– Senedd Cymru ar 27 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Oriel Gelf Gyfoes i Gymru' ac 'Astudiaeth Ddichonoldeb i Amgueddfa Chwaraeon i Gymru'. Galwaf ar y Gweinidog, Dafydd Elis-Thomas.
Cynnig NDM6873 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r astudiaethau dichonoldeb ar 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru— Astudiaeth Ddichonoldeb' ac 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb'.
2. Yn croesawu’r dadansoddi a’r argymhellion yn y ddau adroddiad, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau sydd ynghlwm wrthynt.
3. Yn cydnabod bod gofyn gwneud rhagor o waith cyn y gall penderfyniadau gael eu gwneud ynghylch camau gweithredu yn y dyfodol.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid yw 'dichonoldeb' yn air hawdd i'w yngan yn Gymraeg nag yn Saesneg, ond mae'n fraint gen i gyflwyno'r ddadl yma a dathlu'r ffaith ein bod ni'n genedl sy'n gyforiog o hanes a diwylliant, ble mae ein hanes a'n treftadaeth ni yn elfennau pwysig yn ein cymeriad fel cenedl. Ac, o ganlyniad i hynny, mae'r ffordd yr ydym ni yn cyfleu ein hunain drwy gelf a chwaraeon bob amser yn fater trafodaeth yn ein plith ni.
Yn yr achos yma, mi fu'r ymgynghorwyr ar gyfer y ddwy astudiaeth yma yn gweithio am flwyddyn, a mwy na hynny, ac mae'r adroddiadau terfynol bellach wedi'u cyhoeddi, ac rydw i wedi cael cyfle i'w hastudio nhw. Mi fyddaf i'n cyfeirio ar rai o'r prif argymhellion, ond beth rydym ni'n ceisio amdani ydy nid chwilio am atebion hawdd na sydyn, ond rhoi cyfle i bobl gyfrannu i'r drafodaeth, ac mae'r ddadl yma yn amser y Llywodraeth yn rhan o hynny.
Rydym ni am geisio sicrhau—a dyma ydy'r prif amcan—fod pobl Cymru yn cael gafael ac yn gallu cymryd rhan a mwynhau ein celf a diwylliant byrlymus, a'n bod ni'n cynyddu'r gyfranogaeth honno. I'r pwrpas yma, fe ymgynghorwyd â rhanddeiliaid o bob math—arbenigwyr yn eu maes, pobl â diddordeb arbennig mewn amgueddfeydd a chelf—ac mae'r argymhellion yn y ddau adroddiad yn deillio o'r trafodaethau hynny.
I edrych yn gyntaf gyda'r astudiaeth chwaraeon, amgueddfa bêl-droed genedlaethol oedd symbyliad cychwyn yr astudiaeth yma yn wreiddiol, ond, yn fuan iawn, fe ledwyd y briff yn ehangach i ystyried treftadaeth chwaraeon o bob math, ond bod pêl-droed yn parhau yn elfen ganolog yn yr argymhellion. Felly, mae'n bwysig ein bod ni yn cofio am yr ystod o gemau hanesyddol a oedd yn cael eu chwarae yng Nghymru, yn sail i'r gemau modern megis rygbi a phêl-droed a snwcer a bocsio, heb anghofio am bwysigrwydd y cynnydd sylweddol mewn pêl-rwyd ymhlith menywod, a'r diddordeb byw a newydd, oherwydd llwyddiant pobl fel Geraint Thomas, mewn beicio ac yna athletau a nofio yn ogystal. Mae gennym ni sêr yn y byd chwaraeon, ac mae'r sêr yr un mor bwysig ag yw cyfranogaeth y boblogaeth yn gyffredinol. Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi canfod yn y trafodaethau rwyf i wedi eu cael gyda'r adran sy'n gyfrifol am y maes yma yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yna fwy o ddiddordeb gennym ni yng Nghymru—ac mae polisi'r Llywodraeth yn adlewyrchu hynny—mewn cynyddu cyfranogaeth a llai o bwyslais, o bosib, ar gyfrif medalau. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn beth iach.
Mae'r adroddiadau yma, fel y dywedais i, yn benllanw sgyrsiau a chyfraniadau gan sefydliadau ac unigolion, ac mae'r prif gyrff llywodraethu wedi cyfrannu, gan gofio bod gennym ni dros 60 o gyrff llywodraethu ar yr holl amrywiol chwaraeon yng Nghymru, ac mae'r dystiolaeth yn adlewyrchu barn y rheini. Mae yna argymhelliad pendant i fuddsoddi yn Wrecsam yn yr adroddiad i alluogi datblygu'r amgueddfa yno yn amgueddfa bêl-droed. Ac mae'r argymhelliad hefyd yn mynd ymlaen yn y panel i sôn am banel arbenigol ar dreftadaeth chwaraeon i gryfhau gweledigaeth genedlaethol a fframweithiau yn codi o hynny. Ac yna mae'r argymhelliad pwysig bod yna gampau eraill yn haeddu sylw a bod yn rhaid ceisio ffyrdd eraill o wneud hynny yn hytrach na chreu rhagor o amgueddfeydd i wahanol fathau o chwaraeon.
Mae yna gyfeiriad penodol wedi cael ei wneud at yr awdurdod lleol yn Wrecsam yn yr adroddiad, ac mae'n amlwg nad mater i Lywodraeth Cymru benderfynu ffordd ymlaen ar ei phen ei hun ydy hwn. Rydw i wedi ceisio pob cyfle—ac rydw i'n cael llawer ohonyn nhw, wrth gwrs—i drafod o gwmpas achlysuron chwaraeon i geisio gweld beth yw'r farn a beth yw'r ymdeimlad yn gyffredinol yn y sector yng Nghymru.
Mae'r un peth yn wir gyda'r adroddiad celf gyfoes. Dyma'r adeg o'r flwyddyn y mae yna lawer o arddangosfeydd celf o bob math yn digwydd ac rydw i wedi cael cyfle i weld y diwylliant celf gyfoes iach a bywiog o bob math ar draws Cymru yn ystod y misoedd diwethaf, o'r amgueddfeydd a'r orielau mawr drwodd i'r datblygiad diddorol sy'n digwydd bellach mewn llawer o orielau preifat, llai, a'r orielau rhanbarthol, safonol, megis y Mostyn yn y gogledd a Glyn y Weddw a Glynn Vivian yn Abertawe. Mae hyn i gyd wedi cael ei gydnabod yn glir yn yr adroddiad ac efallai mai un o'r argymhellion mwyaf rhybuddiol i mi fel Gweinidog oedd nad ydym yn creu gormod o gynnwrf nac unrhyw fath o anwastadrwydd yn y ddarpariaeth bresennol sy'n bod. Ac rydw i'n meddwl bod hynny yn allweddol bwysig.
Mae'r argymhellion yn eithaf clir. Y cam cyntaf ydy'r hyn a elwir yn gynfas cenedlaethol comisiynu gweithiau newydd ledled Cymru i greu diddordeb, gydag artistiaid yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol; y cam o fuddsoddi yn y seilwaith sydd gennym yn barod gan ddarparu dull cyflenwi sy'n agor y casgliadau cenedlaethol ac yn cynnig gweithiau newydd i gynulleidfaoedd ar draws y wlad; ac yna y trydydd argymhelliad i sefydlu pencadlys celf gyfoes cenedlaethol yn ofod parhaol ac yn llwyfan bywiog.
Wel, mae'r model yma sydd wedi'i awgrymu yn yr adroddiad yn un cymhleth, ond mae o'n un y gallwn ni feddwl am ei ddatblygu mewn sawl ffordd wahanol, gan gysylltu hynny â pha adnoddau sydd ar gael. Fel gyda'r astudiaethau chwaraeon, mae'r cyfan yn dibynnu ar weithredu mewn partneriaeth, yn fy marn i, ac mi fyddaf i yn ceisio gwneud hynny os caf i'r cyfle i barhau yn y swydd yma ac i weithredu ar yr argymhellion. Mae'r astudiaeth yn codi allan o ymgynghoriad, gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r rhai a wnaeth y gwaith, a hefyd i'r holl garedigion chwaraeon a charedigion celf mas fanna sydd wedi cymryd diddordeb yn y broses yma, ac rydw i'n edrych ymlaen at glywed beth a ddywedir ymhellach yn y ddadl yma heddiw.
Rwyf wedi dethol y pump gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar—David Melding.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod gwerth y dadansoddiad a ddarparwyd yn y ddau adroddiad fel sail ar gyfer ymgysylltu cyhoeddus helaeth;
Yn croesawu'r argymhellion ar gyfer paneli arbenigol i wella sut y caiff treftadaeth chwaraeon a chelfyddydol Cymru ei chydnabod a'i diogelu.
Yn credu bod yn rhaid i benderfyniadau ar weithredu yn y dyfodol adlewyrchu uchelgais i greu rhywbeth ffres ac sy'n arwain y byd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn ei chroesawu hi. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r ddau adroddiad hyn. Mae'n waith trylwyr iawn ac yn fy marn i mae'n sail ardderchog ar gyfer dewisiadau i'w datblygu yn y dyfodol. Rwyf i o'r farn hefyd y bydd llawer o dir cyffredin o ran y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatblygu cynigion penodol. Ni fyddwn mewn gwirionedd yn cefnogi cynnig y Llywodraeth, a'r unig reswm am hynny yw na chredaf fod digon o ganolbwyntio ar yr argymhellion i'w cymeradwyo yn y modd hwnnw. Nid wyf yn credu mai dyna yw eu diben, mewn gwirionedd. Maen nhw'n ein cyfeirio ni i gyfeiriad penodol. Rwy'n awyddus iawn ein bod yn bwrw ymlaen â rhywfaint o ymgysylltu cyhoeddus, oherwydd mae'r meysydd hyn yn galw am hynny i raddau helaeth iawn.
Mae celfyddyd gyfoes yn adeiladu ar draddodiad gwych yn yr ugeinfed ganrif, sy'n rhywbeth y mae gwaith Peter Lord wedi ei ddangos rwy'n credu—sef bod gennym ni enw rhagorol yn y celfyddydau gweledol sy'n cael ei esgeuluso'n aml. Rydym hefyd, yn y 15 i 20 mlynedd diwethaf, wedi gweld llwyddiant anhygoel gwobr Artes Mundi, sydd wedi ein rhoi ni ar y map yn rhyngwladol. Ond, mae angen inni ganolbwyntio nawr ar gelfyddyd gyfoes Cymru, ac ar chwaraeon yn yr un modd. Mae'r rhain yn faterion sy'n hawlio ymgysylltu cyhoeddus helaeth iawn. Felly, a gaf i siarad am yr oriel gelf gyfoes yn gyntaf?
Rwy'n credu mai'r mater canolog i'w ddatrys yma yw a oes angen adeilad newydd mawreddog proffil uchel, ac mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, fod angen hynny. Os felly, a ddylai fod yn amcan cyntaf unrhyw strategaeth neu'n ddiweddglo o bosib i strategaeth "prif ganolfan a lloerennau", sef yr hyn, i ryw raddau, sy'n brif fyrdwn yr adroddiad hwnnw yr ydym yn ei drafod y prynhawn yma? Rwy'n credu bod Adam Price wedi dod ag egni anhygoel i'r ddadl hon pan wnaeth ef ein herio ni i feddwl yn nhermau amgueddfeydd Guggenheim yn Bilbao neu yn Efrog Newydd—y strwythurau anhygoel hynny. Efallai y gallwn wneud cystal â'r rheini, neu falle ddim, ond dyna ddylai fod yn uchelgais inni yn y lle cyntaf. Yna, fe soniodd am rywle fel Port Talbot. Mae'n ystyriaeth gyfoes ardderchog ac yn adeiladu ar rai traddodiadau diweddar o ran cyflawniad celfyddydol. Efallai nad yn y fan honno y cawn ni'r ateb, ond credaf mai yn y fan honno y dylai'r ystyriaeth fod i ryw raddau.
Fel y dywed yr adroddiad, mae'r materion hyn yn golygu risgiau mawr. Nid oes gennym hanes diweddar hapus iawn o ran cyfleusterau ar gyfer darpariaeth celfyddyd gyfoes. Nid wyf yn arbennig o awyddus i sôn am fethiannau prosiectau'r gorffennol, ond mae hwn yn faes heriol. Mae hefyd yn guriad calon i waith artistig creadigol ein cenhedlaeth bresennol, felly fe ddylai gael flaenoriaeth uchel iawn, iawn. Yn anad dim, rwy'n credu bod angen inni gael gweld rhywbeth newydd, rhywbeth gweladwy sy'n arwain yn fyd-eang. Os na ddechreuwn ni gyda'r uchelgais hwnnw, nid wyf yn hollol siŵr y gallwn fynd i'r lle yr ydym yn dymuno bod ynddo. Er tegwch, mae'r adroddiad yn defnyddio'r termau hyn, ac rydym yn bendant yn dymuno cael model ffederal, gwasgaredig yn rhan o'r strategaeth. Ond rwy'n credu mai'r adeilad urddasol hwnnw yw'r peth y mae angen inni ei ystyried, a chanolbwyntio ar hynny.
O ran chwaraeon, unwaith eto, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y risgiau, yn enwedig ynglŷn â breuder ariannol. Mae profiad yr Alban yn ddadlennol iawn yn y fan hon, rwy'n credu. Rwyf i'n bersonol o'r farn y dylid edrych ar chwaraeon yn gyffredinol yn hytrach nag ar bêl-droed yn benodol. Rwy'n credu bod pawb yma o'r farn bod angen cael amgueddfa genedlaethol nodedig, neu un arall, wedi ei lleoli yn y gogledd. Ni allaf feddwl am le gwell na Wrecsam ar ei chyfer, felly rwy'n hoffi'r agwedd honno ar yr hyn yr ydym yn ei ystyried. Dyna pam y byddwn yn cefnogi gwelliannau 2 a 5 Plaid Cymru. Ond unwaith eto, rwy'n credu bod angen inni ystyried y mater hwn yn drwyadl iawn, er nad yw chwaraeon yn ei ystyr ddiwylliannol yn cael yr amlygrwydd y dylai. Rwy'n credu ei fod yn ffactor enfawr ym mywyd ein cenedl. Ac er bod pob un ohonom ni'n ei fwynhau o ran yr hyn sy'n digwydd ar unrhyw adeg arbennig, mae ei effaith ar y gymdeithas yn ddwys iawn ac mae angen archwilio hynny, ei ddathlu a'i ystyried yn y ffordd honno hefyd. Felly, mae angen edrych ar y pethau hyn mewn ffordd uchelgeisiol iawn hefyd.
Yn olaf, a gaf i ddweud fy mod yn hoffi syniadau'r paneli ac yn edrych ymlaen at eu gwaith nhw? A dyna'r math o ymgysylltu a ddylai fod gennym ni yn rhan annatod o'n system. Rwy'n credu y byddwn ni'n dod o hyd i gonsensws ar y materion hyn, ond mae angen dadl fywiog i roi cychwyn arni. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth— Llyr Gruffydd.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu ar ôl pwynt 2:
Yn croesawu’r argymhelliad y dylid sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i weithredu argymhellion craidd yr adroddiad, 'Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru—Astudiaeth Dichonoldeb', yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:
Yn croesawu’r argymhelliad y dylid gweithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol parhaol ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes i Gymru.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3:
Yn galw ar i Lywodraeth Cymru ymrwymo i weithredu argymhelliad canolog yr adroddiad, 'Amgueddfa Chwaraeon i Gymru—Astudiaeth Ddichonoldeb', y dylid creu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mi fyddaf i'n trafod yr elfen amgueddfa bêl-droed yn benodol, ac mi fydd Adam Price yn ymhelaethu ar yr oriel gelf gyfoes. Felly, gwelliant 2 a gwelliant 5 ydy'r rhai rydw i am ganolbwyntio arnyn nhw ac, wrth gwrs, rydym ni'n awyddus nid yn unig i nodi ond i groesawu argymhelliad canolog yr astudiaeth achos ar yr amgueddfa bêl-droed genedlaethol a hefyd, wrth gwrs, i symud ymlaen i weithredu ar yr argymhellion hynny o greu'r amgueddfa bêl-droed rydym ni i gyd am ei gweld.
Wrth gwrs, mae wedi bod yn uchelgais inni fel plaid i wireddu hyn ac rydym ni'n falch bod yr astudiaeth yn cadarnhau'n huchelgais ni yn y lle cyntaf bod angen amgueddfa bêl-droed genedlaethol i Gymru, ac yn ail, bod yr amgueddfa honno yn cael ei lleoli yn Wrecsam ac felly yn hynny o beth, rydym ni'n croesawu'r astudiaeth fel cam sylweddol ymlaen.
Mae canfyddiadau'r adroddiad yn gyfiawnhad o'r ymgyrch a lansiwyd dair blynedd yn ôl, pan drafodais i a chyd-Aelodau Plaid Cymru hyn yn gyhoeddus gyntaf, ochr yn ochr â chyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, pan lansiwyd ein hymgyrch ar y Cae Ras. Bryd hynny, wrth gwrs, roeddem ni'n dadlau y dylid sefydlu amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, cartref ysbrydol y gêm. Dyna'r lle y dechreuodd pêl-droed yng Nghymru, mewn gwirionedd. Mae'n gartref o hyd i'r stadiwm ryngwladol hynaf yn y byd, yn ogystal â'r clwb pêl-droed hynaf yn y byd ond dau. Dyna'r lle, wrth gwrs, y gwnaeth sefydlwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru gyfarfod flynyddoedd lawer iawn yn ôl. Hefyd, nid hanes yn unig, ond dyfodol pêl-droed hefyd, oherwydd mae'r FA, wrth gwrs, wedi buddsoddi yn y dyfodol gyda chanolfan datblygu pêl-droed genedlaethol wedi ei lleoli ym Mharc Colliers yn Wrecsam. Ac roedd Plaid Cymru yn dadlau'r achos o blaid amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn ein maniffesto ar gyfer etholiad 2016 ac, wrth gwrs, sicrhawyd bod yr astudiaeth ddichonoldeb hon yn digwydd yn rhan o gytundeb y gyllideb a wnaethom ni gyda Llywodraeth Cymru. Ond, nid dyma ddiwedd y stori, i'r gwrthwyneb. Mae llawer mwy o waith eto i'w wneud, a hoffwn weld y Llywodraeth nawr yn cyflwyno amserlen i wneud yn siŵr ein bod yn gwireddu'r uchelgais hwn cyn gynted ag y gallwn ni.
Rwy'n anghytuno â chanfyddiadau'r adroddiad mewn ambell fan, neu'r argymhellion, yn gyntaf oll, wrth gwrs, o ran y model llywodraethu. Er mwyn bod yn amgueddfa genedlaethol o'r iawn ryw, credaf ei bod yn briodol i'r amgueddfa bêl-droed genedlaethol arfaethedig hon fod yn rhan o deulu Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn hytrach nag—ac efallai fod hyn yn annheg, yn ddim mwy nag amgueddfa leol, ond â statws llai aruchel yn sicr. Yn ail, fy uchelgais i o hyd yw bod yr amgueddfa yn cael ei hymgorffori o fewn y gwaith o ailddatblygu'r Cae Ras yn y dyfodol. Mae'n drueni mawr y diystyrwyd y posibiliad hwnnw mewn un paragraff yn yr astudiaeth ddichonoldeb. Ond, yn sicr, fel plaid rydym yn awyddus i weld y datblygiad hwn yn digwydd, a byddwn yn parhau i alw am wneud yr amgueddfa yn gatalydd ar gyfer y gwaith ailddatblygu hwnnw yn y Cae Ras, er efallai fod yr uchelgais hwnnw yn rhywbeth y bydd raid i ni ei ystyried yn yr hirdymor i ryw raddau.
Nawr, mae'r astudiaeth hefyd, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog wedi cyfeirio, wedi amlygu nad oes polisi na chanllawiau na strategaeth treftadaeth chwaraeon gennym ni yng Nghymru fel y dylai fod, ac mae'r argymhelliad i greu panel arbenigol i ddatblygu gweledigaeth genedlaethol a fframwaith weithredu oll yn bethau, yn amlwg, i'w croesawu. Mae hi'n bwysig, serch hynny, bod jig-so amgueddfa Cymru yn cael ei gwblhau. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, am bresenoldeb yng Nghaerdydd yn yr amgueddfa genedlaethol ac yn San Ffagan, Big Pit yn y Cymoedd, amgueddfa'r glannau yn Abertawe, gwlân yn y de-orllewin, llechi yn y gogledd-orllewin. Mae yna wagle yn y gogledd-ddwyrain, ac rydw i wedi dadlau mewn cyd-destunau eraill bod angen mwy o sefydliadau cenedlaethol i fod â phresenoldeb yn y gogledd ddwyrain er mwyn ategu hunaniaeth—identity—Cymreig ardal sydd, yn naturiol, yn edrych yn fwy i gyfeiriad Lerpwl a Manceinion nag y byddai hi efallai i Gaerdydd. Mae hwn yn gyfle nid un unig i gyflawni hynny, ond inni ddweud stori pêl-droed Cymru o bersbectif Cymreig, a hynny wedi ei leoli fel rhan o amgueddfa genedlaethol.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae'n bwnc diddorol, neu'n gyfuniad o bynciau—pwnc chwaraeon a phwnc celf. Cytunaf â llawer o'r hyn y mae Llŷr Gruffydd newydd ei ddweud ar bwnc yr amgueddfa bêl-droed. Cyfeiriodd Llŷr at Wrecsam fel cartref ysbrydol pêl-droed Cymru. Wrth gwrs, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yw fy nghlwb i, ond rwy'n cydnabod yn llwyr mai yng nghornel y gogledd-ddwyrain y dechreuodd pêl-droed cyfundrefnol yng Nghymru mewn gwirionedd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd lawer, bu'r Cae Ras yn llwyfan i lawer neu i ran fwyaf o gemau pêl-droed rhyngwladol Cymru. Cafwyd cryn anfodlonrwydd yn y 1990au ymhlith pobl y gogledd—roeddwn yn ymwybodol ohono ar y pryd—pan gafwyd mwy o gemau rhyngwladol yn dod lawr i Gaerdydd, bryd hynny yn y stadiwm genedlaethol. Ac yn fy marn i, byddai hyn yn gam da er mwyn cadarnhau pwysigrwydd y gogledd-ddwyrain drwy ei gynnwys mewn strategaeth ar gyfer dathlu diwylliant yng Nghymru, gan gyd-fynd â'r hyn y mae Llŷr newydd ei ddweud. Dyfynnodd ychydig o ffeithiau pwysig am Wrecsam, felly nid wyf am eu hailadrodd nhw, ond soniaf am un neu ddau o bethau eraill.
Roedd clybiau cynnar eraill o bwys ar yr adeg honno yng nghornel y gogledd-ddwyrain. Yn ardal Wrecsam, roedd y Derwyddon o Riwabon, ac roedd Clwb Pêl-droed y Waun hefyd. Roedden nhw'n enillwyr cynnar Cwpan Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ar wahân i Wrecsam. Cynhyrchodd clwb y Waun Billy Meredith, a oedd fwy na thebyg yn chwaraewr enwocaf yr oes Edwardaidd drwy Ynysoedd Prydain, felly rwy'n credu bod y Waun wedi chwarae rhan fawr hefyd. Byddai hynny hefyd yn cyd-fynd â'r strategaeth o gael yr amgueddfa hon yn Wrecsam. A byddai cyplysu hynny ag ailddatblygu'r stadiwm yn syniad da pe gallem edrych o ddifrif ar hynny. Credaf fod hynny'n deilwng iawn o ystyriaeth drwyadl.
A phwysigrwydd cael amgueddfa dda—hynny yw, mae gennym ni amgueddfeydd. Nid ydyn nhw bob amser o statws aruchel. Rwy'n cofio pan oedd gennym yr amgueddfa chwaraeon genedlaethol, yn Sain Ffagan. Roedd yno rai eitemau a oedd o ddiddordeb, ond nid oedd yr arddangosfa wedi cael ei harddangos yn arbennig o dda, a chredaf fod statws yr amgueddfa, fel y crybwyllodd Llŷr, yn bwysig hefyd; mae angen iddo fod yn gasgliad da.
Rwy'n cytuno â David Melding bod angen inni gael trafodaeth ar yr oriel gelf gyfoes, oherwydd mae'r cynigion ar y pwnc hwnnw ychydig yn fwy amwys. Yn rhyfedd ddigon, soniodd David am Bort Talbot, sydd wedi codi ei ben fel safle arloesol o bosib ar gyfer oriel gelf o'r fath. Wrth gwrs, mae Port Talbot yn enwog yn draddodiadol am ei ddiwydiant yn hytrach nag am ei ddiwylliant. Wrth gwrs, gwyddom bellach fod bywyd diwylliannol yn dechrau ffynnu ym Mhort Talbot, felly byddai'n—[Torri ar draws.] Iawn, wel, nid wyf yn bwriadu bod yn nawddoglyd. Mae gan Bort Talbot ddiwylliant artistig bywiog iawn. Byddai hyn yn ychwanegu at hynny, ac felly credaf fod hynny'n syniad radical a dylem ei ystyried. A diolch yn fawr am yr adroddiad.
Roedd yn bleser darllen yr adroddiad. Roedd rhannau ohono nad oeddwn i'n eu deall; cyfeirio yr wyf i mewn gwirionedd at y rhan sy'n trafod celf gyfoes. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn hyn oherwydd ymddengys i mi fod yna ansicrwydd oddi mewn i'r rhan honno, a'r gwrthdaro, rwy'n tybio, rhwng y syniad o sut yr ydych yn edrych ar y ganolfan ragoriaeth draddodiadol—yr un weledol, yr un a gaiff ei hanelu at dwristiaid, yr un sydd wedi ei hanelu at broffil a phroffil rhyngwladol, ac ati—a'r dewis arall o sut yr ydych yn datblygu'r safleoedd sydd o gwmpas ac yn eu cydlynu yn ddehongliad cyfan o hynny. Ac i ryw raddau, wrth gwrs, ceir problemau gwirioneddol o ran cyfalaf, o ran cyllid ac ati.
Mae gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y dull hwb, ac rwy'n sylwi mai'r hyn a ddywed yr adroddiad—cyfeirir at
Beth fydd yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau, i artistiaid ac i seilwaith y celfyddydau gweledol sy'n bodoli eisoes?
Nawr, os yw hynny'n wir, y rheswm pam mae gennyf i ddiddordeb yn benodol yw bod gennym nifer o ardaloedd sy'n tyfu yng Nghymru lle ceir gwagleoedd gwirioneddol o ran darpariaeth celf. Hynny yw, gadewch inni ystyried Pontypridd—mae'n amlwg y byddwn i'n siarad am fy etholaeth fy hun—ond ceir rhai eraill, a Phontypridd yn arwain hyd at y Cymoedd yn eu cyfanrwydd. Os edrychwch chi ar y map o'r lleoliadau ar gyfer darparu cyfleusterau, ac ati, mae prinder gwirioneddol ohonyn nhw mewn rhai ardaloedd, ac eto mae llawer o adeiladau sylweddol ar gael, y gellid eu defnyddio pe byddai gennym y dychymyg i wneud hynny. Felly, y mater sy'n peri ychydig bach o bryder i mi yw'r eglurder ynglŷn â phen ein taith a'r gwrthdaro rhwng y gwahanol ddewisiadau sydd dan sylw yma. Bûm yn ymweld â Kiev dros y penwythnos, a cheir yno adeilad mawr a fu gynt yn ystordy arfau, a oedd yn amlwg wedi storio arfau, ac sydd bellach wedi cael ei addasu yn warws enfawr o gelfyddyd gyfoes. Roedd yn ddiddorol tu hwnt fel enghraifft o sut y gallech chi ymdrin ag adeilad diwydiannol mewn gwirionedd. Felly, pan siaradwch am Bort Talbot, ceir llawer o adeiladau diwydiannol mawr ym Mhort Talbot nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Mae'r seilwaith hwnnw gennych chi yno, a'r capasiti mewn gwirionedd i'w leoli yno a chael pobl i ymgysylltu ag ef yno.
Os mai'r bwriad yw gwneud y celfyddydau yn fwy hygyrch ac ymgysylltu o ran cyfleuster ar gyfer cymunedau ac ymgysylltiad cymunedol, yna bydd yn rhaid i'r patrwm fod ychydig yn wahanol. Ac rwyf i o'r farn y dylem deithio i fyny yno ac edrych ar yr ardaloedd hynny lle ceir y gwagleoedd hyn, a byddwn yn teithio o Bontypridd drwy Porth, yr holl ffordd drwy'r Cymoedd, lle ceir rhai adeiladau aruthrol ond dim darpariaeth wirioneddol. Byddai'r ddarpariaeth yn cael ei lleoli o gwmpas y lle i gyd. Felly, Gweinidog, efallai pan fyddwn ni wedi crynhoi'r ddadl hon ac y bydd gennym y cyfeiriadau, byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurder am gyfeiriad yr ystyriaeth gan y Llywodraeth nawr ynglŷn â'r hyn allai fod yn ddewisiadau gorau a sut y gall y math hwnnw o ymgysylltu ddigwydd mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei bod yn werthfawr iawn pan fyddaf yn gweld yr hyn sy'n digwydd o fewn Pontypridd ar hyn o bryd—adfywio gwirioneddol y dref—ond y ffaith yw y ceir diffyg mawr yn y ddarpariaeth o ran y celfyddydau. Ceir rhai ardaloedd a rhai eitemau o ragoriaeth, ac mae'n syndod i mi fod nifer o'r artistiaid sy'n bodoli mewn gwirionedd yn gofyn am gymorth i gael pethau yng Nghaerdydd, gan mai dyna lle mae'r cyfleusterau, ac mae'r cyfleusterau lleol yn brin iawn.
Felly, credaf mai dyna yw'r cyfraniad yr hoffwn i ei wneud yn hynny o beth. Ond yn sicr rwy'n edrych ymlaen at yr hyn sy'n ddadl bwysig iawn, yn fy nhyb i, ar y bywyd diwylliannol, ansawdd bywyd a lles ein cymunedau, a sut y gall y celfyddydau fod â rhan yn hynny mewn gwirionedd.
Rwy’n croesawu adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth. Mae’r adroddiad yn drylwyr, mae’n onest ac mae’n gosod, a dweud y gwir, y gorolwg gorau sydd wedi bod ers degawdau ynglŷn â’r celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae’n cynnig model creadigol, arloesol i greu canolbwynt a ffocws newydd ar gyfer y celfyddydau gweledol gyda sefydliad cenedlaethol yn graidd iddo. Mae’n graff, yn ysbrydoledig ac yn gynhwysfawr, ac mae’n gofyn am ddewrder ynglŷn â’r weledigaeth ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
Rydym ni'n o'r sefydliadau sydd gan y rhan fwyaf o genhedloedd. Mae'r adeilad y drws nesaf yn enghraifft o hynny, wrth gwrs. Tŷ opera oedd hwn a ddatblygodd wedyn yn ganolfan genedlaethol gymysg ar gyfer perfformiadau—Canolfan Mileniwm Cymru. Mae'r celfyddydau gweledol yn faes lle mae'r diffyg o ran y sefydliadau diwylliannol cenedlaethol hynny'n amlwg iawn. Nid oes gennym oriel genedlaethol o hyd. Nid oes gennym oriel bortreadau genedlaethol, ac nid oes gennym, wrth gwrs, oriel genedlaethol ar gyfer celfyddyd gyfoes sydd ar raddfa ddigonol i ni allu creu pwynt crisialu ar gyfer y celfyddydau gweledol yng Nghymru.
A cheir cyfle yma mewn gwirionedd i ni fanteisio ar ychydig o ysbryd yr oes arwrol honno a welodd saernïo cenedl 100 mlynedd yn ôl—pobl fel Tom Ellis, o'r un enw â'r Gweinidog, a'i debyg, ac ati—a'r weledigaeth o greu llyfrgell genedlaethol ac amgueddfa genedlaethol a sefydliadau cenedlaethol eraill. Ac onid oes gwaith eto heb ei orffen yn hyn o beth? Mae'r celfyddydau gweledol bob amser wedi cael eu diystyru i ryw raddau, yn anffodus, yn ein diwylliant ni, sydd wedi rhoi lle blaenllaw i'r gair ysgrifenedig a pherfformiadau byw. Felly, hwn yw'r cyfle i ni unioni cam y ddiystyriaeth honno, oherwydd, wrth gwrs, mae'r celfyddydau gweledol wedi bod yn rhan o'n stori ni; ond heb gael yr un sylw. A chynyddu'r sylw hwnnw yw'r hyn yr ydym ni'n ei drafod.
Rwyf i o'r farn fod yr adroddiad yn cynnig dull synhwyrol a phwyllog mewn tri cham. Yr unig beth y byddwn i'n ei ddweud yw: gadewch inni gwblhau'r camau'n gyfochrog â'i gilydd. Felly, wrth inni gynyddu capasiti, gadewch inni hwyluso'r gwaith o godi cyfalaf i greu'r hwb hefyd. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud, mewn cenedl fel hon, o blaid dull ffederal, dull gwasgaredig, Ond mae angen lloerennau ar brif ganolfan hefyd. Ac o ran y ddaearyddiaeth yn syml, gyda natur celfyddyd gyfoes, mae angen adeilad â nenfydau uchel sy'n ddigon mawr mewn gwirionedd i greu'r math o brofiad y gall pobl ymgolli'n llwyr ynddo fel sydd ar gael yn Turbine Hall yn y Tate Modern neu mewn gwledydd eraill ledled y byd sydd â lleoliad ar raddfa eang i lwyfannu celfyddyd gyfoes.
Felly, ie, ar bob cyfrif, gadewch inni'n wir greu rhwydwaith gyda'n horielau presennol ardderchog, llai o faint sy'n bodoli yng Nghymru, ond mae angen yr hwb canolog hwnnw arnom hefyd fel y gallwn greu'r math o brofiad sy'n bosib o ran y celfyddydau gweledol mewn gwledydd eraill. Ac mae hwn yn gyfle rhagorol i wneud rhywbeth cyffrous a allai fod â phosibiliadau adfywio. Ie, rwy'n credu y byddai Port Talbot yn lle diddorol iawn: y mynyddoedd o'r tu cefn i ni yn cyfarfod y môr; ie, treftadaeth ddiwydiannol Cymru sydd yno; ac, wrth gwrs, fel y gwyddom, mae Port Talbot yn ystod y nos, mewn ambell ffordd, yn waith o gelfyddyd, onid yw? A beth allai fod yn well, ac yn crisialu ein diwylliant yn yr ystyr lawnaf, nag adeiladu canolfan ein horiel celf gyfoes genedlaethol yno? Roedd Fox Talbot yn un o'r arloeswyr ffotograffiaeth, onid oedd ef? Felly, ceir hanesyn am y celfyddydau gweledol yn yr union fan honno.
Gallem ddechrau mewn ffordd greadigol. Nid oes raid i ni mewn gwirionedd godi'r cyfalaf yn syth i hudo pensaer enwog i Gymru. Efallai y gallem wneud rhywbeth i'r gwrthwyneb i'r hyn a ddigwyddodd gyda Zaha Hadid ac, mewn gwirionedd, gyda rhai o'r amgueddfeydd Guggenheim hynny dros y byd, yn Rio, nad ydyn nhw wedi digwydd—efallai y gallem fenthyg rhai o'r cynlluniau ar gyfer y fan honno a'u hadeiladu yma. Ond gallem ddechrau drwy wneud yr hyn a wnaeth Theatr Genedlaethol Cymru mewn ffatri segur gyda 'We're still here', oni allem ni? Gallem ddefnyddio warysau diwydiannol segur fel yr enghraifft gychwynnol o oriel genedlaethol tra byddwn yn codi cyfalaf a momentwm i greu rhywbeth mwy parhaol.
Ceir llawer o risgiau, wrth gwrs, ond mae'r adroddiad yn nodi'r risg mwyaf oll, a ni'r gwleidyddion yw hynny. Maen nhw'n ein herio ni yn yr adroddiad, yr artistiaid. Maen nhw'n dweud, 'Nid oes ganddyn nhw'—maen nhw'n cyfeirio atom ni—'hyder yn artistiaid Cymru.' Mae'r adroddiad yn frith o nifer syfrdanol o adroddiadau dros y blynyddoedd a gafodd eu gadael ar y silff. Gadewch i ni beidio â gwneud y camgymeriad hwnnw eto. Mae cyfle inni symud ymlaen nawr gyda'r busnes anorffenedig o greu llwyfan addas ar gyfer y cynhyrchiad ardderchog o gelf a geir yma yng Nghymru.
Roedd y penderfyniad i gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb i greu oriel genedlaethol o gelfyddyd gyfoes ac amgueddfa chwaraeon genedlaethol yn rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ei groesawu gan fy mod innau'n awyddus i weld Cymru, fy ngwlad i, yn ffynnu o ran y ddawn helaeth sydd gennym yn y celfyddydau ac yn annog pobl o wledydd eraill i gymryd rhan a chystadlu yng Nghymru, ac felly'n ychwanegu at dwf ein heconomi. Ni ddylid anghofio am ardaloedd gwledig Cymru ychwaith, oherwydd maen nhw'n hynod o bwysig ac yn cael eu hesgeuluso'n aml.
Fodd bynnag, credaf fod yn rhaid inni edrych ar y darlun ehangach hefyd, sef canfyddiad y cyhoedd. Ar adeg pan mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri hyd at yr asgwrn ac mae'r celfyddydau wedi wynebu blynyddoedd lawer o doriadau, a allwn ni gyfiawnhau gwario miliynau o bunnoedd ar amgueddfa celf gyfoes?
Yfory, byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, a Chyfathrebu ar ei ymchwiliad i gyllid nad yw'n gyhoeddus i'r celfyddydau, a ddaeth i fodolaeth oherwydd i Lywodraeth Cymru ofyn i'r sector leihau ei ddibyniaeth ar arian cyhoeddus. A daeth y pwyllgor i'r casgliad y byddai'n anodd iawn i sefydliadau'r celfyddydau wneud fel hynny.
Rwyf i'n llwyr gefnogi arian cyhoeddus parhaus ar gyfer y celfyddydau. Mae celfyddyd, pob agwedd arno, yn rhan hanfodol o'n diwylliant. Dyma'r hyn sy'n ein diffinio ni'n fodau dynol ac mae'n dod â budd enfawr i bawb, nid yn unig i'r rhai sy'n ei greu, ond i'r rhai sy'n syllu ac yn dysgu ac yn edrych arno. Ond mae angen inni fod yn realistig ynghylch y cyllid. Efallai y byddai'n well gan y trethdalwr cyffredin weld ei lyfrgell gyhoeddus yn dal i fod ar agor, neu'r ganolfan ddydd leol ar gael i bobl agored i niwed a phobl hŷn, yn hytrach na thalu am amgueddfa newydd fel y Tate Modern. Oes, mae angen amgueddfa celf gyfoes ar Gymru, ond a allwn ni fforddio honno ar hyn o bryd?
Mae'r astudiaeth ddichonoldeb ar ei phen ei hun wedi costio mwy na'r grant blynyddol a roddir i Dawns i Bawb, Theatr Felinfach, Trac, Arts Alive a Chanolfan Celfyddydau Pontardawe. Hyd yn oed heb adeiladu pencadlys newydd, bydd cyfnod 1 a 2 y prosiect hwn yn costio bron traean yn fwy na chyllideb flynyddol gyfan Cyngor Celfyddydau Cymru. Felly, er fy mod yn cefnogi gweledigaeth arweinydd Plaid Cymru o gael Guggenheim i Gymru, ni allaf gefnogi ailgyfeirio arian cyhoeddus oddi wrth wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu brosiectau celfyddydol eraill. Byddai, fe fyddai menter o'r fath yn amlygu llwyddiannau diwylliannol Cymru, ond ar ba gost?
Sut allwn ni gyflawni hyn? Rwy'n eiddgar i gyflawni hyn oherwydd rwyf yn wirioneddol gredu bod hyn yn bwysig i Gymru, ond ar hyn o bryd mae gennym ni lawer gormod o flaenoriaethau eraill. A ddylem ni fod yn edrych—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, ar bob cyfrif, Adam.
Efallai nad yw hi'n ymwybodol o hyn. Mae rhywfaint o waith yn cael ei wneud eisoes yn sgil Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe yn ceisio edrych ar ddulliau eraill o ariannu yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar bwrs y wlad. Felly, pe bai hynny'n bosibl, a'n bod ni'n gallu mynegi'r uchelgais o leiaf, a fyddai hi'n cefnogi dod o hyd i ffyrdd eraill o gyflawni'r un nod?
Dyma'r hyn yr oeddwn yn arwain ato, a dyma'r hyn yr wyf yn ceisio ei godi yn fy mhwynt. Rwy'n danbaid dros y celfyddydau, a minnau'n gyn athrawes ddrama ac yn gyn athrawes addysg gorfforol, felly y celfyddydau yw fy mhrif ddiddordeb. Ond o ran edrych ar ffyrdd eraill o godi arian, fel yr ydych chi newydd egluro wrthyf, diolch yn fawr iawn am hynny. Rwy'n awyddus i gadw ein gwasanaethau hanfodol, fel y llyfrgelloedd ac ati, ar agor, oherwydd mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac mae hynny'n eu rhyddhau o unigrwydd a theimlo'n ynysig ac yn y blaen. Felly rwy'n edrych ar hyn, Adam, o ran perthnasedd, a'm barn bersonol i yw fy mod yn dymuno gweld hyn yn mynd rhagddo, felly diolch i chi. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl. Dafydd Elis-Thomas.
Diolch yn fawr, Llywydd, ond nid wyf yn ymddiheuro am ddweud na fydd hwn yn ymateb confensiynol sydd yn ateb pwynt wrth bwynt bopeth sydd wedi cael ei ddweud, oherwydd dechrau’r broses ydy’r drafodaeth yma heddiw, i finnau hefyd, ond rydw i am nodi un neu ddau o bethau, sef, mae David Melding wedi cyfeirio at ymgais i gael consensws; roedd yna sawl peth yn yr hyn ddywedodd Llyr, yn enwedig y berthynas â’r amgueddfa a’r orielau cenedlaethol presennol, yr oeddwn yn cynhesu tuag ato fo; pwyslais Gareth Bennett ar ansawdd casgliadau; ac araith ysbrydoledig Adam. Nid wyf yn ffan o’r Guggenheim, fel mae’n digwydd—yr un ohonyn nhw—oherwydd rydw i’n meddwl eu bod nhw’n tynnu mwy o sylw at yr adeilad a dim digon o sylw at y gelf yn y ffordd maen nhw wedi'u dylunio. Nid ydy hynny’n wir am y gwaith o gelf sydd gennym ni, lle rydym ni'n siarad yma heddiw.
Diolch yn fawr i Mick am ei sylwadau am yr hyn sy'n digwydd yn y Cymoedd, neu’r diffyg presenoldeb yn y Cymoedd. Rydw i’n derbyn ein bod ni mewn peryg o golli cyfle lle nad ydym ni’n cyfuno celf o bob math â pherfformiad a gweithgareddau cymdeithasol efo adfywio cymuned, oherwydd nid oes modd adfywio cymuned os nad yw’r gymuned yn cael ei hadfywio—nid mater o adeiladwaith yn unig. Diolch yn fawr, Caroline, am y dadansoddiad. Rydw i’n meddwl ein bod ni wedi cael pob safbwynt, bron, yn y drafodaeth yma heddiw y gallai rhywun ddisgwyl ei gael—o blaid ac yn erbyn y ffordd rydym ni’n gallu gwario ar gelfyddyd a chwaraeon.
Ond mi wnaf ddau bwynt wrth grynhoi fy sylwadau a chau’r ddadl yma, sef, cyfeirio at welliannau. Mae gwelliant 2 yn croesawu’r argymhelliad i sefydlu’r amgueddfa bêl-droed yn Wrecsam, a dyna pam ein bod ni’n hapus â hwnnw. Mae yna oblygiadau, wrth gwrs, i drafod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Nid wyf yn gwybod a ydy Llyr wedi bod yn siarad â nhw, ond nid wyf i wedi gwneud, yn sicr, ond mae yna gyfle inni wneud ar ôl y drafodaeth yma heddiw. Mae gwelliant 4 yn croesawu’r argymhelliad o weithio tuag at adeiladu pencadlys cenedlaethol, ond mae’n well gen i’r gair 'hwb' na’r gair 'pencadlys' wrth sôn am gelf. Felly, mae hynny'n rhan o uchelgais y Llywodraeth, yn bendant.
Felly, yr hyn y byddaf i'n ei gymryd o'r drafodaeth yma ydy'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud. Fe wnawn ni ymateb i'r drafodaeth yn y ffordd ymarferol, oherwydd fy mwriad i ar ôl heddiw ydy dechrau gweithredu, parhau i ymgynghori â'r sector, ond ni fyddaf i'n gwneud penderfyniadau terfynol nes y byddaf i wedi cael sgwrs hir efo'r rhai sydd wedi siarad heddiw, yn arbennig llefaryddion y pleidiau, fel ein bod ni yn chwilio am y consensws, neu am hynny o gytuniad ag sydd yn bosib mewn maes sydd o reidrwydd yn ddadleuol fel hyn. Diolch yn fawr iawn i chi.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem yma, felly, tan y cyfnod pleidleisio.