Cwestiwn Brys – Senedd Cymru ar 11 Mehefin 2019.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad diweddar gan Ford ynghylch Ffatri Beiriannau Pen-y-bont ar Ogwr? (EAQ0007)
Gwnaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn brys? Mae hyn yn amlwg yn peri trallod a gofid mawr i'r rhai y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnyn nhw. Gallai fod y golled fwyaf o ran swyddi mewn cenhedlaeth, a'r golled unigol fwyaf o swyddi ers datganoli. Rwyf wedi dechrau'r broses o sefydlu tasglu i weithio gyda phartneriaid dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i helpu i ddod o hyd i ateb hirdymor, cynaliadwy ar gyfer y safle a'i weithlu.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Gwyliais y safle hwnnw'n cael ei adeiladu. Gwyliais i'r trenau'n dod i'r safle o labordy cemeg Ysgol Gyfun Brynteg gan ei fod mor agos. A nawr, mae'n ymddangos, mae yna bosibilrwydd mawr y byddaf yn gweld y safle yn cau. Gweinidog, mae economi Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwneud yn dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond mae hyn yn ergyd i galon y dref. Ni chafwyd rhybudd, i'r gweithwyr nac i Lywodraeth Cymru, ac am 40 mlynedd, gwnaeth y gweithwyr yn Ford yr hyn a ofynnwyd iddynt, a dyma sut y cawson nhw eu had-dalu. Gweinidog, ymddengys fod y penderfyniad wedi'i wneud yn gymharol ddiweddar, ryw wythnos efallai cyn cyhoeddi'r penderfyniad. Rwy'n clywed bod cyfweliadau'n dal i gael eu cynnal yn y ffatri wythnos cyn y penderfyniad, ac yn wir, yr oedd contractau'n dal i gael eu rhoi rai wythnosau cyn y cyhoeddiad. Gweinidog, rwy'n pryderu ynghylch yr hyn a newidiodd yn y cyfamser, a'r unig beth y gallaf i feddwl amdano yw'r sôn cynyddol am Brexit 'dim cytundeb'. Mae hynny'n rhywbeth y gwn iddo fod yn ffactor a grybwyllwyd i chi mewn sgwrs breifat, a gwn ei fod yn rhywbeth a wadwyd ganddynt wedyn yn y prynhawn. Ond y realiti yw bod pryder, nid ynghylch Brexit ond ynghylch dim cytundeb yn rhywbeth, rwy'n credu, a bwysodd yn drwm iawn ar eu meddyliau.
Gweinidog, mae'r gweithwyr yn poeni. Maen nhw'n poeni am eu dyfodol. Maen nhw'n poeni am eu pensiynau, ac mae hynny'n rhywbeth y gofynnais i Lywodraeth Cymru edrych arno'n arbennig. Ond, yn anad dim, wrth gwrs, maen nhw'n edrych yn awr i Lywodraeth Cymru am arweiniad ac am gyngor ynglŷn â'r dyfodol. Yn sicr, ni fyddaf i'n rhoi'r gorau i frwydro dros y gweithwyr hynny ac i weithio gyda'r undebau llafur, ond mae'n rhaid inni fod yn barod am bob posibilrwydd. Felly, fy nghwestiwn i, Gweinidog, yw hyn: a wnewch chi roi sicrwydd i weithwyr Ford bod popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud, ac a wnewch chi roi sicrwydd i mi ac i'r gweithwyr hynny y byddan nhw'n cael cymorth gan Lywodraeth Cymru ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio darparu dyfodol iddyn nhw ac i'r dref?
A gaf i ddiolch i Carwyn Jones am ei gwestiynau? Rwy'n cytuno â phopeth a ddywedodd am y ffordd y mae Ford wedi trin y gweithlu. Wrth gwrs, mae'r cyfleuster hwn wedi bod yn gwbl ganolog i economi'r de ers diwedd y 1970au ar ôl ei adeiladu ym 1978 gyda chymorth trethdalwyr i gartrefu'r hyn a alwyd ar y pryd yn 'brosiect Erika', y cydrannau a fyddai'n mynd i adeiladu'r cerbyd penodol hwnnw. Gwariwyd £143 miliwn i gynorthwyo Ford dros y blynyddoedd, a mwy na £60 miliwn ers 2006 yn unig. Fel y dywedodd Carwyn Jones yn gywir, mae'n ergyd drom i'r gymuned gyfan. Ac mewn ymateb iddi, byddwn yn cymryd camau pellach nag y byddem ni fel arfer yn eu cymryd trwy ddull tasglu, a byddaf yn sôn am hynny mewn munud.
Mynegais fy marn yn rymus bod Ford wedi gwneud cam gwael â'r gweithlu a phobl y rhanbarth a'r wlad gyfan wrth wneud y penderfyniad yn y ffordd y gwnaeth hynny, heb roi ystyriaeth briodol i les a llesiant y 1,700 a mwy o bobl sy'n gweithio ar y safle, nac i'r gymuned gyfan, a heb ymgysylltu â Llywodraethau'r DU na Chymru ar ddewisiadau eraill, fel yr oedden nhw wedi bod yn ei wneud tan yn ddiweddar iawn.
Cododd Carwyn Jones y cwestiwn pwysig ynghylch Brexit yn hyn o beth. Gallaf ei sicrhau fy mod i wedi codi'r cwestiwn hwn gyda Ford, a dywedwyd wrthyf er nad hynny oedd y ffactor amlycaf yn eu trafodaethau, ei fod, serch hynny, yn hynod annefnyddiol ac wedi peri iddynt fod yn fwy agored i niwed. Ac roedden nhw'n siarad yn arbennig am y mater yn ymwneud â masnachu rhwydd ar ffiniau a sut y gallai hynny ddod i ben yn arbennig gyda Brexit 'dim cytundeb'. A dim ond edrych yn ôl ar eu neges gyson ers mis Hydref y llynedd sy'n rhaid, pan wnaethant ddweud y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn drychinebus. Nawr, rwy'n falch o weld bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sydd wedi bod o gymorth mawr ers dydd Iau, wedi cadarnhau y bore yma mewn cwestiynau bod cwmnïau yn y sector wedi bod yn gwbl glir—bod angen inni adael yr Undeb Ewropeaidd â bargen sy'n caniatáu inni barhau i fasnachu yn rhwydd. Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud am y cyfleoedd a allai fod os gellir sicrhau hynny.
Mae Carwyn Jones hefyd yn codi'r cwestiwn pwysig ynghylch pensiynau. Cefais alwad gynadledda ddoe gydag undebau llafur, gyda'r awdurdod lleol, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fe wnaethom gytuno y byddai'n rhaid rhoi cymorth ar unwaith ar ffurf cynghorwyr ariannol i'r gweithlu. A gofynnais hefyd i'r rheoleiddiwr gymryd rhan yn y mater hwn cyn gynted â phosibl. Rydym yn dymuno cadw'r siarcod o Ben-y-bont ar Ogwr, ac felly mae angen cymorth ar unwaith.
Gallaf sicrhau'r Aelod y byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi'r rhai y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw. Fel y dywedais yn gynharach, bydd tair agwedd ar ein dull o weithredu. Byddwn yn canolbwyntio ar y bobl y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw, fel y gwnawn bob amser, gydag ymyriad tasglu, yn edrych ar gyfleoedd ac yn edrych ar eu hanghenion sgiliau. Ond byddwn hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar botensial y safle, ac yn archwilio pob opsiwn i ddenu buddsoddiad. A byddwn yn cydweithio â'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yr Adran Masnach Ryngwladol a Swyddfa Cymru i sicrhau gwaith arall.
Fodd bynnag, bydd trydedd elfen i'n gwaith, a fydd yn cynnwys lle. Fy atgofion o dyfu i fyny yn sir y Fflint yn ystod y 1980au ac yn ystod y 1990au sydd wedi llywio'r penderfyniad hwn. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ôl i 8,500 o bobl golli eu swyddi yng ngwaith dur Shotton, roedd arian i'w gael—roedd llawer o geir newydd, ac roedd llawer o siopau manwerthu yn llwyddiannus. Ond, o ganol y 1980au, trwy'r 1990au, a hyd yn oed hyd heddiw, daeth heriau i'r amlwg sydd wedi creithio'r gymuned gyfan honno. Ac ni fyddwn yn caniatáu i Ben-y-bont ar Ogwr gael yr un profiad ag a gafodd Glannau Dyfrdwy, yn anffodus, yn y 1980au a'r 1990au. A dyna pam yr wyf i wedi penderfynu bod yn rhaid inni gael darn penodol o waith, i ystyried sut y gallwn ysgogi economi Pen-y-bont ar Ogwr rhwng nawr a mis Medi 2020, sut y gallwn sefydlogi busnesau sy'n dibynnu cymaint ar Ford, sut y gallwn gefnogi'r gadwyn gyflenwi nid yn unig o fewn y sector moduro, ond hefyd y busnesau bach, canolig a micro niferus sy'n dibynnu ar yr arian y mae Ford yn ei roi i'r gymuned, a sut y gallwn sicrhau bod buddsoddiad y gymuned gyfan yn barod. Nid oes amheuaeth na fydd hyn wedi bod yn ergyd ofnadwy o ran balchder ac urddas y gymuned, ond byddwn yn gweithio ochr yn ochr â'r awdurdod lleol, gyda bargen ddinesig Caerdydd, gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Swyddfa Cymru, gyda phartneriaid eraill, i sicrhau bod cyflogaeth arall ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cyflogaeth o'r ansawdd uchaf, sy'n talu'n dda.
Ar ran Plaid Cymru, hoffwn gydymdeimlo â'r gweithwyr i'r eithaf. Ond hoffwn ddweud hefyd fy mod i'n eithaf dig ar eu rhan nhw y cafodd llawer o'r gweithwyr wybod drwy'r cyfryngau cymdeithasol fod y gwaith yn cau, yn hytrach na chael gwybod yn gyntaf gan Ford. Nawr, beth mae hynny'n ei ddweud wrthym am fantra teulu Ford? Mae hefyd yn hynod eironig, yn yr wythnos y daw Donald Trump i'r DU, bod cwmni Americanaidd yn cynnig symud gwaith o Ben-y-bont ar Ogwr i Fecsico o bob man. Nawr, bydd hyn yn cael effaith fawr ar yr ardal leol, fel y dangoswyd eisoes, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei ystyried yn y ddadl benodol hon. Ac os bydd y gweithwyr yn penderfynu ddydd Gwener i streicio, gallwch fod yn sicr y bydd Plaid Cymru ar y llinell biced gyda nhw yn y streic honno.
Mae'r gweithwyr yn haeddu gwell na hyn. Mae llawer o'r rhai hynny yr wyf i wedi siarad â nhw yn ystod yr wythnosau, misoedd, blynyddoedd diwethaf yn deyrngar iawn i Ford—yn wir, yn fwy teyrngar nag mewn rhannau eraill o waith Ford ledled y byd, ac rwy'n credu y dylid cydnabod hynny. Ond hoffwn i ofyn, yn ychwanegol at y sylwadau a wnaed eisoes, beth yn union y byddwch chi'n ei wneud o ran y pecyn cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Hefyd, pa sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r pecynnau hynny? Gwyddom, yn anffodus, pan fo Ford wedi cau gweithfeydd eraill yn y DU, eu bod wedi cynnig pecynnau cymorth i'r gweithwyr penodol hynny. Beth fyddwch chi'n gallu ei gynnig, a sut y byddwch yn cynnig hynny?
Mae Brexit wedi chwarae rhan. Nid oes dim dianc rhag hyn, ond mae yna elfennau eraill y mae angen i ni eu hasesu wrth edrych ar yr hyn y mae Ford wedi bod yn ei wneud. Maen nhw wedi cau ffatrïoedd yng Ngwlad Belg, maen nhw wedi cau ffatrïoedd mewn mannau eraill, ac mae angen inni edrych ar yr economi foduro yn gyffredinol a sut y maen nhw'n gweithredu yn hynny o beth.
Fel gwlad wrth symud ymlaen, i edrych yn gadarnhaol, mae angen inni ddatblygu ein seilweithiau ein hunain fel y gallwn fod yn lle sy'n ddelfrydol ar gyfer busnesau, fel y gallwn ddatblygu ein heconomïau cynhenid ein hunain hefyd. Hoffwn i wybod beth fyddai eich ymateb i syniad yr ydym mi wedi'i gynnig eisoes—i gynnal uwchgynhadledd economaidd lle mae pawb yn cymryd rhan. Gwn eich bod wedi cyhoeddi tasglu, ond hoffwn i gael sgwrs genedlaethol nid â phobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Ford yn unig, ond y rhai yn y busnesau eraill sy'n bwydo Ford, y bobl yn ein cymunedau sy'n elwa ar y ffaith bod Ford yn bodoli yma yng Nghymru. Beth ydych chi'n ei wneud i gynnwys pawb?
Nawr, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gyd barhau i fod yn obeithiol, ac mae'n rhaid i ni gynnal y gobaith hwnnw y gallwn gadw'r gwaith ar agor, a dyna pam rwy'n awyddus i weithio gyda phobl ar draws y bwlch gwleidyddol, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod Dr Dai Lloyd, ac eraill, yn dymuno cefnogi'r gweithlu. Gwyddom fod llawer o bobl wedi cael cynnig diswyddiadau gwirfoddol ychydig fisoedd yn ôl sydd erbyn hyn yn meddwl tybed beth yw'r cynnig iddyn nhw. Mae'r gweithwyr yn dymuno cael eglurder, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni roi hwnnw iddyn nhw a rhoi'r gefnogaeth haeddiannol iddyn nhw am fod yn weithwyr mor deyrngar.
A gaf i ddiolch i Bethan am ei chwestiynau a dweud cymaint yr wyf i'n rhannu ei dicter hi a dicter y gweithwyr? Ac ni fyddaf i'n ymddiheuro am fod mor ddi-flewyn-ar-dafod yn fy ymateb uniongyrchol yr wythnos diwethaf wrth glywed am y newyddion hyn. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod wedi'u bradychu, maen nhw'n teimlo eu bod wedi cael cam dirfawr, ac yn sicr nid oedd modd anwybyddu eironi amseriad y cyhoeddiad i lawer o bobl.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod angen i Ford gydnabod teyrngarwch ac ymrwymiad y gweithlu a'r gymuned trwy fuddsoddiad gwaddol sylweddol iawn, nid yn unig yn y gweithwyr ond yn y gymuned hefyd. Ac er mwyn eu hannog i ystyried buddsoddiad gwaddol sylweddol, byddaf i a'r Ysgrifenyddion Gwladol yn Llywodraeth y DU yn ysgrifennu at Ford ar y cyd, i'w hannog i fuddsoddi swm sylweddol o arian yn y gymuned ac yn y bobl hynny y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Bydd hynny'n rhan o becyn o fuddsoddiadau. Mae swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs. Nid oes dim amheuaeth am hynny, ac rydym eisoes yn ystyried sut y gallwn gefnogi nid yn unig yr unigolion a'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi, a'r busnesau niferus ar y stryd fawr a allai ddioddef o ganlyniad i hyn, ond hefyd sut y gallwn gynorthwyo'r lle ei hun—Pen-y-bont ar Ogwr—gan wneud yn siŵr, os oes cynlluniau sy'n barod am fuddsoddiad a fyddai'n cyfrannu at dwf economaidd ac at ysgogi twf economaidd rhwng nawr a mis Medi 2020, yna byddwn yn buddsoddi pa le bynnag a sut bynnag y gallwn.
Ond mae swyddogaeth hefyd i'r awdurdod lleol, wrth gwrs, o ran nodi cynlluniau tebyg a chefnogi'r cynlluniau hynny gyda ni, ac, yn hollbwysig, mae swyddogaeth gan Lywodraeth y DU, yn enwedig trwy strategaeth ddiwydiannol y DU. Ddoe ac yn wir, ddydd Gwener, bûm i'n trafod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y cyfleoedd a allai ddod i'r amlwg, yn benodol yr her Faraday a'r bargeinion sector, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gweithio'n agos iawn gyda ni. Mae ei swyddogion yn cysylltu, os nad pob awr, yn sicr bob dydd â'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru i nodi cyfleoedd i fuddsoddi.
Cododd Bethan y pwynt pwysig o ran arallgyfeirio economi Cymru, ac erbyn hyn mae gennym y nifer mwyaf erioed o fusnesau. Roeddwn i'n dweud wrth newyddiadurwyr y bore yma fod economi Cymru, mewn unrhyw wythnos benodol, yn colli rhyw 2,000 o swyddi, ond, yn ystod yr un cyfnod, mae economi Cymru yn creu ychydig dros 2,000 o swyddi, a dyna pam mae gennym lefelau mor isel o ddiweithdra a lefelau isel o anweithgarwch economaidd. Mae arallgyfeirio cyflogaeth, yr economi, yn digwydd, ond lluniwyd y cynllun gweithredu economaidd yn benodol i rymuso a galluogi busnesau yng Nghymru i addasu i realiti newydd awtomatiaeth, i fynd i'r afael â heriau diwydiant 4.0 a mynd i'r afael â'r angen i leihau allyriadau carbon. A dyna pam, yn y contract economaidd, mae un o'r pedwar maen prawf yn ymwneud â datgarboneiddio a dyna pam mae un o'r pum galwad i weithredu yn ymwneud â datgarboneiddio hefyd. Rydym eisoes yn cefnogi llawer iawn o fusnesau, yn eu hymdrechion i fod yn fwy modern yn y ffordd y maen nhw'n gweithredu, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym eisoes wedi gweld mwy na 200 o fusnesau yn ymuno â'r contract economaidd. Rydym yn annog ac yn galluogi busnesau i foderneiddio eu harferion, mae awydd a dyhead yn y gymuned fusnes i addasu i'r realiti newydd, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw. Ac yn benodol, byddwn yn gweithio gyda nhw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, lle gallan nhw, ac rwy'n ffyddiog y byddan nhw'n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd.
Diolch am y cwestiwn heddiw, Carwyn Jones, a'ch ymateb, Gweinidog. A gaf i ddechrau, fodd bynnag, trwy ddweud fy mod i o'r farn os byddwn yn rhoi gormod o bwyslais ar Brexit mewn unrhyw sgyrsiau o'r math hwn, y byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn beio popeth ar Brexit ac yn methu â gwerthuso effaith Brexit mewn gwirionedd? Felly, er fy mod i'n fodlon derbyn y gall fod elfen o hyn, rwy'n falch bod Bethan Sayed wedi gwneud y pwynt nad hwn yw'r prif reswm dros symud heddiw. Y gwir amdani yw ei bod £600 yn rhatach i gynhyrchu'r injan hon ym Mecsico nag y mae ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a dylai fod cwestiynau yma—ac efallai y gallech chi ymdrin â hyn, Gweinidog—ynglŷn â pham na wnaeth y sgyrsiau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—rwy'n gofyn y cwestiwn i'r ddau—ragweld hyn yn digwydd ychydig yn gynt. Oherwydd un o'r pethau sydd yn sicr wedi dod i'r amlwg o'r hanes truenus yr ydym wedi'i glywed yn ystod yr wythnosau diwethaf yw bod Ford gryn dipyn ar ei hôl hi o ran nodi'r chwaeth a oedd yn newid yn y farchnad Ewropeaidd a chanolbwyntio gormod, efallai, ar chwaeth wahanol iawn yn y farchnad yn America. Pam na chafodd hynny ei gyflwyno fel math o her i Ford lawer yn gynharach yn y broses, o gofio ein bod ni wedi clywed gennych chi a gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol hefyd, bod sgyrsiau gyda Ford wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn?
Tybed allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni hefyd am yr arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i Ford dros y blynyddoedd. Rwy'n derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, sef na fyddwch yn caniatáu iddynt gael rhagor o arian, ac rwy'n credu y gwnaethoch chi grybwyll bod tua £11 miliwn ar gael i'w adfachu—er y dywedodd y Dirprwy Weinidog heddiw, yn y grŵp trawsbleidiol, y byddai'r gallu i hawlio unrhyw arian yn ôl yn gymedrol yn unig. Felly, tybed a wnewch chi ddweud rhywfaint wrthym am faint o arian y gellir ei ddileu yn ystod y mater hwn i Lywodraeth Cymru, ond, am unrhyw arian yr ydych yn llwyddo i'w adfer neu i beidio â'i roi i Ford yn y lle cyntaf, sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio. A fydd y cyfan yn cael ei neilltuo i waith y tasglu, neu a fyddwch yn ystyried ei wario mewn ffyrdd eraill? Gan mai un o'r pethau nad ydym wedi clywed dim yn ei gylch ar hyn o bryd yw bod Pen-y-bont ar Ogwr o fewn ôl troed prifddinas-ranbarth Caerdydd, ond mae'n eithaf agos at ôl troed bargen ddinesig bae Abertawe hefyd, a byddwn i'n trafod â'r ddau fwrdd hynny i weld pa gymorth y gallan nhw ei roi, i weld a ellir, mewn gwirionedd, ddefnyddio sgiliau'r gweithlu hwn o fewn cynlluniau prosiect y ddau fwrdd hynny. Ac yn benodol, fel y gwyddoch chi, mae Caerdydd yn dal yn bosibilrwydd ar gyfer bod yn ganolfan Heathrow; byddwn i wedi meddwl y gallai'r gallu i gyflwyno talentau'r gweithlu hwn fel budd i'r ganolfan Heathrow honno, fod yn rhywbeth a allai fod yn hwb iddo ddod i Gaerdydd.
Ac yna, yn olaf, cwestiwn bach ynghylch cyfathrebu, rwy'n credu. Fe wnaethom ni glywed gennych chi yn ôl ym mis Chwefror fod Ford yn gobeithio clywed ymhen rhyw fis am yr injan newydd ar gyfer y 4x4 Grenadier; bu'n rhaid i mi gael gwybod o dudalennau Auto Trader fod y gwaith hwnnw wedi mynd i BMW. Rwy'n credu y byddai wedi bod yn ddefnyddiol pe byddai'r Siambr hon wedi cael gwybod hynny, gan fod gennym ddiddordeb mawr iawn yn hynny yn amlwg. Nid wyf i am ddwyn yr holl gwestiynau heddiw, ond mae cwestiwn i'w ateb o hyd ynghylch lle bydd INEOS yn ffitio yn ein darlun wrth edrych ymlaen ar hyn ac a ydych yn siarad â chwmnïau eraill ynglŷn â sut i ddatrys methiant Ford i sylwi mai trafnidiaeth werdd yw'r ffordd ymlaen. Oherwydd rydym ni'n ystyried hynny—nid ceir trydan yn unig, ond rydym yn sôn am geir hydrogen a mathau newydd o drafnidiaeth gyhoeddus, y cerbydau newydd y bydd eu hangen arnom ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus werdd yr unfed ganrif ar hugain. A ydym ni wedi ei gadael ychydig yn hwyr i gynnwys y gweithlu penodol hwn, yr arbenigedd hwn, y mae Ford ei hun yn ei gydnabod yn un gwych? A ydym ni wedi colli'r cyfle i'w cipio ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus ar ei newydd wedd yn arbennig y mae ei hangen mor ddybryd ar Gymru? Diolch.
Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad a'i chwestiynau. Mae'n rhaid imi ddweud, yn syml iawn, nid yw'n bosibl anwybyddu'r effaith y mae Brexit yn ei chael ar economi Cymru ac y bydd yn parhau i'w chael ar yr economi, a chanlyniadau enbydus Brexit 'dim cytundeb' y mae Ford a llawer o rai eraill wedi'u cyhoeddi dro ar ôl tro. Mae dwy her yn wynebu'r sector moduro yn y DU; un yw Brexit, y llall yw'r dirywiad yn yr injan hylosgi mewnol. O ran yr injan hylosgi mewnol, nid oedd rhai gweithgynhyrchwyr wedi rhagweld y ffordd y byddai'n dirywio, ac rwy'n credu bod Ford yn un ohonynt. Dyna pam eu bod ar ei hôl hi o bosibl.
O ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynghylch pam nad oeddem ni wedi rhagweld hyn, wel, roeddem ni wedi sefydlu tasglu a oedd yn cyfarfod yn rheolaidd iawn tan yn ddiweddar a oedd yn ystyried cyfleoedd ar gyfer y safle, gan weithio gyda Ford a'r undebau. Ac roeddem ni'n ystyried y cyfleoedd a allai ddeillio o raglen drydaneiddio Ford a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, a'r potensial i gynhyrchu injans hybrid yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ni nododd Ford ar unrhyw adeg fod dyfodol y ffatri dan amheuaeth; yn wir, roeddem ni'n gweithio gyda'r cwmni ac eraill, gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ar gyfleoedd i fuddsoddi yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ac rwy'n cytuno â Carwyn Jones ei bod yn ymddangos bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud yn ddiweddar iawn, a'i fod yn dipyn o ymateb i'r digwyddiadau diweddar yr amlinellodd yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr. Felly, rwyf i'n teimlo yn gryf na ddylid anwybyddu Brexit fel ffactor sy'n cyfrannu.
O ran yr amodau sydd wedi bod yn berthnasol i'r gefnogaeth yr ydym wedi ei rhoi i Ford dros y blynyddoedd, fel yr wyf wedi'i nodi eisoes, buddsoddwyd £143 miliwn o arian y trethdalwyr yn y safle, ac yn fy marn i, mae'n iawn ein bod ni wedi buddsoddi yn y safle, yn bennaf oherwydd yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig, y mae wedi cyfrannu £3.3 biliwn i'r economi leol, gan gadw llawer iawn o fusnesau bach, canolig a micro yn fyw. Mae'r amodau sy'n berthnasol i'r gefnogaeth yr ydym wedi'i rhoi ar gyfer Ford yn dal i fodoli heddiw, ond bydd llawer o'r amodoldeb wedi dirwyn i ben erbyn mis Medi'r flwyddyn nesaf. Dyna pam yr ydym yn dweud wrth Ford y dylai fod buddsoddiad gwaddol yn ôl i'r bobl sydd wedi cyfrannu at fodolaeth y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwn i'n croesawu'n fawr unrhyw ran y gallai partneriaid bargen ddinesig bae Abertawe ei rhoi i'r ymdrech i gael swyddi addas sy'n talu cyflogau uchel i'r bobl.
O ran y cyfleoedd eraill a allai ddod i Ben-y-bont ar Ogwr, ni fyddaf yn rhoi diweddariad parhaus ar yr holl drafodaethau masnachol sensitif yr ydym yn eu cael gyda darpar fuddsoddwyr—mae'r Aelod wedi nodi un—ond gallaf sicrhau Aelodau'r Siambr hon fod gan lawer o bartïon ddiddordeb yn y cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n gyfleuster enfawr; mae'n wir yn ffatri o fewn ffatri ar hyn o bryd, yn cynhyrchu'r injan Dragon mewn un rhan ond gyda lle gwag i fusnesau eraill. Ac mae'n ddigon posibl y gellid defnyddio'r safle ar gyfer nifer o fusnesau. Dylai'r flaenoriaeth, yn fy marn i, fod ar weithgynhyrchu, oherwydd byddai'r 1,700 o bobl sy'n gweithio yno ar hyn o bryd yn ddelfrydol ar gyfer cyflogaeth o'r fath. Ond ni fyddem yn diystyru defnydd amgen ac ychwanegol ar gyfer yr hyn sy'n ased eithriadol.
A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog am ymgysylltu ar unwaith ac yn uniongyrchol iawn â'r gweithwyr, ac mewn ffordd mor frwd, trwy gwrdd â'r undebau yn y safle yr wythnos diwethaf, ynghyd â Carwyn fy nghyd-Aelod, ASau lleol ac eraill, ac am fod yn y sedd flaen yn y mater hwn? Ac a gaf i adleisio popeth y dywedodd fy nghyd-Aelod Carwyn Jones ar ran nid y cannoedd ond y miloedd o bobl a gyflogir yn uniongyrchol yn Ford, ond hefyd y gadwyn gyflenwi, nid yn Ogwr a Phen-y-bont ar Ogwr yn unig ond ledled y rhanbarth, a'u teuluoedd, a'r siopau, a'r caffis sy'n dibynnu ar yr economi gylchol honno lle maent yn gwario'u harian?
Mae hyn yn drychinebus. Nid oedd y gweithwyr yn haeddu hyn. Nid oedden nhw'n haeddu'r ffordd y cafodd ei gyhoeddi. Maen nhw wedi mynd uwchlaw a thu hwnt i bob disgwyl yn ystod y degawdau diwethaf i wneud pob un peth y mae Ford wedi gofyn iddyn nhw ei wneud—pob peth: i gynyddu cynhyrchiant; i newid y ffordd y maen nhw'n cynhyrchu ar y llinellau hynny; i gyflwyno llinellau cynhyrchu newydd. Nid oedden nhw'n haeddu hyn. Mae Ford yn ddyledus i'r gweithwyr hyn ac yn ddyledus i'r cymunedau hyn. Felly, rwyf i'n croesawu'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, Gweinidog, ynghylch gwaddol, pe byddai'n cyrraedd y pwynt hwnnw, ond a gaf i ei annog, plîs, yn gyntaf, i wneud yr union beth a ddywedodd y Prif Weinidog, sef mynd yn ôl at Ford a herio'r penderfyniad hwn? Rwyf i'n credu eu bod nhw wedi gwneud y penderfyniad anghywir. Rwy'n credu bod hwn yn weithlu cynhyrchiol, hyfedr, hynod effeithiol ac maen nhw'n haeddu'r cyfle i herio hyn yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Ond fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yw hyn: os yw'r penderfyniad yn derfynol a bod Ford yn mynd i gerdded i ffwrdd, yna dylen nhw yn wir adael gwaddol, ond gofynnaf ddau beth. Yn gyntaf, wrth groesawu'r tasglu a'r ymagwedd tuag at ddull gweithredu sy'n seiliedig ar le, a gaf i ofyn i'r Gweinidog sicrhau ein bod ni yn nodi'r meysydd hynny lle gallwn gyflymu'r broses fuddsoddi nid yn unig ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei hun a'r cyffiniau agos, ond hefyd yn ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr? Oherwydd bydd yr effaith yn yr ardal ehangach honno sef hen ardal Morgannwg Ganol. Ac wrth wneud hynny, byddai o gymorth—ac rwy'n siŵr y bydd yn dymuno gwneud hynny—i ymgysylltu ag awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr ei hun ac arweinydd y cyngor yno a'i gabinet. Oherwydd bod ganddyn nhw—ac rwy'n gwybod eu bod wedi bod yn trafod—syniadau eisoes am yr hyn a all ysgogi'r economi, yr hyn a all roi hyder i'r gymuned fusnes na fydd yn yr un sefylllfa ag yr oedd sir y Fflint ddegawdau yn ôl. Bydd hyn yn rhywbeth y byddwn yn ymyrryd ynddo a byddwn yn cymryd camau ac yn gwneud yn siŵr bod hon yn economi ffyniannus a bod dyfodol i'r bobl hyn. Felly, byddwn i'n gofyn y ddau beth hynny: maint y buddsoddiad, cyflymder y buddsoddiad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a gweithio gyda'r awdurdod lleol, os gwelwch yn dda, Gweinidog.
A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei sylwadau ac am ei gwestiynau a dweud ein bod wedi ysgwyddo arweinyddiaeth y mater ar unwaith? Rydym wedi cydio yn y gwaith o lywio'r her hon ar unwaith oherwydd bod gennym ni brofiad helaeth o ymyrryd yn llwyddiannus drwy ein hymagwedd tasglu a brofwyd, fel y gwnaethom yng Nghaerdydd pan wnaeth Tesco y cyhoeddiad am gau, pan wnaeth Virgin yn Abertawe y cyhoeddiad. Fe wnaethom ni ymyrryd ar unwaith, gan roi'r gefnogaeth angenrheidiol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt i sicrhau eu bod yn cael gwaith arall cyn gynted â phosibl ac yn osgoi cyfnodau hir o ddiweithdra.
Wrth gwrs, byddaf i'n herio penderfyniad Ford, byddaf. Ni wireddwyd nifer y peiriannau a oedd wedi eu darogan ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Fodd bynnag, rhagfynegir y bydd y galw am injan Dragon yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf. Os nad ydyn nhw'n newid eu meddwl, bydd y niferoedd uwch hynny'n cael eu gwireddu ym Mecsico yn hytrach nag ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac nid ydym am dderbyn hynny. Byddwn yn gwrthwynebu cau'r safle. Fodd bynnag, mae'n rhaid inni gynllunio ar gyfer pob digwyddiad, a bydd y dull sy'n seiliedig ar le, sy'n ddimensiwn newydd i'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud, yn canolbwyntio ar sicrhau bod y gymuned yn barod ar gyfer bywyd ar ôl Ford.
Rwyf i eisoes wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag arweinydd yr awdurdod lleol, sydd wedi bod yn garedig iawn yn rhoi cyfres o gyfleoedd buddsoddi posibl i Lywodraeth Cymru. Gallai wneud yn union fel y dywedodd Huw Irranca-Davies. Ac maen nhw'n fwy na chyfleoedd sy'n gyfyngedig i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr, i'r ardal gyfagos a gefnogir gan Ford ar hyn o bryd. Ymyriadau yw'r rhain ar gyfer yr ardal gyfan lle daw gweithwyr Ford ohoni a lle mae Ford yn cefnogi busnesau bach lleol. Byddwn yn arfarnu'r holl opsiynau hynny. Byddwn yn edrych ar opsiynau eraill hefyd, a byddwn, trwy'r tîm rhanbarthol newydd, yn cefnogi'r awdurdod lleol i ymateb i'r her hon.
Gweinidog, er fy mod i'n diolch ichi am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach, roeddwn i'n synnu na chafwyd datganiad llafar am benderfyniad Ford i gau'r ffatri injan ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â bod yn newyddion torcalonnus i'r gweithlu a Phen-y-bont ar Ogwr, mae hefyd yn ergyd drom i Orllewin De Cymru. Er fy mod yn gobeithio y bydd Ford yn gweld eu camgymeriad, nid wyf i'n siŵr y byddan nhw, o gofio'r economi fyd-eang a chamau i flaenoriaethu swyddi yn America. Gweinidog, rydych chi wedi nodi bod tasglu wedi'i sefydlu, a chroesewir hyn yn fawr. A fydd y tasglu yn chwilio am brynwyr eraill ar gyfer y safle, ac a ydych chi wedi trafod y posibilrwydd hwn gyda Ford? Sut y bydd yr arian a gaiff ei adfer yn cael ei ddefnyddio—£11 miliwn, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall? Mae Ford wedi dweud nad yw Brexit wedi chwarae rhan yn y penderfyniad hwn ac mae'r posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' wedi'i drafod ers y tair blynedd diwethaf, felly prin ei fod yn gysyniad newydd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni edrych ar bosibiliadau eraill o ran pam y gwnaed y penderfyniad hwn. Rwy'n cydymdeimlo â'r holl weithwyr a'r teuluoedd y mae'r penderfyniad hwn yn effeithio arnyn nhw.
Mae yna linell yn Jaws lle mae Chief Brody yn dweud wrth y maer y bydd yn anwybyddu'r broblem hon hyd nes iddi ei frathu yn ei ben-ôl, a dyna, rwy'n ofni, yw'r hyn y bydd pobl Brexit Cymru yn ei wneud: parhau i anwybyddu'r problemau y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn eu hachosi i bobl y wlad hon a'n heconomi nes iddi ddod a chymryd eu swyddi oddi arnyn nhw. Dyna pryd y byddan nhw'n dechrau cwyno am y problemau y mae Brexit yn eu hachosi. Ac rwy'n ofni na fyddwn ni'n sefyll o'r neilltu ac yn gadael i economi ein gwlad gael ei difetha gan bobl nad oes ots ganddyn nhw am gyflogaeth yng Nghymru; nad oes ots ganddyn nhw am swyddi yng Nghymru; ac a fyddai'n well ganddyn nhw uniaethu â'r Arlywydd Trump, sy'n addo llawer iawn i'r DU, ond y mae ei gwmnïau, fel y dywedodd yr Aelod ei hun, yn rhoi blaenoriaeth i swyddi yn America dros ein swyddi ni.
Mae Brexit yn fater real iawn i'n gwlad ni. Rwyf i wedi nodi o'r blaen gyfleoedd buddsoddi sydd wedi eu colli neu eu hatal o ganlyniad i Brexit 'dim cytundeb' ddod yn fwy amlwg a real. Ac nid yw hynny, mae arnaf i ofn, yn mynd i wneud dim ond dwysáu yn y misoedd nesaf. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu gwaith gwerthfawr i bobl yn y wlad hon, ond rwyf i yn gobeithio y bydd y rhai hynny sy'n anwybyddu bygythiad Brexit 'dim cytundeb' yn callio ac yn sylweddoli bod yn rhaid sicrhau cytundeb neu bod yn rhaid inni ofyn y cwestiwn i'r bobl eto.
A gaf i ofyn, Gweinidog, pa mor rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran sicrhau bod ei buddsoddiad yn cael ei wario'n eang gan Ford ar gyfleoedd amgen i'r safle, gan gynnwys, wrth gwrs, cyfleoedd buddsoddi i ddechrau cynhyrchu injans trydan ym Mhen-y-bont ar Ogwr? Rydych chi wedi amlinellu'r swm mawr o gymorth cyfalaf sydd wedi'i ddarparu i Ford, ond a gaf i ofyn i chi pa fath o werthusiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r arian sydd wedi ei wario, yn yr un modd ag y mae wedi'i wneud ar gyfer Tata? Ac mae eraill wedi gofyn y cwestiwn hwn i chi ac rydych chi wedi'i ateb i ryw raddau, ond nid yn hollol glir, felly efallai y gallech chi ymhelaethu ar hyn: faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn credu y gall ei gael yn ôl gan Ford a phryd y bydd yn gwybod mwy o fanylion am faint y gellir ei adennill?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar yr union ffigurau am yr amodau sy'n gysylltiedig â'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i chynnig, ac yn cyfrifo faint o'r swyddi fydd yn dal i fod dan amod ym mis Medi 2020. A dweud y gwir, roeddwn i ar fai yn peidio ag ateb un pwynt penodol a wnaed gan Suzy Davies ynghylch y newid i gerbydau hybrid a thrydanol. Rwy'n credu bod gwerth myfyrio ar y ffaith bod gan Gymru ei hun arweinydd ym maes pwerwaith modur newydd sy'n seiliedig ar dechnoleg hydrogen, sef Riversimple yn y canolbarth, sydd wedi gallu datblygu ei gynnyrch a'i dechnoleg o ganlyniad i'r gefnogaeth y mae'r Llywodraeth Cymru hon wedi ei rhoi iddo. Ac rydym ni'n falch iawn hefyd o gael un o'r cynigion mwyaf uchelgeisiol i gael fflyd o fysiau a thacsis dim allyriadau yn y DU, gyda fflyd dim allyriadau erbyn 2028, ac rwy'n falch bod Banc Datblygu Cymru yn gweithio ar hyn o bryd ar y cymorth y gallai fod ei angen i gyflawni'r targed hwnnw.
Yn ogystal â hyn, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod eisoes, bydd metro de Cymru—cynllun hynod uchelgeisiol—yn arwain at drydaneiddio wedi'i bweru 100 y cant gan ynni adnewyddadwy, a hanner hwnnw'n dod o Gymru. Fodd bynnag, ceir rhai gweithgynhyrchwyr cerbydau, a cheir yn arbennig, nad ydyn nhw'n gweld cyflymder y newid sy'n digwydd ar hyn o bryd, ac sydd ar ei hôl hi. Gallwn wneud popeth o fewn ein gallu i gymell, galluogi a grymuso'r busnesau hynny i newid, ond yn y pen draw, mater i'r penderfynwyr hynny yn y busnesau hynny yw derbyn yr hyn sy'n anochel a chroesawu'r newid a'r cymorth y gallwn ni eu cynnig. Ac rwyf i'n meddwl tybed i ba raddau y mae'r ffaith bod Ford yn gwmni Americanaidd yn cyfrannu at iddo beidio â chydnabod efallai yr argyfwng newid yn yr hinsawdd—rwyf yn meddwl tybed a ydyn nhw yn wirioneddol ymrwymedig i newid i economi werdd a cherbydau dim allyriadau.
Wrth gwrs, rwyf eisoes wedi amlinellu, o ran gwerthuso, y cyfraniad y mae Ford wedi'i wneud i'r economi leol dros y blynyddoedd. Am fuddsoddiad o ychydig dros £60 miliwn gan Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi gweld £3.3 biliwn yn dychwelyd i economi Pen-y-bont ar Ogwr a'r rhanbarth ehangach. Rydym ni o'r farn bod hynny'n adenillion sylweddol a derbyniol iawn ar fuddsoddiad, sy'n dod i fwy na £300 miliwn ar gyfartaledd bob blwyddyn am y 10 mlynedd diwethaf, o'i gymharu â'r oddeutu £60 miliwn yr ydym ni wedi'i fuddsoddi yn y cwmni. Rydym ni hefyd wedi gallu gwneud yn siŵr, trwy ein buddsoddiadau, bod y gweithwyr hynny'n meddu ar sgiliau da a'u bod wedi'u hyfforddi'n dda ac yn gallu defnyddio'u sgiliau mewn cyflogaeth arall, ac rwy'n hyderus, trwy waith y tasglu, y byddwn yn gallu sicrhau bod y rhai sy'n dymuno aros mewn cyflogaeth yn cael cyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau ardderchog mewn swyddi tebyg.
Hoffwn i wasgu dau gwestiwn arall i mewn, felly os gallan nhw fod mor gryno ag sy'n bosibl, ac rwy'n edrych ar y ddau ohonoch chi. David Rees.
Diolch, Llywydd, a byddaf i mor gryno â phosibl, felly, ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud eisoes. Ond, yn amlwg, byddaf i'n cysylltu fy hun â'r sylwadau gan yr Aelod dros Ogwr a'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr ar y mater hwn, a, Gweinidog, diolch ichi am yr atebion.
Dim ond un neu ddau o bwyntiau cyflym felly, oherwydd, yn amlwg, mae llawer o'm hetholwyr yn gweithio yn Ford. Mewn gwirionedd, rwy'n adnabod ffrindiau a theulu ffrindiau sy'n gweithio yno. Ond pan ddigwyddodd y mater ym Mhort Talbot, sefydlwyd tasglu. Un o'r ffrydiau a sefydlwyd ganddo oedd ffrwd iechyd a lles, sy'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y rhai y mae'r penderfyniad hwn gan Ford yn effeithio arnyn nhw yn gallu cael y math hwnnw o gymorth. A wnewch chi sicrhau, felly, fod y tasglu hefyd yn sefydlu ffrwd debyg yn y sefyllfa hon i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi?
O ran y sylw a wnaed ar bensiynau gan yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, ac rydych chi'n tynnu sylw at y ffaith nad ydych chi'n dymuno i'r siarcod ddod i mewn, wel, gwelsom y siarcod yn dod i Bort Talbot. A fyddwch chi'n trafod gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol i sicrhau nad ydyn nhw'n dod i Ben-y-bont ar Ogwr hefyd? A dweud y gwir, mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn cynnal sesiwn ym Mhort Talbot ddydd Gwener, yn arbennig ynglŷn â hynny, ac efallai y byddai'n werth cael trafodaeth gyda nhw ynghylch y pwynt hwnnw.
O ran unrhyw setliadau diswyddo sy'n cael eu gwneud, mae'r undebau wedi dweud wrthym eu bod nhw, yn y bôn, yn credu mai llwgrwobr yw'r rhain i'r gweithlu yn rhannol er mwyn iddyn nhw dderbyn y cytundebau hynny a derbyn penderfyniad Ford, a byddwn yn gweld canlyniad hynny ddydd Gwener mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir gan yr undebau. A wnewch chi hefyd edrych gyda'r Trysorlys ar y goblygiadau o safbwynt y Trysorlys ar y taliadau hynny, oherwydd efallai y bydd llawer o bobl yn gweld ffigurau mawr, ond efallai na fyddan nhw'n deall beth yw canlyniadau'r ffigurau hynny a faint y gall fod angen iddyn nhw ei dalu i'r Trysorlys yn y pen draw, yn ôl i Lywodraeth y DU?
Yn olaf, o ran materion y gadwyn gyflenwi, rydych chi wedi sôn am y gadwyn gyflenwi eisoes, a wnewch chi edrych yn ofalus iawn ar y gadwyn gyflenwi? Rydym ni wedi gweld cyhoeddiad Ford, rydym ni wedi gweld yr un yng Nghasnewydd ac rydym ni wedi gweld cyhoeddiadau Calsonic—mae hyn yn effeithio ar y cadwyni cyflenwi hefyd. A fyddwch chi'n gweithio gyda'r cadwyni cyflenwi i edrych ar sut y gallan nhw fynd i'r afael â'r dyfodol mewn gwirionedd? Rydym ni wedi sôn am injans ac injans hybrid, ond mae angen cymorth ar y cadwyni cyflenwi hefyd i newid eu cynlluniau a gweithio ar gyfer yr injans a'r gweithgynhyrchu hynny. A fyddwch chi'n gweithio gyda'r cadwyni cyflenwi i sicrhau eu bod nhw'n gallu ateb gofynion injans y dyfodol hefyd?
A gaf i ddiolch i David Rees am ei gwestiynau a'r pwyntiau pwysig y mae'n eu gwneud am iechyd meddwl a lles y rhai y bydd y penderfyniad hwn yn effeithio arnynt, nid dim ond y gweithwyr, ond eu teuluoedd, a'r bobl a gyflogir mewn gwahanol fusnesau sy'n dibynnu ar y cyfraniad y mae Ford yn ei wneud i'r economi leol? Gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y bwrdd iechyd yn rhan o'r tasglu, ac, ar yr amod bod Ford yn rhoi mynediad i'r tasglu, byddwn yn rhoi cymorth ar unwaith i'r rhai y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Dywedais wrth Ford dros y ffôn ddydd Iau na fyddaf i'n aros 12 mis i'r ymgynghoriad ddod i ben cyn i'r tasglu allu mynd i'r busnes i gefnogi pobl. Rwyf i eisiau cael mynediad ar unwaith i'r bobl hynny a rhoi cymorth ar unwaith o ran eu lles, oherwydd rydym ni'n gwybod bod cyhoeddiadau fel hyn yn aml yn arwain at chwalu teuluoedd, ac mae'n rhaid i ni wneud pob peth posib i osgoi hynny.
Rwyf i eisoes wedi ateb y cwestiwn ynghylch y rhan y mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ei chwarae yn y cwestiynau a godwyd gan Carwyn Jones.
Mae David Rees yn codi'r cwestiwn pwysig ynghylch y trethi y gellid eu talu i Drysorlys y DU. Nid fy lle i yw datgelu lefel y taliadau i weithwyr na damcaniaethu ynghylch swm y trethi a anfonir i Drysorlys y DU, ond rydym eisoes yn edrych ar yr union fater hwn, ac mae'n ddigon posibl y gallai cyfraniad Llywodraeth y DU ddod ar ffurf rhyw fath o ad-daliad o'r trethi hynny i'r gweithwyr a/neu'r gymuned.
Mae'r Aelod hefyd yn iawn i godi pwysigrwydd yr her hon i'r gadwyn gyflenwi. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn, nid yn unig gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ond hefyd gyda Fforwm Moduron Cymru, i nodi'r busnesau hynny yn y gadwyn gyflenwi modurol y bydd y cyhoeddiad yn effeithio arnynt. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau ar hynny. Mae Fforwm Moduron Cymru wedi ysgrifennu at fusnesau yn y gadwyn gyflenwi, nid dim ond y rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweithgareddau Ford, ond y sector modurol cyffredinol, i nodi unrhyw fusnesau y gallai fod angen cymorth arnynt gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a'r awdurdod lleol.
Yn olaf, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Gweinidog, diolch am eich atebion y prynhawn yma. Nid wyf i'n gwneud hyn fel pwynt gwleidyddol—rwy'n ei wneud fel pwynt cyffredinol—mai'r golled fwyaf o ran gwaith yng nghyfnod datganoli oedd gwaith dur Llanwern a gafodd ei gau ar ddechrau'r 2000au, ac rwy'n tynnu eich sylw at hynny oherwydd, yn amlwg, gallai'r camau adferol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn yr achos penodol hwn, fod yn enghraifft dda ar gyfer gwaith Pen-y-bont ar Ogwr, oherwydd eich bod chi, yn amlwg, wedi cyfeirio at y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru yn achos Tesco yn tynnu allan o Gaerdydd a Virgin allan o Abertawe, ond roedden nhw'n fusnesau mawr eisoes a oedd yn gallu cyflogi llawer o'r gweithwyr hynny yn y busnesau hynny. Yn y fan yma, mae gennych chi gyfleuster peirianyddol i bob pwrpas sydd â 1,700 o swyddi mewn perygl erbyn hyn, ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, ac er ein bod yn gwybod bod Aston Martin yn mynd ati i recriwtio ar gyfer o leiaf 500 i 600 o swyddi, mae llawer o bobl yn chwilio am waith, a hoffwn i dynnu eich sylw at y tasglu a roddodd Llywodraeth Cymru ar waith pan oedd Llanwern yn cau i gymharu â ffatri injans Ford.
Byddwn i hefyd yn sôn am ddatblygiad Brocastle y mae Llywodraeth Cymru newydd ei gomisiynu y drws nesaf i ffatri injans Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r peiriannau cloddio yn llythrennol newydd fynd i wneud y gwaith seilwaith yn y fan honno. A fydd unrhyw ailfodelu ar gyfer y parc busnes hwnnw? Oherwydd yr elfen hollbwysig yn y fan yma yw bod y swyddi sydd wedi'u colli yn talu £45,000 i £50,000 ar gyfartaledd. Nid yw'n hawdd dod o hyd i'r swyddi hynny, ac rwy'n siŵr pan oeddech chi'n modelu'r parc busnes hwnnw a rhai o'r cynlluniau a oedd gennych chi, nad oeddech chi'n rhagweld y byddai'r ffatri injans yn cau yn llwyr. Felly a wnewch chi gadarnhau a yw hi'n sefyllfa busnes fel arfer gyda'r parc busnes hwnnw sy'n cael ei ddatblygu wrth ochr y ffatri injans, neu a fydd y cynlluniau a osodwyd yn wreiddiol yn cael eu hail-werthuso?
Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau. Mae'n codi pwynt pwysig iawn am Brocastle. Mae hwnnw'n safle cyflogaeth strategol—safle mawr sy'n cael ei ddatblygu. Mae'n gyfagos i ffatri injan Ford, i'r rhai sy'n anghyfarwydd â'i leoliad. Mae'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac rwy'n falch o ddweud bod gwaith wedi dechrau ar fuddsoddiad gwerth £10 miliwn ar seilwaith y safle. Mae'r safle penodol hwn yn ddelfrydol ar gyfer pencadlys cwmni blaenllaw neu barc cyflenwi o safon, ac rydym ni'n gweithio ar nifer o bosibiliadau. Os oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'r cynigion ar gyfer cyflogwyr sy'n cynnig gwaith o ansawdd uchel ac sy'n talu'n dda, yna wrth gwrs byddwn yn addasu cynllun arfaethedig y parc, ei seilwaith, beth bynnag sydd ei angen.
Wrth gwrs, roedd Llanwern yn bryder mawr i ni, ac fe wnaethom ni ymyrryd yn y ffordd y mae'r Aelod wedi'i nodi. Y rheswm yr ydym ni'n credu y gallai hyn fod y golled fwyaf o ran swyddi ers datganoli yw oherwydd yr effaith luosogi, a allai fod yn dri i un. Gallai fod yn rhywbeth fel oddeutu 5,000 i 6,000 o swyddi y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw—nid o reidrwydd eu colli, ond effaith o ryw fath—yn sgil y penderfyniad a gymerwyd gan Ford, a byddai hynny'n ei roi ar lefel arall i unrhyw beth arall sydd wedi digwydd ers 1999 ac mae'n dangos, unwaith eto, yr angen i ni fynd y tu hwnt i ddull arferol y tasglu a pham mae'r elfen sy'n seiliedig ar le mor bwysig yn y gwaith yr ydym am fod yn ei wneud.
Roedd Andrew R.T. Davies yn iawn i nodi bod Aston Martin Lagonda yn gyflogwr pwysig sy'n cynnig gwaith o ansawdd uchel, sy'n talu'n dda, ac yn gyflogwr sy'n recriwtio ar hyn o bryd. Rydym ni yn credu y gellid cynnig oddeutu 500 o swyddi i weithwyr Ford yn y fan honno. Mae Aston Martin Lagonda, wrth gwrs, wedi gwneud de Cymru yn gartref byd-eang iddo i ddatblygu ceir trydan, gan ddangos ffydd yng ngallu Cymru i newid i economi carbon isel. Mae'r cwmni'n anhygoel o uchelgeisiol gyda chynlluniau ar gyfer cerbydau newydd, ac rwy'n obeithiol y bydd yn parhau i ehangu. Yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn barod i gynorthwyo Aston Martin, yn ddiedifar, i ehangu yn y blynyddoedd i ddod, i sicrhau bod gan fwy o bobl swyddi addas sy'n darparu bywoliaeth dda i'w teuluoedd.
Ond mae buddsoddwyr posibl eraill yr ydym ni'n gweithio gyda nhw. Rydym ni'n benderfynol, ynghyd â'r Adran Masnach Ryngwladol a'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, o gael cynifer o gyfleoedd â phosibl. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ynghylch nifer o'r buddsoddiadau posibl hynny, ac rwy'n obeithiol y byddwn yn gallu cyhoeddi newyddion da yn yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod.
Diolch i'r Gweinidog.