– Senedd Cymru am 2:37 pm ar 5 Chwefror 2019.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol ar ddigartrefedd a chysgu allan. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn byw mewn cartref sy'n diwallu eu hanghenion. Mae gwireddu'r ymrwymiad hwn wedi bod yn fwy heriol byth oherwydd y cyni ac ansicrwydd parhaus. Yr her fwyaf enbyd a'r fwyaf anodd yw diwallu anghenion y rheini sydd ymhell oddi wrth dai diogel, addas, yn arbennig y rheini sy'n cysgu allan ar ein strydoedd mewn pebyll ac wrth ddrysau siopau, ond hefyd y rhai y mae eu digartrefedd yn llai gweladwy ond yr un mor wir.
Rydym wedi cyhoeddi'r bore 'ma gyfrifiad blynyddol ar gyfer Cymru o'r rhai sy'n cysgu allan. Bwriad y cyfrifiad blynyddol yw nodi pwy sy'n cysgu allan ar noson benodedig. Mae hefyd yn cynnwys canfyddiadau'r ymarferiad o gasglu data am bythefnos, gan ddefnyddio gwybodaeth o ystod o wasanaethau, i ddwyn tystiolaeth ynghyd am niferoedd y rhai sy'n cysgu allan dros gyfnod mwy estynedig o amser. Mae'r data yn rhoi cipolwg ar ddarlun sy'n newid yn barhaus. Yn gyffredinol, mae'r data yn dangos y gall ein hymdrechion ni ar y cyd fod yn dechrau cael effaith. Yn wyneb y pwysau cynyddol ar aelwydydd, ymddengys bod nifer y bobl sy'n cysgu allan yn sefydlogi yn gyffredinol, ac, mewn rhai ardaloedd, mae'r niferoedd wedi gostwng. Er hynny, mae hyd yn oed un person yn cysgu allan ar ein strydoedd yn un yn ormod. Fel pob Aelod Cynulliad arall sy'n gyfarwydd â'r sefyllfa hon ar strydoedd yn ein trefi a'n dinasoedd, gwn fod cysgu allan yn dal i ddigwydd yn barhaus ac ar lefel annerbyniol yng Nghymru.
Nid yw hon yn sefyllfa sy'n unigryw i Gymru. Yn anffodus, mae cysgu allan i'w weld ym mhob tref a dinas fawr. Nid yw hyn yn dderbyniol ac, yn fy marn i, nid yw'n anochel. Dylai tai addas fod yn un o'r hawliau dynol sylfaenol mewn gwlad gyfoethog fel ein gwlad ni, ond mae effaith diwygio budd-daliadau, ynghyd â bron i ddegawd o gyni, yn ychwanegu at y pwysau ar aelwydydd a'u gallu i sicrhau lle i aros sy'n fforddiadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'n sylweddol o ran atal a mynd i'r afael â digartrefedd dros y tair blynedd diwethaf. Rydym yn ychwanegu at y buddsoddiad hwnnw, gyda thros £30 miliwn eto eleni a'r flwyddyn nesaf. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adeiladu mwy o dai fforddiadwy ac amddiffyn ein stoc o dai cymdeithasol. Gwelir arwyddion bod y cyfuniad o'n deddfwriaeth arloesol ar ddigartrefedd a'r buddsoddiad ariannol hwn yn gwneud gwahaniaeth.
Llwyddwyd i rwystro bron 19,700 o aelwydydd rhag mynd yn ddigartref rhwng mis Ebrill 2015 a diwedd mis Medi 2018. Mae hyn yn arbennig o gadarnhaol o ystyried bod nifer yr aelwydydd sydd dan fygythiad digartrefedd wedi codi 12 y cant o'i gymharu â'r un chwarter yn y flwyddyn flaenorol. Er gwaethaf y cynnydd sylweddol hwn yn y galw, llwyddodd awdurdodau lleol i gynnal lefelau gwasanaeth, gan atal digartrefedd mewn 65 y cant o achosion. Cysgu allan yw'r ffurf fwyaf eithafol a gweladwy o ddigartrefedd. Yn aml mae pobl sy'n cysgu ar ein strydoedd ag ystod o anghenion cymhleth na fydd llety ar ei ben ei hun yn eu datrys. Os ydym ni o'r farn fod niferoedd y rhai sy'n cysgu allan yn digwydd yn barhaus ac yn annerbyniol o uchel, yna bydd yn rhaid inni holi a yw'r modelau ar gyfer ein gwasanaethau yn ymateb yn ddigonol i anghenion y rhai sy'n eu cael eu hunain ar ein strydoedd ni. Mae'n rhaid inni ddysgu o brofiad bywydau pobl a cheisio cael ymatebion arloesol sy'n canolbwyntio ar unigolion.
Mae'n rhaid i ni ofyn i ni ein hunain a yw'r cyllid ychwanegol wedi cael effaith, ac a yw'r modelau ar gyfer gwasanaeth yn cefnogi anghenion cymhleth pobl yn ddigonol i helpu i'w dwyn nhw oddi ar y strydoedd ac i lety tymor hir. Rwy'n awyddus i awdurdodau lleol fod yn ddewr ac eofn. Rwy'n eu cymeradwyo nhw a phob un unigolyn sy'n gweithio mor galed i gefnogi pobl sy'n cysgu allan a'u helpu i drawsnewid eu bywydau.
Mae rhai dulliau arloesol o weithredu arloesol yn cael eu treialu ledled Cymru. Yn Wrecsam, mae'r ganolfan gofal cymunedol yn un enghraifft o hyn. Fel y gwelodd y Prif Weinidog ei hunan yn ddiweddar, i'r rheini sy'n cysgu allan, mae'n cynnig iddynt ofal gan feddyg teulu, gofal iechyd meddwl, gofal i atal camddefnyddio sylweddau, gyda thai, ac allgymorth, canolfan waith a gwasanaethau cymorth eraill, a'r cyfan i gyd mewn un ystafell. Mae Cyngor Wrecsam yn gweld arwyddion cynnar hefyd o lwyddiant gyda'i ddull o 'allgymorth grymusol'. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar gymorth amlddisgyblaethol sy'n barhaus a phwrpasol, gyda'r prif nod o roi terfyn ar ddigartrefedd.
Rwy'n falch o adrodd ar gynnydd gwirioneddol wrth gyflwyno Tai yn Gyntaf yng Nghymru. Er ei bod yn ddyddiau cynnar, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth o lwyddiant gyda rhai o'n cysgwyr allan sydd â'r problemau mwyaf cymhleth. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol a'r sector ehangach i gyflwyno rhaglen arall o arloeswyr Tai yn Gyntaf, gyda chymorth mwy na £700,000 o gyllid ychwanegol y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar sut y byddwn yn cydlynu ac yn rhannu'r arfer gorau o'r prosiectau cynnar hyn.
Mae Tai yn Gyntaf yn rhoi'r gorau i'n dull traddodiadol ni o flaenoriaethu ar sail teilyngdod i helpu i ddwyn pobl oddi ar y stryd. Mae ei lwyddiant yn dibynnu ar y ffaith ei fod yn rhoi'r unigolyn yn y canol. Nid oes angen iddyn nhw ennill teilyngdod i fod ar gam nesaf y daith. Mae'n derbyn y gall unigolion fod â chymysgedd gymhleth o broblemau ac anghenion. Yn y bôn, mae'n cydnabod y gall unigolion reoli neu ymdrin yn well â materion fel salwch meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ac ymgysylltu â gwasanaethau pan fo ganddyn nhw le sefydlog i'w alw'n gartref.
Wythnos neu ddwy yn ôl, ymwelais â phrosiect Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth yng Nghaerdydd a chefais gyfle i siarad ag un o ddefnyddwyr y gwasanaeth a chlywed sut y gwnaeth Tai yn Gyntaf wahaniaeth dramatig i'w fywyd. Roedd yn amlwg fod llwyddiant Tai yn Gyntaf yn tarddu o ddwyn amrywiaeth o wasanaethau ynghyd, a phob un yn gweithio mewn ffyrdd newydd, hyblyg ac ymatebol er mwyn diwallu anghenion pobl ddigartref.
Cydnabyddir pwysigrwydd ymrwymiad amlasiantaeth a hyblygrwydd yng Ngheredigion hefyd. Maen nhw'n gweld pwysigrwydd cael pob gwasanaeth a'r partneriaid i gydweithio, ac yn chwilio'n ddyfal am atebion i anghenion cymhleth yr unigolion. Mae Ceredigion yn ceisio profi y gall ymrwymiad cyffredin i deilwra gwasanaethau i unigolion, yn hytrach nag o'r tu arall, ddwyn ffrwyth gwirioneddol.
Yn ogystal ag annog awdurdodau lleol i ofyn y cwestiynau anodd iddyn nhw eu hunain, a dysgu oddi wrth ei gilydd a newid eu modelau cyflenwi, byddaf hefyd yn eu hannog i weithio ochr yn ochr â'm hadran i er mwyn ystyried yr hyn y bydd angen ei wneud yn wahanol. Y nod, yn y tymor hwy, yw alinio ein cyllid â strategaethau digartrefedd statudol yr awdurdodau lleol. Bydd yn bwysig i'r cynlluniau hyn ddangos yn eglur sut mae sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd yn strategol i gyflawni'r effaith fwyaf dymunol. Rwy'n awyddus i weld cydweithio gwirioneddol rhwng yr holl bartneriaid mewn ardal. Byddaf yn gofyn i'm cyd-Weinidogion ac i fi fy hun ddarparu'r un lefel o bendantrwydd, ymrwymiad a chydlyniant strategol. Mae amgylchiadau annerbyniol pob dinesydd digartref sydd heb do uwch ei ben yn mynnu hynny, ac nid yw'n haeddu dim llai.
Hoffwn i ddechrau gyda'r meysydd yr wyf yn credu bod cytundeb llwyr â nhw, fwy na thebyg, ar draws y Siambr, ar y mater hwn o'r pwys mwyaf, yn fy marn i—baromedr cyflawn ar gyfer y math o warineb sydd gennym mewn cymdeithas, neu fel arall. Credaf mai cysgwyr allan yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, o ran bod mor bell o dai diogel ac addas. Roeddwn i'n falch o glywed hynny gan y Gweinidog. Er bod cysgu allan yn rhywbeth parhaus, mae'n beth annerbyniol ac nid yw'n anochel, a dyna'r farn y mae angen inni ei chlywed gan y Llywodraeth. Mae tai gweddus yn hawl dynol sylfaenol. Credaf fod hynny wedi ei ddatgan yn eglur iawn ar ôl yr ail ryfel byd, ond efallai ei fod wedi mynd ar goll dros y degawdau diwethaf i ryw raddau, ac mae angen inni ei ailddatgan. Mae angen inni fod yn ddewr ac eofn—rwy'n hoffi'r geiriau hynny, ac rwy'n eich cymeradwyo amdanynt—a phrofi ein modelau gwasanaeth presennol. Ar yr egwyddorion hyn, gallwn adeiladu consensws a dull cadarn o weithredu ar y mater heriol hwn.
Cyfeiriodd y Gweinidog at lwyddiant y Ddeddf tai o ran ysgogi Cymru i ganolbwyntio ar atal, ac rwyf wedi clywed llawer o bobl yn canmol dull y Llywodraeth. Felly, gan ganolbwyntio ar un neu ddau o ddiffygion, rwy'n awyddus iawn i fod yn gytbwys a dweud fy mod wedi clywed pobl yn canmol y dull gweithredu ac yn ei wthio ar rannau eraill o'r DU. Serch hynny, clywais hefyd dro ar ôl tro mai diffyg allweddol yn Neddf 2014 yw nad yw ond yn ofynnol i awdurdodau lleol helpu'r rhai sy'n mynd ati i geisio cymorth. Nawr, wrth gwrs, mae llawer yn mynd y tu hwnt i hynny, ond y gofyniad yn ôl y gyfraith yw ymateb i'r rheini sy'n mynd ati i geisio cymorth, a gall yr awdurdodau lleol roi'r gorau i'w dyletswyddau o ran digartrefedd pe na fyddai unigolyn yn cydweithredu â'r awdurdod lleol—unwaith eto, nid yw hynny'n dweud bod yn rhaid iddyn nhw, ond y bydden nhw yn gallu gwneud felly. Ac, yn olaf, nid yw'r rhai sy'n cysgu allan yn ennill statws angen blaenoriaethol yn awtomatig yn ôl y ddeddfwriaeth.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi cymeradwyo model Tai yn Gyntaf, ac rwy'n cytuno â hi mai honno yw'r ffordd orau ymlaen fwy na thebyg o ran mynd i'r afael â'r rhai sy'n cysgu allan. Ond credaf nad yw rhai o'r pethau sydd bellach, os nad ydynt wedi eu hymgorffori, yna wedi eu caniatáu, yn y dull deddfwriaethol yn cyd-fynd yn hollol â hynny. Er tegwch, rwy'n credu ichi gyfeirio at rai o'r anawsterau yn y dull o ennill teilyngdod wrth roi tai. Ond rwyf i'n credu bod angen inni edrych yn ofalus ar y ddeddfwriaeth i weld sut mae'n gweithredu ar y lefel hon o ddod â chymorth i'r rhai sy'n cysgu allan, ac na all yr angen cyfredol i ofyn am gymorth ac yna, mewn ffordd barhaus, gydweithredu fod yno fel prif egwyddor yn y ddeddfwriaeth. Ni ddylid ei ddehongli fel yna, oherwydd, yn amlwg, mae gan y rhai sy'n cysgu allan anghenion cymhleth iawn, iawn, fel y dywedoch chi, ac mae eu hamgylchiadau yn gymhleth iawn hefyd.
Credaf fod y model yn Wrecsam yn wirioneddol galonogol oherwydd mae ganddyn nhw yno yr hyn a alwoch yn 'allgymorth grymusol'. A dyna'r ffordd ymlaen, mae'n ymddangos i mi, o ran sut y byddwn yn dehongli'r ddeddfwriaeth, ac felly rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cadarnhau hynny.
Yn olaf, rwyf am bwysleisio'r gwaith arloesol yn y sector gwirfoddol. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i ddarllen erthygl graff a theimladwy Lindsay Cordery-Bruce yn y Western Mail ddoe. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod o'r farn mai hon yw un o'r erthyglau sylwebaeth gorau i mi ei darllen ers blynyddoedd lawer mewn unrhyw bapur newydd, a dweud y gwir, ar y pwnc hwn, ac rwy'n annog yr Aelodau nad ydyn nhw wedi cael cyfle i'w darllen i wneud hynny. Mae Lindsay yn pwysleisio'r angen am ddull gweithredu, rwy'n dyfynnu sy'n rhoi'r tosturi yn ôl yn y comisiynu.
Diwedd y dyfyniad. Ac mae angen rhoi sylw arbennig i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Nawr, gwn fod y Llywodraeth yn edrych ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'r sector hwn. Mae hi'n dweud hefyd bod digartrefedd wedi mynd yn argyfwng o ran arweinyddiaeth lawn cymaint ag yn argyfwng o ran tai, a chredaf mai ein dyletswydd ni bellach yw ceisio cyfuno'r consensws egnïol hwn a symud pethau yn eu blaenau.
Ac rwyf am orffen mewn maes arall yn y sector gwirfoddol, gyda Phrif Weithredwr Crisis, John Sparks, a ddywedodd, ar ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd heddiw, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'n ddim llai na sgandal cenedlaethol fod pobl, noson ar ôl noson, yn dal i orfod cysgu allan ar ein strydoedd, yn enwedig gan y gwyddom pe cymerid y camau cywir y gellid rhoi diwedd ar hynny am byth.
Mae angen i bob un ohonom ni weithio tuag at hynny.
Diolch i chi am y sylwadau hynny. Nid wyf i'n anghytuno ag unrhyw un ohonyn nhw, mewn gwirionedd. Ceir mymryn bach o bwyslais, efallai—rhyw arlliw bychan—y byddem yn anghytuno ag ef, ond, yn gyffredinol, rwy'n credu ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad iawn.
Rwy'n credu bod llawer iawn i'w ddysgu o'r daith hyd yma, yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol a'r hyn nad yw wedi bod yn effeithiol ac, er tegwch, ledled y byd gorllewinol, mae gennym ni broblem gyffelyb, a'r modelau sy'n cael eu datblygu—rydym ni'n ceisio dysgu oddi wrth y gorau yn y modelau hynny. Felly, mae Tai yn Gyntaf yn ymddangos i mi yn ateb synhwyrol iawn yn amlwg ynddo'i hun. Gall fod yn fisoedd lawer, serch hynny, cyn i rywun sydd wedi bod yn cysgu allan gyda nifer o broblemau cymhleth gael y llety diogel sydd ei angen arno. Ond rydym yn golygu ymbellhau i raddau helaeth iawn oddi wrth y math o flaenoriaethu sydd wedi bodoli hyd yn hyn. Er bod hynny wedi gweithio i rai. Bydd hynny wedi gweithio i rai, ond, mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn edrych arno yw'r dulliau sy'n canolbwyntio ar drawma, sy'n unigryw i'r unigolyn, oherwydd mae pob unigolyn yn wahanol. Felly, rwy'n siŵr bod cyfleoedd tai pur dda ar gael y bydden nhw'n fy ngwneud i'n ddigalon iawn ond fe allen nhw wneud rhywun arall yn hapus iawn. Y pwynt yw ceisio darganfod yr hyn y mae'r unigolyn hwnnw'n fwyaf tebygol o allu ei gynnal a pha wasanaethau cymorth y bydd eu hangen i wneud hynny. Mae'n bosibl, i rai, y byddai cael lle mewn fflat a chynnig lefel sylfaenol o incwm yn ddigonol, a byddai angen llawer iawn mwy o gymorth na hynny ar eraill.
Felly, mae'r model yn canolbwyntio ar ddull sydd wedi ei ganoli ar yr unigolyn hwnnw, ac roedd hi'n fraint fawr i gwrdd â gŵr bonheddig a oedd wedi elwa ar hynny ac a oedd yn siŵr iawn na fyddai ef wedi gallu dod i mewn oddi ar y stryd oni bai am hynny. Felly, rwy'n cytuno â hynny. Rydym ni'n edrych, ac mae gennym wahanol adolygiadau yn digwydd, a ddechreuwyd gan fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog Tai—adolygiadau i angen blaenoriaethol a nifer o bethau eraill y soniodd David Melding amdanyn nhw, yn ystyried yr hyn sydd wedi bod yn effeithiol a'r hyn sydd ei angen arnom ni i'w wneud i symud y drafodaeth yn ei blaen. Rwy'n falch eich bod yn hoffi model Wrecsam gan fy mod yn credu bod llawer i'w ddweud dros y math hwnnw o allgymorth grymusol, fel y'i gelwir. Wedi dweud hynny, eto i gyd, yn y pen draw, mae'n rhaid i ni hefyd barchu'r hyn y mae'r unigolyn yn ei farnu sy'n angenrheidiol iddo ac yn gallu ei fynegi i ni. Felly, ystyr hyn yw cydbwysedd gofalus rhwng hawliau unigol yr unigolyn hwnnw a'n hangen ni i gynorthwyo'r unigolyn hwnnw'n ôl i gartref sy'n gynaliadwy.
Mae eich datganiad yn honni bod nifer y rhai sy'n cysgu ar y stryd yn ymddangos fel pe bai'n sefydlogi, ond mae hynny'n seiliedig ar y cyfrifiad cysgu allan, sy'n parhau i ddangos cynnydd o 45 y cant ers 2015. At hynny, er bod y cyfrifiadau hynny'n ddefnyddiol mewn rhai ffyrdd, maen nhw'n gallu methu â chyfrif y rhai sy'n cysgu allan sydd wedi eu gyrru i ffwrdd o'r mannau lle mae pobl yn cael eu cyfrif, sy'n digwydd fel y gwyddom o ganlyniad i blismona gorfrwdfrydig, ac mewn rhai achosion hefyd o ganlyniad i bolisi diffygiol. Awgryma'r data eraill sydd gennym fod y broblem ar gynnydd o hyd. Mae cynnydd o 27 y cant yn yr aelwydydd sydd dan fygythiad digartrefedd ers 2015, er enghraifft, yn dangos y niferoedd enfawr yr ydym yn sôn amdanyn nhw yn y cyswllt hwn. Felly, a fyddech chi'n derbyn ei bod yn rhy fuan i ddweud yr ymddengys bod y pwysau sy'n achosi digartrefedd yn sefydlogi? Wedi'r cwbl, nid yw credyd cynhwysol wedi cael ei gyflwyno'n llawn eto, ac rydym yn gwybod y bydd hynny'n debygol o gynyddu digartrefedd eto hyd yn oed.
Yn ail, mae eich datganiad yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth arloesol, deddfwriaeth sydd wrth gwrs yn cadw'r prawf Pereira a'r categorïau angen blaenoriaethol, er gwaethaf y cyngor yr oedd y sector cyfan yn ei roi i chi. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi tynnu sylw at hynny, ac rwy'n dyfynnu,
Mae awdurdodau lleol yn ymateb i'r problemau a achosir gan ddigartrefedd gyda graddau amrywiol o lwyddiant, ond ychydig o bwyslais sydd ar atal achosion sylfaenol digartrefedd.
Nawr, mae eich datganiad yn awgrymu eich bod chi'n gwybod am hyn, oherwydd rydych yn dweud bod angen i'r awdurdodau lleol ofyn rhai cwestiynau anodd iawn, iawn i'w hunain. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa gwestiynau fyddai'r rheini, os gwelwch chi'n dda?
Yn drydydd, ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at adroddiad diweddar Crisis ar sut i roi terfyn ar ddigartrefedd yn y DU, sef y cynllun mwyaf cynhwysfawr yr wyf i wedi ei weld. A ydych chi'n bwriadu darllen y cynllun hwnnw? Ac yn olaf, mae eich datganiad yn sôn am nifer o brosiectau Tai yn Gyntaf, ac mae Tai yn Gyntaf yn feddylfryd yr ydym ni'n ei gymeradwyo. Mae eich datganiad yn nodi bod mabwysiadu'r model hwn yn ymbellhau oddi wrth ddulliau blaenoriaethu traddodiadol, ond a wnewch chi ymhelaethu ar hyn, os gwelwch yn dda, o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau ac, er enghraifft, ei chyllid i sicrhau symudiad tuag at Dai yn Gyntaf? A wnewch chi esbonio hefyd sut mae cadw at angen blaenoriaethol yn gydnaws â pholisi Tai yn Gyntaf, os gwelwch yn dda?
Ie, diolch i chi am y sylwadau hynny. Byddwn yn hapus iawn i geisio gwneud fy ngorau ynglŷn â'r rhain. Rydym yn cynnal adolygiad o'r system angen blaenoriaethol, a gomisiynwyd gan Rebecca Evans, ac rydym yn gobeithio adrodd yn ôl ym mis Ebrill eleni, gyda golwg ar weld i raddau helaeth iawn yr hyn y mae'r Aelod wedi sôn amdano—yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad, yr hyn y dylem ni ei wneud i'w newid, os oes unrhyw beth, ac ati. Felly, rwy'n mynd i aros i weld beth ddaw o hwnnw, ond fe'i comisiynwyd gyda golwg ar lawer o'r pethau a nododd hi yn ei sylwadau.
O ran adroddiad Crisis, rydw i wedi cyfarfod eisoes â Crisis. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud. Mae gennym ni nifer o gynlluniau peilot ar waith. Rydym yn awyddus i weld sut y caiff y rheini eu gwerthuso. Mae gennym ddiddordeb mawr iawn, iawn o ran edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud gyda golwg ar rai o'r pethau—dull Tai yn Gyntaf, y trefniadau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a nodir yn yr adroddiad hwnnw.
Y cwestiynau y dylai'r awdurdodau lleol ofyn i'w hunain yw: a ydyn nhw'n dysgu o'r arfer gorau o'u cwmpas? Roeddwn i'n sôn am nifer o awdurdodau—Ceredigion, Wrecsam, i enwi dim ond dau—mae gennym ni arfer da yn ein hawdurdodau lleol. Nid yw hynny i'w gael ym mhob awdurdod lleol. Felly, wrth weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn fwy cyffredinol, mewn gwirionedd, ar gyfer awdurdodau lleol, nid yn unig ym maes tai, rydym yn bwriadu gwthio arfer da ledled y sector awdurdod lleol mewn nifer o ffyrdd. Byddaf yn disgwyl i awdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd yn gywir i wneud yn siŵr ein bod yn gweld yr arfer gorau yn ymestyn ledled Cymru, ac nad ydym yn mynd ar yr un cyflymder â'r arafaf, fel petai, ac nid yn unig o ran tai, mae hynny ar draws amrywiaeth o wasanaethau. Mae gennym ni arferion rhagorol yng Nghymru, ond nid yw hynny mor gyffredinol ag y byddech chi a minnau yn hoffi ei weld yn fawr iawn.
O ran cyflwyno'r credyd cynhwysol, rwy'n derbyn ei phwynt hi'n gyfan gwbl. Dywedais yn fy natganiad mai cipolwg yw'r cyfrifiad cysgu allan ar ŵyl symudol iawn. Rydym yn gwybod ei fod yn cuddio nifer o ystadegau ynglŷn â phobl nad ydyn nhw mewn llety diogel ond sy'n cael cysgu ar soffa rhywun neu gyda ffrindiau neu deulu. Gwyddom ei fod yn cuddio'r pethau hynny. Gwyddom fod awdurdodau lleol wedi cymryd rhai camau i atal digartrefedd, ond maen nhw'n ymladd yn erbyn y cynnydd mewn tlodi sydd yn cael ei yrru gan gyni, ac yn sicr nid yw cyflwyno'r credyd cynhwysol yn gymorth yn hynny o beth. Felly, rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd hi nawr.
Ein gwaith ni yw gweld beth y gallwn ei wneud i helpu'r awdurdodau lleol nid yn unig i ddal y llanw, os hoffech chi, ond mewn gwirionedd i'w gyflymu i'r cyfeiriad arall. A dyna, i raddau helaeth iawn, y mae adolygiadau yr ydym wedi eu comisiynu yn bwriadu ei wneud dros y flwyddyn nesaf.
Yn gyntaf, a gaf i groesawu datganiad y Gweinidog? A gaf i groesawu hefyd rai o'r sylwadau a wnaeth cyd-Aelodau yn gynharach? Rwy'n croesawu yn arbennig y gwahaniaethu rhwng digartrefedd a chysgu allan. Mae digartrefedd yn cynnwys y rhai sydd heb gartref sefydlog sy'n symud rhwng y naill soffa a'r llall drwy garedigrwydd teulu a ffrindiau, ond mewn llawer o achosion maen nhw o fewn un noson i fod yn cysgu allan. Ceir rhai hefyd mewn cartrefi anaddas a'r llety'n orlawn, yn aros gyda theulu neu ffrindiau'n aml, ac nid ydyn nhw'n ddigartref nac yn cysgu allan ond mae angen llety amgen arnyn nhw. Ac mae hynny, yn anffodus, yn cynnwys plant.
Ceir nifer o hosteli sy'n gwneud gwaith da ond byddai'n well gan rai unigolion fod ar y stryd na mewn hostel am resymau personol o bob math, a gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hynny. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi mai'r unig ffordd y gallwn ni leihau digartrefedd a chysgu allan yw drwy adeiladu digon o dai cyngor i fodloni'r galw, gan roi cymorth i ddod â'r digartref a'r rhai sy'n cysgu allan i gartref parhaol, gan roi'r gorau i droi pobl allan yn ddi-fai, a datblygu mentrau tai cydweithredol?
'Ydw' yw'r ateb cryno iawn i hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod. Rydym yn gwbl benderfynol o gyflawni ein targed tai fforddiadwy ond, yn llawer pwysicach na hynny, i adeiladu tai i'w rhoi ar rent cymdeithasol ar raddfa fawr. Nawr fod Llywodraeth y DU wedi dychwelyd at gonsensws 1945, os gallaf ei rhoi hi felly, ac wedi diarddel y capiau ar gyfrifon refeniw tai ac ati, mae hynny'n golygu bod ein hawdurdodau yn cael eu rhyddhau i adeiladu'r tai y mae cymaint o'u hangen arnom ni.
Y peth mawr fydd i ni adeiladu'r math iawn o dai yn y mannau iawn. Felly, bydd rhywfaint o hyn y golygu tai safonol cymdeithasol i'w rhentu, ond bydd rhywfaint ohono'n golygu llety â chymorth, a bydd hynny ar gyfer pobl sy'n dod oddi ar y strydoedd, a'r gefnogaeth addas ac yn y blaen— ac fel y dywedais, nid yw'r un peth yn addas i bawb yn sicr yn y sefyllfa honno—a bydd hefyd yn llety o ofal llai dwys, a fydd yn rhyddhau ein GIG, er enghraifft, i ganiatáu lleoliadau â chymorth allan i'r gymuned. Bydd hefyd yn golygu adeiladu cymunedau cynaliadwy unwaith yn rhagor. Nawr, dyma bwynt lle nad yw David Melding a minnau'n cytuno, mae'n rhaid imi ddweud. Yn fy marn i, anffodus tu hwnt oedd yr hyn a ddigwyddodd gyda'r hawl i brynu a'r hyn a ddigwyddodd yn yr ystadau cyngor lle cefais i fy magu, a drodd cymunedau cymysg cynaliadwy i fod yn gymunedau lle ceir un grŵp economaidd-gymdeithasol sydd wedi ei ynysu oddi wrth bawb arall. Credaf mai'r peth anghywir i'w wneud oedd hynny, ac nid oedd yn gweithio. Hoffwn yn fawr iawn gymell y cymunedau cymysg cynaliadwy yn ôl i'r ystadau hynny drwy adeiladu ac addasu'r tai fel y gall nifer o ddefnyddiau gwahanol gael eu rhoi'n ôl yno, fel ei bod, heb eisiau ymddangos fy mod yn hiraethu am fy mhlentyndod, yn ymdebygu llawer mwy â'r ystad dai y tyfais i fyny ynddi na'r grwpiau cymdeithasol ynysig a welwn ni ar hyn o bryd. Fe nododd Mike Hedges yn hyfryd, mewn gwirionedd, y pethau y mae angen i ni eu gwneud i gyflawni hynny, ac rydym yn benderfynol iawn i'w gwneud nhw.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Cafwyd ymchwiliad ar broblemau digartrefedd a chysgu allan yn y pwyllgor cymunedau y llynedd, ac fel y soniodd David Melding, mewn llawer o achosion darlun cymhleth yw hwn, ac rydych chi wedi cyfeirio at hynny yn eich datganiad heddiw. Weithiau mae angen dulliau cymhleth a thrawsbynciol i ddatrys y problemau hyn, a chefais fy nghalonogi gan eich cyfeiriadau at y dull yn Wrecsam, lle, yn amlwg, bydd gofyn i chi fonitro sut y bydd y canlyniadau yn datblygu. Ond mae'n ymddangos fod angen rhyw fath o ddull trawsbynciol arnoch chi yn aml, ac efallai'n wir mai dyna maen nhw'n ei wneud gyda'u canolfannau gofal cymunedol yno. Felly, gallai honno fod yn enghraifft y gallwn ni ei defnyddio o bosib wrth edrych ar hyn ledled Cymru.
Nawr, un mater amlwg a welsom ni'n ddiweddar yw'r cynnydd mewn pobl sy'n byw mewn pebyll yng nghanol trefi, sy'n mynd yn fater dadleuol. Yn amlwg, mae'n ymddangos ei bod yn well eu byd ar y rhai mewn pebyll na'r rhai sy'n byw y tu allan ac yn agored i'r elfennau—mae hynny i'w weld yn amlwg—ond credaf fod angen inni fod yn ymwybodol bod rhai o fewn y sector tai wedi codi materion ynglŷn â hyn, sef bod yr hyn sy'n ymddangos yn ddatrysiad dros dro o fyw mewn pabell yn troi yn ateb hirdymor, a gallai hynny mewn gwirionedd atal pobl yn y diwedd rhag chwilio am ddatrysiadau o ran tai mwy hyfyw i'r hirdymor.
Felly, mae pobl mewn sefydliadau fel y Wallich yn codi materion am hyn. Credaf fod angen i ni ymchwilio i'r rhesymau pam mae pobl yn fwy parod weithiau i fyw mewn pebyll yn hytrach na cheisio lloches mewn llochesi dros nos. Nawr, ceir rhywfaint o dystiolaeth anecdotaidd o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau, a rhai o'r bobl sydd wedi cael eu cyfweld—rhai o'r bobl ddigartref sy'n byw yn y pebyll—wedi nodi nad yw llochesi dros nos weithiau mor ddeniadol iddyn nhw â byw mewn pabell ac weithiau nid ydynt yn teimlo'n ddiogel yn y llochesi dros nos. Felly, rwyf i o'r farn ei bod yn rhaid inni geisio datrys sut i'w gwneud yn fwy hyfyw i gael llety i bobl mewn lloches dros nos.
Rwy'n credu bod defnyddio cyffuriau yn mynd yn broblem—ceir rhywfaint o dystiolaeth ei bod yn mynd yn fwy anodd i bobl ailintegreiddio wedi bod yn ddigartref am amser maith ac maen nhw'n fwy tebygol o gael eu hecsbloetio ar y strydoedd gan rai sy'n gwerthu cyffuriau. Mewn gwirionedd, mae llawer o'r rhai sydd yn y pebyll—y rhai a ddyfynnwyd—yn dweud mai un o'r rhesymau nad ydyn nhw'n dymuno mynd i'r llochesi dros nos yw eu bod eisiau osgoi cwrdd â defnyddwyr cyffuriau. Ond, mewn gwirionedd, os byddan nhw'n aros yn y pebyll, mae rhywfaint o dystiolaeth y gallan nhw ddod ar draws defnyddwyr cyffuriau hyd yn oed yn groes i'w dymuniadau.
Felly, mae'r rhain yn broblemau cymhleth, ac rwy'n sylweddoli nad yw'r atebion bob amser mor hawdd â hynny. Credaf fod yna rywfaint o dystiolaeth bod cysgu allan yn yr Alban—efallai fod y ffigurau wedi sefydlogi, felly tybed a oes gwersi i'w dysgu o'u dulliau nhw yno. Mae rhai wedi nodi hefyd bod llawer o elusennau, o bosib, ar adegau, yn cystadlu â'i gilydd. A gawn ni weithio i sicrhau bod yr elusennau yn gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatrys y materion hyn? Diolch yn fawr.
Mae'r Aelod yn tynnu sylw'n dda iawn, rwy'n credu, at y cymhlethdodau mawr yn yr anawsterau sy'n ein hwynebu. Ni fyddwn yn sicr yn dymuno beirniadu unrhyw un sy'n helpu drwy roi pabell i unigolyn digartref er mwyn ei rwystro rhag gorfod cysgu wrth ddrws, oherwydd gall fod yn wahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth i hwnnw. Fodd bynnag, mae'n amlwg nad yw hynny'n ateb cynaliadwy. Holl ddiben dull Tai yn Gyntaf yw rhoi'r gallu i gynnig llety parhaol diogel i bobl ac nid eu gorfodi i fynd i mewn ac allan o'r llochesi nos ac ati sydd, yn amlwg, ond yn un cam bychan oddi wrth gysgu ar y stryd.
Wedi dweud hynny, mae'r llochesi nos yn rhan bwysig iawn o'r gymysgedd. Rydym yn helpu llawer o'r elusennau sy'n rhedeg llochesi nos gyda phethau fel diogelwch gwell a lle gwell i fyw, fel petai, ond nid yw'r un peth yn gweithio i bawb. I rai, ni fydd hwnnw'n lle derbyniol i fynd iddo—i eraill, bydd yn fodd i fyw. Felly, wyddoch chi—. Mae'r Aelod yn tynnu sylw at y cymhlethdodau, a'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud yn fy natganiad i ac wrth ateb cwestiynau ar draws y llawr yw: mae'n amlwg iawn i mi, ac mor blaen ag y gallai hi fod, mewn gwirionedd, fod gan bob unigolyn wahanol set o anghenion, a bydd yn rhaid dylunio set unigryw o ymyriadau ar gyfer yr unigolyn hwnnw. Mae'r syniad y gallwch chi gael rhyw fath o wasanaeth cyffredinol a fydd yn gweddu i bawb—yn amlwg, ni fyddai hynny'n gweithio.
Ac fel y dywedais yn eglur, rwy'n berffaith siŵr na fyddai cynnig o lety addas i'r Dirprwy Lywydd, er enghraifft, yn rhywbeth y byddwn i yn ei ystyried yn llety addas efallai, gan ein bod yn unigolion gwahanol iawn i'n gilydd. Mae angen i ni allu cydnabod dynoliaeth yr unigolyn sy'n ddigartref a rhoi'r math o gartref iddo y gall ei gynnal yn y tymor hir, ac mae amrywiaeth enfawr o gymhlethdodau yn gysylltiedig â hynny.
Hoffwn ddweud dau beth arall, serch hynny. Y cyntaf yw, er eglurder, nad oes gan bob person sy'n cysgu allan broblemau camddefnyddio sylweddau—mae gan rai ac nid oes gan eraill, felly nid yw honno'n nodwedd gyffredinol chwaith. Nid yw honno'n broblem ym mhob lloches nos ychwaith, felly y broblem yw ei bod yn hynod gymhleth ac yn ymddangos yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble y byddwch chi'n chwilio.
Hoffwn dalu teyrnged, yn gyntaf oll, i'r holl bobl, yn staff a gwirfoddolwyr, sydd bob dydd a nos yn atal pobl rhag bod yn ddigartref ac yn cefnogi'r rhai sydd ar y strydoedd. Bob un noson, mae pryd o fwyd twym ar gael i bobl anghenus, ac mae llawer iawn o waith yn digwydd a phobl yn gweithio fel lladd nadredd. Helpodd tîm allgymorth digartref Cyngor Caerdydd ddim llai na 54 o bobl ar un noson yr wythnos diwethaf i mewn i lety argyfwng—yn amlwg, pan oedd y tywydd ar ei fwyaf eithafol. Mae gennym 90 o leoedd brys ar gael o hyd i bobl a all gael eu perswadio i fynd i mewn i lety argyfwng yn ystod yr hyn oedd yn dywydd peryglus iawn o ran yr oerfel ychydig ddyddiau'n ôl. Rwy'n rhoi teyrnged hefyd i'r ffaith bod Caerdydd yn perfformio'n well na'r cyfartaledd yng Nghymru.
Cafodd tri chwarter y rhai a aeth i ofyn am gyngor cynnar o ran bod yn ddigartref eu helpu i lety amgen yn hytrach nag aros nes eu bod ar y stryd. Felly, mae'n amlwg fod honno'n neges bwysig iawn i unrhyw un yn y sefyllfa honno.
Yn anffodus, gwyddom nad prif achos digartrefedd yw dibyniaeth o ryw fath neu ei gilydd. Y prif achos, yn anffodus, yw ôl-ddyledion morgais a rhent ac mae hynny oherwydd polisi bwriadol gan Lywodraeth y DU i beidio â chaniatáu i fudd-daliadau mewn gwaith gadw i fyny â phrisiau, a bydd teuluoedd yn chwalu yn arwain ar unwaith at bobl yn methu â thalu eu rhent.
Felly, bu cynnydd o 247 y cant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yng Nghaerdydd, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol, o ganlyniad i ôl-ddyledion morgais a rhent, ac mae hynny'n peri pryder. Felly, mae'r angen dybryd am fwy o dai cymdeithasol, yn fy marn i, ar ben fy rhestr o bryderon. Mae pobl sydd mewn llety dros dro yn aros yn rhy hir cyn cael eu symud i lety parhaol, oherwydd nid oes digon ar gael. Eisoes mae gennym lawer o bobl sydd wedi cael eu cartrefu yn amhriodol ond sydd â tho uwch eu pennau, serch hynny.
Felly, mewn gwirionedd—gwn fod yna bodiau canolraddol yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r rhaglen tai arloesol yng Nghaerdydd gan Cadwyn, tybed a allech chi ddweud wrthym pryd fyddan nhw'n barod, oherwydd maen nhw braidd fel podiau Ikea—popeth ar gael, preifatrwydd, diogelwch. Ac roeddech chi'n sôn hefyd am brosiect arloesol Tai yn Gyntaf Byddin yr Iachawdwriaeth, yr ymwelsoch ag ef yn ddiweddar. Byddai'n ddefnyddiol iawn i ni gael clywed ychydig mwy am hynny. Fel arall, a oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau pendant i ddiddymu adran 21, sy'n gorfodi llawer o bobl i fynd yn ddigartref, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cynnig llety amgen pan fydd eu landlordiaid preifat yn penderfynu nad ydyn nhw'n dymuno eu cartrefu mwyach?
Felly, gan ddechrau gyda hynny, rydym ni'n gweithio'n galed i fynd ar drywydd unrhyw gyfle deddfwriaethol a fyddai'n codi er mwyn ymdrin â'r materion yn sgil adran 21. Nid wyf i mewn sefyllfa i allu dweud mewn gwirionedd beth yw hynny ond rydym yn mynd ar drywydd y dewisiadau amrywiol sydd ar gael i ni, o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol, i allu mynd i'r afael â rhai o'r materion hynny.
Rydym hefyd, fel y clywsoch chi fi'n dweud mewn ymateb i gwestiynau eraill, yn golygu cael polisi adeiladu tai cymdeithasol o swmp mawr iawn, ac rydym yn bwriadu gweithio gyda'r awdurdodau lleol mor gyflym ag y bo modd i ryddhau tir cyhoeddus er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny. Rydym yn gweithio'n galed iawn—mae Rebecca Evans a minnau'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod y trefniadau i roi capiau ar y cyfrif refeniw tai yn cael eu codi ym mhob awdurdod lle ceir hynny ar hyn o bryd. Credaf fod gennym ni bedwar ar ôl, ond beth bynnag does yna ddim llawer ar ôl eto. Rydyn ni'n annog awdurdodau lleol i raddau helaeth iawn i fynd ati a defnyddio eu pwerau benthyca darbodus i ddechrau'r adeiladwaith ar gyfer tai ar rent cymdeithasol.
Rydym hefyd, wrth gwrs, yn dilyn ein polisi tai fforddiadwy,—rydym yn hyderus y byddwn yn cyrraedd ein nod o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ond nid dyna'r unig ateb sydd ei angen, fel y dywed Jenny Rathbone yn gywir. Mae gennym brinder tai dybryd iawn ac mae hynny'n achosi peth o'r digartrefedd. Ond mae gennym gynnydd mewn tlodi a achoswyd gan gyni, sydd hefyd yn cyfrannu at deuluoedd yn chwalu, a'r pwysau arnynt ac ati a amlinellwyd ganddi yn fedrus iawn, rwy'n credu.
Felly, rwy'n mynd yn ôl at ddweud bod angen inni ddysgu oddi wrth yr awdurdodau da iawn hynny sydd â rhaglenni campus. Mae angen inni ledu'r arfer gorau ledled Cymru. Hoffwn i orffen drwy ddweud yr hyn a ddywedais yn fy natganiad: a mynegi gwir ddiolchgarwch y Llywodraeth i'r holl bobl sy'n gweithio yn y sector hwn—y trydydd sector, yr awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac ati—hebddyn nhw byddem wedi gweld llawer iawn mwy o farwolaethau ar y strydoedd.
Rwy'n ddiolchgar i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r pwyslais ar alluogi'r gallu i gyflenwi mwy o dai cymdeithasol. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol i ddatrys llawer o'r materion yr ydych wedi eu trafod y prynhawn yma. Ond hoffwn i hefyd ofyn eich barn am gyfeirio at bobl ddigartref fel bodau dynol, ac nid yn unig fel niferoedd ac ystadegau. A oes gan y Llywodraeth gynlluniau i ddiddymu Deddf Crwydraeth 1824? Rydym yn ymwybodol bod y Ddeddf Crwydraeth yn parhau mewn grym mewn ardaloedd yng Nghymru, ac mae hynny'n gwneud troseddwyr o'r rhai sy'n ceisio byw ar y strydoedd ac sy'n ceisio creu strategaethau i oroesi wrth iddyn nhw fyw ar y stryd. Ac rydym yn gwybod bod hwn yn ddarn niweidiol o ddeddfwriaeth o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg nad oes lle iddo ar y llyfr statud modern. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn amlinellu unrhyw gynlluniau a allai fod ganddyn nhw i ddiddymu'r Ddeddf honno, ond hefyd, wedyn, i gyflwyno hawliau newydd ar gyfer pobl sy'n byw ar y strydoedd. Gwyddom, er enghraifft, nad oes gan bobl sy'n cysgu allan gyfle i dderbyn y cymorth meddygol sydd ei angen arnyn nhw, ond ni allan nhw gael gafael ychwaith ar rai pethau y byddai llawer ohonom ni'n eu cymryd yn ganiataol yn ein bywydau bob dydd, fel bod â dŵr glân a ffres i'w yfed, er enghraifft. Felly, yn ogystal â diddymu'r ddeddfwriaeth sy'n gwneud pobl yn droseddwyr, mae angen inni sicrhau hefyd bod pobl yn cael y mathau o hawliau y mae llawer yn eu cymryd yn ganiataol.
Ac, yn olaf, Gweinidog, clywais eich atebion yn gynharach ar faterion yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddau. Ond hoffwn bwysleisio fy mod yn credu y byddai llunio dull cyfannol o ymdrin â chamddefnyddio sylweddau ac iechyd meddwl, sy'n effeithio ac yn dylanwadu ar lawer, llawer o bobl sy'n ddigartref, yn effeithio ar allu pobl wedyn i ddal eu bywydau at ei gilydd i'r dyfodol. Rydym yn cydnabod—rwy'n credu fod yna gydnabyddiaeth eang—nad oes gennym ar hyn o bryd ddull cyfannol o roi polisi ar waith; rydym yn ymdrin â chamddefnyddio sylweddau mewn un lle, yn ymdrin ag iechyd meddwl, ac yn ymdrin â thai ar wahân i'w gilydd. Mae angen inni ddod â'r meysydd hyn at ei gilydd fel y gallwn sicrhau y bydd pobl sy'n eu cael eu hunain yn ddigartref yn gallu cael eu cynnal nid yn unig am un noson, ond eu bod yn gallu ailadeiladu eu bywydau.
Ie wir, rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Dyna, mewn gwirionedd, yw holl sail y strategaeth Tai yn Gyntaf. Roeddwn i'n sôn am y prosiect arloesol yn Wrecsam sy'n dwyn yr holl wasanaethau ynghyd i un ystafell fel y bydd pobl yn cael y cwbl yn hwylus ac ati. A holl ddiben y dull Tai yn Gyntaf yw bod cael rhywun i gartref diogel a hirdymor, y gall ei ystyried yn gartref iddo, yn ei gwneud yn llawer mwy amlwg iddyn nhw y gallan nhw gael gafael ar y gwasanaethau addas sy'n deillio o fod â chyfeiriad a man i'w alw'n gartref, tra byddwch, os ydych ar yr ysgol o lety dros dro ac ati, yn parhau i wynebu anawsterau a methu cael y gwasanaethau parhaol hynny sydd ar gael i bobl pan fydd ganddyn nhw le gweddus a diogel i fyw ynddo. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef, ac rydym yn edrych ledled y Llywodraeth ar y modd y gallwn ni wella darpariaeth y gwasanaethau ar gyfer y bobl sydd ar begwn eithaf yr ymylon, y rhai sy'n cysgu allan, ond, mewn gwirionedd, yr holl bobl a grybwyllodd Mike Hedges—y bobl sy'n symud o un soffa i'r llall—a'r bobl a grybwyllodd Jenny Rathbone—teuluoedd yn chwalu o ganlyniad i anawsterau ariannol difrifol ac ati—rydym ni i gyd yn ymwybodol o hynny yn ein cymunedau.
A gaf i orffen drwy gytuno ag ef i'r carn mai holl ddiben hyn yw trin yr unigolyn truenus ac anffodus sy'n cael ei hunan yn y sefyllfa honno fel bod dynol oherwydd, a dweud y gwir, gallai hynny ddigwydd i unrhyw un ohonom ni. Ddim ond trwy lwc y byddwch chi'n osgoi'r amgylchiadau hynny yn y pen draw, ac felly rwy'n llawn gredu y dylem drin pob unigolyn fel bod dynol unigol, ac mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym ni ddull sy'n canolbwyntio ar drawma ac sy'n rhoi i'r unigolyn hwnnw yr ymateb sy'n addas iddo.
Ac, o ran y Ddeddf a grybwyllodd, rydym yn edrych yn gyffredinol ar ryngweithio deddfwriaethau amrywio. Mewn rhai achosion, mae gennym bwerau i wneud rhywbeth amdanyn nhw, ac mae achosion eraill wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol—mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971, er enghraifft, yn cael canlyniadau anfwriadol yn hyn o beth—bydd angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r newidiadau sydd eu hangen arnom ni.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae digartrefedd a chysgu allan yn gywilydd mawr i'r genedl. Mae'r ffaith nad oes gennym ni ddigon o dai ar gyfer ein dinasyddion yn beth digon gwael, ond mae'r ffaith ein bod yn esgeuluso rhai â phoen meddwl, gan arwain atyn nhw'n cysgu yn nrysau siopau, yn warthus, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cytuno â mi. Mae canran fawr o'r rhai sy'n cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd yn gyn-filwyr. Maen nhw'n gadael y lluoedd arfog, yn aml yn dioddef o glwyfau corfforol a meddyliol a gawsant mewn brwydrau, yn disgwyl cael eu cartrefu gan genedl ddiolchgar, ddim ond i gael eu gadael, yn ddiymgeledd ac yn ddigartref.
Mae'r rhai a oedd yn barod i aberthu eu bywydau i'n hamddiffyn ni a'n cenedl yn cael eu trin yn wael erbyn hyn, ac yn cael eu gwthio o'r neilltu, fel nad ydyn nhw'n cael eu gweld ac felly'n mynd yn angof. Nid yw hyn yn ddigon da, er mwyn y nefoedd. Mae gwleidyddion o bob tuedd wedi ymosod ar rai sy'n cysgu allan fel sbwriel i'w olchi o'n strydoedd heb fynd i'r afael â'r achosion sydd wrth wraidd hynny, heb feddwl am y dioddefaint ofnadwy y mae pobl sy'n cysgu allan yn ei brofi. Nid yw pobl yn dewis cysgu yn nrysau siopau—gorfod gwneud hynny y maen nhw. Ni ddylem godi cywilydd arnyn nhw, gan mai arnom ni y dylai'r cywilydd fod. Rwy'n gwybod am sawl cyn-filwr sy'n teimlo ei fod dan orfodaeth i guddio'r ffaith ei fod yn cysgu allan y tu ôl i finiau neu mewn llwyni oherwydd y ffordd y cân nhw eu trin. Ble mae'r cydymdeimlad â'r rhai sy'n llai ffodus na ni?
Pan oeddwn i'n gweithio yng ngharchar Parc, roedd pobl yn y carchar am grwydraeth. Ni ddylen nhw fod yn y carchar; dylen nhw fod wedi cael cymorth yn ein cymuned. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu â darparu digon o dai fforddiadwy, sy'n arwain at y cynnydd hwn mewn digartrefedd. Gweinidog, sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy eleni? Mae Llafur Cymru wedi bod mewn grym yng Nghymru am bron i ddau ddegawd ac eto mae digartrefedd wedi cynyddu. Felly, a wnewch chi dderbyn bod eich polisïau chi ar fai am y cynnydd?
Mae Helsinki bron â chael gwared yn gyfan gwbl ar gysgu allan dros y ddau ddegawd diwethaf, ac ers 2007, mae Llywodraeth y Ffindir wedi seilio ei pholisïau digartrefedd ar sail polisïau Tai yn Gyntaf. Gweinidog, pa wersi yr ydych chi wedi eu dysgu o brofiad y Ffindir?
Yn ôl Shelter, mae llety Tai yn Gyntaf yn ddewis amgen i bobl â phroblemau iechyd meddwl hirdymor neu broblemau o ran camddefnyddio sylweddau, ac eto nid oes yng Nghymru ond ychydig iawn o lety Tai yn Gyntaf. Gweinidog, a wnewch chi amlinellu sut y bwriadwch gywiro hynny?
Ac yn olaf, Gweinidog, pa gamau penodol fydd eich Llywodraeth chi'n eu cymryd i gefnogi cyn-filwyr digartref a sicrhau bod milwyr yn cael help, cymorth a thriniaeth ar ôl gadael y lluoedd arfog, er mwyn atal eu digartrefedd a chysgu allan yn y pen draw?
Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu i mi grybwyll llawer o'r hyn a ofynnodd yr Aelod i mi mewn atebion blaenorol gan Aelodau Cynulliad. Er hynny, wnes i ddim ymdrin â mater y cyn-filwyr, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n iawn iddi ei godi. O dan y ddeddfwriaeth blaenoriaeth angen, mae'r flaenoriaeth angen ar gyfer personél y lluoedd arfog yn berthnasol wrth iddyn nhw adael y lluoedd arfog rheolaidd, ac nid yw hynny'n berthnasol i filwyr wrth gefn, gwŷr a gwragedd priod neu aelodau eraill o'r teulu estynedig. Rydym ni, er hynny, o fewn y cod canllawiau, wedi awgrymu bod awdurdodau lleol, wrth ystyried yr angen am dai ar fyrder, yn rhoi blaenoriaeth ychwanegol i unrhyw un sydd ag anaf difrifol, neu â chyflwr meddygol, neu unrhyw nam, y maen nhw neu aelod o'u haelwyd wedi ei ddioddef o ganlyniad i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Ac mae gennym hefyd lwybr tai penodol i gyn-filwyr, sy'n darparu gwybodaeth ac yn cyfeirio at ddewisiadau llety ar eu cyfer nhw, ac mae croes ddeiliadaeth ar gael i bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd wrth drosglwyddo yn ôl i fywyd sifil.
Hefyd datblygwyd, cyhoeddwyd a dosbarthwyd cardiau cynghori, taflenni a phosteri i roi cyhoeddusrwydd i'r llwybr o fewn cymuned y lluoedd arfog a chyda'r cysgwyr allan presennol, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth porth y cyn-filwyr, sy'n darparu un safle holl gynhwysol i gyn-filwyr ac aelodau o'u teuluoedd fel y gallant gael gafael ar wasanaethau a chymorth yn yr un man. Felly, hoffwn i'n fawr iawn dynnu sylw'r Aelodau, os ydyn nhw'n dod ar draws rhywun o gefndir personél y lluoedd arfog, y dylen nhw eu cyfeirio at wasanaeth porth y cyn-filwyr, a fydd yn eu helpu i gysylltu â'r cymorth iawn a'r bobl iawn a fydd yn gallu ymdrin â'u hanghenion penodol nhw.
Gweinidog, rwy'n credu bod llawer o bobl yn rhannu'r ymdeimlad cryf iawn ei bod yn foesol anghyfiawn fod gennym ni yn y bedwaredd, y bumed, neu chweched economi fwyaf yn y byd lawer o bobl yn ddigartref ac yn cysgu allan, a chredaf fod hynny'n cael ei amlygu yn y math o ymateb gwirfoddol y cyfeiriodd Jenny Rathbone ato'n gynharach. Gwn ar adeg y Nadolig, er enghraifft, fod llawer o bobl wedi dod i helpu gyda rhai o'r gwasanaethau dros dro a sefydlwyd yng nghanol y dinasoedd a'r trefi, a'u bod wedi cael eu cynghori i fynd adref am eu bod yn baglu dros ei gilydd. Ond roedd eu hymrwymiad yn sicr i'w groesawu, yn amlwg, serch hynny. Ond mewn gwirionedd mae pobl yn ei chael hi'n anodd iawn deall sut, fel Teyrnas Unedig ac yng Nghymru, yr ydym ni'n analluog i'n trefnu ein hunain fel gwladwriaeth, fel gwlad, fel cymdeithas, mewn ffordd sy'n atal digartrefedd a chysgu allan cynyddol. Mae'n amlwg bod angen inni wneud yn llawer, llawer iawn gwell.
O ran y pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio, sef y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Gweinidog, hoffwn i ofyn rhai cwestiynau o ran rhywfaint o'r gwaith a wnaethom ni, o ran rhai o'ch ymatebion chi ac ymatebion eich rhagflaenydd a'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. O ran y cynllun gweithredu, roedd ceisio cael mwy o wybodaeth yn mynd i ddigwydd drwy wneud ymchwil i achosion y cynnydd diweddar mewn cysgu allan. Tybed a yw'r gwaith hwnnw wedi nodi unrhyw gyfleoedd ar gyfer mesurau atal mwy cadarn. Hefyd, bwriedir i'r cynllun gweithredu cysgu allan fod yn ddogfen fyw, ac rwy'n holi i ba raddau y mae honno wedi esblygu a pha ddatblygiadau sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Ac ar yr ymatebion i'r argymhellion yn adroddiad ein pwyllgor, nododd Llywodraeth Cymru y byddai cod o ganllawiau yn cael ei ddiweddaru ar gyfer awdurdodau lleol ynglŷn â dyrannu llety a digartrefedd, ac y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi tua diwedd y llynedd ac y byddai'n destun ymgynghoriad. Felly, o gofio nad ydym wedi gweld ei gyhoeddi, rwy'n holi ynglŷn â'n sefyllfa ni gyda'r materion hynny.
Yn olaf, nododd ymateb Llywodraeth Cymru ei bod yn y broses o gomisiynu asesiad annibynnol o'r goblygiadau a risgiau posib sy'n gysylltiedig â newid y dull blaenoriaeth angen presennol. Felly, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith hwnnw a rhoi syniad o ba bryd y cyhoeddir y canfyddiadau?
Rwyf am ddechrau gyda'r un olaf a gweithio'n ôl gyda'r pwyntiau hynny, a gomisiynwyd gan fy rhagflaenydd Rebecca Evans, sydd i ddod yn ei ôl ym mis Ebrill. Rydym ni'n disgwyl hwnnw'n ei ôl ym mis Ebrill.FootnoteLink Rwy'n gwybod bod y canllawiau newydd wedi eu gohirio, ond rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennym ni'r cydweithrediadau cywir i gyd ac ati, ac rydym ni, yn amlwg, wedi gweld newid Gweinidog yn y cyfamser hefyd. Felly, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod ac yn dweud wrtho beth yn union yw'r cynllun, oherwydd cawsom rywfaint o drafodaeth ynghylch gwneud yn siŵr ein bod wedi cael mewnbwn priodol gan bob un o'n partneriaid cydweithredol—y trydydd sector, awdurdodau lleol ac ati—cyn i ni gyhoeddi'r canllawiau newydd. Ac rydym yn gweithio, fel y dywedaf, i symud at fodel llety diogel Tai yn Gyntaf, felly rydym am roi ystyriaeth i'r hyn a ddaw yn sgil y gwerthusiadau o'r cynlluniau treialu amrywiol. Hefyd, fel y dywedais wrth ymateb i Leanne Wood, rydym am roi ystyriaeth i'r profiad a gafwyd mewn mannau eraill gyda modelau Tai yn Gyntaf.
Ni ddywedais hynny wrth ymateb i Caroline Jones, ond mae model y Ffindir yn ddiddorol iawn. Ond, wrth gwrs, bydd pobl yn dewis a dethol yr hyn y maen nhw'n ei hoffi yn y modelau, ac un o'r ystyriaethau ym model y Ffindir yw ei bod yn un o'r cymdeithasau mwyaf cyfartal yn y byd ac nad yw yn ei nawfed flwyddyn o gyni, sy'n ysgogi llawer iawn o'r materion y mae model y Ffindir yn gallu ymdrin â nhw. Mae ein sefyllfa ni yn wahanol iawn o ran y pwysau sydd ar lawer o'n teuluoedd, yn enwedig y rhai sydd mewn swyddi isafswm cyflog, lle mae cyflwyniad y credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar eu gallu i gynnal eu llety diogel. Dyna pam mae ein deddfwriaeth ni'n torri tir newydd, oherwydd rydym wedi newid i edrych ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Mae gennyf i'r uchelgais fawr iawn o weld diwedd ar droi unrhyw un allan o unrhyw fath o dŷ cymdeithasol yng Nghymru a'n bod yn gosod y gwasanaethau cymorth yn eu lle fel na fydd neb yn cael ei droi allan o dŷ cymdeithasol, oherwydd pan ddigwydd hynny, bydd yn ddigartref—a dyna yw diwedd y daith honno. Felly, mae angen inni weithio'n galed gyda'r cynghorau sydd â'u tai eu hunain o hyd a chyda'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i wneud yn siŵr y gallwn gynnal pobl mewn cartref ar rent cymdeithasol, y gallwn ddiwallu eu hanghenion a sicrhau eu bod mewn llety addas. Oherwydd, yn aml, gall fod yn fater o fod yn y man anghywir y tu allan i'ch rhwydwaith cymorth ac yn y blaen. Felly, byddwn yn gweithio'n galed iawn i gael trefn ar y materion hynny.
Mae'n rhaid inni fynd i'r afael â'r ochr gyflenwi hefyd, fel y dywed ef ac y fel y dywed yr adroddiad yn briodol, ac rwyf wedi ateb aelodau amrywiol o ran yr hyn yr ydym ni'n ei wneud ar yr ochr gyflenwi, ond mae hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn: cael y math cywir o ochr gyflenwi a'r math addas o dai ar gyfer pobl fel bod modd diwallu eu hanghenion yn sgil y llety diogel hwnnw. Mae hynny'n gwbl sylfaenol, ac mewn lleoedd fel y Ffindir, dyna graidd yr hyn a wnân nhw. Rydym yn awyddus iawn i ddysgu'r pethau hynny oddi wrthyn nhw.
Diolch i chi. Ac yn olaf, Jack Sargeant.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw? Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaethoch i'r Aelodau ar draws y Siambr hefyd. Hoffwn ymuno hefyd â Jenny Rathbone i dalu teyrnged i'r rhai sy'n helpu gyda'r sefyllfa hon sydd gennym ni o ddydd i ddydd. Mae'n achos gofid mawr i mi, yn un o'r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, fod cysgu allan yn digwydd bob dydd, ac mae'n anghyfiawnder annerbyniol sy'n niweidio ac yn difa miloedd o fywydau. Ac nid yw'n unigryw i strydoedd Caerdydd neu Lundain. Mae'n digwydd mewn trefi ledled y DU, gan gynnwys fy nhref fy hun. Felly, rwy'n awyddus i weld ein cymunedau, yn ogystal â'r Llywodraeth, yn gweithio i roi terfyn ar yr epidemig o fod yn ddigartref unwaith ac am byth. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall busnesau fod â rhan yn hyn—busnesau fel Dandy's Topsoil yn fy etholaeth i, a gynigiodd swydd, mewn gwirionedd, i un a oedd yn cysgu allan? Nid oedd curriculum vitae ganddo, nid oedd ganddo siwt, ond cynigiwyd gwaith iddo, cyfweliad a swydd, a dechreuodd hynny newid y ffordd yr oedd ef yn byw ei fywyd.
Hefyd, a gaf i dynnu eich sylw at adroddiad gan Shelter, a elwir yn 'Yn Gaeth ar y Stryd'? Mae'r adroddiad yn nodi'n bwysig iawn, er bod rhai achosion cyffredin yn cael eu disgrifio gan bobl sy'n cysgu allan, mae'r boblogaeth yn amrywiol mewn gwirionedd ac mae anghenion pob unigolyn, fel yr ydym wedi crybwyll o'r blaen, a phrofiadau unigolion yn amrywio'n aruthrol fawr. Felly, a roddwch chi ystyriaeth i'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn, oherwydd rwyf i o'r farn ei fod mewn gwirionedd yn adroddiad rhagorol a chredaf y dylai'r Aelodau ar draws y Siambr roi sylw iddo hefyd.
Yn olaf, gwn ein bod yn mynd yn brin o amser, Gweinidog, rwy'n hynod o falch i chi grybwyll y gwaith gyda Tai yn Gyntaf, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y gelwais amdano'r llynedd, ac fe wnes i eistedd i lawr gyda'r Gweinidog blaenorol y llynedd hefyd i drafod hynny. Felly, a wnewch chi ymrwymo i barhau â'r drafodaeth honno yn y misoedd nesaf gyda mi, i weld sut y gallwn ddatblygu hyn ar gyfer Cymru?
Gwnaf, wrth gwrs. Rwy'n hapus iawn yn ymrwymo i hynny ac i siarad ag unrhyw Aelod sydd â diddordeb yn y ffordd yr ydym ni'n datblygu'r polisïau hyn. Mae gennym ni amrywiaeth o gamau gweithredu, fel y nododd Jack Sargeant—mae'n galonogol clywed am y busnes y cyfeiriodd ato. Yn drist iawn, mae swyddi gan lawer o'r bobl sy'n cysgu ar y strydoedd, gan eich bod, mewn gwirionedd, angen mwy na hynny. Ac un o'r pethau y byddwn ni'n ei wneud cyn bo hir yw dechrau ar Gam 3 ein Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), a fydd yn diddymu llawer o'r ffioedd sy'n rhwystr difrifol rhag i bobl rentu yn y sector preifat, oherwydd bod gennym ni dystiolaeth ar lawr gwlad o bobl yn gorfod dod o hyd i oddeutu £3,000 o ran blaendaliadau a ffioedd a threfniadau gwarantwr credyd ac yn y blaen, ac nid yw hynny'n bosib i nifer fawr o bobl sydd wedyn yn gorfod mynd o un soffa i'r llall ac yn y blaen. Felly, dyna ddiben y Ddeddf honno i raddau helaeth iawn. Felly, fel rwy'n gobeithio bod hynny yn ei ddangos, rydym ni'n ceisio mynd i'r afael â'r pla gwbl erchyll hwn ar ein cymdeithas mewn nifer fawr o wahanol ffyrdd.
Yn benodol, fe hoffwn i gyfeirio at y modd yr ydym ni'n canolbwyntio ar drawma pan ymdrinnir â phob unigolyn fel bod dynol unigol ac yr eir i'r afael â'u hamgylchiadau penodol nhw, ac nad ydym ni'n mynd ati mewn un ffordd yn unig, 'o ie, rydych chi'n cysgu ar y stryd; rydych chi'n perthyn i'r categori hwn', oherwydd ei bod hi'n amlwg iawn nad yw pobl yn perthyn i'r categorïau hynny, fel rwyf wedi dweud droeon. Felly, byddwn yn ceisio sicrhau bod y cynllun gweithredu yn adlewyrchu hynny; ein bod ni'n adolygu gyda'n hawdurdodau lleol i weld os yw eu cynlluniau gweithredu nhw hefyd yn adlewyrchu hynny, a byddwn ni cyn bo hir, fel y dywedais wrth John Griffiths, yn cyhoeddi nifer o ganllawiau arfer gorau a'r papurau cynghori ac ati, a fydd yn pwysleisio'r dull hwn o weithredu unwaith y cawn ni'r ymchwil a'r gwerthusiadau yn ôl, fel y gallwn ni sicrhau bod y cyngor a'r arweiniad gorau ar gael gennym ni ar gyfer pob rhan o'n trydydd sector a'n holl bartneriaid awdurdod lleol.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.