– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 21 Mai 2019.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â glasbrintiau cyfiawnder, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yn aml, bydd pobl sy'n mynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn bobl sydd ymhlith y mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas. Yn rhy aml o lawer, mae pobl yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod nhw wedi cael cam yn gynharach yn eu bywydau, gan ddioddef nifer o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Weithiau, bydd y profiadau hyn yn parhau ymhell i'w bywydau yn oedolion.
Roedd adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ar ddechrau'r flwyddyn yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Helpodd yr adroddiad ni i weld darlun llawer cliriach o ddedfrydu a chadw yn y ddalfa yng Nghymru, ac mae hyn yn dylanwadu eisoes ar ein gwaith ar hyn o bryd ac i'r dyfodol o ran troseddu. Yng Nghymru, rydym ni mewn sefyllfa ddelfrydol, yn sgil ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i ganolbwyntio ar yr hyn sydd wrth wraidd troseddu a rhoi blaenoriaeth i atal hynny drwy gydweithio, integreiddio a chynllunio hirdymor.
Mae'r glasbrintiau a'r cynlluniau gweithredu ar gyfer cyfiawnder ieuenctid a throseddau gan fenywod sy'n cael eu cyhoeddi heddiw yn amlinellu ein dull ni o ddarparu gwasanaethau cyfiawnder yng Nghymru. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio yn amlwg ar ymyrraeth gynnar ac atal, yn un sy'n canolbwyntio ar y ffordd yr ydym ni'n rhoi cymorth ar gyfer cyfeirio pobl oddi wrth droseddu yn y lle cyntaf, ond hefyd yn un sy'n mabwysiadu ymagwedd sy'n gyfannol ac yn pwysleisio adsefydlu i'r rhai sy'n llithro drwy'r rhwyd honno. Fe hoffwn i ddiolch i'm rhagflaenydd, Alun Davies, am y gwaith a wnaeth ef i ddod â ni i'r pwynt sylweddol hwn o gynnydd.
Fe hoffwn i gydnabod hefyd waith comisiwn Thomas, sydd yn ystyried sut y bydd y system gyfiawnder yng Nghymru yn gweithredu yn y dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at weld adroddiad Arglwydd Thomas, y dylem ei gael yn ystod yr hydref eleni, a byddwn, wrth gwrs, yn cynnwys y gwaith pwysig hwnnw yn ein gwaith ar y glasbrintiau wrth symud ymlaen.
Er mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system gyfiawnder yng Nghymru, ceir cyswllt anorfod rhwng darparu gwasanaethau cyfiawnder a gwasanaethau datganoledig—gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, addysg, dysgu a sgiliau, a thai. Mae'r gwasanaethau hyn i gyd â rhan hanfodol bwysig o ran atal troseddu, ond o ran adsefydlu troseddwyr hefyd. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am ailwladoli'r gwasanaeth prawf. Mae'r Llywodraeth hon yn gwbl gefnogol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, a fydd yn digwydd cyn diwedd eleni.
Rydym ni'n cydnabod, wrth gwrs, pa mor bwysig yw gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i sicrhau dull cydweithredol o ymdrin â throseddu a chyfiawnder. Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar y ddarpariaeth o garchardai yng Nghymru yn amserol iawn. Rydym ni'n bwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu'r glasbrintiau, gan ystyried y materion sy'n deillio o'r adroddiad sy'n ymwneud â'n cyfrifoldebau ni. Roeddwn i hefyd yn croesawu adolygiad David Hanson o addysg i droseddwyr yng Nghymru, a byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda Gwasanaethau Carchardai a Phrawf ei Mawrhydi ar yr argymhellion ac yn ceisio gwneud gwelliannau yn y meysydd hynny.
Rydym ni'n gweithio ar y cyd â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau gwelliannau mewn nifer o feysydd, er enghraifft drwy ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a lles mewn carchardai a'r concordat ar argyfwng iechyd meddwl, a'r glasbrintiau cyfiawnder. Yn ystod y misoedd diwethaf, rwyf wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gydag Edward Argar, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, y cyn Weinidog Carchardai, Rory Stewart, a'r Gweinidog Plismona, Nick Hurd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn parhau i gael eu cynnal yn rheolaidd wrth inni symud ymlaen i gyfnod cyflawni'r gwaith pwysig hwn.
Yn ystod y misoedd nesaf, bydd swyddogion o blith llawer o adrannau o fewn Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn parhau i weithio gyda'i gilydd gydag amrywiaeth o randdeiliaid ym meysydd cyfiawnder, iechyd ac addysg. Bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn yn gyfle i ddatblygu ein dulliau newydd o ymdrin â chyfiawnder ieuenctid a throseddau menywod ymhellach ac yn edrych ar farn rhanddeiliaid ar ddatblygiadau arfaethedig.
Rwy'n ddiolchgar i Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru am ei waith ac am ei gefnogaeth wrth ddatblygu'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sy'n adeiladu ar themâu allweddol yn adolygiad Charlie Taylor o system cyfiawnder ieuenctid Cymru a Lloegr, ond yn canolbwyntio ar y system a'r gefnogaeth a roddir yng Nghymru.
Er bod nifer y bobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa wedi gostwng yn sylweddol, mae llawer yn y ddalfa ymhell o'u cartrefi, eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid yn nodi ymrwymiad i weithredu sut y gall gwasanaethau datganoledig ac annatganoledig gydweithio i wireddu hawliau i blant a datblygu system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru sy'n seiliedig ar egwyddorion sy'n seiliedig ar hawliau.
Mae'r dystiolaeth gynyddol o ran effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod—ACEs—yn elfen allweddol yn null gweithredu Llywodraeth Cymru o weithredu. Mae'n seiliedig ar ymyrraeth gynnar ac atal, sy'n nodwedd allweddol o'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid. Mae cyllid gan Lywodraeth Cymru, drwy hyrwyddo'r grant ymgysylltiad cadarnhaol â phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, eisoes yn cynnig cymorth ataliol a dargyfeiriol i bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru.
Fel yr amlinellwyd yn y cynllun gweithredu, ein dyhead ni yw datblygu system cyfiawnder ieuenctid sy'n trin plant gyda thegwch a pharch. Ein nod yw helpu i leihau niferoedd y plant sydd yn y system drwy ddargyfeirio ac ataliaeth effeithiol, a thrwy fynd i'r afael â'r gwendidau sy'n arwain yn aml at drosedd.
Mae'r glasbrint troseddau menywod yn mynd i'r afael â mater menywod a'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cefnogi'r egwyddorion a nodwyd yn adroddiad pwysig Barwnes Jean Corston ar y mater hwn yn fawr iawn. Mae dros 10 mlynedd wedi mynd heibio ers adolygiad Barwnes Corston, ond mae'r egwyddorion sydd ynddo'r un mor berthnasol heddiw ag yr oedden nhw bryd hynny. Mae'n amlwg bod menywod yn cael eu hanfon i'r carchar yn aml am droseddau diannod lefel isel. Mae'r defnydd o ddedfrydau carchar tymor byr i fenywod, a dynion hefyd, nad ydyn nhw wedi cyflawni troseddau difrifol yn gallu cael effaith drychinebus arnyn nhw a'u teuluoedd. Nid yw carcharu am amser byr yn caniatáu adsefydlu yn ei ystyr lawnaf. Yn aml, nid yw'r rhai sy'n cael dedfryd o garchariad byrdymor yno'n ddigon hir i allu cwblhau rhaglenni sydd wedi eu cynllunio i gyflawni adsefydlu.
Mae angen datrysiad brys ar gyfer menywod sy'n troseddu yng Nghymru. Mae tua 250 o fenywod o Gymru mewn carchar yn Lloegr ar hyn o bryd. Mae'r materion sy'n gysylltiedig â bod ymhell o gartref, sy'n wynebu troseddwyr sy'n fenywod o Gymru a'u teuluoedd, yn sylweddol, ac yn bryder gwirioneddol o ran yr effaith ar blant yn benodol, ond o ran adsefydlu'r troseddwr hefyd.
Rwyf wrthi gyda Llywodraeth y DU yn ystyried dewisiadau ar gyfer lleoliad y canolfannau preswyl newydd arfaethedig i droseddwyr benywaidd, a goblygiadau hynny. Rwyf wedi dadlau eisoes o blaid lleoli o leiaf un o'r rhain yng Nghymru, fel y gall y menywod fod mewn amgylchedd sy'n cefnogi eu hanghenion nhw, gan gynnwys adsefydlu a'r gallu i barhau i gysylltu â theulu, ffrindiau a'r gymuned ehangach. Roeddwn yn falch o weld bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig ar ddarpariaeth carchardai yng Nghymru wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer grwpiau penodol o bobl fel troseddwyr benywaidd ac wedi gwneud argymhellion penodol ar gyfer sefydlu canolfannau preswyl i fenywod yng Nghymru. Hoffwn i ddiolch i'n partneriaid, yn enwedig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM am ei waith gyda ni wrth ddatblygu'r glasbrint ar gyfer troseddu gan fenywod.
Mae'r glasbrintiau yr wyf yn eu cyhoeddi heddiw yn nodi ein dyheadau allweddol ar gyfer menywod a phobl ifanc sydd mewn perygl o fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, neu sy'n wynebu perygl o hynny, a'r egwyddorion arweiniol yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno'r newidiadau hyn yn eu sgil. Ynghyd â'r glasbrintiau, rwy'n cyhoeddi hefyd gynlluniau gweithredu sy'n tynnu sylw'n glir ac yn gryno at y materion a'r argymhellion ar gyfer pob ardal, gan ddangos, yn bwysig iawn, y gwaith yr ydym yn ei wneud eisoes. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn ffurfio sail ar gyfer cynllun gweithredu cadarn yn ystod y Cynulliad hwn a thu hwnt. Dros y misoedd nesaf, bydd pob un o'r argymhellion hyn yn cael eu hystyried ymhellach, gan gynnwys asesiad llawn o effeithiau ac ymarferoldeb y cynigion.
Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei chyfarfod a'i chyfarfod briffio cyn hynny ar y glasbrintiau cyfiawnder hyn ar gyfiawnder ieuenctid a throseddu ymhlith menywod y bore yma. O ystyried y materion hyn, yn ogystal â throseddu ehangach, mae'n iawn inni ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Fel y clywsom gan y Dirprwy Weinidog, canfu adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru ym mis Ionawr, 'Sentencing and Immediate Custody in Wales: A Factfile', mai gan Gymru mae'r gyfradd uchaf o garcharu yng ngorllewin Ewrop. Canfu hefyd, er bod nifer y dedfrydau o garchar wedi codi yng Nghymru rhwng 2010 a 2017, eu bod wedi gostwng 16 y cant yn Lloegr. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau gwelliannau a'r agwedd gydweithredol tuag at droseddu a chyfiawnder.
Pan oeddem ni'n trafod y broses o ddiwygio'r gwasanaeth prawf yma fis Hydref diwethaf, nodais fy mod i, fis Awst diwethaf, yn bresennol yn y cyfarfod i gysylltu â rhanddeiliaid yn Wrecsam gan Wasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru i drafod dyfodol y gwasanaethau prawf yng Nghymru a'r cynigion a geir yn y papur ymgynghori, 'Cryfhau'r Gwasanaeth Prawf, Meithrin Hyder'. Clywsom mai'r cynigion yr ymgynghorwyd arnynt yng Nghymru yw y bydd yr holl wasanaethau rheoli troseddwyr, o 2020, yn aros gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, ac y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM yng Nghymru yn archwilio'r dewisiadau ar gyfer comisiynu adsefydlu gwasanaethau, fel ymyriadau a thalu'n ôl i'r gymuned.
Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at ymateb Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU yr wythnos diwethaf i'r ymgynghoriad, ar 'Gryfhau'r Gwasanaeth Prawf, Meithrin Hyder', a oedd yn cadarnhau y bydd gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, yn y dyfodol, gyfrifoldeb am reoli'r holl droseddwyr ar orchymyn cymunedol neu drwydded wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar. Mae hefyd yn cadarnhau, fel y gwyddom ni, fod gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd deddfwriaethol o ran materion datganoledig, gan gynnwys iechyd, tai, lles cymdeithasol ac addysg, ac mae hyn yn creu gwahanol dirwedd i'r gwasanaethau prawf yng Nghymru. Sut, felly, y mae'r Dirprwy Weinidog yn ymateb i'r datganiad gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn yr ymateb hwn eu bod nhw'n bwriadu darparu gwasanaethau ac ymyriadau ychwanegol i'w rhoi ar dendr i alluogi i amrywiaeth o ddarparwyr a sefydliadau sector gwirfoddol gystadlu i'w cyflenwi? Yn amlwg iawn, mae ganddyn nhw'r arbenigedd a'r cysylltedd ar lawr gwlad i gyflawni'r gwaith atal ac ymyrryd yn gynnar hwnnw.
Rydych chi'n dweud bod angen ateb ar frys i fenywod sy'n troseddu yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Rydych chi'n cyfeirio at fenywod sy'n cael eu cadw mewn carchar yn Lloegr ar hyn o bryd—tua 250 ohonyn nhw. Rydych chi'n cyfeirio at y problemau sylweddol sy'n gysylltiedig â bod ymhell o gartref sy'n wynebu merched sy'n troseddu yng Nghymru a'u teuluoedd. Ond, wrth gwrs, nid yw gweithgarwch troseddol bob amser yn cydnabod ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol, ac mae 48 y cant o bobl Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr, 90 y cant o fewn 50 milltir. Dim ond 40 milltir o'm cartref i yng ngogledd Cymru y mae Styal, ond byddai canolfan i fenywod neu garchar yn y canolbarth neu'r de yn golygu y byddai'r datgysylltiad yn fwy o lawer oddi wrth eu teuluoedd. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn ystyried y gallwn sicrhau y gall y gwasanaethau datganoledig gyrraedd troseddwyr sy'n byw yn agos at garchar Styal neu garchardai eraill lle cedwir troseddwyr benywaidd o Gymru ar hyn o bryd, ynghyd â'r diwygiadau ehangach, yr wyf yn ei chefnogi wrth iddi geisio gwneud hynny?
Fel yr oeddech chi'n dweud, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod carchardai cymunedol i fenywod, a bydd yn treialu pum canolfan breswyl, yn hytrach, i helpu troseddwyr benywaidd gyda materion fel dod o hyd i waith ac adsefydlu ar gyfer cyffuriau ledled Cymru a Lloegr. Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn ystyried gwahardd dedfrydau byrdymor o garchar yng Nghymru a Lloegr. Cydnabyddir bod y rhain yn llai effeithiol na chosbau cymunedol o ran lleihau aildroseddu.
Roeddech chi'n cyfeirio at adroddiad yr wythnos diwethaf ar y ddarpariaeth o garchardai yng Nghymru gan y Pwyllgor Materion Cymreig. Sut ydych chi'n ymateb, o gofio yn eich datganiad eich bod o'r farn y dylem gael o leiaf un ganolfan breswyl i fenywod yng Nghymru, i alwad y Pwyllgor Materion Cymreig am sefydlu canolfannau preswyl i fenywod yn y gogledd a'r de er mwyn galluogi troseddwyr o Gymru gael bod yn nes adref?
Rydych chi'n cyfeirio at brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod—ACEs. Sut, unwaith eto, yr ydych chi'n ymateb i'r datganiad yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder fynd i'r afael â phroblemau sy'n gysylltiedig â gangiau yn sefydliad troseddwyr ifanc ei Mawrhydi y Parc, gan gynnwys ystyried cyflwyno unedau carcharu llai o faint er mwyn gosod pobl iau yn nes adref? Roeddwn i'n sôn y bore yma yn ein cyfarfod ni am gartref troseddwyr ifanc Castell-nedd, yr ymwelais ag ef sawl blwyddyn yn ôl yn rhan o ymchwiliad gan bwyllgor. Dywedodd seiciatrydd plant y sefydliad hwnnw wrthyf fod nifer fawr o bobl ifanc a oedd wedi troseddu yn cyrraedd yno dan feddyginiaeth a dim ond pan lwyddwyd i'w gwella, a'u tynnu nhw oddi ar y feddyginiaeth, yr oedd modd dechrau gweithredu'r ymyrraeth gynnar ac atal nad oedd wedi digwydd cyn i'r troseddau gael eu cyflawni. Pa gamau yr ydych chi'n eu cynnig neu y byddwch chi'n eu hystyried i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â hynny a chanfod a yw'r broblem honno'n bodoli o hyd, a sut y gallwn ni gael mwy o sicrwydd nad yw'r bobl ifanc hynny'n cael eu trin â chyffuriau yn unig yn y dyfodol?
Yn olaf, gan fynd yn ôl at y cwestiwn am gomisiynu gwasanaethau trydydd sector, soniais y bore yma hefyd am enghraifft o elusen yr wyf wedi mynd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru i'w chyfarfod yn ystod y digwyddiad ymgynghori, neu'n fuan wedi hynny, yn Wrecsam y llynedd. Mae'r elusen hon yn gweithio'n benodol gyda'r grwpiau hyn o bobl ifanc ac yn gwneud gwaith rhagorol gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yn y gogledd ar hyn o bryd a chawsant le ar eu stondin hyd yn oed yn Sioe Frenhinol Cymru llynedd. Roedd hon yn enghraifft o sut y gallwn ni ymestyn at yr arbenigedd sydd yn bodoli o fewn cymuned Cymru ond nad yw'n gallu darparu ar hyn o bryd y gwasanaethau y mae'n ceisio eu darparu o ran atal troseddu ymhlith ieuenctid a chynorthwyo pobl ifanc oddi ar y llwybr hwnnw mewn bywyd. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Mark Isherwood. Diolch i chi am y cwestiynau hynny. Ac a gaf i roi cydnabyddiaeth i chi am eich profiad a'ch diddordeb yn y maes hwn? A dweud y gwir, rwy'n gwybod, Mark, eich bod wedi cymryd rhan mewn ymchwiliadau pwyllgor blaenorol yn y Cynulliad hwn ac mae gennych chi ddiddordeb mawr, wrth gwrs, yn eich rhanbarth chi o ran y gwasanaethau hyn. Credaf fod eich sylw ar ganfyddiadau Canolfan Llywodraethiant Cymru yn allweddol i fynd i'r afael â'r materion hyn a'n galluogi ni i edrych hefyd ar faterion lle'r ydym ni'n chwilio am fwy o gymorth i ddeall natur yr angen, er enghraifft, am wybodaeth sy'n fwy data benodol cyn belled fel y mae angen hynny ar Gymru, o ran y system cyfiawnder troseddol, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i, wrth gwrs, wedi ei drafod gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ond mae tystiolaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru yn allweddol ar gyfer ein helpu ni i symud ymlaen i ddatblygu'r glasbrintiau hyn.
Rydym yn croesawu'r cynigion ar gyfer y gwasanaeth prawf yn y dyfodol. Fe'u cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ond yn amlwg roedd gennym ni eisoes, fel yr oeddech chi'n dweud, gynigion penodol ar gyfer Cymru, a oedd yn tynnu sylw at y tirlun deddfwriaethol a pholisi Cymru ei hunan a'r gwahanol drefniadau partneriaeth sy'n bodoli yng Nghymru. Siaradais â'r Gweinidog newydd, Robert Buckland, ddoe ac roedd ef yn cydnabod bod cyfle gennym yma yng Nghymru i wneud pethau mewn ffordd amgen drwy gynllunio system brawf well, sy'n addas at y diben, sy'n gweithio i bobl Cymru. Oedd, roedd y cyhoeddiad yn cynnwys y ffaith y gellid cael swyddogaeth barhaus i'r sector gwirfoddol a phreifat wrth ddarparu gwaith di-dâl a rhaglenni achrededig. Mae hwnnw'n rhywbeth y byddem yn dymuno ei drafod o ran yr hyn y byddai'n ei olygu. Rwy'n gwybod bod yna bryderon am hynny oherwydd bydd yn rhaid i'r ailuno fod yn ailuno sy'n gyfle gwirioneddol i'r gwasanaeth prawf a gweithwyr prawf proffesiynol i anwesu eu gwaith unwaith eto, yn enwedig yn y gwasanaeth cyhoeddus hwn.
Rwyf o'r farn eich bod chi'n codi materion allweddol hefyd am effaith ac effeithiolrwydd gwasanaethau datganoledig o ran cyrraedd, er enghraifft, fenywod yng ngharchar Styal. Byddaf yn ymweld ag Eastwood Park yr wythnos nesaf, lle gwyddom fod y cyrhaeddiad, eto o ran gwasanaethau datganoledig a chyswllt, a'r ffaith, wrth gwrs, fod gan lawer o'r menywod hynny, yn Styal ac Eastwood Park, deuluoedd ac amgylchiadau, ac mae'r cysylltiad a'r ymgysylltiad â'u cartrefi a'u cymunedau yn hollbwysig—. Byddaf yn pwyso a mesur pa mor effeithiol yw'r gwasanaethau datganoledig hynny. Nid yn unig y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, wrth gwrs; addysg, sgiliau, dysgu, tai—mae'r rhain yn hanfodol.
Rwy'n croesawu'r ffaith hefyd eich bod chi'n cydnabod galwad y Pwyllgor Materion Cymreig am o leiaf un—un yn y gogledd ac un yn y de, rwy'n credu mai hynny y maen nhw'n ei ddweud—ganolfan breswyl i fenywod. Rwyf wedi dweud yn fy natganiad y byddwn yn hoffi gweld o leiaf un ganolfan. Mae'n amlwg eu bod nhw'n awgrymu y gellid cael pum canolfan breswyl i fenywod. Yr hyn sy'n bwysig iawn hefyd yw y gallwn ni gael dylanwad ar natur a chwmpas y canolfannau hynny. Rydym eisoes yn cynnal gweithdai rhwng Llywodraeth Cymru, swyddogion y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r partneriaid hynny a fydd yn cael dylanwad ac yn gallu llunio'r canolfannau hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddiad buan ar hyn o ran bwrw ymlaen.
Mae eich pwyntiau am gyfiawnder ieuenctid yn bwysig hefyd. Rwy'n meddwl am Hillside, wrth gwrs— ac roeddech chi'n sôn am Hillside—byddai'n rhaid imi ddweud bod Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cynnal arolygiad dilynol o gartref plant diogel Hillside ac wedi canfod bod y cyfleuster yn cydymffurfio erbyn hyn ym mhob maes. Mae Gwasanaeth Dalfa'r Ifanc wedi gosod safonau ar gyfer gwelliant i reolwyr Hillside, a bydd yn rhaid gweithredu'r rhain hefyd. Wrth gwrs, roedd gwelliannau yn ofynnol gan Arolygiaeth Gofal Cymru, a bydd Gwasanaeth Dalfa'r Ifanc yn monitro cynnydd yn ôl y safonau hynny.
Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi am gyrff trydydd sector sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac fe wnaethoch chi grybwyll y rhain gyda mi'n gynharach, sydd â rhan wirioneddol yn y dargyfeirio, yr atal, a'r ymgysylltu, sydd, wrth gwrs, yn cydnabod effaith ACEs ar fywydau pobl ifanc—. Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i ariannu'r grant o hybu ymgysylltiad cadarnhaol â phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu. Mae'n cynnig y math hwnnw o gymorth ataliol a dargyfeiriol i bobl ifanc sydd mewn perygl, ond mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cydnabod y sefydliadau trydydd sector hynny fel y gwnaethoch chi heddiw.
Rwy'n croesawu'r bwriad i wrthdroi preifateiddio'r gwasanaeth prawf. Beirniadwyd yn eang y fenter gwneud arian hon a rhybuddiwyd yn ei herbyn yn y lle cyntaf. Ond bydd y sector preifat yn parhau i fod yn rhan o'r gwasanaeth prawf; dim ond 80 y cant o'r gwaith prawf a gaiff ei dynnu'n ôl o breifateiddio. Nawr, mae Napo wedi codi pryderon bod y ddarpariaeth o waith di-dâl a rhaglenni achrededig yn dal i ddod o dan y system a breifateiddiwyd, ac rwyf innau'n rhannu eu pryderon nhw am hynny. Mae Napo wedi dweud:
Mae'n amlwg ein bod ni'n siomedig y bwriedir cadw rhywfaint o waith prawf yn y sector preifat. Bydd Napo yn parhau i ymgyrchu i sicrhau bod yr holl wasanaethau hyn a'n haelodau ni sy'n eu darparu, yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r sector cyhoeddus yn y pen draw ac y byddwn ni'n dwysáu ein hymdrechion i sicrhau cydraddoldeb cyflog i bob aelod o staff prawf.
A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddai datganoli'r cyfrifoldeb am gyfiawnder troseddol yn caniatáu inni fynd â'r mater hwn oddi ar ddwylo'r Torïaid am byth a gweithredu system sy'n lleihau troseddu mewn ffordd briodol yn ogystal â diogelu cymunedau rhag troseddwyr sy'n achosi niwed? Ac a yw hi'n cytuno y dylai gwaith di-dâl a gwaith grŵp fod yn rhan o wasanaeth prawf cyhoeddus unedig?
Rwy'n falch o weld bod y syniad o garchar i fenywod yng Nghymru wedi cael ei ddiystyru. Yn hytrach, mae'r alwad am fwy o ddulliau cymunedol yn hyglyw ledled y sector. Mae elusen Women in Prison yn dweud bod carchar i fenywod yn atgyfnerthu trawma, yn achosi problemau iechyd meddwl ac yn cynyddu'r perygl o hunan-niweidio, tra bod Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai yn dweud bod menywod sy'n cael eu rhyddhau o garchar yn fwy tebygol o aildroseddu na'r rhai sy'n cael dedfrydau cymunedol. Dywed Peter Clarke, Prif Arolygydd Carchardai EM, fod pellter o'r cartref a'r teulu yn waeth i garcharorion benywaidd ac, felly, gallai cyfleuster neu gyfleusterau cymunedol llai olygu canlyniadau gwell.
Yn amlwg, ceir achos cryf iawn dros ganolfannau preswyl newydd yng Nghymru i droseddwyr sy'n fenywod. Mae strategaeth troseddwyr benywaidd y Llywodraeth wedi galw am 10 canolfan i fenywod, ond dim ond un o'r rhain sydd i fod yng Nghymru, ac mae'r Pwyllgor Materion Cymreig, y gwnaeth fy nghydweithwyr Liz Saville Roberts a Ben Lake gyfraniad iddo, wedi argymell bod angen dwy yng Nghymru—un yn y gogledd ac un yn y de. Ni fyddai un ganolfan yn unig yng Nghymru yn ddigon da. Bydd yn rhaid cael darpariaeth mewn dwy ran o'r wlad i liniaru'r problemau sydd gennym ar hyn o bryd o ran pellter.
Felly, pa ymdrechion yr ydych yn eu gwneud gyda Llywodraeth y DU i bwysleisio argymhelliad y Pwyllgor Materion Cymreig y dylid cael o leiaf dwy ganolfan yng Nghymru? A beth allwch chi ei wneud ynglŷn â'r broblem a godwyd gyda mi'r wythnos diwethaf gan un o'r troseddwyr benywaidd, y gwnaeth ein pwyllgor gyfarfod â nhw yng Ngharchar Eastwood Park yr wythnos diwethaf fel rhan o ymchwiliad yr ydym yn ei gynnal, lle mae diffyg llety cymeradwy i fenywod yn golygu nad oes modd rhyddhau rhai carcharorion ar dag, tra gall eraill sydd â chyfeiriad cartref gael eu rhyddhau? Beth allwch chi ei wneud ynghylch llety cymeradwy i droseddwyr sy'n fenywod?
Er ei bod yn bwysig ystyried ble a sut i ymdrin orau â throseddwyr benywaidd, mae'n bwysig hefyd canolbwyntio'r ddadl ar y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n achosi troseddu. Mae angen gwneud mwy i ystyried yn ddifrifol y canlyniadau cymdeithasol, teuluol a phersonol o roi menywod mewn carchar, ond, at hyn, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael o ddifrif â chanlyniadau ac effaith dedfryd o garchar wedi rhyddhau, ac mae hynny'n gymwys i bawb, nid dim ond i fenywod sy'n garcharorion.
Mae troseddwyr ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ac mae camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl, digartrefedd ac aildroseddu i gyd yn sgil-gynhyrchion mynd i mewn i'r system carchardai oni bai bod gennym gynlluniau ar waith i gefnogi'r bobl hyn. Mae angen cwnsela digonol ar gyfer profiadau andwyol yn ystod plentyndod er mwyn gwrthweithio effeithiau trawmatig ar y teulu, mae angen gwasanaethau iechyd tu mewn a thu allan i'r carchar i fynd i'r afael â dibyniaeth a materion iechyd meddwl, ac mae angen tai a blaenoriaethu priodol er mwyn ymladd digartrefedd. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthym beth ellir ei wneud i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn gyntaf oll pan fyddan nhw'n digwydd yn ystod plentyndod, ac, yn ail, beth ellir ei wneud i helpu oedolion sydd wedi goroesi eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod? Bydd ymdrin â'r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn sicr o leihau troseddu. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi ar y pwynt hwnnw?
Diolch yn fawr iawn i chi, Leanne Wood. Mae'n amlwg eich bod yn siarad o brofiad, gan ddod i'r Cynulliad hwn gyda'r profiad hwnnw ac yn llefaru am y materion hyn o ran cyfiawnder, ac yn cydnabod hefyd fod y pwyntiau a wnaethoch chi heddiw yn ddilys iawn o ran sut yr ydym yn bwrw ymlaen i weithredu'r glasbrintiau hyn. Rwyf i hefyd, o ran y gwasanaeth prawf a'r ffaith y cafwyd croeso cyffredinol i ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, pan gyhoeddwyd hynny yn gynharach, yn cydnabod y ffaith y codwyd pryderon hefyd ynghylch y modd y byddai hynny'n mynd rhagddo o ran rhai o'r cyfrifoldebau a fyddai'n aros gyda'r sector preifat a'r trydydd sector, a siaradais â Napo ynglŷn â hynny hefyd. Ond rwy'n credu bod y newidiadau arfaethedig yn gyfle gwirioneddol i ailedrych ar y llwybr cenedlaethol ac ystyried ailedrych ar yr holl wasanaeth Drwy'r Giât yng Nghymru i ganiatáu ar gyfer gwahaniaethau mewn gwasanaethau, a gallant fod yn wirfoddol ac yn statudol. Ond byddaf yn cyfarfod â Napo eto, a'r gwasanaeth carchardai a phrawf, i edrych ar y modd y gallwn ni ddatblygu'r dull pwrpasol hwn yng Nghymru.
Rydych chi'n gwneud pwyntiau pwysig hefyd o ran ein cyfiawnder troseddol. Amlinellodd y Prif Weinidog dri maes y dylem ddechrau canolbwyntio arnyn nhw o ran trosedd a chyfiawnder, gyda datganoli'r system cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf i Gymru a phwerau newydd o ran troseddwyr sy'n fenywod. Gwyddom mai Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd, ond mae llawer o'r gwasanaethau y mae eu hangen i reoli troseddwyr a chyn-droseddwyr a hyrwyddo adsefydlu wedi cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru, felly edrychwn ymlaen at ymateb comisiwn Thomas. Mae'r ffaith i hwnnw gael ei sefydlu ym mis Medi 2017, gan gasglu tystiolaeth drwy gydol y llynedd, a'i gadeirio, wrth gwrs, gan gyn-Arglwydd Brif Ustus John Thomas—cafwyd 150 o gyflwyniadau gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol. Felly, bydd hwnnw'n hollbwysig pan fyddwn ni'n cael yr adroddiad hwn ym mis Medi o ran bwrw ymlaen â hyn.
Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaethoch chi am droseddu ymhlith menywod yn allweddol. Rwyf i'n pwyso am fwy nag un ganolfan yng Nghymru. Eglurais i hynny yn fy natganiad a chredaf fod y canolfannau hynny wedi llwyddo i ddiwallu anghenion Cymru. Fel yr wyf wedi ei ddisgrifio eisoes, byddaf yn cwrdd â throseddwyr benywaidd yn fuan pan fyddaf yn ymweld ag Eastwood, a byddaf i'n ymchwilio i'r mater hwnnw o ran adeiladau cymeradwy i gartrefu troseddwyr sy'n fenywod. Ond credaf ei bod yn ddiddorol pan edrychwn ar y math o fodelau sy'n cael eu hystyried o ran canolfannau preswyl i fenywod, oherwydd mae cynigion wedi cael eu gwneud eisoes. Ceir, er enghraifft, batrymau gydag uned ar wahân, lle mae menywod sydd ar drothwy carchariad, sydd o bosib yn ei chael hi'n anodd cydymffurfio â gorchymyn cymunedol, mewn perygl o gael dedfryd o garchar—y bydden nhw'n cael eu hatgyfeirio drwy orchymyn cymunedol gydag amodau ynghlwm wrth y ganolfan, wedi eu cyfeirio gan y gwasanaeth prawf ar drwydded.
Ceir hefyd y patrwm 'hub-and-spoke', fel y'i gelwir, dedfryd i orchymyn cymunedol dan amodau sydd ynghlwm wrth y ganolfan, patrwm cymorth graddol a fydd hefyd—nid yn unig yn nhermau amodau gorchymyn cymunedol, ond gorchmynion cymunedol eraill a dedfryd ohiriedig, a gyfeirir gan wasanaethau prawf ar drwydded. Felly, mae ystod eang o faterion a dewisiadau yn cael eu hystyried o ran potensial y canolfannau hyn i fenywod.
Mae angen inni sicrhau ein bod ni'n edrych ar y materion ehangach hynny o ran natur ataliol y gwaith yr ydym yn ei wneud—lle mae'r cyfrifoldebau datganoledig gennym—o ran y profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r ffaith bod hyn yn ymwneud ag ymyrryd ac atal ar gam cynnar.
A gaf i ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf i'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma a chyhoeddiad y glasbrintiau hyn? Fe ddylwn i ddweud hefyd fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei geiriau caredig yn ei datganiad. Mae methiant y system cyfiawnder troseddol i roi ystyriaeth briodol i'r setliad datganoledig a rhoi sylw priodol iddo bron iawn yn warthus. Ffaith drist yw mai rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig ac agored i niwed yn ein gwlad sy'n talu'r pris mwyaf am y gwarth hwn. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi sylw priodol iddo yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y bydd cyhoeddi'r glasbrintiau hyn yn sicrhau bod y ddadl honno'n digwydd.
Rwy'n croesawu'r pwyntiau hefyd a wnaeth y Gweinidog ynglŷn â'r cyhoeddiad a wnaed yr wythnos diwethaf am ddyfodol y gwasanaeth prawf. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r beirniadaethau o hynny a wnaeth Leanne Wood y prynhawn yma. Rwyf i o'r farn ei bod hi yn llygad ei lle, a'r hyn y byddem i gyd yn hoffi ei weld, rwy'n credu, ar wahanol ochrau i'r Siambr hon, yw dychwelyd at ddarpariaeth gyhoeddus safonol a rheolaeth gyhoeddus o'r gwasanaeth hwnnw i sicrhau bod anghenion y troseddwr a'r gymuned yn dod yn gyntaf ac nad ydym ni'n dilyn y llwybr, yn anfwriadol, o wneud elw preifat yn ffactor ysgogol i gyflenwad y gwasanaeth hwnnw.
Fel eraill y prynhawn yma, rwyf innau wedi darllen adroddiad Pwyllgor Dethol Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin gyda diddordeb mawr. Roedd y pwyllgor dethol wedi gallu nodi'r holl broblemau sy'n wynebu'r gwasanaethau, ond yn anffodus nid oedd yn gallu cytuno ar unrhyw ddatrysiadau i'r problemau hynny. Pethau felly yw pwyllgorau dethol yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnom ni'r prynhawn yma i ddeall bod nodi'r problemau yn gam cyntaf, ond ein gwaith ni, ac yn sicr eich gwaith chi, Gweinidog, fel Llywodraeth, yw dod o hyd i'r atebion hynny.
Rwy'n gobeithio y gallwn ni symud yn gyflym, yn gyntaf i sefydlu system i ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol, neu sydd mewn perygl o fod yn y gyfundrefn honno. Mae hynny'n golygu y bydd angen inni droi at y polisi dedfrydu hefyd. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, eich bod chi wedi cael cyfle i drafod y materion hyn gyda'r farnwriaeth i sicrhau bod polisi dedfrydu yn ystyried datblygiad polisi yn fwy eang yn y maes hwn, ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n dadlau ein hachos. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wneir am ganolfan i fenywod sy'n lleol i fenywod mewn gwahanol ranbarthau o'r wlad, ac mae hynny'n dadlau o blaid mwy nag un ganolfan ac nid dim ond un ganolfan sydd wedi cael ei hadeiladu er hwylustod i'r gwasanaeth ei hun ac nid er hwylustod y bobl a fydd yn derbyn y gwasanaeth hwnnw.
Ac rwy'n gobeithio hefyd, Gweinidog, y gallwn ni gytuno y bydd y ganolfan hon i fenywod yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hollbwysig, yn fy marn i, ein bod ni'n symud i ffwrdd oddi wrth y trafodaethau am garchar i fenywod, a gafwyd yn y gorffennol. Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau y bydd canolfan i fenywod yn sefydliad cwbl wahanol a'i fod yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru, a'r gwasanaethau a ddarperir yno'n cael eu darparu ar gyfer menywod fel unigolion a hefyd ar gyfer plant ac ar gyfer menywod yn benteuluoedd, a'n bod ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, nid mewn ffordd sy'n cosbi'n unig, ond mewn ffordd sy'n eu galluogi i gyrraedd eu potensial a chael byw fel y bydden nhw'n dymuno byw.
O ran pobl ifanc, rwyf i o'r farn bod y ffordd yr ydym ni'n trin plant a phobl ifanc ynddi heddiw yn gwbl drychinebus. Mae'r ganolfan i droseddwyr ifanc yng ngharchar y Parc yn cael ei staffio gan bobl sy'n gweithio'n eithriadol o galed i wneud eu gorau glas er mwyn y bobl sydd yno. Ond gwyddom fod angen cyfleusterau penodol ar gyfer pobl ifanc, ac mae angen sicrhau hefyd bod y bobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol heddiw yn cael cyfle i greu bywydau fydd yn wahanol yn y dyfodol, ac mae hynny'n golygu hyfforddiant ac addysg sy'n eu galluogi nhw i wneud hynny.
Yn olaf, gadewch i mi ddweud hyn, Gweinidog: roeddwn i'n falch iawn o glywed y datganiad a wnaethoch chi'n gynharach, ond hefyd eich ymrwymiad i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Rydym yn y sefyllfa hurt heddiw lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu cyflawni ei pholisi ei hun yng Nghymru, ond nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu cyflawni ei pholisi hithau ychwaith. Felly, mae gennym ddwy Lywodraeth nad ydyn nhw'n gallu cyflwyno polisi mewn un maes. Mae hi'n hen bryd—ac mae hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd cyfrifoldeb am hyn—i bobl Cymru gael eu gwasanaethu yn dda gan y rhai a etholwyd i wneud penderfyniadau ar y materion hyn. Mae'r methiant i fynd i'r afael â datganoli'r system cyfiawnder troseddol yn gerydd sefydlog i'r seneddau ar hyn o bryd. Y bobl sy'n dioddef canlyniadau hynny yw'r bobl sydd, yn fwyaf tebyg, yn lleiaf galluog i beri i newid ddigwydd. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, pan fyddwch chi'n cyfarfod â Gweinidogion y DU, y byddwch chi'n ei gwneud hi'n gwbl glir iddyn nhw mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod gennym ni system sy'n addas at y diben, ac mae hynny'n golygu datganoli'r system yn ei chyfanrwydd i ganiatáu i ni ddilyn y polisi cyfannol yr ydym ni ac eraill yn awyddus i'w weld yn cael ei gyflawni er mwyn pobl y wlad hon.
Rwy'n diolch yn fawr iawn i Alun Davies am ei gwestiynau ac am ei ymrwymiad parhaus i symud ymlaen. Rwyf wedi rhoi teyrnged i'r gwaith y gwnaethoch chi ymgymryd ag ef. Rwy'n cofio bob amser i Alun Davies ddangos ei ymrwymiad i'r maes polisi hwn, a'i ymrwymiad ef i'r maes polisi hwn sydd wedi helpu i ddod â ni i'r fan lle gallaf i nid yn unig gyhoeddi glasbrintiau ar gyfer pobl ifanc, cyfiawnder ieuenctid a throseddu gan fenywod, ond y cynlluniau gweithredu hefyd. Credaf mai dyna'r hyn y byddech chi wedi dymuno ei weld gennyf fi fel eich olynydd—sef,, mewn gwirionedd, bod a wnelo hyn â gweithredu.
Cyhoeddais y cynlluniau gweithredu hynny er mwyn i chi, Aelodau'r Cynulliad— a byddwn yn gobeithio bwrw ymlaen â hyn o ran craffu a chyfle gyda'n partneriaid i weld sut mae hyn—. Mae'n rhaid i hyn gael ei gyflawni. Wrth gwrs, mae'n golygu ymrwymiadau gweinidogol ledled Llywodraeth Cymru o ran iechyd, gofal cymdeithasol, tai, dysgu, addysg—mae rhan i bob un ohonyn nhw—a'n partneriaid hefyd. Rwy'n falch iawn bod y comisiynydd plant, er enghraifft—rwyf i wedi cwrdd â hi i siarad am y glasbrint cyfiawnder ieuenctid—yn rhagweld ymgysylltu â hynny o ran bwrw ymlaen â hyn.
Ydw, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ystyried sut y gall canolfannau preswyl i fenywod ddiwallu'r anghenion—nid yn unig ddiwallu anghenion y menywod yn y cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu, ond hefyd bod y gwasanaethau datganoledig yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw yn chwarae rhan gyflawn a phwysig.
Rydych chi'n gwneud pwyntiau allweddol ynglŷn â chyfiawnder ieuenctid. Mae dedfrydau cymunedol nad ydyn nhw'n rhai gwarchodol yn dibynnu'n llwyr ar wasanaethau sydd wedi cael datganoli, nid yn unig o ran gwasanaethau troseddau ieuenctid a menywod—ac mae'n rhaid inni edrych ar faterion dedfrydu, a ddaeth yn amlwg iawn yn adroddiad canolfan llywodraethiant Prifysgol Caerdydd. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith a gaiff dedfrydau tymor byr ar ddarpariaeth unrhyw wasanaethau ailsefydlu sy'n ystyrlon—er enghraifft, ceir problemau arbennig yng ngharchar Caerdydd—ond gan gydnabod hefyd, o ran cyfiawnder ieuenctid, y ffaith bod gennym ran mor allweddol i'w chwarae.
Mae hyn yn rhannol er mwyn ymateb hefyd i'r cwestiynau blaenorol gan Leanne Wood am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'n rhaid inni weithio gyda'n gilydd i roi ar waith y modelau gwasanaeth a amlinellir yn y glasbrint. Mae potensial i sicrhau gostyngiad mewn profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ogystal â chreu dulliau ataliol grymus ac arloesol. Felly, mae gennym gymaint o fewn ein pwerau a'n cyfrifoldebau ni. A dyna pam yr wyf yn edrych ymlaen at yr argymhellion a fydd, mi gredaf, yn y maes hwn, yn cael eu cyflwyno gan gomisiwn Thomas o ran gweithredu'r system gyfiawnder yng Nghymru i'r dyfodol.
Rwy'n falch iawn nad yw eich datganiad chi'n colli golwg ar adroddiad Corston a'i drywydd arloesol. Cyhoeddwyd adroddiad Jean Corston 12 mlynedd yn ôl, ac ychydig iawn o gynnydd sydd wedi bod hyd yn hyn. Mae angen i ni ein hatgoffa ein hunain mai'r hyn a ddywedodd Corston oedd mai dim ond y menywod hynny sy'n achos perygl i'r gymuned sydd angen eu carcharu, a chan hynny nid oes angen carchar i fenywod arnom ni yng Nghymru, gan y byddai cyn lleied ohonyn nhw na fyddai modd cyfiawnhau hynny. Yr hyn yr hoffwn i ei wybod yw ychydig mwy am swyddogaeth canolfannau i fenywod, gan fod Llywodraeth y DU yn sôn am bump. Wel, nid ydym ni'n dymuno cael canolfannau menywod enfawr. Fe fyddem ni'n hoffi rhai sy'n galluogi i gymuned fechan o bobl ganolbwyntio ar adsefydlu ar gyfer bod yn gweithio ar y broses honno. Nid oes angen dim ond un arnom ni i Gymru, neu ddau; mae angen sawl un arnom ni, tra bod menywod yn cael eu sugno i mewn i'r system cyfiawnder troseddol o hyd. Ond mae'n amlwg bod angen cynlluniau peilot arnom ni i sicrhau ein bod ni'n gwybod pa batrwm sy'n gweithio orau, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Yn amlwg, fe fyddai'n rhaid i fenyw sydd, er enghraifft, yn gaeth i ddibyniaeth ac sy'n cael ei sugno'n ôl i gangiau troseddwyr i werthu cyffuriau gael ei symud oddi wrth ddylanwad y criw hwnnw, fel arall fe fydd hi'n anodd iawn iddi gefnu ar hynny. Felly, gallai canolfan i fenywod gryn bellter i ffwrdd fod â rhan bwysig iawn yn hynny.
Ond yr hyn yr wyf i am ganolbwyntio arno yw rhan plant. Rydych chi wedi sôn eisoes am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Gwyddom fod plant carcharorion yn llawer mwy tebygol na neb arall o'u cael eu hunain yn y system cyfiawnder troseddol, oherwydd yr effaith ofnadwy y mae cael rhiant yn y carchar yn ei chael ar eu cyfleoedd nhw mewn bywyd. Felly, fe hoffwn i ddeall ychydig yn well pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi yn yr adolygiad hwn o adroddiad Arglwydd Farmer nid trwy ddim ond edrych ar y berthynas rhwng menywod a chadw cysylltiad â'u plant, ond, mewn rhai amgylchiadau, galluogi plant i fyw gyda'u mamau, nid dim ond rhwng eu geni a 18 mis, sef yr hyn sy'n bosibl ar hyn o bryd yn y system garchardai. Does dim rheswm pam na allai plant fyw gyda'u mam a mynd i'r ysgol a'r coleg a gweithio yn y ffordd arferol, dan yr amgylchiadau cywir, lle na fo'r menywod eraill yn y ganolfan yn fygythiad corfforol a threisgar i'r plant hynny.
Ond fe hoffwn i wybod ychydig bach mwy am ba mor radical y byddwn yn gallu bod o ran archwilio'r cynlluniau peilot yn y canolfannau i fenywod a sut y gallwn ni gael penderfyniad ynghylch lleoliad y ganolfan neu'r canolfannau menywod cyntaf yng Nghymru, cyn i ni weld y chwrligwgan cyson o Weinidogion carchardai. Hynny yw, roedd Rory Stewart yn Weinidog carchardai effeithiol iawn ac yn mynd i'r afael â materion gwirioneddol bwysig, fel swyddogion carchardai yn gwerthu cyffuriau mewn carchardai, ond sut allwn ni gyfnerthu'r gwaith da a wnaethpwyd os na bydd unrhyw Weinidog carchardai yn para'n hir iawn o gwbl? Ac yng nghyd-destun y gystadleuaeth am arweinydd sydd ar fin digwydd ymhlith y blaid Dorïaidd ar gyfer y Prif Weinidog nesaf, sut allwn ni ddechrau sefydlu'r ganolfan gyntaf i fenywod fel y gallwn ni gael gweld beth sy'n gweithio, beth sy'n gweithio i fenywod, a beth sy'n gweithio i blant ar gyfer lleihau'r lefel echrydus o lithro'n ôl i droseddu sydd gennym ni?
Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau a'r cwestiynau hollbwysig hynny. Rwy'n falch eich bod wedi tynnu sylw at adroddiad arloesol Jean Corston 12 mlynedd yn ôl ar y mater hwn, ynglŷn â pha mor agored i niwed y mae menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rydych chi a Julie Morgan a Julie James, ac eraill ar draws y Siambr—Leanne Wood ac eraill—wedi codi'r materion hyn o ran sut y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn—a gyda chefnogaeth Alun pan oedd yntau yn y swydd weinidogol hefyd. Mae gormod o fenywod wedi cael eu hanfon i'r carchar, yn aml am y troseddau diannod lefel isel hynny. Mae effaith carcharu, fel y dywedais, wedi bod yn drychinebus iddyn nhw a'u teuluoedd, ac nid yw'n cyflawni dim o ran triniaeth, adsefydlu nac unrhyw-. Mae gwaith yn cael ei wneud-gan Lywodraeth y DU-i leihau nifer y menywod sydd yn y ddalfa am lai na 12 mis.
Ond heb y cyfleuster newydd o ganolfannau preswyl i fenywod, bydd tua 175 o fenywod o hyd ar unrhyw amser yn garcharorion am 12 mis, i ffwrdd o'u teuluoedd a'u cymunedau. Felly, mae'n rhaid i hyn ddod i ben, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd y cyfrifoldeb hwn bellach gyda'n pwerau ni a chyda'r glasbrintiau hyn heddiw, ac mewn cynlluniau gweithredu, sydd mewn gwirionedd wedi cael eu cefnogi nawr gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Felly, dyma'r amser i wneud hyn, ni waeth beth fydd gwleidyddiaeth y dyfodol. Nawr yw'r amser i afael ynddi. Felly, mae'r ymateb, yn fy marn ni, ar draws y Siambr gan Aelodau Cynulliad yn werthfawr iawn o ran y neges y bydda i'n mynd â hi'n ôl at Weinidogion yn Llywodraeth y DU.
Rwy'n falch eich bod chi wedi sôn am adroddiad Arglwydd Farmer o ran plant, oherwydd rydym ni'n ystyried canolfannau preswyl i fenywod, ac rwyf eisoes wedi gwneud sylwadau ar bwy all fod yn briodol ac yn gymwys ar gyfer y canolfannau hynny, ac mae angen i ni gyd-gynhyrchu i edrych ar—er enghraifft, rydym wedi cydweithio'n agos iawn â grŵp Menywod mewn Cyfiawnder Cymru a'u cyfraniad parhaus. Mae hwnnw'n cael ei gyd-gadeirio gan Ddirprwy Gomisiynydd yr heddlu a throseddu Heddlu De Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru. Ond hefyd, yn amlwg, rydym wedi gweithio gyda grwpiau ymgyrchu sy'n ymwneud â'r mater hwn, yn enwedig wrth fwrw ymlaen.
Mae'r Arglwydd Farmer wedi bod yn adolygu sut y gallwn ni gefnogi dynion yn y carchar yng Nghymru a Lloegr i ymgysylltu â'u teuluoedd er mwyn lleihau aildroseddu. Ond gofynnwyd iddo wneud darn pellach o waith a fydd yn ystyried a ellid addasu, ac ym mha fodd, pob un o argymhellion yr adolygiad ar gyfer troseddwyr benywaidd hefyd. Roedd hynny'n canolbwyntio ar ddynion yn y carchar yn wreiddiol, ond gofynnwyd i Arglwydd Farmer ehangu ei gylch gwaith a gwneud argymhellion ychwanegol ar gyfer menywod sydd ar ddedfrydau cymunedol a menywod yn y gymuned ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau. Felly, byddaf i'n parhau gyda hyn o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i blant. Yn fy marn i, nid oes raid inni fod yn ddeddfol ynghylch y pwynt hwn am batrymau posibl o ganolfannau preswyl i fenywod. Ond mae'n rhaid inni fod yn eglur iawn ynglŷn â'r hyn y mae hyn yn ei olygu o ran cyswllt â phlant a chyda phlant o ran y canolfannau preswyl hynny i fenywod. Rwy'n ddiolchgar am y cwestiynau hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.