1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 12 Chwefror 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli 80 y cant o goedwigoedd Cymru yn uniongyrchol ac yn rheoleiddio'r 20 y cant arall. Fel corff ei hun, mae'n cynhyrchu 800,000 o dunelli o bren bob blwyddyn. Ac eto, yn rhyfeddol, fel y clywsom ddoe gan brif weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru, nid oes gan neb ar y bwrdd presennol wybodaeth am bren na choedwigaeth na phrofiad ohonynt. Yn eu hadroddiad ar y problemau yn is-adran coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, cyfeiriodd yr archwilwyr Grant Thornton at endid cyfunol heb unrhyw ddiwylliant sefydliadol a swyddogaeth goedwigaeth ar wahân wedi ei phlagio gan ddiffygion difrifol gan gynnwys llywodraethu gwael, rheolaeth wael o bobl, cyllidebu gwael a diwylliant archwilio nad oedd gymaint yn oediog ond nad oedd yn bodoli o gwbl. Mae'n rhaid i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru dderbyn eu cyfran o'r cyfrifoldeb am y sefyllfa erchyll hon, ac yn wir fe ymddiswyddodd y cyn-gadeirydd. Ond, gan mai eich Llywodraeth chi wnaeth eu penodi, a ydych chi hefyd yn derbyn eich cyfran o'r bai am greu bwrdd yr oedd yn gwbl amlwg nad oedd yn gallu gwneud y gwaith?
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr angen i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru gael ei gryfhau. Dyna pam mae gennym ni gadeirydd dros dro newydd a nodedig ar y bwrdd. Dyna pam mae'r bwrdd wedi cael ei atgyfnerthu gan bum aelod newydd, rwy'n credu, a benodwyd gan y Gweinidog, gan gynnwys aelodau â phrofiad o reoli tir. I'r bwrdd hwnnw y mae'n rhaid i ni edrych nawr i gymryd y camau sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r canfyddiadau yn adroddiad Grant Thornton ac i weithio gyda'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac eraill i wneud yn siŵr bod y diffygion a nodwyd yn cael eu hunioni, a bod y sefydliad pwysig iawn hwn sy'n gwneud gwaith angenrheidiol a phwysig ledled Cymru bob un dydd yn gallu bwrw ymlaen â'r dyletswyddau pwysig hynny, gyda ffydd yn y diwylliant sydd ganddo ac yn y strwythurau sydd yno i'w gefnogi.
Mae'n codi'r cwestiwn pam mae wedi cymryd chwe blynedd a phedwar adroddiad ar wahân i'r methiannau dwys hyn gael eu datgelu yn y modd hwn. Nawr, yr ymateb safonol yr ydym ni wedi ei glywed gan y Llywodraeth mewn sefyllfaoedd fel hyn yw bod hwn yn gorff ymreolus nad oes gennych ond cyfrifoldeb hyd braich amdano, ond mae gennych chi gyfrifoldeb uniongyrchol dros strategaeth eich Llywodraeth eich hun ar gyfer coedwigaeth a choetiroedd. Bron i ddegawd yn ôl, mabwysiadwyd gennych y targed uchelgeisiol ac a ganmolwyd yn eang o blannu 5,000 hectar o goetir newydd bob blwyddyn hyd at 2030. Fe wnaethoch chi lwyddo i blannu cyfartaledd o ddim ond oddeutu 500 hectar y flwyddyn, felly gostyngwyd y targed gennych i 2,000 hectar. Erbyn hyn, rydych chi wedi codi'r targed yn ôl i fyny i 4,000 hectar. Ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pa mor bell o gyrraedd y targed blaenorol ydych chi wedi disgyn yn ystod y pedair blynedd diwethaf?
Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol nad ydym ni wedi cyrraedd y targedau a fwriedir gennym ar gyfer coetir a phlannu coed yma yng Nghymru, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael ag ef. Yn yr ymgyrch a gynhaliwyd yn ystod yr hydref ar gyfer arweinyddiaeth fy mhlaid, cyflwynais gynnig ar gyfer coedwig genedlaethol newydd i Gymru. Mae hwnnw'n syniad yr wyf i'n ymrwymedig iawn iddo a gwneud yn siŵr ein bod ni'n bwrw ymlaen ag ef yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn a thu hwnt er mwyn gallu gwneud yn siŵr bod coetir Cymru yn gallu gwneud ei gyfraniad i'r newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ac at y pethau eraill y gall syniadau o'r math hynny ddod â nhw i'r rhannau hynny o Gymru y mae eu dyfodol yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan Brexit.
Rwy'n credu bod y syniad o goedwig genedlaethol yn un da ac i'w groesawu, ond mae'n rhaid i chi ofyn i'r Prif Weinidog: rydych chi wedi bod yn bresenoldeb cyson yn y sefydliad hwn mewn gwahanol ffyrdd—a ble ydych chi wedi bod o ran y targedau hyn? Nid oeddech chi'n gallu ateb, ac mae rheswm da iawn, efallai, oherwydd roeddech chi'n arfer cyhoeddi adroddiad blynyddol ar ddangosyddion 'Coetiroedd i Gymru'; rhoesoch y gorau i wneud hynny, ac rwy'n credu fy mod i'n gwybod pam, oherwydd, yn y pedair blynedd diwethaf, rydym chi wedi sicrhau cyfartaledd o ddim ond 200 hectar y flwyddyn o blannu coetiroedd newydd—dim ond 10 y cant o'r targed. A allwch chi feddwl am faes polisi cyhoeddus arall, Prif Weinidog, lle'r ydych chi wedi tanberfformio mor wael â hyn? Dyma'r ffigur pedair blynedd gwaethaf ers dechrau cadw cofnodion modern ym 1971. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynhyrchu unrhyw goetiroedd newydd o gwbl ers ei greu chwe blynedd yn ôl. Mae'r Alban wedi cynhyrchu 10 gwaith gymaint o goetir newydd yn y cyfnod hwnnw. Mae cyfraddau ailstocio yng Nghymru ar eu hisaf ers 1990.
Nawr, gallai hon ymddangos i rai fel problem benodol mewn sector cymharol fach. Serch hynny, mae'n un pwysig i'r economi wledig, yn sylweddol ar y raddfa genedlaethol o ran ein strategaeth lleihau'r newid yn yr hinsawdd, ond, Prif Weinidog, onid yw'r methiant dwys hwn wrth wraidd corff cyhoeddus mwyaf Cymru yn adrodd gwirionedd mwy o lawer sy'n crynhoi 20 mlynedd o Lywodraeth Lafur—strategaethau sgleiniog, nodau uchelgeisiol, ond dim cyflawni a dim atebolrwydd?
Llywydd, symudodd yr aelod o bwynt penodol pwysig i bwynt cyffredinol na ellir—ni all lunio ei bwynt cyffredinol ar sail y manylion a nodwyd ganddo. O ran y manylion, rwy'n cytuno ag ef bod coetir yng Nghymru yn rhan wirioneddol bwysig o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, bod yn rhaid i ni wneud yn well yn hynny o beth, bod rhesymau da iawn pam mae'n arbennig o bwysig nawr i ganolbwyntio ar y rhan honno o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud; rwyf i wedi ymrwymo'n bersonol i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud hynny.
Mae'r pwyntiau cyffredinol y mae'n eu gwneud am Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu symud ymlaen drwy'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a byddan nhw'n cael eu codi mewn dadl yma yn y Cynulliad, a bydd datganiad gan y Gweinidog ar goedwigaeth ar 12 Mawrth, fel yr ydym ni'n ei gynllunio ar hyn o bryd. Mae honno'n enghraifft o Lywodraeth sy'n barod i fynd i'r afael â'r materion hyn i wneud y gwahaniaeth y mae angen ei wneud, a dyna hanes Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno gyda Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru bod yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru yn cael effaith niweidiol ar ein pobl ifanc?
Lle'r wyf i'n cytuno â nhw yw pan fyddan nhw'n cyfeirio at y ffaith bod y cyni cyllidol a orfodwyd ar Gymru gan ei Lywodraeth ef yn cael yr effaith y maen nhw'n ei resynu, ac rwyf innau'n gresynu'r ffaith, ac yn gresynu bob dydd, nad ydym ni'n gallu buddsoddi i'r graddau y byddem ni'n hoffi ei wneud yn ein hysgolion, yn ein hysbytai, mewn tai ac yn yr holl bethau eraill yr hoffem ni ei wneud yng Nghymru. Ond mae'r gymdeithas y mae'n cyfeirio ati—ac rwyf i wedi gweld eu llythyr—yn rhoi eu bys ar ble mae'r bai, ac mae'n gorwedd gydag ef a gyda ei Lywodraeth ef.
Prif Weinidog, mae angen i chi roi'r gorau i roi esgusodion a dechrau cymryd cyfrifoldeb. Chi sy'n gyfrifol am addysg yma yng Nghymru, a, Prif Weinidog, mae'r llythyr agored hwn at eich Gweinidog Addysg yn adlewyrchiad damniol o'r ffordd y mae eich Llywodraeth wedi rheoli addysg yma yng Nghymru. Er bod gennym ni £1.20 i'w wario ar addysg yma yng Nghymru am bob £1 yn Lloegr, rydym ni'n dal i weld diffyg sylweddol mewn cyllidebau ysgolion, sydd wir yn tanseilio gobeithion ar gyfer diwygiadau yn y dyfodol.
Nawr, yn ôl Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau, rydym ni'n gwybod bod disgyblion yng Nghymru yn cael £645 yn llai y pen na disgyblion yn Lloegr, ac mae ysgolion yng Nghymru yn wynebu diffyg cyfunol o £291 miliwn yn eu cyllidebau, ac nid yw gwerth £450 miliwn o gyllid addysg byth yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth. Felly, pam ydych chi wedi dewis darparu i ysgolion yr hyn a ddisgrifiwyd fel lefel hollol cwbl annigonol o gyllid, sydd wedi gwthio ysgolion i sefyllfa o argyfwng?
Llywydd, y tro diwethaf yr oedd plaid Paul Davies yn barod i ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru o ble y byddent yn cymryd arian er mwyn ariannu'r llawer o bethau y maen nhw'n dweud wrthym ni, wythnos ar ôl wythnos, sydd angen eu gwneud, y gyllideb addysg a ddewiswyd ganddyn nhw fel y prif aberth ar gyfer gweddill eu cynlluniau. Felly, nid wyf i'n credu y byddwn ni'n rhoi ystyriaeth rhy ddifrifol i ffug-ddagrau'r aelod ar y mater hwn y prynhawn yma. A dweud y gwir, mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi ei gwneud yn eglur bod y bwlch rhwng cyllid yng Nghymru a Lloegr wedi cau i bwynt lle nad yw prin yn bodoli. Ac yma yng Nghymru, mae gennym ni— [Torri ar draws.] Yma yng Nghymru, mae gennym ni bolisi bwriadol o drosglwyddo ymlaen i addysg yng Nghymru yr holl arian a ddaeth i ni gan ei Lywodraeth ar gyfer cyflogau athrawon. Edrychwn ymlaen at wneud yn siŵr bod gennym ni arian gan ei Lywodraeth i dalu am y cynnydd i bensiynau athrawon a gyflwynwyd ganddynt, a byddwn yn parhau i wneud hynny, yn union fel y byddwn ni'n sicrhau bod yr arian sy'n mynd i awdurdodau lleol ac i gonsortia gwella yn cael ei drosglwyddo wedyn, yn ei dro, i ysgolion.
Prif Weinidog, mae'r ffeithiau yn gwbl eglur. Fel y gwyddoch, am bob £1 sy'n cael ei gwario yn Lloegr, gall eich Llywodraeth chi wario £1.20, ac ni allwch wadu'r ffeithiau hynny, o gofio mai chi—chi—wnaeth gytuno'r fframwaith cyllidol hwn gyda Llywodraeth y DU yn y lle cyntaf. Felly, a oes unrhyw ryfedd bod argyfwng yn ein hysgolion pan fyddant wedi dioddef toriadau cyson i'w cyllidebau gan eich Llywodraeth chi?
Nawr, gadewch i ni edrych ar y ffigurau, ie, Prif Weinidog? Rydym ni'n gwybod bod gwariant gros a gyllidebwyd ar ysgolion wedi dioddef, rhwng 2010-11 a 2018-19, toriad mewn termau real o 7.9 y cant. Nawr, mae'r anallu hwn i gefnogi ein sector addysg wedi golygu bod nifer sylweddol o athrawon wedi gadael y proffesiwn. Ar ôl gweld gostyngiad o ddim ond 29 o ddisgyblion ers 2010, mae'r ffigurau gan Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau yn datgelu, unwaith eto, bod dros 1,400 yn llai o athrawon yn gweithio yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Beth wnaiff hi ei gymryd—[Torri ar draws.] Beth wnaiff hi ei gymryd, Gweinidog, i'ch Llywodraeth chi sylweddoli bod ein hysgolion yn wynebu argyfwng ac y bydd y methiant hwn i wneud addysg yn flaenoriaeth yn arwain at ganlyniadau difrifol i genedlaethau'r dyfodol? Ac a wnewch chi ddechrau gwrando nawr ar ein hathrawon a'n gweithwyr addysgol proffesiynol i ddechrau rhoi'r cymorth y maen nhw'n ei haeddu i'n hysgolion a'n plant?
Llywydd, mae'r Aelod yn gofyn am ffeithiau, a gadewch i mi roi 888 miliwn ohonynt iddo, oherwydd dyna nifer y punnoedd yn llai sydd gennym ni i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru heddiw o ganlyniad i'w Lywodraeth ef ers y flwyddyn 2010—£880 miliwn yn llai. Mae pob un o'r punnoedd hynny yn ffaith y gallem ni fod yn ei defnyddio i wario ar wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Os yw e'n credu nad yw athrawon yng Nghymru yn deall bod y problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn yr ystafell ddosbarth yn deillio o'r penderfyniadau y mae ei Lywodraeth ef wedi eu gwneud ac yr ydym ni'n gorfod ymdrin â nhw bob dydd, yna, mae gwir angen iddo fynd allan ychydig yn amlach a siarad â'r bobl sy'n deall hyn ar y rheng flaen.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, bythefnos yn ôl, fe wnaethoch chi ailddatgan bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Wnaf i ddim gofyn i chi a ydych chi'n dal i fwriadu cyflwyno gwaharddiad ar smacio plant, gan fod yr hyn a ddywedasoch y tro diwethaf yn gwbl eglur. Dywedasoch eich bod yn benderfynol y byddai'r gwaharddiad yn mynd drwy'r Cynulliad yn ystod y tymor Cynulliad hwn ac yn cael ei roi ar y llyfr statud. O gofio bod y ddeddfwriaeth hon yn debygol o fod yn amhoblogaidd iawn, pam ydych chi mor benderfynol o greu cyfraith newydd yn y maes hwn?
Wel, byddwn yn cyflwyno cyfraith newydd yn y maes hwn, Llywydd. Roedd yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur. Mae'n rhan o'r maniffesto yr etholwyd fy mhlaid ar ei sail. Rydym ni'n credu mewn cadw'r addewidion hynny i'r cyhoedd yng Nghymru a byddwn yn cyflwyno Bil, a bydd yno i'r Cynulliad graffu arno a'i drafod wedyn. Bydd fy mhlaid i yn ymrwymedig i weld y Bil hwnnw ar y llyfr statud, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill yn y Siambr hon sy'n rhannu'r uchelgais hwnnw.
Wel, diolch am eich eglurder ar y mater. Nawr, dangosodd canlyniadau'r ymgynghoriad swyddogol ar y gwaharddiad ar smacio plant bod y farn ar hyn yn weddol ranedig. Roedd hanner yr ymatebwyr yn teimlo y byddai ddeddfwriaeth yn diogelu hawliau plant, ond roedd hanner yn teimlo na fyddai. Mae'n ymddangos, ar y gorau, bod y gwaharddiad ar smacio plant yn gyfraith a fydd yn hollti etholwyr Cymru i lawr y canol. Nawr, ymgynghoriad y Cynulliad ei hun yw hwn. Mae'r holl bolau piniwn a gynhaliwyd cyn hyn wedi dangos barn gref yn erbyn y gwaharddiad ar smacio plant. Tybed a yw eich Llywodraeth Lafur Cymru wedi meddwl digon am sut y mae'r gwaharddiad ar smacio plant yn mynd i gael ei blismona. Sut y bydd yn cael ei orfodi? A fydd gennym ni blant yn hysbysu yn erbyn eu rhieni eu hunain? Ac, os bydd, pwy fydd yn gallu gwirio a yw'r honiadau yn wir ai peidio? Gallem ni fod ar ei ffordd i ryw fath o efelychiad o Rwsia Stalin yn y 1930au, pan oedd rhieni a oedd yn parchu'r gyfraith yn llwyr yn cael eu hanfon i wersylloedd carchar gan fod eu plant yn cael eu hannog i sibrwd honiadau yn eu herbyn i'w hathrawon. Ai dyma'r math o sefyllfa yr ydych chi eisiau ei gweld yma yng Nghymru?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n adnabod unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am y cynnig y byddwn yn ei gyflwyno. Byddwn yn cyflwyno cynnig i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Ni ellir taro unrhyw oedolyn yn y wlad hon, a chyflwyno amddiffyniad o'r fath; pam y dylid caniatáu i blentyn gael ei daro ac yna cyflwyno'r amddiffyniad hwnnw? Dyma'r sefyllfa sy'n bodoli eisoes mewn gwledydd di-rif ledled y byd, gwledydd lle nad yw'r un o'r posibiliadau codi bwganod y mae'r Aelod yn eu nodi wedi digwydd, ac nid ydym yn disgwyl i'r un ohonynt ddigwydd yma yng Nghymru.
Wel, rwy'n siŵr, Prif Weinidog, eich bod chi'n gwerthfawrogi ein bod ni'n byw mewn oes pan ydym wedi cael cyfres o honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol yn cael eu gwneud yn erbyn pobl, rhai ohonyn nhw yn bobl gwbl ddieuog. Canfuwyd bod llawer o'r honiadau rhyw hanesyddol hyn yn rhithdybiau llwyr, ond rwy'n siŵr bod digonedd o bobl ddieuog wedi cael eu dal ynddynt. Os yw'r wladwriaeth yn annog plant i ddechrau gwneud honiadau, yna gallem ni gael cyfres newydd o erlyniadau anghyfiawn. A ydych chi'n wirioneddol siŵr bod eich deddfwriaeth yn mynd i fod yn ddigon cadarn i atal y posibilrwydd hwn?
Llywydd, lle mae cam-drin yn digwydd, rydym ni eisiau i bobl ddweud am hynny. Os bydd yn digwydd yn y cartref a bod gan blant stori i'w hadrodd, yna rydym ni eisiau annog sefyllfa lle maen nhw'n teimlo'n hyderus i ddod ymlaen a gwneud eu straeon yn hysbys, yn union fel yr ydym ni'n ei wneud mewn sefyllfaoedd lle mae pobl sydd wedi dioddef yn y gorffennol ac yn dawel yn teimlo bellach y gallan nhw ddod ymlaen ac adrodd eu hanesion. Ar yr ochr hon i'r Siambr, ac mewn sawl rhan o'r Siambr hon rwy'n credu, ystyrir hynny fel arwydd o gynnydd, ac arwydd bod pethau yn well heddiw nag yr oedden nhw yn y gorffennol pan oedd pobl yn ofnus, ac yn teimlo yn analluog i gael rhywun i wrando ar eu straeon. Mae'n ddrwg gen i nad yw'r safbwynt hwnnw'n cael ei rannu ym mhob rhan o'r Siambr hon.