1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 11 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl sy'n aros am apwyntiadau dilynol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Mae'r ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, Llywydd, ac felly ar gael i'r Aelod, fel pob Aelod arall o'r Siambr.
Wel, gadewch i mi eich helpu, Prif Weinidog, i ateb fy nghwestiwn. Yn ôl papur newydd y Daily Post, canfu cais rhyddid gwybodaeth y bu'n rhaid i gyfanswm o 70,908 o bobl aros mwy na chwe wythnos am eu hapwyntiad fel claf allanol. Bu'n rhaid i 27,334 o bobl aros am o leiaf 53 wythnos—mwy na blwyddyn—i gael apwyntiad. A gadewch i ni edrych ar rai ffeithiau eraill, oherwydd rydych chi'n frwd iawn ynghylch ystadegau heddiw, Prif Weinidog. Mae cleifion sy'n mynd i'r adran achosion brys bellach yn aros, ar gyfartaledd, saith awr i gael datrysiad. Yn ôl ym mis Ionawr 2014, ychydig o dan bedair awr oedd hyn. Ac y tu ôl i bob ystadegyn ceir person go iawn sy'n cael ei siomi. Dylai'r ffaith bod gennych chi fwrdd iechyd sy'n destun mesurau arbennig olygu bod pethau'n gwella, ond mae mesurau arbennig, o dan eich Gweinidog iechyd chi, yn golygu bod pethau'n gwaethygu. Roedd y mesurau arbennig ym mwrdd Betsi Cadwaladr i fod i bara dwy flynedd, ond maen nhw wedi para pedair blynedd erbyn hyn. Nid oes cynllun penodol, dim amserlen, dim arweinyddiaeth i dynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig. Pwy sy'n atebol am y diffyg gwelliant hwn?
Wel, Llywydd, bydd mesurau arbennig ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn para cyhyd ag y bydd y Gweinidog iechyd yn credu eu bod nhw'n angenrheidiol, a chyhyd ag y bydd angen gwneud yn siŵr bod y gwelliannau yn cael eu hailadrodd mewn meysydd eraill yr ydym ni eisoes wedi eu gweld o ran gwasanaethau mamolaeth, yr ydym ni wedi eu gweld mewn gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau, yr ydym ni'n eu gweld mewn gofal sylfaenol, ac, yn wir, yr ydym ni'n eu gweld ym maes iechyd meddwl hefyd. Wrth gwrs, ceir pethau y mae'n rhaid i'r bwrdd hwnnw eu gwella, ac mae hynny'n cynnwys amseroedd aros ar gyfer rhai arbenigeddau. Mae'n cynnwys cynllunio ariannol. Dyna pam mae'r bwrdd yn parhau i fod yn destun mesurau arbennig, oherwydd nad ydym ni'n fodlon, ac nid yw'r Gweinidog yn fodlon, bod popeth ar waith eto i ganiatáu i ni ddad-ddwysáu'r lefel honno o ymyrraeth.
Ond mae'r Aelod yn ddetholus, fel y mae bob amser. Nid yw'n sôn, fel y gallai fod wedi sôn, pe byddai ganddo'r ffeithiau sydd o'i flaen, fod nifer y cleifion sy'n aros llai na 26 wythnos am driniaeth y gorau a fu yng Nghymru ers 2013 erbyn hyn. Ni chyfeiriodd at y ffaith bod arosiadau therapi yng Nghymru yn 98 y cant yn is ddiwedd mis Mawrth eleni nag yr oedden nhw ym mis Mawrth y llynedd. Ni soniodd y bu cynnydd o 30 y cant mewn pum mlynedd yn nifer y cleifion canser yng Nghymru sy'n cael eu trin yn unol â'r amseroedd targed a bennwyd gennym.
Y pwynt yr wyf i bob amser eisiau ceisio ei wneud i'r Aelod yw nad yw'n synhwyrol, ac nid yw o gymorth ychwaith i'r nifer fawr o bobl sy'n gweithio bob un diwrnod i wneud ein gwasanaethau iechyd yn y gogledd, ac ym mhob rhan arall o Gymru, cystal ag y gallan nhw fod, i drin yr eithriadol fel pe byddai'n nodweddiadol. Lle ceir eithriadau, a lle ceir pethau y mae angen eu gwneud yn well, yna, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio i wneud hynny, ac mae'r ffigurau yr wyf i newydd eu darparu iddo yn dangos sut yr ydym ni'n llwyddo yn y prif faterion hynny ym mhob rhan o'n gwlad.
Wel, Prif Weinidog, mae'r ffigurau yr wyf i newydd eu rhoi i chi yn nodweddiadol iawn, yn anffodus, oherwydd eich bod chi'n methu â darparu arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd hwn. Nawr, yr wythnos diwethaf, honnodd y Gweinidog iechyd bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ardal bwrdd iechyd Betsi yn gwella mewn gwirionedd—a chymeradwyaf y bwrdd am sefydlu strategaeth newydd ar ymateb i faterion iechyd meddwl i bobl o bob oed. Fodd bynnag, Prif Weinidog, cyhoeddwyd y strategaeth newydd hon ym mis Medi 2017. Nawr, mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyfer y gogledd wedi cael gwybod bod y cynllun cyflawni ar gyfer y strategaeth newydd yn dal i fod ar ffurf drafft ac na fydd yn cael ei gyhoeddi tan fis Medi eleni—ddwy flynedd ers cytuno ar y strategaeth newydd hon. Nid oes amheuaeth bod hyn yn annerbyniol, Prif Weinidog. Nawr, clywsom gennych yr wythnos diwethaf, ac fe'i gwnaed yn eglur iawn gennych—pan ddaw'n fater o wneud penderfyniadau, chi yw'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau. Pryd wnewch chi benderfynu mai digon yw digon a bod eich Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb am hyn ac yn dangos rhywfaint o edifeirwch am siomi pobl yn y gogledd ac y dylai eich Gweinidog iechyd gymryd y cyfrifoldeb a mynd?
Wel, Llywydd, rwy'n meddwl ein bod ni wedi ailadrodd yr hen ymadrodd ystrydebol hwn nifer o weithiau ar lawr y Cynulliad. Rwy'n falch bod yr Aelod wedi cydnabod y bu gwelliannau mewn gwasanaethau ym maes iechyd meddwl. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roedd pryderon sylweddol iawn ynghylch gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd, fel y bydd yr Aelodau yn y fan hon yn gwybod. Roeddwn i'n falch o weld yr adroddiad diweddaraf gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a wnaeth sylwadau ar y gwelliannau yn uned Hergest, yn yr uned yn Ysbyty Maelor Wrecsam, o ran y modd y mae gwasanaethau mewn ysbytai cymunedol yn y gogledd i bobl sy'n oedrannus ac sydd â chyflyrau iechyd meddwl wedi gwella yn ddiweddar. Felly, mae'n braf gweld lle mae gwelliannau'n cael eu gwneud, oherwydd trwy gydnabod ac annog gwelliant yr ydym ni'n cael mwy o gynnydd, yn hytrach na cheisio tynnu sylw at anawsterau yn gyson a gwneud i'r rheini ymddangos fel pe byddent yn nodweddiadol o brofiad cleifion. Mae cleifion yn y gogledd yn cael, bob un dydd, mewn miloedd ar filoedd o gysylltiadau â'r gwasanaeth iechyd, rhywfaint o'r gofal gorau y byddwch chi'n ei ganfod yn unman yn y wlad. Lle ceir pethau y mae angen eu gwneud yn well, wrth gwrs byddwn yn parhau i weithio ar y pethau hynny. Ond nid yw'n helpu i sicrhau'r gwelliant hwnnw trwy fethu â'i gydnabod a thrin y gwasanaeth cyfan fel pe byddai'n rhywbeth nad yw cleifion yn ei werthfawrogi—oherwydd gallaf ddweud wrtho yn sicr eu bod nhw.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Credaf ei bod hi'n deg i ddweud ei bod yn ymddangos bod penderfyniad Ford yn sioc wirioneddol i Lywodraeth Cymru ddydd Gwener. Byddai'r cyfuniad o ffactorau a gyfrannodd at y penderfyniad, fodd bynnag, wedi bod yn llai o syndod, oherwydd datganiadau blaenorol Ford, yn enwedig ei gyhoeddiad ym mis Ionawr ei fod yn cael gwared ar dros 1,000 o swyddi yn y gwaith. Cyfeiriodd Gweinidog yr economi yn gynharach at y gweithgor a oedd eisoes wedi ei sefydlu i edrych ar gyfleoedd posibl i Ford, yng ngoleuni ei anawsterau. Roeddwn i'n meddwl tybed: a allwch chi ddweud ychydig mwy am waith y tasglu blaenorol hwnnw—i ba raddau yr oedd yn cyfarfod, lefel yr ymgysylltu ag uwch reolwyr yn Ford ac amlinelliad o'r strategaeth yr oedd yn ei datblygu? A archwiliwyd ganddo, yn benodol, y cynigion y cyfeiriwyd atynt yn gynharach i helpu i achub rhai o'r swyddi yn y ffatri drwy'r diddordeb a adroddwyd gan INEOS Automotive i gydosod ei gerbyd tebyg i'r Land Rover Defender ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac, er enghraifft, cynnig i adeiladu gorsaf bŵer ar gyfer y gwaith i leihau costau ynni, yn debyg i'r cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhan o'i hymdrechion i achub gwaith dur Port Talbot? A allwch chi ddweud hefyd, Prif Weinidog, a ydych chi'n bwriadu cwrdd â llywydd a phrif swyddog gweithredol Ford ar frys? Rwy'n credu fy mod i'n cofio eich rhagflaenydd yn hedfan allan i India ar adeg argyfwng Tata. Pan gyhoeddodd Michelin, fis Tachwedd diwethaf yn yr Alban, gynllun i gau ei waith yn Dundee, hedfanodd Gweinidog Cyllid yr Alban ar unwaith i gwrdd â'i uwch reolwyr yn Ffrainc. A llwyddodd o leiaf i sicrhau ymglymiad parhaus Michelin, trwy fenter ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban a phartneriaid eraill. Yn olaf, i'n hatal rhag cael ein synnu eto gan y math hwn o gyhoeddiad cau gwaith trychinebus, a ydym ni angen, ar frys, strategaeth cydnerthedd diwydiannol i Gymru, o gofio'r cyfnod ansicr yr ydym ni'n ei wynebu? Ac a fyddwch chi fel Prif Weinidog, a'ch cyd-Weinidogion, yn siarad nawr, yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda phob un o uwch reolwyr y cwmni angori yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. Roedd y gwaith y mae'r tasglu wedi bod yn rhan ohono yn llifo'n rhannol o'r cyfarfodydd a gefais i a'm cyd-Weinidog Ken Skates, gyda chynrychiolwyr uchaf Ford yn ôl ym mis Ionawr yma yng Nghaerdydd, a lluniwyd y rhaglen waith a ddilynwyd yno yn sicr gan yr hyn a oedd yn ymddangos fel ymrwymiad Ford ar y pryd i sicrhau dyfodol hirdymor i'r gwaith. Felly, roedd cyfres o ragolygon y buom yn eu trafod â nhw, gan ddod â nhw, yr undebau, Llywodraeth y DU a ninnau o amgylch y bwrdd i weithio ar brosbectws ar gyfer dyfodol y gwaith a rannwyd gyda ni gan y rheolwyr uchaf yn Ford ei hun, a dyna pam yr oedd y penderfyniad mor annisgwyl ar y diwrnod y daeth, gan ei bod yn ymddangos ein bod ni wedi cytuno ar gyfres o syniadau yr oeddem ni i gyd wedi ymrwymo i weithio arnyn nhw gyda'n gilydd.
Ar wahân, wrth gwrs, fel y dywedodd Ken Skates mewn atebion i gwestiynau eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda chwmnïau eraill sydd â diddordeb mewn dod i'r safle hwnnw ac i'r rhan honno o Ben-y-bont ar Ogwr. Parhaodd y rheini ar wahân i'r grŵp a oedd yn trafod dyfodol Ford ar y safle hwnnw, ond, o safbwynt Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, rydym ni'n cymryd rhan yn yr holl drafodaethau hynny gyda'n gilydd. Edrychaf ymlaen, Llywydd, at gyfarfod yn fuan iawn ag uwch wneuthurwyr penderfyniadau Ford Europe, oherwydd penderfyniad Ford Europe oedd hwn, ac mae trefniadau'n cael eu gwneud i sicrhau ein bod ni'n cael y cyfarfodydd wyneb yn wyneb pellach hynny.
Roeddwn i'n ddigon ffodus, yr wythnos diwethaf, i gael trafodaeth gyda Phrif Weinidog yr Alban am yr hyn a ddigwyddodd yn Dundee gyda Michelin, ac roedd hi'n hael wrth gynnig rhannu rhywfaint o'r profiad hwnnw gyda ni ymhellach, i ganiatáu i ni siarad â'i swyddogion, i siarad am y ffordd yr aethon nhw ati i wneud hynny. Ac mae wedi bod yn rhan o'm trafodaethau gyda Phrif Weinidog y DU, pan siaradais â hi ddydd Gwener, ac rwyf i wedi ysgrifennu ati eto heddiw, i fyfyrio ar rywfaint o'r profiad hwnnw yn yr Alban a phwysigrwydd, fel y dywedodd Prif Weinidog yr Alban wrthyf, ceisio cadw rhywfaint o bresenoldeb ar safle gan gwmni sydd wedi bod â buddsoddiad hirdymor yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Yn olaf, o ran strategaethau pellach ac yn y blaen, mae gennym ni ein cynllun gweithredu economaidd. Byddwn yn ei ystyried, wrth gwrs, yng ngoleuni'r profiad gyda Ford. Ond mae gennym ni strategaeth; mae'r strategaeth honno gennym ni eisoes, a byddwn yn gweld ym mhle y mae angen ei diweddaru ymhellach yng ngoleuni'r profiad diweddaraf.
Yr amddiffyniad cyntaf yn y fan yma, wrth gwrs, yw ymladd y cynnig afresymol hwn gan Ford a hoffem ni, ar yr ochr hon yn amlwg, fel y dywedodd Bethan Jenkins, fynegi ein hundod llwyr ag aelodau undebau GMB ac Unite a fydd yn cynnal pleidlais dros weithredu diwydiannol ddydd Gwener. Ond, yn amlwg, mae'r Llywodraeth—. Un o swyddogaethau'r Llywodraeth yw paratoi cynlluniau wrth gefn, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi rannu ychydig mwy o'ch syniadau am y rhain. Gallaf ddeall pam na allwch chi drafod cwmnïau penodol, ond roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am faint yr uchelgais. Yn y bôn, a oes cyfle yma i droi'r hyn, rwy'n credu, a oedd y gwaith gweithgynhyrchu mwyaf yn Ewrop ar un adeg yn yr ugeinfed ganrif, i fod yn gigaffatri ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?
Rydym ni'n gwybod mai trydan yw dyfodol ceir, ac un o'r cwmnïau mwyaf blaenllaw yn y maes yw Tesla. Mae wedi agor dwy gigaffatri yn yr Unol Daleithiau. Mae'n bwriadu agor un yn Tsieina ac un yn Ewrop. Felly, pam ddim yng Nghymru? Mae Elon Musk wedi dweud yn benodol, yn y misoedd diwethaf, os bydd GM yn cau gweithfeydd yn yr Unol Daleithiau, y byddai ganddo ddiddordeb mewn eu cymryd drosodd. A ellid cymhwyso'r egwyddor honno yma? Cwmni mawr arall yn y maes yw'r cwmni o Sweden Northvolt, sy'n adeiladu gigaffatri sy'n cynhyrchu celloedd batri gyda chymorth un o'r buddsoddiadau mwyaf erioed gan gronfa buddsoddi strategol Ewrop yr UE a Banc Buddsoddi Ewrop. Mae prif swyddog gweithredol Nothvolt wedi dweud yn ddiweddar y gallai fod lle i gynifer â saith gigaffatri o'r fath ledled Ewrop erbyn 2025. Unwaith eto, a oes cyfle yn y fan yma i ni? Prif Weinidog, rwy'n deall eich bod chi'n ymweld â Brwsel yfory. Beth am ofyn i Gomisiwn Ewrop i gronfa buddsoddi strategol Ewrop a Banc Buddsoddi Ewrop, y mae gennym ni hawl i wneud ceisiadau iddyn o hyd gan ein bod ni yn yr UE o hyd, wneud buddsoddiad tebyg ac, mewn llawer o ffyrdd, amserol yma yng Nghymru?
Diolchaf i'r Aelod am yr holl bosibiliadau hynny. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, lle bynnag y ceir syniadau am y ffordd y gellir creu dyfodol ar gyfer y gwaith hwnnw a'r gymuned honno, ein bod ni'n cyfuno'r syniadau hyn ac yn eu harchwilio i gyd. Mae popeth y mae wedi ei ddweud yn werth ei ychwanegu at y cymysgedd hwnnw yn fy marn i. Ond bydd yn mynd i gymysgedd sydd eisoes wedi bod wrthi'n cael ei ddatblygu, fel y dywedais, dros fisoedd lawer.
Rwy'n deall yr hyn a ddywedodd. Roeddwn i gyda stiwardiaid siop yn y gwaith yn gynnar fore Gwener gyda'r GMB a chydag Unite. Roedd y teimlad o ddicter a brad yn gwbl amlwg ymhlith y bobl o amgylch y bwrdd hwnnw. Clywsoch y rhesymau, Llywydd, mi wn, gan Aelodau eraill yn gynharach yn y drafodaeth. Mae'r teimlad hwnnw bod y gweithlu a oedd wedi gwneud popeth a ofynnwyd iddynt, pryd bynnag y gofynnodd y cwmni i'r undebau llafur a'r gweithlu fod o amgylch y bwrdd a chytuno i welliannau a wnaed, roeddwn nhw'n teimlo na wnaethon nhw erioed fethu â gwneud y cyfraniad hwnnw, a dyna pam yr oedd yr ymdeimlad o frwydro ymhlith yr aelodau hynny yn amlwg iawn pan gyfarfûm i â nhw.
Mae gennym ni gyfrifoldeb, fel y dywedodd Adam Price, i baratoi ar gyfer pa bynnag bosibiliadau a ddaw, a dod â gwahanol gwmnïau—y cyhoeddiad diweddar o swyddi newydd o'r math a ddisgrifiodd ym Mhort Talbot drwy Onyx—a syniadau eraill, cwmnïau eraill yr ydym ni wedi bod yn gweithio â nhw. Mae cyfrifoldeb gwirioneddol, Llywydd, ar Lywodraeth y DU i wneud yn siŵr bod ei strategaeth ddiwydiannol yn gweithio i Gymru a'u bod hwythau hefyd yn gwthio'r olwyn i wneud yn siŵr pan fo'r gwahanol bosibiliadau hyn a fydd yn dod i'r amlwg ac yn cael eu trafod dros yr wythnosau nesaf, eu bod hwythau hefyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod buddiannau'r gweithwyr hynny yn cael eu cefnogi, eu hyrwyddo, a bod y cymorth ymarferol, yr arian a'r ymdrech gwirioneddol y gall Llywodraeth y DU eu gwneud yn cael eu gwneud ar eu rhan.
Yn olaf, os caf i droi at fater arall, Prif Weinidog, dywedasoch wrth gael eich cyfweld yn ystod eich ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth ar 19 Tachwedd y llynedd eich bod chi'n credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen mwy o Aelodau Cynulliad arnom i gyflawni'r holl gyfrifoldebau sydd gan y Cynulliad erbyn hyn. Aethoch ymlaen i ddweud nad oes byth amser da i fynd allan a dweud wrth bobl eich bod chi eisiau cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu hethol, ond pe byddem ni wedi cymryd y farn honno ym 1999 ni fyddem ni erioed wedi cael y Cynulliad yn y lle cyntaf. Ai dyma eich barn bersonol o hyd, ac os yw hynny'n wir, pam nad oeddech chi'n gallu darbwyllo eich plaid?
Mae'r Aelod yn anghywir ar yr ail bwynt, oherwydd cymeradwyodd fy mhlaid yn ei chynhadledd ym mis Ebrill eleni bolisi o gael mwy o Aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwn ei fod yn cymryd diddordeb agos iawn yng ngwaith y Blaid Lafur, ond mae'n ymddangos ei fod wedi methu'r rhan honno. Felly, bydd wedi ei galonogi o wybod bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi cytuno ar yr angen am fwy o Aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae fy marn bersonol i yr un fath ag a nodais bryd hynny.
Daeth comisiwn Richard i'r casgliad, yn ôl yn nhymor cyntaf un y Cynulliad Cenedlaethol, bod y cyfrifoldebau a oedd gan Aelodau Cynulliad bryd hynny wedi golygu bod angen Cynulliad o 80 o Aelodau i'w cyflawni'n foddhaol. Bymtheg a mwy o flynyddoedd ers hynny, mae'r cyfrifoldebau a gyflawnir yn y Siambr hon wedi tyfu'n aruthrol—wedi tyfu'n ddeddfwriaethol, wedi tyfu yn y penderfyniadau cyllidol yr ydym ni'n eu gwneud. Mae angen i ni sicrhau bod digon o Aelodau i allu cyflawni'r cyfrifoldebau hynny, i graffu ar bob un ohonynt. Rwyf i wedi dod i'r casgliad mai dyna'r ateb iawn ac rwy'n falch o allu rhoi sicrwydd i'r Aelod mai dyna oedd y farn a gymeradwywyd yn fy nghynhadledd ym mis Ebrill.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, ar ôl eich trafodaeth o bron i 12 munud gydag arweinydd Plaid Cymru, a gaf i roi cynnig ar gwestiwn mwy cryno? Beth yn eich barn chi yw'r cydbwysedd cywir rhwng rheolaeth ganolog ac ymreolaeth leol i gyrff iechyd yng Nghymru?
Cynigiaf egwyddor i'r Aelod, a byddaf yn eithaf cryno: fy marn i yw mai'r egwyddor o sybsidiaredd ddylai fod yr un sy'n ein llywio wrth lunio polisïau yma yng Nghymru. Rwyf o blaid gwneud penderfyniadau mor agos at bobl ag y gallwn ni a'n bod ni'n datblygu'r ffordd y darperir gwasanaethau yng Nghymru yn erbyn yr egwyddor honno.
Roeddwn i wedi cael ar ddeall y bwriadwyd i'r gyfundrefn mesurau arbennig fod yn ymyrraeth fyrrach neu fwy llym o leiaf, i newid corff sy'n methu neu o leiaf corff lle'r oedd problemau. Rwy'n meddwl tybed, gan fyfyrio ar y cwestiynau a gawsom gan arweinydd yr wrthblaid, a fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried a yw'r gyfundrefn mesurau arbennig sydd wedi datblygu yn taro'r cydbwysedd cywir, gan ei bod bellach wedi para mwy na phedair blynedd gyda'r corff penodol hwnnw ond, ar yr un pryd, rydym ni'n gweld bron i hanner byrddau iechyd Cymru yn y gyfundrefn mesurau arbennig. Onid yw hynny'n peri risg bod sylw'r Gweinidog iechyd, er cymaint y mae'r Prif Weinidog yn ei gefnogi, yn rhy wasgarog? A yw hefyd yn rhoi risg i Betsi Cadwaladr yn arbennig? Do, derbyniasom yn eich cynnig yr wythnos diwethaf bod un neu ddau o'r materion a nodwyd yn wreiddiol wedi gwella . Fodd bynnag, mae nifer o broblemau eraill, difrifol iawn ac, rwy'n credu, cyffredinol, yn hytrach nag wedi eu dyfynnu'n ddetholus—er enghraifft, bod dros 70,000 yn aros mwy na chwe mis, arhosiad cyfartalog o saith awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac ymddangosiad a gwaethygiad problemau yn y meysydd hynny, ymhlith eraill—. A yw unrhyw ran o hynny'n adlewyrchu'r ffaith ei fod wedi bod yn destun mesurau arbennig ers pedair blynedd ac nad yw rhai o'r rheolwyr lleol hynny, rhai o'r clinigwyr lleol hynny efallai, yn gweld y golau ym mhen draw'r twnnel, a bod hynny'n ei gwneud yn fwy anodd recriwtio neu gadw pobl neu ysgogi'r gwelliant lleol hwnnw ganddyn nhw tra bod y gyfundrefn mesurau arbennig yn para?
Yn olaf gen i, a gaf i ofyn am y cynghorau iechyd cymuned a'r ddeddfwriaeth arfaethedig sydd gennym ni yn y maes hwn? Un maes y maen nhw wedi gwneud yn dda ynddo yw dod â gwirfoddolwyr lleol i mewn, pobl leol, a'u hystyried fel bod yn annibynnol ac yn gallu, i raddau, dwyn Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol i gyfrif. Onid yw'r Prif Weinidog yn poeni, fel y mae llawer o bobl eraill, pan ddaw'r ddeddfwriaeth newydd hon, y bydd cyrff o'r gwaelod i fyny lle mae cadeirydd pob corff ar y bwrdd cenedlaethol yn cael eu disodli gan gorff o'r brig i lawr sydd yn fwy o dan fawd Llywodraeth Cymru ac felly'n llai agored i bobl leol ac yn llai annibynnol? [Torri ar draws.] Roedd yn dal i fod yn llai na thri munud. Nid wyf i'n cael dod yn ôl.
Llywydd, yn gyfan gwbl oherwydd y ffaith nad oes gennym ni system sydd o dan fawd Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, y mae gennym ni'r protocolau ymyrryd wedi'u graddnodi yr ydym ni'n eu gweithredu yng Nghymru, oherwydd pan roddir corff iechyd yn y system honno, nid penderfyniad Llywodraeth Cymru yn unig yw hwnnw; mae'n benderfyniad teiran. Mae ei wneud yn cynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru, a math o ymyrraeth y cytunir arni y mae'r system deiran honno yn ei chynnwys, ac rwy'n gyfforddus iawn â hynny, oherwydd ni ddylai fod yn system sydd o dan fawd Llywodraeth Cymru, ac nid ydyw ychwaith.
Roedd rhywbeth a ddywedodd yr Aelod yr oeddwn i'n cytuno ag ef, sef bod annog y bobl hynny sy'n gyfrifol am geisio sicrhau gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd yn wirioneddol bwysig, a dylai cydnabod pan fydd pethau'n mynd yn dda, yn ogystal â phan fydd pethau ddim yn mynd cystal ag y byddem ni'n dymuno, fod yn rhan bwysig iawn o'r drefn y mae'r Llywodraeth yn ei dilyn i gynorthwyo'r bobl hynny sydd, ar y rheng flaen honno, yn gorfod gwneud y penderfyniadau hynny bob dydd.
O ran y cynghorau iechyd cymuned, credaf fod gennym ni hanes balch yn y maes hwnnw, Llywydd. Cadwyd cynghorau iechyd cymuned gennym ni yma yng Nghymru pan gawsant eu diddymu ar draws y ffin, ac rydym ni wedi eu cefnogi erioed yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae cyfle nawr, yn y ddeddfwriaeth a fydd yn dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, i wneud yn siŵr, gyda'r rhan y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei chwarae yn y trefniadau ansawdd sydd gennym ni yn y GIG yng Nghymru, i ni sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl sydd gan y bobl wirfoddol leol hynny i weithredu fel llygaid a chlustiau cleifion. Bydd yr Aelodau yn cael pob cyfle yn ystod hynt y Bil i graffu ar y cynigion hynny a gweld eu bod nhw'n cyflawni'r agenda honno o sicrhau bod gennym ni bobl ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n gallu adrodd ar yr hyn y maen nhw'n ei weld, tynnu sylw'r rhai sy'n cael eu talu i redeg ein gwasanaethau iechyd ato, ac i fanteisio ar y cyfraniad aruthrol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.