1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trenau yng ngorllewin Cymru? OAQ53980
Gwnaf, wrth gwrs. Yn ogystal ag ymrwymiadau a wnaethpwyd drwy'r fasnachfraint reilffyrdd newydd a datblygiad cyfnewidfeydd trafnidiaeth integredig, rydym yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wthio am wasanaethau ychwanegol i orllewin Cymru a buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith rheilffyrdd a fydd yn ei dro yn arwain at gapasiti ychwanegol, amseroedd teithio cyflymach, a gorsafoedd newydd wrth gwrs.
Weinidog, rwyf wedi codi mater gorsaf drenau Aberdaugleddau yn fy etholaeth ar sawl achlysur gyda Llywodraethau Cymru olynol dros y blynyddoedd. Nawr, mae'r orsaf drenau hon yn cael ei defnyddio gan nifer cynyddol o ymwelwyr llongau mordeithio a thwristiaid bob blwyddyn, ac er bod gwelliannau wedi cael eu haddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n dirywio ar hyn o bryd ac mewn cyflwr gwael iawn. O ystyried ei phwysigrwydd strategol i sir Benfro, ac i orllewin Cymru yn wir, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i helpu i wella gorsaf drenau Aberdaugleddau yn y dyfodol?
Mae Paul Davies yn gwneud pwynt gwerthfawr fod gorsafoedd trên yn aml yn borth i lawer o gymunedau, yn enwedig cyrchfannau twristiaid, ac felly bod yn rhaid iddynt fod yn atyniadol o ran eu golwg a chynnwys gwasanaethau modern. Wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ond o ganlyniad i'r trafodaethau a gynhaliwyd yn ystod yr ymarfer caffael ar gyfer masnachfraint newydd Cymru a'r gororau, llwyddasom i gytuno ar fuddsoddiad o £200 miliwn mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith. Mae'r £200 miliwn hwnnw dros y 15 mlynedd nesaf yn cymharu'n ffafriol iawn â'r cyfanswm o £600,000 a wariwyd gan ddeiliad blaenorol y fasnachfraint dros y 15 mlynedd diwethaf, a bydd y £200 miliwn yn gwneud llawer i ailgyflwyno cyfleoedd busnes mewn llawer o orsafoedd sydd ag ystafelloedd na chânt eu defnyddio. Bydd yn gwella'r economi ymwelwyr drwy sicrhau bod gorsafoedd trenau yn llefydd mwy atyniadol, mwy dymunol i fuddsoddi ynddynt, ac rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd lle bynnag y bo modd ochr yn ochr â Croeso Cymru, i ddefnyddio gorsafoedd trenau i hyrwyddo economïau gwledig ac economi ymwelwyr Cymru, a gallaf sicrhau'r Aelod y bydd y gorsafoedd yn ei ardal yn elwa o fuddsoddiad, ac y bydd gorsaf Aberdaugleddau, wrth gwrs, yn cael budd o'r £200 miliwn a fuddsoddir yn y gorsafoedd.
Weinidog, y mis diwethaf gofynnais i chi ynglŷn ag amlder y gwasanaethau sy'n stopio mewn arosfannau ar gais megis gorsaf Cydweli. Tybed a ydych wedi cael cyfle eto i drafod rhai o'r cwestiynau hynny gyda'r darparwr. Lle mae arosfannau ar gais ar gael, mae yna gwestiwn hefyd ynglŷn â pha mor hawdd yw hi i deithwyr wneud y cais a pha mor ymwybodol yw teithwyr o sut i wneud hynny. Felly, a gaf fi bwyso arnoch eto i gael trafodaethau pellach gyda Trafnidiaeth Cymru? Rwy'n siŵr fod eu bwriadau'n dda, ond ni lwyddwn i berswadio pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hynny oni bai ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt wneud hynny, ac mae'r sylwadau a gaf gan etholwyr sy'n byw ger y rheilffordd honno, yn enwedig lle mae gennych y broblem gyda'r arosfan ar gais, yn dangos nad yw hi bob amser yn hawdd, nad yw'r gard yn dod drwodd yn ddigon cyflym bob amser i allu gwneud y cais, neu efallai nad ydych yn gwybod mai dyna sut y gallwch wneud y cais. Felly, a oes rhywbeth pellach y gallwn ei wneud gyda Trafnidiaeth Cymru i wneud hynny'n haws?
Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn, a buaswn yn cytuno â hi y dylem weithio'n agos iawn gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau bod pob teithiwr yn gwybod sut i wneud cais i stopio mewn arosfannau ar gais. Yn ogystal, byddwn yn cysylltu â phartneriaethau rheilffordd cymunedol—rydym yn buddsoddi mwy o arian yn y partneriaethau hynny dros gyfnod y fasnachfraint reilffyrdd hon—a byddwn hefyd yn gweithio gyda grwpiau mabwysiadu gorsafoedd i sicrhau bod pob awdurdod a grŵp teithwyr perthnasol yn ymwybodol o sut i fynd ati i sicrhau y gallant stopio mewn gorsafoedd ar gais.
Weinidog, fe addawodd y Torïaid ddarparu trydaneiddio i Abertawe, rhywbeth a fyddai'n sicr wedi gwella gwasanaethau ymhellach i'r gorllewin nag Abertawe. Nawr, gŵyr pawb ohonom eu bod wedi torri'r addewid hwnnw ac o'r herwydd, ni fydd gwasanaethau i'r gorllewin o Gaerdydd yn cael cymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer unrhyw waith seilwaith na moderneiddio. Nawr, mae hynny'n rhoi'r argraff ehangach nad yw unrhyw beth i'r gorllewin o Gaerdydd yn agored i fusnes chwaith ac nad oes diddordeb mewn buddsoddwyr gan Lywodraeth y DU. Pan etholir y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bo, a wnewch chi ymrwymo felly i geisio'u cael i wneud tro pedol arall a chadw eu hymrwymiad mewn gwirionedd er mwyn inni allu gweld trydaneiddio i Abertawe, sydd wedyn yn gwella'r cysylltiadau â'r gorllewin, ond hefyd efallai y gallem ofyn iddynt sicrhau eu bod yn gwrando ar alwadau Llafur Cymru fod Cymru'n agored i fusnes i bob buddsoddwr?
Diolch i David Rees am ei gwestiwn ac rwy'n cytuno â'i bwyntiau. Yn amlwg, mae Cymru wedi cael cam ers cryn amser bellach a byddaf yn parhau i bwyso am gyllid teg gan Lywodraeth y DU, a hoffwn ofyn am gefnogaeth pob Aelod Cynulliad yn hyn o beth.
Nid wyf yn credu bod angen aros nes y gwelwn Brif Weinidog newydd i fynnu ein bod yn cael cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, oherwydd mae Keith Williams yn cynnal adolygiad gwraidd a brig o reilffyrdd Prydain ar hyn o bryd ac mae hwnnw'n rhoi cyfle i ddiwygio'r system reilffyrdd a gwasanaethau ledled y DU a chreu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig sydd ei angen ar Gymru. Rydym yn disgwyl y bydd adolygiad Williams yn gosod llwybr clir iawn ar gyfer datganoli pellach i Gymru, ac fel y dywedais, buaswn yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Aelodau'r Cynulliad wrth alw am hynny.