4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Cyflwyno Asesiadau Personol

– Senedd Cymru am 3:58 pm ar 8 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:58, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg, cyflwyno asesiadau personol, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Dirprwy Lywydd.

Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i asesiadau disgyblion fod â'r prif ddiben o ddarparu gwybodaeth a llywio penderfyniadau ynghylch y ffordd orau i wella dysgu, a rhoi gwybodaeth i'r dysgwr, i'r athro, y rhieni a gofalwyr. Felly, dylai asesiad wella addysg y dysgwyr, addysgu'r athrawon a dealltwriaeth y rhieni.

Rwy'n falch o adrodd ein bod yn symud ymlaen yn llwyddiannus o ran newid y profion darllen a rhifedd ar bapur y mae'r dysgwyr yn eu sefyll bob blwyddyn i asesiadau ar-lein, sy'n bersonol ac yn hyblyg. Gan ddechrau gyda rhifedd gweithdrefnol, byddant yn disodli'r profion ar bapur yn llwyr erbyn 2021, ac, yn y tymor cyn y Nadolig, dechreuwyd cyflwyno'r asesiadau hyn fesul cam.

Mae gan asesiad parhaus o ansawdd uchel swyddogaeth hollbwysig o ran addysgu, dysgu a chodi safonau, ond mae cyfyngiadau i'r system gyfredol o brofion ar bapur. Mae modd addasu'r asesiadau newydd ac maent yn hyblyg yn eu hanfod, felly bydd dysgwyr yn cael cwestiynau i ddysgwyr sy'n cyfateb i lefelau eu sgiliau ac yn eu herio.

Yn ei dro, golyga hyn fod athrawon yn cael gwybodaeth lawnach o lawer ac y byddan nhw'n gallu paratoi gwersi sy'n fwy uniongyrchol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr i wella. Cynlluniwyd yr asesiadau hyn i gefnogi trawsnewidiad sylfaenol ein cwricwlwm newydd, sydd fel ei gilydd yn seiliedig ar y cysyniad o ddilyniant. Bydd y cwricwlwm yn cynnig mwy o ryddid i athrawon addysgu mewn ffordd sy'n diwallu anghenion pob un o'u disgyblion, a bydd yr asesiadau newydd yn egluro wrthynt beth yw'r anghenion hynny.

Rydym yn awyddus i roi'r offer i'r athrawon ar gyfer gwelliant parhaus gyda dysgu ac addysgu ac rydym yn awyddus i hynny fod yn hyblyg, yn ddull o asesu sy'n ffurfiannol ac yn rhoi adborth ar sgiliau a chryfderau, ar feysydd sydd ag angen gwaith eto a'r camau nesaf. Mae'r math hwn o asesiad parhaus o ansawdd yn hanfodol i godi safonau drwy'r holl gyfundrefn ac i'n helpu ni i gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.

Ac mae gennym gefnogaeth y proffesiwn i'r math hwn o asesiad. Roedd yr ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda ni yn ystod y camau datblygu yn gweld yr offer asesu newydd yn ffordd bwerus o symud disgyblion yn eu blaenau gyda'u haddysg. Rydym yn gwybod mai'r dysgwyr sy'n cael adborth o ansawdd uchel, sy'n deall eu sefyllfa addysgol a lle mae angen anelu ato, ac, yn dyngedfennol, sut i gyrraedd y fan honno, yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o brofi'r gwelliant mwyaf.

Cynlluniwyd y system i raddau helaeth iawn gan roi ystyriaeth hefyd i anghenion ysgolion ac athrawon. Gellir trefnu amser i'r asesiadau ar adeg sydd fwyaf hwylus i'r ysgol. Mae hyn yn ymwneud â rhoi'r awenau yn nwylo'r athrawon a all benderfynu'r hyn sydd orau iddyn nhw a'u dysgwyr, a hefyd o ran y niferoedd sy'n gweithio orau i'r ysgol hefyd—gellir asesu disgyblion yn unigol neu mewn grwpiau bach.

Nid ydym wedi cynllunio'r asesiadau hyn ar ein pennau ein hunain. Rydym wedi dysgu oddi wrth y goreuon gyda grŵp arbenigol, yn cynnwys cynrychiolaeth o Ddenmarc a'r Iseldiroedd, yn rhoi cyngor drwy'r cyfan i gyd. Mae hyn wedi rhoi'r gallu i ni arwain y ffordd. Cafodd asesiadau hyblyg ar gyfer darllen a rhifedd gweithdrefnol eu datblygu mewn man arall, ond Cymru yw'r wlad gyntaf i ddatblygu asesiad ar-lein ar gyfer sgiliau ymresymu rhifyddol.

Dirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau yn gwybod fy mod i, ers imi ymuno â'r Llywodraeth, wedi ceisio mynd i'r afael â mater hygyrchedd TG a band eang. Rydym wedi darparu £1.7 miliwn ychwanegol i'r CLlLC i'w ddosbarthu i ysgolion sydd â'r angen mwyaf o uwchraddio eu TG. Byddwn yn rhoi cymorth parhaus wrth i'r asesiadau hyn gael eu cyflwyno, bydd deunyddiau cymorth ar gael ar-lein, byddwn yn cynnal gweminarau i sicrhau y bydd ysgolion yn deall y broses a sut y gallant ddefnyddio'r adroddiadau.

Felly, mae asesiadau personol, Dirprwy Lywydd, yn darparu profiad rhyngweithiol sydd wedi'i deilwra ar gyfer ennyn diddordeb dysgwyr ac ar gyfer asesu lefel eu sgiliau, a bydd yn cynnig adborth o ansawdd uchel ar unwaith, gan gefnogi athrawon a disgyblion yn eu datblygiad. Felly, i gloi, mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac angenrheidiol er mwyn codi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:02, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Mae'n dda gen i weld eich bod chi yma o hyd—mae hynny'n helpu gyda'r dilyniant, mae'n rhaid imi gyfaddef. Yn gyntaf, rhywbeth sydd wedi dod yn fwy eglur gyda'r datganiad hwn heddiw mewn gwirionedd o ran y dull asesu hwn yw mai rhywbeth cyfredol ydyw—ac rwy'n credu eich bod chi wedi defnyddio'r ymadrodd hwn fwy nag unwaith. Un o'm pryderon cynharaf i o ran y prawf hwn, ac rwy'n cydnabod yn llwyr nad yw hyn yn ymwneud ag atebolrwydd, oedd pa mor aml y câi ei ddefnyddio. Roedd yr Athro Donaldson yn bendant yn credu y dylid osgoi profion rheolaidd, felly fy nghwestiwn cyntaf i, mae'n debyg, yw: pa mor aml y bydd plentyn unigol yn cael ei asesu mewn blwyddyn er mwyn darparu data ystyrlon i'r plentyn ac i'r athrawon fel ei gilydd am gynnydd?

Os mai diben y prawf yw arwain dysgwyr drwy gynnig iddynt gymorth mwy pwrpasol—mae'n debyg mai dyna'r ffordd orau o fynegi hynny—ac, fel y dywedwch chi yn eich datganiad, rhoi mwy o ryddid i athrawon addysgu yn y ffordd sy'n ateb anghenion y disgyblion orau, rhywbeth yr wyf i'n ei gefnogi, eto i gyd byddwn yn disgwyl cael clywed ychydig mwy am sut y bydd effeithiolrwydd y rhaglenni bach unigol pwrpasol hynny, os mynnwch chi, yn debygol o gael eu mesur. Oherwydd rwy'n anghytuno â'r sylwadau a wnaethoch yn ôl yn 2017 pryd y dywedasoch chi, ac rwy'n dyfynnu:

na fyddai'n deg defnyddio sgoriau profion plant unigol i farnu perfformiad yr ysgol honno.

Byddwn i'n dweud fy mod yn credu ei bod yn gwbl briodol i ysgol gael ei barnu ar gynnydd a wnaed rhwng y profion hynny yn achos plant unigol—heb eu henwi nhw, wrth gwrs—oherwydd ceir rhywbeth y gellir ei ddweud wrth rieni ac wrthym ni yma yn y Cynulliad am ba mor effeithlon ac effeithiol y bu'r darnau hynny o gymorth pwrpasol i blant. Mae'n wych cynnig hynny, ond os nad yw hynny'n gweithio chwaith mae angen inni gael gwybod am hynny hefyd.

Felly, o gofio bod yr Athro Donaldson wedi argymell bod angen i Lywodraeth Cymru sefydlu fframwaith gwerthuso ac asesiad cynhwysfawr, rydym ni'n gwybod rhywbeth am yr asesiad erbyn hyn. Ond a wnewch chi ddweud ychydig bach wrthym ni am sut y bydd yr ochr werthuso o hyn yn gweithio? Gan gadw mewn cof, ac rwy'n derbyn y pwynt, nad yw hwn ynddo'i hun yn offeryn gwerthuso, yn hytrach mae'n offeryn asesu, ond mae angen rhywbeth i'w drafod arnom ni o ran y cynnydd rhwng prawf Rhif 1 a phrawf Rhif 2 a phrawf Rhif 3 ac ati, oherwydd mae canlyniadau yn bwysig o hyd.

Fel y dywedwch yn eich datganiad, mae'r profion newydd yn ymwneud â chodi safonau. Felly dyma gwestiwn neu ddau ar hynny—un yn ymwneud â hunanwerthuso, rhywbeth a gefnogir yn amlwg gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD). Un o'r rhesymau ein bod ni yn y sefyllfa bresennol, o bosib, yw y collwyd hyder yn rhagolygon athrawon o lefel cyrhaeddiad ar ddiwedd ysgol gynradd, cyn i'r plant fynd i ysgol uwchradd. Roedd hynny'n rhannol oherwydd yr orddibyniaeth ar hunanasesiad mewnol, mae'n debyg, neu asesiad mewnol yn sicr. Felly, heb sathru ar gyrn athrawon yn hyn o beth, a oes unrhyw fath o ganllawiau i'w cyflwyno gennych chi—neu pwy allai gyflwyno hynny hyd yn oed; a allai Estyn wneud hynny, wn i ddim—fe allai hynny helpu ysgolion, gan gynnwys y disgyblion, os wyf wedi deall hyn yn iawn, i hunanwerthuso mewn ffordd y gall pob un ohonom fod â rhywfaint o hyder ynddi?

Unwaith eto, o ran codi safonau, roeddech chi'n dweud y llynedd fod £5.6 miliwn am fynd i gonsortia ar gyfer dysgu proffesiynol, yn rhannol i baratoi ar gyfer yr asesiadau hyn. Sut fyddwch chi'n gwerthuso pa mor effeithiol y bu'r consortia wrth gyfrannu at lwyddiant y rhain? Rwy'n sylweddoli nad ydyn nhw wedi dechrau eto mewn gwirionedd, ond bydd y gwaith paratoi ar eu cyfer wedi digwydd. Felly, pe byddech chi'n rhoi ychydig o wybodaeth i ni am hynny, byddai hynny'n beth ardderchog iawn.

Yr amseriad—rwy'n cytuno'n llwyr â chi mai'r ysgolion ddylai bennu dull ac amseriad eu hasesiadau, ond rwy'n cytuno â chi hefyd mai peth diwerth iawn i rieni ac, yn wir, i blant yw adroddiad sy'n cyrraedd ar ddiwrnod olaf y tymor, yn arbennig felly ar ddiwedd tymor yr haf, pan fydd plant yn aml iawn yn llithro'n ôl ychydig dros wyliau'r haf. Felly, mae'n sicr na fyddwn i'n hapus pe byddech chi'n gorfodi ysgolion i gynnal yr asesiad hwn ar ddyddiad arbennig, ond a fyddech chi'n cael gair i gall â nhw o ran osgoi gwneud hynny yn ystod wythnos olaf y tymor?

Yn olaf, ar y £1.7 miliwn ar gyfer yr ysgolion sydd â'r angen mwyaf i wella eu technoleg gwybodaeth, tybed a wnewch chi ddweud wrthym a yw hynny wedi cael ei neilltuo a phryd allem ni ei weld yn cael ei ddosbarthu. Oherwydd gallaf feddwl yn syth am un ysgol yn fy rhanbarth i a fyddai'n awyddus iawn i gael ffrwd ariannu newydd ar gyfer yr union beth hwnnw. Byddai'n ddefnyddiol gallu dweud wrthyn nhw ei fod wedi ei dargedu ar gyfer TG yn hytrach na'i fod yn diflannu i'r grant cynnal refeniw neu i ariannu'r ysgolion yn gyffredinol. Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:07, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau trwy ddiolch i Suzy Davies am y gyfres hon o gwestiynau? Yn gyntaf, a gaf i sôn bod yr Aelod wedi galw'r asesiadau yn 'brofion' sawl gwaith yn ystod ei chyfraniad? Nid profion mo'r rhain; asesiadau ydyn nhw. Mae prawf â llawer yn y fantol yn wahanol i asesiad a ddefnyddir at ddibenion llywio addysgu a dysgu wrth symud ymlaen.

Os caf i fentro dweud, ceir ychydig o groes-ddweud yn y materion a godwyd gan yr Aelod. Ar y naill law, dywedodd yr Aelod y byddai hi'n dymuno gweld canlyniadau'r profion hyn ar gael i'r cyhoedd. Gwyddom mai hyn yn union sy'n cynyddu'r perygl o ran atebolrwydd cyhoeddus ynglŷn ag asesiadau ac mai dyna sydd wedi arwain at rai o'r pryderon ynghylch ansawdd hunan-asesiad yr athrawon eu hunain. Pe bydden nhw'n teimlo bod yr asesiadau hyn yn cael eu defnyddio'n gyhoeddus i asesu eu galluoedd nhw fel athrawon unigol neu mewn ysgol, ceir y demtasiwn ddynol—ceir temtasiwn ddynol—i beidio â gwneud hynny yn y ffordd iawn.

Felly, y mater yn y fan hon yw—mae'n rhaid i ni fod yn eglur—nid profion mo'r rhain. Asesiadau yw'r rhain sydd yno i asesu sefyllfa plentyn o ran ei addysg, i allu rhoi adborth i'r plentyn hwnnw ac, ie, yn bwysig iawn, i'r rhieni. Suzy, gallaf gytuno'n gryf â chi: rwy'n siŵr ein bod ni i gyd sydd wedi bod yn rhieni yn y system wedi bod yn ymwybodol bod yr amlen honno'n cyrraedd y tŷ yn ystod wythnos olaf y tymor gyda sgoriau profion blaenorol ynddo, heb roi dim amser i'r rhieni gael y cyfle i fynd yn ôl i'r ysgol a thrafod canlyniadau'r profion hynny gydag athro'r dosbarth.

Y peth gwych am y profion hyn yw eu bod nhw wedi eu teilwra'n benodol ar gyfer plant unigol. Ni fydd profion dau blentyn yn union yr un fath â'i gilydd, oherwydd bydd y cwestiynau a ofynnir yn ymateb i'w gallu i'w hateb nhw. Bydd y canlyniadau yn dod ar unwaith, a bydd y canlyniadau hynny ar gael i rieni o fewn diwrnod neu ddau i'r plentyn sefyll y prawf.

Roedd yr Aelod yn gofyn pa mor aml y bydd y plant yn sefyll y prawf. Rydych chi'n llygad eich lle: dywedodd Graham Donaldson y dylid cyfyngu ar amlder y profion hyd y gellir, ond roedd Donaldson yn argymell dull arloesol o asesu hefyd, gan gynnwys dulliau rhyngweithiol. Felly, mewn gwirionedd, rydym wedi ystyried cyngor Graham Donaldson, a phenderfyniad yr athrawon dosbarth unigol fydd pryd ddylai'r plentyn sefyll prawf, neu gael ei asesu—rwyf innau'n cymysgu'r ddau nawr hefyd—a pha mor aml y gallai'r asesiad hwnnw fod, oherwydd gallai'r athro benderfynu cynnal yr asesiad hwn ar adegau amrywiol yn y flwyddyn i adrodd yn ôl ar gynnydd sydd wedi bod neu beidio. Ond caiff yr athro dosbarth unigol sy'n adnabod y plant hynny orau wneud fel y gwêl yn dda yn hynny o beth.

Eto, y fantais fawr i'r system hon yw, yn hytrach na gorfodi pob ysgol i gynnal y prawf o fewn cyfnod wythnos yr un adeg o'r flwyddyn, y bydd hyn yn caniatáu i athrawon unigol benderfynu'r amser gorau i ddefnyddio'r adnodd strategol hwn i gynorthwyo eu plant. Ond, wrth gwrs, un agwedd yn unig yw hon ar asesiad o sefyllfa plentyn a bydd hunanwerthuso yn dal i ddigwydd, a bydd gwerthuso athrawon yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o'n system addysg. Ar hyn o bryd, mae Estyn yn gweithio gydag ymarferwyr ac ysgolion a'r OECD i ddatblygu pecyn cymorth hunanwerthuso fel y bydd ysgolion yn dod i ddeall yn llawer, llawer gwell sut y maen nhw'n perfformio a sut y mae'r hyn sy'n cael ei gyflawni yn eu hysgol yn effeithio ar eu dysgwyr. A'r hunanwerthuso hwnnw fydd  yn gonglfaen i'n system atebolrwydd.

Rydym yn gweithio gydag Estyn i edrych ar y posibilrwydd o gael Estyn i achredu hunanwerthuso'r ysgolion. Os yw Estyn yn argyhoeddedig bod ysgol yn gwneud hyn yn iawn ac yn briodol, yna caiff yr ysgol drwydded, ar ryw ystyr, i barhau i wneud hynny am rai blynyddoedd eto. Pe byddai pryderon gan Estyn—pe na fyddai Estyn yn sicr o allu'r ysgol i hunanwerthuso—yna gallai hynny arwain at fwy o ymweliadau gan Estyn i ysgol benodol. Felly, daw hunanwerthuso yn un o'r egwyddorion craidd o ran y modd y byddwn yn dal ysgolion i gyfrif am eu perfformiad. Ond nid yw hynny yr un peth â defnyddio data plant unigol a pherfformiad plant unigol, gan fod hynny'n arwain at y broblem ynglŷn â phrofion â llawer yn y fantol y soniais i amdani'n gynharach.

O ran datblygiad proffesiynol, byddwch yn ymwybodol y rhoddwyd arian ar gyfer y flwyddyn hon, sydd wedi mynd allan drwy gyfrwng y consortia, ac ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, a gaiff ei ddefnyddio ar y cyd â'n partneriaid mewn llywodraeth leol. Bydd y consortia yn adrodd yn ôl ar sut y cafodd yr arian ei ddefnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol ac, wrth gwrs, mae pob un o'n consortia yn ddarostyngedig i arolygiad gan Estyn ac adolygiad parhaus gan Lywodraeth Cymru ei hun.

O ran seilwaith, mae'n amlwg fod yr £1.7 miliwn wedi cael ei roi i CLlLC, ac maen nhw fel grŵp o awdurdodau lleol yn datrys sut y gellir dosbarthu'r arian hwnnw yn y ffordd orau yn eu barn nhw. Un rhan yn unig yw honno o'r buddsoddiad a wnawn ni yn seilwaith TG. Rydym yn parhau i weithio i sicrhau y bydd pob ysgol wedi cael ei chysylltu â band eang cyflym iawn ac yn gallu cael cyflymderau band eang cyflym iawn. Felly, dyna'r seilwaith y tu allan i'r ysgol, ac rydym yn parhau i weithio gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol i ddeall rhai o'r cyfyngiadau o fewn systemau'r llywodraethau lleol eu hunain a systemau'r ysgolion unigol sy'n golygu na allant ddefnyddio'r cyflymder hyd yn oed os yw'r ffibr wedi cael ei gysylltu. A byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhaglen Dysgu yn y Gymru Ddigidol i edrych ar fuddsoddiadau cyfredol i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau bod ein holl sefydliadau â chyflymder band eang a thechnoleg yn eu hysgolion i ddiwallu eu hanghenion, nid yn unig i allu cynnal asesiadau ymaddasol ar-lein, ond i ddarparu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd hefyd.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 4:13, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y datganiad. Rwy'n siarad ar ran Siân Gwenllian am nad yw hi yma heddiw, felly rwy'n siŵr y bydd hi'n dymuno mynd ar drywydd unrhyw gynnydd gyda chi pan ddaw hi yn ei hôl. O wrando ar y ddadl hyd yma a darllen y datganiad, mae'n amlwg ein bod yn fras yn cefnogi gwerthusiadau personol pe byddai hynny'n golygu ysgafnhau'r baich ar bobl ifanc o ran y profion dwys sy'n digwydd ar ddiwedd cyfnod penodol. Hyd yn oed os nad ydych chi'n rhiant, rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi clywed gan ein hetholwyr neu gan aelodau'r teulu am bobl ifanc yn teimlo dan straen oherwydd y strwythurau prawf hynny.

I'r perwyl hwnnw, roeddwn yn awyddus i gael deall gennych chi beth fydd paramedrau'r gwerthusiadau personol hyn o ran y cymorth a roddir i athrawon. Oherwydd os ydym am unigoleiddio llawer mwy, ac os ydym am roi gwahanol linellau amser i athrawon ar gyfer gwneud gwahanol bethau gyda gwahanol ddisgyblion, rwyf am fod yn sicr y bydd ganddyn nhw'r gallu o fewn yr ystafell ddosbarth i wneud hynny. Gwyddom fod llawer o athrawon ystafell ddosbarth dan bwysau o ran cyllidebau fel ag y maen nhw ac felly mae angen sicrwydd arnaf i. Er enghraifft, a fydd y cynorthwywyr dysgu ac addysgu yn cael y cymorth hwnnw yn ogystal â'u huwchsgilio i allu cefnogi'r athro yn yr ystafell ddosbarth lle bydd yr asesiadau hyn yn digwydd? Rydym ni o blaid unigoliaeth, rydym yn gwybod y bydd pobl yn symud ymlaen ar hyd gwahanol lwybrau ar wahanol adegau. Ond sut fyddwn ni'n gallu bod yn systematig yn hyn o beth drwy gyfrwng y gyllideb yr ydych chi'n ei rhoi i'r awdurdodau lleol.

Pwynt neu ddau o eglurhad gennyf i—. Nodir yn yr wybodaeth sydd yn y cefndir i'r cynlluniau hyn y rhoddir gwybodaeth i athrawon gyda chanlyniadau'r asesiadau yn syth ar ôl eu hanfon. Fe hoffwn i ddeall sut y caiff yr asesiadau eu barnu a pha system a gaiff ei defnyddio i roi canlyniadau sydyn fel hyn, oherwydd yr hyn a dynnodd fy sylw i gan yr ymadrodd 'ar unwaith' oedd: a oes raid i hynny ddigwydd ar unwaith bob amser? A oes modd inni roi amser i'r athrawon eistedd i lawr a thrafod hyn ar lefel ehangach yn hytrach na rhoi adborth ar unwaith nad yw efallai mor ddefnyddiol ag y bwriadwyd yn y lle cyntaf. Efallai mai'r geiriad yw hyn yn unig, ond hoffwn gael eglurhad ar hynny—ar sut y bydden nhw'n cael eu cyfrifo, er enghraifft.

Gan gyfeirio'n fyr at yr hyn a ddywedodd Suzy Davies: a ddefnyddir canlyniadau'r asesiadau personol i dywys athrawon ac ysgolion o ran sut i symud ymlaen gyda disgyblion, neu a ddaw rhai canlyniadau gyda chamau gweithredu penodol sy'n fwy canolog ar lefel genedlaethol? Er enghraifft, pe byddech yn gweld tueddiadau mewn un ardal, a fyddech yn dymuno gwneud newidiadau ar sail canlyniadau'r asesiadau hynny ai peidio? A fydd hyn yn y bôn yn rhoi mwy o ryddid i athrawon? Byddwn i'n cefnogi hynny, yn ddelfrydol.

Fy nghwestiwn olaf—hoffwn ofyn hefyd a fydd hyn yn diddymu asesiadau athrawon yn llwyr neu beidio wrth inni symud tua'r dyfodol ac a oes cynlluniau neu beidio i ehangu'r dull hwn i flynyddoedd diweddarach mewn ysgolion. Diolch i chi.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:17, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i Bethan am y cwestiynau hynny? Y bwriad yw y bydd y profion ymaddasol ar-lein yn disodli'r profion papur presennol y mae pob plentyn yn eu sefyll o flwyddyn 2 hyd flwyddyn 9. Felly, bydd y profion ymaddasol ar-lein hyn ar gael i'r un cyfnod amser, a bydd plant yn gallu cymryd yr asesiadau hyn o flwyddyn 2 hyd flwyddyn 9. Y peth pwysig am y profion ymaddasol yw bod y cwestiynau a ofynnir i'r plentyn yn adlewyrchu gallu unigol y plentyn. Nid yw'n seiliedig ar eu hoedran, nid yw'n seiliedig ar eu grŵp blwyddyn nhw, ond yn wirioneddol seiliedig ar allu plant unigol i ymdrin â'r cwestiynau hynny. Mae hynny'n golygu, i rai rhieni—a byddwn i'n cytuno â chi, mae yna rai rhieni sydd wedi mynegi pryderon am addasrwydd y profion ar bapur sy'n trin pob plentyn yr un fath sydd wedi bodoli hyd yma—. Os na fydd y plant hynny, am ba reswm bynnag, yn gallu ymdopi â'r prawf papur hwnnw, gall hyn fod yn siom fawr iawn a pheri gofid i'r plentyn o bosib. Y ffaith yw bod yr asesiad ymaddasol mewn gwirionedd yn newid gan ddibynnu ar allu'r plentyn, felly nid oes unrhyw ragdybiaeth o ran oedran neilltuol unrhyw blentyn neu ei fod ar unrhyw gyfnod yn ei yrfa academaidd, y bydd y cwestiynau i gyd yr un peth. Dylai hynny ddileu rhywfaint o'r pryder y gwn y bydd rhieni yn ei deimlo weithiau. Y ffaith na fydd y plant yn gorfod sefyll prawf mewn sefyllfa a reolir—felly, unwaith eto, weithiau mae hynny'n ychwanegu at y pryder a'r ymdeimlad bod llawer yn y fantol yn yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol—lle mae'r dosbarth cyfan wedi gorfod eistedd i lawr ar amser penodol i wneud y papur—gall hynny weithiau greu awyrgylch a all fod yn straen i blant. Fel y dywedais i, yr athrawon dosbarth unigol fydd yn penderfynu a fydd grŵp bach o blant yn cael yr asesiad ar amser penodol neu a fydd plentyn unigol yn ei gael. Felly, unwaith eto, mae hyn yn ymwneud â cheisio sicrhau bod y materion hynny sydd weithiau'n achos gofid i blant a rhieni yn cael eu dileu.

Ni allaf ddweud digon am hyn—oherwydd rwy'n credu weithiau fod yna gamsyniad o hyd yn y proffesiwn ei hunan—nid yw'r asesiadau hyn a'r data sy'n deillio ohonyn nhw yn mynd i gael eu defnyddio fel unrhyw ddull o fantoli atebolrwydd yr ysgol honno. Weithiau mae hyd yn oed y gweithwyr proffesiynol eu hunain yn tybio bod y data a gesglir o'r profion blaenorol a'r asesiadau hyn nawr yn cael eu defnyddio rywsut i'w barnu nhw. Y diben yw dwyn dysgwyr yn eu blaenau.

Nawr, yn gwbl briodol, mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o'r llwyth gwaith i'n hathrawon. Bydd hyn mewn gwirionedd yn ysgafnhau llwyth gwaith yr athrawon yn yr ystyr eu bod  yn llai biwrocrataidd i'w gweinyddu. Pan ydym yn sôn am adborth ar unwaith, caiff y canlyniadau eu gyrru'n llythrennol gan ganlyniadau'r profion ac maen nhw ar gael ar unwaith. Nid yw hynny'n golygu bod angen i'r athro wedyn eistedd i lawr gyda'r plentyn ar unwaith. Yn amlwg, bydd angen i athro edrych ar yr hyn a ddywed yr asesiad am y plentyn hwnnw a gwneud cynnydd, ond mae hyn yn llawer llai biwrocrataidd i'r athrawon na'r hyn yr oeddem yn ei wneud o'r blaen ac, yn wir, mae'r buddsoddiad a wnawn ni yn yr asesiadau ar-lein hyn yn tarddu o gyllideb gwario i arbed Llywodraeth Cymru. Yn wir, rydym ni o'r farn y bydd hyn yn arbed arian i ni yn y tymor hir o'i gymharu â'r hyn yr ydym ni'n ei wario ar hyn o bryd ar y profion papur. Ar adeg o angen gwirioneddol, mae angen inni fod yn ofalus ynghylch yr hyn yr ydym yn ei wario, ac mae hwn yn ddull mwy cost-effeithiol mewn gwirionedd, yn ogystal â bod yn ffordd well o ddarparu'r system.

Caiff athrawon a chynorthwywyr ystafell ddosbarth eu cynorthwyo drwy gydol y broses hon. Bydd cymorth a deunyddiau hyfforddi ar gael. Byddwn yn cynnal cyfres o weminarau fel na fydd yn rhaid i athrawon deithio hyd yn oed. Bydd y rhain ar gael o fewn eu cymunedau a'u cysylltiadau eu hunain, ac mae cymorth ar gael dim ond i rywun godi'r ffôn. Mae llinell gymorth ar gael, felly os oes ysgol yn cael trafferth gyda rhai materion TG neu o ran sut i gynnal y prawf mewn gwirionedd, mae help ar-lein ar gael.

Dechreuodd asesiadau cyn y Nadolig, a hyd yn hyn yr adborth a gawsom yw fod yr ysgolion sydd wedi eu rhoi ar waith ac wedi eu defnyddio ddim yn rhagweld unrhyw broblemau. Mae hefyd yn bwysig cofio—ac rwy'n siŵr y byddai hyn o ddiddordeb i Siân Gwenllian pe byddai hi yma—bod yr asesiadau ar gael yn gwbl ddwyieithog. Mae'r athrawon yn gallu dewis pa iaith i'w defnyddio i gynnal yr asesiad, ac mae hynny'n amlwg yn fater pwysig iawn o degwch i bob un o'n dysgwyr.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 4:21, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Un peth yw cyhoeddi'r adnodd asesu newydd gwych hwn ac, mi warantaf, rwy'n credu bod adnodd ymaddasol yn welliant ar brawf papur, ac mae'ch esboniad o'r adnodd—mae'n swnio fel adnodd ar-lein da iawn, iawn, ond ydych chi ddim o'r farn mai lle'r ysgolion unigol yw penderfynu sut y maen nhw'n mynd ati i asesu eu dysgwyr? Yr athrawon ysgol sydd â'r profiad yn yr ystafell ddosbarth a'r wybodaeth, nid chi, Gweinidog, â phob parch, ac eto dyma chi yn dweud eich bod yn gwybod yn well na nhw sut y dylen nhw fod yn asesu eu dysgwyr. Os ydych chi'n awyddus i ddarparu profiad rhyngweithiol arbennig ar gyfer dysgwyr, nid oes dim yn well na'r hyn a ddarperir gan athro sydd â'r amser i eistedd i lawr gyda'r dysgwr a darparu'r profiad dysgu cadarnhaol hwnnw. Bydd athro yn casglu gwybodaeth am gynnydd y dysgwr mewn llawer o wahanol ffyrdd wrth ryngweithio gyda'r dysgwr hwn, gan wneud asesiadau uniongyrchol a greddfol weithiau.

Mae adborth di-oed o ansawdd uchel yn rhywbeth sy'n rhan annatod o addysgu dysgwyr unigol, ar yr amod, wrth gwrs, fod gan yr athro ddigon o amser i'w dreulio gyda'r dysgwr hwnnw, a dyna yw gwreiddyn y mater yn fy marn i. O ystyried sylwadau'r Gweinidog yn ei datganiad am effaith y profion neu'r asesiadau ar wella safonau addysgu, ni all rhywun ddianc rhag y teimlad fod y system hon yn awtomeiddio rhywbeth sy'n rhan annatod o addysgu ac yn cymryd y gwaith o osod y meini prawf asesu oddi ar yr athrawon ac yn ei roi i grewyr ap diwyneb.

Mae athrawon da eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth o anghenion a galluoedd plant unigol ac nid oes angen cyfrifiadur arnyn nhw i ddweud hynny. Nid yw'r asesiad hwn, ar-lein neu beidio, yn gallu disodli asesiad athro o gig a gwaed gyda digon o amser i wneud y gwaith yr aeth i mewn i fyd addysg i'w wneud. Mae'n demtasiwn gweld hyn yn bleidlais o ddiffyg hyder yng ngallu'r ysgolion i asesu cynnydd y plant y maen nhw'n eu dysgu. Neu, a ddylai pob un ohonom gymryd hyn yn arwydd na fydd Llywodraeth Cymru yn cyflogi'r nifer sylweddol o athrawon ychwanegol sydd eu hangen ar Gymru, gan wneud awtomatiaeth o rai agweddau ar swydd athro yn rhywbeth angenrheidiol?

Os yw ysgol yn hyderus nad oes angen iddi ddefnyddio'r system newydd, neu fod ganddi ffordd well o wneud hynny, pam y dylid eu gorfodi nhw i ddefnyddio'r asesiad hwnnw gan Weinidog sydd heb ei hyfforddi'n athro na phrofiad mewn ysgol? Yr wythnos hon, roedd adroddiad ar wefan y BBC yn dweud bod un o bob 10 dysgwr yn ein hysgolion uwchradd yn cael eu bwlio'n wythnosol. Ac er bod y Comisiynydd Plant ac elusennau gwrth-fwlio wedi gofyn am gofnod statudol o achosion ledled y wlad, mae'r Llywodraeth hon yn dweud mai lle'r ysgolion unigol yw penderfynu pa ddull sy'n gweithio orau ar eu cyfer nhw. Ond os gellir ymddiried yn yr ysgolion i gofnodi ac ymdrin â bwlio fel y maen nhw'n gweld yn dda, pam na allant yn yr un modd fesur y cynnydd a wna eu plant wrth ddysgu?

Rhai cwestiynau i gloi: ble fydd asesiad personol yr athro o blentyn yn sefyll yn y system newydd? Beth fydd yn digwydd pe byddai asesiad yr athro yn wahanol i'r asesiad ar-lein? A fydd canlyniadau'r asesiad ar-lein yn gyfrwng i'r athro neu athrawes unigol ei ddefnyddio i lywio eu hasesiad personol eu hunain o gynnydd plentyn neu a fydd hynny'n cael ei fwydo i mewn i broses arall? Ac a fydd canlyniadau'r asesiadau ar-lein yn llywio'r penderfyniadau a wneir gan weithwyr proffesiynol eraill heblaw am athro'r dysgwr unigol? Diolch.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:24, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gadewch i mi fod yn gwbl glir wrth ymateb i'r cwestiynau a'r sylwadau a wnaeth Michelle Brown: mae athrawon yn deall sefyllfa'r disgyblion o ran eu haddysg gan eu bod nhw, mae'n hollol iawn, yn treulio pob diwrnod gwaith yn gwneud hynny. Ond mae'r asesiadau ar-lein yn rhoi arf ychwanegol i athrawon, ac adborth personol o ansawdd uchel ar sgiliau'r dysgwr, fel bod modd rhoi'r cymorth a'r ymyriadau priodol ar waith. Nid y bwriad yw disodli'r asesiad gan athrawon. Mae'r asesiadau ymaddasol hyn ar-lein yn welliant ar y system profion ar bapur sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru. Maen nhw'n fwy defnyddiol ar gyfer addysgu a dysgu. Byddwn i'n dadlau eu bod yn fwy defnyddiol i rieni. Maen nhw'n rhoi mwy o reolaeth yn nwylo ein hathrawon yn hytrach na llai, yn yr ystyr eu bod yn gallu penderfynu pryd fydd y plant yn ymgymryd â'r asesiad, a phryd a sut y byddan nhw'n ei gynnal. Ac, felly, mae hyn yn gwbl groes i'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud sy'n digwydd.

Mae hi'n gwneud pwynt dilys ynghylch rhoi'r amser i athrawon wneud yr hyn y maen nhw'n ei wneud orau. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi mewn athrawon ychwanegol i leihau maint dosbarthiadau a dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda'r proffesiwn a'u hundebau i sicrhau y gallwn leihau'r llwyth gwaith lle bo hynny'n bosib fel y bydd athrawon yn cael yr union beth hwnnw: yr amser sydd ei angen gyda phlant unigol fel y gallan nhw ymarfer eu dawn ochr yn ochr â'r wybodaeth y bydd yr asesiadau ymaddasol hyn yn ei roi iddyn nhw, ar gyfer rhoi profiad wedi'i deilwra ar gyfer dwyn addysg y plentyn ymlaen.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:26, 8 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.