– Senedd Cymru am 2:26 pm ar 22 Hydref 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes gan y Trefnydd. A dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i fusnes yr wythnos hon. Cyn bo hir, byddaf yn gwneud cynnig i atal y Rheol Sefydlog berthnasol er mwyn caniatáu ar gyfer cynnal dadl ar Brexit fel yr eitem olaf o fusnes heddiw. O ganlyniad, mae'r datganiad llafar—y diweddaraf am Brexit —wedi'i dynnu'n ôl. Yn ogystal â hyn, bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn gwneud datganiad ar y blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020-25. Yn olaf, gohiriwyd y ddadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf o gyfarfodydd wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar y mesurau gofal llygaid newydd? Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion, RNIB Cymru, wedi mynegi ei bryder ynghylch canlyniadau'r tri mis cyntaf o ddata a gasglwyd ers cyflwyno mesurau gofal llygaid newydd. Yn y cyfnod hwnnw, nid oes yr un bwrdd iechyd wedi cyrraedd targed Llywodraeth Cymru. Yn ail, mae pob bwrdd iechyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros y tu hwnt i'w dyddiadau targed. Ac yn olaf, mae'r cleifion risg uchaf yn aros y tu hwnt i dargedau ac yn hwy na'r hyn sy'n ddiogel yn glinigol. Gweinidog, mae'r golwg yn synnwyr gwerthfawr. Mae'n anfaddeuol y dylai pobl fod mewn perygl o niwed na ellir ei wrthdroi oherwydd nad ydynt yn cael eu trin yn ddigon cyflym. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod pobl sydd wedi colli eu golwg yn gyflym yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt o fewn yr amserlenni penodedig yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn ichi am godi mater y mesurau gofal llygaid newydd yn y Siambr y prynhawn yma. Pan gyflwynwyd y safonau gofal llygaid hynny, gwn iddynt gael croeso cynnes gan RNIB ac eraill a welai'r potensial y gallent ei gael o ran atal pobl rhag colli eu golwg yng Nghymru. Byddaf yn fwy na pharod i ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sut y mae'r safonau a'r mesurau newydd hyn yn cael eu gweithredu o fewn y tri mis cyntaf, ond hefyd i amlinellu sut y mae'n rhagweld y bydd y gwelliannau'n cael eu dangos yn y cyfnod hirach sydd o'n blaenau.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd datganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth, ac yn y datganiad hwnnw dywedwyd wrthym y bydd y trenau Pacer bondigrybwyll gyda ni am lawer hwy nag a addawyd yn wreiddiol. Wedi eu hadeiladu o gorff bws ac wedi eu gosod ar olwynion trên gan greu profiad teithio anghyfforddus, dim ond dros dro y bwriadwyd y trenau hyn pan gawsant eu cyflwyno gyntaf yn yr 1980au. Daeth y datganiad sy'n cynnwys hyn yn fuan ar ôl cyhoeddi'r adroddiad blynyddol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, nad oedd yn cynnwys yr adduned o adroddiad blynyddol y flwyddyn flaenorol i gael gwared â'r Pacers cyn diwedd y flwyddyn. Mynegodd y datganiad hefyd y byddai trên sydd hyd yn oed yn hŷn, sef y trên dosbarth 37 Rheilffordd Prydeinig a adeiladwyd yn yr 1960au, yn aros ar y cledrau am gyfnod hwy hefyd. Nid oedd y model trên hwn yn cael sylw hyd yn oed yn adroddiad blynyddol cyntaf Trafnidiaeth Cymru, gan iddo gael ei ail gyflwyno ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwnnw oherwydd prinder cerbydau dwys.
Nid yw teithio ar yr hen drenau hyn yn brofiad teithio gwych. Rwy'n defnyddio'r trenau hyn drwy'r amser, a gallaf dystio i gwynion pobl eraill, sy'n cael eu gwneud yn rheolaidd gan lawer iawn o bobl am orlenwi, gwasanaethau coll a threnau wedi torri i lawr. Nawr, sylwaf fod eich cyd-aelodau yn y Blaid Lafur, maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, maer rhanbarthol Dinas Sheffield, Dan Jarvis, ac arweinydd Cyngor Dinas Leeds, Judith Blake, i gyd wedi llofnodi llythyr yn galw ar weithredwr trenau'r Northern i ostwng prisiau tocynnau ar gyfer teithwyr sydd, fel ninnau yng Nghymru, yn gorfod teithio ar y trenau Pacer hyn. Rwy'n credu bod hwn yn syniad gwych. A fyddwch chi a'ch cyd-Aelod yn y Cabinet gyda'r brîff trafnidiaeth yn sefyll ochr yn ochr â'ch cyd-aelodau yn eich plaid i roi buddiannau teithwyr cyn elw? A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog trafnidiaeth yn amlinellu faint o ostyngiad yn y prisiau y gall teithwyr ei ddisgwyl tra byddwn yn aros am y gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus sylfaenol yr ydym yn ei haeddu?
Llywydd, credaf fod y Prif Weinidog wedi ateb rhai o'r cwestiynau hyn yn ystod ei drafodaeth ag arweinydd Plaid Cymru y prynhawn yma. Ond, i ailadrodd, bydd y stoc y mae Leanne Wood yn cyfeirio ato yn cael ei ddileu'n raddol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Maen nhw'n cael eu cadw ar y cledrau ar hyn o bryd er mwyn cynnal capasiti. Ac wrth gwrs, mae cerbydau ar draws y DU i gyd; nid yw hwn yn fater sydd wedi'i gyfyngu'n benodol i Gymru. A nododd y Prif Weinidog hefyd y cynigion ar gyfer y dyfodol o ran gostwng prisiau tocynnau ar draws Cymru hefyd.
Dau fater: yn gyntaf, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi adroddiad pwysig heddiw ar gyflwyno gofal sylfaenol gwell, sy'n tynnu sylw at y ffaith bod angen i newid ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy er mwyn mynd i'r afael â'r holl heriau hir-sefydlog, a sicrhau bod gwasanaethau gofal sylfaenol yn addas at y diben. Yn sicr, mae canlyniadau anfwriadol i fuddsoddi mewn adeiladau newydd weithiau. Yn fy etholaeth i fy hun, dyfarnodd y Llywodraeth grant cyfalaf i bractis Dewi Sant ym Mhentwyn er mwyn ehangu Cangen Pontprennau i ddarparu ar gyfer y nifer cynyddol o ystadau newydd yng Ngogledd Caerdydd. Ond mae hyn wedi golygu bod meddygfa Pentwyn, lle mae'r boblogaeth fwyaf difreintiedig yn byw, yn cael ei hailddynodi fel meddygfa gangen. Felly, mae gofal sylfaenol wedi'i gryfhau'n arwynebol, ac mae hyn mewn gwirionedd wedi arwain at lai o wasanaeth i'r rhai nad oes ganddynt gerbyd a dim ond gwasanaeth bws anfynych sydd ganddynt. Felly, tybed a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth i'n galluogi ni i archwilio'r heriau sy'n ein hwynebu ym maes gofal sylfaenol, a chlywed mwy am yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gryfhau gofal sylfaenol, sydd mor hanfodol er mwyn gwireddu 'Cymru Iachach'.
Yn ail, roeddwn am godi mater y canlyniadau yn sgil tranc Tomlinsons Dairies yn Wrecsam. Rydym wedi cael ar ddeall yn y 36 awr ddiwethaf fod ffermwyr wedi cael eu hannog i drosglwyddo i Tomlinsons gan Sainsbury's ar y sail os nad oeddent yn trosglwyddo i Tomlinsons, y byddent yn colli eu cytundebau i gyflenwi llaeth i'r archfarchnad honno. Ond o ganlyniad i hynny nid ydynt wedi cael eu talu yn ystod y pythefnos diwethaf. Deallaf fod Marks and Spencer wedi talu cyflenwyr am laeth y maent wedi'i werthu, ond nid yw Sainsbury's wedi gwneud hynny eto. Tybed beth all y Llywodraeth ei wneud ynglŷn â hyn ac a ydynt wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda Sainsbury's ynghylch y mater hwn o gyfiawnder.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r materion hyn y prynhawn yma. Rydym yn croesawu'r adroddiad ar wasanaethau gofal sylfaenol, a gynhyrchwyd gan swyddfa Cymru, a bydd hynny'n sicr yn helpu i lywio'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud i wireddu'r weledigaeth a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach', lle mae gan bobl fynediad at ofal a chymorth sydd ei angen arnynt, ac yn parhau'n annibynnol gyhyd ag y bo modd. Mae cyfarwyddwr cenedlaethol gofal sylfaenol wedi sefydlu rhaglen strategol, gyda'r nod o gefnogi'r broses o roi'r model gofal sylfaenol ar waith yn lleol. A gwn fod y Gweinidog, Vaughan Gething, wedi gwneud datganiad heb fod yn rhy bell yn ôl ar wasanaethau gofal sylfaenol yma yng Nghymru. Ond rwy'n gwybod y bydd diddordeb ganddo i glywed yn benodol am brofiadau eich etholwyr ym meddygfa Pentwyn, felly byddai'n wych pe gallech ysgrifennu ato a nodi'r materion penodol hynny.
Ar fater Tomlinsons Dairies, rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Tomlinsons Dairies dros y 18 mis diwethaf i geisio'u helpu i ddatrys y problemau busnes sy'n parhau i'w hwynebu. Rydym bellach wedi sefydlu tasglu i weithio'n uniongyrchol gyda'r staff a effeithir, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau'r ffermwyr a rhanddeiliaid eraill i ystyried pa gymorth sydd ei angen ar hyn o bryd. Rwy'n credu ei bod yn gadarnhaol iawn bod M&S wedi talu'r cyflenwyr, a byddwn yn gobeithio, yn sicr, y bydd Sainsbury's yn mynd ati mewn ffordd debyg.
A gaf i uniaethu â'r sylwadau, yn arbennig am Tomlinsons Dairies, lle cawsom y cwestiwn brys yr wythnos diwethaf? Ac rwy'n gwerthfawrogi bod y Llywodraeth wedi bod mewn cysylltiad ers cryn amser gyda'r llaethdy. Ond mae'n hanfodol ac yn ddyletswydd, byddwn yn awgrymu, ar Sainsbury's i gadw at eu haddewid. Cafodd cynhyrchwyr eu cyfeirio at y llaethdy hwn ganddynt. Nid wyf yn beio Llywodraeth Cymru am hyn. Ond, drwy gyfraniad cynhwysfawr Llywodraeth Cymru, roedd llawer o ffermwyr yn cymryd hynny fel golau gwyrdd, os mynnwch chi, i roi eu cyflenwadau gyda'r llaethdy penodol hwnnw. Ac oherwydd amgylchiadau economaidd, mae nifer ohonynt yn wynebu wythnosau llwm iawn erbyn hyn, gan geisio deall sut y maent yn mynd i lenwi'r llif arian hwnnw. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn teimlo y gall, mewn unrhyw ffordd, ddefnyddio'i chysylltiadau yn Sainsbury's, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gwerthfawrogi ei fod yn benderfyniad masnachol, ond byddai unrhyw weithgaredd a chamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cyflwyno yn cael eu croesawu'n fawr—rwy'n eich sicrhau chi o hynny.
A gaf i hefyd ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog tai, os gwelwch yn dda, mewn cysylltiad â Chartrefi Celestia, sydd i fyny'r ffordd o'r adeilad hwn? Mae llawer o Aelodau wedi cael eu lobïo a'u hysbysu am y sefyllfa fregus iawn y mae'r holl drigolion yn eu cael eu hunain ynddi yn y bloc penodol hwnnw. Mae dros 400 o dai wedi cael gorchymyn atal tân a gyflwynwyd iddynt, ac yn benodol, mae llawer o'r gwaith yn edrych fel pe bai'n is na'r safon pan gafodd ei adeiladu yn 2006-07. Gwerthfawrogaf, unwaith eto, fod hyn ym maes gweithgarwch masnachol a'i fod yn anghydfod rhwng Redrow ac unigolion eraill sy'n ymwneud ag adeiladu'r bloc penodol hwnnw. Ond byddai'n werth chweil pe bai'r Gweinidog yn rhoi datganiad i'r Aelodau fel y gallwn ddeall a yw Llywodraeth Cymru yn gweld bod ganddi rôl o gwbl i fod yn frocer gonest yn yr anghydfod hwn. Ac yn bwysig, gorfodi rheoliadau adeiladu—. Cyfarfûm â thrigolion ddydd Gwener, ac mae'n amlwg bod rhai o'r lluniau a oedd ganddynt yn y cyfnod adeiladu, a'r diffyg goruchwylio o ran gweithredu gwaith plymio, nad oedd mesurau atal tân wedi'u gosod yn gywir—. Ac mae'n anghredadwy meddwl eu bod wedi cael eu cymeradwyo gan swyddogion rheoliadau adeiladu o'r awdurdod lleol. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn—[Torri ar draws.] Dwi'n gallu clywed digon o bobl yn chwerthin. Rwyf wedi adeiladu tri neu bedwar eiddo fy hun, felly rwy'n deall ychydig am reoliadau adeiladu, ac mae'r rheoliadau adeiladu yn caniatáu i berson diduedd ddod i mewn a llofnodi, ar bob cam, fod yr adeilad yn gweithio'n iawn, fel eu bod yn cyrraedd lefel foddhaol. Fel y dywedais, mae mwy na 400 o drigolion, dim ond tafliad carreg i ffwrdd o'r adeilad hwn, sydd ar ben eu tennyn. A byddwn yn ddiolchgar pe byddai modd i'r Gweinidog gyflwyno datganiad, i ddangos a all y Llywodraeth weithredu fel brocer gonest mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn beio'r Llywodraeth o gwbl, ond mae rôl i'r Llywodraeth gynorthwyo, byddwn yn awgrymu, ynghyd â'r awdurdod lleol —yn yr achos hwn, Cyngor Caerdydd.
A'r ail bwynt yr hoffwn ei wneud, os oes modd, os gwelwch yn dda, yw deall pam y rhoddwyd datganiad ddoe ar ffurf ysgrifenedig ar y benthyciad newydd i Faes Awyr Caerdydd. Dim ond tair wythnos yn ôl, codais y mater gyda chi am i'r Gweinidog gyflwyno datganiad ar ôl y dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â chyfraniad parhaus Llywodraeth Cymru. Ac mae cael benthyciad arall wedi'i roi ar y bwrdd, heb archwiliad llafar gan Aelodau yn y Siambr hon, yn wirioneddol amharchus, byddwn i'n awgrymu. Mae hwn yn swm sylweddol o arian, sydd bellach yn fwy na £50 miliwn wedi ei fenthyg i'r maes awyr. A gall y Llywodraeth siarad hyd ddydd y Farn ynglŷn â bod hyn ar delerau masnachol, ac ardrethi; ni ŵyr neb ohonom beth yw'r telerau masnachol hynny oherwydd, bob tro y byddwn yn holi am y meysydd hyn, dywedir wrthym mai cyfrinachedd masnachol yw hyn ac nad oes modd rhyddhau'r wybodaeth honno. Wel, os ydych chi'n teimlo'n ddigon cryf am hyn a'ch bod yn teimlo'n barod i lynu wrtho, dylech allu cymryd cwestiynau yn y Siambr hon. Ac wrth edrych ar yr agenda heddiw, mae mwy na digon o amser ar gael i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad. Felly, byddwn yn ddiolchgar o gael deall pam y cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ac nid datganiad llafar, pan gafodd y swm sylweddol hwn o arian ei roi i'r maes awyr.
Wel, sylwaf, wrth gwrs, eich bod wedi dechrau drwy gysylltu eich hun â'r sylwadau a wnaeth Jenny Rathbone ar Tomlinsons, ac mae'r Gweinidog amgylchedd a materion gwledig wedi cadarnhau bod ei swyddogion yn gwneud llawer iawn o waith i geisio cefnogi'r gweithlu yno, ac i sicrhau—. Rwy'n credu ei fod o gwmpas 40 o ffermwyr yn y gadwyn gyflenwi sydd ar gontractau wedi'u halinio ac sydd yn parhau i aros am daliad gan Sainsbury's. Ac rwy'n gwybod bod swyddogion yn ymwneud i raddau helaeth â chefnogi'r darn penodol hwnnw o waith.
Mae gennym ddatganiad y prynhawn yma ar ddiogelwch adeiladu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae hynny'n benllanw ar rywfaint o'r gwaith a ddechreuodd yn sgil trychineb Grenfell. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n galed iawn gyda phartneriaid ar raglen o ddiogelwch adeiladu er mwyn sicrhau bod y cartrefi yr ydym yn eu hadeiladu o'r newydd, ond hefyd y cartrefi sydd gennym yma yng Nghymru, yn ddiogel. Wrth gwrs, bydd gan Aelodau enghreifftiau penodol o adeiladau y gallai fod ganddynt ddiddordeb ynddynt yn eu hetholaethau eu hunain, a byddwn yn eu hannog i ysgrifennu at y Gweinidog am yr achosion penodol hynny, yn ogystal â gwrando ar yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud ar ddiogelwch adeiladu yn y cylch y prynhawn yma.
Ac, wrth gwrs, mae digon o gyfleoedd i graffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â'r maes awyr. Cyfeiriasoch at yr ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Gofynnodd eich arweinydd gwestiynau am y mater penodol hwn y prynhawn yma yn ystod cwestiynau arweinwyr. Felly, nid yw fel pe na bai'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod ar gael ar gyfer craffu ar y mater hwn neu unrhyw fater arall.
Trefnydd, fel AC yr etholaeth, byddwch yn ymwybodol o'r penderfyniad diweddar gan Lywodraeth y DU i roi caniatâd datblygu ar gyfer 300 gorsaf bŵer llosgi nwy MW ar dir yn Abergelli, i'r gogledd o Abertawe. Nawr, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau polisi dros y misoedd diwethaf sy'n berthnasol i'r cais hwn, dim mwy felly na bod y Senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datgan argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo'n benodol i weithredu traws-lywodraethol ar ddatgarboneiddio i gyrraedd sero net erbyn 2050. Nawr, mae penderfyniad Llywodraeth y DU i roi caniatâd datblygu ar gyfer yr orsaf bŵer nwy yn Abergelli, felly, yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Rydym yn gwybod bod Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud nifer o benderfyniadau seilwaith mawr sydd wedi arwain at leoli llawer iawn o danwydd ffosil ychwanegol yng Nghymru, tra ar yr un pryd yn gwrthod prosiectau ynni adnewyddadwy fel y morlyn llanw Bae Abertawe. Er gwaethaf datblygu polisi sy'n benodol i Gymru yn y cyswllt hwn, mae'r diffyg presennol yn y setliad datganoli'n golygu y gall Llywodraeth y DU blesio ei hun a'n hanwybyddu ni, fel sy'n wir yma yn Abergelli. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y mater bod Llywodraeth y DU yn anwybyddu amcanion Llywodraeth Cymru yn y ffordd hon a sut y mae'n bwriadu herio'r math hwn o ymddygiad wrth symud ymlaen?
Fel y dywed Dai Lloyd, rwy'n gyfarwydd â'r achos penodol sydd ar y gweill drwy fy swyddogaeth yn yr etholaeth, a deallaf fod y cyfleuster ynni a yrrir gan nwy yn gyfleuster a fydd yn ymdrin ag ymchwydd mewn ynni, yn hytrach na bod yn waith ynni llawn amser, fel petai. Byddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog sy'n gyfrifol am ynni roi rhywfaint o ystyriaeth i'r achos penodol hwn, ac archwilio pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod gennym fynediad at ynni dibynadwy ond hefyd gymaint o ynni adnewyddadwy â phosibl.
A gaf i alw am ddatganiad unigol ar blant sy'n cael eu haddysgu gartref? Os caiff plentyn ei arestio ni ellir ei orfodi i roi tystiolaeth. Felly, pan fo plentyn mewn perygl difrifol o gael ei niweidio, mae angen gorchymyn llys os yw'r rhiant yn gwrthod rhoi caniatâd i'r plentyn gael ei gyfweld. Fodd bynnag, codwyd pryder gyda mi y byddai canllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol ar addysg yn y cartref yn golygu bod plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cael eu trin yn llai ffafriol na phlant sy'n troseddu neu blant sydd mewn perygl, dim ond ar sail yr addysg gartref honno, pe bai'r canllawiau'n cael eu gweithredu. Rwyf wedi cael caniatâd i weld cyngor gan CF ym Matrix Chambers, Gray's Inn, sy'n dweud bod y canllawiau drafft ar y strategaeth yn anghyfreithlon, ac rwy'n dosbarthu hwnnw i bob Aelod drwy'r system bost mewnol. Mae'r canllawiau'n egluro mai egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn sy'n llywio'r modd y diogelir hawliau'r plentyn, ond nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn cynnwys nac yn cydnabod y rhwymedigaethau sy'n codi o dan erthygl 14, hawliau a dyletswyddau rhieni, neu erthygl 16, gwahardd ymyrraeth â phreifatrwydd a chartref. Dywed fod y canllawiau'n anghyfreithlon gan awgrymu y gall yr awdurdod lleol fynnu trafodaethau gyda rhieni a/neu blant ac yn anghyfreithlon wrth awgrymu bod gan awdurdod lleol unrhyw swyddogaeth o ran cwestiynu'r dewis sydd gan rieni i'w haddysgu gartref mewn amgylchiadau lle mae hynny wedi ei gytuno a'r addysg yn addas. Ac mae'n dod i'r casgliad, yn gyffredinol, os caiff y materion a nodir eu mabwysiadu yn y canllawiau terfynol ar ôl ymgynghori, y bydd y canllawiau terfynol hynny'n cam-ddatgan neu'n camddeall y gyfraith ac felly'n anghyfreithlon a/neu'n arwain at anghyfreithlondeb gan awdurdodau lleol fydd yn gweithredu yng ngoleuni hynny. Galwaf am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn unol â hynny i sicrhau nad yw materion yn mynd rhagddynt hyd nes y bydd y pryderon cyfreithiol difrifol hyn wedi cael sylw.
Wel, dechreuwyd ymgynghori ar y canllawiau statudol newydd ar addysg yn y cartref ddiwedd Gorffennaf gan ddod i ben ddoe. Ond rwy'n siŵr, os ysgrifennwch at y Gweinidog gyda'r pryderon penodol yr ydych wedi eu codi yn y Siambr y prynhawn yma y byddai'n falch o edrych arnynt fel rhan o'r broses o ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad.
Yn gyntaf oll, Trefnydd, gwerthfawrogaf fod gennym ddatganiad gan y Gweinidog tai y prynhawn yma, a gobeithiaf y bydd yn cael cyfle i fynd i'r afael â'r cwestiynau hynny a godwyd gan Andrew R.T. Davies ynghylch rheoliadau adeiladu—cyfrifoldeb yr adeiladwr yn bennaf wrth gwrs, ond hefyd mae cwestiwn i'r awdurdodau lleol fod yn agored i niwed ar eu harolygiaethau adeiladu. Mae yna broblem, wrth gwrs, fod achosion o dorri rheoliadau adeiladu yn peidio â bod yn weithredol ar ôl cyfnod penodol o amser, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai o leiaf wneud rhai sylwadau rhagarweiniol ar hynny.
Yr ail—cododd Mark Reckless y pwynt hwn yn gynharach—clywsom yn ddiweddar, yr wythnos hon, gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol gyda'r adroddiad 'Addysg yn addas i'r Dyfodol', ac wrth gwrs, soniodd y Prif Weinidog am adroddiad y Senedd Ieuenctid ar sgiliau bywyd. O gofio bod gennym Fil drafft ar fin cael ei gyflwyno nawr ar y cwricwlwm a hefyd ganlyniadau PISA erbyn diwedd y flwyddyn, tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog Addysg, a eglurodd ei bod yn gweld y Senedd Ieuenctid a Chomisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol yr wythnos hon, gyflwyno ymateb brys i'r ddau adroddiad hynny, a fydd yn ein helpu i graffu ar ei chynlluniau yn y flwyddyn newydd. Diolch.
Mae diogelwch adeiladau yn sicr yn faes cymhleth iawn. Rwy'n credu ein bod eisoes wedi clywed hynny'n glir yn y cyfraniadau gennych chi ac Andrew R.T. Davies. Mae llawer iawn o bartneriaid sydd â gwahanol gyfrifoldebau, a chredaf fod hynny'n un o'r pethau y mae'r Gweinidog wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag ef o ran cael golwg fwy cydlynol ar ddiogelwch adeiladau, ac wrth gwrs byddwn yn clywed mwy am hynny'r prynhawn yma. Ond, eto, os oes achosion penodol, efallai y byddai llythyr at y Gweinidog yn ddefnyddiol iawn o ran nodi pryderon penodol.
Ac mae'r Gweinidog Addysg, wrth gwrs, yma i glywed eich cais am ddatganiad neu ryw ymateb arall i'r adroddiadau a'r syniadau diweddar sydd wedi cael eu cyflwyno i ni.
Trefnydd, yn ddiweddar, cynhaliais noson gwis elusennol—yn gwisgo un o'm hetiau eraill—i godi arian ar gyfer ymchwil i ganser yr ofari yng Nghymru. Digwyddodd hyn ar ôl achos etholaeth, etholwr y bu farw ei wraig ar yr union ddiwrnod yr oedd i fod dechrau triniaeth ar gyfer canser. Roedd eisoes yng Nghyfnod 4, oherwydd sawl camddiagnosis yn gynharach yng nghyfnodau canser, dros fisoedd lawer. Cefais gyfarfod â'm hetholwr gyda'm cydweithiwr Angela Burns hefyd. Cafodd ddiagnosis anghywir ar adegau amrywiol gyda syndrom coluddyn llidus, cyflyrau eraill. Y pwynt a wnaeth fy etholwr oedd bod hwn yn ganser eithriadol o anodd ei ddiagnosio—un o'r rhai anoddaf, mi gredaf, gan ei fod yn ffugio cynifer o gyflyrau eraill gwahanol yn gynharach yn y cylch. Mae fy etholwr yn galw am fwy o ymchwil, mwy o fuddsoddi, i ffyrdd gwell o gael diagnosis o hyn. Felly tybed a oes modd cael datganiad gan Lywodraeth Cymru ar ymdrechion Llywodraeth Cymru, gyda'r GIG, i geisio gwella'r diagnosis o ganser yr ofari. A hefyd a allech ddweud wrthym pa gefnogaeth yr ydych yn ei rhoi i ddioddefwyr y cyflwr hwn a hefyd i'r teuluoedd, oherwydd mae'n glefyd creulon iawn sy'n cymryd pobl, a hynny'n aml yn ifanc a heb fawr o rybudd, yn sicr yn yr achos hwn. Yn bendant, aeth fy nghalon allan at yr etholwr hwn. Felly, tybed a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Llywodraeth am yr hyn y gellir ei wneud yn y maes hwn?
Diolch i chi, Nick Ramsay. Roedd y Gweinidog iechyd yma yn gwrando ar yr hyn oedd gennych i'w ddweud, a byddai'n fwy na pharod i ysgrifennu at bob Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y maes penodol hwn.
Mae gennyf gais am ddatganiad a dadl. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar adeiladau a restrir gan Cadw. Yn Nwyrain Abertawe, sydd ddim yn anarferol, mae gennym adeiladau rhestredig mewn gwahanol raddau o ddadfeilio, sydd mewn perchnogaeth breifat ond heb eu meddiannu, megis Tŷ Danbert, sy'n troi'n adfail, Eglwys Sant Ioan ar Stryd Woodfield, lle mae llystyfiant yn tyfu allan ohoni, a hen ysgol Manselton, sy'n wag ar hyn o bryd. Mae'r rhain yn peri pryder difrifol i'm hetholwyr ac i mi.
Hoffwn hefyd ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth, a noddir gan y Llywodraeth, ar bolisi economaidd rhanbarthol, gan nodi cefnogaeth i bedwar rhanbarth Cymru a sut y gellir rhannu cyfoeth yn fwy cyfartal yng Nghymru nag y mae ar hyn o bryd, a sut y gall prifysgolion, er enghraifft, weithredu fel sbardunau economaidd rhanbarthol. Oherwydd mae pryderon difrifol mewn rhai rhannau o Gymru—rwyf i'n siarad ar ran Abertawe a'r Gorllewin, ond rwy'n siŵr y byddai rhai pobl o'r Gogledd a'r Canolbarth yn dweud yr un peth— nad yw cyfoeth yn cael ei rannu'n gyfartal ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Yn sicr, rydych chi wedi mynegi rhai o'r pryderon a fynegwyd gan Weinidog yr economi hefyd, o ran sicrhau bod y cyfoeth a'r cyfleoedd yno i dyfu ledled Cymru a sicrhau bod pob rhan o Gymru'n gallu ffynnu. Rwy'n gwybod y bydd yn ystyried pryd fydd y cyfle gorau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr am ei ddull if o weithredu polisi economaidd rhanbarthol.
Diolch i'r Trefnydd.