1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 22 Ionawr 2019.
Diolch. Symudwn nawr at gwestiynau gan yr arweinwyr. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies, sydd gyntaf y prynhawn yma.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod y Cynulliad hwn yn gweithio ar ei orau pan fo pleidiau yn dod at ei gilydd i wella bywydau holl bobl Cymru ar y cyd?
Dirprwy Lywydd, rwy'n cael fy nghalonogi bob amser gan yr achlysuron hynny pan ein bod ni'n gallu gweithio ar draws y pleidiau yn y fan yma. Ceir enghreifftiau da iawn lle'r ydym ni wedi gwneud hynny, ond rydym ni'n cydnabod hefyd bod gan bob plaid yn y Cynulliad hwn safbwyntiau cryf ar faterion ac na fyddan nhw bob amser yn cyfateb.
Wel, mae gen i ofn bod gweithredoedd yn well na geiriau, Prif Weinidog, oherwydd mae eich arweinydd, Jeremy Corbyn, yn gwrthod eistedd wrth y bwrdd gyda Phrif Weinidog y DU i drafod goblygiadau Brexit, ac, yr wythnos diwethaf, gwelsom lwythgarwch dim ond er mwyn llwythgarwch gan eich plaid a'ch Llywodraeth yn y lle hwn, pan wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y Bil awtistiaeth. Ar ôl methu—[Torri ar draws.] Ar ôl methu â gweithio gyda mi—ar ôl methu â gweithio gyda mi na—
A gaf i—?
—pleidleisiodd eich plaid yn erbyn darn hanfodol o ddeddfwriaeth a fyddai wedi sicrhau gwelliannau gwirioneddol i fywydau pobl ag awtistiaeth. Dehonglwyd canfyddiadau'r adroddiadau pwyllgor, a safbwyntiau rhanddeiliaid eraill, mewn ffordd benodol gan eich Gweinidog iechyd er mwyn gwneud achos dros bleidleisio yn ei erbyn, ac rydym ni i gyd yn gwybod mai un o'r rhesymau pam na allai'r Pwyllgor Cyllid wneud argymhelliad cadarnhaol na negyddol ar y Bil hwn yw oherwydd na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu'r wybodaeth berthnasol a hanfodol. [Torri ar draws.] Felly—
Iawn. Diolch. [Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Ni wnaf i dderbyn pobl yn pwyntio ar draws y Siambr at unrhyw un, o ble bynnag y daw, ac ni wnaf i dderbyn unrhyw gymorth gan bobl am yr hyn sy'n dderbyniol neu beidio. Fi fydd yn gwneud dyfarniad ar yr hyn sy'n dderbyniol. Apeliais yr wythnos diwethaf i ni ymgymryd â gwleidyddiaeth fwy caredig. Mae hynny'n berthnasol i bawb. Ewch ymlaen.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
A allwch chi, felly, Prif Weinidog, wneud ymrwymiad heddiw os nad yw'r cod ymarfer yr ydych chi'n ei gyflwyno yn bodloni anghenion pobl ag awtistiaeth, yna bydd eich Llywodraeth yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth angenrheidiol?
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod gan y Llywodraeth hon hanes canmoladwy o weithio gydag Aelodau mewn pleidiau eraill pan geir cynigion y gallwn ni eu cefnogi. Yn wir, roeddwn i'n gyfrifol am ymateb i'r Bil lefelau diogel staff nyrsio yn y Cynulliad diwethaf, Bil meinciau cefn â chefnogaeth eang ar draws y Cynulliad, pryd y gwnaed llawer iawn o waith rhwng y Llywodraeth ac Aelodau mewn gwahanol bleidiau yn y fan yma i gael y darn hwnnw o ddeddfwriaeth ar y llyfr statud yn ddiogel. Roedd y sefyllfa yr wythnos diwethaf yn wahanol. Roedd safbwynt y Llywodraeth yn eglur. Mae cyfres o gamau yr ydym ni'n eu cymryd yr ydym ni'n credu y byddant yn cael effaith lawer mwy sylweddol ar wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd nag y byddai wedi cael ei sicrhau pe byddai'r Bil wedi symud yn ei flaen. Amlinellodd y Gweinidog y rheini'n ofalus yn ystod y ddadl honno—y ffaith ein bod ni'n mynd i gael cod ymarfer statudol, y bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig ar gael ym mhob rhan o Gymru, bod yn rhaid i ni ganiatáu i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a basiwyd gan y Cynulliad hwn gael ei heffaith. Gwnaeth y Gweinidog gyfres o ymrwymiadau i barhau i adrodd i'r pwyllgor ac ar lawr y Cynulliad o ran hynt y ddeddfwriaeth honno, a dywedodd—fe'i clywais yn dweud ar y llawr hwn yn ystod y ddadl honno—pan fydd yr agweddau hynny wedi cael cyfle i ymsefydlu, i aeddfedu, os ar ddiwedd hynny bod pethau y gellir eu gwneud drwy ddeddfwriaeth, nid yw ein meddyliau wedi eu cau i hynny. Os byddwn yn gwneud hynny yn y modd y soniodd yr Aelod amdano gyntaf yn ei gwestiwn cychwynnol, credaf fod gwell siawns y bydd teuluoedd ledled Cymru yn cael y math o wasanaeth y maen nhw ei eisiau, a byddwn yn well ein byd os byddwn yn parhau i geisio gweithio ar yr agenda gyffredin honno, yn hytrach na defnyddio'r fforwm hwn fel ffordd o daflu bai.
Wel, rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi cadarnhau heddiw, yn amlwg, os nad yw'r cod ymarfer yn gweithio ac nad yw'n effeithiol, yna bydd ei Lywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth. Ond mae mater ehangach ar waith yn y fan yma, Prif Weinidog—diwylliant cynyddol o fewn eich rhengoedd i beidio ag ymgysylltu â chynigion a ddaw o'r meinciau gyferbyn. Ni ddarparodd eich Llywodraeth wybodaeth hanfodol i'r pwyllgor, ac nid ydych chi wedi nodi manylion penodol yn ymwneud â'ch cod ymarfer. Mae hyn er gwaethaf y ffaith ei bod yn ddyletswydd ar eich Llywodraeth i fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut y gwneir penderfyniadau mewn gwirionedd. Yn fy marn i, o ystyried eich methiant i ddarparu'r wybodaeth hon, nid yw'n eglur nac yn dryloyw i mi pam y gwnaethoch chi bleidleisio yn erbyn y darn hwn o ddeddfwriaeth yn y lle cyntaf.
Nawr, yfory, mae fy nghyd-Aelod Darren Millar yn cyflwyno cynigion i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn sydd â chefnogaeth sylweddol gan randdeiliaid a gweithwyr proffesiynol i wneud hawliau pobl hŷn yn ganolog i'n gwasanaethau cyhoeddus. A wnewch chi ddysgu gwersi nawr o'ch triniaeth wael o'r Bil awtistiaeth a phleidleisio o blaid y cynnig yfory a gweithio'n adeiladol gyda ni i graffu ar y ddeddfwriaeth hon mewn modd teg ac agored?
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod gan Aelodau'r Cynulliad hwn fynediad heb ei ail at Weinidogion sydd yn y Llywodraeth. Mae maint ein sefydliad, nifer y cyfleoedd sydd gan Aelodau i ymgysylltu â Gweinidogion yn y prosesau ffurfiol sydd gennym ni ac yn y cyfarfodydd niferus y mae aelodau'r Llywodraeth yn cytuno eu cynnal gydag Aelodau ar draws y Siambr gyfan hon—rwy'n gwrthod yn llwyr yr awgrym y mae'r Aelod yn ei wneud nad ydym ni'n ymateb, ac ymateb yn gadarnhaol, i syniadau y mae Aelodau eraill o'r Cynulliad hwn yn eu cyflwyno i'w harchwilio. Ond dywedaf hyn, a byddaf yn ei roi ar y cofnod eto: pan fo Aelod—Aelod o feinciau cefn y Cynulliad hwn—yn llwyddo mewn pleidlais ac yn cyflwyno Bil, cyfrifoldeb yr Aelod hwnnw yw darparu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i'r Cynulliad graffu ar y cynigion hynny. Nid cyfrifoldeb y Llywodraeth yw darparu gwybodaeth y mae'r Aelod hwnnw wedi derbyn cyfrifoldeb am ei darparu drwy'r weithred o gyflwyno'r Bil hwnnw. Yn union fel y mae Aelodau o'r Cynulliad hwn yn disgwyl yn gwbl briodol i'r Llywodraeth ddarparu gwybodaeth lawn ochr yn ochr â Biliau yr ydym ni'n eu darparu, a beirniadu'r Llywodraeth o bryd i'w gilydd pan fyddwch chi'n credu nad ydym ni wedi gwneud hynny'n foddhaol, mae'r rheolau yn y fan yma yn eglur: pan fydd Aelod o'r meinciau cefn yn cyflwyno Bil, cyfrifoldeb yr Aelod hwnnw yw cyflwyno'r wybodaeth ategol, mewn ffordd sy'n caniatáu i Aelodau eraill y Cynulliad graffu ar y Bil hwnnw yn llawn—[Torri ar draws.]
A gaf i ddweud unwaith eto—? Rydym ni wedi gofyn am wleidyddiaeth fwy caredig. A gaf i ofyn i chi fyfyrio ar sut y byddwn ni'n cael y wleidyddiaeth fwy caredig honno? Nid drwy weiddi ar ein gilydd. Dyma fydd fy adduned blwyddyn newydd, felly byddwch chi'n dysgu yn gyflym iawn—dyna fy adduned blwyddyn newydd—neu'r cwbl y byddwn ni'n ei wneud yw parhau i ailadrodd yr un peth. Ond rwy'n dechrau blino braidd ar bobl yn gweiddi ar draws y Siambr.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn ein heconomi, pan fo'r tri phrif brosiect a nodwyd yn wreiddiol yn 'Ffyniant i Bawb' yn annhebygol o ddigwydd erbyn hyn? Gwrthodwyd y morlyn llanw yn Abertawe gan Lywodraeth y DU. Mae Wylfa Newydd ar Ynys Môn, fel y clywsom yn gynharach, wedi cael ei ohirio gan y Japaneaid. Mae'r trydydd—ffordd liniaru'r M4—yn ôl y rhan fwyaf o sylwedyddion profiadol, yn debygol o gael ei ganslo gennych chi. Roedd yn eglur o neithiwr nad oes gan Mrs May gynllun wrth gefn. Y cwestiwn cyn belled ag y mae strategaeth economaidd Cymru yn y cwestiwn yw: a oes gennych chi? A oes piblinell sy'n llawn i'r ymylon o brosiectau economaidd eraill a fydd yn cael effaith fawr ar economi Cymru, yno, yn barod i fynd? Neu a oes gwagle wrth wraidd eich cynlluniau buddsoddi erbyn hyn, yn ogystal ag wrth wraidd eich syniadau?
Dirprwy Lywydd, mae gennym ni, wrth gwrs, strategaeth buddsoddi cyfalaf. Fe'i hadnewyddwyd y llynedd, a deuthum ar lawr y Cynulliad, fel y Gweinidog Cyllid, i gyflwyno'r buddsoddiadau ychwanegol yr ydym ni'n eu gwneud yn rhan o raglen buddsoddi yn seilwaith Cymru. Yr un buddsoddiad mwyaf y byddwn ni'n ei wneud fel Llywodraeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn yw'r £1.4 biliwn y byddwn ni'n ei fuddsoddi yn ein rhaglen tai, i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yma yng Nghymru. Y tu hwnt i hynny, mae gennym ni metro de Cymru, rhaglen buddsoddi cyfalaf mawr yma yn y de-ddwyrain; mae gennym ni raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, sy'n cyfrannu mwy o arian nag erioed o'r blaen i ysgolion a cholegau, i wneud yn siŵr eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain; mae gennym ni'r un buddsoddiad mwyaf erioed mewn prosiect iechyd unigol yn ysbyty athrofaol Grange; ac mae gennym ni biblinell ar gyfer ymhell y tu hwnt i hynny.
Rwyf i wedi cyflwyno gerbron y Pwyllgor Cyllid droeon y strategaeth a ddilynais o ran buddsoddiad cyfalaf, gan ddefnyddio bob amser y math rhataf o gyfalaf sydd ar gael i bwrs y wlad yma yng Nghymru yn gyntaf, ond yn mynd y tu hwnt i hynny mewn cyfres o ffyrdd, trwy fuddsoddiadau arloesol mewn cyfalaf, gan gynnwys y model buddsoddi cydfuddiannol. Trueni nad oes mwy o gyfalaf ar gael i'r Llywodraeth Cymru hon, oherwydd mae gennym ni uchelgeisiau y byddai caniatâd i ni eu cyflwyno pa byddai Llywodraeth y DU yn fodlon buddsoddi yng Nghymru, yn hytrach na syrthio'n ôl ar raglenni y mae wedi eu cyhoeddi ac yna siomi Cymru.
Chlywais i ddim cydnabyddiaeth yn y fan yna yn ymateb y Prif Weinidog i lawer o'r gwaith dadansoddi a welsom gan y cyfryngau mewn ymateb i'r cyhoeddiad diweddaraf, bod gan Gymru enw, onid oes, fel y wlad lle mae prosiectau mawr yn mynd i farw? Mae'n ymddangos bod anallu i fwrw ymlaen â phrosiectau gweddnewidiol mawr. Clywsom iaith gweddnewid unwaith eto gan Weinidog yr economi, ond lle mae gweithrediad hynny? Cawsom ffiasgo Cylchffordd Cymru, ond dim ond un enghraifft yw honno dros lawer iawn o flynyddoedd.
Onid rhan o'r broblem, o ran y tri phrosiect penodol y cyfeiriais atynt, yn rhannol neu'n llwyr, yw ein bod ni'n aml yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan eraill? Os hoffech chi, rydym ni'n rhoi ein hwyau ym masged rhywun arall. Ac felly, mae ein strategaeth economaidd yn cael ei hysgogi'n gyson gan rymoedd o'r tu allan i Gymru. Nawr, gwn mai eich safbwynt chi eich hun yw mai'r ateb i broblemau Cymru yn y pen draw yw ethol gwahanol lywodraeth yn San Steffan, ond dyna oedd diben datganoli i fod. Felly, pryd ydym ni'n mynd i weld, Prif Weinidog, strategaeth economaidd ymreolus, uchelgeisiol, gynhenid nad yw'n ddibynnol ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei benderfynu ar ein cyfer, ond yn seiliedig yn hytrach ar yr hyn yr ydym ni'n benderfynol o'i wneud drosom ein hunain?
Wel, Dirprwy Lywydd, mae gen i olwg llawer mwy gobeithiol o Gymru bob amser nag y bydd yr Aelod byth yn ei gynnig i ni ar lawr y Cynulliad, ac nid wyf i'n meddwl am funud ei bod hi o gymorth i Gymru i ailadrodd y math o chwedlau y mae'r wasg adain dde yn Llundain yn eu lledaenu, am Gymru fel rhywle lle mae prosiectau yn mynd i farw. Mae'n hurt. Mae'n hurt ym mhob rhan o Gymru, lle bydd pobl yn gweld y buddsoddiadau yr ydym ni'n eu gwneud mewn cyfleusterau cyhoeddus, mewn seilwaith trafnidiaeth, mewn masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn, mewn canolfan gonfensiwn newydd a fydd yn dod â gweithgarwch i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Mae ei safbwynt yn ymddangos yn rhyfedd i mi bob amser. Mewn byd byd-eang, mae ef eisiau dadlau dros Gymru ymreolaethol. Penderfyniadau cyfalaf a llifoedd cyfalaf yn terfynu, rywsut, ar ein ffin, ond pe byddem ni'n gyfrifol am y pethau hyn, byddem ni'n gallu gwneud gwahanol benderfyniadau gan lywodraethau Japaneaidd ac eraill sy'n gwneud y penderfyniadau hyn mewn rhannau eraill o'r byd. Rwy'n arddel gwahanol farn iddo ef; rwy'n credu ein bod ni'n gwneud yn llawer gwell yng Nghymru nag y mae ef byth yn barod i'w gydnabod, ac nid wyf i'n credu am eiliad y byddai ei uchelgeisiau i wahanu Cymru oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig a'n gwneud ni, gan ddefnyddio ei dermau ef, yn 'ymreolaethol' yn ein helpu mewn unrhyw ffordd i greu'r math o ddyfodol i'n gwlad yr hoffem ni ei weld.
Wel, yn ysbryd gwleidyddiaeth fwy caredig, efallai y gallaf i helpu'r Prif Weinidog. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd gennym ni gyfres o ddatganiadau ar gynllunio i liniaru effaith Brexit heb gytundeb. Mae un maes sy'n rhyfedd o absennol, sef yr economi. Nawr, mae'r Canghellor yn San Steffan wedi cadarnhau y byddai ysgogiad cyllidol brys mewn achos o Brexit heb gytundeb, tebyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Gordon Brown ar adeg yr argyfwng ariannol. Nawr, does bosib nad oes angen cynllun tebyg ar Lywodraeth Cymru, ac yn sgil y newyddion ynghylch Ford a Wylfa, rydym ni ei angen ar frys. Felly, pam na wnawn ni ofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru sydd newydd gael ei sefydlu nodi prosiectau mawr ledled Cymru yn rhan o raglen buddsoddiad cyfalaf gwerth sawl biliwn? Gallech chi ariannu hynny trwy eich bond Llywodraeth Cymru newydd eich hun—mewn achos trychinebus o ddim cytundeb, bond Brexit y gallai dinasyddion Cymru ei brynu i chwarae eu rhan yn y gwaith o helpu i ailadeiladu economi Cymru. Dyma'r union fath o ymateb creadigol a chydweithredol a arweiniodd, yn ystod yr argyfwng economaidd diwethaf, at syniadau fel ProAct a ReAct a chyfres o uwchgynadleddau economaidd brys yn ysbryd tîm Cymru.
Ond wyddoch chi, Prif Weinidog, mae angen capten ar dîm Cymru, ac mae angen cynllun arno. Rwyf i wedi clywed Gweinidog yr economi yn cyflwyno rhestr hirfaith o bosibiliadau ar gyfer Cymru, ac yn eu plith oedd Cymru'n dod yn gartref i dechnoleg heb yrrwr. Ar hyn o bryd, mae gennym ni Lywodraeth heb yrrwr, ac o ganlyniad i hynny, mae gennym ni economi heb yrrwr hefyd.
Wel, cyn belled ag y mae datganiadau bachog yn y cwestiwn, ni aeth yn bell iawn, Dirprwy Lywydd, naddo?
Wrth gwrs bod gennym ni gynllun, ac wrth gwrs bod gennym ni biblinell o brosiectau. Fe'u cyflwynwyd gerbron y Cynulliad gennym y llynedd, rydym ni'n ei adnewyddu drwy'r amser, ac rydym ni'n sicr yn ei ystyried yng nghyd-destun penderfyniadau a wneir yn Wylfa ac yng nghyd-destun Brexit. Ond, Dirprwy Lywydd, mae Cymru angen capten, ond mae Cymru angen capten sydd o leiaf yn deall y rheolau, oherwydd rwyf i wedi clywed yr Aelod yn cynnig ei syniad bond i ni lawer gwaith ar lawr y Cynulliad hwn, ac fel y gŵyr yn iawn, nid yw bondiau Cymru yn ychwanegu yr un bunt at ein gallu i fuddsoddi mewn prosiectau cyfalaf. Mae'n gwybod yn iawn mai'r rheolau yw y byddai hynny'n cyfrif yn erbyn ein holl fuddsoddiadau cyfalaf eraill a'r cwbl y byddai'n ei wneud fyddai cymryd lle arian arall, rhatach yr ydym ni eisoes yn ei fwynhau. Nid yw'n syniad sy'n ymarferol am eiliad.
Nawr, mae rhai pethau y mae'r Aelod wedi eu dweud y prynhawn yma nad wyf i'n anghytuno â nhw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni gynllunio ymlaen llaw. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni biblinell, y mae'n cyfeirio ati, ond nid yw'n helpu neb i dynnu allan o'r awyr, a'i gyflwyno fel pe byddai'n ateb i'n problem, syniad nad yw'n gwneud unrhyw gyfraniad o gwbl.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, cyfeiriodd Adam Price yn gryno at fater Brexit yn ei gwestiynau. Fel y mae'r ddau ohonom ni'n ei wybod, mae 66 diwrnod ar ôl cyn y disgwylir i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae Theresa May wedi diystyru gohirio'r dyddiad ymadael. Mae hi hefyd wedi diystyru ail refferendwm, felly y sefyllfa fel y mae hi yw ein bod ni'n gadael yr UE ar 29 Mawrth. O ystyried hynny Prif Weinidog, a fyddai'n syniad da pe byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn y canlyniad hwn erbyn hyn a chanolbwyntio ar baratoi ar gyfer y Brexit heb gytundeb yn hytrach na cheisio atal Brexit rhag digwydd?
Wel, Dirprwy Lywydd, bydd gweddill y prynhawn yn helpu i roi ateb i gwestiwn yr Aelod. Wrth gwrs, nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn, ac ni fydd yn derbyn, ein bod ni ar lwybr anochel i'r drychineb y byddai Brexit heb gytundeb i Gymru. Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym ni'n gwneud y pethau y mae'r aelodau o gwmpas y Siambr hon wedi gofyn i ni ei wneud, sef paratoi ar gyfer y gwaethaf, a byddwch yn clywed y prynhawn yma y llawer o bethau yr ydym ni'n eu gwneud fel Llywodraeth. Ond nid ydym ni'n derbyn ein bod ni i gyd rywsut wedi ein clymu i drên y mae'r Prif Weinidog wedi ei gychwyn ac nad oes unrhyw ddewis arall i ni ond rhuthro dros yr ymyl gyda hi? Wel, wrth gwrs nad ydym ni.
Gwn fod llawer o ddatganiadau y prynhawn yma, ac rwy'n falch mewn gwirionedd bod datganiadau yn cael eu gwneud mewn ffordd, oherwydd mae elfen yn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, o'r safbwynt eich bod chi'n gwneud paratoadau ar gyfer Brexit, yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr iawn ar yr ochr hon i'r Siambr. Ond, ar yr un pryd, rydych chi'n dal i lynu at y syniad hwn yr ydych chi newydd ei fynegi unwaith eto, y gallwch chi helpu rywsut i orfodi ail refferendwm ac atal Brexit rhag digwydd. Nawr, pam fyddech chi eisiau gwneud hynny pan fo gennych chi fandad democrataidd eglur gan y rhan fwyaf o bleidleiswyr Cymru, a bleidleisiodd i adael yr UE? Yn gryno, pam ydych chi mor benderfynol o fynd yn groes i'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto? A pham ydych chi wedi cael gwared ar fusnes diwrnod cyfan yma heddiw, er mwyn ymroi i raddau helaeth i ddiwrnod o brosiect ofn?
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod cyfraniad yr Aelod wedi dechrau trwy groesawu'r datganiadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma a'r ffaith ein bod ni'n paratoi ar gyfer sefyllfa derfynol yr ydym ni'n sicr ddim eisiau ei gweld, ac yna wedi disgrifio'r un peth mewn termau codi bwganod. Dirprwy Lywydd, gadewch i mi fod yn eglur: o ddiwrnod y refferendwm, dywedodd y Prif Weinidog blaenorol—a chefais innau'r cyfle i'w ategu yn aml—bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio nid ar ffaith Brexit, ond ar ffurf Brexit. Roedd ffaith Brexit wedi cael ei rhoi gerbron y bobl mewn refferendwm, ond ceir llawer o wahanol bosibiliadau o ran y ffordd yr ydych chi'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae ar sbectrwm eang iawn. Rydym ni'n parhau i gredu ei bod hi'n bosibl y gallai Tŷ'r Cyffredin ddod o hyd i dir cyffredin a fyddai'n cefnogi math o Brexit a fydd yn cyd-fynd â'r un a nodwyd gennym ni ynghyd â Phlaid Cymru yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rydym ni hefyd wedi dweud os bydd Tŷ'r Cyffredin yn methu â gwneud penderfyniad ac na all sicrhau ffordd drefnus o adael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae'n rhaid mai trosglwyddo'r penderfyniad yn ôl i'r bobl iddyn nhw gael y gair olaf fyddai'r ffordd y byddai hynny'n cael ei ddatrys.
Wel, rwyf i wir yn cwestiynu pa un a yw ewyllys y bobl sy'n eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin yn drech na phobl y Deyrnas Unedig, sydd eisoes wedi mynegi eu barn ar y mater hwn. Ac fel y gwnaethpwyd yn eglur gan David Cameron pan roddodd y refferendwm hwn i ni yn y lle cyntaf, roedd i fod yn bleidlais a oedd yn mynd i rwymo Tŷ'r Cyffredin. Amhosibl yn gyfansoddiadol efallai, ond dylech chi o leiaf ymgysylltu â'r hyn y mae mwyafrif pobl y DU, ac yn wir, pobl Cymru, wedi pleidleisio drosto. Felly, gofynnaf i chi eto: rwyf i yn hoffi elfen o'r datganiadau hyn—mae'n rhaid i ni wneud cynlluniau wrth gefn ar gyfer gadael, ac rwy'n falch eich bod chi'n gwneud hynny—ond a gaf i ofyn i chi os gwelwch yn dda, wrth symud ymlaen, os ydym ni'n mynd i gael 12 wythnos o hyn, a allwch chi ganolbwyntio ar y cynlluniau wrth gefn eu hunain ac nid ar geisio atal Brexit, a cheisio atal yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto?
Wel, fel yr wyf i wedi ei ddweud, Llywydd, nid wyf i'n meddwl am eiliad mai bwriad gweithredoedd y Llywodraeth Cymru hon oedd atal canlyniad y refferendwm; bu'r holl drafodaethau ynghylch sut yr ydym ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'r ffordd y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, yr amodau y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn unol â nhw. Efallai fod gennym ni wahanol safbwyntiau o gwmpas y Siambr hon ynghylch y ffordd orau y gellir gwneud i Brexit ddigwydd, ond dyna yr ydym ni wedi bod yn ei drafod yr holl amser. Nawr, ceir llawer o bobl sydd, wrth i realiti'r hyn y bydd hynny'n ei olygu yn eu taro, yn dod i weld synnwyr yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth hon wrth bobl yng Nghymru yn y cyfnod cyn y refferendwm—bod dyfodol Cymru yn cael ei sicrhau orau trwy aelodaeth barhaus o'r Undeb Ewropeaidd. Ac os bydd yn amhosibl i Dŷ'r Cyffredin gytuno ar ffordd drefnus y gall Brexit ddigwydd, nid wyf i'n gweld sut mewn unrhyw ffordd nad yw'n weithred ddemocrataidd mynd yn ôl at bobl y Deyrnas Unedig a chael eu barn ar y ffordd orau o ddatrys hynny.