– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 26 Mehefin 2019.
Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor dadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth ym maes llywodraeth leol. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar. Yn fwyaf arbennig, hoffwn ddiolch i'r rhai a rannodd eu profiadau personol naill ai fel cynrychiolwyr etholedig, ymgeiswyr neu ddarpar ymgeiswyr. Gallasom glywed y lleisiau hyn yn uniongyrchol drwy ein harolygon ar-lein a'n hymweliadau ag awdurdodau lleol. Mae'n bwysig clywed profiadau byw pobl, ac roedd y dystiolaeth hon yn cyfoethogi ein dealltwriaeth.
Fel y gwyddom, po fwyaf cynrychioliadol yw ein cynghorwyr o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, y mwyaf cynhwysol a gwybodus fydd eu penderfyniadau. Yn anffodus, ni cheir yn agos at gynrychiolaeth ddigonol o ran menywod, cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, pobl ifanc, a phobl ar incwm isel.
Er gwaethaf ymdrechion i wella'r sefyllfa, mae cynnydd wedi bod yn araf. Gan fod Llywodraeth Cymru yn disgwyl cyflwyno ei Bil llywodraeth leol ac etholiadau yn ddiweddarach eleni, roeddem yn teimlo y byddai'n amser da inni archwilio rhai o'r materion hyn ac awgrymu atebion mewn da bryd er mwyn iddynt gael eu hystyried yn y ddeddfwriaeth honno.
Nod ein hadroddiad oedd nodi ffyrdd ymarferol o fwrw ymlaen y credwn y gallent wneud cyfraniad pwysig tuag at gynyddu cyfranogiad grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaethom 22 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac mae 20 o'r rheini wedi cael eu derbyn neu eu derbyn mewn egwyddor gan y Gweinidog. Cafodd dau argymhelliad eu gwrthod.
Mae ein dau argymhelliad cyntaf yn ymwneud â manteisio i'r eithaf ar dechnoleg i alluogi mwy o gynghorwyr i gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell. Gan fod dulliau cyfathrebu fideo bellach yn gyffredin yn y rhan fwyaf o weithleoedd, byddem yn hoffi gweld defnydd gwell o dechnoleg o'r fath i leddfu pwysau amser. Yn fwyaf arbennig, gallai hyn helpu aelodau sy'n gorfod teithio o ymrwymiadau gwaith eraill a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu. Mae ymrwymiad y Gweinidog i gynnwys darpariaethau yn y Bil arfaethedig i alluogi mwy o ddefnydd o bresenoldeb o bell i'w groesawu felly, ac edrychwn ymlaen at graffu ar y rhain maes o law.
Clywsom y gallai caniatáu i gynghorwyr rannu swydd ag aelod arall, a rhannu'r llwyth gwaith, fod yn ffordd ymarferol o wneud y rôl yn fwy deniadol i grŵp ehangach o ymgeiswyr posibl. Mae rhannu swyddi yn gweithio'n dda ar gyfer nifer o rolau ar draws sectorau, ond nid ydym wedi gweld y duedd honno'n ymestyn i gynnwys gwleidyddion etholedig i raddau helaeth, er i'r arfer gael ei gyflwyno ar gyfer swyddi cabinet gan gyngor Abertawe, lle rhennir y cyfrifoldeb am bortffolios rhwng dau aelod. Cefnogwn yr egwyddor o alluogi rhannu swyddi o'r fath, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cadarnhau y bydd y Bil yn hwyluso trefniadau rhannu swyddi ar gyfer arweinwyr ac aelodau gweithredol cynghorau.
Pan gyflwynir darpariaethau yn y Bil, byddem yn disgwyl gweld ymgynghori priodol ar y dull mwyaf effeithiol o weithredu'r rhain, gan gynnwys defnyddio'r profiadau, nid yn unig yn Abertawe, ond mewn sectorau eraill hefyd lle maent wedi llwyddo i sefydlu trefniadau rhannu swyddi mewn arferion gweithio.
Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb caniatáu aelodau anweithredol i rannu swyddi. Rwy'n cydnabod nad yw hwn yn fater syml ac rwy'n cydnabod bod yna gyfyngiadau deddfwriaethol a phroblemau logistaidd ynglŷn â hyn ar hyn o bryd, ond rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ystyried y mater fel rhan o gam nesaf y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Byddwn yn mynd ar drywydd hyn fel rhan o'n gwaith craffu yn y dyfodol.
Gwelsom fod y diffyg gwybodaeth a oedd ar gael am rôl cynghorydd yn rhwystr i ddenu ymgeiswyr posibl. Ni fydd pobl yn ymgeisio os nad ydynt yn deall beth y mae'r swydd yn ei olygu, ac mae diffyg gwybodaeth o'r fath hefyd yn bwydo'r syniad ymhlith rhai pobl nad yw rôl mewn bywyd cyhoeddus yn rhywbeth iddynt hwy. Drwy'r rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth, mae'r Gweinidog wedi ymrwymo i nodi cwmpas ac elfennau ymgyrch i gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr.
Pan gaiff cynghorwyr eu hethol, mae'n hanfodol eu bod yn cael cymorth digonol i gyflawni'r rôl honno, yn enwedig i ymdrin â'r pwysau amrywiol y byddant yn ei wynebu. Clywsom fod cynghorwyr yn aml yn diffygio, gan fod mwy a mwy o etholwyr yn disgwyl i'w cynrychiolwyr etholedig fod ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Rwy'n falch fod ein hargymhellion yn ymwneud â hyfforddiant i aelodau ar gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, a nodi na ddylai cynghorwyr orfod cyhoeddi eu cyfeiriad cartref ar wefan y cyngor, wedi'u derbyn.
Yn anffodus, mae bwlio, gwahaniaethu ac aflonyddu yn faterion cyfarwydd i wleidyddion ar bob lefel. Roedd hon yn thema gyffredin a fynegwyd i ni fel rhwystr i ddenu ymgeiswyr, yn enwedig y rheini o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Gwnaethom dri argymhelliad yn y maes hwn, gan gynnwys galwad am ganllawiau cryfach i ymgeiswyr a chynrychiolwyr etholedig ar yr hyn sydd, a'r hyn nad yw'n ymddygiad derbyniol ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae'n bwysig pwysleisio'r brys i gyflwyno newid, ac mae angen camau gweithredu pellach i atal y cam-drin annerbyniol a brofir gan gynifer o bobl ar-lein. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru y bydd yn cymryd pob cam posibl i frwydro'n erbyn yr ymddygiad hwn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog roi diweddariad byr i ni heddiw ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i thrafodaethau ar hyn gyda Llywodraeth y DU.
Roeddem yn pryderu ynglŷn â'r dystiolaeth a glywsom a oedd yn ymwneud â chynghorwyr yn peidio â hawlio'r lwfans gofal y mae ganddynt hawl iddo oherwydd eu bod yn ofni beirniadaeth gyhoeddus. Mae'r lwfans hwn yn adnodd pwysig i alluogi'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i ymgymryd â rôl cynghorydd, felly dylid gwneud mwy i sicrhau bod pobl yn manteisio arno. Clywsom fod awdurdodau lleol sy'n cofnodi lwfansau ar sail unigol yn hytrach nag ar sail gyfunol yn atal rhai cynghorwyr rhag hawlio. Felly, argymellasom y dylid eu hannog i ddefnyddio'r ffigur cyfunol. Derbyniwyd hyn. Fodd bynnag, cafodd ein hawgrym pellach y dylai awdurdodau lleol gasglu gwybodaeth am nifer y cynghorwyr sydd â hawl i hawlio'r lwfans, a faint sy'n gwneud hynny, ei wrthod. Y rhesymeg oedd y byddai angen i gynghorwyr nodi sut y maent yn bodloni'r meini prawf, hyd yn oed os nad oeddent yn bwriadu hawlio. Heb wybod faint o gynghorwyr sy'n gymwys, nid yw'n bosibl gwybod pa gyfran sy'n derbyn y lwfans. Sylwaf, fodd bynnag, fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ofyn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ystyried y mater ymhellach, a bydd fy mhwyllgor yn parhau i fynd ar drywydd hyn yn ein gwaith craffu yn y dyfodol.
Gall dysgu oddi wrth gynghorwyr eraill roi cyfleoedd gwerthfawr i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i weld y gallent hwythau hefyd gyflawni'r rôl bwysig hon. Cymeradwywn waith rhanddeiliaid yn cynnig cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ddatblygu eu sgiliau a'u hyder. Gwneir hyn yn aml drwy gynlluniau arwain a mentora. Fodd bynnag, er bod nifer yn manteisio arnynt, roedd rhywfaint o'r dystiolaeth a glywsom yn cwestiynu eu heffeithiolrwydd. Felly, rydym yn argymell y dylid gwerthuso'r gwahanol gynlluniau, gyda'r nod o ddysgu oddi wrthynt ac adeiladu arnynt er mwyn sicrhau eu bod mor effeithiol â phosibl.
Gwyddom fod ymgysylltu â gwleidyddiaeth yn ifanc yn allweddol i gynnal diddordeb hirdymor. Rwy'n siomedig felly eu bod wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid cynnal ffug etholiad cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc ar yr un pryd ag etholiadau'r Cynulliad. Clywsom sut y mae trefniant o'r fath ar waith yn Norwy, ac mae'n golygu bod gwleidyddion yn cymryd mwy o sylw o'r hyn y mae pobl ifanc yn ei feddwl. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut y mae'n bwriadu ymgysylltu drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth, ond gall y cyffro o gymryd rhan mewn etholiad, o allu lleisio barn, gael effaith fawr a gall fod yn gatalydd i sicrhau ymgysylltiad hirdymor. Felly, buaswn yn annog y Gweinidog i ystyried yr argymhelliad hwn ymhellach.
Ddirprwy Lywydd, er bod oddeutu hanner y boblogaeth yn fenywod, tua 28 y cant yn unig o aelodau etholedig awdurdodau lleol sy'n fenywod. Roedd sawl tyst, ond nid pob un, o blaid cyflwyno rhyw fath o gwota, yn enwedig mewn perthynas â rhywedd; dywedodd un wrthym na fydd cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau tan 2073 yn seiliedig ar y tueddiad presennol. Yn amlwg, mae angen i rywbeth newid. Nid yw'r ymdrechion i annog mwy o fenywod i wleidyddiaeth wedi cael yr effaith a ddymunwyd, ac mae menywod yn wynebu mwy o rwystrau na dynion rhag dod yn gynrychiolwyr etholedig. Felly, mae angen cymryd camau cadarnhaol. Er nad ydym wedi cynnwys unrhyw argymhellion penodol yn yr adroddiad, mae'n faes sydd o ddiddordeb i ni a byddwn yn ymchwilio i'r materion hyn—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf. Os caf fi orffen y frawddeg hon, Helen Mary, byddwn yn archwilio'r materion hyn ymhellach fel rhan o'n gwaith craffu ar y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y gweill.
Nid wyf yn siŵr a fyddai hyn wedi bod yn rhan o ystyriaethau eich pwyllgor, John, ond a fyddech yn cytuno â mi fod gan y pleidiau gwleidyddol rywfaint o gyfrifoldeb yn hyn o beth i edrych ar sut y mae ein harferion ein hunain yn gweithio ac a ydym yn dewis menywod ar gyfer seddi y gellir eu hennill, boed hynny ar lefel leol neu ar lefel genedlaethol? Yn sicr, rwy'n siŵr fod gennym ni ym Mhlaid Cymru ffordd bell i fynd i herio rhai o ganfyddiadau ein haelodau ein hunain, felly, yn ogystal ag ystyried cwotâu ffurfiol, efallai y dylem edrych hefyd ar yr hyn rydym i gyd yn ei wneud, am mai dyna'r ffordd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hethol wrth gwrs—gan eu bod yn cael eu dewis gan blaid i gael eu hethol.
Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Clywsom dystiolaeth gan y pleidiau gwleidyddol. O ran cwotâu, roedd yna safbwyntiau cymysg, ac yn wir, roedd safbwyntiau cymysg ymhlith aelodau’r pwyllgor hefyd. Ond o ran gweithredu cadarnhaol, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol, yn sicr, yn derbyn yr egwyddor honno, ond wrth gwrs, y mater allweddol yw sut y caiff ei weithredu, a dyna lle mae'r cwestiwn o seddi y gellir eu hennill yn gwbl hanfodol yn fy marn i.
I gloi, felly, Ddirprwy Lywydd, yn yr adroddiad hwn rydym wedi gwneud argymhellion i helpu i sicrhau newid angenrheidiol. Ar y cyd â mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid, gobeithiwn y gall y rhain gyfrannu at gynyddu amrywiaeth fel bod cynghorwyr lleol yn fwy cynrychioliadol ac yn adlewyrchu'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn well. Diolch yn fawr.
Er bod yn rhaid cynnal yr ysgogiad i sicrhau mwy o amrywiaeth ddemocrataidd, cafwyd y Tŷ Cyffredin mwyaf amrywiol erioed yn etholiad cyffredinol y DU yn 2007, gyda chynnydd yn nifer y menywod, pobl LHDT, pobl ag anableddau a lleiafrifoedd ethnig a etholwyd, gan adlewyrchu'r cyfeiriad teithio a osodwyd eisoes yn Senedd Cymru. Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o bell ffordd mewn llywodraeth leol yng Nghymru o ran menywod, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl LHDT, pobl ifanc a phobl ar incwm is, ac nid yw'r gwaith o geisio unioni hyn wedi arwain at gynnydd digonol. Fel y clywodd y pwyllgor:
'Dim ond rhan o broblem amrywiaeth ehangach yw’r ffaith bod menywod wedi’u tangynrychioli mewn llywodraeth leol. Mae cynrychiolaeth gynyddol ymhlith pobl iau, y rhai o wahanol gefndiroedd economaidd-gymdeithasol, unigolion o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ac unigolion ag anableddau yn parhau i fod yn her sylweddol.'
Clywsom fod cronfa mynediad i swyddi etholedig eisoes yn bodoli yn Lloegr a'r Alban i gynorthwyo pobl anabl i sefyll etholiad, ond nid oes cronfa o'r fath yn bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd. Roedd cefnogaeth eang yn y dystiolaeth dros gronfa o'r fath yng Nghymru, gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud wrthym:
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nad ydym ar ei hôl hi yng Nghymru o ran darparu'r gefnogaeth honno.
Dywedodd y Gweinidog fod ganddi ddiddordeb mawr mewn profi pwerau Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, gan ychwanegu ei bod yn mynd ati i edrych i weld a ellid creu cronfa ar gyfer pobl sy'n dymuno sefyll etholiad yng Nghymru. Felly, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru, fel mater o flaenoriaeth, sefydlu cronfa mynediad i swydd etholedig yng Nghymru i gynorthwyo unigolion anabl i ymgeisio am swydd etholedig—ac ie, mewn seddi y gellir eu hennill. Dylid ymchwilio hefyd i'r posibilrwydd o ymestyn cronfa o'r fath i gefnogi grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol.
Er bod rhywfaint o gefnogaeth i gwotâu, fel y clywsom, yn enwedig o ran rhywedd, mae ein hadroddiad yn datgan nad oedd yr holl dystion yn argyhoeddedig mai dyma'r ffordd orau ymlaen. Roedd cynrychiolwyr y Ceidwadwyr, UKIP a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn credu mai'r dewis o ymgeiswyr yw'r broblem, ac y dylid canolbwyntio ar geisio annog ystod ehangach o unigolion i sefyll. Fel y dywedodd cyflwyniad ysgrifenedig fy mhlaid,
Dylai'r Blaid Geidwadol wneud popeth yn ei gallu i annog ystod o ymgeiswyr sydd mor gynrychiadol â phosibl o'r ardal y maent yn dymuno ei gwasanaethu.
Eglurwyd hyn ymhellach gan gyfarwyddwr adolygu ffiniau fy mhlaid pan ddywedodd wrth y pwyllgor fod cadeirydd plaid y DU wedi gosod targed o geisio cael cydbwysedd o 50/50 ar y rhestr. A dywedodd ei fod yn credu mai cynyddu'r gronfa o ymgeiswyr benywaidd yw'r peth pwysicaf. Mae Women2Win yn arwain yr ymgyrch i gynyddu nifer y menywod sy'n gynghorwyr, Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Ceidwadol drwy roi cymorth, cyngor a hyfforddiant i fenywod sydd eisiau mynd i mewn i lywodraeth leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Senedd neu sydd ond yn dymuno cymryd mwy o ran mewn gwleidyddiaeth, a thrwy hynny sicrhau bod fy mhlaid yn cynrychioli pobl Cymru a Phrydain, ac yn cynrychioli menywod yn deg ar bob lefel o wleidyddiaeth. Mae Women2Win Wales yn drawstoriad eang o fenywod a dynion o blith y Ceidwadwyr Cymreig sydd eisiau sicrhau bod menywod yn cael eu cynrychioli'n deg ar bob lefel o wleidyddiaeth drwy gael eu dewis ar gyfer seddi y gellir eu hennill.
Fel y trafodwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae'r defnydd o rannu swyddi rhwng aelodau awdurdodau lleol wedi'i gyflawni'n llwyddiannus yng nghyngor dinas Abertawe. Fodd bynnag, er ei bod yn cefnogi'r egwyddor, nododd y Cynghorydd Debbie Wilcox, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod anghysondeb bach yn y ddeddfwriaeth gyfredol, lle mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn nodi na ellir cael mwy na 10 aelod gweithredol. Roedd hefyd yn amau a fyddai mwy o rannu swyddi rhwng aelodau gweithredol yn cael effaith sylweddol ar ddenu ystod ehangach o ymgeiswyr. Fodd bynnag, mae'n iawn fod adroddiad y pwyllgor yn galw am gynnwys darpariaethau i alluogi mwy o rannu swyddi rhwng aelodau anweithredol awdurdodau lleol yn y Bil llywodraeth leol ac etholiadau sydd ar y gweill.
Yn ei thystiolaeth i'r pwyllgor, cytunodd y Gweinidog fod angen edrych ar y prosesau cwynion corfforaethol mewn awdurdodau lleol ar ôl i mi ofyn iddi a ddylid gwahardd swyddog monitro rhag bod yn barti i gwynion am aelod, fel y digwyddodd yn Sir y Fflint, yn hytrach na gweithredu mewn rôl gynghori. Dywedodd fod swyddogion y cyngor yn gwasanaethu'r arweinwyr etholedig ond eu bod hefyd yn atebol i aelodau o feinciau cefn awdurdodau lleol, a bod angen cryfhau hyn yn y Bil arfaethedig hefyd. Rwy'n gobeithio ac yn hyderu y bydd yn bwrw ymlaen â'r addewid hwnnw ymhlith yr addewidion eraill a wnaeth. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud fy mod yn credu y dylai democratiaeth gynrychioliadol fod yn union hynny—dylai pwy a etholwn adlewyrchu ein cymdeithas yn ei holl amrywiaeth. O gofio ein bod yn fwy na 50 y cant o'r boblogaeth, mae cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ein democratiaeth yn hanfodol. Ond rhaid i ni hefyd fabwysiadu dull gweithredu rhyngadrannol yn hyn o beth a gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud beth bynnag y gallwn i gynyddu cynrychiolaeth menywod o bob cefndir: menywod duon ac Asiaidd, hoyw a thrawsrywiol, menywod anabl, menywod ifanc a hŷn, menywod dosbarth gweithiol ac yn y blaen. Rwy'n cefnogi cwotâu er mwyn sicrhau'r cydbwysedd hwn, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod anawsterau ymarferol yn ogystal â'r anghytundeb ar y pwyllgor, a dyna pam na lwyddasom i wneud argymhelliad i'r perwyl hwnnw.
Mae rhwystrau sylweddol i'w goresgyn os ydym am weld ystod fwy amrywiol o gynghorwyr, ac nid yr un hen fath o garicatur llwydwallt, gwyn a gwrywaidd sydd wedi dod yn ddelwedd ddiofyn o gynghorydd i lawer o bobl. Ac nid yw hynny'n diystyru'r gwaith gwych a wneir gan lawer o gynghorwyr ar draws Cymru sy'n gweithio'n ddiflino dros eu cymunedau. Ond mae'n bwysig tynnu sylw at y broblem hon yn ei hanfod. Ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o fenywod, pobl LHDTQ+, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl ddosbarth gweithiol a phobl anabl, ac ni allwn gywiro'r methiant hwn i sicrhau cynrychiolaeth ddigonol heb drechu rhywiaeth, hiliaeth, homoffobia, trawsffobia, rhagfarn ar sail anabledd, a'r holl ragfarnau eraill sydd, yn anffodus, yn dal yn gyffredin iawn yn ein cymdeithas. Mae cyni a thlodi yn rhwystrau ychwanegol i annog amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Rwy'n gobeithio, felly, y bydd y Llywodraeth yn ceisio gweithredu'r awgrymiadau sydd yn yr adroddiad pwyllgor hwn. Rhaid inni edrych ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag sefyll yn y lle cyntaf, a gellir gwneud hyn drwy fynd i'r afael â sawl mater megis cyfarfodydd hygyrch, gan sicrhau bod technoleg yn cael ei defnyddio'n fwy helaeth er mwyn i aelodau allu mynychu cyfarfodydd drwy gyfrwng ffôn neu Skype efallai, yn ogystal â darparu ar gyfer aelodau sydd ag ymrwymiadau gofal plant drwy gynnig gofal plant yn y cyfarfodydd, neu ganiatáu rhannu swydd, ymysg mesurau eraill.
Byddai dull mwy hyblyg o weithredu'n canolbwyntio ar ddileu'r rhwystrau rhyng-gysylltiol sylfaenol sy'n wynebu pobl rhag cael eu henwebu ar gyfer swydd etholedig a chynnal ymgyrchoedd llwyddiannus. Mae rhai rhwystrau yn y system ei hun. Felly, er enghraifft, mae menywod yn gwneud yn well o dan gynrychiolaeth gyfrannol nag y gwnânt mewn system y cyntaf i'r felin, ac mae hynny wedi'i amlygu gan Fforwm Economaidd y Byd. Yn yr etholiad llywodraeth leol diwethaf, roedd 98 y cant o'r ymgeiswyr yn wyn, 94 y cant yn heterorywiol a 34 y cant yn fenywod. Ar ôl yr etholiad, dim ond 26 y cant o gynghorwyr oedd yn fenywod. Yn ogystal â hynny, mae pobl anabl o dan anfantais sylweddol wrth sefyll etholiad gan ei bod yn bosibl na fydd rhai'n gallu curo ar ddrysau yn yr un ffordd ag y gall ambell Aelod yma a minnau.
Rhwystr arall i bobl sydd am sefyll etholiadau llywodraeth leol yw'r cam-drin y gall pobl ei hwynebu ar gyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi profi'r math hwn o gam-drin, felly rydym yn gwybod yn iawn beth yw'r math o effaith y gall hynny ei chael. Gwn am rai pobl anhygoel o dalentog a fyddai'n gwneud cynrychiolwyr lleol da iawn, ond oherwydd diffyg cefnogaeth ac amddiffyniad i unigolion ar lefel leol yn ogystal ag ym myd y cyfryngau cymdeithasol, maent yn ymatal rhag gwneud hynny. Os ydym am gael y cynrychiolwyr gorau, rhaid inni eu helpu a'u hannog. Felly, rwy'n croesawu'r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad hwn fod yn rhaid i'r Llywodraeth bwyso ar y DU i sicrhau deddfwriaeth gref a chadarn i fynd i'r afael â cham-drin, bwlio ac aflonyddu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ni allwn ddianc rhag y ffaith bod angen i newid ddechrau ar y brig ac mae angen i'r Llywodraeth arwain drwy esiampl. O'r penodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru rhwng mis Hydref 2017 a mis Mawrth 2019, roedd pob un o'r 170 penodiad yn wyn. Dylai'r Llywodraeth arwain drwy esiampl. Mae ffordd bell i fynd cyn ein bod yn sicrhau cymdeithas a gynrychiolir yn wirioneddol gyfartal, ond rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth o ddifrif ynghylch yr adroddiad hwn, yn gweld y cyfle hwn fel man cychwyn, ac yn gweithredu'r holl argymhellion.
A gaf fi ddechrau drwy gymeradwyo'r adroddiad—credaf ei fod yn adroddiad da—a'r gwaith a wnaeth aelodau'r pwyllgor a chyd-Aelodau, a gwaith y Cadeirydd ac wrth gwrs, y clercod a'r tîm cymorth hefyd?
Un o'r pethau sy'n amlwg o'r adroddiad hwn, ac mae'n cael ei adleisio yn y sylwadau sydd newydd gael eu gwneud, yw'r cyflwyniad cefndirol lle mae'n dweud bod dadansoddiad blaenorol gan grŵp ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, 'Ar Ôl Pwyso a Mesur: Sicrhau Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru', nodwyd bod proffil cynghorwyr yng Nghymru at ei gilydd yn ddynion gwyn a'u hoedran cyfartalog oddeutu 60. Rwy'n meddwl mai fi yw hwnnw. Nid ydym i gyd yn ddrwg, gyda llaw, ond mae'n broblem pan fydd pawb ohonom yn edrych yn debyg i fi. [Torri ar draws.] Mae'n wir. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn edrych yn debyg i fi. Gallwn fod yn eithaf da—. Ni fyddai neb yn beirniadu'r diweddar Paul Flynn, a fu farw'n ddiweddar yn ei 80au ac a oedd yn dal i fod yn Aelod Seneddol gweithgar dros Gasnewydd. Felly, mae lle i rai yn eu hwythdegau hefyd. Ond y broblem yw, pan fydd y mwyafrif yn ddynion gwyn oddeutu 60 oed, nid yw'n annog amrywiaeth.
Felly, mae angen inni wneud hyn, a chredaf fod yr adroddiad hwn yn ein helpu ar y ffordd gan ei fod yn edrych ar gamau ymarferol i'w dilyn. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi derbyn y mwyafrif helaeth ohonynt a chwpl mewn egwyddor hefyd. Gadewch i mi droi at rai o'r rhain yn unig. Yn gyntaf oll, credaf ei bod yn dderbyniol iawn, ar argymhelliad 20, fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad ynglŷn ag ymestyn y cymal machlud yn Neddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw (Ymgeiswyr Etholiad) 2002 hyd at 2050 i ganiatáu parhad pob rhestr fer menywod yn unig. Rwy'n gwybod bod rhestrau byr menywod yn unig yn rhai dadleuol, ac nid yw pawb yn eu cefnogi, ond maent wedi bod yn arf angenrheidiol i ehangu amrywiaeth o ran cynrychiolaeth. Felly, mae angen hynny arnom o hyd. Mae angen mesurau eraill hefyd, ond mae angen i hynny fod yno.
Rwy'n croesawu'r ffaith hefyd ei bod yn flaenoriaeth a dderbynnir y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa mynediad i swydd etholedig i gynorthwyo unigolion anabl i ymgeisio am swydd etholedig. Mae gennyf gyfeillion a fyddai'n elwa'n uniongyrchol o hynny ond sydd ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu rhwystro rhag ymgeisio oherwydd y rhwystrau ychwanegol a wynebant oherwydd yr anableddau sydd ganddynt. Ac ar y posibilrwydd o ymestyn cronfa o'r fath i gynnwys grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol, credaf ei bod yn dra derbyniol fod y Llywodraeth wedi ystyried hynny hefyd.
Roedd argymhelliad 18 yn ymwneud â ffug etholiadau Cynulliad ar yr un pryd ag y cynhaliwn ein hetholiadau. Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth, sef bod hyn wedi'i brif ffrydio, y bydd llawer iawn o etholiadau ffug mewn ysgolion a ffyrdd eraill o annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r broses etholiadol, ond fel y dywedodd y Cadeirydd, mae yna gyfle go iawn yma, un waith mewn cylch etholiadol, i gyffroi pobl ifanc am yr hyn a wnawn yma. Heddiw, cawsom aelodau o'r Senedd Ieuenctid yma yn eistedd y tu ôl i ni; roedd cyffro gwahanol yn y Siambr. Byddai'n wych manteisio ar y cyffro hwnnw adeg etholiadau'r Cynulliad gyda phobl ifanc yn uniongyrchol. Felly, nid ydym yn dweud 'yn hytrach na'—dal ati i wneud yr holl waith gwych arall, ond ychwanegu ato mewn gwirionedd. Edrychwch ar hyn. Ewch yn ôl i gael golwg ar yr argymhelliad hwnnw, oherwydd credaf ei fod yn awgrym gwerth chweil yn y fan honno.
Gadewch i mi droi at ambell un arall yma. Y materion yn ymwneud â thechnoleg: rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rheini, oherwydd, yn sicr, nid yn unig wrth i ni edrych ar gynyddu amrywiaeth yn y gweithlu, ond hefyd, rhaid i mi ddweud, os ydym yn edrych ar ddulliau mwy modern o gyfathrebu a hefyd yr agenda ddatgarboneiddio yr ydym yn gryf iawn arni hefyd, dylem fod yn archwilio cyfleoedd eraill nad ydynt yn llusgo pawb i mewn ar gyfer pob cyfarfod o leoedd anghysbell pellennig Powys, Ceredigion, neu hyd yn oed Ogwr a dweud y gwir, a dylem ystyried ffyrdd eraill o ddefnyddio technoleg. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhellion hynny.
Hefyd, ar yr argymhellion ynghylch rhannu swyddi, gadewch i mi ddweud fy mod yn falch tu hwnt fod y mater o rannu swyddi ag aelodau gweithredol yn cael ei dderbyn yn llwyr. Mae'n debyg mai fi oedd un o aelodau mwyaf croch y pwyllgor a ddywedodd y dylai'r un peth fod yn berthnasol yn sicr wrth ethol aelodau unigol pan fyddant yn sefyll etholiad. Ac wrth gwrs, rwy'n gwybod bod llu o wrthwynebiadau, megis y byddent yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac os oes gennych ddau berson yn rhannu swydd, y byddant yn ymdrechu i wneud yn well na'i gilydd. Wel, mae gennym hynny mewn wardiau aml-aelod eisoes. Mae yna ffyrdd o wneud hyn drwy gytundeb. A dweud y gwir, efallai y bydd rhai o'r bobl sy'n wynebu rhai o'r rhwystrau, megis anabledd, ac nad ydynt yn teimlo eu bod am ymrwymo i swydd amser llawn fel cynghorydd, yn dweud wrthyf fi neu wrth rywun arall yn y dyfodol, 'Huw, rwy'n awyddus iawn i rannu'r swydd gyda chi. Os gallwn rannu'r llwyth gwaith, gyda'ch profiad chi, a minnau'n newydd, gyda'r rhwystrau rwy'n eu hwynebu, fe wnawn hyn.' Felly rwy'n croesawu'r ffaith ei fod wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor, ond rwy'n falch eich bod yn mynd i edrych ar hynny. Ond rwy'n credu y gallwn fynd ymhellach.
Mae hwn yn adroddiad gwych a chredaf y bydd yn gwthio'r agenda yn ei blaen ac yn helpu'r Llywodraeth, a diolch i'r Cadeirydd am y ffordd y cadeiriodd hyn hefyd a gofyn am gonsensws go iawn ar y materion hyn. A diolch yn arbennig i'r tystion. Ni fyddant yn hapus ynglŷn â phopeth sydd ynddo, neu byddant yn dweud ein bod wedi methu rhai elfennau, ond rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion.
Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr holl Aelodau sydd wedi siarad hyd yn hyn, ac yn enwedig Helen Mary. Rwy'n cytuno bod gennym ni fel pleidiau gwleidyddol ddyletswydd i sicrhau bod yr ymgeiswyr y bydd pleidiau'n eu cyflwyno yn ceisio adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y maent yn gobeithio eu gwasanaethu.
Roeddwn yn falch iawn nos Sadwrn o weld ein maer newydd yng Nghaerdydd ar lwyfan, llwyfan byd-eang, ar gyfer Canwr y Byd, Caerdydd, i groesawu'r enillydd a'r rhai eraill a ddaeth i'r brig. Roedd honno'n foment wych i amrywiaeth, oherwydd mae Dan De'Ath yn—nid yn unig fod ganddo'r gadwyn aur o'i gwmpas, ond mae'n 6 troedfedd 5 modfedd, felly nid oedd modd i chi fethu gweld mai ef yw ein maer du cyntaf. Felly, mae hwnnw'n fodel rôl gwych i bobl y dyfodol o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sy'n credu yr hoffent ddod yn gynghorwyr.
Ond mae'n fater cymhleth iawn. Cytunaf yn llwyr â Leanne; mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â homoffobia, rhywiaeth, hiliaeth a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anableddau, ond mae'n eithaf cymhleth pan fyddwch yn edrych ar y manylion. Felly, er enghraifft, pam fod ganddynt gydbwysedd eithaf da o gynghorwyr benywaidd yn Sir Gaerfyrddin, ond yng nghymuned Ceredigion, drws nesaf, prin fod yna unrhyw fenywod sy'n gynghorwyr? Ac felly mae'n beth llawer mwy cymhleth na dim ond sicrhau bod yr ymrwymiad hwn gennym.
Gwn mai un o'r materion sy'n codi yw'r adeg y mae cynghorau'n cyfarfod, oherwydd credaf fod cynghorau trefol Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam i gyd yn cyfarfod tua 4.30 neu 5 o'r gloch gyda'r nos, sy'n addas i bobl sydd â swydd ac sydd wedyn yn gallu cael caniatâd i adael yn gynnar bob mis ar ddiwrnod cyfarfod y cyngor. Ond gallaf weld sut y gall pobl sydd yn eu 60au hwyr, a allai orfod teithio am awr i gyrraedd y lleoliad ar gyfer cyfarfod y cyngor, fod yn wrthwynebus i gyfarfod gyda'r nos, gan ei fod yn golygu teithio yn y tywyllwch yn ystod y gaeaf, ac os ydych yn gynrychiolydd hŷn, gall hynny fod yn dipyn o her. Felly, rwy'n meddwl bod yna gymhlethdodau yn hyn nad ydynt yn hawdd eu datrys.
Credaf fod ein hargymhelliad 1 ynghylch caniatáu i bobl gymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell yn bwysig iawn, yn enwedig i bobl a allai fod â chyfrifoldebau gofalu munud olaf, lle mae trefniadau gofal plant wedi mynd o chwith, neu lle mae pellteroedd mawr i'w teithio. Pam y byddech eisiau teithio am ddwy awr er mwyn cymryd rhan mewn cyfarfod nad oedd ond yn awr o hyd? Wyddoch chi, mae hynny'n galw am ormod o ymdrech ar gyfer yr hyn a allai fod yn benderfyniad pwysig ond y gellid ei wneud yn hawdd gan aelod pwyllgor o bell.
Credaf mai un o'r pethau a'm trawodd fwyaf, a chredaf i mi sôn amdano yn y Siambr o'r blaen, oedd fy mod wedi cyfarfod â grŵp o gynghorwyr o dri chorff sirol yn Aberystwyth bron flwyddyn yn ôl, ac roeddwn yn teimlo'n wylaidd wrth weld lefel ymroddiad y bobl hyn, ond hefyd yn synnu eu bod yn gwneud pethau nad oeddwn yn credu y dylid disgwyl iddynt eu gwneud. Mae'n anodd iawn os ydych yn cynrychioli cymuned wledig, oherwydd bydd pawb yn gwybod ble rydych chi'n byw am fod pawb yn adnabod pawb. Ond roeddwn yn credu ei bod hi'n afresymol fod unigolion, ar rai achlysuron, yn cael cais i ateb y drws am saith o'r gloch y bore ac am 10 o'r gloch y nos. Wyddoch chi, mae hynny'n afresymol a chredaf y dylai swyddogion y cynghorau hynny fod wedi dweud yn bendant, 'Peidiwch â gwneud hyn. Bydd yn ormod i chi. Mae'n rhaid i chi gael bywyd hefyd.' Roedd yna un unigolyn nad oedd yn defnyddio ei wyliau i gyd er mwyn cynnal ei swydd amser llawn a chyflawni ei gyfrifoldebau cyngor. Nid wyf yn credu y dylai neb fod yn gwneud hynny. Credaf fod hynny'n annoeth ar y naw, a chredaf fod yn rhaid inni sicrhau y bydd y taliad a wneir yn caniatáu i bobl leihau eu horiau gwaith er mwyn adlewyrchu'r ffaith bod bod yn gynghorydd yn swydd dra chyfrifol.
A fyddech yn cytuno â mi, Jenny Rathbone, fod rôl hefyd i gwmnïau sy'n ddigon mawr a chyrff cyhoeddus i ddychwelyd at yr hen arfer o roi absenoldeb dyletswydd gyhoeddus i bobl fod yn aelodau o'r awdurdod lleol neu i fod yn ynadon? Gwn fod rhai cyrff yn dal i wneud hynny, ond mae'n ymddangos ei fod yn arfer sydd wedi mynd allan o ffasiwn, os mynnwch. Ac er na allwch ddisgwyl i gwmni bach lleol wneud hynny, rwy'n credu y dylai'r sefydliadau mawr fod yn galluogi eu staff i gyfranogi.
Ydw, credaf ei bod yn gwbl bosibl i gwmnïau mawr gael rhai diwrnodau penodedig wedi'u neilltuo ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus ac nid oes angen i hynny olygu bod yn gynrychiolydd ar y cyngor, gallai fod yn gorff llywodraethu ysgol neu weithio mewn corff gwirfoddol, yn eu cynghori ar sut i wneud eu cyfrifon neu beth bynnag. Rwy'n credu bod llawer o fusnesau yn y gymuned yn cefnogi'r math hwnnw o weithgarwch, ond rwy'n credu ei bod yn afresymol i gwmni bach, gyda phump o weithwyr efallai, adael i rywun fynd. Nid wyf yn meddwl bod hynny'n bosibl. Ond credaf fod angen inni fwrw ymlaen o ddifrif â—.
Rwy'n credu mai un o'r materion eraill nad wyf yn meddwl bod Aelodau eraill wedi sôn amdano yw argymhelliad 13, sef sicrhau bod y lwfans gofal y dylai pobl fod â hawl i'w hawlio os ydynt yn gyfrifol am aelod oedrannus neu anabl o'r teulu neu os oes ganddynt blant bach, nid wyf yn credu y dylai fod yn rhaid dweud bod unigolyn X, Y, Z wedi hawlio'r swm hwn. Dylai hyn fod yn rhywbeth a gofnodir gan y cyngor fel un o'r treuliau'n unig, gyda'r archwiliadau a'r gwiriadau amlwg fod yn rhaid i'r unigolyn sy'n hawlio'r lwfans fod yn bresennol yn y cyfarfod y mae'n hawlio ar ei gyfer wrth gwrs.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ond gellir gwneud hynny y tu ôl i'r llenni; nid oes angen ei wneud drwy wneud y bobl hynny'n agored i feirniadaeth.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad ac am waith ardderchog y Cadeirydd a'r pwyllgor. Mae'r ffaith nad yw ein democratiaeth yn adlewyrchu ein demograffeg yn fater a ddylai beri pryder mawr inni. Sut y gallwn obeithio cynyddu'r ymwneud â'r broses ddemocrataidd os bydd rhannau helaeth o'r etholwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli? Yn etholiadau diwethaf y cynghorau, dim ond 42 y cant o'r etholwyr a drafferthodd bleidleisio. Ac nid difaterwch yn unig sydd ar fai; mae'n adlewyrchu'r ymddieithrio a fu o'r broses wleidyddol. Mae pobl yn colli diddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac o ganlyniad maent yn llai tebygol o bleidleisio, heb sôn am geisio am swydd wleidyddol.
Yn ôl archwiliad diweddar y Gymdeithas Hansard, 'Audit of Political Engagement', y diweddaraf mewn archwiliad 15 mlynedd sydd wedi bod yn edrych ar farn y cyhoedd am wleidyddiaeth, ein system wleidyddol a chyflwr ein democratiaeth, roedd barn pobl am wleidyddiaeth ar ei hisaf erioed, yn is o lawer nag yn sgil sgandal treuliau'r ASau. Mae tri chwarter y cyhoedd ym Mhrydain yn dweud bod angen cryn dipyn neu lawer iawn o welliant ar ein systemau Llywodraeth. Mae 50 y cant yn dweud nad yw'r prif bleidiau a'r gwleidyddion yn malio am bobl fel hwy, ac mae 75 y cant yn dweud bod y prif bleidiau gwleidyddol mor rhanedig fel na allant wasanaethu er budd gorau'r wlad. Felly, mae gan bobl fwy o ffydd yn y fyddin a'r farnwriaeth i weithredu er budd gorau'r wlad.
Gyda'r lefel hon o ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, sut y gallwn obeithio annog niferoedd mwy o fenywod, cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau ac aelodau o'r gymuned LHDT i sefyll fel ymgeiswyr? Mae angen llawer o waith a chymorth ar hyn o bryd i annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i fynd i'r byd gwleidyddol a sefyll mewn seddi y gellir eu hennill; mae o'r pwys mwyaf.
Er fy mod yn croesawu llawer o'r mesurau a amlinellwyd gan y pwyllgor yn ei argymhellion am y byddant yn ei gwneud yn haws i bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol wasanaethu fel cynghorwyr, rydym yn ymladd brwydr amhosibl oni bai ein bod yn adfer ffydd yn ein systemau gwleidyddol. Ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i bob un ohonom weithio arno. Felly, o gynghorwyr cymuned i Aelodau Seneddol, rhaid inni ddangos ein bod yma i weithio dros ein hetholwyr, nid i sgorio pwyntiau pleidiol-wleidyddol hawdd yn erbyn ein gilydd. Rhaid inni ddangos i'r etholwyr ein bod yma i gyflawni eu dymuniadau, mai hwy yw ein meistri ni ac nid fel arall.
Ac mae'n rhaid inni weithredu fel oedolion, oherwydd weithiau, ceir casineb a bustl mewn trafodaethau gwleidyddol nad ydynt yn cyflawni dim heblaw—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn bendant.
Safodd arweinydd eich plaid o flaen poster a oedd yn atgoffa o bropaganda'r Natsïaid, ac rydych yn sôn am gasineb mewn gwleidyddiaeth. Ni allaf gysoni'r ddau beth—
A gaf fi ddweud rhywbeth wrthych? A wyf fi erioed wedi gwneud ymosodiad personol ar unrhyw un yn y fan hon?
Rwy'n gofyn i chi am arweinydd eich plaid.
Gadewch i mi ofyn rhywbeth i chi. Fe godoch ar eich traed a gwneud pwynt gwleidyddol yn erbyn un o'n haelodau yma, a dywedodd hi wrthych y tu allan nad oeddech wedi gwrando ar y frawddeg lawn cyn i chi sefyll a gwneud sylw o flaen y Siambr gyfan—
A wnewch chi ateb y pwynt a wneuthum?
—ac nid oedd hynny'n iawn. A ydych wedi ysgrifennu at yr arweinydd gwleidyddol—
Na, na. Ni allwch ddadlau'n ôl ac ymlaen. Naill ai ymatebwch i'r ymyriad gan yr Aelod neu symudwch yn eich blaen.
Nid wyf wedi edrych arno. Nid wyf wedi edrych ar yr hyn rydych chi'n sôn amdano—
Nigel Farage a'r poster yn refferendwm Brexit—
Fe ddywedoch chi 'arweinydd gwleidyddol', ac rwy'n ystyried mai Mark Reckless yw fy arweinydd yma, mae'n ddrwg gennyf.
Nid Nigel Farage, felly?
Wel, ef yw arweinydd ein plaid—
Ie, wir.
Ond nid yw yn y Cynulliad, ydy e?
Na, na. Naill ai atebwch yr ymyriad neu symudwch yn eich blaen.
Rwy'n symud ymlaen, ydw. Felly, rhaid inni ddangos i'r etholwyr ein bod yma i gyflawni eu dymuniadau, mai hwy yw ein meistri ni ac nid fel arall. Ac mae'n rhaid i ni weithredu fel oedolion, fel rwyf newydd ei ddweud. Nid yw'r casineb a'r bustl a geir yn llawer rhy aml mewn trafodaethau gwleidyddol yn ateb unrhyw ddiben ar wahân i ddadrithiad pellach mewn gwleidyddiaeth.
Os na all gwleidyddion weithredu fel oedolion cyfrifol, rhesymol a thrin ei gilydd â pharch, sut y gallwn ddisgwyl i'r etholwyr ein cefnogi neu hyd yn oed eu hannog i ddod yn wleidyddion eu hunain? Felly, nid yw'n fawr o syndod fod pobl yn cael eu diflasu gan wleidyddiaeth a gwleidyddion. Fodd bynnag, heddiw, gwelsom aelodau o'r Senedd Ieuenctid yn ymgysylltu'n gadarnhaol â llawer o faterion gwleidyddol ac yn siarad â ni am eu gwaith yn y dyfodol. Felly, roedd hwn yn gam cadarnhaol i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Mae'r Cadeirydd wedi sôn am rannu swyddi, sy'n amlwg eto yn gam cadarnhaol i'w ystyried ymhellach.
Yn etholiad diwethaf y Cynulliad, ni thrafferthodd mwy na hanner pobl Cymru i bleidleisio; mewn rhai seddi, ychydig dros draean o'r rhai a oedd yn gymwys i bleidleisio a wnaeth hynny mewn gwirionedd. A'r llynedd, buom yn dathlu canmlwyddiant y bleidlais gyffredinol, ond beth fyddai Emmeline Pankhurst yn ei feddwl am y lefelau o ymddieithrio a welwn heddiw?
Mae angen inni wneud gwleidyddiaeth yn fwy cynhwysol, ac er mwyn gwneud hynny, rhaid inni ei gwneud yn fwy parchus. Ac mae tlodi yn ein cymunedau, unwaith eto, yn rhwystr ac yn aml yn cynyddu anghydraddoldeb. Felly, yr ateb i gael rhagor o fenywod mewn gwleidyddiaeth yw gwneud gwleidyddiaeth yn fwy deniadol i fenywod, a gellir dweud yr un peth am bob grŵp arall sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae bwlio ar-lein yn rhwystr i annog menywod i fynd i fyd gwleidyddiaeth, a rhaid inni sicrhau bod gan bobl hyder i ymdrin â hyn yn gadarnhaol. Felly, mae angen inni ei wneud yn fwy atyniadol i bobl ddod yn gynghorwyr, yn ACau neu'n ASau, a bryd hynny'n unig y gallwn sicrhau amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth.
Diolch. A gaf fi alw'n awr ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith gwerthfawr a phwysig yn y maes hwn, a hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i a diolch y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i'r sefydliadau a'r unigolion niferus sydd wedi cyfrannu at hyn. Croesawn waith y pwyllgor a byddwn yn pleidleisio o blaid heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gynyddu amrywiaeth mewn swyddi etholedig, gan weithio i alluogi a grymuso pobl sydd am sefyll etholiad i wasanaethu eu cymunedau. Pan fydd ein gwleidyddiaeth yn adlewyrchu ein pobl, gwyddom fod ein cymunedau a'n gwlad yn well o'r herwydd. Felly, gweithio gyda phartneriaid i nodi a chwalu rhwystrau, o ran canfyddiad ac mewn ystyr fwy ymarferol, a chyfeiriodd y Cadeirydd at yr awgrymiadau ymarferol sydd yn yr adroddiad, a byddaf yn dod atynt cyn bo hir.
Ond yn gyntaf hoffwn grybwyll canfyddiad, o ran beth yw swydd wleidyddol ac i bwy y mae, a phwy sy'n wleidydd. Soniodd Leanne Wood am y stereoteip traddodiadol o'r hyn y mae pobl yn ei weld yw gwleidydd, ac rwy'n petruso rhag dweud 'gwelw a gwryw' gyda Huw'n sefyll mor agos ataf, ond peidiwch â phoeni, yn sicr ni fyddem yn dweud eich bod yn ddiflas. Ond o ddifrif, pan oeddwn i'n tyfu i fyny, ni feddyliais erioed y buaswn yn wleidydd gan nad oedd gwleidydd yn edrych yn debyg i fi, nid oedd yn rhywun tebyg i mi ac nid oedd yn rhywbeth y tybiwn erioed y gallwn ei wneud. Ond mewn gwirionedd roeddwn yn meddwl am y peth yn ddiweddar ac rwy'n meddwl efallai fy mod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, Ddirprwy Lywydd, pan wyf yn cyd-fynd â'r stereoteip gan fy mod yn agosáu at ganol oed, rwy'n wyn ac mae gennyf wraig erbyn hyn.
Ond o ddifrif, gwyddom fod profiad byw yn golygu ein bod yn gallu gwasanaethu ein cymunedau'n ddilys, ac mai dyna'r ffordd gryfaf o sicrhau bod ein llais a'n safbwyntiau o bob rhan o'n cymunedau a'n cymdeithas yn cael eu cynrychioli yn y drafodaeth a'r ddadl sy'n digwydd yn ein democratiaeth, yn ein cymunedau ac yn ein gwlad. Yn gryno, gall diffyg demograffig lywio diffyg democrataidd ac arwain at ddiffyg cysylltiad â'n prosesau gwneud penderfyniadau a'n proses ddemocrataidd.
Ond fel y clywsom heddiw, ni all pobl gychwyn ar y daith i ddod yn Aelod etholedig os nad ydynt yn ymwybodol o beth yw Aelod etholedig, beth y mae'n ei wneud a sut y mae'n ei wneud. Mae'r Cadeirydd wedi crybwyll diffyg gwybodaeth i bobl ynglŷn â sut y gallent ddod yn gynghorydd a beth y mae hynny'n ei olygu. Felly, mae angen i ni sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o rôl a gwerth cynghorwyr. Mae pawb ohonom wedi clywed y canfyddiadau a'r ystrydebau negyddol, am gynghorwyr nad ydynt yn gwneud unrhyw beth, nad ydynt yn gweithio'n galed, ond ar draws ein cymunedau ac yn y Siambr hon, gŵyr pawb ohonom y gallai pobl yma fod yn clywed o wahanol gefndiroedd gydag ideoleg wahanol, ond mae'r mwyafrif ohonom am wneud ein gorau i wasanaethu ein cymunedau.
Felly, yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i nodi elfennau allweddol ein hymgyrch i godi proffil cynghorwyr, y cyfraniadau allweddol a wnânt i gymdeithas a'r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i'w cymdogion a'r cymunedau ehangach. Byddwn yn ceisio manteisio ar hyn a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfraniadau ymarferol y mae pobl wedi'u gwneud ar lawr gwlad ac mewn ardaloedd lleol. Bydd herio'r negyddoldeb cynyddol ynghylch gwleidyddiaeth yn allweddol i unrhyw ymgyrch. Ond mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â hyn drwy weithio mewn partneriaeth.
Ond fel y dywedais, mae angen i ni wneud mwy na herio'r canfyddiad yn unig, mae'n rhaid i ni weithredu i ddileu'r rhwystrau ymarferol i gyfranogi, ar y dechrau ac er mwyn galluogi cyfranogiad parhaus. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod systemau cymorth priodol ar waith o ran hyfforddiant a datblygiad, cymorth emosiynol a mecanwaith i ddiogelu lles. Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu eisoes ar gael i gynghorwyr, yn amrywio o raglenni sefydlu i raglenni arweinyddiaeth, ond fel y clywsom heddiw, gallwn bob amser wneud mwy a gallwn adeiladu ar hyn. Byddwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu a gwneud y gorau o'r cyfleoedd, ac rydym yn awyddus i weithio gydag eraill i nodi meysydd ychwanegol i roi sylw iddynt.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Wrth wneud hynny, tybed a wnaiff y Gweinidog edrych ar rywbeth a godwyd gennyf ar y pwyllgor unwaith neu ddwy—yr enghraifft ragorol a welwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a wnaeth waith hyrwyddo aruthrol ar sail amhleidiol ar ymgyrch ynglŷn â sefyll fel cynghorydd os nad ydych erioed wedi meddwl am wneud hynny, ac yna aeth drwy hyfforddiant helaeth gyda phobl ynglŷn â beth y golygai hynny, sut y gallech oresgyn rhwystrau? Nid oedd yn gweddu i bawb—dywedai rhai pobl, 'Diolch yn fawr iawn ond nid oes gennyf ddiddordeb'—ond daeth â llwyth newydd o bobl wahanol i'r arfer i mewn, ac nid oedd cysylltiad gwleidyddol o unrhyw fath gan rai ohonynt. Felly, edrychwch ar y rheini pan fyddwch yn meddwl am weithio mewn partneriaeth.
Gwnaf, yn bendant, ac os oes gan unrhyw Aelodau awgrymiadau neu enghreifftiau o arferion gorau y gellir eu cyflwyno wedyn ar draws y cynghorau, ar draws y gymuned neu ar raddfa genedlaethol, rwy'n siŵr y buaswn i a'r Gweinidog yn hapus iawn i glywed am hynny. Fel y dywedoch chi, hyd yn oed os yw rhai pobl yn penderfynu nad yw'n gweddu iddynt hwy, byddwn wedi codi ymwybyddiaeth o rôl y cyngor yn y gymuned beth bynnag. Hefyd, yn yr un modd, mae angen i ni ystyried sut y gallwn roi cymorth gwell i bobl nad ydynt wedi llwyddo mewn etholiadau o bosibl, ac sydd eisoes wedi dangos diddordeb mewn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol a'r gymuned leol. Ac mewn gwirionedd, rydym wedi gweld drwy'r gwaith a wnaethpwyd gennym a thrwy dystiolaeth y pwyllgor fod rhai pobl, efallai, wedi mynd ymlaen i ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy hynny wedyn, fel llywodraethwyr ysgol ac mewn rolau eraill yn y gymuned. Felly, mae'n fater o sut y byddwn yn parhau â'r gefnogaeth honno yn y dyfodol, fel bod pobl am ymgeisio eto. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud yn siŵr nad yw pobl yn colli diddordeb oherwydd y diffyg llwyddiant hwnnw—nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hethol ar y cynnig cyntaf—felly, sicrhau ein bod yno i gefnogi pobl a mynd â hwy drwy'r broses honno.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn canolbwyntio ar nifer o faterion pwysig, gan gynnwys mynychu o bell, trefniadau rhannu swydd a chymorth i gynorthwyo pobl ag anableddau i geisio am swydd etholedig. Mae'r rhain yn feysydd lle mae gwaith eisoes ar y gweill, ond gallwn bob amser adeiladu ar y gwaith hwn. Felly, yn y Bil etholiadau llywodraeth leol (Cymru) sydd ar y gweill, rydym yn bwriadu diwygio'r adrannau ar fynychu o bell ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i gynnwys darpariaethau i hwyluso trefniadau rhannu swydd ar gyfer swyddogion gweithredol ac arweinwyr cynghorau. Byddwn yn amlwg yn ystyried pethau lle mae wedi digwydd—yn Abertawe—a lle gallwn ddysgu o fentrau eraill hefyd, fel y dywedodd Helen Mary, rwy'n credu. Bydd yn cynnwys dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo safonau ymddygiad priodol, a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi cyfeiriad swyddogol eu haelodau etholedig, yn hytrach na'u cyfeiriad cartref. Felly, byddai angen i'r awdurdodau lleol roi cyfeiriad swyddfa swyddogol i'r Aelodau ei ddefnyddio ar gyfer cyhoeddusrwydd. Cododd Aelodau her y cynnydd mewn cam-drin ar-lein y mae gwleidyddion yn gyffredinol yn ei brofi, yn anffodus—gwn fod llawer ohonom yn y Siambr wedi profi hynny ein hunain—a deallaf fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol newydd fod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU heddiw, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y gallwn weithio i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein gyda chwmnïau cyfryngau cymdeithasol, oherwydd credaf ein bod i gyd yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth y mae gwir angen mynd i'r afael ag ef a'i ddileu, oherwydd nid oes neb yn haeddu hynny. Mae pobl yn aberthu llawer yn bersonol drwy sefyll etholiad i wasanaethu eu cymuned ac mae angen inni barchu ein gilydd fel pobl am yr hyn a wnawn hefyd. Yn unol â hyn, byddwn yn deddfu i ddileu'r angen i gyhoeddi cyfeiriad yr ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Bydd llawer o bobl yn gwybod ble mae eu cynghorydd lleol yn byw, ond rwy'n credu bod hynny'n darparu sicrwydd ychwanegol i wneud yn siŵr nad yw ar gael yn gyhoeddus ar-lein er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bobl lle gallwn wneud hynny.
Byddwn hefyd yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â rhoi adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mewn grym, fel y cynigir yn yr adroddiad, ac mae swyddogion wedi cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i ofyn am farn ar y dull arfaethedig o gyhoeddi ad-daliadau os bydd costau. Rydym wedi ymrwymo i weithio ar ddarparu cronfa mynediad i swydd etholedig ar gyfer Cymru, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo gyda swyddogion ar draws y Llywodraeth a hefyd gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog yma.
Dylem hefyd gydnabod bod camau eisoes wedi'u cymryd i gefnogi amrywiaeth. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud darpariaeth ddeddfwriaethol ar gyfer absenoldeb teuluol i aelodau etholedig er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau i gyfranogiad mewn llywodraeth leol ar gyfer cynghorwyr a allai fod â chyfrifoldebau teuluol. Rydym yn bwriadu diweddaru'r trefniadau hyn yn y Bil etholiadau llywodraeth leol er mwyn ymestyn y darpariaethau i gynnwys rhai sy'n mabwysiadu, ac rydym hefyd yn bwriadu ei gwneud yn haws diweddaru'r trefniadau absenoldeb wrth i'r polisi ddatblygu yn y maes hwn.
Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, hoffwn ailadrodd unwaith eto ein bod yn croesawu'r gwaith pwysig hwn gan y pwyllgor a phawb sy'n gysylltiedig ag ef, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n gilydd i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol. Rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno ein bod wedi camu i'r cyfeiriad iawn, ond mae'n bryd i ni gynyddu ein gwaith yn y maes hwn ar gyfer ein holl bobl, ein cymuned a'n democratiaeth. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar John Griffiths i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl? Mae'n dda gweld, rwy'n credu, fod ymdeimlad eithaf cryf o gonsensws o ran lle rydym ni a lle mae angen i ni fynd. Fel y dywedwyd, mae'r Cynulliad yma mewn gwirionedd yn enghraifft go dda o'r ffordd y gellir gwneud cynnydd ac o'r ffordd y gwnaethpwyd cynnydd. Er hynny, fel y gwyddom, mae gwaith pellach i ni ei wneud hefyd. Serch hynny, mae gennym stori weddol dda i'w hadrodd, sydd yn ein rhoi mewn sefyllfa eithaf cryf yn fy marn i wrth wneud argymhellion a chynghori eraill.
Fel Huw, rwy'n pledio'n euog i fod yn y ddemograffeg wrywaidd, gwyn a thua 60 oed. [Chwerthin.] Nid oes llawer y gallwn ei wneud am hynny, ond yn sicr gallwn weithio tuag at fwy o amrywiaeth yn gyffredinol. Credaf fod yr hyn a ddywedodd Huw am Paul Flynn yn wir iawn—fod Paul yn dadlau'n gryf iawn dros y ddemograffeg sydd yn eu hwythdegau a chynrychiolaeth well ar gyfer y grŵp oedran hwnnw ar bob lefel o wleidyddiaeth, ond yn sicr, rydym am weld cymaint o amrywiaeth â phosibl ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru, a byddwn yn gweithio tuag at hynny, fel pwyllgor, ac yn gweithio gyda'r Llywodraeth yma ac awdurdodau lleol yng Nghymru.
Credaf fod Jenny Rathbone wedi gwneud pwynt cryf ynglŷn â'r ffaith bod maer Caerdydd yn dod o leiafrif ethnig a'i fod ar y llwyfan rhyngwladol yng nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd y BBC—gall modelau rôl fod mor bwerus, ac ni ddylem fychanu hynny o gwbl, a gorau po fwyaf o fodelau rôl o'r fath sydd gennym.
Gwnaeth Leanne bwynt diddorol, rwy'n credu, ynglŷn â chynrychiolaeth gyfrannol a sut y mae menywod yn tueddu i wneud yn well o dan y systemau hynny. Nid ydym ar drothwy unrhyw newid mawr yn y systemau etholiadol yng Nghymru, ond mae'n ddefnyddiol edrych ar sut y gall systemau penodol helpu neu lesteirio'r amrywiaeth ehangach honno yr hoffem ei gweld. Roedd yn ddefnyddiol hefyd yn fy marn i fod Leanne wedi sôn am gyni, oherwydd mae angen inni ddeall yr amseroedd yr ydym yn byw ynddynt a beth y mae hynny'n ei olygu i'r ymdrechion hyn i sicrhau mwy o amrywiaeth, ac nid yw ceisio rheoli cyllidebau sy'n lleihau a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny yn dasg atyniadol i'r un ohonom. Mae grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn tueddu i ddioddef mwy yn sgil cyni nag eraill, ac nid yw hynny'n helpu chwaith.
O ran gwleidyddiaeth y cyfnod hwn, credaf fod yr hyn a ddywedodd Caroline Jones yn wir iawn, nad yw'r ffaith bod llai o barch nag erioed gan y cyhoedd at wleidyddiaeth yn ddefnyddiol os ydym am i bobl ymgysylltu â gwleidyddiaeth. Mae Brexit a'r refferendwm wedi bod yn gwbl wenwynig i hyn yn fy marn i, gan fod y refferendwm wedi hollti'r boblogaeth yn ei hanner, mae pleidiau gwleidyddol yn rhanedig, ac mae Llywodraeth y DU a San Steffan mewn cyflwr o anhrefn pur—yn methu symud o'u hunfan. Nid oes dim o hynny'n hysbyseb atyniadol iawn dros gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Yn hynny o beth, a gredwch fod gan y cyfryngau hefyd rôl elfennol a chanolog bwysig iawn yn hyn o ran y modd y caiff gwleidyddiaeth, gwleidyddion a chymdeithas sifil eu portreadu?
Ydw. Siaradodd Hannah Blythyn am ganfyddiadau a pha mor bwysig ydynt, ac mae hynny'n sicr yn wir, ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fwrw ymlaen ag ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chyfathrebu, ac mae hynny'n ateb i ryw raddau y pwynt a wnaeth Helen Mary am ddyletswydd ddinesig, oherwydd credaf y byddai'n mynd i'r afael â hynny hefyd.
Ddirprwy Lywydd, gallaf weld bod fy amser yn gyfyng iawn, ond rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yna naws afreal i'r hyn a ddywedodd Caroline Jones. Ni allwch ymbellhau fel Aelod etholedig oddi wrth y blaid yr ydych yn aelod ohoni, na'r blaid yr oeddech yn aelod ohoni, yn wir. A'r hyn a glywn am frad a gwneud cam â phobl a'r rhaniadau a'r elyniaeth a grëwyd gyda'r rhethreg honno a'r ymgyrchoedd hynny—unwaith eto, mae hynny'n gwbl wenwynig i geisio cael yr ymgysylltiad ac yn wir, yr amrywiaeth yn benodol, y mae pawb ohonom am ei gweld.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.