nawr, mewn gwirionedd, mae gwariant ar y defnydd o ddarparwyr sector preifat wedi cynyddu'n sylweddol ers i'ch Llywodraeth chi fod mewn grym. Yn 2011, roedd yn £14 miliwn; y llynedd, roedd yn £38.5 miliwn. Nawr, mae hynny'n gynnydd o 260 y cant dros y saith mlynedd diwethaf. Mae'r Blaid Lafur yn Lloegr, o dan Jeremy Corbyn, wedi addo rhoi terfyn ar y defnydd o ddarpariaeth sector preifat yn y GIG yn llwyr; dyna oedd y polisi yma. Onid yw hwn yn achos arall o Lafur yn dweud un peth fel yr wrthblaid yn San Steffan ac yn gwneud i'r gwrthwyneb mewn Llywodraeth yma yng Nghymru? A gadewch i ni—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi—[Torri ar draws.] Gadewch i ni roi Jeremy Corbyn o'r neilltu am eiliad. Onid ydych chi'n cefnu ar werthoedd Bevan a'ch gweledigaeth eich hun?
Wel, Llywydd, ni allaf wneud dim gwell nag ailadrodd yr hyn a ddywedais: wrth gwrs nad ydym ni'n gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r GIG fel gwasanaeth cyhoeddus rhad ac am ddim ar y pwynt o ddefnydd. Wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddefnyddio contractwyr preifat weithiau i ymateb i anawsterau gwasanaeth ac wrth gwrs rydym ni'n gwneud yn union fel yr awgrymodd y dylem ni ei wneud, sef hyfforddi'r nifer fwyaf o staff y gallwn yn y nifer fwyaf o leoedd hyfforddi y bu gennym ni erioed er mwyn cyflawni hynny. Ac, mewn gwirionedd, rydym ni'n sefyll ochr yn ochr â'r Blaid Lafur ar lefel y DU yn hyn o beth. Mae preifateiddio'r GIG yn gwbl wrthun i ni, ac yn sicr nid dyna egwyddor na pholisi'r Llywodraeth hon.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Dros y penwythnos, cefais y pleser o ddefnyddio gwasanaethau rheilffordd lleol ar draws gogledd Lloegr a'r Alban. Roedd y trenau'n rhedeg yn brydlon, roedd gwasanaethau yn cysylltu â'i gilydd, ac roedd digonedd o seddi i bobl eistedd arnynt. Onid yw'n deg i ddweud nad yw pobl sy'n defnyddio trenau yng Nghymru yn cael yr un driniaeth. Arweinydd y tŷ, a ydych chi a'ch Llywodraeth yn cytuno'n llwyr â chyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru, Bethan Jelfs, pan ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid i gwsmeriaid rannu poen y tarfu diweddar ar y rheilffyrdd?
Nac ydym. Wrth gwrs, mae'n hynod ddrwg gennym, fel y mae llawer o bobl wedi ei ddweud yn y Siambr yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ganfod ein hunain yn y sefyllfa lle mae Trafnidiaeth Cymru wedi etifeddu fflyd o drenau, is-safonol iawn ac nid yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl i raddau helaeth—a dweud y gwir, oherwydd y blynyddoedd ar flynyddoedd ar flynyddoedd o danfuddsoddi gan y sector preifat. Felly, mae gennym ni gynllun adfer cadarn iawn ar waith. Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth gyfarfod gyda phrif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru yr wythnos diwethaf i geisio sicrwydd bod y cynllun adfer hwnnw yno. Cadarnhawyd yn y cyfarfod hwnnw bod Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi rhoi cynllun adfer llawn ar waith i reoli'r sefyllfa ac y byddwn yn cael diweddariadau rheolaidd gan brif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru ar gynnydd o'i gymharu â'r cynllun hwnnw.
Mae'r peirianwyr o Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn gweithio bob awr o'r dydd i ailddechrau gwasanaethau cyn gynted â phosibl. Ychydig yn llai na mis yn unig y bu'r fasnachfraint gennym ni; ni allwn gywiro tanfuddsoddiad 15 mlynedd mewn pedair wythnos.
Ie, rwy'n sylweddoli bod problemau a gafodd eu hetifeddu gan Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, ond rwy'n meddwl tybed a yw rhai o'r pethau y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gyfrifol amdanyn nhw yn ddiweddar yn anawsterau a grëwyd ganddyn nhw eu hunain. Er enghraifft, rhoddwyd llawer o sylw i'r ffaith fod tua 25 i 30 y cant o'r fflyd ar gyfer Cymru a'r gororau wedi cael ei dynnu'n ôl i'w archwilio a'i drwsio. Wrth gwrs, rwy'n sylweddoli bod olwynion trên yn gwisgo, a allai gael ei waethygu gan ddail ar y rheilffordd yn ystod yr hydref mewn unrhyw flwyddyn. O ystyried bod hwn yn anhawster a wynebir gan bob masnachfraint rheilffordd bob blwyddyn, siawns mai'r ffordd y dylai swyddogion Trafnidiaeth Cymru, sy'n cael eu talu'n dda, fod yn ymdrin â hyn yw trwy ddisgwyl a rhagweld y broblem hon, ac yna cynllunio ar ei chyfer ymlaen llaw. Nid yw'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr y rheilffyrdd yn gallu deall pam mae'n rhaid tynnu 25 y cant o'r fflyd yn ôl i gyd ar yr un pryd yr hydref hwn. Pam na ellid eu tynnu'n ôl fesul tipyn, tua 5 y cant ar y tro dros bum wythnos, dyweder, yn hytrach na 25 y cant i gyd ar unwaith mewn wythnos?
A dweud y gwir, mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud gwaith cwbl wych, ac mae 10 y cant o'r fflyd yn weithredol eto. Felly, rwy'n credu, mewn gwirionedd, y dylid eu canmol am gyflymder eu hymateb. Yn amlwg, ceir problemau gwirioneddol gyda chadw trenau i weithredu nad ydyn nhw'n ddigon da, ac nid oes rhaid i mi eu hailadrodd i'r Aelod. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y fflyd yn weithredol eto. Fel y dywedais, mae'r cynllun adfer gweithredol ar waith; mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cael diweddariadau rheolaidd. Rydym ni'n awyddus iawn i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth i bobl Cymru cystal ag y gall fod wrth i ni gyrraedd yr hydref.
Wel, rwy'n falch o glywed hynny, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gobeithio y bydd y fflyd yn ôl mewn cyflwr da mewn da bryd i'r teithwyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y teithwyr yn mwynhau buddion hynny. Fodd bynnag, nid ynghylch oediadau trên yn unig y mae teithwyr yn teimlo'n rhwystredig ar hyn o bryd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf i wedi cael cwynion gan etholwyr y bu ciwiau hir o deithwyr yng Nghaerdydd yn ystod oriau brig y bore yn ymestyn ar draws yr orsaf. Mae'r ciwiau yn cynnwys teithwyr sydd wedi cwblhau eu teithiau, ond nad oeddent yn gallu prynu tocyn yn eu gorsaf reilffordd gychwynnol na chan aelod o staff ar y trên, felly bu'n rhaid iddyn nhw fynd at y cownter teithiau na thalwyd amdanynt yng ngorsaf Caerdydd Canolog. Roedd yr amser yr oedd hi'n ei gymryd i gyrraedd blaen y ciw hwn weithiau'n 20 munud i 30 munud ar gyfartaledd. Nawr, roedd gennym ni broblemau gyda'r gweithredwr blaenorol, Trenau Arriva Cymru, pan oedden nhw'n bygwth codi dirwy o gannoedd o bunnoedd ar bobl am nad oedd ganddyn nhw docynnau dilys ac wedyn, wrth gwrs, daeth i'r amlwg bod llawer o'r peiriannau tocynnau yn eu gorsafoedd nad ydynt wedi eu staffio, ddim yn gweithio mewn gwirionedd. Felly, mae'n ymddangos erbyn hyn ein bod ni'n mynd trwy anrhefn tocynnau newydd sbon gyda'r gweithredwr newydd. Nawr, gwn mai dyddiau cynnar yw hi, arweinydd y tŷ—rydym ni i gyd yn derbyn hynny—ond beth allwch chi ei wneud i sicrhau defnyddwyr rheilffyrdd nad yw'r gwasanaeth newydd yn mynd i barhau i ailadrodd holl broblemau'r hen un?
Mae symud i'r system ddi-docyn yr ydych chi'n ei gweld yn rhan bwysig o'r fasnachfraint newydd—. Os ewch chi i Transport for London, er enghraifft, mae bron pob un o'r gwasanaethau yn ddi-docyn, felly byddwn ni'n symud tuag at hynny. Mae'r buddsoddiad yn sicr yno. Dyna'n sicr yw'r bwriad—symud i weithrediadau di-docyn mor gyflym â phosibl.