3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 28 Tachwedd 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol archif ddarlledu genedlaethol i Gymru? 237
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig i sefydlu archif ddarlledu genedlaethol yn y llyfrgell genedlaethol. Mae'r trafodaethau â'r llyfrgell yn parhau i gefnogi'r broses gynllunio. Ond rydym am sicrhau bod unrhyw ddatblygiad ar sylfeini cadarn a chynaliadwy, heb fod yn effeithio ar unrhyw ddyletswydd bresennol sydd gan y llyfrgell.
Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Ond mae'n rhaid i fi ddweud, roedd hi'n fater o siom a syndod i mi ddeall yr wythnos diwethaf eich bod chi wedi gwrthod £1 filiwn i'r llyfrgell genedlaethol, a fyddai'n denu, wrth gwrs, yn ychwanegol, arian loteri—HLF—ychwanegol o ryw £5 miliwn, efo cefnogaeth Llywodraeth Cymru, i ganiatáu datblygu archif ddarlledu genedlaethol i Gymru. A ydy hi'n bosib, felly, cael cadarnhad ar gwpwl o gwestiynau sy'n dilyn o hynny? A oes yna gadarnhad bod yna ymrwymiad o £5 miliwn i'r cynllun oddi wrth y loteri ym mis Mai 2017? A ydy hynny'n ffeithiol gywir—£5 miliwn tuag at brosiect cenedlaethol o £9 miliwn i greu archif ddarlledu genedlaethol, yn cynnwys archifau y BBC, ITV, S4C a chwmnïau annibynnol? Mae yna gyfoeth o dreftadaeth gymdeithasol Cymru drwy'r ugeinfed ganrif bron i gyd yn fanna, yn y ddwy iaith, ac, wrth gwrs, pwyslais y cynllun yma yw bod argaeledd a mynediad i'r cyhoedd yn fan hyn. Nid ydym yn sôn am dapiau wedi'u storio mewn rhyw storfa bell i ffwrdd, neu hyd yn oed yn cael eu dinistrio, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan.
Nawr, mae yna gais ffurfiol i fod i gael ei gyflwyno yr wythnos sy'n dechrau 18 Rhagfyr i'r loteri, i'r HLF. Pam ydych chi wedi ei gadael hi mor hwyr i ddweud 'na' o ran y £1 filiwn o gyfalaf yna a'r gefnogaeth strategol? A ydy'r Llywodraeth mewn egwyddor yn fan hyn yn erbyn, felly, creu archif ddarlledu genedlaethol? A oes modd i'r Llywodraeth edrych eto ar hyn i weld sut y gellid gweithio allan unrhyw gonsérn sydd gyda chi, fel bod y £5 miliwn o arian HLF ddim yn cael ei golli i Gymru, achos dyna ydy'r bygythiad rŵan, a bod pobl Cymru yn cael mynediad i archif wirioneddol genedlaethol? Achos rydym ni yn sôn yn fan hyn, i orffen, Llywydd, am adeiladu cenedl, am gof cenedl—dyna beth yw archif. Ddoe, fe glywsom ni am bwysigrwydd hanfodol creu sefydliadau cenedlaethol, ac mae angen gwir ddatrysiad i'r sefyllfa yma rŵan, neu fe gollir archif gwerthfawr am byth. Beth amdani, Weinidog?
Nid oes unrhyw gwestiwn o golli'r archif. Mae'r archif yn gyfrifoldeb i'r BBC, ac mae'r ddarpariaeth ar ei chyfer hi at y dyfodol yn un y mae'r llyfrgell wedi mynegi diddordeb ynddi hi. Ac, yn wir, mae yn gywir i ddweud bod gwaith rhagbaratoadol wedi cael ei wneud, ac mae yna ohebiaeth wedi bod rhyngof i â'r llyfrgell ers blwyddyn ar y mater yma, yn ceisio gosod seiliau cadarn i'r datblygiad. Er enghraifft, nid oeddwn i'n fodlon bod staff presennol y llyfrgell yn gorfod cael eu hailgyfeirio, o bosib, i ddyletswyddau yn ymwneud â'r archif a fyddai yn peryglu safle'r llyfrgell, a bod yn rhaid inni ddiogelu safle cyllidol y llyfrgell. Ac i'r bwriad hwnnw y mae'r £1 filiwn, os caf ateb yn y ffordd yma, ar y bwrdd o hyd. Ac rydw i wedi trafod y mater yma heddiw'r bore, fel mae'n digwydd, gyda'r Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid. Yr hyn nad oeddwn yn fodlon ei wneud oedd mynd ymlaen â'r cynllun yma nes bod y llyfrgell wedi adolygu'r cynllun yn llwyr, ac wedi rhoi sicrwydd i ni ei fod o'n gynllun cynaliadwy, ac na fyddai o'n gwanio o gwbl ddarpariaeth gyffredinol ac ehangach y llyfrgell.
A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i Dai Lloyd, ac ategu pa mor bwysig yw'r prosiect hwn? Ac yn wir, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn dal i fod wedi ymrwymo iddo. Credaf ei bod yn anffodus, ar y cam hwyr hwn, nad ydym wedi clywed peth o sylwedd y prif bryderon mewn gwirionedd, a chredaf fod angen i'r holl randdeiliaid ddod at ei gilydd yn awr a gwneud rhyw fath o ddatganiad ynglŷn â sut y bydd hyn yn datblygu. Er efallai na fyddwn yn colli rhan y BBC o'r archif, mae'n bosibl y bydd agweddau eraill yn fwy bregus—ITV ac S4C hyd yn oed—a hefyd, bydd yn rhaid i ran y BBC gael ei symud i rywle, ac mae'n bosibl na fydd ar gael am flynyddoedd lawer os na fydd yn cael ei drosglwyddo i Aberystwyth yn weddol fuan.
Yn amlwg, mae'r caffaeliad hwn yn ategu'r gwaith ar ddigido papurau newydd yng Nghymru—tipyn o gamp, ac adnodd i holl bobl Cymru, a'r cymunedau academaidd a diwylliannol yn ogystal. Bellach, gallai'r adnodd hwnnw gael ei atgyfnerthu gan y caffaeliad a'r mynediad a fyddai gan bobl at yr archif ddarlledu hon. Mae'n hollbwysig i'n dealltwriaeth genedlaethol a'n holl gysyniad o Gymru a sut y myfyriwn ar y penderfyniadau a wnaethom a'r opsiynau sydd gennym yn y dyfodol. Rwy'n awyddus iawn i weld atebion o ran sut y caiff hyn ei ddatrys, oherwydd mae hi braidd yn siomedig nad ydym yma'n dathlu'r prosiect gwych hwn yn hytrach na'n wynebu'r anhawster mawr hwn yn hwyr yn y dydd. Felly, dewch â phawb at ei gilydd, a'r rhanddeiliaid, i wneud datganiad clir i bawb ohonom fel y gallwn graffu a chefnogi'r hyn sydd, yn ddiau, yn brosiect cenedlaethol hynod o bwysig.
Gadewch i mi wneud hyn yn glir iawn: mae'r trafodaethau gyda'r llyfrgell genedlaethol wedi bod yn mynd rhagddynt ers blwyddyn. Mae gohebiaeth wedi bod yn mynd rhagddi ers i mi ddod i'r swydd hon, ac yn sicr, cytunaf â chi y dylai'r frwydr hon fod wedi cael ei datrys amser maith yn ôl, a byddai hynny wedi digwydd pe baem wedi cael ymateb priodol—ymateb amserol—i'n pryderon yn gynharach gan y llyfrgell, ac rydym yn dal i aros am hynny. Wrth siarad â swyddogion am y mater hwn, fel y bûm yn ei wneud heddiw a ddoe, rwy'n awyddus iawn i weld trafodaethau difrifol ynglŷn â sut y mae'r pryderon sydd gennym fel Llywodraeth mewn perthynas â hyfywedd prosiect yr archif ddarlledu genedlaethol, a hyfywedd y llyfrgell hefyd, yn cael eu datrys yn briodol.
Nid wyf yn siŵr iawn a ydw i fod i ddatgan budd yn fan hyn oherwydd bod cymaint o fy ngyrfa broffesiynol i yn yr archif BBC—[Chwerthin.]—ond rydw i yn ystyried yr ymateb gennych chi i'r cwestiwn amserol prynhawn yma i fod yn un cadarnhaol dros ben—bod yr arian yma yn dal â photensial i fod ar y bwrdd. Tybed a allwch chi roi sicrwydd bod yr arian yna ar gael i'w ryddhau rŵan er mwyn rhyddhau'r arian HLF yn y ffenest bresennol, os ydy'r sicrwydd rydych yn chwilio amdano fo yn gallu dod mewn cyfnod amserol gan y llyfrgell genedlaethol.
Wel, mae yna drafodaeth wedi bod efo cronfa’r loteri ac mae'r trafodaethau yna yn parhau. Nid wyf mewn safle i allu dweud a fydd yna estyniad pellach i'r amser, ond rwy'n gobeithio y bydd yna, a fydd yn rhoi cyfle inni wedyn ddatrys y mater yma o fewn y mis neu ddau nesaf. Mae hynny'n hanfodol i mi, ond mae'n rhaid imi ei wneud yn hollol glir nad oeddwn i ddim yn fodlon gweld unrhyw leihad yn narpariaeth y llyfrgell genedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ac mae o'n gwestiwn i'w ofyn i'r BBC, ac nid wyf yn glir iawn am y sefyllfa yma: beth sydd yn digwydd a phwy sy'n talu am archif y BBC yn Lloegr, yng Ngogledd Iwerddon ac yn yr Alban? Ni fedraf i gredu bod Gweinidogion yn y Llywodraethau yna yn mynd i roi arian i'r BBC, sydd yn cael arian sylweddol gennym ni i gyd fel rhan o'r drwydded, pan fo modd datrys y materion yma heb orfod gwario arian cyhoeddus ychwanegol allan o gyllideb gyfyngedig Llywodraethau datganoledig.
Weinidog, mewn ymateb i'ch esboniad fod hyn wedi cymryd blwyddyn ac nad ydym wedi datrys y mater hwn o hyd, mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn mynd i ymweld â'r llyfrgell genedlaethol ddydd Iau nesaf—tybed a allwch roi briff i ni er mwyn inni allu dychwelyd gydag atebion clir i'r cwestiynau hyn fel y gallwn fwrw ymlaen â hyn; fel arall, rydym yn mynd i golli arian y loteri.
Ni fydd arian y loteri'n cael ei golli, os yw'n bosibl i'r loteri ddarparu estyniad o ran amser, ond ni allaf fi gyhoeddi unrhyw beth i'r perwyl hwnnw y prynhawn yma. Rwy'n falch eich bod yn mynd i'r llyfrgell genedlaethol ac rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu cael atebion pellach ar y mater hwn. Croeso i chi gael pob gohebiaeth rhyngof fi a'r llyfrgell ac unrhyw wybodaeth bellach gan swyddogion yn fy adran, yn ogystal â'r hyn y bydd adran ymchwil Comisiwn y Cynulliad yn gallu ei roi.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.