4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 16 Hydref 2019.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau Hi-Lex a cholli 120 o swyddi ym Mharc Ynni Baglan? 355
Lywydd, mae hwn yn amlwg yn newyddion trychinebus, ac mae fy meddyliau gyda gweithwyr Hi-Lex, a'u teuluoedd wrth gwrs, ar yr adeg anodd hon. Rydym yn awr yn canolbwyntio ar gefnogi'r gweithlu a dod o hyd i gyflogaeth arall yn lleol, ac wrth gwrs, yn anffodus, dyma'r diweddaraf mewn cyfres o gyhoeddiadau ar draws y Deyrnas Unedig mewn perthynas â cholli swyddi yn y sector modurol ac mae'n dod ar yr un diwrnod ag y mae data arolwg wedi datgelu bod mwy na 80 y cant o gwmnïau yn y sector yn pryderu am eu dyfodol, oherwydd bygythiad Brexit heb gytundeb.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Roedd Hi-Lex Cable System Company Limited yn un o'r busnesau cyntaf i symud i Barc Ynni Baglan yn ôl yn y 1990au. Mae wedi bod yno ers dros 20 mlynedd, ac mae wedi bod yn gwneud elw. Rydych wedi tynnu sylw yn briodol at y ffaith mai un o'r problemau y mae'n eu hwynebu yn awr yw colli cwsmeriaid oherwydd yr ansicrwydd yn y sector modurol, yn enwedig Honda yn cau yn Swindon, sy'n un o'u prif gwsmeriaid. Nid yw hon yn sefyllfa lle mae busnes yn cau mewn gwirionedd; mae'r busnes yn trosglwyddo i ran arall o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n mynd i Hwngari, a bydd y safle hwn yn cau ymhen tua 12 mis, mae'n debyg—maent wedi gwarantu 12 mis ar hyn o bryd, a dim diswyddiadau. Ond os yw Honda yn mynd yn gynt, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd o ganlyniad i hynny?
Nawr, y sefyllfa i weithwyr yw—. Ac nid oes unrhyw undebau llafur o fewn y busnes, felly nid oes sefydliad yno, yn y bôn, i helpu i gefnogi gweithwyr mewn unrhyw drafodaethau diswyddo, felly a wnaiff Llywodraeth Cymru gamu i mewn a siarad gyda Hi-Lex i ganiatáu iddi weithio gyda'r gweithwyr i sicrhau bod unigolion a allai wynebu colli eu swyddi yn ystod y misoedd nesaf yn gallu cael y fargen orau bosibl ac na chânt eu gadael heb unrhyw gynrychiolaeth o gwbl? A wnewch chi siarad â Hi-Lex hefyd i weld sut y gallwch helpu a gweithio gyda hwy i sicrhau bod y 12 mis y maent wedi'i roi ar hyn o bryd yn 12 mis mewn gwirionedd, ac na fydd yn cael ei fyrhau? A wnewch chi weithio gyda'r awdurdod lleol hefyd? Oherwydd, yn amlwg, os ydym yn ceisio dod o hyd i waith newydd, mae angen i ni ddenu buddsoddiad newydd, mae angen i ni annog twf o fewn busnesau lleol. Oherwydd mae'r rhain yn swyddi medrus iawn ar gyflogau da sy'n gadael yr ardal, ac mae 125 o deuluoedd yn wynebu dyfodol anodd yn awr oherwydd nad yw'n hysbys beth fydd yn digwydd y tu hwnt i'w gwaith yn y cwmni hwnnw.
Mae'n bwysig i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen yn awr, ac mae angen i Lywodraeth y DU gamu ymlaen hefyd, oherwydd yn amlwg, mae'r sector gweithgynhyrchu yn ei gyfanrwydd ledled y DU yn ei chael hi'n anodd oherwydd Brexit, oherwydd amgylchiadau eraill, oherwydd economïau byd-eang. Ac nid wyf yn gweld Llywodraeth y DU yn camu i'r adwy. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy yn awr. Ac a wnewch chi roi sicrwydd i mi ac i'r gweithwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ac yn eu helpu a'u cefnogi yn y ffordd orau sy'n bosibl?
Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiynau? Ac rwy'n siŵr y bydd Dai Rees yn rhannu fy mhryderon am les y gweithwyr hynny yn y dyfodol wrth iddynt wynebu cyfnod pryderus iawn rhwng nawr a 2020, neu 2021 o bosibl, pan fydd y safle'n cau. Wrth gwrs, byddwn yn pwyso ar y cwmni i sicrhau bod o leiaf 12 mis o waith i'r bobl yr effeithiwyd arnynt gan y cyhoeddiad heddiw. Bydd y 12 mis hynny'n rhoi digon o amser inni sicrhau bod y rhaglen ReAct yn weithredol a bod gennym fynediad llawn at yr holl weithwyr ar y safle. Mae gan raglen ReAct enw da iawn am gefnogi unigolion, ac rwy'n falch fod gennym berthynas dda gyda Hi-Lex. Felly, rwy'n hyderus y bydd y cwmni'n sicrhau bod modd darparu mynediad i'r timau ReAct.
Rwy'n hyderus hefyd y byddwn yn gallu gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol i nodi cyfleoedd cyflogaeth eraill. Rydym ni yn Llywodraeth Cymru wedi sefydlu timau ymateb rhanbarthol cyn i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd, os bydd Prydain yn gadael yr UE, a bydd y timau ymateb rhanbarthol hynny'n cynnwys unigolion o awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae Dai Rees wedi nodi prif achos colli'r cwmni hwn, sef, wrth gwrs, cyhoeddiad Honda y byddai'n cau ffatri Swindon. Ar ôl i Honda wneud y cyhoeddiad hwnnw, gofynnais i swyddogion Llywodraeth Cymru gynnal trafodaeth ford gron gyda busnesau yng Nghymru yng nghadwyn gyflenwi Honda. Daeth nifer dda iawn i'r uwchgynhadledd honno o blith yr 20 o fusnesau cadwyn gyflenwi sydd gennym yng Nghymru. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau nad yw'r mwyafrif helaeth o fusnesau yng nghadwyn gyflenwi Honda yma yng Nghymru ond yn ddibynnol ar Honda am gyfran fach o'u gwaith. Fodd bynnag, mae nifer fach iawn sy'n dibynnu ar Honda i raddau helaeth. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda hwy, gan gynnwys Hi-Lex.
Ers inni gael y cyfarfod bord gron, gallaf ddweud wrth Aelodau hefyd ein bod wedi cael cymorth gan swyddogion o Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, a chan Fforwm Modurol Cymru. Ond mae Dai Rees yn gwneud y pwynt pwysig iawn fod yn rhaid i Lywodraeth y DU gamu ymlaen ar hyn. Byddaf yn cwrdd ag Ysgrifennydd Gwladol BEIS yfory, yn Llundain, lle byddaf yn cyflwyno'r achos cryfaf posibl i Lywodraeth y DU ddyrannu arian i raglen Kingfisher, sy'n edrych ar fusnesau sydd mewn perygl o ganlyniad i ansicrwydd Brexit.
Rydym wedi camu i'r adwy drwy gyflwyno cyllid cydnerthedd busnes Brexit i nifer sylweddol o fusnesau ledled Cymru. Rydym wedi camu i'r adwy drwy sefydlu tasglu Ford, a thrwy ddenu INEOS Automotive i Gymru. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU wneud yr un peth.
Weinidog, diolch am eich ateb i David Rees. Yn ystod y cwestiynau i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn gynharach, nid oeddwn yn siŵr a oeddech yn y Siambr i glywed y cwestiwn neu beidio, ond tynnais sylw at y dystiolaeth a roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor materion allanol yr wythnos o'r blaen yn awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar allforion yn hytrach na denu mewnfuddsoddiad. Felly, efallai y gallwn ofyn i chi nodi a ydych yn teimlo bod angen adolygu'r dull hwnnw o weithredu, o ystyried cyhoeddiadau cwmnïau fel Ford a Hi-Lex, fel y clywsom heddiw. Ac yn y dyfodol agos, a gaf fi ofyn i chi sut y bwriadwch gefnogi Hi-Lex? Ac fel y mae David Rees wedi'i grybwyll yn ei gwestiwn, mae'r gweithwyr yn fedrus iawn ac wrth gwrs, byddant yn bryderus cyn 2021. Rydych wedi sôn am raglen ReAct, ond tybed a allwch amlinellu sut y gellir addasu rhaglenni penodol i'r sefyllfa arbennig hon?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Nawr, o ran allforion, mae allforion yn un o'n galwadau i weithredu yn y cynllun gweithredu economaidd—un o'r pum maen prawf y gall busnesau eu defnyddio i ddenu arian o'r rhaglenni cyllid grant cyfunol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gweithredu. Mae'r holl dystiolaeth yn tynnu sylw at y ffaith, os ydych eisiau codi cyfraddau cynhyrchiant mewn economi, fod rhaid i chi gael cyfran uwch o fusnesau sy'n gweithredu o fewn y sectorau gwasanaethau y gellir eu masnachu ac sy'n agored i'r byd. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i chi gael cyfran uchel o fusnesau sy'n allforio. Mae'n gwbl hanfodol. Dyna'r rheswm pam y gwnaethom gynnwys allforion fel un o'r sianeli i ariannu busnesau yn y cynllun gweithredu economaidd, a pham fod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol mor awyddus i hyrwyddo allforion yn ei strategaeth ryngwladol ac i nodi pwy yw'r hyrwyddwyr allforio hynny ledled Cymru a defnyddio eu profiadau a'u sgiliau i annog busnesau eraill i allforio mwy.
O ran buddsoddiad uniongyrchol o dramor, mae'n rhaid imi ddweud mai prin iawn yw'r cyfleoedd i ddenu buddsoddiad o dramor ar hyn o bryd, o ystyried yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â Brexit. Nid ydynt wedi sychu'n gyfan gwbl. Mae INEOS Automotive, wrth gwrs, yn enghraifft o lwyddiant diweddar. Fe wnaethom gystadlu â chyrchfannau ar draws Ewrop a'r byd i gyd yn wir i ennill y buddsoddiad arbennig hwnnw, ond mae'n anhygoel o anodd denu buddsoddiad i'r DU ar hyn o bryd. Serch hynny, bydd ein hymdrechion wedi'u gwarantu ar gyfer y dyfodol, ac fe wnawn bopeth yn ein gallu i ddenu swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n talu'n dda i Gymru—y swyddi hynny sy'n ffurfio diwydiannau'r dyfodol.
O ran rhaglen ReAct, y peth cyntaf y byddwn yn ei wneud yw sicrhau bod gennym ddarlun cywir o setiau sgiliau unigolion o fewn y cwmni. O hynny wedyn, byddwn yn ceisio cysylltu pob unigolyn gyda Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, ac unrhyw wasanaeth cymorth arall sydd ei angen arnynt, a gallai hynny gynnwys gwasanaethau cymorth sy'n ymwneud â'u hiechyd meddwl a'u lles. Yna, byddwn yn asesu pa gyfleoedd sydd ar gael o fewn y sector ac yn fwy eang mewn sectorau cysylltiedig a allai ddefnyddio eu sgiliau. Oherwydd bod y bobl sy'n gweithio yn Hi-Lex mor fedrus, rwy'n hyderus fod ganddynt obaith mawr o gael gwaith yn y dyfodol, ond rwy'n awyddus i sicrhau na fyddant yn mynd drwy gyfnod o ddiweithdra rhwng nawr a phan fyddant yn cael gwaith arall ar ôl 2020 neu 2021.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei atebion hyd yn hyn ac archwilio un neu ddau o faterion ychydig bach yn fwy manwl? Yn amlwg, mae ffatri system ceblau Hi-Lex ym Maglan wedi'i lleoli ym mharc ynni Baglan, ac efallai y dowch o hyd i un neu ddwy o swyddfeydd rhanbarthol Aelodau'r Cynulliad ym mharc ynni Baglan hefyd; mae Bethan Sayed a minnau'n rhannu swyddfa nid nepell o'r cwmni hwn.
Felly, ie, ffatri cydrannau ceir yw hi, mae'n cyflenwi Ford a Honda, mae'n gwneud ceblau, cydrannau ffenestri a drysau ar gyfer ceir, ac mae cyhoeddiad heddiw, fel y dywedoch chi, yn dweud y bydd yn cau ym Maglan pan fydd ffatri Honda yn cau yn Swindon ymhen dwy flynedd. Mae'r ffatri ym Maglan, yn amlwg, yn cau, ond ni fydd y gwaith cynhyrchu'n dod i ben; bydd cynhyrchiant yn cael ei drosglwyddo i Hwngari, sy'n dal i fod yn rhan o'r UE ar hyn o bryd. Nawr, yn amlwg, mae hwn, fel rydych wedi'i grybwyll, yn benderfyniad hynod siomedig gan Hi-Lex heddiw, ac mae'n ergyd arall, fel y dywedodd Dai Rees, i economi'r rhanbarth, mor fuan ar ôl y newyddion y bydd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cau hefyd, ac maent yn cyflenwi Ford.
Nawr, amser maith yn ôl, roedd de Cymru yn gatalydd i'r chwyldro diwydiannol ac yn weithgynhyrchwyr y byd ar un adeg. Ac yn awr rydym yn gweld corfforaeth amlwladol arall yn siomi eu gweithlu ffyddlon yng Nghymru ac yn symud cynhyrchiant i rywle arall, y tro hwn i Hwngari. Mae'n newyddion torcalonnus i'r 125 o weithwyr a'u teuluoedd ym Maglan a thu hwnt. Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld swyddi'n cael eu colli yng Ngorllewin De Cymru, ac yn wir, mewn mannau eraill yng Nghymru, oherwydd bod Llywodraeth Cymru'n methu hyrwyddo arloesedd mewn diwydiannau nad oes ganddynt ddewis ond arloesi os ydynt am oroesi.
Rydym yn gwybod popeth am y newidiadau y mae angen iddynt ddigwydd ym maes cynhyrchu ceir, ond mae Llywodraethau eraill wedi rheoli newid arloesol, fel yn Ottawa yng Nghanada, lle mae Llywodraeth Ontario a Llywodraeth Canada wedi cyd-fuddsoddi mewn canolfan newydd yno, canolfan ymchwil a datblygu Ford, sy'n gweithio ar gerbydau awtonomaidd. Mae yna newid mewn cynhyrchu ceir—ceir newydd, ceir gwahanol yn y dyfodol. Nid yw'n golygu bod yn rhaid i'r diwydiannau hyn gael eu clymu wrth yr hyn y maent bob amser wedi'i wneud. Agorodd y ganolfan honno yng Nghanada yn gynharach eleni gyda mwy na 300 o swyddi.
Yn ôl i Faglan, yn ôl y cyhoeddiad, ni fydd unrhyw swyddi'n mynd am y 12 mis nesaf—honnir y bydd y ffatri'n aros ar agor tan 2021—felly, ar yr wyneb, mae yna amser i gynllunio. Clywaf yr hyn rydych yn ei ddweud am ReAct, ond fel arfer mewn amgylchiadau fel hyn cawn gyhoeddiad fod hyn a hyn o gannoedd o swyddi'n cael eu colli yn y ffatri hon a hon, a dyna ni—tri mis, ac mae popeth yn cau. Nid dyna'r sefyllfa yn yr achos arbennig hwn, felly a gaf fi archwilio'r cynlluniau'n fwy manwl gyda'r Gweinidog, efallai—? Mae gennym amser yma i gynllunio ar gyfer dyfodol y gweithwyr ym Maglan, oherwydd bydd y swyddi'n parhau am 12 mis, yn ôl y rheolwyr. Felly, sut y bwriadwn sicrhau trawsnewidiad mwy esmwyth fel ein bod yn cadw'r swyddi hynny yma yn ne Cymru, ac ehangu o bosibl ar y syniad o gael mwy o ailhyfforddi a phopeth a newid ffocws i weithwyr, ond yn amlwg hefyd, ein bod yn ceisio datblygu gweledigaeth o beth fydd ffatri fodurol yma yng Nghymru yn y dyfodol: a fyddwn yn dal i gynhyrchu cydrannau ceir, ac os felly, ar gyfer pa fath o geir? A ydym yn bwriadu arloesi neu a ydym yn bwriadu sefyll yn llonydd a gwylio ffatrïoedd ceir olynol fel hyn yn cau o un diwrnod i'r llall? Rwy'n ceisio sicrhau gweledigaeth hirdymor yma gan y Gweinidog. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiynau ac yn gyntaf oll, hoffwn ddweud fy mod yn anghytuno â'ch asesiad o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i weithgynhyrchu yng Nghymru a phwysigrwydd arloesi? Rydym ar fin agor y drysau ar y ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru. Bydd honno'n ganolfan ymchwil unigryw. Yn wir, galwodd eich Aelodau eich hun am ganolfan ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru. Gobeithio y byddwch yn cefnogi ei lansiad ym mis Tachwedd.
Mae gennym glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd gorau Ewrop, os nad y byd; mae gennym M-SParc, eto yng ngogledd-orllewin Cymru; mae gennym Aston Martin Lagonda, sydd wedi penderfynu gwneud de Cymru yn gartref i'w rhaglen drydaneiddio. Mae arloesi ar hyd a lled Cymru o ganlyniad i'r buddsoddiad strategol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r buddsoddiad hwnnw'n diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol. Ond roedd y cwmni hwn yn y fath sefyllfa fel na allai oroesi heb gontractau pwysig gan Honda. Gwaethygwyd eu trafferthion gan benderfyniad gan Volvo i fabwysiadu injan a fyddai’n defnyddio trosglwyddiad trydan na fyddai’n galw am geblau. Roedd y ddau ffactor yn rhoi dyfodol y cwmni yn y fantol yma yng Nghymru.
Nododd yr Aelod enghreifftiau o lwyddiant yn Ottawa, ond y gwahaniaeth amlwg rhwng Ottawa a Chymru yw nad yw Ottawa yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, yn wynebu gadael heb gytundeb, ac mae hwn yn fygythiad mawr i'r sector. Ac os edrychwn ar fusnesau eraill ledled y DU ar hyn o bryd, yr arolwg y soniais amdano’n gynharach, gwelwn fod 11.8 y cant o gwmnïau yn y sector modurol, bron i 12 y cant o fusnesau yn y sector pwysig hwnnw, eisoes wedi troi oddi wrth weithrediadau yn y DU. Mae'n bosibl fod y sector ar fin methu’n llwyr o ganlyniad i'r diffyg penderfyniad, diffyg gweithredu a methiant Llywodraeth y DU i weithredu i'w gefnogi. Ac fel y dywedais, yfory byddaf yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gefnogi rhethreg gadarnhaol ynghylch dyfodol y sector modurol gydag arian caled ar gyfer cronfa Kingfisher.
Rwy'n credu bod dau gyfle mawr yn ne Cymru, o ran y trosglwyddo y mae'r Aelod yn ei nodi, a buaswn yn cytuno bod angen i ni gael trosglwyddiad di-dor, os mynnwch, i weithgaredd sector modurol newydd yn ne Cymru. Yn gyntaf oll, ceir cyfle amlwg gyda systemau gyriant amgen—trydan yn fwyaf amlwg, ond gyda hydrogen hefyd o bosibl. Rydym yn gweithio ar y cyfleoedd hynny, nid yn unig gyda fforwm modurol Cymru, ond hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda BEIS ar lefel Llywodraeth y DU, i geisio denu cymaint o gyfleoedd buddsoddi a chronfeydd grantiau ag y gallwn i Gymru. Mae'r cyfle mawr arall, Lywydd, yn ymwneud â'r diffyg cyfleusterau ailgylchu ar gyfer batris ar hyn o bryd, ac ar gyfer cyfansoddion hefyd. Felly, unwaith eto, rydym yn edrych ar gyfleoedd i'r rhanbarth elwa ar y prinder hwn o gyfleusterau o'r fath.
Ac yn olaf, Suzy Davies.
Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn falch o glywed y byddaf yn gryno iawn. Mae'r cwestiwn cyntaf yn ymwneud ag amseriad y cyhoeddiad hwn. Rydym yn gwybod hefyd fod INEOS yn dod i gyffiniau Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol agos. A oes unrhyw newyddion da am botensial ar gyfer cyfleoedd yma, oherwydd ni fydd y diswyddiadau’n digwydd am flwyddyn? A oes unrhyw newyddion yn dod oddi wrth INEOS a allai gynnig rhywfaint o gysur i'r gweithwyr yno?
Yn ail, rwy'n clywed yr hyn a ddywedwch am Aston Martin Lagonda; a yw cyhoeddiadau fel hyn yn peryglu'r egin o hyder sy’n tyfu yn yr hyn a gynigiwn i'r diwydiant modurol yma yng Nghymru?
Ac yna, yn olaf, mae rhai o'r cyhoeddiadau a gawsom yn ddiweddar ar gau cwmnïau a busnesau wedi dod gan gwmnïau llawer llai, cwmnïau cadwyn gyflenwi. A oes unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd a all helpu'r math hwnnw o gwmni, yn hytrach na'ch Dawnus a'ch Tatas chi, dim ond i agor eu llygaid mewn gwirionedd i ddeall bod problemau iddynt hwy yn y dyfodol ac y gallent fod eisiau meddwl ynglŷn ag arallgyfeirio a pheidio â dibynnu cymaint ar un cwsmer mawr unigol?
Yn hollol. Buaswn yn cytuno’n llwyr â Suzy Davies ar y pwynt hwn. A'r rheswm pam ein bod wedi cynnal yr uwchgynhadledd ar gyfer busnesau cadwyn gyflenwi Honda oedd am ein bod yn dymuno darganfod i ba raddau yr oedd busnesau'n agored i benderfyniad Honda ac a oeddent yn edrych ar arallgyfeirio ac a oedd unrhyw arwydd y byddai'r busnesau hynny'n denu contractau gan unedau gweithredu a gweithgynhyrchu eraill.
Nawr, o ran arallgyfeirio, mae rhai busnesau mor arbenigol o fewn y sector modurol fel ei bod yn anodd iawn iddynt ganfod neu ddatblygu cynhyrchion amgen i'w cynhyrchu neu eu cydosod yng Nghymru, ond mae cyfleoedd ar gael i fusnesau eraill yn sicr.
Bydd Aelodau yng ngogledd Cymru yn gwybod fy mod wedi ysgrifennu atynt yn ddiweddar ynghylch ffatri Vauxhall yn Ellesmere Port. Ar ôl cyhoeddiad Honda, gofynnais i swyddogion yn Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda swyddogion yn Llywodraeth y DU, gasglu gwybodaeth am ba mor agored yw Cymru, o gofio bod PSA wedi dweud bod buddsoddiad yn y ffatri yn Ellesmere Port yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniad trafodaethau Brexit.
O ganlyniad i'r ymdrech honno i gasglu tystiolaeth a gwybodaeth, rydym wedi gallu gweld i ba raddau y mae'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru yn agored i’r posibilrwydd o golli Vauxhall. Fel cam nesaf, fy mwriad yw cynnull uwchgynhadledd arall o'r holl weithredwyr cadwyn gyflenwi modurol yng Nghymru—mae yna lawer, ac maent yn cyflogi nifer enfawr o bobl—i'w hannog i edrych ar arallgyfeirio, er mwyn nodi cyfleoedd gyda hwy, i weithio gyda hwy lle bo hynny'n bosibl ac i elwa ar gyfleoedd yn strategaeth ddiwydiannol y DU, yn ogystal â thrwy'r cynllun gweithredu economaidd, i sicrhau eu hyfywedd hirdymor.
Mae Suzy Davies hefyd yn gwneud y pwynt pwysig iawn na ddylem golli golwg ar y ffaith bod nifer sylweddol o swyddi’n cael eu creu yn ne Cymru ar hyn o bryd yn y sector modurol. Bydd INEOS yn creu 500 o swyddi yn y blynyddoedd i ddod—200 i ddechrau yn y man cychwyn. Roeddwn yn falch o nodi yn ddiweddar iawn fod Aston Martin Lagonda wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cynyddu nifer y bobl a gyflogant ar gyfer safle Sain Tathan o 700 i 1,000. Felly, mae nifer sylweddol o swyddi'n cael eu creu.
Y thema gyffredin, wrth gwrs, gyda'r ddau yw bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol bwysig yn y gwaith o ddenu'r busnesau hynny i dde Cymru. Fy mwriad yw cynnal yr ymdrech a gychwynnwyd gennym i ddenu cymaint o gyflogwyr ag y gallwn i ranbarth sy'n dioddef o ganlyniad i benderfyniadau gan Ford, Honda a busnesau eraill.
Diolch i'r Gweinidog.