– Senedd Cymru am 4:00 pm ar 19 Chwefror 2019.
Yr eitem nesaf yw’r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa drawsnewid. Rwy’n galw ar y Gweinidog, felly—Vaughan Gething.
Diolch, Llywydd. Yn 2016, cytunodd y pedwar grŵp plaid yn y Cynulliad hwn i sefydlu adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad yr arolwg seneddol ym mis Ionawr 2018. Roedd yr adroddiad hwnnw yn cydnabod ein fframwaith deddfwriaethol sy'n arwain y byd, y strwythurau sefydliadol sy'n sail iddo, ac ymroddiad ein gweithlu iechyd a gofal. Ond roedd hefyd yn cynnwys rhai negeseuon anodd i ni, gan osod her inni drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y neges syml wrth wraidd yr arolwg seneddol oedd nad yw ein system iechyd a gofal cymdeithasol presennol yn addas ar gyfer y dyfodol. Nid dim ond dymunol yw newid. Mae newid yn hanfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu argymhellion yr adolygiad. Drwy gydol y gwanwyn y llynedd, buom yn gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ym maes iechyd, llywodraeth leol, y sector gwirfoddol a'r maes tai i ddatblygu ein hymateb. A chyhoeddais 'Cymru Iachach', ein cynllun cyntaf ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ym mis Mehefin y llynedd. Wedi ei grynhoi mewn 40 gweithred, mae'n nodi'r camau y byddwn ni'r Llywodraeth yn eu cymryd ynghyd â'r camau y mae angen i'n partneriaid eu cymryd gyda ni, ac yn bennaf y camau y mae ein partneriaid yn cytuno sydd angen eu cymryd i fynd ati gyda'n gilydd i ddiwygio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
O fewn wythnosau ar ôl cyhoeddi 'Cymru Iachach', cyhoeddais fod rhaglen trawsnewid wedi ei sefydlu—argymhelliad allweddol yn yr adolygiad. Cefnogir y rhaglen honno gan gronfa trawsnewid gwerth £100 miliwn, a bwriad y gronfa yw gweithredu fel catalydd i gyflymu uwchraddio modelau gofal newydd sydd â'r potensial i newid yn sylfaenol sut yr ydym ni'n darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Ac nid yw'r newid hwnnw yn hafaliad ariannol yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau mwy o werth yn y ffordd y mae pob partner yn defnyddio ei adnoddau i wella ansawdd y gofal. Gwell canlyniadau a gwell profiadau gyda ac ar gyfer ein pobl sy'n sbarduno'r rhaglen hon ar gyfer newid.
Gwyddom y bydd y galw am iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i gynyddu. Y rheswm dros hyn yn rhannol yw'r newidiadau yn y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau, newidiadau i ddisgwyliad oes, technoleg, newidiadau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol a newid yn y disgwyliadau o ran beth ddylai gofal iechyd modern allu ei ddarparu. Caf fy atgoffa'n rheolaidd, er gwaethaf bron i ddegawd o gyni, nad yw disgwyliadau'r cyhoedd na gwleidyddion wedi gostwng o ran ein gwasanaeth iechyd gwladol. Yn ogystal ag ystyried gweithdrefnau gofal iechyd newydd, meddyginiaethau newydd, gofal cymdeithasol wedi ei alluogi drwy dechnoleg newydd, dylai modelau newydd ystyried hefyd beth sy'n bwysig i bobl—y bobl sy'n ceisio gofal cymdeithasol neu ofal iechyd a'r bobl sy'n ei ddarparu. Ar ryw adeg yn ein bywydau, mae hyn yn golygu pawb.
Mae'n hanfodol bod modelau newydd ar gyfer gofal yn gydlynol ac yn fforddiadwy. Rydym ni eisiau cysylltu a symleiddio gwasanaethau ar lefel ranbarthol, felly mae byrddau partneriaeth rhanbarthol yn hanfodol er mwyn gwneud i hyn ddigwydd. Croesawaf y ffordd y mae partneriaid wedi gweithio gyda'i gilydd drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol wrth ddatblygu cynigion yn gyflym ar gyfer y gronfa trawsnewid. Mae'r modelau a gefnogir gan y gronfa wedi'u cynllunio i ddarparu gofal yn agosach at gartref, gan gyfuno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda mwy o bwyslais ar atal.
Rydym ni i gyd yn cydnabod nad yw trawsnewid y system gyfan yn dasg hawdd na chyflym, ond rydym ni'n wynebu heriau sylweddol. Ni all y gronfa ddatrys pob un o'r pryderon hyn, ond gall helpu i ddangos sut y gallwn ni wneud pethau'n wahanol a sut y gallwn ni wneud pethau'n well. Hyd yma, rwyf wedi cymeradwyo saith o gynigion gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru. Caiff y rhain eu cefnogi gan hyd at £41.2 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y cynlluniau hynny sydd wedi'u cymeradwyo. Rwy'n disgwyl cael mwy o gynigion yn fuan iawn i mi eu hystyried. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd gwirioneddol yn y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl fanteisio arnyn nhw, ac wrth gwrs, i sicrhau gwell canlyniadau.
Mae'r cynigion yr ydym ni wedi'u cael hyd yma yn fy nghalonogi. Mae pob partneriaeth ranbarthol wedi cyflwyno syniadau ac ymrwymiad i drawsnewid. Mae gennym ni gynigion portffolio o Gaerdydd a'r Fro, gorllewin a gogledd Cymru, sy'n cwmpasu amrywiaeth o wasanaethau, o ofal ataliol i ofal heb ei drefnu, i ofal ar ôl gadael yr ysbyty. Mae gennym ni gynigion o Went a Bae'r Gorllewin, gogledd Cymru a Chaerdydd a'r Fro, gyda phwyslais ar symud gofal o ysbytai yn agosach i'r cartref, ac o'r gorllewin, ynglŷn â'r bwriad i ddefnyddio technoleg gynorthwyol, asedau cymunedol a'r cymorth sy'n pontio'r cenedlaethau ar draws cymunedau.
Mae rownd gyntaf y cynigion yn dangos ymateb bywiog a hyderus gan ein partneriaethau rhanbarthol. Maen nhw'n dwyn partneriaid ynghyd o bob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol ac yn dechrau llunio'r trawsnewid y mae 'Cymru Iachach' yn ei ddisgrifio. Rydym ni'n gweld ymdrechion i rannu arfer da y tu hwnt i ffiniau rhanbarthol ac, yn galonogol, ceir themâu cyffredin o ran ffurf y newid hwn. Ceir pwyslais cryf ar bontio bylchau ac ail-lunio sut y mae pobl yn manteisio ar ofal iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae datblygu'r gweithlu yn thema gref yn y cynigion, sy'n adlewyrchu'r pwyslais ar bobl sy'n elfen greiddiol o 'Cymru Iachach', gan gynnwys y nod pedwarplyg. Heb ymroddiad y bobl sy'n gweithio yng ngwasanaethau rheng flaen iechyd a gofal cymdeithasol ac yn y trydydd sector, ni allwn ni gyflawni'r trawsnewid hanfodol sydd ei angen.
I sicrhau ein bod ni'n aros ar y trywydd iawn, rydym ni'n gwerthuso ac yn herio ein hunain wrth ddatblygu rhaglen trawsnewid. Bu'r adolygiad cyflym diweddar a gomisiynwyd gennym ynglŷn â graddfa ac ymlediad y cynigion yr ydym ni wedi eu hariannu drwy'r gronfa trawsnewid yn galonogol. Mae hi yn bwysig y caiff modelau newydd sy'n dod i'r amlwg eu gwerthuso fel y maen nhw'n datblygu er mwyn i'r dulliau mwyaf addawol gael eu datblygu ar gyfer eu mabwysiadu'n ehangach ledled Cymru. Rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol a fydd yn cefnogi'r nod hwn. Rwy'n ffyddiog, gyda chymorth parhaus ac ewyllys da ein partneriaid, y gallwn ni gyflawni'r newid yr ydym ni i gyd yn cydnabod sydd ei angen, a'i angen yn awr. Ein her yw sicrhau y ceir trawsnewidiad gwirioneddol a'n bod yn osgoi'r demtasiwn i ganolbwyntio ar yr anghenion mwyaf enbyd yn unig.
Mae edrych y tu hwnt i anghenion uniongyrchol a dybryd yn gofyn am ymdrech ychwanegol, a dim ond os gweithiwn ni mewn partneriaeth y mae modd ei gyflawni. Felly, bydd rhan y partneriaethau rhanbarthol yn hyn yn parhau i fod yn hollbwysig, wrth iddyn nhw ddarparu'r cyfrwng i arweinyddion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol gydweithio ag eraill i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion poblogaethau lleol.
Ychydig dros flwyddyn ar ôl cyhoeddi'r adolygiad seneddol, mae ein cronfa trawsnewid eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Gallai pob model newydd a gefnogir helpu i lywio a thrawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy pwysig yw ein bod wedi dechrau gweld newid a chysylltiadau gwell yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol drwyddo draw, gyda mwy o ymdeimlad o rannu uchelgais. Mae hynny'n mynd ymhell y tu hwnt i'r gronfa trawsnewid a bydd angen ewyllys da ac arweinyddiaeth i gynnal y dull gweithredu hwnnw a sicrhau'r newid sydd ei angen. Mae gennym ni lawer i'w wneud o hyd.
Diolch, Gweinidog, am gopi o flaen llaw o'ch datganiad y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn o weld y buddsoddir arian parod i drawsnewid ein gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru. Fe wyddom ni ein bod ni ar ei hôl hi mewn rhai agweddau o gymharu â rhai rhannau eraill o'r DU, yn enwedig o ran datblygu gweithio'n agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Ond mae'n galonogol ein bod o'r diwedd yn buddsoddi yn y modelau newydd hyn o ofal er mwyn cael canlyniadau gwell ar gyfer ein cleifion. Mae'r arian parod, fodd bynnag, a gafodd ei wario hyd yma yn debyg i biso dryw yn y môr o gymharu â'r gyllideb iechyd gyffredinol, fel y gwyddom ni i gyd. Felly, rwy'n credu bod y disgwyliad sydd gennych chi y bydd hwn yn gatalydd ar gyfer newid sylweddol yn ystod y Cynulliad hwn efallai ychydig yn rhy uchelgeisiol.
Nawr, sylwaf ichi ddweud eich bod chi eisoes wedi cymeradwyo saith cynnig, ac rwy'n credu bod hynny'n dda. Rwy'n credu yn y datganiad diwethaf, dim ond dau mewn gwirionedd oedd wedi eu cadarnhau ar y pryd. A allwch chi ddweud wrthym ni: a yw pob un o'r rhain wedi dechrau erbyn hyn? Rydych chi wedi cyfeirio at y ffaith eu bod yn gynigion sy'n adlewyrchu pob rhan o Gymru; bod rhywbeth yn gweithredu ym mhob ardal partneriaeth ranbarthol unigol, ond nid ydych chi wedi rhoi llawer iawn o fanylion ac eithrio dwy neu dair brawddeg am yr hyn sy'n digwydd yn benodol mewn gwahanol leoedd. Ac nid ydych chi chwaith wedi rhoi dosraniad inni o'r £41.2 miliwn i ddangos yn lle y mae'r arian yn cael ei wario mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gofyn ichi ym mha ardaloedd byrddau iechyd ac ardaloedd byrddau partneriaeth rhanbarthol y mae'r £41.2 miliwn hwnnw yn cael ei wario? A yw'n cael ei wario'n hafal ym mhob rhan o Gymru, neu a oes rhai yn elwa mwy nag eraill?
Tybed hefyd, yn benodol, beth sy'n newydd ynghylch yr arian a fuddsoddir, oherwydd o'r hyn a ddisgrifiwch—er enghraifft, y defnydd o dechnoleg gynorthwyol, asedau cymunedol, gweithgareddau ar draws y cenedlaethau, rhywfaint o'r gwaith ataliol sy'n mynd rhagddo, gofal heb ei drefnu ar ôl dychwelyd o'r ysbyty—mae llawer o hynny yn digwydd beth bynnag yn ein hardaloedd byrddau iechyd, a hynny'n gwbl briodol. Dylen nhw fod yn buddsoddi yn y mathau hyn o bethau oherwydd mae modd arbed arian yn ddiweddarach. Felly, sut gallwch chi fod yn sicr bod y prosiectau yn ychwanegu gwerth at y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn ein hardaloedd byrddau iechyd ac nid yn cefnogi'r byrddau iechyd hynny yn unig, rhai sydd efallai ychydig yn ddiog eu hagwedd ynghylch trawsnewid gwasanaethau yn eu hardaloedd eu hunain?
Rydych chi wedi sôn bod cynllunio gweithlu, neu ddatblygu gweithlu, yn thema gref. Rwy'n falch o glywed hynny, oherwydd fe wyddom ni y buom ni'n warthus yma yng Nghymru o ran cynllunio gweithlu, boed hynny yn weithlu nyrsio, gweithlu bydwreigiaeth, gweithlu meddygon teulu. Fe wnes i grybwyll eisoes y ffaith eich bod chi'n gwrthod pobl sydd eisiau hyfforddi fel meddygon teulu a dod i weithio yng Nghymru. Mae'n gwbl wallgof, i fod yn onest, nad ydych chi'n creu mwy o leoedd hyfforddi i ddiwallu'r angen sydd gennym ni yng Nghymru o ran y prinder yn rhai o'r disgyblaethau hyn. A wnewch chi ddweud yn union faint o staff ychwanegol yr ydych chi'n disgwyl a fydd o bosib yn cael eu recriwtio a'u datblygu o ganlyniad i'r cynigion sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd?
Nid ydych chi chwaith wedi rhoi unrhyw syniad inni o sut y mae'r buddsoddi yn cael ei rannu rhwng gofal cymdeithasol, gofal cymunedol, gofal sylfaenol, gofal eilaidd. Rydym ni'n gwybod, pan fyddwch chi'n buddsoddi mewn gofal sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, ei fod yn tueddu i dynnu'r pwysau oddi ar ofal eilaidd, sydd yn aml yn gallu bod yn ddrutach. Felly, ar gyfer pa ran o faes gofal y bwriedir yr arian hwn? A yw ar gyfer gofal ysbyty, neu a yw ar gyfer gofal sylfaenol a chymunedol, sef y lle rwy'n credu y mae angen o bosib inni ganolbwyntio arno?
Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr adolygiad cyflym yr ydych chi wedi ei wneud, o raddfa a lledaeniad y cynigion. Fe ddywedoch chi fod canlyniad yr adolygiad cyflym yn galonogol. A allwch chi gyhoeddi manylion yr adolygiad? A allwch chi ddweud wrthym sut yr aethoch chi ati i gynnal yr adolygiad, i brofi beth oedd yn digwydd ar lawr gwlad? Fe wn i ei bod hi'n ddyddiau cynnar o ran rhai o'r prosiectau hyn, ond mae rhai wedi bod yn mynd rhagddynt ers cryn amser bellach, ac rwy'n credu y dylem ni weld yn eithaf buan pa un a ydyn nhw'n llwyddo ac yn gynaliadwy neu beidio, a pha rai y gellir eu lledaenu o ran eu hymarfer ledled Cymru.
Fe wnaethoch chi hefyd gyfeirio at ewyllys da partneriaid wrth gyflawni'r newid sydd ei angen. Nawr rwy'n gwybod y bu ymgysylltu da a chadarnhaol â phartneriaid fel Ambiwlans Sant Ioan a'r Groes Goch Brydeinig yn ddiweddar, a dyna waith rwy'n ei gymeradwyo, sydd wedi bod yn digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru. A allwch chi ddweud wrthym ni a yw'r partneriaid hyn, yn enwedig partneriaid y trydydd sector, mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn unrhyw un o'r prosiectau hyn, ac os felly, ym mha ffordd? Oherwydd rwy'n credu y byddai'n dda gwybod a ydych chi'n adeiladu ar yr hyn sy'n amlwg wedi bod, yn sicr o'r argraff a gefais i, yn llwyddiant mawr iawn gyda'r Groes Goch Brydeinig yn y gogledd.
Rwy'n credu mai dyna'r cyfan o'r cwestiynau sydd gennyf ar hyn o bryd, Dirprwy Lywydd, ond fe hoffwn i ddweud ein bod yn croesawu'r buddsoddiad hwn. Rydym ni'n croesawu symudiad i'r cyfeiriad cywir. Ond rwyf yn credu bod yn rhaid inni sicrhau bod hyn yn fuddsoddiad yn y mannau priodol ac nid dim ond yn disodli buddsoddiad a ddylai fod ar waith eisoes, a gwaith a ddylai fod yn digwydd eisoes yn ein hardaloedd byrddau iechyd.
Diolch am yr ymagwedd adeiladol i raddau helaeth at y chwech neu saith, rwy'n credu, maes holi. O ran eich pwynt cyntaf, sef ein bod ni ar ei hôl hi o gymharu â rhai ardaloedd yn y DU o ran gweithio gyda'n gilydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol—mewn gwirionedd rydym ni ar y blaen i rai eraill hefyd. Roedd yn ffaith a gafodd ei chydnabod gan Stephen Dorrell—cyn Weinidog iechyd Ceidwadol, sydd bellach yn gadeirydd Cydffederasiwn y GIG—pan ddaeth i ginio Conffederasiwn GIG Cymru. Roedd yn cydnabod bod cynllun y GIG yn Lloegr yn sôn am yr angen i gael y berthynas well honno, sy'n fwy integredig, ond roedd yn cydnabod ein bod ni ymhellach ar y blaen ar y daith honno yma yng Nghymru. Nid ydym ni bob amser yn llwyddiannus yn cael, os mynnwch chi, cydnabyddiaeth ar y rhwydwaith newyddion o'r hyn yr ydym ni mewn gwirionedd yn ei wneud yma yng Nghymru.
Ym mhob rhan o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y DU, mae gwir ddiddordeb yn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rwyf eisiau gweld proses wirioneddol agored a phroses ddwyffordd, lle mae gennym ni ddiddordeb nid yn unig mewn hyrwyddo a dweud wrth weddill y DU beth yr ydym ni'n ei wneud, ond lle'r ydym ni mewn gwirionedd yn edrych ar yr hyn y mae gweddill y DU yn ei wneud hefyd. Mae'n rhaid mynd ati mewn modd gwirioneddol gynhwysfawr. Dyna mewn gwirionedd oedd wrth wraidd yr araith a draddodais yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG yn Lloegr yn Lerpwl tua 18 mis yn ôl.
O ran lle'r ydym ni arni gyda'r ceisiadau, wel, rydym ni wedi cadarnhau pob un o'r saith ardal a bellach mae'n bryd i'r byrddau partneriaeth gyflawni yn unol â'r ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno ganddyn nhw. O ran lle maen nhw arni, Caerdydd a'r Fro, bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gwent—cymeradwywyd dau gais gan fwrdd partneriaeth rhanbarthol Gogledd Cymru. Bae'r Gorllewin, sydd yn fuan yn newid i ardal bwrdd iechyd prifysgol bae Abertawe, cymeradwywyd dau o'u ceisiadau nhw, ac mae'r gorllewin wedi cael un. Rwy'n disgwyl ceisiadau o ardaloedd eraill i'w hystyried—rhai yr wythnos hon a mwy ar y gweill. Nawr, yn gyffredinol, mae'r cyfanswm yn £41.2 miliwn. Wrth wneud pob cyhoeddiad, rydym ni wedi amlygu beth yw'r symiau hynny. Er enghraifft, y gorllewin, dros £11 miliwn yn y cais a gymeradwyais yn ddiweddar; Gwent, y pennawd oedd £13 miliwn—maen nhw'n bwriadu newid y proffil hwnnw, ond nid cael gwared ar raddfa na ffurf yr uchelgais—ac eraill yn symiau amrywiol.
Nawr, y pwynt yw nad wyf eisiau i bobl ymgolli ynghanol arian, fel petai hwn dim ond yn cael ei ddyrannu ar sail cyfran deg ar gyfer pob ardal, oherwydd bod yr arian ar gyfer pob un o'r ceisiadau hynny yn seiliedig ar beth yw'r cynnwys a'r hyn sy'n ofynnol ar gyfer pob un ohonyn nhw. Felly, o ran eich pwynt ynglŷn â niferoedd staff—wel, nid yw'r ceisiadau yn seiliedig ar niferoedd staff a fyddai'n cael eu cefnogi gan y ceisiadau; mae'n ymwneud â'r ffordd yr ydym ni'n trawsnewid y model o'r hyn yr ydym ni'n ei ddarparu yn hytrach na siarad am niferoedd staff. Felly, mae'r gwariant yn dibynnu ar y ceisiadau y cytunwyd arnyn nhw, ac mae niferoedd staff yn dibynnu ar y ceisiadau y cytunwyd arnyn nhw hefyd. Ond, yn hollbwysig, mae hyn ynghylch y ffordd yr ydych chi'n trawsnewid yr hyn a ddaw. Felly, mae'n ymwneud â'r hyn sy'n dod ar ddiwedd pob cais, gan fod hon yn rhaglen gyfyngedig yn yr ystyr bod amserlen iddi, a'r hyn yr ydym ni'n edrych amdano yw strategaeth glir i ddeall, i werthuso, a yw'n gweithio, ac yna, os yw'n gweithio, sut mae mynd ati i'w huwchraddio ac yna sut y mae'r partneriaid hynny mewn gwirionedd yn gwario eu hadnodd craidd, yn hytrach na chwilio am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Felly, mae'r ffordd y mae'n ychwanegu gwerth yn bwysig.
Un rhan o'ch cyfres o gwestiynau a wnaeth i mi wingo ychydig oedd pan oeddech chi'n sôn am wneud yn siŵr nad yw hyn yn cefnogi byrddau iechyd a allai fod braidd yn ddiog ynglŷn â thrawsnewid. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddisgrifiad teg na defnyddiol o unrhyw fwrdd iechyd penodol, neu yn wir y partneriaid rhanbarthol, ac rydym ni wedi trefnu hyn yn fwriadol fel ceisiadau sy'n gorfod cael cefnogaeth y bwrdd partneriaeth rhanbarthol cyfan. Felly, nid dim ond rhaglen trawsnewid a arweinir gan iechyd yw hon, mae'n ymwneud mewn gwirionedd ag iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Felly, mae iechyd a llywodraeth leol a'u partneriaid yn y trydydd sector, yn eistedd o amgylch y byrddau partneriaeth rhanbarthol hynny, ac mewn ychydig wythnosau, bydd y maes tai yno yn rheolaidd hefyd. A'r pwynt yw bod yn rhaid iddyn nhw ddilyn yr egwyddorion dylunio yr ydym ni wedi eu cynnwys yn y canllawiau ac felly, mae hynny yn ystyried y ffordd y mae'n ychwanegu gwerth. Mae'n rhaid iddo ymwneud â bod yn wirioneddol drawsnewidiol a bod â photensial gwirioneddol ei ymestyn, yn hytrach na bod yn brosiect micro y bydd pawb sy'n byw o amgylch y prosiect yn sôn amdano ond heb unrhyw obaith o weithio ar draws y system gyfan. Rwyf eisoes wedi ei gwneud hi'n glir mai'r lefel sylfaenol a'r bartneriaeth rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yw'r maes lle bydd y gronfa hon yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn fy marn i. Felly, nid wyf yn edrych am brosiectau i'w trawsnewid o fewn gwasanaethau mewn ysbytai. Nid yw'n diystyru neu'n dweud na allai gwasanaeth mewn ysbytai wneud cais, ond mae'r nod a'r gwerth mwyaf a'r cynnydd sydd i'w wneud yn bodoli yn y bartneriaeth honno gyda gofal sylfaenol a'r bartneriaeth â gofal cymdeithasol.
O ran yr adolygiad, mae'n adolygiad a gomisiynwyd yn annibynnol. Mae wedi cael ei rannu gyda'r panel trawsnewid. Roedd yn amrywiaeth o gyfranwyr allanol y tu allan i'r Llywodraeth hefyd. Mae ganddo bwyntiau ynghylch yr hyn y gallwn ni ei wneud i wella ein sefyllfa bresennol, yn ogystal â'r meysydd lle'r ydym ni'n gweithio'n dda ynddyn nhw. Rwy'n hapus i rannu'r prif negeseuon ynglŷn â hynny. Gallai fod yn ddefnyddiol petawn i yn ysgrifennu at yr Aelodau, ar ôl inni wneud y cylch nesaf o gyhoeddiadau, i roi rhai o'r penawdau ynghylch yr adolygiad annibynnol hwnnw—ac rwy'n sylweddoli bod Cadeirydd y pwyllgor iechyd ac eraill yn yr ystafell—a rhannu'r prif negeseuon hynny ag aelodau'r pwyllgor, a rhai o'r pwyntiau ynghylch beth yw ein sefyllfa ar hyn o bryd o ran y gronfa trawsnewid ac yn ehangach o ran darparu 'Cymru Iachach' hefyd. Rwy'n llwyr ddisgwyl cael fy ngwahodd i'r pwyllgor ar ryw adeg i esbonio beth yn union yw ein sefyllfa ni.
O ran cyfraniad y trydydd sector, mater i bartneriaid rhanbarthol yw'r penderfyniad hwnnw. Nid wyf yn mynd drwy bob cais a dweud fy mod yn disgwyl i swm arbennig gael ei ddyrannu i bartner y trydydd sector. Rwy'n ymwybodol iawn, yn achos ystod eang o'r ceisiadau a gyflwynwyd, y bydd yn cynnwys y trydydd sector nid yn cytuno o ran dim ond beth sy'n digwydd, nid dim ond partner y trydydd sector o amgylch bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ond yn fwy eang na hynny, mewn gwirionedd, bydd angen y trydydd sector i'w gyflawni a bydd yn amrywio o fwrdd i fwrdd, gan ddibynnu ar y cais a'r maes trawsnewid y maen nhw'n bwriadu ei gyflawni.
Hoffwn groesawu datganiad y Gweinidog ac ailddatgan cefnogaeth fy mhlaid i'r gronfa trawsnewid. Mae ychydig fel defnyddio un tynfad i geisio troi'r Titanic, ond mae'r Gweinidog wedi cydnabod hynny, ac mae i gyd yn ymwneud â nodi arfer da. Roedd hi hefyd yn galonogol clywed y Gweinidog yn dweud ar ddiwedd ei ddatganiad bod gennym ni lawer i'w wneud o hyd, oherwydd rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod hynny, ond mae potensial yma yn rhai o'r prosiectau yr wyf yn bersonol yn ymwybodol ohonyn nhw a gafodd eu cyflwyno gan rai o fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn fy rhanbarth i—rhai ohonyn nhw'n syniadau eithaf syml, ond yn syniadau a oedd angen adnoddau i'w rhoi ar waith a rhai a allai wneud gwahaniaeth aruthrol. Mae'r Gweinidog yn gywir, wrth gwrs, pan ddywed ei bod hi'n her i ddarparwyr gwasanaethau, yn enwedig mewn cyfnod anodd, edrych y tu hwnt i angen dybryd ac uniongyrchol, ac mae'r gronfa trawsnewid, rwy'n derbyn, wedi rhoi cyfle iddyn nhw wneud hyn ac i edrych ar weithio gyda'i gilydd mewn ffordd newydd.
Fe hoffwn i ofyn rhai cwestiynau penodol i'r Gweinidog. Mae'r cyntaf yn ymwneud â faint o'r £100 miliwn mewn gwirionedd sydd wedi'i ymrwymo hyd yn hyn. Mae'r Gweinidog yn sôn am £41.2 miliwn yn ei ddatganiad i ni heddiw. Caf ar ddeall, yn y papurau sydd wedi eu hanfon at—rwy'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ddarparu papurau—y pwyllgor iechyd, bod swm o £65 miliwn wedi ei grybwyll. Nawr, efallai mai prosiectau yw'r rheini sy'n cyfeirio at—. Efallai bod hynny'n cyfeirio at brosiectau y mae'r Gweinidog yn disgwyl eu cymeradwyo—fel y crybwyllodd eisoes—yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond byddai'n ddefnyddiol cael rhywfaint o eglurhad ynghylch hynny. Mae'n rhaid imi ddweud, os mai £65 miliwn yw'r swm, yna rwy'n falch iawn o glywed hynny, gan fy mod i'n credu y byddai'r Gweinidog yn iawn i gredu po gyflymaf y cawn ni'r arian allan, y cyflymaf y bydd y prosiectau yn gweithredu, a'r cyflymaf y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond byddwn yn croesawu'r eglurhad hwnnw.
Nawr, mae'n amlwg o ymatebion y Gweinidog i Darren Millar nad ydym ni hyd yn hyn wedi cael cynigion gan bob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol. Unwaith eto, mae papurau'r pwyllgor iechyd yn cyfeirio'n benodol at y ffaith nad oes dim eto wedi cael ei gytuno ar gyfer Powys. Nawr, yn amlwg, gan fy mod yn un o gynrychiolwyr Powys yn y Cynulliad, mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder i mi. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig bach yn fwy wrthym ni y prynhawn yma ynghylch pa gamau y mae ef a'i swyddogion yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno gan fyrddau ledled Cymru. Rwy'n deall yn llwyr y pwyntiau y mae wedi eu gwneud i Darren Millar, nad yw hyn yn rhyw fath o ymarfer ticio blychau, nad yw'n bwriadu dweud, 'Rydym ni'n gwario'r swm hwn o arian yn y fan yma a'r swm hwn o arian yn y fan acw a'r swm hwn o arian yn y fan acw.' Nid dyma oedd bwriad y gronfa hon, ac roeddem ni i gyd yn cefnogi hynny, ond buaswn yn siomedig iawn yn bersonol petaem ni'n cyrraedd pwynt pan nad oedd o leiaf un prosiect posib ym mhob man yng Nghymru. Ac rwy'n ategu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog: Rwy'n siŵr bod y rhai sy'n gweithio'n galed i gyflwyno ein gwasanaethau ac yn gweithio yn y byrddau partneriaeth rhanbarthol wirioneddol eisiau defnyddio'r arian hwn i sicrhau'r effaith orau, ond byddai'n drueni mawr pe bai unrhyw gymuned yng Nghymru heb gael rhywfaint o fudd posib.
Os caf i gyfeirio, felly, at y byrddau partneriaeth rhanbarthol, gan eu bod, yn amlwg, yn mynd i barhau i fod yn hollbwysig wrth gyflwyno'r gwaith hwn, a gaf i ofyn i'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch sut y mae ef a'i swyddogion yn monitro perfformiad byrddau partneriaeth rhanbarthol? Soniwyd wrthyf i am rai pryderon penodol ynghylch atebolrwydd oherwydd, yn amlwg, mae pobl o'r holl gyrff gwahanol hyn yn dod at ei gilydd. Sut maen nhw'n atebol i'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli? Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed ychydig yn fwy gan y Gweinidog heddiw am y canllawiau a ddarperir i'r byrddau o ran beth yw'r berthynas rhyngddyn nhw â'u cymunedau.
Os caf i gyfeirio, felly, unwaith eto, at yr holl faes o uwchraddio'r prosiectau, y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn ei ddatganiad gan ddweud ychydig yn fwy mewn ymateb i Darren Millar am yr adolygiad cyflym. Roeddwn yn falch o glywed bod hwnnw'n annibynnol ac edrychaf ymlaen at y Gweinidog yn ysgrifennu atom ni gyda mwy o fanylion am yr hyn y canfu'r adolygiad, ond, ar yr un pryd, mae datganiad y Gweinidog yn sôn am ddatblygu cyfres o ddangosyddion cenedlaethol. Felly, a all y Gweinidog ddweud wrthym ni heddiw ychydig ynghylch beth oedd y meini prawf a ddefnyddiwyd yn yr adolygiad cyflym? Os nad yw'r dangosyddion cenedlaethol gennym ni ar hyn o bryd—ac rwy'n croesawu'n fawr iawn y ffaith bod partneriaid yn cymryd rhan yn y broses hon—ar ba sail oedd yr adolygiad cyflym yn barnu ynghylch yr hyn a gyflawnwyd hyd yma?
Mae'r £100 miliwn i'w groesawu'n fawr, fel y dywedais, ond mae'n swm bach iawn o'i gymharu â'r £7.5 biliwn sef cyfanswm y gyllideb iechyd a gofal. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn cydnabod ein bod yn hanesyddol yng Nghymru wedi dioddef ychydig o 'glwy'r prosiectau'—sef bod gennym ni syniadau da sy'n cael eu profi, yn cael cadarnhad eu bod yn gweithio, ac wedyn yn diflannu pan ddaw'r cyllid grant i ben. Nawr rwy'n gwybod nad yw'r Gweinidog yn bwriadu i hyn ddigwydd o ran prosiectau a ariennir gan y gronfa trawsnewid, ond a all y Gweinidog ddweud wrthym ni ychydig mwy ynghylch sut mae'n bwriadu sicrhau nad y 'clwy prosiectau' hwn—y prosiect da hwnnw sy'n diflannu pan fo'r arian wedi terfynnu—fydd tynged rhywfaint o'r gwaith cadarnhaol iawn y gellir ei ariannu gan y gronfa trawsnewid? Ac a all amlinellu inni heddiw y broses y bydd yn ei defnyddio i sicrhau bod y prosiectau llwyddiannus y tro hwn yn cael eu huwchraddio ac na fyddwn ni ymhen pum mlynedd unwaith eto'n dweud 'Rydym ni'n gwybod bod hynny wedi gweithio'n dda iawn, ond, am ba reswm bynnag, ni wnaethom ni wneud i'r gwaith hwnnw lwyddo ledled Cymru'? Rydym ni, wrth gwrs, yn wlad o gymunedau amrywiol iawn. Ni fydd pethau bob amser yn gweithio o un lle i'r llall, ond holl ddiben, fel y deallaf i, y gronfa trawsnewid yw darparu arfer da y gellir ei uwchraddio, ac rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig bod y Siambr hon yn deall sut mae'r Gweinidog yn mynd i wneud i hynny ddigwydd.
Diolch am y cwestiynau am amrywiaeth o feysydd. Y £41.2 miliwn yw'r ffigur ar gyfer y saith cais yr wyf i wedi cyfeirio atynt. Y swm mwy yr ydych chi'n cyfeirio ato yw'r potensial yn y ceisiadau a dderbyniwyd eisoes ac yr wyf yn edrych ymlaen at eu hadolygu—dros yr wythnos hon yw fy uchelgais; fe hoffwn i wneud dewisiadau ynghylch y rheini i alluogi pobl i fwrw ati i gyflawni. Mae ceisiadau eraill ar y gweill, ac rwy'n hapus i dawelu meddwl yr Aelod a'r Siambr, ac unrhyw un sy'n gwylio, gan fy mod yn ffyddiog yn disgwyl bod gan bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol unigol yn y wlad gais. Yn hollol ffyddiog. Mae hynny'n cynnwys Powys, mae hefyd yn cynnwys Cwm Taf—mae eu ceisiadau yn cael eu trafod â swyddogion. Felly, maen nhw ar gam datblygedig, yn hytrach nag ar gam o feddwl, pendroni ac ystyried. Ac, mewn gwirionedd, mae bod mewn sefyllfa i ddechrau gwneud cyhoeddiadau, fel yr oeddwn i yn yr hydref, yn ddefnyddiol o ran cyflymu pethau mewn rhannau eraill o'r wlad—does neb eisiau ymddangos fel petai'n cael ei adael ar ôl—ond o ran rhannu'r wybodaeth yn y meysydd sy'n cael eu cynnwys hefyd ar y cychwyn. Ac, yn fwy na hynny, ein cynllun yw rhannu gwerthuso a dysgu drwy'r broses hon hefyd. Felly, wrth inni fwrw ymlaen, bydd y dysgu yn rhyngweithiol hefyd, ac rwyf eisiau gwneud yn siŵr fod hynny wedi'i gysylltu'n fwriadol. Felly, rhan o'r diben o gael adolygiad cyflym yw sicrhau y gallwn ni ddeall blaenoriaethau gwerthuso ymhob cais, a hefyd y blaenoriaethau polisi o fewn 'Cymru Iachach' a'r egwyddorion dylunio a amlinellwyd gennym ni, i wneud yn siŵr ein bod ni mewn gwirionedd—wrth gael adolygiad allanol, pa un a ydynt yn cymeradwyo cynigion mewn gwirionedd sy'n driw i'r blaenoriaethau polisi a'r egwyddorion dylunio eraill a amlinellwyd gennym.
O ran byrddau partneriaeth a'u cysylltiadau â chymunedau lleol, rwy'n credu ein bod yn crwydro ychydig o'r gronfa trawsnewid, ond, wrth gwrs, mae gan aelodau llywodraeth leol eu mandad eu hunain a'u mandadau democrataidd eu hunain i gyflawni eu swyddogaethau. Fe wnaethom ni gytuno yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i greu byrddau partneriaeth rhanbarthol i geisio denu pobl at ei gilydd. Felly, fe wnaethom ni, fel sefydliad cenedlaethol, benderfynu creu'r strwythur hwnnw, a rhan o'n her ni yn awr yw sut ydym ni'n cydnabod y gwahanol bartneriaethau sydd gennym ni a gwneud defnydd priodol ohonyn nhw. Felly, maen nhw'n fforymau lle gall pobl wneud yn siŵr eu bod yn cytuno ar yr hyn y dylen nhw ei wneud ac yna mynd ati i gyflawni hynny. Ac mae gennym ni ddulliau atebolrwydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol amrywiol ar gyfer hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, y sgwrs hon yn y Siambr heddiw.
Nid yw'r gronfa trawsnewid, fel yr wyf wedi dweud droeon, yn ymwneud cymaint â hynny â'r defnydd o'r £100 miliwn. Mewn gwirionedd rwy'n ceisio osgoi cael fy nhynnu i mewn i'r cyfrannau ar gyfer gwahanol rannau o'r wlad. Catalydd yw'r £100 miliwn; mae'n ffordd o gynllunio a darparu'r dyfodol—i ddwyn ynghyd y syniadau gorau i gael yr effaith trawsnewidiol mwyaf. Ac mae hynny llawn cymaint ynghylch fod gan ein system iechyd a gofal cymdeithasol rywfaint o uchelgais ar y cyd a chydnabod yr hyn y gallan nhw ei wneud. Felly, os nad oes cronfa trawsnewid, yna rydym ni wedi creu'r math o ddiwylliant ac amgylchedd lle, mewn gwirionedd, gall y partneriaid hynny, gyda'i gilydd, barhau i drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol. Oherwydd ni fyddwn ni'n gwneud popeth y mae angen inni ei wneud yn y ddwy flynedd nesaf ac yn ystod hyd oes y gronfa. Felly, mae a wnelo hynny â'r effaith sy'n trawsnewid y defnydd o'r adnodd presennol a rennir o tua £9 biliwn sydd gan iechyd a gofal cymdeithasol, nid ynghylch sut gallwn ni wario'r £100 miliwn ei hun.
Ac o ran sut yr ydym ni'n mynd i allu gwneud hynny a sut yr ydym ni'n mynd i allu dangos a gwerthuso effaith y gronfa, wel, bydd gwerthusiad ar ddiwedd pob prosiect. Ond, yn fwy na hynny, mae'n ymwneud â'r hyn a welwn ni wedyn yn cael ei ddarparu yng nghyd-gynlluniau'r partneriaid, yn ymwneud â chael cyd-gynlluniau iechyd a gofal cymdeithasol y bydd pobl yn eu cefnogi, ac, os oes prosiect llwyddiannus, yna bydd y bartneriaeth honno yn gallu datblygu hwnnw, ac, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â pha mor llwyddiannus ydym ni o ran uwchraddio hwnnw ar lefel genedlaethol. Felly, mae rhan i'w chwarae gan bartneriaid unigol o fewn hynny. Mae rhan i bartneriaethau rhanbarthol ei chwarae, ac, wrth gwrs, mae rhan i'r Llywodraeth hefyd. Er enghraifft, pan fyddwn ni'n cymeradwyo cynlluniau tymor canolig integredig byrddau iechyd a fyddwn ni'n gweld, a fydd disgwyl—os wyf i yn y swydd, gallwch ddisgwyl y byddai—i syniadau llwyddiannus gael eu huwchraddio ac y byddwch yn gweld y ffordd flaengar y byddan nhw'n cael eu rhoi ar waith yn yr ardaloedd byrddau iechyd a'u dechreuodd nhw, ond hefyd yn yr ardaloedd byrddau iechyd hynny nad ydyn nhw'n datblygu'r ceisiadau penodol hynny? Felly, rwy'n disgwyl gweld mewnbwn gwirioneddol genedlaethol. Ac enghraifft dda fyddai, er enghraifft, y trawsnewid yng Ngwent i wasanaethau plant ac ymagwedd fwy ataliol tuag at iechyd meddwl. Wel, mewn gwirionedd, mae hynny'n rhan o'r hyn y maen nhw'n edrych arno. Nawr, os bydd hynny'n gweithio yng Ngwent, byddai angen ichi fy narbwyllo pam na fyddech chi ac na ddylech chi eisiau gweld hynny'n cael ei uwchraddio mewn rhannau eraill o'r wlad, ac mae gennym ni ddulliau gwahanol o ran sut y gallem ni geisio gwneud hynny.
Diolch yn fawr iawn i chi, Gweinidog.