– Senedd Cymru am 2:43 pm ar 8 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad, Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ar drefniadau parcio yn ysbytai Cymru? Yn amlwg, rwy'n ymwybodol ac yn cefnogi'n llwyr y fenter parcio am ddim sydd gennym mewn ysbytai ledled Cymru, ond mae hyn yn peri problemau parcio sylweddol ar lawer o'n safleoedd ysbyty, yn enwedig Ysbyty Glan Clwyd, sy'n gwasanaethu llawer o fy etholwyr i.
Mewn ymgais i liniaru rhai o'r problemau hynny, mae'r Bwrdd Iechyd yn y gogledd wedi darparu cyfleuster parcio a theithio sydd wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith cleifion a staff sy'n defnyddio'r trefniadau parcio newydd ar gyfer yr ysbyty hwnnw. Ond bwriedir ei dynnu yn ôl ar ddiwedd y mis hwn, ac rwy'n pryderu'n fawr ynghylch y pwysau y gall hynny ei achosi, yn enwedig i'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau ysbyty yn aml oherwydd cyflyrau fel canser a chyflyrau cronig eraill neu salwch sy'n cyfyngu ar fywyd. Tybed a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad ac a oes unrhyw gymorth ariannol a allai fod ar gael i gynnal y cynlluniau parcio a theithio hyn, sydd, fel y dywedais i, yn hynod boblogaidd ymhlith cleifion, yn hynod boblogaidd ymhlith staff ac yn ddefnyddiol iawn o ran lliniaru'r problemau tagfeydd ar safleoedd ein hysbytai.
Diolch i Darren Millar am godi'r mater. Mae'r Gweinidog Iechyd yn ymwybodol o'r mater yng Nglan Clwyd a'r cyfleuster parcio a theithio yn benodol. Gwn fod yr Aelod lleol, Ann Jones, wedi ei godi gydag ef, ac mae'r Gweinidog Iechyd wedi cytuno y bydd yn ysgrifennu at yr holl Aelodau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf.FootnoteLink FootnoteLink
Hoffwn i fynegi fy mhryder mawr ynghylch diogelwch Cwrdiaid yng ngogledd Syria. Er gwaethaf cael eu trechu mewn llawer o frwydrau, yn ogystal ag atal lluoedd y Wladwriaeth Islamaidd rhag gwthio ymlaen, mae'r Cwrdiaid hefyd wedi cael eu gorfodi i encilio. Gwnaeth y Cwrdiaid yr hyn yr oedd lluoedd y gorllewin yn anfodlon ei wneud ar lawr, ac maen nhw wedi talu pris mawr am yr aberth hwnnw. Erbyn hyn maen nhw'n rhedeg y carchardai sy'n dal miloedd o filwyr y Wladwriaeth Islamaidd sydd wedi'u cipio. Y wobr am y fath ddewrder a gwaith diflino: cael Arlywydd yr Unol Daleithiau yn cefnu arnyn nhw er gwaethaf sicrwydd y bydden nhw'n cael eu hamddiffyn.
Mae Trump wedi rhoi caniatâd i Dwrci lansio ymosodiad milwrol yng ngogledd Syria trwy nodi ei fwriad i dynnu milwyr yr UD o'r rhanbarth. Rydym yn gwybod beth yw bwriad Llywodraeth Twrci. Dro ar ôl tro, y wobr am ddewrder y Cwrdiaid ac ymgyrch gyfiawn dros ymreolaeth, wedi'i hannog yn aml gan y gorllewin, fu dirymu creulon heb ddim cymorth gan y gymuned ryngwladol. Rwy'n ymwybodol iawn nad polisi tramor yw cylch gwaith y Senedd hon—dim eto beth bynnag—ond gall y Llywodraeth hon a dylai'r Llywodraeth hon anfon neges glir i'r Swyddfa Dramor na fydd y brad hwn, a fydd yn costio miloedd o fywydau Cwrdaidd ac yn peryglu bywydau pob un ohonom, yn cael ei oddef. Mae gennym gymuned Gwrdaidd sylweddol sy'n byw yng Nghymru, sy'n weithgar yn eu cymunedau lleol ac sy'n rym er daioni. Hoffai'r bobl Gwrdaidd ac unrhyw un arall yng Nghymru sy'n dymuno polisi tramor teg a thosturiol weld arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru yn y mater hwn. Felly a wnewch chi gytuno i ddatganiad gan y Llywodraeth ar hyn, yn amlinellu'r hyn y gellir ei wneud i helpu i amddiffyn y bobl hynny sy'n deulu ac yn ffrindiau i gymuned Cwrdaidd Cymru, sydd ar hyn o bryd wedi eu siomi'n arw?
Diolch i Leanne Wood am godi'r mater difrifol hwn gyda ni'r prynhawn yma. Byddaf yn siarad yn uniongyrchol â'r Gweinidog dros gysylltiadau rhyngwladol i weld beth yw'r ffordd orau o sicrhau bod Llywodraeth y DU yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd gennych y prynhawn yma, ond gwn eu bod yn bryderon y mae llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon yn eu rhannu.
Y penwythnos diwethaf, derbyniais i, ynghyd â fy nghydweithiwr Chris Elmore AS, wahoddiad am ddiod gan arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David. Roeddem yn falch iawn o wneud hynny oherwydd cynigiodd e brynu'r rownd gyntaf, sy'n gwbl ddieithr i ni, a dweud y gwir, ond hefyd oherwydd natur arbennig y dafarn yr aethom iddi. Ddwy flynedd yn ôl, cododd grŵp o bentrefwyr yng Nghefn Cribwr, gydag un diwrnod yn unig yn weddill, ddigon o arian i brynu mewn arwerthiant y dafarn olaf yn y pentref—tafarn 150 oed o'r enw The Three Horseshoes. Fe wnaethon nhw lwyddo. Maen nhw wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn ei thynnu'n ôl i'w chragen a'i hadnewyddu'n llwyr a'i throi'n dafarn sy'n eiddo i'r gymuned ac sy'n cael ei rheoli gan y gymuned. Mae'n hardd, mae'n fendigedig y tu mewn. Mae'n gweini coffi yn ogystal â chwrw, ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond tybed ai dyma'r adeg iawn, bellach, i ofyn am ddadl ar gyfleusterau sy'n eiddo i'r gymuned. Mae cynnydd yn y cyfleusterau hyn ledled Cymru—siopau, caffis, tafarndai—ac yn aml iawn maen nhw'n troi i fod yn ganolbwynt y pentrefi a'r trefi y maen nhw ynddynt. Felly, a gaf i ofyn am y ddadl honno, wrth inni fynd ymlaen? Byddwn i'n sicr yn ei ddathlu fel aelod o'r blaid gydweithredol hefyd, sy'n credu mewn modelau perchnogaeth a rheolaeth cydweithredol hefyd, ac os hoffai'r Gweinidog, y Trefnydd, drafod hyn ymhellach, rwy'n fwy na bodlon gwneud hynny. Byddaf yn hapus i brynu'r rownd gyntaf yn y Three Horseshoes inni allu trafod hyn ymhellach.
Diolch i Huw Irranca-Davies am y gwahoddiad hwnnw ac rwy'n sicr na allaf ddweud 'na' wrtho. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn fawr bwysigrwydd cymunedau'n cymryd yr awenau o ran asedau lleol, felly roeddwn i'n falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gyhoeddi canllaw trosglwyddo asedau cymunedol wedi'i ddiweddaru, sy'n rhoi enghreifftiau pendant i awdurdodau lleol ac eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn o drosglwyddo asedau cymunedol sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae'n edrych ar rai o'r peryglon a'r rhwystrau a allai fodoli o ran prosiectau llwyddiannus, ond mae hefyd yn darparu trywydd bron, mewn gwirionedd, o ran sut y gellir troi'r math hwn o beth yn llwyddiant gwirioneddol. A byddwn yn hapus i rannu copi o hwnnw gyda Huw Irranca-Davies, efallai dros y peint hwnnw.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar fesurau eraill i amddiffyn anifeiliaid mewn cartrefi, ar ffermydd ac anifeiliaid sy'n byw'n wyllt? Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn ymgynghori ar gam i wahardd cadw primatiaid fel anifeiliaid anwes, gan gyflwyno'r orfodaeth i osod microsglodion ar gathod a gwella lles anifeiliaid byw wrth eu cludo. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ofalus ganlyniadau'r ymgynghoriadau hyn ac yn rhoi unrhyw fesurau a argymhellir ar waith yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y safon uchaf o ran lles anifeiliaid? Diolch.
Diolch i Mohammad Asghar am godi hynny, ac mae safonau da o ran lles anifeiliaid yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o angerddol yn ei gylch. Gwn fod hyn yn uchel iawn iawn ar agenda Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig. Yn amlwg, byddwn yn edrych ar ymgynghoriadau Llywodraeth y DU yn y maes hwn i weld beth y gallwn ei ddysgu o'r ymatebion a gyflwynir i hynny. Ond gwn fod gan y Gweinidog ei rhaglen uchelgeisiol ei hun o ran iechyd a lles anifeiliaid a'i bod yn cael ei chynghori gan yr arbenigwyr sy'n rhan o'r grŵp iechyd a lles anifeiliaid ar y pethau mwyaf effeithiol y gallwn ni eu gwneud yng Nghymru yn y maes hwn.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr amgylchedd, os gwelwch yn dda? Yr wythnos diwethaf, roedd trigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig yn ardaloedd Margam, Port Talbot a Taibach, wedi bod yn agored i lygredd sŵn mawr ynghyd â chymylau enfawr o lwch du amlwg yn dod o'r ffwrneisi chwyth gan fod angen offer gollwng i ryddhau'r pwysau. Nawr, pan wnaeth Tata ei gyhoeddiad am hyn, fe wnaethon nhw roi'r bai ar gynnyrch dwrlawn yn rhan o'r mewnbwn. Nawr, efallai eu bod nhw'n byw yn eu swyddfeydd yn Tata, ond rwy'n siŵr eu bod nhw'n deall bod llawer o law yn dod i Bort Talbot ac nid yw'n unigryw, ond mae trigolion wedi gorfod dioddef cyfran eithaf mawr o lygredd a llwch niwsans o ganlyniad i rai o'r digwyddiadau diweddar yn Tata. Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi ymweld â Tata yn yr haf a thrafod gyda nhw pa waith oedd yn cael ei wneud, ond mae hyn yn cyrraedd pwynt yn awr pan fo angen inni gymryd mwy o gamau i sicrhau eu bod yn ymddwyn fel cymydog rhesymol a chyfrifol, er mwyn sicrhau nad yw trigolion yr ardal yn dioddef oherwydd y llygredd di-alw-amdano a digymell hwn.
Ddoe, cawsom ddatganiad newydd gan y Gweinidog trafnidiaeth, a oedd yn sôn am gyffyrdd 41 a 42 yr M4 a'r lefelau nitrogen deuocsid sydd wedi lleihau o ganlyniad i'r camau gweithredu. Ond os yw pobl sy'n teithio ar y ffordd honno yn edrych tua'r môr, maen nhw'n gweld Tata ac maen nhw'n gweld yr allyriadau sy'n dod o Tata. Felly, mae'n bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r allyriadau o'n diwydiannau diwydiannol ac, yn yr achos hwn, Tata. Felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa drafodaeth y mae'n ei chael gyda Tata i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto a'u bod yn parhau i weithredu fel cymydog cyfrifol, gan sicrhau bod pobl yn yr ardal honno yn gallu byw yn eu tai, heb gael eu gorchuddio â llwch du wrth fynd allan i'r ardd?
Felly, mae Gweinidog yr amgylchedd wedi bod yma i glywed eich pryderon ar ran eich etholwyr y prynhawn yma, a gwn y byddai'n hapus iawn i gyfarfod â chi yn ystod yr wythnos nesaf i drafod yn fanylach y pryderon a godwyd gennych.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan y Gweinidog iechyd ynghylch darparu unedau mân anafiadau yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb y neges Dewis Doeth yr wyf i'n gobeithio ein bod ni i gyd yn ei chlywed. Fel Aelod etholaeth yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod yr uned mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu yn Singleton wedi ei chau dros dro—rhywfaint o aildrefnu, ond hefyd rhai materion yn ymwneud â staffio. Mewn ymateb i fy nghais rhyddid gwybodaeth diweddar, cadarnhaodd y bwrdd iechyd newydd ei fod wedi gofyn i 430 o feddygon teulu yn ardal y bwrdd iechyd a fydden nhw'n ystyried cyfrannu at y rota gan na all y llond llaw presennol o feddygon teulu ei reoli eu hunain. Dros 400 o feddygon teulu, ac ni chafwyd ateb cadarnhaol gan yr un ohonynt. Rwy'n credu bod angen rhywfaint o ymchwiliad uniongyrchol gan y Gweinidog i hynny, yn ogystal â datganiad wedi'i ddiweddaru, efallai, ar gyflwr y gwasanaeth ar hyn o bryd ledled Cymru.
Yr ail: a gaf i ofyn i Weinidog yr amgylchedd, yn sgil yr adroddiad am gyflwr natur, a gwaith Llywodraeth Cymru o ran diogelu gwarchodfeydd natur o bwys cenedlaethol sy'n eiddo preifat. Mae gwarchodfa natur Cynffig yn fy rhanbarth i yn cael ei rheoli gan yr awdurdod lleol, yn rhinwedd prydles sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr. Mae trigolion a gwirfoddolwyr lleol yn naturiol wedi bod yn pryderu'n fawr am ddyfodol y warchodfa hon sydd o bwys cenedlaethol, gan na fydd y Cyngor yn adnewyddu'r brydles honno. Ni fu ymddiriedolaeth y gorfforaeth sy'n berchen ar y tir yn barod i gyfathrebu a bod yn dryloyw ynglŷn â'i chynigion i sicrhau rheolaeth dda o'r tir hwnnw o fis Ionawr ymlaen ac, o gofio bod cymuned ehangach Cynffig yn fuddiolwr yr ymddiriedolaeth, rwy'n poeni braidd am gyflawni dyletswyddau ymddiriedol. Ond hoffwn gael rhywfaint o eglurder, os gwelwch yn dda, ynghylch swyddogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn sefyllfaoedd fel hyn, pan fo'n ymddangos bod y safleoedd hyn sydd o bwys cenedlaethol yn y fantol. Ai dim ond cynghori y maen nhw, er enghraifft? A hoffwn gael cadarnhad o unrhyw bwerau a all fod gan Lywodraeth Cymru, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, fel sydd ganddyn nhw o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, i orfodi perchenogion i gadw gwarchodfeydd natur a ddynodir yn swyddogol i safon benodol, neu i ddiogelu hunaniaeth benodol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Ynglŷn â'r mater hwnnw ynghylch gwarchodfa natur Cynffig a phwysigrwydd rheoli tir sydd o bwys cenedlaethol, roedd rhai agweddau eithaf manwl ar eich cwestiwn, felly fe wnaf i ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ysgrifennu atoch chi i ymateb i'r pryderon penodol hynny.FootnoteLink
Unwaith eto, o ran y mater ynghylch yr uned mân anafiadau yn Singleton, a'ch pryder yn fwy cyffredinol ynghylch darpariaeth gwasanaeth mân anafiadau, a'r arolwg a wnaed o feddygon teulu o ran ceisio cael eu cytundeb i ddod yn rhan o'r rota honno i ddarparu'r gwasanaeth, rwy'n gwybod y bydd gan y Gweinidog Iechyd ddiddordeb yn yr hyn yr ydych chi wedi'i amlinellu y prynhawn yma ac, rwy'n siŵr, bydd yn ymchwilio ymhellach i'r mater.
Trefnydd, yr wythnos diwethaf cafodd cais cynllunio am 111 o dai ar gyrion Rhaglan yn fy etholaeth i, a alwyd i mewn gan Lywodraeth Cymru, ei wrthod gan yr arolygydd cynllunio annibynnol, a chefais gopi o'r adroddiad a'r llythyr, yn bennaf ar sail gwrthdaro â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Mae'n fy nharo bod y ddeddfwriaeth hon a'r corff cynyddol o ddeddfwriaeth Gymreig yn y maes hwn yn cael effaith gynyddol ar benderfyniadau cynllunio awdurdodau lleol ledled Cymru, tybed a ydyn nhw'n gwbl gyfarwydd â'r holl agweddau ar gymhlethdod y ddeddfwriaeth honno, gan fy mod i yn sicr wedi cael cyfarwyddyd ynghylch hynny. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog llywodraeth leol a chynllunio ynglŷn â chyngor sy'n cael ei roi i awdurdodau lleol ar hyn o bryd er mwyn iddyn nhw gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion fel y ddeddfwriaeth yr wyf i wedi'i chrybwyll, a meysydd eraill—mae'r maes argyfwng hinsawdd hefyd yn cael effaith gynyddol. Mae'n ymddangos i mi y byddai'r awdurdodau'n elwa o gael eglurder ynghylch y fframwaith newydd yr ydym ni ynddo.
Yn ail ac yn gyflym iawn, o ran addysg cyfrwng Cymraeg, yn amlwg mae gan Lywodraeth Cymru'r bwriad clodwiw o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fodd bynnag, yn fy ardal i, nid yw'r ddarpariaeth ar gael i helpu i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy'n credu bod gennym ni un ysgol gynradd Gymraeg yn Sir Fynwy. Mae yna gynllun ar gyfer ail, ond mae'n aneglur ble fydd honno. Tybed, o ystyried hynny, a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni'r addewid hwn a gwneud yn siŵr y gall awdurdodau lleol yn y de ddarparu'r addysg cyfrwng Cymraeg honno lle mae rhieni a disgyblion ac athrawon yn ei ddymuno.
Diolch am godi'r materion. O ran y mater cyntaf, y cyd-destun yw ei fod yn gais cynllunio lleol penodol ac, yn amlwg, ni allaf roi sylwadau ynghylch manylion hynny. Ond byddaf yn archwilio gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol sut yr ydym ni'n sicrhau y gall awdurdodau lleol ac adrannau cynllunio gyrchu'r holl wybodaeth, cyngor ac arbenigedd posib sydd eu hangen arnynt, o ran ymgymryd â'r swyddogaethau sydd ganddynt a'r ystyriaethau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud o ran cynllunio. Byddaf hefyd yn archwilio cyfleoedd i drafod yn fanylach gydag awdurdodau lleol pa un a ydyn nhw wedi canfod unrhyw fylchau o ran cael gafael ar wybodaeth neu arbenigedd y gallwn ni o bosib eu cefnogi nhw gyda hynny wrth iddyn nhw ymgymryd â'r swyddogaethau hynny.
Rwy'n gwybod y bydd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn awyddus iawn i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am addysg cyfrwng Cymraeg i Aelodau, a byddaf yn siarad â hi am y cyfnod mwyaf priodol a hwylus i wneud hynny.
Diolch i'r Trefnydd.